Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
ARDALYDD SALISBURY A MR. B…
ARDALYDD SALISBURY A MR. B RA-DLA-U, G.H. Yn Llundain, ddydd Mercher, terfynwyd y cyngaws a ddygid gan Ardalydd Salisbury yn erbyn Mr. Bradlaugh, A.S., am gabldraeth, pryd y dyfarnwyd i'r diffynydd dalu iawn 0 ^300.
] rtGIOF O'R WASG GYM, REIG.…
] rtGIOF O'R WASG GYM, REIG. [0A.U VEBITAS.] Y METHODISTIAID CALFINAIDD A IVIE. SPURGEON. (Seren Cymrt, Ebiill 13eg.) Deallwn i Fethodistiaid Brycheiniog anfon cenadwri at Mr. Spurgeon yn oydymdeimlo ag ef yn ei safiad dewr dros wirionedd efengylaidd, ao iddynt dderbyn yr ateb caulynol Flodyr,c-Bendithiaf chwi a'm holl galon. Yr ydym yn un yn athraw- iaethau mawr gras, ac yn yr Hwn a'u dadguddia ac a'u harddangosa. Caf fy nghysuro, ac y mae arnaf eisiau cysur. Mae yr ymladdfa yn galed, ac yr ydwyf wedi cael fy nghlwyfo. Ni welaf chwaith ar- wydd 0 fuddugoliaeth, ond y mae yr Arglwydd yn fyw, ae nis gall ei wirionedd farw. Erfyniaf eich taer weddiau. Pan y clywaf fod Cymru yn rhydd oddiwrth yr ysgol newydd, dechreuaf ddymuno bod yn Gymro fy hun; ond ofnaf y daw eich tro chwithau, oherwydd natur ddynol a red ar ol teganau newyddion. Dalied yr Arglwydd ni a'n heglwysi yn sefydlog. Yr eiddoch yn ddiolchgar iawn, C. H. SPURGEON." Gallwn roddi Amen galonog braidd i bob gair yn y;llythyr hwn,ynneillduol y brawddegau blaenaf ac olaf, ac felly y gall Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr. Pell ydym 0 ameu hawl ein brodyr Methodistaidd i ddangos ein cydymdeimlad a Mr. Spurgeon, a phellach fyth ydym 0 ameu cywirdeb eu cymhellion ond yn sicr, 0 dan yr amgylchiadau fel enwad arall, amheuwn eu doethineb, oherwydd nid ymladd a wna Mr. Spurgeon a Phabyddion, neu ryw blaid hereticaidd, ond a'i enwad mabwysiedig ei hun, gyda yr hwn y mae wedi cydweithredu yn heddychol a llwyddianua dros dymor goreu ei einioes, a'r enwad hwnw mor deyrngarol i wirionedd efengylaidd ac athrawiaethau gras ag y bu erioed, ac ag yw Mr. Spurgeon. Nid yw Calfiniaeth yn ddim heb gariad. Felly, gyda'n holl barch i'n brodyr Methodistaidd yn Brycheiniog, a phob man arail, dywedwn yn ostyngedig y byddai yn gystal iddynt 0 dan yr amgylchiadau i gadw eu cydym- .Y deimlad iddynt eu hunain, a gadael rhwng gwyr Pentyrch a'u gilydd, oherwydd amheus yw genym a ydynt hwy mor rhydd y funyd yma oddiwrth yr Ysgol Newydd ag ydyw enwad y Bedyddwyr hyd yn nod yn Lloegr. YR ANNIBYNWYR A'R METHODISTIAID. (" Lladmerydd" yn y Tyst, Ebrill 13eg.) Yr oedd yn ddrwg iawn genyf weled yn un 0 bapyrau Caerfyrddin, a anfonwyd i mi gan ryw gyfaill, am y gwaradwydd yn Hermon, Conwil. Nid wyf am gynyg rhoddi barn ar yr amgylchiadau, oblegid ni wn ddim am danynt, ond yn sior dylesid eu terfynu heb y fath afreolaeth a therfysg ac heb wysio eu gilydd i lys barn, ac yno dyngu y naill yn erbyn y llall. Adwaenwn bobl Hermon gynt, a threuliodd fy hen gyfaill Mr. Evans dymor hir yn heddychol gyda hwy ond y mae oes arall wedi codi ar ol y rhai a adwaenwn ni. Nid oes dim mor sicr o ddwyn Annibyniaeth i warth a'r fath derfysg ao nid Annibyniaeth yn unig, ond y mae crefydd yn cael ei darostwng trwy y fath ymddygiadau. Mae arnaf ofn fod 0 leiaf rai ymysg yr enwadau Ym- neillduol nad ydynt uwchlaw mwynhau pethau o'r fath. Yn y Goleuad am yr wythnos hon gwelaf fod Mr. H. Jones, brawd Dr. Harris Jones, yn Nghyfar- fod Misol Closygraig, wrth roddi adroddiad o'r achos yn y lie, cyn y diwedd wedi cyfeirio at yr helynt blin yma. Fel hyn y dywed Fel y gwyddoch, mae llawer iawn 0 ymrafaelion wedi cymeryd lie mewn eglwys Annibynol heb fod ymhell oddiyma, ond nid oes hawl gan neb i ymyraeth a hwy, ac yr oeddem yn dywedyd wrth y cyfeillion yma bod yn dda mai Methodistiaid ydym, er fod ymrafaelion yn yr eglwysi, ond nid i'r eithafion yna. Pe byddem ni yn debyg i'r eglwys rhag.ddywededig, daethai yr hen Shon Coiff yma, ac fe'n cloiai ni maes bob un, ac ni chawsai un enaid byw fyned 'nol ond ar dir edifeirwch." Ni buaswn yn gwneyd sylw o'r ym- adroddion uchod, oni buasai iddynt gael eu traethu meivn Cyfarfod Misol, a'u cyhoeddi mewn rhyw ystyr 0 da.n ei nawdd. Ni fyddaf byth y dal enwad o bobl yn gyfrifol am rywbeth a ddywedir gan berson unigol ond pan y mae sylw o'r fath yn myned allan â sêl adran o'r enwad wrtho, y maent mewn rhyw ystyr yn d'od yn gyfrifol am dano. Nid wyf yn gweled fod dim yn galw am i Mr. H. Jones gyfeirio at y digwyddiad blin 0 gwbl; llawer llai i awgrymu mai i ryw ddiSyg yn Annibyniaeth fel trefniant y mae hyn i'w briodoli; a bod mewn Methodistiaeth ddarpariaeth i ddiogelu rhag hyn oil. Nid oes unrhyw ffurflywodraeth a all ddiogelu na ddigwydda pethau o'r fath o dan am- gylchiadau eithriadol; ao nid yw Annibyniaeth mewn un modd yn gyfrifol am y oamarferiad 0 hono a wneir weithiau gan ddynion afreolus a diddeddf, o dan gynyrfiadau nwydau drwg. Nid yw Methodistiaeth mor llwyddianus ag yr awgrymir uchod i derfynu yn ddidraff erth ymrafaelion eg- lwysig. Nid teg hwyrach rhoddi sen am sen," ond gallwn gyfeirio at fwy nag unengraiflt y methodd y Cyfarfod Misol na'r Gymdeithasfa derfynu cwerylon heb i'r pleidiau ymranu i gapeli gwahanol. Mae engraifft o*hyny yn awr yn Sir Gaernarfon, lie y mae eglwys wedi ei hir gythruddo gan ymrafaelion; l ac os nad aeth pethau mor eithafol o waradwyddus ag yn Hermon, yr oedd yr ysbryd yn llawn mor ddialgar. Methodd dirprwyaeth arol dirprwyaeth o'r Cyfarfod Misol a'r Gvmdeithasfa a therfynu yr ymryson; a'r diwedd fu iddynt ymranu i bebyll gwahanol. Nid ydwyf yn beio Methodistiaeth fel trefniant eglwysig am hyny; ao nxd wyf yn ameu na wnaethant y peth goreu 0 dan yr amgylchiadau. Nid Annibyniaeth ychwaith sydd yn gyfnfcl am yr afreolaeth mawr a welir weithiau mewn eglwysi sydd heb ddigon 0 synwyr na gras i lywodraethu eu hunain. Nid yn y trefniant y mae y diffyg, ond yn y dynion sydd yn ei gario allan; ac o'm rhan i yr wyf yn hollol foddlon i Fethodistiaeth, neu ryw ffurf eglwysig arall llawer caethach, i gael yr holl afraolus sydd yn ein heglwysi, y rhai na fynant ym- ostwng yn dawel i farn mwyafrif yr eglwys wedi pleidlais deg mewn cynulleidfa gyfreithlon. Os nad oes gan gyfundeb Sir Gaerfyrddin, nao unrhyw eglwys gymydogaethol hawl i ymyraeth yn y oweryl, oni elwir arnynt gan yr eglwys i hyny eto y mae ganddynt hwy, a chenyf fi, a chan unrhyw un hawl i ddatgan eu hanghymeradwyaeth hollol o'r fath ymddygiad gwarthus, ao i dynu oddiwrth bawb sydd yn rhodio yn afreolus. IAITH WARADWYDDUS. (" Nyth yr Eryr yn y Faner, Ebrill lleg.) Yr ydwyf yn methu yn fy myw a gwybod i ba adiben y mae Ty yr Arglwyddi yn bodoli. Credwyf mai dyma'r Ty mwyaf diles 0 fewn gororau Prydain Fawr. Gwleidyddwyr braf ydyw llawer 0 honynt mewn gwirionedd Gwyr epa lawn cymaint am wisgoedd trigolion Jupiter ag a wyr rhai o'r bodau yma am wleidyddiaeth. Hysbys ydyw fod rhai o'r dosbarth y soniwn am danynt gyda'r cymeriadau gwaelaf sydd yn y deyrnas. Y mae llawer o honynt yn ddisgynyddion o'r hen ormeswyr creulonaf a yfodd frandi erioed. A'r gwaethaf y modd, nid yw llawer 0 honynt hwy fymryn gwell na'u hynafiaid. Pe cawsai dosbarth neillduol 0 honynt eu fiordd, cawsai tanau Smithfield eu cyneu cyn pen pedair awr ar hugain, a gwelid y fflamau fel cynifer 0 dafodau ellyllon yn dyrohafu tua'r nen-cawsai llwch y merthyron, naill ai eu ohwythu ymaith gan y corwynt, neu ynte eu taflu i ymgymysgu a dyfroedd yr afon Thames. Pe cawsai rhai o honynt hwy eu hewyllys, buasem heddyw yn nghrafangau tynion hen gaethiwed yr oesau; yn ymyl pa un ni buasai y Caethiwed Babilonaidd ond edlych di-olwg. Pe buasai milgwn a bytheiaid yn anfon deiseb atynt am ffafrau, cawsent eu dymuniad ar unwaith ond pe buasai dynion yn gwneyd y fath apeliad, cawsai fyned yn aberth i'r elfen danllyd cyn y buasai y Mn yn ehedeg dros y ty. Ac os bydd rhyw hen ddar- llawydd enwog, wedi darllaw afonydd 0 gwrw, a llynoedd 0 borter, a llwyddo i feddwi penbyliaid, nes llanw carcharau, lliosogi gwallgofiaid, a gosod mil- oedd i orwedd mewn beddau anamserol, caiff ei anrhydeddu a'r teitl o arglwydd am ei orchest- gampau dyngarol (?)! Diddymer Ty yr Arglwyddi yn hollol I-Nid oes ei eisiau :—Na adawer gymaint a ohareg ar ol; a c yna caiff oerbyd diwygiad chwareu teg i redeg yn y blaen. A chyda golwg ar yr hen fenywod sydd yno yn eu crysau gwynion (yr esgobion), y mae yn llawer rheitiach iddynt aros gartref i ofalu am yr ychydig braidd sydd dan eu gofal. (Dywedir mai un a eilw ei hun yn weinidog yr lIefengyI a ysgrifenodd y geiriau uohod,—VEBITAS.] MR. DAVID PUGH, A.S. (Gohebydd y Celt, Ebrill 30ain.) Cefais y fraint 0 dramwy drwy etholaeth Mr. David Pugh, yr A.S. dros ran uchaf sir Gaerfyrddin. Gwlanen o hen wr dros bedwar ugain oed yw Mr. Pugh. Gwelodd waethaf danedd Eglwyswyr Llan. dilo pan yr etholwyd ef yn lie Syr Martin Lloyd-a gwelodd oreu yr Ymneillduwyr, a dyna wnaeth Mr. David Pugh mewn ffordd 0 daiu diolch i Ymneilldu- wyr tref Llandilo oedd rhoddi cloc ar dwr yr eglwys, a rhoddi costau cynhaliaeth y creadur ar gefn y trethdalwyr. Noble yw marwor tanllyd ar ben gelyn, ond rhy ddrwgnoddi gelyn ar draul bradychu cyfeillion. Beth ddaeth 0 hen frwydr y cloc ? Rhwng y cloc a hi. Y mae mater arall yn codi ynglyn a hyn, a dyma fe pwy yw y coming man yn lie Mr. Pugh ? Mae Mr. David Pugh yn ardderohog fel magwr shorthorns, ond nid yw natur wedi or. deinio erioed iddo wneyd hafoo yn y Senedd, felly y ffordd oreu fydd gollwng yr hen aelod oedranus i fyned i fyd y shorthorns yn ei ol gan adael cynrych. iolaeth sir Gaerfyrddin yn Haw rhyw Gymro ieuanc. MR. CHAMBERLAIN A'R UNDEBWYR. (Y Faner, Ebrill lleg.) Bu adeg pan y oredai llawer, fel ninau, y gellid oyfanu y rhwyg annedwydd a wnaed yn y blaid Byddfrydig gan fesurau Mr. Gladstone ar Ymreol- aeth i'r Iwerddon. Ond erbyn heddyw, y m&e yn ymddangos fod pob gobaith am hyny yn mron wedi diflanu. Ac ar y gwr y buom ni, fel eraill, yn dis- gwyl cymaint oddiwrtho yr ydys i osod rhan fawr, os nad y rhan fwyaf, o'r oyfrifoldeb am hyny. Addefwn na buom yn disgwyl llawer erioed oddiwrth ryddfrydigrwydd Ardalydd Hartington, Syr Henry James, Mr. Goschen, ac amryw eraill a berthynent gynt i'r blaid Ryddfrydig, ac a arddelant fath 0 berthynas a hi eto; ond yr ydym yn addef i ni gam- gymeryd ya ddirfawr gyda golwg ar Mr. Chamber- lain. Disgwyliasom lawer oddiwrth ei alluoedd disglaer, a chredasom ei fod yn wr flyddlawn i'w egwyddorion, ao y byddai iddo fod yn foddion, gydag eraill o'n harweinwyr, i waredu trigolion y wlad hon oddiwrth lawer o'u gofidiau. Ond ymddengys fod pob gobaith am hyny wedi, neu ar dclarfod gan ei fod fel yn mynu symud yn mhellach, bellach oddi- wrth y blaid y bu efe ar un adeg yn un o'i phrif addurniadau.
AGORIAD EGLWYS NEWYDD ST.…
AGORIAD EGLWYS NEWYDD ST. MIHANGEL Y VALLEY, MON. Dydd Iau, y 5ed o'r mis hwn, yr oedd ardal y Valley yn gyrchfa pobloedd o bob cyfeiriad o'r ynys, a phawb yn cyfeirio eu camrau gyda brys i siorhau eisteddle yn yr eglwys newydd ag oedd i gael ei hagor y dydd hwnw. Er mwyn y rhai sydd yn ddieithr i hanes a gwaith yr Eglwys yn mhlwyf Llanynghenedl (ymha un y mae y Valley yn sefyll) a Llanfachreth yn ystod y pymtheng mlynedd di- weddaf, rhoddtff ychydig 0 fanylion yn y fan hon. Penodwyd y Rheithor presenol i fywoliaeth Llan- faohreth a Llanynghenedl yn y flwyddyn 1873. Yr oedd gwasanaethau dwyfol wedi bod yn cael eu cynal yn y Valley yn yr yscafell, ymha un y mae yr ynadon yn cynal eu oyfarfodydd misol-yr hon sydd ystafell yngtyn a'r Valley Hotel; am amryw flynyddau cyn dyfodiad y Rheithor presenol i'r plwyf. Yn Ebrill, 1872, cynhaliwyd cyfarfod 0 dan lywyddiad y diweddar Archddiacon Wynne-Jones, i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb 0 adeiladu eglwys genhadol yn y Valley i ateb dau ddiben, sef i gynal ysgol ddyddiol yn yr wythnos, ao i gynal gwasan- aethau dwyfol ar y Sul. JPenderfynwyd codi adeilad, a ohafwyd tir gan y diweddar Syr Richard Bulkeley i'r pwrpas. Y flwyddyn ddilynol gosodwyd y gareg sylfaen i lawr, ond oherwydd rhyw resymau neu gilydd ni wnaethpwyd dim yn rhagor. Addolwyd 0 hyny hyd yn awr yn yr yatafell a nodwyd, yr hon a roddwyd yn rhad ynghyd & than a goleuni, gan y diweddar Mrs. Ellis, Valley Hotel, ac wedi ei marwolaeth parhaodd Mrs. Pierce, ei merch, i wneuthur yr un modd. Wedi i'r cynllun 0 godi adeilad yn y Valley syrthio i'r llawr gwelodd y rheithor newydd (y pryd hyny) y Paroh. H. Grey Edwards, mai adeiladu y ddwy eglwys blwyfol, y rhai oeddynt bron yn adfeil- ioji, oedd y gwaith mwyaf rbeidiol i ymaflyd ynddo yn gyntaf. Ac felly dechreuodd trwy gasglu arian i ail-adeiladu eglwys blwyfol Llanfachreth, yr hon a gostiodd oddeutu zCl,000, ac a gwblhawyd ymhen rhyw dair neu bedair blynedd ar ol dyfodiad y rheithor i'r plwyf. Gyda bod eglwys Llanfachreth iledi ei chwblhau dechreuwyd ar eglwys Llan- ynghenedl, yr hon oedd yn hen iawn, ac am hyny yn hollol anghysurus i addoli ynddi. Costiodd hon oddeutu £600. Yn fuan ar ol cwblhau y ddwy eglwys blwyfol galwyd cyfarfod 0 Eglwyswyr Valley i gymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o ail ymaflyd yn y gwaith 0 adeiladu eglwys newydd yn y Valley. Ail ddechreu- wyd 0 ddifrif yn mis Medi, 1883, pryd y ffurfiwyd pwyllgor ac y dewiswyd swyddogion i gario allan y penderfyniadau. Buwyd yn gweithio yn raddol ond yn ddiwyd 0 hyny hyd yn awr, ac erbyn hyn y mae Eglwyswyr y Valley yn feddianol ar eglwys newydd hardd, ac un o'r rhai harddaf o'i mhaint yn yr holl esgobaeth. Dydd Iau, y 5ed, oeddydyddabenderfynwyd arno i fod yn ddydd agoriadol. Am 9.30 yn y boreu, gweinyddwyd y Cymu Bendigaid gan yr Esgob, yn cael ei gynorthwyo gan y Rheithor. Am 11, gwas- anaeth Cymraeg a phregeth Saesneg gan yr Esgob. Am 3 yn y prydnawn, gwasanaeth y Litani, a phregeth gan y Parch. D. Jones, Niwbwrch. Am haner awr wedi chwech, gwasanaeth a phregeth gan y Parch. W. R. Thomas, Abersychan. Nos Wener, am haner awr wedi chwech, gwasanaeth a phregeth gan y Parch. T. E. Jones, Bangor. Nos Sadwrn, gwasanaeth a phregeth gan y Parch. E. Davies, Bryngwran. Dydd Sul, yr Sfed, gwasanaeth a phregeth Gymraeg am ddeg yn y boreu, gwasanaeth a phregeth Saesneg am 3 yn y prydnawn, gwasan- aeth a phregeth Gymraeg yn yr hwyr y pregethwr oedd y Parch. W. R. Thomas, Abersychan. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lliosog iawn, yn enwedig dydd Iau a dydd Sul. Yr oedd lliaws 0 glerigwyr eraill yn bresenol yn ystod yr holl wasanaethau. Mae'r adeilad wedi ei wneuthur ar ffurf croes, ac yn cynwys eisteddleodd i naw ugain 0 bobl, ac yn werth uwchlaw £ 1,400, rhwng y costau 0 walio'r tir, &c. Rhoddwyd y tir yn rhad gan Syr Richard Bulkeley, Baron HilI, Beaumaris, sef haner acer ar gyfer yr Eglwys, ac yn agos i dri-chwarter acer yn rhagor i godi persondy. Y prif danysgrifiwr ydyw Arglwydd Stanley, yr hwn sydd wedi rhoddi y ffenestri, yr oil o wydrau Iliwiedig, y fedyddfaen (alabaster), gwerth J625, pwlpud derw cerfiedig, gwerth £60, heating apparatus, marble i lawr y gangell, bwrdd y cymundeb, a lliaws 0 bethau eraill. Mae rhoddion ei arglwyddiaeth yn werth uwchlaw 1400. Cyfanswm yr arian a gasglwyd, ar wahan i roddion Arglwydd Stanley, ydyw £880, yr hwn swm a gyfranwyd gan yn agos i fil o danysgrifwyr yn amryw mewn symiau 0 geiniog i haner can' punt. Fel rhai a lafuriasant i gasglu yr arian dylid enwi Miss Rowlands, Valley Hotel, Mrs. Edwards, a'r Parch. R. Jones. Dylaswn ddweyd fod yr eistedd- leoedd o dderw, ac o'r gwneuthuriad goreu. Mae'r tir wedi ei gyflwyno i bump a bersonau, sef yr Esgob, y Rheithor, Arglwydd Stanley, Syr Richard Bulkeley, a Col. Hampton Lewis. Chwareuwyd yr American organ yn y gwasan- aethau ddydd Iau gan Miss Edwards, a'r nosweithiau a'r Sul canlynol gan Miss Lloyd, yr hon sydd yn arfer chwareu yr harmonium yma yn y gwasanaethau er's amser maith. Canwyd dwy anthem, sef Molwch yr Arglwydd," a Mor weddaidd ar y mynyddoedd." Swm y oasgliadau a wnaethpwyd ddydd lau oedd £17 13s. 7c.
LLITH O'R BWIHYN GWLEDIG.
LLITH O'R BWIHYN GWLEDIG. Bum i, di'r help, ar daith trwy sir Gaerfyrddin yr wythnos ddiweddaf, a chlywais lawer o bethau. Y mae chwant arnaf adrodd rhai 0 honynt. ABEBGWILI. Clywais fod Capel y Groes yn y plwyf hwn i gael ei agor yn fuan. Dywedir fod angen mawr am adeilad Eglwysig yn y fan hon, a bod swn tyrfa fawr yn dychwelyd o gorlanau Ymneillduol iddo. Nid rhyfedd. Y mae gwedd druenus ar yr afradloniaid yn y wlad bell" y dyddiau presenol. ST. PETE, CAERFYRDDIN. Y mae llwyddiant mawr yn dilyn gweinidogaeth y Parch. A. G. Edwards yn y plwyf hwn. Sonir am adeiladu eglwys Gymraeg yma. Mae yr hen deml yn orlawn 0 Saeson bob Sul, ac y mae ganddynt barch gwirioneddol i'r ficer. Nis gwn am ddim yn fwy gwerthfawr na synwyr cyffredin cryf, ac y mae digon 0 hono gan y Parch. A. G. Edwards. Buasai llawer un yn ymgodi yn uchel iawn, a'i wedd hun- anol yn annioddefol, pe buasai yn cael ei wneyd yn gaplan i'r Esgob, yn ddeon gwladol, ac yn ficer plwyf pwysig mor ieuanc; ond chwareu teg i Ficer St. Petr, y mae mor hunanymwadol ag y gall fod. Y mae rhywbeth yn ymarferol iawn yn ei symudiad- au. LLANGUNNOR. Telais ymweliad a'r eglwys hon ar noson yn yr wythnos yohydig amser yn ol, ao yr oedd yno was- anaeth. Er fod yr hin yn oer ofnadwy, yr oedd yr eglwys mor gynes â pharlwr Hen Domos. Yr oedd yno gynulleidfa fawr a pharohus, a phob peth mor weddaidd a threfnus fel yr oedd yn hyfrydwch bod yn bresenol. Trwy lafur diflino Miss Laura Jones, Fioerdy, i gasglu tuag at y draul, codwyd vestry-room newydd yno yn ddiweddar. Chwareuid yr harmonium gan Miss Jones, Ficerdy, ac yr oedd y canu yn hwyl- us iawn. CYDWELY. Mae y Parch. D. Dafen Jones, B.A., wedi cael ei osod mewn meddiant o'r fywoliaeth hon, ac wedi cael yr hyfrydwch 0 orphen y gwaith a adawyd ar ei haner gan y Parch. W. H. Sinnett, M.A. Trueni na buasai yr olaf yn aros yn y lie hyd nes y buasai wedi rhoddi yr hen deml mewn trefn a chodi Fioer- dy newydd. Ond, feallai, mai nid mewn adeiladu y mae chwaeth a nerth y gwr bach. Pob llwyddiant i'r Parch. D. D. Jones i wneyd trefn ar y lie. Y mae digon 0 waith o'i flaen. IILANDTFEILOG. Mae y Parch. John Herbert, B.A., yn codi Person- dy yn y plwyf hwn. Y mae efe yn wr ieuano gweithgar iawn, ao wedi gwneyd llawer 0 les i'r Eg. lwys yn barod. LLANGYNDEYBN. Y mae y Parch. D. Jones, ficer y lie hwn, wedi gwasanaethu y lie hwn er y flwyddyn 1868. Yn ystod y tymor maith hwno ugain mlynedd, y mae wedi bod wrth ei waith yn ddistaw a diwyd, ac wedi codi dau ysgoldy, persondy newydd, ao adgyweirio yr eglwys yn drwyadl bob darn 0 honi. Y mae yn ddyn 0 rodiad diargyhoedd, yn bregethwr da a ohymeradwy, ac fel y dywed y Sais yn well read man. Ond er y cwbl nid yw wedi cael gair 0 gefn- ogaefch gan neb erioed, na chynyg ar ur> wobr am ei waith. Beth yw y rheswm 0 hyn ? Y mae bai cywilyddus yn rhywle. Pan fyddo hogiau dibrofiad yn cael eu llongyfarch ar eu dyrchafiad i blwyfi a bywoliaethau breision, ac yn cael gwenau a ffafrau urddasolion yr Eglwys, ond priodol y gofyniad, Pwy a bechodd ? ai hwn ai ei rieni," fel y mae yn cael aros yn Llangyndeyrn ? Di'r anwyl I nid yw haner y crytiaid sydd wedi cael gofal plwyfi a chyf- logau mawrion yn deilwng i ddatod carai esgid Ficer Llangyndeyrn, ao eto hwy sydd yn ddynion pwysig i'r pen. Bah! Chwi gewch glywed oddiwrthyf fi yn awr ac yn Y man. Y mae ffon fawr gan Hen Domos, ao i lawr y daw hi ar ben y sawl fyddo yn camymddwyn. Ebrill 16eg. HEN DOMOS.
EGLWYS GYMRAEG CAEBDYDD.
EGLWYS GYMRAEG CAEBDYDD. Dydd Llun, cynhaliwyd cyfarfod gan bwyllgof yr eglwys uchod yn Neuadd y Dref dan lywydd- iaeth Arglwydd Esgob Llandaf, pryd y penodwyd nifer 0 foneddigion yn is.bwyllgor i ddewis tir i adeiladu eglwys newydd.
Y DIWEDDAR -ARGLWYDD BEACONSFIELD.
Y DIWEDDAR ARGLWYDD BEACONSFIELD. Dydd Iau ydoedd y seithfed wyl goffadwriaethol flynyddol y diweddar Arglwydd Beaconsfield, ac ymhob parth o'r Deyrnas Gyfunol arddangosid parch neillduol i goffadwriaeth y gwladweinydd enwog, a gwisgai y mwyafrif lriallu, blodeuyn yr ydoedd y diweddar Iarll yn hynod hoff 0 hono.
IECHYD Y.MERAWI)WR GERMANI,
IECHYD Y.MERAWI)WR GERMANI, Yn ol y newyddion a dderbyniwyd boreu heddyw 0 Berlin, mae sefyllfa yr Ymeradwr yn beryglus, ac ofnir nas gall fyw ond ychydig ddyddiau. Mae yr holl deulu Ymerodrol wedi eu galw i'r palas, gan fod yr anhwyldeb wedi gwaeth- yguynfawr.
ÆarcJJnabOtbb.
ÆarcJJnabOtbb. GWRECSAM, DYDD IAU.—Gwenith, 5s 00 i 5s 60 am 75 o bwysati; haidd, 5B 30 i 5a 80; ceirch, 3a 30 i 3s 9C; ymenyn ffres, Is 4c i IB 60 y pwys; ymenyn hallt, 10s 1 Is 2c y pwys; cig eidion, 0s 7c i 0s 9c y pwys- cig myharen, 0s 7c 1 0s 10c y pwys; cig Ho, Os 8c i OsWy pwys; pore, Os 8c i Os 9c y pwys wyan, 12 am Is pytatws newydd, 5s i 5s 6c am 120 pwys ieir, 3s 60 i 4s 6c y ewpl cwningod, 2s 8e i 3s Oc y ewpl; hwyaid, 5s 00 i 6s Oc y cwpl; na, 5s 6c i 8s 8c, CAERLLEON, DYDD SADWRN.—Gwenith gwyn, 4s 9o i 4s lie; melyn, 4s 8c am 75 pwys; haidd at fragn, 3s 10c i 4s Oc; at falu, 3s 3o am 64 pwys ceirch, 2s 2c i 2a 60 am 46 pwys ffa, 5s 4c am 80 pwys. AMWYTHIG, DYDD SADWRN-Gwenith gwyn, 4s 80 i 4s 10c; gwenith melyn, 4s 40 i 4s 80 am 75 pwys; haidd (at besgi) 3s 9c i 4s 00 am 70 pwys; ceirch gwyn, 12e 00 i 13s Oc am 225 pwys ceirch du, lis 60 i 12s 6c; pys, 12s Oc i 13s 00 am 225 pwys ffa, 16s Oc i 17s Oo am 240 pwys. LERPWL, DYDD LLUN.—Cig eidion, 4io i 7c y pwys; cig myharen, 6c i 7ie y pwys; cigoen, 6c i Ho ypwys. Yr oedd yn y farchnad 1,128 o anifeiliaid, a 2,798 o ddefaid. Daeth o'r Iwerddon yr wythnos ddi- weddaf :-15,094 0 anifeiliaid, a 2,698 0 ddefaid. O'r America, 1,228 0 anifeiliaid, 60 o ddefaid, a 4,789 0 chwarteri 0 gig eidion. Yr anifeiliaid goren yngwerthn 6io i 6ie y pwys; defaid, 6!e i 8io y pwys. LLUNDAIN, DYDD LLTJN.—Daeth yr hyn a ganlyn if own i'r brifddinas yr wythnc 3 ddiweddafGwenith, 4,095 0 chwarteri; haidd, 1,230 o chwarteri; ceirch, 765 o chwarteri; br&g, 17,677; ffa, 411; pys, 206 blawd, 11,100 o sachau. Hefyd o wledydd tramor:- Gwenith, 40,823; haidd, 1,722; ceirch, 33,188; blawd, 46,727 o Bachau, a 00 o farilau 5 ffa, 856 nvs 1 029 brag, 117 0 chwarteri. » wr ,u DREFNEWYDD, DYDD MAWRTH.—Gwenith 16s 00 i 18s Oc am 240 pwys haidd, 4s 8c i 5s 6c y 70 pwys; ceirch, 17s 60 i 21s Oc y 225 pwys; wyan, 12 am Is j ymenyn, Is 30 i Is 4c y pwys; ieir, 3a 00 i 4s 00 y ewpI; hwyaid, 4s 6c i 6s Oc y cwpl; gwyddau 5s Oc i 7s 0c yr un; pytatws, Is 00 yr 20 pwys; cig eidion, 50 17c cig myharen, 6c i 80 cig llo, 80 pore, 7c i 8c. DINBYCH.—Cig eidion, 7c i 9c y pwys; cig my haren, 8c i ge y pwys; cig oen, 7c i 8c ypwys; pore, 7c i Dc y pwya; ymenyn ffrea, Is 6ie i Os Oc y pwys wyau, 15 am lFj ieii 3s 6c i 3s 9c y cwpl; hwyaid, 4s Oc y cwpl; ysgyfarnogod, 3s 6c yr un; cwningodi 2s 4c y cwpl. ABERYSTWYTR, DYDD LLUN.—Gwenith, 5s De i 5s 6c y 65 pwya; haidd, 3s 3c i 3s 6c; ceirch gwyn, 29 6c i 3s Dc; ceirch du, Os Oc i Os 0c wyau, 24 am Is > ymenyn ffres Is lc i Is 4c; ymenyn hallt, Is 0c i Is lc > dofednod, 3s 6c i 4s Oc y cwpl; hwyaid, Os 00 i Os 00 y cwpl; gwyddau, Os Dc i Os 0c pytatws, 2a 6c 00 y cant. CROESOSWALLT, DYDD MERCHER.—GWENITB HF gwyn (newydd), 4s 80 i 4s 10c; gwenith melyl" 4s 6c i 4s 8c am 75 pwys; haidd, 3B 6c i 39 9cain 2SO pwys haidd at fragu, 4s 40 i 5s 00 am 60 pwys ceirchi 12a 0c i 13a 60 am 225 pwys. Ymenyn £ faea- la 2c i Is 4c y pwys; wyau, 13 i 14 am Is Oc; ieir, 3s Oc 4a 6c y cwpl; hwyaid, 4s 0c i 5s 6c y cwpl; gwyddfttlJ 5s 0c i 7s 0c yr un cig eidion, Os 6c i 0s lOJc y pwy0 » cig myharen 0s 7c i 0s 9c y pwys cig Ho, 0s 9c i 0s P°9? pwys; pore, 0s 6c i 0s 8c y pwys cwningod, 28 2c 1 i. 6c y cwpl; pytatws, 9s 0c i 0s 0c y sach pys, 12a 6C 13s 6c am 225 pwys ffa 17s i 17s 6c am 240 PWYOI BIRMINGHAM, DYDD MAWRTH.—Cig eidion, 50 b 8c y pwys myharen, 5c i 7c; cig lloi, 7c i 7c; &°° Os Oc i Os 00 am 20 pwys. O' TRALLWM, DYDD LLUN.-Ceirch, 14a 0c i170 wyau, 14 i 16 am la; ymenyn, Is lc i Is 2c y « ieir, 4b Oo i 5a 6c y cwpl; hwyaid, 4s 6c i 6s u owpi.