Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
. RHUTHRWYNT DYCHKYNLLYD YN…
RHUTHRWYNT DYCHKYNLLYD YN INDIA. Y mae y manylion sydd wedi eu derbyn am y rbuthrwynt yn Dacca yn mynegu mai swn lied dyrfus a glywyd gyntaf fel swn tren yn agoshau. Darfu i'r trowynt, yr hwn oedd yn ofnadwy o laerthol, gychwyn o ochr orllewinol y Palace, croesi yr afon Bariganga, ac yna ddychwelyd ac yoaruthro drwy barthau mwyaf poblogaidd y dref. Ni pharhaodd ond tua thri munyd, ond yr oedd y niwed a wnaed yn enfawr. Cafodd yr adeiladau cerig cadarnaf, gan gynwys Plas y Nawab, eu distrywio. Yr oedd reiliau haiarn mawrion yn cael eu chwyldroi fel darnau o bapyr. Yr oedd coedydd yn cael eu tori i fyny o'r gwraidd a'u cario gryn bellder. Nid oedd pobl heb fod ar lwybr y rhuthrwynt ond yn unig yn ymwybodol fodt yr ystorm yn myned ymlaen drwy chwiban- iad neu ysgrechian uchel. Yr ydys wedi sicrhau °d ° ^arwo*aetoau wedi cymeryd lie i fyny i'r a_eg resenol. Y mae cant o bersonau wedi eu niweidio yn enbydus, y rhai sydd o dan driniaeth y clafdy, a niweidiwyd llawer yn ychwaneg.
YMERAWDWR GERMANI.
YMERAWDWR GERMANI. Ymddengys fod sefyllfa iechyd yr Ymerawdwr Frederick unwaith yn rhagor yn achosi llawer o bryder yn Germani ac ar y Cyfandir yn gyffred- inol. Ni chafodd ond ychydig gwsg nos Sadwrn oherwydd ei fod yn cael ei flino eran beswch. Bu dan yr angenrheidrwydd o aros yn ei wely drwy ddydd Sul, ac yr oedd y Proffeswr Bergmron wedi ei alw i weinyddu arno. Yn ol y newyddion a dderbyniwyd ddydd Llun ymddengys mai noson boenus ydoedd nos Sul i'r Ymerawdwr, ac erbyn y boreu yr oedd yn amlwg ei fod yn dioddef oddi- Wrth bronchitis, ac yr oedd yn fwy clafaidd drwyddo. Yn ystod y prydnawn disgwylid yn bryderus drwy ddinas Berlin am adroddiad swyddogol ei feddygon. Dywedir yn awr ei fod yn well.
DIENYDDIAD TRIPHLYG YN YSPAEN.
DIENYDDIAD TRIPHLYG YN YSPAEN. Am y tro cyntaf am bum' mlynedd, cymerodd dienyddiad Ie yn Madrid ddydd Mercher. Diodd- efodd dynes ieuanc, a'i chariad, a chyfranogwr yn y troeedd, gosp eithaf y gyfraith. Cafodd y tri eu crogi ar yr un llwyfan. Yr oedd y crogbren Wedi ei godi o'r tu fewn i fuarth y carchar, ond yn y fath uchder ag y gallai y cyhoedd ei weled. Bu y cyrff ar y crogbren, ar ol i farwolaeth gy. rneryd lie, hyd fachlud haul, yn cael eu gwylio gan frawdoliaeth grefyddol, y rhai hefyd a weini- asant i'r llofruddion yn ystod yr adeg ofnadwy (24 o oriau) a dreuliasant yn y capel, ar ol hys. bysu iddynt y byddai raid iddynt farw. Di. gwyddodd y golygfeydd mwyaf rhyfeddol. Yr oedd un o'r euogion, ddydd y dienyddiad, mor Wyllt a ftyrnig fel y bu raid ei wisgo ar ei waethaf gan chwech o'r swyddogion. Yn ol yr arferiad yn Yspaen, caniataodd yr awdurdodau wyr y Wasg, a llawer eraill, i ymweled a'r euogion con- 4eranedig yn ystod yr oriau meithion y buont yn y capel, yn cael eu hamgylchynu gan offeiriaid a 8Wyddogion, y rhai a geisient eu calonogi, ac a ganifvtaaant iddynt unrhyw ymborth a diod. Caniateid iddynt hyd yn nod chwareu cardiau. Y tu allan i'r carchar ymgynullodd tuag ugain mil o bersonau, nifer fawr o ba rai oeddynt ferched, i weled y dienyddiad. Dymunai y Frenhines ro'i maddeuant i'r euogion, ond gwrthodai y Llywodraeth o achos ysgelerder mawr y trosedd.
13YN YN CROESHOELIO El HUN!
13YN YN CROESHOELIO El HUN! j, naae preswylydd pentref yn Prebits,yn Hante ranconie, dyn mewn oed ac amgylchiadau es- Jy.th' yn Hythyrenol wedi croeshoelio ei hunan. o;dOl gWeYd .croes, hoeliodd ei hun arni a gyr. tu hir a rhydlyd i mewn i'w draed, y io*.06 y ar y Hall. Yna gyrodd hoel- i mewn i w law ohwith. Yn |y cyflwr yna y canfyddodd aelodau ei deulu ef. Yr oedd y dyn wedi bod unwaith mewn gwallgofdy, o achos gwallgofrwydd crefyddol. Pan yr ail-agorwyd ac y gwisgwyd ei archollion, ni chlywyd yr ochenaid leiaf oddiwrtho ond yr oedd y rhwd yn barod wedi myned i'r gwaed, ac y mae y gwallgofddyn druan wedi marw. =
CYMERYD MR. W. O'BRIEN, A.S.,…
CYMERYD MR. W. O'BRIEN, A.S., ETO I'R DDALFA. Glaniodd Mr. O'Brien yn Kingstown nos Sadwrn, ac mor fuan ag y rhoddodd ei droed ar lawr yno cymerwyd ef i'r ddalfa gan yr Arolyg- ydd Cooper a dau swyddog arall. Yr oodd Mr. Crilly gyda Mr. 0,Brien, a'r dydd canlynol yr oeddynt yn bwriadu myned i Wexford i gyfarfod perthynol i'r Cyngrair Cenedlaethol. Cymerwyd Mr. O'Brien gan y swyddogion i Loughrea, lie y y dygwyd ef o flaen yr ynadon, a chyhuddir ef o wrthod cydymffurfio a'r gyfraith. Cymerodd y prawf le ddoe (dydd Iau).
MARWOLAETH MR. MATTHEW ARNOLD.
MARWOLAETH MR. MATTHEW ARNOLD. Diau y bydd yn ofidus gan ein darllenwyr ddeall am farwolaeth disymwth Mr. Matthew Arnold, yr hyn a gymerodd le yn Llynlleifiad ddydd Llun, lie yr ydoedd wedi myned i gyfarfod ei ferch, yr hon oedd ar ei thaith o'r America, ac a ddisgwylid y diwrnod hwnw. Bu yn yr eglwys boreu Sul, ac ar ol ciniaw aeth allan am ychydig amser gyda Mrs. Arnold. Pan wedimyned ychydig bellder, sylwid arno yn syrthio, a chymerwyd ef i dy meddyg yn ddioed, ond parhaodd yn an- ymwybodol. Dioddefai oddiwrth glefyd y galon er's blynyddoedd, a bercir mai dyna yr achos o'i farwolaeth, yr hyn a gymerodd le foreu ddydd Llun, yn 66 mlwydd oed. Yr oedd galar ei ferch pan ddeallodd ar ei glaniad fod ei thad wedi marw yn annisgrifiadwy. Yr oedd Mr. Arnold yn fab i'r diweddar Dr. Arnold, prifathraw Ysgol Rugby, ac yn ysgolor o'r radd uchaf. — ♦
CAMLAS MAWR MANCEINION.
CAMLAS MAWR MANCEINION. Heb un amhouaeth, y mae morgamlas mawr Manceinion yn un o orchestweithiau penaf yr oes. Mesura 85 milldir o hyd o'r mor i'r dref, wrth gan' troedfedd o led, a chwech-ar-hugain o wely i'r dwfr, fel y gall llongau mawrion ei for. dwyo, yr hyn a fydd yn fantais anmhrisiadwy i Manceinion. Y mae nifer mawr yn gweithio wrtho yn bresenol, ond bwriedir eu hychwanegu yn fuan i ugain mil o weithwyr, ac heblaw hyny, y mae nifer lliosog o agerbeirianau yn gweithio eisoes arno, ac y mae'r peirianau hynod hyn yn cymeryd i fyny 23 tioedfedd o dir ar un penad, tunell a haner, a'i boeri allan i'r trucks. Y mae dau benad i'r cyfryw yn gymaint ag a all un o'r trucks ei ddal. Symuda un o honynt mewn un diwrnod ddarn o dir yn mesur haner can' troed- fedd o hyd, wrth ugain troedfedd o led, ac ugain troedfedd o ddyfnder.
TAN DYCHRYNLLYD NEWN GLOFA…
TAN DYCHRYNLLYD NEWN GLOFA GYMREIG. Ychydig cyn deuddeg o'r gloch ddydd Gwener derbyniwyd pellebyr yn Ngwrecsam fod glofa y Vauxhall yn myned ar d&n. Anfonwyd y tan frigad yno ar unwaith, ac ar eu cyrhaeddiad gwelent fod yr adeilad y cedwid y peirianau ynddo yn llosgi i'r llawr yn brysur. Gan fod yno gyflawnder o ddwfr llwyddwyd i arafu y tan, ar ol gweithio yn ddygn am gryn amser, ond yr oedd difrod arswydus Iwedi ei wneyd ar y lie cyn y gallwyd diffodd y fflamau. Yn ffodus ni ddi- gwyddodd unrhyw ddamwain i'r dynion oedd i lawr yn y pwll.
BHODD DYWYSOGAIDD GAN MR.…
BHODD DYWYSOGAIDD GAN MR. ASSHETON SMITH. Boreu dydd Eawrth gwnaed hysbysiad swydd- ogol gan y Cadben Stewart, Bryntirion, ei fod wedi derbyn cyfarwyddyd gan Mr. Assheton Smith i hysbysu ei holl denantiaid a'r ffermwyr, a'r holl denantiaid blynyddol o dai a thyddynod, ei fod yn bwriadu troi yn ol iddynt yr haner blwyddyn rhent y taliad nesaf, fel moddion i ddathlu ei briodas agoshaol, ac hefyd er dangos ei gydymdeimlad dwfn gyda'i denantiaid yn y dirwasgiad hirfaith sydd wedi bod. Y mae tenantiaid y Faenol yn rhifo tuag wyth gant, a bydd y rhodd hon yn golygu degau o filoedd o bunau.
LAWN 0 £2,462 I BUMP 0 AMDDIFAID.
LAWN 0 £2,462 I BUMP 0 AMDDIFAID. Yn Sheffield, ddydd Sadwrn, cyfarfu y sirydd a deuddeg o reithwyr er penderfynu swm o iawn ag oedd Cwmni Cledrffordd Manchester, Sheffield, a Lincolnshire i'w dalu i bum' plentyn Mr. a Mrs. Beaumont, y rhai ill dau a laddwyd yn y gwrth- darawiad a gymerodd le ar y gledrffordd yn Hex- thorpe, ger Doncaster, diwedd Medi diweddaf. Gwestywr oedd Mr. Beaumont, a masnachwr mewn ceffylau, ac ar amser ei farwolaeth yr oedd yn gwneyd elw mawr o'i fasnach. Dyfarnodd y rheithwyr X2,462 o iawn, o'r hwn swm y bydd i bob plentyn dderbyn 10s. yr wythnos.
alftogfitritin Cgffre&uwl.
alftogfitritin Cgffre&uwl. DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU.- Hysbysir fod Mr. Dillwyn, A.S., wedi gohirio ei fesur ar y mater uchod hyd y 12fed o fai. SUDDIAD AGFRLONG.-Darfu i'r ageriong haiarn, Yorouga, o Marsailles, Ffraine, 1,246 o dunelli, suddo, boreu dydd Iau diweddaf, ar ol taro ar Graig Gibant, saith milldir o Guernsey-un o ynysoeddd y Culfor. Yr oedd 50 o bersonau ar y bwrdd, yr oil o'r rhai a gyraeddasant dir yn1 dcfiogel mewn badau. Yr oedd y Ilestr wedi bod mewn niwl am ddau ddiwrnod, ac wedi colli ei ffordd. Yr oedd yn rhwym i Havre—porthladd Ffrengig arall-gyda llwyth cymysg o 100 tunell. Yr oedd y Yorouge yn werth X30,000, ac heb ei yswirio. CYLCHWYL LENYDDOL DEONIAETH LLIFON.— Cywiriad. Dyledswyddau Genethod, Gwen Richards, Bodedern 2, Hary Jones, Gwalchmai, a Jane Chambers, Llanfaelog, yn gydradd. Bechgyn, (1) Owen Rowland, Llandrygarn; (2) A. G. Jones, ac R. C. Hotton, Llanfaelog, yn gyfartal. Sacramentau "—Genethod, (1) Gwen Richards, Bodedern, a Mary B. Owen, Llan- faelog, yn gydradd; (2) Nellie Jones, Jane Chambers, a Martha Owen, Llanfaelog, cydradd. Bechgyn, (1) T. Williams, Llancynfarwy (2) T. Chambers, Llanfaelog. FFRWYDRAD DYCHRYNLLYD.—Cymerodd dam. wain arswydus le ddydd Mawrth diweddaf yn y Polygon, yn Grenoble. Yr oedd 11 o ddynion wedi bod yn trafod defnyddiau ffrwydrol yn yr awyr agored. Yr oedd yr eira yn disgyn, ac yr oedd Yr bin yn eithafol oer. Yna, aethant i fewn i gaban lie y chwalid golosg er ei ddefnyddio i wneyd pylor. Ymgasglodd yr holl ddynion o amgylch stove, ar yr hon yr oedd crochan haiarn mawr oddeutu haner llath mewn amgylchedd, heb un clawr arno. Yn ddisymwth, ffrwydrodd y dynamite oedd yn y Ilestr hwn, gan ddryllio y dynion oil, a lladd naw o honynt yn y fan, tra y bu y ddau arall farw ymhen ychydig oriau. YR ALCANWYR.—Yn Lerpwl, cawn nad oedd y fasnach am yr wythnos mor fywiog ag arfer, a hyny yn benaf oherwydd y cyfarfod chwarterol arferol o brynwyr a gwerthwyr a gynhelid yn Birmingham ddydd Iau. Nid oes un gwelliant, er hyny, wedi cymeryd lie yn y prisoedd, er eu bod yn tueddu i ostwng. Mae yn anhawdd rhoddi hysbysrwydd cywir ynghylch sefyllfa bresenol pethau, gan y gwahaniaetha y prisoedd gymaint ar adegau y trosglwyddiad. Ac y mae hyny eto braidd yn cael ei lywodraethu gan bris yr alcan, yr hwn a geir am o!£166 y dunell i'w drosglwyddo yn uniongyrchol i X115 am drosglwyddiad ymhen tri mis. Yn Abertawe, yn ystod yr wyth- nos, yr oedd yr allforiadau mewn llafnau alcan yn 31,331; y derbyniadau, 38,945 a'r ystoc yn 115,087, yn erbyn 97,417 yr wythnos flaenorol, a 120,022 flwyddyn yn ol. Disgwylir agerlongau yn fuan i gludo llafnau i Baltimore, New York, New Orleans, a Philadelphia. M ETHDALIAD OYFREITHtWR. Hysbysir am fethdaliad Mr. J. F. Kirby, cyfreithiwr, Leicester Amcangyfrifir fod ei diyledion yn cyraedd zesolooo. YMFUDIAETH o NEW ZEALAND.—Y ffaith hyn- otaf ynglyn a New Zealand yn y dyddiau hyn ydyw yr ymfudiaeth mawr sydd yn cymeryd lie oddiyno. Metha y llongau arferol a chludo yr ymfudwyr, ac am hyny y mae niler ychwanegol wedi eu rhoddi mewn gwasanaeth. I dretedigaeth Victoria y maent yn myned. Nid New Zealand sydd wedi myned yn lie gwaelach i fyw, ond Victoria sydd wedi myned yn well; mwy o gyflog am waith, a mwy o waith i bob math o weith- wyr. YMFUDIAETH I AMERICA.—Mae nifer yr ymfud. wyr o Ewrop i America yn parhau i gynyddu. Mae Queenstown, Iwerddon, yn llawn; ac os na throir allan ychwaneg o gludlongau, bydd y dylif- iad yn debyg o barhau ymlaen i fisoedd yr haf. Y nifer yr wythnos ddiweddaf oedd 2,650, neu 600 yn fwy na'r wythnos flaenorol. Er mai Queenstown yw y prif borthladd i yEifodwyr Americanaidd, mae niferi mawrion yn ymadael gyda Ilongau a alwant yn Londonderry, Larne, a Galway. GWLANENI CYMRU.—Yn mysg y llechres o gys- tadleuwyr llwyidianus yn Arddangosfa Iechyd Bolton, yr hon a gynhelid dan nawdd Sefydliad Iechyd Prydain Fawr, gwelwn fod ffirm y Mri. Humphreys a Thomas, Melinau y Dyffryn, Narberth, Penfro, wedi cael ei dyfarnu yn haedd< ianol o dystysgrif o deilyngdod am y gwlaneni Cymreig a arddangoswyd ganddynt yn yr arddangosfa. Dyma'r trydydd dyfarniad y mae y gwlaneni hyn wedi ei dderbyn mewn arddangos- feydd yn yr un flwyddyn. Y DIWEDDAR MR. MARCUS Louis.-Fel y cry. bwyllwyd genym yr wythnos ddiweddaf, cafodd Mr. Louis darawiad o'r parlys tra ar ei ffordd o Ruthyn i Gorwen. Cymerwyd ef i dy Inspector Parry, ac yno y bu yn glaf iawn o ddydd Mawrth hyd foreu dydd Sul, pryd y bu farw yn 62 mlwydd oed. Yr oedd Mr. Louis yn adnabyddus dros Ogledd Cymru, a bu yn gwasanaethu fel cyfreith- iwr yn Rhuthyn am 33 o flynyddoedd. Yr oedd oedd yn aelod o Gyngor Trefol Rhuthyn, a bu yn llanw y swydd o faer amryw weithiau. Claddwyd ef ddydd Iau yn mynwent Llangynhafal. Y DIWEDDAR MR. HENRY ROBERTSON, Yn Llys Chwarterol sir Feirionydd, yr wythnos ddi- weddaf, pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a Mrs. Robertson a'r teulu ar farwolaeth Mr. Robertson. Cynygiwyd y penderfyniad gan Mr. O. S. Wynne, a chefnogwyd ef gan yr Anrhyd. C. H. Wynn, yr hwn a ddywedai ei fod ef wedi colli cyfaill yn Mr. Robertson, a bod y sir wedi colli dyn defnyddiol. Er y byidai efe weithiau yn wahanol ei farn i Mr. Robertson, eto ni byddai hyny yn rhwystro eu cyfeillgarwch. Yr oedd yn Rhyddfrydwr mewp gwleidyddiaeth, ac yn Rhydd- frydwr mewn pobpeth. RHYFEL-LONG BRYDEINIG NEWYDD. Mae y Morlys wedi hysbysu eu cyfarwyddiadau er dar- paru ar gyfer adeiladu y rhyfel-long newydd Blake." Hon fydd y fwyaf, y gyflymaf, a'r nertholaf a adeiladwyd erioed i'r Llynges. Bydd ei phwysau yn 9,000 o dunelli, a gweithir hi gan beirianwaith o nerth 20,000 o geffylau, yr hyn sydd yn 8,000 yn fwy na pheirianau y rhyfel- longau ardderchog Nile a Trafalgar." Adeil. edir y Blake o ddur, ac amddiflynir ei rhanau bywydol gan deck ddur yn cyraedd o un pen i'r Hall o'r llong. Disgwylir y bydd yn alluog i deithio 22 milldir yr awr. Bwriada y Morlys hefyd adeiladu Hong arall gyftelyb o'rlenw Blen- heim." DADFORIAD YMENYN.—Oddiwrth rai ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ymddengys i ni, yn ystod mis Chwefror y flwyddyn hon, dderbyn i fewn yn ein porthladdoedd 130,005 can' pwys o ymenyn, yn erbyn 127,091 can' pwys yn yr un mis y flwyddyn o'r blaen. O'r cyfanswm hwn cyflenwodd Sweden ni a 16,416 can' pwys yn erbyn 13,635 yn 1887; Denmarc, 47,018 yn erbyn 42,053; Germani, 15,584 yn erbyn 16,498; a Ffrainc, 30,027, yn erbyn 36,678. Yr oedd cyfan- swm y margarine a dderbyniwyd yn ystod yr un mis o Holland yn unig yn 89,499 can' pwys, yn erbyn 92,244, allan o'r swm derbyniedig-96,842 yn erbyn 96,198. Yr oedd y derbyniadau o gaws -yn cynwys 21,101 o Holland, yn erbyn 28,344, a 68,292 o'r Unol Daleithiau, yn erbyn 41,136- 97,738 can' pwys, yn erbyn 72,178.