Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

ABERAERON.

FELIN FOEL.

LLANLLECHID.

LLEYN A'R AMGYLCHOEDD.

CORWEN.

LLANGOWER.

ABERMAW.

---TALSARNAU.

News
Cite
Share

TALSARNAU. DYDD GWENER Y GROGLITH.-Cawsom wfcsanaeth Saesneg am 10, ac un Cymraeg am 6, yn Eglwys Crist, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. James Evans, rheithor. Hefyd, am 10, cawsom wasanaeth yn Eg- lwyB Llanfihangel, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. Hughes, curad. Daeth cynulliadau da ynghyd foren a hwyr. DYDD SUL Y PASG.—Am 10, darllenwyd y llithoedd gan Mr. Griffith Ellis, a gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd a phregethwyd yn Eglwys Llanfibangel gan y Parch. J. Hughes, curad. Am 2 gweinyddwyd gan yr unrhyw yn Eglwys Llandecwyn, ac am 6, gwein- yddwyd gan yr unrhyw drachefn yn Eglwys Crist. Darllenwyd y llithoedd gan Mr. Evan Evans, arolygwi ein Hysgol Sul, a Mr. William Jones. Yn ystod y gwasanaeth canwyd yr anthem, 'M,olwch yr Arglwydd,' gan y cor, a Miss Jones, Ship, yn chwareu yr harmonium. Am 10, yn Eglwys Crist, darllenwyd y gwasanaeth a phregethwyd gan y Parch. J. Evans. Am 11.15, yn Saesneg, darllenwyd y llithoedd gan Colonel Egerton, a gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd a phregethwyd gan y Parch. J. Evans; ac am 6, yn Llan- fihangel, pregethwyd gan ein Rheithor. YSGOLDY GLANWERN.—NOB Fawrth, Ebrill 3ydd, cyn- haliwyd yr olaf 0 gyfres o gyfarfodydd adloniadol yn y lle'uchod. Cawsom gyfarfod hwyliog a hynod lwydd- ianus, yr oedd hwn yn rhagori ar y lleill, dyna yw ein barn ni. Llanwyd y gadair yn ngwir ystyr y gair gan y Milwriad Egerton, Glyn. Aethpwyd trwy y rbaglen ganlynol:—Can, Robin bach,' plant ysgol Glanwern. Darllen difyfyr yn Saesneg; merched-goren, Kate Jones, 2il, Georgina Jones, ac Ada Edwards yn gyd- fuddugol; bechgyn—goreu, Johnie Evans, 2il, John Evans, 3ydd, Harry Mynott. Deuawd, Hogyn gyru'r wedd,' Mri. W. a D. Roberts. Cawsant encore, a gorfn iddynt ail ganu. Adroddiad, 'The wreck of the Hesperus,' yn hynod dda, gan Master A. Egerton. Deuawd,' The cottage by the brook,'gan Mrs. Mynott a Miss Jones. Adroddiad, Don't give np the ahip,' yn effeithiol, Master L. Egerton. Canig, Oh hush thee my baby,' parti yr Eglwys dan arweiniad Colonel Egerton, CAn, I She wore a wreath of roses,' Miss Florence Hood, yn cael ei dilyn ar yr harmonium gan Miss Hood. Darllen difyfyr yn Gymraeg, i rai dros ddeu- ddeg oed goreu, David Roberts, 2il, John Ellis, 3ydd, John Evans. Denawd, 'All's Well,' Parch. J. Hughes a Mr. C. J. Evans, yn cael eu dilyn ar yr harmonium gan Miss Jones. Dadi, The Lost Thimble,' Fanny Owen a M. Humphreys. Darllen difyfyr yn Gymraeg, i rai dan ddeuddeg oed goreu, David Williams. Can, Merch y Melinydd,' Miss Jones, Ship-a-ground, yn cael ei dilyn ar yr ha-monium gan Miss Richard, a gorfu iddi ail ganu. Araith ddifyfyr ar Ddyfalbarhad Mri. William Roberts a John Ellis yn gyd-fuddugol (rhoddwr y wobr, Colonel Egerton). Triawd, Sweet day so cool,' Miss Jones, Ship-a-ground, Miss Sephton, C.M., a'r Parch. J. Hughes. Darlleniad, Mr. F. Wal- bran Evans. Can, Music, sweet music,' plant Ysgol Glanwern, yn hynod dda. Can, Mae Robin yn 'swil,' Miss Prichard, yn cael ei dilyn ar yr harmonium gan Miss Hood, a gorfu iddi ail ganu. Adroddiad, The old cat and her kittens,' plant Ysgol Glanwern, yn hynod ddyddorol. Can,' The Three Pigs,' Mr. C. J. Walbran Evans, yn cael ei ddilyn ar yr harmonium gan Miss Jones, a gorfu iddo ail ganu. Canig, 0 who will o'er the downs so free,' Parti yr Eglwys dan arweiniad Colonel Egerton. Terfynwyd y cyfarfod llewyrchus hwn trwy ganu God save the Qneen.Tecwyn.

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANDDAROG.I

PONTLOTTYN.

LLANBEDROG.

LLANDEILO.

GWRECSAM.

ABERTAWE.

RHYMNI.

HENDY GWYN AR DAF.