Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
ABERAERON.
ABERAERON. DYDD LLUN Y PASG.—Yr oedd hwn, fel arferol, yn ddiwrnod mawr yn Aberaeron. Yr oedd y dydd yn argoeli troi allan yn anffafriol tua naw o'r gloch yn y boren, pan oedd y cymylau yn chwareu yn fygythiol nwch ein penau, ond trodd allan, wedi'r cyfan, yn ddiwrnod dymunol iawn. Er's blynyddan meithion y mae yn arferiad ar LInn y Pasg i Ysgolion Sul yr Eglwys yn y gymydogaeth ddyfod i Aberaeron i gy- meryd rhan yn yr hyn a elwir yn gyffredin y Pwnc." Daeth yr Ysgolion Sul canlynol at eu gilydd y tro hwn, gan gymeryd rhan yn ngweitbrediadau y dydd :-Llan- ddewi-Aberarth, Llanbadarn, Dihewid, Llanerchaeron, Llanarth, ac Aberaeron. Holwyd hwy yn y darnau etholedig o'r Ysgrythyrau gan y Parchn. D. Richards, Llandysilio-gogo R. Williams, Llanerchaeron; E.! Thomas, Llanarth a D. Griffiths, Ceinewydd. Cy- merodd y tair flaenaf eu tro yn ngwasanaeth y boreu, a'r tair olaf yn y prydnawn. Yr oedd yr adrodd, yr atebion, a'r canu yn wir dda drwy y dydd-yr oedd fel y dywedodd un yn gyhoeddus, yn y man a'r lie, yn fendigedig." Pa un a oedd felly ai peidio, gallwn ddweyd heb un petrusder fod y gwaith drwy'r dydd yn wir dda. Yr oedd 61 llafur yn ganfyddadwy ar y cyfan. Rhwydd hynt, meddaf fi, i'r achos teilwng a chanmol- adwy hwn, a gresyn na fyddai rhywbeth tebyg iddo ymhlith Eglwyswyr pob cymydogaeth. Rbaid rhoddi gwaith i'r to sydd yn codi neu eu colli. Wrth roddi digon o waith iddynt byddwn yn debyg o'u cadw-Ye, ac enill rhagor atynt. Ati, ynte, 0 ddifrif, yn y cyfeiriad hwn.M. J.
FELIN FOEL.
FELIN FOEL. EGLWYS Y DRINDOD SANCTAIDD.-Dydd Gwener y Groglith cynhaliwyd gwasanaeth a phregeth am 9.30 y boreu, ae am 11 gwasanaeth a phregeth Saesneg, ac yn yr hwyr am 7 gwasanaeth a phregeth yn G-ymraeg gan y Parch. J. W. Roberts, ficer. Sul y Pasg, cafwyd gwaaanaethau am 8, 9.30, ae 11, pryd y gweinyddwyd y Cymun Bendigaid ymhob un 0 honynt, ac am 6 yn yr hwyr gwasanaeth a phregeth yn Gymraeg gan ein parchus ficer. Yr oedd y cynulliadau trwy y dydd yn lliosog a'r gwasanaethan yn gorawl. Cyfranogodd 115 o'r Cymun Bendigaid. Yr oedd 5 nifer hyn yn dangos ffyddlondeb mawr, ond y mae eto le i ddiwygio. Buasai yn dda genym weled pob un yn ymdrechn bod yn bre- senol ar Sul y Cymun, yn enwedig ar yr uchelwyliau. -J.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. MABWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.-Mae genyf y gor- chwyl pruddaidd 0 gofnodi marwolaeth un 0 aelodau yr Eglwys yn y lie uchod, sef Margaret, anwyl briod y diweddar Owen Jones, Fignant, Llanllechid, yr hyn a gymerodd Ie ar y 30ain cynfisol, ar ol cystudd maith a phoenus, yn 62 mlwydd oed. Dydd Iau dilynol daeth torf fawr 0 bell ac agos i daln y gymwynas olaf i'r ym- adawedig. Gweinyddwyd wrth y ty, yn yr Eglwys, ac ar lan y bedd yn hynod deimladwy gan y Parch. W. Morgan Jones, B.A., cnrad y lie. Canodd y cor wrth y ty, ar y ffordd, o borth y fynwent i'r Eglwys, ac ar lan y bedd 0 dan arweiniad Mr. T. Pierce (Coetnor). Heddwch i'w llwch. MARwoLAETH ETo.-Ar ol cystudd maith am ddwy flynedd a haner bu farw John Morris Owen, Bryn Pistyll, Caellwyngwydd (gynt 0 ben y Braicb), yr hyn a gymerodd le nos Sadwrn y 7fed cyfisol, yn 54 mlwydd oed. Gadawodd yn yr anial i alarn ar ei ol weddw, pedwar o feibion ac un ferch, a lliaws o berthynasau. Gobfithio y bydd i Dduw lanw ei addewid, sef i fod yn briod i'r weddw a thad i'r amddifad. Bydd yr angladd yn cymeryd lie prydnawn dydd Sadwrn (yfory), am 2.30, yn mynwent Eglwys y plwyf. ETHOLIAD Y BWRDD LLEOL.—Dyma brif ystori pawb ar hyd yr wythnos ddiweddaf. Pwy, a pha rai o'r pedwar ymgeigwyr yw y gwyr cymhwysaf ar y bwrdd uchod ? Rhanwyd papyrau etholiadol ymhob ty trwy y plwyf dydd Iau, y 29ain cynfisol, a'r dydd Gwener canlynol casglwyd hwynt. Dydd Sadwrn drachefn agorodd y swyddog etholiadol seiliau y blychau, a dechreuwyd cyfrif am 11 y boren. Gwnaed canlyniad yr etholiad yn bysbys am bump o'r gloch yn y pryd- nawn. Fel hyn y safaiy pleidleisiau:—Richard Evans, 788; George Brymer. 758 John Jones, 711; William C. Hughes, 358. Y t'i cyntaf sydd yn etholedig. Hyderwn y gwnant waith da a thynu y trethi i lawr yn yr amser caled yma ar ol en dewis. WARDENIAID.—Enwyd y wardeniaid i fod am y flwyddyn ddyfodol ar Sal y Pasg, sef, Mri. Henry Roberts, Corbris, Llanllechid, a Griffith Jones, 43, Walter Street, Rachub, Llanllechid. -John Davies.
LLEYN A'R AMGYLCHOEDD.
LLEYN A'R AMGYLCHOEDD. Er nad oes ond ychydig ardaloedd yn Nghymrn yn fwy enwog 0 ran gwaith creadigol, celfyddydol, a brwd- frydedd i sefyll i fyny a'r enwogrwydd hwn na Lleyn, gwlad dawel y blodau, gwlad masnach a chelfyddyd, a gwlad byfryd a fu'n ddinas uoddfa i'r hen seintiau gynt pan yr oedd erledigaeth yn arllwys ei wermod i gostrelau y rhai a gyfenwid ar enw Crist; eto, rywfodd neu gilydd, anfynych y gwelwn yr enw ar dudalenau Y LLAN. Ond os byddwn byw ac iach, yr ydym yn mawr hydern na fydd y cwbl o'r gorphenol yn digwydd eto yn y dyfodol am Lleyn a'i hatngylchoedd. Draw, ar y terfyn yr wyf yn clywed "mwy 0 swn nag o sylwedd gan y cyfreithiwr 0 Griccieth yn nghylch yr Eglwys, yr offeiriaid, y degwm, a'r dadgysylltiad. Cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig i drin y pwnc (ac fe'i triniwyd yn feistrolgar) yn Porthmadog, a chafodd y gwalch hunanol 0 Eifionydd ei chwalu yn chwilfriw, a'i ddadansoddi yn y modd mwyaf deheuig. Un tebyg iawn ydyw i'r llygoden a'r rhyngen-cryn lawer 0 gecraeth a'r danedd yn pylu—byrdwn, diffyg treuliad. Nid oes neb yn hoff iawn o ddweyd ymadroddion caled am brif ddinas, neu dref ei ardaloedd ei bun; a'i reswm efallai, am ei fod yn gwneuthur felly ydyw gwirionedd yr hen ddiareb, Llawer gwir goreu ei gelu ond am Pwllbeli, y mae mewn mwy nag un ystyr yn ateb i'w henw—Pwll hallt. Deallaf fod yno lawer 0 gynllwyno yn myned ymlaen yn erbyn Eglwys Dduw, yn erbyn yr awdurdodau, a boneldigion ein gwlad, a gwnant eu goreu i ledaenueu surdoes ynnghymydogaetbau Lleyn. yn anghyffredin am nad ydynt yn cael digon 0 "ryddid" i chwythu yn eu hudgorn prer ac ant allan ar hyd a lied y wlad i chwilio am laid i'w daflu i wynebau pobl nid yn unig sydd yn anrhydedd ond yn fendith i gymdeithas. Ystyriaf y weithred yn ddigon ffiaidd ynddi ei hun; ond pan gofiaf am yr amser a ddefnyddir gan y bodau anghrefyddol hyn i ddwyn eu gwag am- canion i gwbihad, ac befyd y lleoedd cysegredig a sengir dan en traed, braidd na safui fy ngwallt gwyn i fyny ar fy mhen. Y weithred, dan flaen bysedd deheulaw Judas, yn myned o awgylch eglwysi ein gwlad i chwilio am ddefnyddiau i wnenthur erthyglau celwyddog yn y newyddiaduron Ymneillduol. Y maent yn parotoi tuag at y wasg tra y mae y gwasanaethau yn myned ymlaen, yr hyn sydd yn warth i neb a alwant eu hunain yn Gristionogion. Fe ddywed y pedwerydd Gorchymyn am iddynt gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth," ond yn ngwyneb moes a chrefydd, y maent hwy yn treulio am iddynt gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth," ond yn ngwyneb moes a chrefydd, y maent hwy yn treulio Dydd yr Arglwydd i ddarpar gogyfer &'r Genedl neu'r Herald Bach. Ac nid oes yr un gronyn 0 gywilydd arnynt i droi i fewn, a gwneuthur y cysegr sanctaidd yn rhyw fath 0 swyddfa i ysgrifenu y gwagedd mwyaf chwerthingar i ddifyru dosbarth gweithiol ein gwlad am yr wythnos ddyfodol. Efallai fod y dynionach uchod yn meddwl eu bod hvy yn dragwybodus ahynod wasanaethgar yn eu cenhedlaaetb, ac nad oes yr un amheuaeth na chant berffaith lcnyddwch i weithio eu direidus amcanion allan, ond yr wyf fi yn bwriadu eu gwylio yn bur ofalus yn y parthau hyn, a'u dangos "yn ngwyneb haul a llygad goleuni," oblegid cywilydd iddynt hwy yw adrodd y petbau a gyflawnant ar wyneb y tir a fn unwaith yn gyrchfa miloedd o saint a phererinion, fel y byddo'r byd yn gweled fel y mae crefydd yn cael ei llygru gan y gwybed meirw" yma a ledant eu hesgyll cyn y gwelont Hinon Haf. -Paul.
CORWEN.
CORWEN. AFIECHYD MR. LOUIS, RHUTHYN.—Drwg gpnym hys- bysu ddarfod i'r cyfreithiwr galluog ac adnabyddus uchod, ddydd Mercher diweddaf, gael ergyd o'r parlys yn ei-gerbyd yn rhywle rhwng Rhuthyn a Chorweu. Ar ei daith i.Lys Ohwarterol y Bala yr oedd y bonedd- wr. Pan gyrhaeddodd i Gorwen, symudwyd ef i dy Inspector Parry, lie y bu farw ddydd Llun.
LLANGOWER.
LLANGOWER. Yn y plwyf bychan hwn cynhaliwyd cenhadaeth blwyfol ar yr 2il a'r 3ydd o'r mis hwn. Nos Lun, yr oedd gwasananaeth, a phregeth gan y Parch. W. Hughes, Llanuwchllyn. Dydd Mawrth, am 2.45,, gwasanaeth ac anerchiadan gan y Parch. W. Roberts, rheithor y Parch. Ph. Owen, Frongoch, a'r Parch. W. Williams, Dolgellau, aryr Ysgol Sul a'r achos cenhadol. Yn yr hwyr, gwasanaeth, a phregeth gan y Parch. W. Williams, Dolgellau, a chyfarfod cymunwyr ar ol—er braenaru y tir i dderbyn yr had. Yr oedd ein parchus Reithor wedi bod yn ymweled llawer iawn o'i blwyf- olion wythnosau blaenorol i'r genhadaeth, a chynal dau Cottage Lecture mewn gwahanol leoedd yn y plwyf- yr oedd yr ymgynull i'r rhai hyn yn dda, a'r canu yn rbagorol. Gallwn longyfarcb ein Rheithor yn llwydd- iant perffaith y genhadaeth yn y plwyf. Os oedd Parochial Mission yn ateb yn mhlwyf bach Llangower mae yn sicr o ateb ymhob plwyf arall yn yr Esgobaeth. Gobeithio y bydd yr had da a hauwyd yn cael dyfnder daear, ac yn dwyn ffrwytk er gogoniant i Dduw.
ABERMAW.
ABERMAW. GWYL DE A CHYFARFOD LLENYDDOL YR YSGOLION SUL.—Prydnawn dydd Llun y Pasg cynhaliwyd gwyl de i ysgolion Sul y plwyf uchod, a chyfarfod llenyddol yn yr hwyr. Trefnwyd y parotoadau yn effeithiol erbyn y prydnawn gan foneddigesau ynglyn a'r ysgol Sul. Rhoddwyd pob boddlonrwydd fel arferol yn y danteithion a barotowyd gan Mrs. Edwards, y Criterion. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod llenyddol. Byr iawn oedd y rhybudd, ond er hyny cafwyd cyfarfod hynod 0 ddyddorol ac addawol iawn o'r hyn a fwriedir ei wneyd yn y dyfodol yu flynyddol. Palla gofod i ni roi manylion pellach nag hysbysu pwy a wobrwywyd yn 01 trefn y rhaglen, sef, Anne Owen (ddwywaith), Frank Rawiings, Richard Ernest Evans, Victor Rawlings, Geoffrey jRawlings (ddwywaith), Puah Iorvina Wil- liams, William Edward Owen, Anne Jane Parry (ddwy waith), John Richard Powell (ddwywaith), Richard Powell, Chailes Garnet, John Garnet (ddwy waith), William Garnet (ddwy waith), William Pugh Jones, &c. Cawsom d6n chwaethus a swynol dros ben gan g6r yr aelwyd, 0 Lanaber, o dan arweiniad medraB Mr. Richard Powell. Cafwyd y fraint a chynorthwy galluog y Parch. W. Williams, B.A., rheithor Dol- gellau, fel beirniad, a pheth mawr ydyw gallu dweyd iddo roi boddlonrwydd cyffredinol a phexffaith. Bwriedir tynu allan brif destynau cyfarfod llenyddol y Pasg nesaf yn fuan.
---TALSARNAU.
TALSARNAU. DYDD GWENER Y GROGLITH.-Cawsom wfcsanaeth Saesneg am 10, ac un Cymraeg am 6, yn Eglwys Crist, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. James Evans, rheithor. Hefyd, am 10, cawsom wasanaeth yn Eg- lwyB Llanfihangel, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. J. Hughes, curad. Daeth cynulliadau da ynghyd foren a hwyr. DYDD SUL Y PASG.—Am 10, darllenwyd y llithoedd gan Mr. Griffith Ellis, a gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd a phregethwyd yn Eglwys Llanfibangel gan y Parch. J. Hughes, curad. Am 2 gweinyddwyd gan yr unrhyw yn Eglwys Llandecwyn, ac am 6, gwein- yddwyd gan yr unrhyw drachefn yn Eglwys Crist. Darllenwyd y llithoedd gan Mr. Evan Evans, arolygwi ein Hysgol Sul, a Mr. William Jones. Yn ystod y gwasanaeth canwyd yr anthem, 'M,olwch yr Arglwydd,' gan y cor, a Miss Jones, Ship, yn chwareu yr harmonium. Am 10, yn Eglwys Crist, darllenwyd y gwasanaeth a phregethwyd gan y Parch. J. Evans. Am 11.15, yn Saesneg, darllenwyd y llithoedd gan Colonel Egerton, a gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd a phregethwyd gan y Parch. J. Evans; ac am 6, yn Llan- fihangel, pregethwyd gan ein Rheithor. YSGOLDY GLANWERN.—NOB Fawrth, Ebrill 3ydd, cyn- haliwyd yr olaf 0 gyfres o gyfarfodydd adloniadol yn y lle'uchod. Cawsom gyfarfod hwyliog a hynod lwydd- ianus, yr oedd hwn yn rhagori ar y lleill, dyna yw ein barn ni. Llanwyd y gadair yn ngwir ystyr y gair gan y Milwriad Egerton, Glyn. Aethpwyd trwy y rbaglen ganlynol:—Can, Robin bach,' plant ysgol Glanwern. Darllen difyfyr yn Saesneg; merched-goren, Kate Jones, 2il, Georgina Jones, ac Ada Edwards yn gyd- fuddugol; bechgyn—goreu, Johnie Evans, 2il, John Evans, 3ydd, Harry Mynott. Deuawd, Hogyn gyru'r wedd,' Mri. W. a D. Roberts. Cawsant encore, a gorfn iddynt ail ganu. Adroddiad, 'The wreck of the Hesperus,' yn hynod dda, gan Master A. Egerton. Deuawd,' The cottage by the brook,'gan Mrs. Mynott a Miss Jones. Adroddiad, Don't give np the ahip,' yn effeithiol, Master L. Egerton. Canig, Oh hush thee my baby,' parti yr Eglwys dan arweiniad Colonel Egerton, CAn, I She wore a wreath of roses,' Miss Florence Hood, yn cael ei dilyn ar yr harmonium gan Miss Hood. Darllen difyfyr yn Gymraeg, i rai dros ddeu- ddeg oed goreu, David Roberts, 2il, John Ellis, 3ydd, John Evans. Denawd, 'All's Well,' Parch. J. Hughes a Mr. C. J. Evans, yn cael eu dilyn ar yr harmonium gan Miss Jones. Dadi, The Lost Thimble,' Fanny Owen a M. Humphreys. Darllen difyfyr yn Gymraeg, i rai dan ddeuddeg oed goreu, David Williams. Can, Merch y Melinydd,' Miss Jones, Ship-a-ground, yn cael ei dilyn ar yr ha-monium gan Miss Richard, a gorfu iddi ail ganu. Araith ddifyfyr ar Ddyfalbarhad Mri. William Roberts a John Ellis yn gyd-fuddugol (rhoddwr y wobr, Colonel Egerton). Triawd, Sweet day so cool,' Miss Jones, Ship-a-ground, Miss Sephton, C.M., a'r Parch. J. Hughes. Darlleniad, Mr. F. Wal- bran Evans. Can, Music, sweet music,' plant Ysgol Glanwern, yn hynod dda. Can, Mae Robin yn 'swil,' Miss Prichard, yn cael ei dilyn ar yr harmonium gan Miss Hood, a gorfu iddi ail ganu. Adroddiad, The old cat and her kittens,' plant Ysgol Glanwern, yn hynod ddyddorol. Can,' The Three Pigs,' Mr. C. J. Walbran Evans, yn cael ei ddilyn ar yr harmonium gan Miss Jones, a gorfu iddo ail ganu. Canig, 0 who will o'er the downs so free,' Parti yr Eglwys dan arweiniad Colonel Egerton. Terfynwyd y cyfarfod llewyrchus hwn trwy ganu God save the Qneen.Tecwyn.
BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. Nos Wener, y 6ed cyfisol cynhaliodd Clwb Ceidwadol ac Undebol Blaenau Ffestiniog eu cyfarfod misol rheolaidd. Mr. Wm. Jones, Bennar View yn y gadair. Ymhlith materion eraill, cymerwyd dan sylw y priodol- deb 0 ffurfio rhyw gynllun er hyrwyddo lledaeniad Y LLAN yn y cymydogaethau hyn. Teimlai pawb nad oedd y newyddiadaron Ceidwadol yn cael yr un chwareu teg a'r newyddiaduron Radicalaidd yn y lie, ac mai bnddiol iawn a fuasai i ni fel clwb i gymeryd ? LLAN a'r Gwalia 0 dan ein nawdd, sef fod i ni gymeryd y naill a'r llall i mewn i'r Clwb, a gofalu am fechgyn i fyned oddiamgylch i'w gwerthu yr un modd ag y gwneir gyda'r Ileill, sef y papyrau Radicalaidd, pa rai a gymbellir yn daer ymhob drws drwy yr ardal. Er i Mr. T. E. Ellis, A.S., ddatgan yn Nolgellau y dydd o'r blaen, mai bechan a thlawd yw ICymrn, bydded hyny, y jtnae pleidlais y Cymro tlawd yn gyfwerth â phleidlais unrhyw yswain Seisnig sydd yn werth ei filoedd. A gall Cymru dlawd fod yn foddisn i ffurfio mwyafrif Seneddol pwysig eto, fel y mae o'r pwys mwyaf i'r wlad pa fodd y cyflawna y rhai hyny sydd wedi gosod ett hunain yn gyfrifol (megis) am ledaeniad egwyddorion gwladlywiaeth bur, safadwy, a diysgog, eu dyledswydd. an. Dymunem awgrymu y priodoldeb i gyfoethogion a mawrion ein gwlad i ddyfod allan fel un gwr i gvnortb- wyo cyhoeddwyr ein llenyddiaeth Geidwadol ac Uudeb- ol. Os ydyw egwyddorion Ceidwadaeth, Undeb, a chyfanrwydd yr Ymerodraeth, ynghyd & chadwraeth y deddfau hyny sydd yn diogelu" eiddo a bywydau yn werth eu meithrin, eu cynal i fyny, a ,n hamddiffyn, awgrymwn unwaith eto, onid yw yn werth i fawrion ein gwlad roddi help eu talentau disglaer, a'u llogellatl. llawnion, i gynorthwyo cyhoeddwr y cyfryw egwyddor- ion, hyd yn nod yn yr iaith Gymraeg. Bydded ein harwyddair fel cyhoeddwyr, dosbarthwyr, a derbynwyr, yn "Undeb, zel, a chydweithredicd."—Undebwr.
LLANDDAROG.I
LLANDDAROG. GWYL GESDDOROL Y PLANT.—Ymwelodd Ysgol Sul yr Eglwys a Phontyberem ar ddydd Llun y Pasg i adrodd pwnc a chanu. Daeth Ysgol Snl St. loan i'n cyfarfod i'r pentief, ac ymffarfiwyd yn orymdaith fawr i fyned i fyny i'r hen d&ml ar y blyn. Yr oedd yr eglwys yn orlawn. Holwyd yr ysgolion gan y Parch. N. Thomas, Llanddarog, yn Nghredo yr Apostolion," ac yr oedd yr atebion yn gantaoiadwy iawn. Ar ol y gwasanaeth hwn, gorymdeiibiwyd i lawr i'r ysgoldy gan ganu tonau cysegredig yn hwylus. Yma yr oedd Mrs. Isaac Jones, a'i Ilawforwynion, wedi darparu gwledd odea bara brith i bawb. Ar ol te, cafwyd gwasanaeth corawl, sef Gweinidogaeth yr Iesu," gan y ddwy ysgol yn ar- dderchog. Arweinid y canu gan flaenor y gan o Bonty- berem, a chwaremd ai yr harmonium gan Mr. W. Harries, Llanddarog. DarlIenwyd y rhanau ysgrythyrol gan Mr. T. Seymour, Coalbryok House, yr hwn sydd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr Ysgol Sul. Trueni na byddai eglwys newydd yn cael ei chodi yn y pentref. Y mae y Parch. Isaac Jones yn llafarus iawn, ac yn cyflawni gwaith da yn Pontyberem, ond nid yw yn cael chwareu teg mewn eglwys mor fechan ymhell oddiwrrh y bobl. Yr cedd y ddwy ysgol wedi cynyddu mor fawr er y llynedd fel yr oeddym. yn synu wrth weled y fath dorf. Ymlaen yr elo. FFSTIFI YR EGLWYS.—Yr oedd yr ystafell hon mewn angen adgyweiriad yn Llanddarog er's hir amser. Ym- gymerodd y Ficer a'r gwaith, ac adnewyddodd hi yn drwyadl, gan roddi cwpbwrdd newydd o'i mhewn i ddat y gwenwisgoadd, &c. Mae genym yn awr eglwys mor hardd a threfnus ag a welir mewn un man. Mae y cynulleidfaoedd a'r Ysgol Snl yn fwy blodeuog nag y bnont erioed. a chynyddu y maent yn barhaus. Ffydd- londeb a gweithgarwch yn.mhawb sydd eisiau yn awr. -Pen.
PONTLOTTYN.
PONTLOTTYN. Cynhaliwyd y festri flynyddol perthynol i eglwys St. Tyfaelog yn yr ysgoldy nos Fereber, dan lywyddiaeth y Parch. T. J. Jones, ficer. Dangosai cyfrifon y wardeniaid fod y derbyniadau am y flwyddyn yn cyraedd y swm o -6481 Os. 31c., yr hyn a ystyrid yn foddhaol. Ail-ddewiswyd Mri. John Randall a Thomas Jones yn wardeniaid am y flwyddyn ddyfodol, a dewis- wyd Ma. John Price yn warden yr Eglwys Gymraeg.
LLANBEDROG.
LLANBEDROG. SUL Y PASG.—Yr oedd yr eglwys hon wedi ei hadd- urno yn hynod ddestlus a. blodau trwyddi oil gan y boneddigesau Miss Burch a Mrs. Barrow, Llanbedrog Cottage. Am ddeg yn y boreu pregethodd y rheithor, y Parch. James Rowlands, i gynulliad mawr ac Rstud oddiar St. loan ii. 19, 20. Gweinyddwyd y sacrament ar ol y bregeth ganddo. Am ddau cynhaliwyd yr Ysgol Sul. Yr oedd yn bresenol 127, ac y mae yn wir aeiiwng 0 sylw nad oedd nifer yr ysgol y pryd y daeth y Parch. J. Rowlands i'r plwyf ond saith. Y mae y cynydd yn fawr ac ystyried nad ydyw yn llawn saith mlynedd er hyny. Am 3.30 cynhaliwyd gwasanaeth Saesneg, pryd y pregethwyd gan y rheithor oddiar St. Luc xxiv. 6 i gynulliad lliosog. Am chwech yn yr hwyr (yn lie pregeth fel arfer) cawsom grynhodeb ardderchog o effeithiau daionus y cyfarfodydd a gyn- haliwyd gan y rheithor gyda'r plant bob nos Fercher trwy dymor y ganaf. Yr oedd yn wir ddymunol canfod cynifer o'r rhieni yn y cynulliad IIiosog. Dechreuwyd v cyfarfod yn y modd arferol, ac wedi myned trwy y Litani, galwodd y rheithor ar y plant i adrodd bob un ei adnod y naill ar ol y llell. Yn y modd hwn adrodd- wyd o'r adnod gyntaf yn St. loan xv. hyd y 16 yn y xvii. Yna aeth rhagddo i'w holi am sefydliad y Pasg- yn mha le, pa fodd, ac i ba ddiben y cadwai yr Israel- iaid yr wyl hon ? Yna symudasant ymlaen at Grist ein Pasg ni," gan ddilyn Ei fywyd o'r preseb i'r groes, y bedd, y codi, a'i esgymad i ogoniant. Profai yr holi a'r ateb bywiog a chywir ymarferiad a llafur mawr, wrth gymervd i ystyriaeth mai plant 0 chwech i bedair f mlwydd ar ddeg oed ydoedd y rhai a ymwnaent mor feistroJgar a'r gwybodaethau mawrion a phwysig hyn. Yr ydym yn gallu ymgysuro ac edrych ymlaen, trwy gymorth addawon disglaer y to ieuanc, i dywyllwch y dyfodol a chanfod parhad ar y llwyddiant anarferol sydd wedi bod ar weinidogaeth ein parchus reithor yn j lie hwn. Eiddunwd iddo hir oes i aros gyda ni, a'r nefoedd barhao i'w noddi. DYDD LLUN.—Gwobrwywyd deiliaid yr Ysgol Sul yn y lie uchod gan y Parch. J. Rowlands a the parti rhagorol, ac hefyd aelodau y G.D.E. sefydledig yn y lie. Erbya tri o'r gloch yr oedd y lliaws ynghyd ger y Rheithordy. Wedi ymffurfio yn fintai rheolaidd gor- ymdeithiasant hyd 0 flaen Glanyweddw Hall, He y can- wyd rhai hymnau dan arweiniad Mr. H. Jones. Oddi- yma aethant hyd 0 flaen Llanbedrog Cottage, lie yr ym- ddygwyd yr un modd; ac oddiyno yn ol at y Rheithor- dy, 0 flaen yr hwn, yn yr awyr agored ac yn ngwres yr haul, y mwynhawyd y wledd. Yr oedd yn bresenol 200 o bersonau, ac yn eu plith yr oedd y beneddigesau a'r boneddigion canlynol-Mrs. Angerstein, Glany- weddw Hall, a'r ladies ieuainc; Miss Burch a Mrs. 1 s Barrow, y Cottage; Miss R. Griffith, CaBtellmarcb Parch. D. R. Morgan, Llangiau; Mri. Parkers Mr. Benson (brawd y Gwir Barch. E. W. Benson, D.D,, Archesgob Caergaint); Mrs. Lloyd Edwards, Nan- horon; ac eraill. Wedi i'r plant. gael eu digoni o'r melusion cymerwyd hwy, dan arweiniad Mr. H. Jones, gae cyfagos, perthynol i'r rheithor, lie y buont yn ifyru eu hunain am amser. Oddiyno arweiniwyd hwy n ol at y Rbeithordy, lie yr anerchwyd hwy yn fyr an Mr. H. Hughes a'r Parch J. Rowlands ar y ddyled- wydd 0 fod yn bresenol yn brydlawn ac yn ymroddgar gyda phob rhan o waith personol a chyffredinol yr Ysgol Sul. Yna wedi i'r rheithor roddi eurafal (orange) i bob nn, ac i Mrs. Lloyd Edwards a'r boneddigesau erail] fwynhau eu hnnain trwy fwrw cawcdydd o fferis i blith y plant, daeth y tret i derfyn.—Am saith yn yr hwyr, gorlanwyd yr Ysgoldy Genedlaethol gan bobl 0 boll ac agos, pryd y cynhaliwyd cyiarfod adloniadol, a llywyddwyd yn rhagorol gan y rheithor, a throdd allan yn un o'r cyfarfodydd mwyrd livvyddiatjus a godidog y buorn ynddo erioed. Agorwyd y cyfarfod gan y llyw- ydd trwy roddi eglorhad ar y darlun ttablean). Yna cafwyd can gan Mr. R. Roberts (Eos y Nant), yn cael ei ddilyn ar y berdoneg gan Miss Angerstein; can gan Mr. W. Wallis, Tanymynydd, yn cael ei ddilyn ar yr offeryn gan Mr. King deuawd, Mr. W. G. T. Jones a Miss G. E. Jones, Madryn House, yn cael eu dilyn ar yr offeryn gan Miss Caldecot; darileniad, Mr. W. Keighway can, Mr. Jones, Police Station, Abersocb, a chwarenwyd gan Mr. King; can, Miss Angerftein, yn cael ei dilyn gan Mr. Angerstein ar yr offeryn deuawd, Mr. W. G. T. Jones a Miss G. E. Jones, yn cael eu dilyn ar yr offeryn gan Miss Ca/decot; darileniad, Mr. H. Jonea; can, Miss Angerstein, yn cael ei dilyn gan ei mam; darlleniad, Mr. Keighway ca-i, Mr. Jones, P.S., Abersoch, yn cael ei ddilyn ar yr citeryn gan Mr. King; can, Mr. W. G. T. Jones, yn cael ei ddilyn gan Miss Caldecott; can gan yr Eos, yn cael ei ddilyn gan Miss Angerstein. Wedi diolch a chanu yr Anthem Genedlaethol, ymadawodd pawb yn llawen, wedi eu boddau yn fawr. Teimlwn yn dra diolch gar i Mri. W. Wallis, R. Roberts, H. King, Misses Burton, Goodeve, a William bach, the little boy, a Mrs. Angerstein, am arddangosiad mor rhagorol.-Tywotyn.
LLANDEILO.
LLANDEILO. Ar y 24ain 0 mis Mawrth gweinyddwyd bedydd Esgob gan ei Arglwyddiaeth Esgob Ty Ddewi yn Llandeilo ar 100 o bersonau, acyn Tall eg ar 40. Pleser mawr oedd gweled Anghydffurfwyr yn eu mysg, yr hyn sydd yn dangos fod yr Eglwys yn parhau yn llwyddianus.— Cynhaliwyd y festri fel arferol, pryd y penodwyd Mr, Thomas Lewis, Grocer, Market Street, yn warcheidwad gan y ficer, a Mr. Hughes, y Banc, a Mr. T. G. Wil- liams, cyfreithiwr, dros y plwyf.-Dydd Mercher heb- ryngwyd gweddillioa Hannah Davies (neu fel yr adna- byddid hi oren, Hannah y Vicarage) i'w hir gartref gan Haws 0 bobl. Bu y drancedig er's blynyddau yn deuluyddes i'r diweddar Ddr. Griffiths. Dioddefodd ond byr gystudd.a bu farw yn 76 mlwydd oed.—Mae lla,w er iawn o siarad wedi bod yn y lie am gael myn- went newydd, a gallwn ddweyd ei bod yn llawn bryd pan ail ddywedwn yr hyn a glywsom gan ein parchuB beriglor, fod dros ugain mil (20,000) wedi en claddu yn mynwent yr Eglwys.-Deallwn fod ein cnrad newydd (Mr. Evans, 0 Llandyssul) wedi dechreu ar ei alwedig- aeth. Dymunwn iddo bob llwyddiant.-T.A.J.
GWRECSAM.
GWRECSAM. CYNGERDD.-Nos Fa wrth diweddaf cynhaliwyd cyn- gerdd ardderchog o dan nawdd Cymdeithas Ddirwest- ol Eglwys Loegr, pryd yr anrhegwyd y Parch. J. P. Lewis, gynt curad Gwrecsam, a, timepiece prydferth, gwerth saith gini. Wrth ei gyflwyno siaradodd y Parch. Canon Howell yn uchel am Mr. Lewis, ac am ei lafnr diflino gyda'r achos dirwestol yn y dref hon. DYDD LLUN PAWB.—Dyma'r enw roddi'r yma ar yr ail LInn wedi'r Pasg. Mae y dref yn gyrchfa miloedd o'r cymydogaethau ar y dydd hwn. Cynhelir hefyd pleasure fair yn y Beast Market, yr hon a barha am ys- paid pythefnos.
ABERTAWE.
ABERTAWE. DAMWAIN DDIFRIFOL.-Dydd Sadwrn digwyddodd damwain ddifrifol yn ngweithiau y Mri. Thomas, Wil- liams, Jenkins, Graig, Abertawe. Ymddengys fod ceffyl a throl yn y chwarel ar y pryd uwchlaw y graigi a nifer 0 ddynion yn gweithio gyda'r ceryg islaw, pan rywfodd neu gilydd y cwympodd y ceffyl dros y dibyn ac y maluriwyd ef a'r drol.
RHYMNI.
RHYMNI. DYDD LLUN Y PASG.-Enwogodd cantorion Rhymni eu hunain yn fawr trwy enill ar y ddau brif ddarn yo Eisteddfod Abergavenny. En harweinydd ydoedd Mr. John Price, arweinydd cdr Cymraeg yr Eglwys. Yr oedd lliaws o'i gõr ei hunan yn canu yn y cor undebol, a chynorthwywyd ef gan brif gantorion y He, a rhai 0 Pontlottyn. Y darnau oeddynt, All we like sheep have gone astray," o'r Messiah," a Round about the starry throne," gwaith arall 0 eiddo Handel. MeW» tair wythnos dysgodd y cor y ddau ddarn yn rhagorol, ac yr oedd yn fraint i'w clywed yn canu. Canasant yn yr eisteddfod yn y fath fodd fel (er fod yna gorau da yn canu) nad oedd yn anhawdd dweyd pwy oedd y goren. Am y prif ddarn yr oedd gwobr o f90, a chor John Prioe a'i henillodd. Ac am yr ail ddarn yr oedd gwobr o X20, a'r un c6r a'i henillodd. Mewn cystadleuaetb mor bwysig nid anrhydedd bychan oedd bod yn fuddugo} ar y ddau ddarn, tra yr oedd y corau eraill yn rhoddl eu holl nerth i feistroli un o'r darnau. Y mae'r llwydd- iant yn ddiameu i'w gyfrif i ddau beth, sef rhagoriaetb lieisiau y cantorion, a rhagoriaeth barn a chwaetb goethedig eu blaenor, yr hwn sydd erbyn hyn yn cael ei gydnabod yn un o'r conductors mwyaf galluog a fedd y wlad. Y mae effaith ei chwaeth a'i farn i'w weled yn amlwg ar ganu y gynulleidfa Gymraeg yn Rhymn'* Ac yr ydym yn faloh fod talentau disgleiriaf ein avvio yn cael eu cysegru i wasanaeth ein Heglwys. Y m0# eisian pob dawn a thalent arnom i beri llwyddiant yn yr Eglwys; ac y mae yn argoeli yn dda pan y gwelir Y rhai sydd yn enwogi eu hunain yn y gelfyddyd o ganu y° ymroi i berffeithio gwasanaeth y cysegr. Hir oes i'" blaenor i wasanaethu ei genedl i'i Eglwys.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. Rhagorol iawn I Cawn fod y Parch. T. Davies, fle"- parchus Amroth, wedi ymgyfnewid 0 fod yn unigOI901 fod yn lliosogwr (pluralist) trwy ei benodiad i fy\ol' iaeth Eglwys Lwyd, hefyd. Yn ystod yr amser by* i mae wedi bod yn Amroth y mae wedi gwneuthur gwa1* rhagorol, ac felly wedi dangos ei hun yn olynydd g J* deilwng o'r diweddar Barch, W. D. Phillips, un of offeiriaid goreu a fagodd Cymru erioed. Heddwch 1 ? lwch. Dywedir i ni y byddai yn arfer ymweled & un o'i blwyfolion bob pythefnos. Gwir yw fod Cornish, ficer Eglwys Lwyd, yr hwn sydd newydd aj ddiswyddo oblegid gwaeledd ei iechyd, yn cymeradwy a llwyddianus, a gair da iddo gan bawb y mae o werth cael en gair da. Credwn y byd1 cyfaill ieuanc (bychan 0 gorpholaeth) a'i briod baW^ gar, os cant fywyd ac iechyd, gario ymlaen yr hyp mae Mr. Cornish wedi ei ddechreu mor dda, fath Iwyddiant ag a dry Eglwys Lwyd yn Eglwy9 ryw bryd yn y dyfodoL edd PBIODAS FICER LLANTIHANGEL ABERCOWIN.—YR 0 FTA dydd Mawrth diweddaf yn ddiwrnod y llytby*6 0\ cochion (red letter day) yn Llangain a Llanfiba B J- trwy ymbriodiad y Parch. W. Davles'well Miss Gwyn o'r Cwrthir (Llangain).. yp done ein hen gyfaill anwyl Bydd yr unce _0j; golled i Llangain, ond yn enill mawr i Llanfib0, j> ej Ar ol ei hir weddwdod wele ef wedi cael gafael J jjj Efa anwyl o'r diwedd. Iechyd a bywyd hir idoy. deuoedd. Y mae efe wedi bod yn weithiwr ^ftggio yma. Yn awr bydd ganddo ymgeledd gymwys v peO y pen arall i'r rbwyd gydag ef, a chyda nawdd y 0Ot Mawr bydd eu hymdrechion yn Llanfihangel llwyddianus ag ydyw wedi bod hyd YD39, OeIlit Eiddunwn fendith y nefoedd ar en nundeb. all dweyd ei fod ef wedi cael ei wynfyd yn ei ty ■y ddechreu. Ar ol gorphen eu diwrnod ^J^jfldy winllan, Gwynfa fyddo'n gartref tragwyddol r^aid Gan fod fy llythyr wedi myned dipyn yn falt gordd 0 ymatal rhag ychwanegu dim y tro hwn mewn