Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

ABERAERON.

FELIN FOEL.

LLANLLECHID.

LLEYN A'R AMGYLCHOEDD.

News
Cite
Share

LLEYN A'R AMGYLCHOEDD. Er nad oes ond ychydig ardaloedd yn Nghymrn yn fwy enwog 0 ran gwaith creadigol, celfyddydol, a brwd- frydedd i sefyll i fyny a'r enwogrwydd hwn na Lleyn, gwlad dawel y blodau, gwlad masnach a chelfyddyd, a gwlad byfryd a fu'n ddinas uoddfa i'r hen seintiau gynt pan yr oedd erledigaeth yn arllwys ei wermod i gostrelau y rhai a gyfenwid ar enw Crist; eto, rywfodd neu gilydd, anfynych y gwelwn yr enw ar dudalenau Y LLAN. Ond os byddwn byw ac iach, yr ydym yn mawr hydern na fydd y cwbl o'r gorphenol yn digwydd eto yn y dyfodol am Lleyn a'i hatngylchoedd. Draw, ar y terfyn yr wyf yn clywed "mwy 0 swn nag o sylwedd gan y cyfreithiwr 0 Griccieth yn nghylch yr Eglwys, yr offeiriaid, y degwm, a'r dadgysylltiad. Cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig i drin y pwnc (ac fe'i triniwyd yn feistrolgar) yn Porthmadog, a chafodd y gwalch hunanol 0 Eifionydd ei chwalu yn chwilfriw, a'i ddadansoddi yn y modd mwyaf deheuig. Un tebyg iawn ydyw i'r llygoden a'r rhyngen-cryn lawer 0 gecraeth a'r danedd yn pylu—byrdwn, diffyg treuliad. Nid oes neb yn hoff iawn o ddweyd ymadroddion caled am brif ddinas, neu dref ei ardaloedd ei bun; a'i reswm efallai, am ei fod yn gwneuthur felly ydyw gwirionedd yr hen ddiareb, Llawer gwir goreu ei gelu ond am Pwllbeli, y mae mewn mwy nag un ystyr yn ateb i'w henw—Pwll hallt. Deallaf fod yno lawer 0 gynllwyno yn myned ymlaen yn erbyn Eglwys Dduw, yn erbyn yr awdurdodau, a boneldigion ein gwlad, a gwnant eu goreu i ledaenueu surdoes ynnghymydogaetbau Lleyn. yn anghyffredin am nad ydynt yn cael digon 0 "ryddid" i chwythu yn eu hudgorn prer ac ant allan ar hyd a lied y wlad i chwilio am laid i'w daflu i wynebau pobl nid yn unig sydd yn anrhydedd ond yn fendith i gymdeithas. Ystyriaf y weithred yn ddigon ffiaidd ynddi ei hun; ond pan gofiaf am yr amser a ddefnyddir gan y bodau anghrefyddol hyn i ddwyn eu gwag am- canion i gwbihad, ac befyd y lleoedd cysegredig a sengir dan en traed, braidd na safui fy ngwallt gwyn i fyny ar fy mhen. Y weithred, dan flaen bysedd deheulaw Judas, yn myned o awgylch eglwysi ein gwlad i chwilio am ddefnyddiau i wnenthur erthyglau celwyddog yn y newyddiaduron Ymneillduol. Y maent yn parotoi tuag at y wasg tra y mae y gwasanaethau yn myned ymlaen, yr hyn sydd yn warth i neb a alwant eu hunain yn Gristionogion. Fe ddywed y pedwerydd Gorchymyn am iddynt gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth," ond yn ngwyneb moes a chrefydd, y maent hwy yn treulio am iddynt gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth," ond yn ngwyneb moes a chrefydd, y maent hwy yn treulio Dydd yr Arglwydd i ddarpar gogyfer &'r Genedl neu'r Herald Bach. Ac nid oes yr un gronyn 0 gywilydd arnynt i droi i fewn, a gwneuthur y cysegr sanctaidd yn rhyw fath 0 swyddfa i ysgrifenu y gwagedd mwyaf chwerthingar i ddifyru dosbarth gweithiol ein gwlad am yr wythnos ddyfodol. Efallai fod y dynionach uchod yn meddwl eu bod hvy yn dragwybodus ahynod wasanaethgar yn eu cenhedlaaetb, ac nad oes yr un amheuaeth na chant berffaith lcnyddwch i weithio eu direidus amcanion allan, ond yr wyf fi yn bwriadu eu gwylio yn bur ofalus yn y parthau hyn, a'u dangos "yn ngwyneb haul a llygad goleuni," oblegid cywilydd iddynt hwy yw adrodd y petbau a gyflawnant ar wyneb y tir a fn unwaith yn gyrchfa miloedd o saint a phererinion, fel y byddo'r byd yn gweled fel y mae crefydd yn cael ei llygru gan y gwybed meirw" yma a ledant eu hesgyll cyn y gwelont Hinon Haf. -Paul.

CORWEN.

LLANGOWER.

ABERMAW.

---TALSARNAU.

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANDDAROG.I

PONTLOTTYN.

LLANBEDROG.

LLANDEILO.

GWRECSAM.

ABERTAWE.

RHYMNI.

HENDY GWYN AR DAF.