Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

ABERAERON.

FELIN FOEL.

LLANLLECHID.

News
Cite
Share

LLANLLECHID. MABWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.-Mae genyf y gor- chwyl pruddaidd 0 gofnodi marwolaeth un 0 aelodau yr Eglwys yn y lie uchod, sef Margaret, anwyl briod y diweddar Owen Jones, Fignant, Llanllechid, yr hyn a gymerodd Ie ar y 30ain cynfisol, ar ol cystudd maith a phoenus, yn 62 mlwydd oed. Dydd Iau dilynol daeth torf fawr 0 bell ac agos i daln y gymwynas olaf i'r ym- adawedig. Gweinyddwyd wrth y ty, yn yr Eglwys, ac ar lan y bedd yn hynod deimladwy gan y Parch. W. Morgan Jones, B.A., cnrad y lie. Canodd y cor wrth y ty, ar y ffordd, o borth y fynwent i'r Eglwys, ac ar lan y bedd 0 dan arweiniad Mr. T. Pierce (Coetnor). Heddwch i'w llwch. MARwoLAETH ETo.-Ar ol cystudd maith am ddwy flynedd a haner bu farw John Morris Owen, Bryn Pistyll, Caellwyngwydd (gynt 0 ben y Braicb), yr hyn a gymerodd le nos Sadwrn y 7fed cyfisol, yn 54 mlwydd oed. Gadawodd yn yr anial i alarn ar ei ol weddw, pedwar o feibion ac un ferch, a lliaws o berthynasau. Gobfithio y bydd i Dduw lanw ei addewid, sef i fod yn briod i'r weddw a thad i'r amddifad. Bydd yr angladd yn cymeryd lie prydnawn dydd Sadwrn (yfory), am 2.30, yn mynwent Eglwys y plwyf. ETHOLIAD Y BWRDD LLEOL.—Dyma brif ystori pawb ar hyd yr wythnos ddiweddaf. Pwy, a pha rai o'r pedwar ymgeigwyr yw y gwyr cymhwysaf ar y bwrdd uchod ? Rhanwyd papyrau etholiadol ymhob ty trwy y plwyf dydd Iau, y 29ain cynfisol, a'r dydd Gwener canlynol casglwyd hwynt. Dydd Sadwrn drachefn agorodd y swyddog etholiadol seiliau y blychau, a dechreuwyd cyfrif am 11 y boren. Gwnaed canlyniad yr etholiad yn bysbys am bump o'r gloch yn y pryd- nawn. Fel hyn y safaiy pleidleisiau:—Richard Evans, 788; George Brymer. 758 John Jones, 711; William C. Hughes, 358. Y t'i cyntaf sydd yn etholedig. Hyderwn y gwnant waith da a thynu y trethi i lawr yn yr amser caled yma ar ol en dewis. WARDENIAID.—Enwyd y wardeniaid i fod am y flwyddyn ddyfodol ar Sal y Pasg, sef, Mri. Henry Roberts, Corbris, Llanllechid, a Griffith Jones, 43, Walter Street, Rachub, Llanllechid. -John Davies.

LLEYN A'R AMGYLCHOEDD.

CORWEN.

LLANGOWER.

ABERMAW.

---TALSARNAU.

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANDDAROG.I

PONTLOTTYN.

LLANBEDROG.

LLANDEILO.

GWRECSAM.

ABERTAWE.

RHYMNI.

HENDY GWYN AR DAF.