Skip to main content
Hide Articles List

17 articles on this Page

ABERAERON.

News
Cite
Share

ABERAERON. DYDD LLUN Y PASG.—Yr oedd hwn, fel arferol, yn ddiwrnod mawr yn Aberaeron. Yr oedd y dydd yn argoeli troi allan yn anffafriol tua naw o'r gloch yn y boren, pan oedd y cymylau yn chwareu yn fygythiol nwch ein penau, ond trodd allan, wedi'r cyfan, yn ddiwrnod dymunol iawn. Er's blynyddan meithion y mae yn arferiad ar LInn y Pasg i Ysgolion Sul yr Eglwys yn y gymydogaeth ddyfod i Aberaeron i gy- meryd rhan yn yr hyn a elwir yn gyffredin y Pwnc." Daeth yr Ysgolion Sul canlynol at eu gilydd y tro hwn, gan gymeryd rhan yn ngweitbrediadau y dydd :-Llan- ddewi-Aberarth, Llanbadarn, Dihewid, Llanerchaeron, Llanarth, ac Aberaeron. Holwyd hwy yn y darnau etholedig o'r Ysgrythyrau gan y Parchn. D. Richards, Llandysilio-gogo R. Williams, Llanerchaeron; E.! Thomas, Llanarth a D. Griffiths, Ceinewydd. Cy- merodd y tair flaenaf eu tro yn ngwasanaeth y boreu, a'r tair olaf yn y prydnawn. Yr oedd yr adrodd, yr atebion, a'r canu yn wir dda drwy y dydd-yr oedd fel y dywedodd un yn gyhoeddus, yn y man a'r lie, yn fendigedig." Pa un a oedd felly ai peidio, gallwn ddweyd heb un petrusder fod y gwaith drwy'r dydd yn wir dda. Yr oedd 61 llafur yn ganfyddadwy ar y cyfan. Rhwydd hynt, meddaf fi, i'r achos teilwng a chanmol- adwy hwn, a gresyn na fyddai rhywbeth tebyg iddo ymhlith Eglwyswyr pob cymydogaeth. Rbaid rhoddi gwaith i'r to sydd yn codi neu eu colli. Wrth roddi digon o waith iddynt byddwn yn debyg o'u cadw-Ye, ac enill rhagor atynt. Ati, ynte, 0 ddifrif, yn y cyfeiriad hwn.M. J.

FELIN FOEL.

LLANLLECHID.

LLEYN A'R AMGYLCHOEDD.

CORWEN.

LLANGOWER.

ABERMAW.

---TALSARNAU.

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANDDAROG.I

PONTLOTTYN.

LLANBEDROG.

LLANDEILO.

GWRECSAM.

ABERTAWE.

RHYMNI.

HENDY GWYN AR DAF.