Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
ESGOB CYNORTHWYOL ARALL.
ESGOB CYNORTHWYOL ARALL. Y mae Arglwydd Esgob Ripon wedi penodi esgob cynorthwyol i gymeryd gofal o'r rhan ogleddol o'i esgobaeth. Drwy farwolaeth yr Esgob Ryan daeth eglwys-fudd Stanhope yn wag, Y mae gwaddol y plwyf hwn yn werth zCI,650 yn flynyddol, ac y mae yr Esgob wedi apwyntio Canon Pulleine fel rheithor, ar y dealltwriaeth ei fod i gael ei gysegru yn esgob cynorth- wyol. Y mae cynllun yr Esgob wedi derbyn cymerad- wyaeth, ac yn fuan adnabyddir Canon Pulleine fel Esgob Penrith. Gwneir dapariaeth gogyfer a phlwyf Stanhope drwy apwyntio dau o guradiaid. Y mae nifer yr esgobion cynorthwyol yn cynyddu, ac y mae y dadblygiad hwn yn mheirianwaithyr Eglwys yn arwydd fod ei gwaith yn cynyddu, a'i hathrawiaethau a'i heg- wyddorion yn eni'l tir.
BOREU DDYDD IAU.
BOREU DDYDD IAU. Y SENEDD Treuliwyd yr oil o'r eisteddiad yn Nhy y Oyffredin ddoe i ymdrafod a Mesur Gwydd- elig a ddygwyd ymlaen gyda'r bwriad o agor Cwestiwn y Tir unwaith yn rhagor, ond gwrthodwyd yr ail ddarlleniad drwy fwyafrif o 50. —^ —
NODIADAU O'R DEHEUMR.
NODIADAU O'R DEHEUMR. Y WASG EGLWYSIG. Y mae yn ddrwg genyf weled fod llawer 0 blwyfi heb dderbyn na chefnogi Y LLAN. Y mae hyn yn gywilydd ac yr wyf yn gobeithio y gwnewch ddangos eu hanffyddlondeb i'r byd. Yn enw pob rheswm, paham na wnaiff Eglwyswyr Cymru iwy o ddefnydd o'r Wasg Gymreig i amddiffyn yr Eglwys a thaenu ei hegwyddorion ymhlith y 11 15 werin Gymreig ? Am yr haner can' mlynedd diweddaf, yr wyf yn cofio yr un achwyniad am ddiffyg cetnogasth i'r Wasg Gymreig. Mae mwy 0 angen yn awr nag a fu erioed i bleidio y Wasg Eglwysig, am fod gelynion yr Eglwys yn ymosod arni 0 bob cyfeiriad. Y Moabiaid a'r Hagariaid yn ymgwplysu ynghyd i'w dinystrio. YMNEILLDUAETH YN NGHYMRU. Mae gwahaniaeth rhwng Ymneillduaeth ein dyddiau ni a hen Ymneillduaeth. Yr oedd yr hen Ymneillduwyr yn wir grefyddol yn ol y goleuni oedd ganddynt; ond mae y cwb! wedi eyfnewid politics yn lie crefydd sydd yn meddianu eu pwlpudau; yn lie heddweh ceir ymladdau a chyneuau mewn capelau. Mae hanes yr ym. rafaelion yn nghapel Hermon, Cynwyl, yn warth i Gristionogaeth ac yn dwyn anfri ar grefydd bur a dihalog. Yehydig Suliau yn ol cymerodd ffrwgwd Ie yn yr un capel, hwtio y pregethwr, a'i rwystro i fyned i'r pwlpud ac ar ol y ewbl yr ydym yn cael yr un dynion yn cadw cwrdd gweddil Nid oedd hyny ddim ond cabledd a rhyfyg, arswydus. Cyhoeddir ar lwyfanau y dadgysyllt- iad nad yw yr Ymneillduwyr yn apelio at y gyfraith i benderfynu materion sydd yn perthyn i grefydd ac ar yr un pryd yr ydym yn darllen fod yr heddgeidwaid yn nghapel Hermon yn cadw yr heddweh a methodd y brodyr (?) benderfynu eu hachos, heb apelio at ynadon Sir Gaerfyrddin, a methodd y fainc roddi ei dyfarniad, am fod cymaint 0 groes dyngu rhwng aelodau Hermon, capel yr Independiaid. Edrychwn eto ar farbar- eidd-dra anghenfilaidd plant yr Ymneillduwyr yn halogi Ty Dduw yn yr Eglwyswen, Sir Benfro Nid oedd anffvddwyr Paris yn amser y chwyl- droad mawr ddim llawer gwaeth na gwylliaid Sir Benfro. YR UNDEBWYR A'U EHAGOLYGON. Prophwydoliaeth anffortunus iawn oedd prophwydoliaeth Mr. Gladstone pan y daroganodd y buasai iddo enill y fuddugoliaeth un diwrnod a bod y llanw o'i .ochr, ond yn lie nofio ar y llawn for gorfu iddo ef a'i blaid daflu eu hunain ar y trai isel, ac maent yn gorwedd ar greigiau 0 laid ffiaidd a drygsawrus. Yn lie enill etholiadau oedd ef yn ymddibynu arnynt aeth yr enill dros- odd i'r ochr arall. Hyd yn nod yn Nghymru, ac mewn etholiadaeth ag oedd yn cael ei hy. tyried y gadarnaf yn Mhrydain, beth oedd y canlyniad ? Tynodd Mr. Llewelyn y mwyafrif i law): wrth y miloedd er cymaint 0 hyawdledd a wastrafifwyd a chymaint 0 ddifriaeth a ollyngwyd gan ysgraglach politicaidd. Mae yn wir i'r Home Ruler fyned i fewn gyda chroen ei ddanedd, mewn cymhariaeth i etholiadau 1885-6. Rhoddodd etholiad di- weddaf Browyr ergyd enbyd i'r Yegraglywyr nes eu syfrdanu, a chymeryd y gwynt allan o'u hwyliau. Bydded i'r Undebwyr ddyfal-barhau, cadw y pylbr yn sych, perflfeithio eu trelniadau, a pheidici llaesu dim yn eu hymdrechion. FESTRI Y PASG. Yn y blynyddoedd diweddaf yma y mae Ym- neillduwyr a dynion digrefydd yn eymeryd mantais ar y cyfarfodydd hyn i faeddu yr offeir- iaid. Gwnawd hyn yn Merthyr, Canton, a Rumney. Yr oedd ymddygiadau y cynhyrfwyr yn gywilyddus 0 isel, ac hollol annheilwng 0 ddynion oedd yn parchu eu hunain. EGLWYS GYMRAEG CAERDYDD. Y mae yn achos o lawenydd i bob Eglwyswr fod yr achos Cymraeg mor llwyddianus a bod ei ragolygon mor obeithiol. Cafodd Cymry Caer- dydd gam dybryd am hir flynyddoedd, yr oeddynt fel defaid heb un bugail. Collodd yr Eglwys lawer o'i phlant trwy y difaterwch anesgusodol hwnw. Hudwyd hwy oddiwrth eu mham, I isagno llyefam afiach," am na wnaeth yr Eglwys ddarpariaeth ar eu cyfer. Yr oedd 54 yn cyfranogi o'r Cymun Bendigaid Sul y Pasg. Nid oes amheuaeth nas gellir cael dwy gynulleidfa Gymreig yn Nghaer- dydd. EGLWYS RYDD ST. PAUL, CAERDYDD. Nis gall ymraniadau Iwyddo yn hir, ond nis gall llawer weled fod dim allan o le mewn ym- bleidio ond mae yn cael ei wahardd yn y Testa- ment Newydd yn bendant:— Os oedd ymenwi yn beth fiol Ar enwau Paul a Chephas, Ai yw ymenwi ar enwau llai Yn beth difai ac addas ? Un Bedydd sydd, un Tad, un Ffydd, Un Arglwydd ao un Iesu, Mae'n feddwl trwm, mae'n feddwl trist, Wahanu Crist a'i ranu." Flynyddoedd yn ol torodd sect allan o'r Eglwye yn Nghaerdydd, a galwodd ei hun yn Eglwys Rydd." Gwnaeth Lyfr Gweddi ei hun, a chod- wyd eglwys haiarn, ond yr oedd yn wastad mewn helbul arianol, ac o'r diwedd gwerthwyd hi; ac y mae yn awr yn meddiant y Parch. G. A. Jones, ficer St. Mair, a bydd yn cael ei defnyddio gan yr Eglwys o hyn allan. Dechreuodd yr un sect achos yn Roath, ond ni lwyddodd. Cafodd ei chau i fyny yn fuan, ac y mae hi yn awr yn nwy. law y Wesleyaid. RHEIDIOL.
CYMDEITHAS LLEDAENIAD YR EGLWYS…
CYMDEITHAS LLEDAENIAD YR EGLWYS YN ESGOBAETH LLANDAF. Cynhaliodd y gymdeithas hon ei chyfarfod blynydd- ol ddydd Iau diweddaf yn Neuadd y Dref, Caerdydd, o dan lywyddiaeth Archddiacon Mynwy. Cyflwynwyd adroddiad Mynyddol y pwyllgor i'r cyfarfod, ac ar ol yeth ystyriaeth cafodd ei fabwysiadu, a phasiwyd pen- derfyniad i'w argraffu. Yn yr adroddiad dan sylw eyfeiri y pwyllgor at y golled drom a ddioddefodd y gymdeithas drwy farwolaeth Mr. Howel Gwyn. Oddiar yr amser pan y sylfaenwyd y gymdeithas yr oedd Mr. Gwyn wedi cymeryd dyddordeb dwfn yn ei gwaith, ac wedi gweithio gyda dyfalbarhad er mwyn estyn cortyn- au ei dylanwad. Am 37 mlynedd gweithredoedd fel un o ymddiriedolwyr y gymdeithas, a bu yn ystod y blynyddau hyn yn gyfranwr hael tuag at ei hamcanion. Hysbysa yr adroddiad yn mhellach fod cyllid y gym- deithas yn annigonol i gyfarfod a'r galwadau a wneir am gynorthwy, a thaer erfynir am roddion ychwanegol er mwyn galluogi y pwyllgor i helaethu maes eu llafur. Y mae naw o blwyfi yn bresenol yn curo wrth ddor y pwyllgor ac yn gofyn am gymorth. Etholwyd Arglwydd Esgob Llandaf yn ymddiriedolwr yn lie Mr. Howel Gwyn. Ar ol pasio y pleidleisiau arferol o ddiolchgarwch i swyddogion y gymdeithas, terfynodd v cyfarfod.. J J
DYRCHAFIAD EGLWYSIG.
DYRCHAFIAD EGLWYSIG. T. ^-I'glwydd Ganghellydd wedi dyrchafu y Parch. L. David, ficer Amroth, Penfro, i eglwys-fudd Lndchurch, yn yr un sir, fel olynydd i'r Parch. C. Cornish, yr hwn a ymddiswyddodd yn ddiweddar.
DEONIAETH WLADOL CROESOSWALLT.
DEONIAETH WLADOL CROESOSWALLT. Deallwn fod y Parch. R. E. Price, rheithor Llany- mynech, wedi ei apwyntio fel Deon Gwladol Croesos- wallt. Ei ragflaenydd ydoedd y Canon Howel Evans, yr hwn sydd yn ymadael a'r gymydogaeth.
EGLWYS-FUDD PONT MENAI.
EGLWYS-FUDD PONT MENAI. Y Parch. D. Jones, rheithor Niwbwrch, Mon, ydyw ficer newydd Pont Menai. Drwy ei ddyrchafiad y mae Niwbwrch yn wag, Yr Arglwydd Ganghellydd ydyw noddwr y plwyf olaf.
Y DIRPRWYWYR EGLWYSIG.
Y DIRPRWYWYR EGLWYSIG. Cyhoeddodd y dirprwywyr eu deugeinfed adroddiad blynyddol yn ddiweddar, yn yr hwn y ceir mynegiad o'u gwaith mewn ystyr arianol oddiar sefydliad y ddir- prwyaeth. Y maent wedi cynorthwyo i sefydlu 5 500 o eglwys-fuddion yn ystod y deugain mlynedd diwedd- af. I gyfarfod rhoddion y dirprwywyr y mae y plwyfr hyn wedi casglu yn yr un cyfnod y swm o £ 5,500,000, Rhydd yr adroddiad hwn syniad i ni o eangder gwaith yr Eglwys a'r adnoddau y mae hi yn gasglu er mwyn dwyn ei gwaith ymlaen gydag eSeithiokieb.
LLANISHEN.
LLANISHEN. Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf claddwyd gweddillion marwol y Parch. T. Rees yn mynwent y plwyf. Yr oedd nifer o offeiriaid yn bresenol, ac yr oedd anvyddion o alar cyffredinol ar ran y plwyfolion yn ganfyddadwy ar bob Haw. Y mae noddwr yr eg- lwys-fudd, sef Colonel Kemeys-Tynte, Cefn Mably, wedi enwi y Parch. E. Morgan, curad St. Andreas, Caer- dydd, fel olynydd i'r diweddar ficer. Adnabyddir Mr. Morgan fel gweithiwr caled a phregethwr galluog, ac y mae Llanishen a Llysfaen i'w llongyfarch ar ei apwynt- iad. Eiddunwn bob bendith a llwyddiant i'r bonedd- wr parchedig yn ei gylch newydd. Bydd yn dda gan ei gyfeillion lliosog glywed am ei ddyrchafiad, Ar ddydd Sul y Pasg cynhaliwyd naw o wasan- aethau yn Eglwys Fair, Kensington, Llundain. Yr oedd y cymunwyr yn rhifo 1889, a'r offrwm yn zCl 16 12s. Ie. Yr oedd yr eglwys eang yn orlawn, ac yn mhrif wasanaeth y dydd bernir fod 500 wedi gorfod sefyll yn ystod yr addoliad. Dydd Sul nesaf pregethir gan y Parch. H. Ryle, diweddar brif athraw Coleg Dewi Sant, Llanbedr, yn Westminster Abbey. Dyma y tro cyntaf i Mr. Ryle b regethu yn y brlf-ddinas. Yn ystod yr wythoos o flaen y Pasg cauwyd dim llai nag wyth o brif chwareudai Llundain. Dyma dystiolaeth gref a diamwys fod egwyddorion Eglwysig yn dylanwadu yn helaeth ar arferion cymdeithasol Llundain. Y mae Mr. H. J. Atkinson, A.S., yn bresenol ar ymweliad & Cristiana. Yn y ddinas y mae eglwys yn perthyn i Eglwys Loegr, ar yr hon y mae dyled o X450. Er mai Wesleyad ydyw Mr. Atkinson, y mae wedi ymgymeryd a'r gwaith o glirio y ddyled. Tybiwn fod ysbryd John Wesley yn rheoil y boneddwr uchod, a'i fod am geisio ymddwyn tuag at ei fam ysbrydol yn yr un modd a'r Eglwyswr zelog hwnw.
;¡.,..... TAN DINYSTRIOL YN…
;¡ TAN DINYSTRIOL YN MERTHYR TYDFIL, DENG MIL 0 BUNAU 0 GOLLED. Derbyniwyd brysneges brydnawn heddyw fod darllawfa Mr. Evans, Six Bells, Penyr- heolgeryg, gerllaw Merthyr Tydfil, wedi ei lwyr ddinystrio gan dan, ac amcangyfrifir y colledion yn ddeng mil o bunau. JLlwydd- odd Mr. Evans a'i deulu i ddianc mewn pryd, onide buasai y canlyniadau yn alaethus. Ni wyddis pa fodd y dechreuodd y tan, ond deallwn y bydd i ran fawr o'r golled gael ei wneyd i fyny gan gymdeith- asau yswiriol. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. Evans yn ei brofedigaeth.
GWERTHU CWRW HEB DRWYDDED.
GWERTHU CWRW HEB DRWYDDED. DIRWYON TRYMION. Yn llys ynadon Caerdydd heddyw ded- frydwyd Margaret M'Kay, 5(5, Milton Street, Roath, i dalu f;5 a'r costau am werthu cwrw heb drwydded, ac am gyftelyb drosedd gorchymynwyd i John O'Neill, 65, Milton Street, dalu 21.0 a'r costau neu fyned i'r carchar am ddau fis.
MARWOL AETH DRWG-DYBUS YN…
MARWOL AETH DRWG-DYBUS YN LLANDAF. Heddyw darganfyddwyd corff dynes o's enw Mary Griffiths yn y gamlas gerllaw Llandaf, a bernir oddiwrth y briwiau sydd ar ei chorff iddi gael ei llofruddio. Cyn- helir trengholiad ar y corff pryduawn ddydd Iau.
TYWYSOG A THYWYSOGES CYMRU.
TYWYSOG A THYWYSOGES CYMRU. 0 Mae anrheg werthfawr wedi ei hanfon i Dywysog a Thywysoges Cymru, at vr hon y cyfranwyd gan frodorion 32 o Drefedigaeth- au Prydemig, heb gynwys y Trefedigaethau Awstralaidd, y rhai a anfonant anrheg yn fuan.
YMWELIAD Y FRIF vVEINI-DOG…
Eiliwyd ,;y cynygiad yn Gymraeg gan Mr. yon, Peniarth, a phasiwyd ef yn unfrydol. 1 an gyfododd Ardalydd Salisbury ar ei draed i iolch, yr oedd y brwdfrydedd yn annisgrifiadwy, gan fod y miloedd oeddynt yn bresenol wedi cyfodi ar eu traed, ac yn cliwifio eu cadachau, &c. iau na chafodd unrhyw Brif Weinidog dderbyn. lad mwy urddaeol nag a gafodd Ardalydd Salis- oury yn Nghaernarfon ar yr aehlysur prosenol. Wedi i'r brwdfrydedd derfynu, diolchodd ei arglwyddiaeth i'r dorf am eu croesawiad caredig, adgofiodd hwynt ei fod wedi ymweled a Gog- 'edd Cymru dair blynedd yn ol, pan y cafodd Werbyniad croesawgar, ac y traddododd araith l(uynt. Yr adeg hyny yr ydoedd y Ceidwadwyr Yay lleiafrif yn y Senedd, ond nid oedd felly yn i?** (Oymeradwyaeth.) Yr adeg hono—Mai, 1885—dywedai fod y Ceidwadwyr ar yr oehr ^rthwynebol i'r Ty. Yr ydoedd mesur diwygiad- taawr wedi ei basioyn ddiweddar, ac yn nghwrs J* ymdrafodaeth cafwyd, drwy bleidleisiau yr frglwyddi, i Dy y Oyffredin gymeryd dan ystyr- hawliau etholwyr y wlad. I bob diben, yr oedd y mesur wedi ei basio, ac yr oeddynt ar y Pfyd yn disgwyl y canlyniad, a dywedai eu gwrth- wynebwyr ar y pryd mai canlyniad pasiad y llleaur fyddai difodiad y blaid Geidwadol yn holl- 01. (Chwerthin.) Prophwydai rhai yn y rheng- ledd Ceidwadol mai dyna fyddai y diwedd, tra yr Oed a eu gwrthwynebwyr yr un mor benderfynol Yn eu barn am y canlyniad. Nis gallent beidio j^fych yn ol at yr adeg hono gyda diolchearwch, cYn enwedig pan gofiom yr adeg—pan y derbyn- td Qewyddion brawychus o Affghanisfcan a'r Aipht, ond yr oedd pethau yn hollol wahanol yn awr, ac Yt oedd ganddynt hawl i longyfarch eu gilydd ar y tWQhaniaeth a fodolai yn awr rhagor yr adeg £ 0Qo. (Oymeradwyaeth.) Yna cyfeiriodd ei ^glwyddiaeth mewn modd teimladwy at farwol- diweddar Ymerawdwr Germani, yr hwn, Telitdai yr Ardalydd, ydoedd yn esiampl i'r byd eI teyrn heddychol. Gyda golwg ar yr Ymer- ^dwr presenol, yr ydoedd wedi cyflawni disxwyl- pawb ymhob cyfeiriad. (Oymeradwyaeth.) ytQunai hir oes i'w Uchelder, ac yr oedd yn sicr Y fyddai hyny er daioni i bob cenedl. Gyda soiwg ar faterion tramor, datganai yr Ardalydd et grediniaeth, fel yr ydoedd wedi hysbysu mewn ^ryw gyfarfodydd yn flaenorol, fod pob llyw- yn Ewrop yn gwneyd ei oreu i gadw v* heddweh. Cyfeiriodd Syr Watkin ac Arglwydd ^earhyn at y mesurau a gwladly wiaeth bresenol llywodraeth, ond yr oedd eu gwrthwynebwyr ff «aeru mai dilyn yr hyn a fabwysiadwyd gan y 'ywodraeth flaenorol yr oeddynt. Os oeddynt Yn golygu gwladlywiaeth Arglwydd Rosebery am ysbaid o chwe' mis y bu mewn swydd, nid ganddo lawer i'w ddweyd ar y pwnc, ond yr °Qdd yn rhaid iddo fynegu yn bendant mai nid Swladlywiaeth Arglwydd Granville, gyda golwg faterion tramor, a arferid gan y Llywodraeth JJesenol. (Oymeradwyaeth.) Heb fyned i fan- y ion, gofynai iddynt ystyried y wladlywiaeth yn 1^'a ihaf?r hyn ydoedd pan yr oedd Arg- adweth )raYn v ^ewn f8W7dd\ (C.ymer- Iwyddiaeth gyda Ie nesaf' Biara?°,dd e} rhwng CeidS golwS ar ?x un(3eb a fodolai Dywedai W .w?r ac Undebwyr y deyrnas. Undebwyr wJ- furn ddidduedd ydoedd fod yr Senedd. 0 gyaorthwy mawr i'r neb oi* yn dymuno nac yn disgwyl i Sar am D?3? a'i blaid, ond teimlai yn ddioich- ^iQladau da a'r gwresogrwydd a ar- canrv^i8^ ^an y blaid Undebol. Mewn iaith Vn S? 5 ?' °yfeiriodd at benodiad Mr. Goschen BWvrli°u° -kywodraeth ei Mawrhydi, ac i lanw y Wedi y^y.8^ca,f' S8^ Canghellydd y Trysorlys. r no at y mesnr a ddygwyd ymlaen gan i °^.en ynglyn a'r Gyllideb, hysbysodd ei giwyddiaeth nad oedd neb erioed wedi ei benodi fsJwytfd o Ganghellydd y Trysorlys a ddygodd y Set? r^agorol ger eu bron. (Cymeradwy- ej •) Canmolai Mr. Goschen yn fawr ar gyfrif Swladweinydd gonest a chywir. Yr 'tit llywodraeth yn ddyledus iddo ar gyf- » I ei fedrusrwydd a'i wybodaeth, ac nis Mto da^u ddyladwy iddo. (Cymer- ^^d oedd nek yn y deyrnas yn fwy ^ysg mewn materion arianolna Mr. Goschen, r/r oedd y boneddwr hwnw yn ei Gyllideb di fi Wed^ ^od me^u ar farn gadarn ynawn gyda golwg ar ffigyrau, tra yr ydoedd Wr3acan8yfrif°n am y flwyddyn ddyfodol uwch- canmoliaeth. Y Gyllideb ddiweddat ydoedd h0e^ Pethau goreu a gyflwynwyd gerbron y cy- enoed—(oymeradwyaeth uchel)—a da oedd °/ody foneddwr yn aelod o'r Llywodr- ei • (Cymeradwyneth uchel a pharhaol.j Cyf* arglwyddiaeth yn nesaf at ymweliad yr ^80% ^oeePk Chamberlain a'r America rai i't yn ol, a'r gwasanaeth dirfawr a wnaeth Gylunol drwy ei ddoethineb a'i holi a? disglaer. Darfui Mr. Chamberlain yn yr %dd yaS^ya & phwne y Pysgod- ai b6tiyrAmerica gyfiawnhau y Llywodraeth am "tydda* (cymeradwyaeth uchel.) Disgwyliai y 11 r Americaaiaid ystyried y pwnc mor fGvtv.r oeddynt hwy yn Mhrydain Fawr. ^8dierfl^dwyaeth.) Yr oedd Mr. Chamberlain %dd awpi gorchestwaith ynglyn 4'r pysgod- ^nodfl1 ^au y gwerthfawrogid yr hyn a gyf- Wla^i 8a» y Llywodraeth Arnericanaidd. Y Ydoedd laetla a arferwyd gan Mr. Chamberlain Wesen0fr Un a fabwysiedir gan y Llywodraeth a,1§enrli' /^y^^adwyaeth uchel.) Yr oedd yn ^neyd 1^11 iddynt hwy fel deiliaid Prydain ?*Cfhau dros .y Llywodraeth, ac ymdrechu rhwng gwahanol lywodraethau y glvvyc ('OYMeradwyaeth uchel.) Cyfeiriodd ei ar. ^eol a yn nesaf at y mesur Llywodraeth /^tchie mn W'7- ymlaen yn y Senedd gan Mr. hwn fesur yr ydym eisioes Bitchio I' Pat £ anai ei arglwyddiaeth fod ^id iddo .ddu y mawr ganmoliaeth a Wo ymhob parth o'r Deyrnas Gyfunol. (Oymeradwyaeth.) Nid oedd neb wedi gwrth- wynebu y mesur. Feallai fod rhai Eadicaliaid eithafol yn wrthwynebol iddo. Ond nid oeddynt hyd yma wedi amlyga eu gwrthwynebiad yn ffurfiol, ond a arhosent am y cyfleuBdra cyntaf. Gwyddai y Radicaliaid yn dda na feiddient wrth- wynebu y mesur ar y cyntaf, am y buasai hyny yn difetha eu cynllwynion. Gobaith y Radical- iaid ydoedd gwneyd rhwyg yn y blaid Geidwadol ar y pwnc hwn, ond os ymdrechant wneyd hyny c&nt weled eu camsyniad. Gwadai yn bendant mai mesur a ddygwyd ymlaen gan y Rhyddfryd- wyr ydoedd, er fod y wlad drwy ystrywiau anwir- eddus wedi ei darbwyllo i gredu fod hyn yn ffaith. Wedi cyfeirio at ei ymweliad & Chasnewydd ddwy flynedd a haner yn ol, hysbysodd ei arglwyddiaeth nad oedd a fyno y Radicaliaid o gwbl A'r mesur hwn. (Cymeradwyaeth.) Cyfeiriodd ei arglwydd. iaeth atwahanol ddarpariadau y mesur, a gwnaeth yn ddilynol rai sylwadau amserol ar gau y tafarnau ar y Sul a local option. Ei farn ef ydoedd y dylai pob ardal gael llaw yn y mater o agor a chau tafarnau, ac yr oedd amryw siroedd yn Lloegr wedi pleidebu ar y pwnc. Gyda golwg ar daliad y degwm, dywedai ei arglwyddiaeth y dylai y tir-feistr ei dalu, ac nid y tenant, a thrwy hyny ditlanai y rhwystrau cythryblus presenol. Siaradodd ei arglwyddiaeth yn nesaf ar Ddisgybl- aeth Eglwysig, a dywedai er fod y gyfraith yn ddigon nerthol eto ni ellid rhoddi y mudiad mewn grym heb dalu rhai miloedd o bunau. Hyderai y byddai i gyfraith wahanol gael ei phasio yn fuan ar y pwnc. (Cymeradwyaeth uchel.) Ar y cwestiwn Gwyddelig, llefarodd yr Ardalydd yn ddifloesgni, a datganai ei farn fod y mwyafrif yn Mhrydain Fawr yn ffafriol i undeb y Ymerodr- aeth. (Cymeradwyaeth uchel.) Mewn cysylltiad a'r helyntion yn yr Iwerddon, yr oedd y Llyw- odraeth wedi cyflawni ei dyledswydd, ac yr oedd daioni dirfawr wedi deilliaw 0 hyny i'r wlad. (Cymeradwyaeth.) Yn mhellach yr oedd y Llyw- odraeth yn benderfynol 0 sierhau cadwraeth y gyfraith yn yr Iwerddon. Fel yr oeddynt yn hysbys, yr oedd angen ffurfio llaw-weithfaoedd yn yr Iwerddon, a dymuniad y Llywodraoth ydoedd sefydlu y fath weithtaoedd, yr hyn fyddai yn fuddiol ac yn llesol i'r trigolion. fOymeradwy- aeth.) Yr oedd y Llywodraeth bresenol wedi gwneyd yr hyn a allent 0 blaid preswylwyr yr Iwerddon, ac yr oeddynt yn bwriadu gwneyd mwy yn y dyfodol. (Oymeradwyaeth uchel.) Gwasgai yn gryt ar ei wrandawyr i fod yn wrol, ac i wneyd a allent dros undeb yr Ymerodraeth, a thrwy hyny orchfygu y rhai hyny oeddynt &'u bryd ar wahanu ein teyrnas. (Cymeradwyaeth uchel.) Wedi i'w arglwyddiaeth siarad am awr a haner, eisteddodd i lawr yngbanol oymeradwyaeth uchel y miloedd oeddynt yn bresenol. Cyfododd Arglwydd Aveland i gynyg pleidlais o ddiolchgarwch i Ardalydd Salisbury am ei ym weliad a'i araith benigamp, yr hyn a gefnogwyd gan Mr. Swetenham, A.S., ae a basiwyd yn un- frydol. Diolcliodd yr Ardalydd yn gynea i'r gwyddfod- olion am eu teimladau da, ac wedi talu y diolch. iadau arferol i'r llywydd, &c., terfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf gogoneddus a gynhaliwyd erioed yn Nghymru. Wedi gadael y Pavilion aeth Ardalydd Salisbury a nifer o foneddigion eraill mewn cerbydau i'r Faenol, ae am y rhan fwyaf o'r daith yr oedd canoedd o beraonau yn blaenori gyda torches goleuedig. Mwy 0 anrhydedd nis gellid wneyd i Ardalydd Salisbury nag a wnaed ar yr achlysur presenol o'i ymweliad a Gogledd Cymru, a byderwn y cawn glywed yn fuan ei fod ar fedr ymweled â, Chymru eto.