Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.
CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG. Cynhaliotfd y gymdeithas uchod ei chyfarfod haner-blynyddol yn Mangor ddydd Gwener di- weddaf, gyda rhwysg nid bychan. Yr oedd y cyfarfodydd yn lliosog, y gweithrediadau yn frwdfrydig, ac arwyddion cryfion yn coroni y cwbl o'r poblogrwydd i'r hwn y mae y gym- deithas yn graddol weithio ymlaen. Gall yn awr ddweyd ei bod wedi dyfod yn allu i gael ei chyd- nabod fel offeryn cryf yn hanes tynged genedl- aethol Cymru, a llawenydd i bob Cymro twymn- galon ydyw y gefnogaeth a estynir iddi yn gyhoeddus gan bersonau o ddylanwad ac awdur- dod, yr hyn a ddengys yn amlwg nad ofer yw ei neges. Cynhaliwyd pedwar o gyfarfodydd yn ystod y dydd. Am un o'r gloch ymgyfarfu pwyllgor Ilywodraethol y gymdeithas yn y Masonic Hall o dan lywyddiaeth yr Hybarch Archddiacon Griffiths, Castellnedd. Dilynwyd hwn gan gyf- arfod cyffredinol aelodau y gymdeithas yd yr un Ile, Mr. W. J. Parry, Coetmor Hall, yn y gadair, tra yn uniongyichol ar ol hyny y rhoddodd Maer a Chorphora.. th Bangor dderbyniad cyhoeddus i'r gymdeithas. Terfynwyd gwaith y dydd trwy i gyfarfod cyhoeddus brwdfrydig.gael ci gynal yn y Penrhyn Hall, o dan lywyddiaeth Esgob Bang jr.
IA WN-LYTHYRENIAETH YR IAITH…
IA WN-LYTHYRENIAETH YR IAITH GYMRAEG. „ At Olygycld I7" Llan a'r Dywysogaeth." J.-Da genyf eich bod yn caniatau gofod Saf 08 ar wythnos fel yma i'r diben o gael swael ar athroniaeth, a chwilio allan burdeb, yn oystal 4 gwir unoliaeth hen iaith y Brython. eualaf hefyd yn dra diolchgar i'ch gohebydd yr ythnos ddiweddaf ar y pwnc, yr hwn a roddodd i&'tk n* e* yn oa0l plesar gyda myfyrio ei fam, a iaith ei galon. Ond rhyw fodd neu Ydd, nid yw eto wedi cyraedd y n6d, ac nid yw blVaith wedi cyflawni ei amcan ei hun oblegid y yn anfwriadol wedi llurgunio yr Omeraeg yn y jp "llurgunio." Nid llurgunio" ydyw, ond %Unio — edrychwch i fewn i'w air-darddiad w°Zo^2/,) Hefyd, fe allwn feddwl nad ydyw yr n^Wr yn gwybod gwahaniaeth rhwng "sill" a ydwddeg," gan ei fod trwy ryw araryfusedd yn brawddeg gyntaf J. D. yn sill!" Ac oa nad jyW am gyladdef y gosodiad hwn, y mae yn rhaid ar° gyfaddef ei fod wedi dywedyd y sill gyntaf," sill gyntaf ydyw hyd," ao nid oes yr un ,31 rhyngom am y gair hwn. Ei reswm tros fod Jtyd y nod mewn arferiad yw, fod y Parch. D. «van Evans yn cyfieithu y gair Saescnaeg even," hyd yn oed." Felly, yn ol yr ymresymiad hwn, y mae hi yn Lleyn, y mae yn rhaid mai y mae hi yn Ngwlad yr Haf, yr hyn nid yw yn JvQ rheolau Rhesymeg o gwbl, nac yn un prawf j hyn a ddywedir ganddo i brofi ei osodiad ac ,8l|y, y mae yn syrthio rhwng y gadair a'r llawr," ddangoB un gwahaniaeth rhwng y brawddegau s^w» na rhoddi eglurhad dros eu hymddangos- M yn eu gwisg bresenol, ond dywedyd fod y pedwar yn hollol gywir 1 o'r hyn nid wyf yn cofio am gyraaint ag un engraifft yn yx ieithoedd clasurol. .I\h hyny, gyda phob parch a diolchgarwch iddo am j,1 Synorthwy, yr wyf yn ei alw ef eilwaith, a gw £ r ein gwlad, i chwilio allan darddiad gwahanol Q'¡.tïau hyd yn od," hyd yn oed," "hyd yn nôd," ?,1 hyd y n6d. Os oes hanesyddiaeth yn perthyn w. gadawer ei chael, oblegid y mae cyfrolau "Illoedd o flynyddoedd yn crogi wrth bob gair yn ein Nid y lleiqf, cofiwch, yw Mr. Od yn y hon ac yr wyf yn gobeithio y cwblha yn 4l4hYdeddus y gwaith da a ddeohreuodd, ac hefyd, bydd i ysgoleigion eraill ddyfod allan i'n cynorth- ar faes difyr y ddadL—Yr eiddoch, yn ddiffuant, eyllteyrn. J. D.
ttYTHYRAU 0 FON YN Y NORTH…
ttYTHYRAU 0 FON YN Y NORTH WALES OHRONICLE. At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Yn eich rhifyn am y 6ed cyfisol dyfynir y ftnlyn o'r North Wales Chronicle, gyda sylwadau "I bod (a) yn "hopeless to be utilised;" ac (b) mai LLAN ydyw'r man goreu i ymgodymu & would-be reformers." Goddefwch osod y dyfyniad draohefn forsooth, doth not the GenMl humbly follow in the train of would-be reformers of the Ohurch within her own fold ? True: in the ttAN before its espionage was dreamt of, three Churches had been exposed by a friendly writer who signs himfelf I Talaaton, and who hauled myself up fOr presuming to repeat what the rector of one of the ^hree concerned had himself bewailed to me as hope, less to be utilised." A chan mai newyddiadur Cym- taeg ydyw Y LLAN, wele arall-eiriad o'r unrhyw i'r J* u.^ieifc^°§ o'i ddarllenwyr:—" Canys, ys- rau rhai°n^ yW,^ Gened^ ynostyngedig ddilyn cam- ddymunanti eiS?r °ddi feWn COrlan yr Eglwys a maint a dvildlWy§io? Yn Y Llan, cyn bod cy- wvd i-niv. -J ymyg am ysbiaeth y Genedl, dinoeth- "ia euiS y^rif?nydd ?yfeillgaE a >ar hunan f ■ "LaIanton> yr hwn a m cymerodd fy rV. -fr 1 Sytaf am ryfygu adrodd yr hyn a gwynasai ohn.-f^°ri 0 r tair grybwylledig wrthyf fel yn an- ooeitiiiol i wneuthur defnydd o honi." us am nad clir y geiriad yn unig y owynwoh, prin Y bUasal angenrhaid ysgrifenu o honof: er cael proof yr ydys weithiau yn hepian ond a'r hyn a s^ybwyllir am "Talanton" y mae yn benaf a wnel- yn awr. Nid ymgodymu a would-be reformers ydoedd am- J^.fy yagrif. Nid mewn ysbrydo dirmygus y defn- y^diais y frawddeg, eithr crybwyll yr oeddwn rith- leswm y Genedl dros ei hysbryd ymchwilgar er ficjrych i mewn i gyflwr Eglwysi Mon. At Reithor LIO-lafairfechan y cyfeiriai y Genedl-at wrthdystiad eiddo a wnaed flynyddau yn ol yn erbyn difraw- ^Qr Eglwyswyr Mon, a gyhoeddwyd ganddo yn ddi- yn y North Wales Chronicle. Rheithor ^'anfairfechan ydoedd yn neillduol yn fy meddwl, °*id crybwyllais Talanton fel engraifit o'r cyfryw ?.eimlad mewn un o fewn rhanbarth penawd fy vthyrau, sef Mon. Pa un ai doeth ysgrifenu o gwbl i'r North Wales Chronicle ar hyn goddefer rhyddid barn i Gogledd- r,' Golygydd Y LLAN, ac i minau. Am y tair Eg- '*ys a ncdwyd gwell eu henwi i chwi yn gyfrin- v^hol. Awgrymais yn fy llythyr diweddaf i'r North **ales Chronicle fy mod ar derfynu fy ysgrifau, ond welodd y golygydd yn dda adael y geiriau allan. ^all nad annerbyniol clywed o'ch darllenwyr am y S^edigrwydd a dderbyniais oddiar law y Church ^sfence Institution. Anfonodd y Parch. H. Gran- Ula Dickson, nid llyfrau o'r swyddfa yn unig, eithr lyfr, A birthday gift." o'i eiddo ei hun, nad r^edd yn llyfrgell y gymdeithas, nid, yn naturiol adiar ymdeimlad personol tuag ataf (canys estron J** iddo) ond oddiar frwd a difiuant ymlyniad wrth ^chos yr Eglwys yn Nghymru. Y mae genyf arfau y°hwanegol mewn llaw, ond gwell, i'm barn, yw ym- "tphwys ar yr hyn a wnaethum am y presenol. Gan yderu na thybiodd Talanton," nac ychwaith heithor Llanfairfechan fy mod yn llechwraidd, Wy ddyrnod llaw-chwith y Chronicle, yn amoanu „ ,8°dyinu a neb sydd &'n Heglwys iddo yn ofal calon._Yr eiddoch, &c. AWDWB. Y 11 LIETTERS FROM ANGLESEY YN Y "NOETH WALES GHBONICLE." 7fed, 1888.
^LOERUDDIAETH PRIFWEINIDOG
^LOERUDDIAETH PRIFWEINIDOG yr^!ebrit 0 M-erv i>E perwyl ddarfod i Brif Weinidog yn gael ei lofruddio gan un o'r bob! ri°v' yr ttGhosodd gyfiro enbyd ymhlith y ^hvavm .^cLilynol dialeddwydd ar y llofrudd a dramV1 drwy iddynt gael eu hyrddio ben- tlohderI1W °^diar ben twc 180 o droedfeddi o
--NODJADAU SENEDDOL.
NODJADAU SENEDDOL. LGAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] AIL-GYFARFYDDIAD Y SENEDD. Ail-gyfarfu Ty y Cyffredin ar ol gwyliau y Pasg yr wythnos ddiweddaf, ond nid mynych y canfyddwyd y fath anewyllysgarwch at waith ar ol gwyliau ag yn Neuadd St. Stephan ddydd Mercher. Allan o 670 o aelodau nid oedd ond prin 40 yn bresenol pan gymerwyd y gadair gan y Llefarydd. Wedi cael gwared o'r cwestiynau arferol, y gorch- wyl nesaf oedd derbyn AELOD NEWYDD. Dywedodd y Llefarydd, pan adgofiwyd ef fod yno aelod newydd yn awyddus i gymeryd y llw a'i eis- teddle, Gweled aelodau yn awyddus i gymeryd eu seddau yn dda i ddyfod ymlaen at y bwrdd." Pwy oedd yr aelod newydd ? Dyn bychan, crynedig yr olwg arno. Nid oedd neb yn ei adnabod, ond yr oedd y ffaith ei fod yn sefyll rhwng Mr. Dillwyn a Syr E. J. Reed yn arwain meddwl y rhai oedd yn bresenol yn anocheladwy at Mr. Randell, yr hwn a ddiangodd gyda chroen ei ddanedd yn Gower. Nid oedd galon yn yr Ysgarwyr i'w longyfarch ond dy- wedir fod Syr G. [Balfour wedi dyrchafu rhyw un floedd wanaidd o'i blaid. Mae'r llanw yn myned yn erbyn yr Ysgarwyr, a gwyddant hyny o'r goreu. Mae y fuddugoliaeth Geidwadol (dyna ydoedd mewn gwirionedd) yn Mro Gwyr wedigyru braw a dyohryn drwy eu calonau. Hwre Llewelyn, ein llyw, welir—ar y blaen; Cura y blaid ddyhir: Rhaid troi'r Gladstoniaid o'r tir,— Ffy Randell o'r hoff randir 1 Ac felly y bydd, y tro nesaf, can wired a bod dwfr yn Nhowy. RHAGLEN Y DYDD. Yr oedd saith o gynygion pwysig a bygythiol, rai o honynt, f gael eu dwyn ymlaen cyn myned i bwyllgor, ond nid oedd ond dau o'r oynygwyr yn bresenol, a phan alwodd y Llefarydd arnynt, ni wnaeth y naill na'r llall ufuddhau i'r alwad. Nid oedd yr absenolion wedi gwneyd unrhyw drefniadau tuag at ddwyn eu oynygion ymlaen ao, o ganlyn- iad, nid oedd gan y Llefarydd ddim i'w wneyd ond gadael y gadair. Hyny a wnaeth, ac eisteddodd ar fainc y Trysorlys. Yr anhawsdra yn awr ydoedd absenoldeb cadeirydd y pwyllgor (Mr. Courtney). Canwyd y glooh, ac anfonwyd cenhadau i chwilio holl amgylohoedd y Ty, gan ddisgwyl d'od o hyd i Syr John Gorst, nou rhywun yn meddu awdurdod i gymeryd yr arweinyddiaeth. Ond yn y cyfamser gwnaeth Mr. Courtney ei ymddangosiad, ac yn fuan ymff urfiodd y Ty yn BWYLLGOR CYFLENWADOL. Ar y bleidlais tuag at gadwraeth y Palasau Bren- hinol, Gwrthwynebodd Mr. Labouchere y bleideb ar y tir na ddylid gofyn i'r wlad gadw mewn oyweiriad hen balasau nad oedd y Frenhines yn ddefnyddio. Yr oedd yn 11awn digon i'r wlad dalu at gynal y palasau hyny ag oedd ei Mawrhydi yn ddefnyddio. Dywedodd Mr. Plunket fod cytundeb wedi ei wneyd pan leihawyd y taliadau brenhinol yn nechreu y teyrnasiad presenol fod y wlad i gadw i fyny y palasau hyn, ac nad oedd yn deg yn awr iddynt geisio gochelyd y fargen hono. Oaniatawyd y bleidlais drwy fwyafrif o 40. Y SENEDD-DAI. Ar y bleideb o 440,940 tuag at y Senedd-dai, Protestiodd Syr G. Campbell, ac eraill, yn erbyn gwario ychwaneg o arian ar adgyweiriadau yn Neuadd Westminster. Cwynai Mr. Labouchere nad oedd dim digon o ystafelloedd i ysmocio yn Nhy y Cyffredin. Yr oedd ef yn ysmociwr ei hun, ac yn ami yn myned allan o,r Ty i ysmocio. Credai pe bai mwy o gyf- leusderau i ysmooio y buasai y dadleuon lawer yn fyrach. Canmolai yr arferiad fel un yn tueddu i liniaru y tymherau. Cwynai hefyd nad oedd digon o le yn y Ty i nifer yr aelodau. Os oeddynt yn awyddus am sedd yr oedd yn rhaid iddynt fod yn y Ty pan ddarllenid y gweddiau. oddieithr y rhai a eisteddent ar fainc y Weinyddiaeth neu fainc flaenaf yr Wrthblaid. Nid oedd y Gweinidogion ar fainc flaenaf yr Wrthblaid yn dyfod yno i weddio. (Dy- wadodd Mr. Childers ei fod.) Wel, nid oedd efe (Mr. Labouchere) wedi cael y fraint a'r hyfrydwch o gyd-weddio a'r boneddwr gwir anrhydeddus. (Chwerthin.) Hen, hen arfer y Radicaliaid yw gwneyd gwawd o bethau oysegredig. Mae y Ffranowr tafodrydd hwn drwy ei ddull beiddgar a sarhaus yn gwneyd llawer iawn mwy o ddrwg nag o dda i'r achos y dadleua drosto-mewn gdir, yn gorchfygu yr amcan mewn golwg. Hysbysodd Mr. Plunket y pwyllgor y buasai yr adgyweiriadau ynglýn a Neuadd Westminster wedi eu cwblhau tua diwedd y flwyddyn bresenol, ao yr oedd o'r farn y byddai y gwaith yn rhagori ar ddis- gwyliadau y rhai oedd yn ffafriol i'r cynlluniau. Gyda golwg ar y cyfleusdra adnewyddol i ysm ygwyr, gwnai ef (Mr. Plunket) ymgynghori ag aelodau eraill ar y pwnc. Ar ol peth dadleu pellach caniatawyd y bleideb, a phasiwyd amryw bleidebau eraill mewn perthynas ag adeiladau cyhoeddus. Eisteddiad y "pethau by chain oedd hwn-rhyw small talk eurfietlyd. TOLLAU AR GEFFYLAU AC OLWYNION. Dydd Gwener, gofynodd Mr. Hozier i Ganghellydd y Trysorlys a fyddai yn bosibl iddo ganiatau i fedd- ygon gadw un ceffyl, o leiaf, heb ei drethi. Dywedodd Mr. Goschen mewn atebiad y derbyniai y cwestiwn a ddylid eithrio ceffyl i feddygon a chlerigwyr yr ystyriaeth fanylaf, ac hefyd y cwestiwn o eithriad ceffylau amaethwyr y rhai a ddefn- yddid mewn rhan i ymbleseru ac mewn rhan at fusnes. Bwriad y Llywodraeth ydoedd trethu yn unig yr hyn a alwai y Ffranood yn horses de luxe (moeth-geffylau, os goddefir y gair), ac nid oeffylau a ddefnyddid i ddibenion masnachol. Dywedodd fod peth gwir yn yr awgrymiad a wnaed gan un o'r aelodau fod meddygon mewn parthau gwledig yn dyfod i ryw raddau dan y deffiniad o fasnachwyr. Ydynt yn sicr, a masnaoh broffidiol iawn hefyd I Mewn perthynas i'r achwyniadau a wneid gyda golwg ar drethiad troliau ac olwynion, yr oedd llawer o honynt yn hynod o eithafol; a dywedodd Mr. Gosoben ei fod wedi derbyn yr amlygiadau oryfaf o gymeradwyaeth o'r tollau cynygiedig ar y tir fod y wageni trymion yn achosi traul anferth yn adgyweiriad y flyrdd. Buasai yn dda ganddo gyf- arfod kg unrhyw gamwri neillduol, ond nid oedd yn gweled yr un rheswm yn bresenol dros newid pen- derfyniad y Llywodraeth mewn perthynas & threth y troliau a'r olwynion. Y prif wrthwynebiad i'r cart tax ydyw ei bod yn dreth ar fasnach a llafur, ao yn gam yn y gwrthol. Fel y sylwais yn y rhifyn diweddaf o'r LLAN, 'does un amheuaeth na cheir dadl boethwyllt ar y cynyg- ion hyn o eiddo y Llywodraeth. GWEITHIO DROS AMSER. Nos Wener, galwodd Mr. Baumann, mewn araith ddyddorol, sylw y Ty at y cwestiwn o overtime yn iardydd a Ilaw-weithfaoedd y Llywodraeth, a chynygiodd benderfyniad yn condemnio yr arferiad. Ei ddadl oedd y dylai dosbarthiad mwy cyffredinol gael ei wneyd ar lafur a chyflogau yn ngwyneb y caledi presenol yn y wlad. Canlyniad y system o weithio dros amser ydoedd, fod pump o ddynioD yn cael eu oyflogi yn He ohweoh. Barnai Mr. Baumann pe gwneid dosbarthiad cyffredinol o'r overtime, y buasai yn ddigon i gyflogi pawb oedd allan o waith. Dywedodd Mr. Stanhope fod y Llywodraeth wedi llwyr gondemnio systematic overtime." Mewn perthynas i overtime damweiniol, yr oedd yn eithaf amlwg i bawb ei bod yn anmhosibl ei ochelyd ar achlysuron. s Yr oedd "Oynrychiolwyr y gweithwyr yn fud! CYFLENWADAU. Ar y bleidlais o X,7,500 i'r Science and Art Department, cafwyd dadl ddyddorol. Cwynai Syr Henry Roscoe a Mr. Mundella oherwydd bychander y swm a werid gan y Llyw- odraethiddibenion gwyddonol, ond dywedodd Arg- lwydd Randolph Churchill fod y wlad yn gwario haner miliwn yn y flwyddyn i gyfranu addysg wyddonol. Dadleuai Mr. Mundella nad oedd braidd un wlad yn Ewrop yn gwneyd cyn lleied o aberthau dros wyddoniaeth a Lloegr, ond taerai Arglwydd Randolph fod Lloegr yn gwario mwy na'r un wlad yn Ewrop ar gelf a gwyddor. Pwy oedd yn iawn ? Gwnaeth Arglwydd R. Churchill ymosodiad llym ar y gwastraff ynglyn a'r swyddfa. Mae Lord Randolph ar gefn yr hen geffyl o hyd, ac y mae yn achos o syndcd na fuasai wedi ei yru allan o wynt cyn hyn. Hen geffyl main a theneu ydyw. Pasiwyd amryw bleidleisiau eraill yn ystod eis- teddiad y pwyllgor. Wflt i'r pwyllgorau yma Y GYLLIDEB. Yr oedd disgwyliad mawr wrth Mr. Gladstone nos Lun diweddaf, gan fod y gair wedi myned allan ei fod yn bwriadu gwneyd ymosodiad ar Gyllideb Mr. Goschen, ao i siarad am ddwy awr ond profodd araith oyllidydd mwyaf yr oes yn siomedigaeth chwerw i'w ganlynwyr. Ni siaradodd Mr. Gladstone dros bum' munyd a deugain, ac yr oedd yn cymerad- wyo y rhan fwyaf o gynygion Cyllideb y Llyw- odraeth. Datganodd foddhad neillduol yn ngwaith y Llywodraeth yn cynyg rhoddi terfyn ar roddion cynorthwyol (grants-in-aid) drwy drosglwyddo i awdurdodau Ileol gronfeydd ag oedd o natur leol. Am y trethi newyddion, nid oedd yn awyddus i roddi ei farn derfynol arnynt yn bresenol. Ei brif gwyn ydoedd, fod y GylJideb yn ormod yn ffafr eiddo, a rhy fach yn ffafr llafurwaith. Yr oedd y cyhuddiad hwn yn hollol annheg ao anonest, oblegid mae Mr. Goschen yn cynyg fod rhai miliynau i gael eu tros- glwyddo drosodd i'r awdurdodau lleol, yr hyn a fydd yn fantais neillduol i'r trethdalwyr. Nid oedd Mr. Gladstone yn sicr yn ei feddwl a oedd y gostyngiad o geiniog yn nhreth yr inowm i'w gymeradwyo yr oedd y cyfrifoldeb o hyny yn gorphwys ar y Llyw- odraeth. Nid rhyw lawer a ddywedodd yn erbyn treth yr olwynion ond gofldiai fod y Llywodraeth wedi gweled yn angenrheidiol i drethu cartwyni. Nid oedd Mr. Gladstone yn bresenol pan gyfeiriodd Syr R. Paget at awgrymiad a wnaed gan Mr. Gladstone yn 1882 yn ffafr trethu olwynion. Feallai y byddai galwad ar yr Wrthblaid i gynyg gwelliant yn ffafr cyfartaliad y trethi, er galluogi Canghellydd y Trysorlys i wneyd ymaith â rhai o'r m&n drethi a gynygiai. Yr oedd Mr. Gladstone yn bur dd6f a diniwed, ac fel un yn llunio bai lie na bydd." Diolchodd Mr. Goschen i Mr. Gladstone am ei feirniadaeth, a gwnaeth fyr waith ar ei wrthddadl- euon. Dangosodd y byddai rhai o ddarpariaethau y Gyllideb yn fantais arbenig i'r general consumer a'r trethdalwyr. Byddai yn fantais i'r dosbarth gweithiol ac i'r ris isaf o'r dosbarth canol. Nid treth y Llywodraeth a fyddai y wheel tax," ond treth berthynol i'r byrddau lleol; a dywedodd Mr. Goschen y byddai i'r Llywodraeth ddwyn i mewn fesur gwahanedig yn ymwneyd a threthi ceffylau, olwynion, a wageni. Ar ol peth ymdrafodaeth pellach, pasiwyd y p3n- derfyniadau, ond bernir y bydd i'r Wrthblaid gynyg gwelliantau ar yr ail ddarlleniad. DADGYSYLLTIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU. Rhoddodd Mr. Dillwyn rybudd y byddai iddo gynyg ei benderfyniad mewn perthynas a Dadgys- ylltiad yr Eglwys yn Nghymru y dydd cyntaf o Fai. Dydd Gwener nesaf yr oedd y cweatiwn i dd'od ym- laen, a pharodd y gohiriad i Mr. Byron Reed ofyn i'r aelod dros Abertawe a oedd yn -bwriadu dwyn ei gynyg ymlaen ar y dydd cyntaf o Fai, neu ynte ei ohirio o dydd i ddydd yn ystod y Senedd-dymor. Paham lai hyd i Greek Kalends ? Dywedodd Mr. Dillwyn, mewn atebiad, ei fod yn benderfynol i fyned ymlaen gyda'i gynygiad, ond na wnelai hyny os na ohawsai adeg ffafriol i sicrhau dadleuaeth lawn ar y owestiwn. Wrth yr hyn y deallir, yn iaith y dadgysylltwyr, adeg gyfleus i gy- hoeddi camddarluniadau am yr Eglwys yn Nghymru. Full disoussion," yn wir I
GWEITHWYR ALCAN ABERTAWE."
GWEITHWYR ALCAN ABERTAWE. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Cymdeithas Al- canwyr Abertawe yn y Mackworth Arms Hotel, yn v dref hono, brydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, pryd y daeth 25 o berchenogion yn bresenol, ac y llywydd. id gan Mr. Phillips. Wedi ymdrafod, penderfynwyd peidio ffurfio syndicate ar ran y perchenogion a chynhelir cyfarfod yn fuan eto i ymdrin yn mhell- ach a'r fasnaoh aloan.
Y SEFYLL ALLAN YN PANTEG.
Y SEFYLL ALLAN YN PANTEG. Ynllys ynadon Pontypool, ddydd Sadwrn, cy- huddwyd Henry Pritchard, William Griffiths, Wil- liam Bevan, a Thomas Knipe, pedwar o ddynion a weithient yn ngweiehiau dur Panteg, o fygwth dau ddyn oeddynt wedi eu cyflogi yn y gwaith uchod, ar y 26ain o fis Mawrth diweddaf. Dedfrydwyd yr oil i sefyll eu prawf yn y frawdlys nesaf. Lied farwaidd ydyw masnaoh y llechau wedi bod yn sir Gaernarfon a Meirion yn ystod y mis di- weddaf, yn arbenig felly yn chwarelau y Penrhyn, Bethesda. Lluddiwyd y gweithwyr o nos Iau cyn y Groglith hyd foreu Mawrth ar ol y Pasg i weithio yn Ohwarel Caebraichycafn. Derbynir archebion newyddion am longau ager a hwyliau, fel y galluogir y gweithwyr yn y canghenau hyn i weithio yn gyson yn awr. Mae adeiladwyr cledrffyrdd yn brysur iawn, ac yn methu cael nifer digonol o nafis medrus. Parhau yn isel mae pris yr haiarn, er hyn mae y dynion yn gweithio amser liawn gwneuthurwyr cledrau dur yn brysur iawn. Ni weithir gan y glowyr ond pedwar diwrnod yn yr wythnos. Mae rhagolwg i adeiladwyr gael gwaith da yn ystod yr haf agoshaol; mae'r gwaith yn gwella i ganlyn y tywydd. Gwaith rheolaidd i gryddlon a'r canghenau ynglyn a hwy. Mewn rhai galwedigaethau o bwys mae yohydig o anghydwelediadau. Yn swydd Lancaster mae gwneuthurwyr potel- au yn gofyn am ragor o gyflog, ac yn bygwth sefyll allan os na roddir iddynt eu cais. bim cyfnewidiad o bwys yn nydd-weithiau y deyrnas. Mewn lleoedd yn Lancaster mae y nyddwyr yn gofyn am godiad yn y cyflog. Llafurwyr cyffredin yn parhau heb waith. Marwaidd ydyw gwaith i'r cyfryw ar lanau y Taf- wys. Nifer mawr o lafurwyr yn ymfudo i wledydd tramor, yn bonaf i'r America.
[No title]
Cyrhaeddodd yr Esgob Smythies, Affriea, i Gaer dydd yr wythnos hon, lle y rhoddwyd derbyniad tywys- ogaidd iddo.