Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

i^IGI ON O'E vYASG GYMREIG.

News
Cite
Share

i^IGI ON O'E vYASG GYMREIG. [GAN VERITAS.] ETHOLIAD GO WEE. f ("Lladmerydd yn y Tyst, Ebrill 6ed.) Enillwyd y fuddugoliaeth yn etholiad Gower, end y mae y lleihad dirfawr sydd yn mwyafrif Mr. Randell rhagor yr hyn oedd eiddo Mr. Yeo yn 1885 o yn rhybudd difrifol i'r Rhyddfrydwyr nad elont i ymryson ac ymbleidio. Y mwyafrif o 3,457 yn 1885 wedi disgyn i 606 Xn a.os i dair mil o leihad. Bydd y Toriaid yn sicr o gymeryd hyn yn gystal a. goruchafiaeth, ac felly yn ddiau y gwnaethem ninau pe buasai o'n hoohr. Cafodd Mr. Llewelyn 3,358 o bleidleisiau y waith hon, pan na chafoddMr, Miers, yr ymgeisydd Toriaidd yn 1885, end 2,103. Ond cafodd Mr. Yeo y pryd hwnw 5,560, pan na chafodd Mr. Randell yn awr ond 3,964. Nid yw y gwahaniaeth yn fawr yn y nifer a bleidleisiodd y ddau dro ond y mae yn eglur fod mwy na mil wedi pleidleisio dros y Ceidwadwr y waith hon o'r rhai a bleidleisiodd dros y Rhyddfrydwr y tro o'r blaen. Nid yw ond ofer i ni.gau ein llygaid rhag ffeithiau fel hyn, ond dylem eu gwynebu yn deg, a chymeryd rhybudd oddiwrthynt. Mae arweinwyr y blaid yn Llundain yn ymyraeth gormod ar hyn, ac yn gwthio ar leoedd bersonau y carent hwy eu cael i'r Ty. Mae y dydd- iau wedi myned heibio i dderbyn personau felly, pa mor gymwys bynag fyddant, ac yn ami y mae yr ymgais i'w gwthio yn creu rhagfarn yn eu herbyn. Nid oes genyf yn bersonol fawr cydymdeimlad a ohynrychioliad dosbarthiadau; gwelKgenyf gynrych- iolwyr o'r holl bobl; ond lie y mae corff yr etholwyr J yn weithwyr, y mae ganddynt hawl deg i gael un o honynt eu huain i'w oynrvohioli, ond ar bob cyfrif, os felly, bydded yn weithiwr yn ngwir ystyr y gair. Mae dynion yn gosod eu hunain i fyny yn ymgeiswyr dros y gweithwyr, ac yn gynrychiolwyr dros y gweithwyr, nad oes ganddynt unrhyw hawl i hyny. (" Gohebydd Llundain y Faner, Ebrill 4ydd.) Y mae Toriaid Llundain mewn gor-lawenydd ar gyfrif canlyniad y frwydr etholiadol yn Mro Gower; ac yn wir, nid heb achos. Nis gall unrhyw Rydd- frydwr egwyddorol lai nag edryoh ar amgylchiadau yr ymgyrch gyda chryn lawer o gywilydd. Trwy ymyriad annoeth-fel y credwn ni-rhai aelodau seneddol Cymreig, a gwrthnysigrwydd y dosbarth gweithiol yn Gower, aeth tair mil, mwy neu lai, o bleidleisiau Rhyddfrydol ar goll neu ar gyfeiliorn, ao yn lie 3,500 o fwyafrif, o'r braidd y diangasom gyda 600. I ba beth y bu y golled hon ? Sais ydyw Syr Horace Davey, ac nid Saeson ydyw y cynrychiolwyr goreu i ni, y Cymry. Ond os gwir a ddywed goheb- ydd y Pall Mall Gazette, nid ydyw Mr. Randell nemawr amgenach na Sais. Bargyfreithiwr ydyw Syr Horace Davey. Wel! twrnai ydyw Mr. Randell; ac os rhaid cael gwfr y gyfraith" i'r senedd, y mae y fantais o du y cyntaf. Yr wyf newydd ddy. chwelyd o Gower," meddii cyfaill." Erioed yn fy mywyd ni welais y fath annhrefn-y fath gamlyw- yddiad—y fath anfoddogrwydd Dylai arweinwyr y blaid Ryddfrydig gywilyddio o'i blegid. Ni ddarfu iddynt geisio gwneyd canvas o gwbl. Ni ddosbarth- wyd y tocynau pleidleisio mewn rhai dosbarthiadau, os mewn un. Yr oedd arnaf ofn yn fy nghalon mai y Tori elai i fewn. Wedi i Randell gael ei fabwys- iadu, gadawodd ei gyfeillion bob peth yn nwylaw y gymdeithas "—y gymdeithas, cofier, yn erbyn pa un y gwrthryfelasant. Dyma hanes y frwydr, a'r Nefoedd a 7aredo Rhyddfrydiaeth Cymru rhag gweled ei bath eto I Oni bai am ymdrechion maddeugar y gymdeithas a ddiraddiwyd, buasai Ysgweier Penlle'rgaer heddyw yn cynrychioli mil- oedd Rhyddfrydwyr Gower! Nis gwyddom ddim am Mr. Randell, ond ei enw a'i grefft; a dealler, mai nid efe a gondemnir, ond y diffyg synwyr a ddangoswyd yn yr holl ymwneyd a'r cam-ddealltwr- iaeth. Never swap horses when crossing a stream," meddai un o'r callaf o ddynion y diweddar Abraham Lincoln Peidiwch byth a newid ceffyl- au pan yn croesi yr afon." Ond am Ryddfrydwyr Gower, nid yn unig newidiasant y ceffylau yn nghanol yr afon, ond yn ngwyneb y gelyn. Nid rhyfedd fod hwnw yn creahwenu ac yn cablu (Y Genedl, Ebrill 4ydd.) Yn yr ethcliad presenol yr oedd gan y Toriaid Mr. J. T. Dillwyn Llewelyn-y dyn mwyaf poblogaidd yn eu plaid yn y Deheudir, fel ymgeisydd. Yr oedd wedi ei eni a'i fagu yn y dosbarth. 0 deulu ydynt bob amser yn gymeradwy neillduol yno-yn hael at bob achos cyhoeddus, bydded Eglwysig neu Ym- neillduol-yn berchenog ar eiddo mawr yn y lie—ac yn troi yn eu plith-yn cymeryd dyddordeb yn eu materion lleol, ac yn bersonol adnabyddus iddynt. (Y Gweithiwr, Ebrill 5ed.) Mae etholiad Gower, bellach, yn mysg y pethau a fu ac er fod dros chwe' chant o fwyafrif gan yr ymgeisydd llwyddianus, Mr. Randell, ar ei wrth- wynebydd, Mr. Llewelyn, mae y Toriaid yn clochdar yn orfoleddus, fel pe buasent wedi enill brwydr dra phwysig. Yn y lie cyntaf mae yn rhaid cofio ei bod yn anmhosibl cael dyn cryfach yn y wlad hon mewn ystyr gymdeithasol na Mr. Llewelyn. Mae yn wir na ddylid edrych ar ymgeisydd yn y goleu bwnw mewn brwydr egwyddorion ond, fel y gwyr ein dar- llenwyr, y mae gwendid yr hil ddynol mewn cyfeir- iad felly mor adnabyddus, fel nad oes eisiau i ni ond ei grybwyll. Collodd y blaid Ryddfrydol hefyd nifer lliosog o bleidleisiau yn herwydd byrbwylldra yr hyn a fodola yn y rhanbarth dan yr enw y Gymdeithas Ryddfrydol. Nid ydym yn ameu nad ydyw y Cocasyn 11 Seisnig hwn yn gweithio yn gymharol lwyddianus mewn rhai rhanau o Loegr, a dichon y daw i wneyd yr un modd yn Nghymru ymhen am. ser ond nid yw wedi eydio yn y tir yma eto. Cenedl annibynol iawn yw y genedl Gymreig, ac hynod awyddus i gael yr anrhydedd o farnu drost- ynt eu hunain. Rhaid iddynt gael bys bersonol yn eu pastai. Dyna eu hanes yn eu cysylltiad â pheth- au crefyddol. Bu ages iddynt roddi Gower enwog am ei Rhyddfrydiaeth yn ysglyfaeth cyfanwerth i'r gelyn. Yn ngolwg amryw, hefyd, nid oedd Mr. Randell yn dyfod i fy^y J'n hollol a'u syniadau am gynrychiolaeth llafur. Dadl boblogaidd, fel y gwyddis, er's blynyddau bellach, yw fod digon a gor- mod o gyfreithwyr yn y Senedd, ao nid oes amheu- aeth nad yw hyn yn wirionedd ac er fod Mr. Ran- dell ar ei ben ei hun yn mysg y frawdoliaatb, mae yn eithaf posibl i hyny wneyd niwed. Pe welir felly fod holl amgylchiadau y frwydr ddiweddar yn ffafr- iol i Mr. Llewelyn a phe buasai yn bosibl i unrhyw Dori yn y byd cyfan gipio sedd Gower. efe fuasai hwnw. ( PRYDAIN A'R PAB. (Y Werin, Ebrill 7fed.) Dydd Mawrth dychwelodd Due Norfolk o'r H ddinas dragwyddol," i'r hon ddinas yr aeth ychyd- ig fisoedd yn ol i gyflwyno anrheg jiwbiliaidd i'w Sancteiddrwydd y Pab oddiwrth ei Mawrhydi y Frenhines hefyd, sicrheir ei fod yn genad o lad- merydd oddiwrth y Llywodraeth Doriaidd-Undebol at y Pab, gyda'r amcan o gael ei gynorthwy i ddar- ostwng y Gwyddelod i ufudd-dod. Deallwn fod ei Sancteiddrwydd yn bur barod i gydsynio a'r deisyf- iad ar yr amod fod i Brydain wneyd ei goreu i ad- sefydlu ei allu tymhorol ef yn Rhufain hefyd, dy- wedir na phetrusai ein Llywodraeth ei gynorthwyo i ddwyn hyny oddiamgylch pe y gallasai wneyd hyny heb dynu gwg Itali ami ei hun. Nid oes unrhyw foddion yn rhy isel gan y Toriaid i'w arfer os y gall- ant drwy hyny ddal awenau y Llywodraeth yn eu dwylaw, ac y maent wedi dangos yn barod y gallant lyncu rhai o'r mesurau gwleidyddol mwyaf chwerw i'w harchwaeth hwynt fel plaid pan y tybiant y bydd i'r cyfryw estyn tymor eu llywodraethiad. Diau y daw pethau rhyfedd i'r golwg cyn bo hir fel canlyn- iad cenhadaeth Due Norfolk, ar ol iddo gael cyfleus- dra i osod gerbron y manteision o ymgyngrheirio a'r Pab, ac ni byddai yn unrhyw syndod genym weled Prydain Brotestanaidd yn blaenori yn yr ymgais i adsefydlu gorsedd dymhorol y Bwystfil o Rufain, gan fod un ag sydd yn awdurdod pwysig yn ngolwg y pleidiau uchod wedi dweyd mai pobpeth a ddyry dyn am ei einioes." [Pa anwiredd nesaf ?- VERITAS.] MR. SPURGEON AC UNDEB BEDYDDWYR PRYDAIN FAWR. (Seren Cymru, Ebrill 6fed.) Saif y mater pwysig hwn tua yr un man, er fod yna ymdrechion o du yr Undeb beth bynag am heddwch, ac ymdrechion o du Mr. Spurgeon a'i gyf- eillion i gyraedd eu hamcan trwy ddwyn yr Undeb i fabwysiadu Cyffes Ffydd neillduol. Danfonwyd llythyr yn ddiweddar at Mr. Spurgeon, wedi ei law- nodi gan yn agos i fil o ddiaconiaid y Bedyddwyr, yn taer ddymuno arno i wneyd ei oreu i derfynu yr ym- ryson i hwn y mae yntau we li ateb nad yw yn ei allu i wneyd hyn, ond yn unig ar yr amod i'r Undeb i wneyd y Gyffes Ffydd uchod. Y mae Cyngor yr Undeb eisioes wedi gwneyd datganiad o'r hyn a gredir genym yn gyffredin, ond ni wna hyn foddloni Mr. Spurgeon, er nad oes yna fawr o wahaniaeth rhwng datganiad yr Undeb ag eiddo Dr. Angus, yr hwn a'i boddlonai. Oynhaliodd Cymanfa Bedydd- wyr Llundain ei chyfarfod yn ddiweddar yn nghapel Bloomsbury, a chynygiwyd gan Mr. Greenwood fod y cyfarfod yn galw ar Gyngor yr Undeb i dynu allan Gyffes Ffydd gyflawnach. Cynygiwyd gwelliant, yn cynwys y nacaol, ao yn galw ar y Gymanfa i beidio gwneyd hyn, ond i gadw ymlaen i weithio dros Grist a'i achos, ae i fod mewn undeb a heddwch yn y dyfodol, megis yn y gorphenol. Cariwyd y gwell- iant drwy fwyafrif o 30. Pleidleisiodd 300. Nid oes yn awr ond disgwyl yn bryderus a gweddigar hyd gwrdd blynyddol yr Undeb, gan obeithio y ca' y pleidiau la.wer o ras a synwyr, ac y daw daioni o'r hyn a ymddengys yn breseno) yn ddrwg mawr. MYFYR MORGANWG A'I DDALIADAU. (" Ieuan Dyfed yn Taricm y Qweithitvrl Ebrill 5.) Ychydig wythnosau yn ol ymddangosodd llythyr oddiwrth Morien yn y South Wales Daily hews, yn yr hwn yr amddiffynai olygiadau ei ragflaenor, Myfyr Morganwg," o berthynas i Iesu y Testament Newydd. Dywedai ymhlith pethau eraill, fod Myfyr," "Bcer yn gwadu Dwyfoldeb Iesu o Nazareth, ar yr un pryd yn ei ystyried y dyn mwyaf, a'r goreu, a welodd y byd erioed." Pan welais y frawddeg hon, meddyliais ar unwaith ei bod yn groes i'r hyn oeddwn i wedi arfer gredu a chlywed am olygiadau Myfyr o berthynas i lesu Grist. Felly troais i edrych un o weithiau Myfyr," sef "Gogoniant Hynafol y Cymry," a chefais frawddegau fel hyn (tud. 41-2) -11 Y gwir yw, na fu, ac nad oes, cy- maint ag un ffaith hanesyddol yn profi fod y fath berson a Iesu Grist y Testament Newydd, wedi bodoli erioed, yn unrhyw oes na gwlad. 0 ddifrif, onid yw yn ddigrif iawn meddwl, os ymddangosodd unrhyw ymhonydd (pretender) syml a meddal, tebyg i Joseph Smith, ymysg yr luddewon gwerinawl, gan ddistaw gyhoeddi, a ohredu am dano ei hun, mai efe oedd Apollo, Siloh, neu Messiah yr Oes Aur, addawedig yn y fiug-ddaroganau ? Tyb Renan, yn ei' Life of Christ' yw, iddo ymddangos, ond digrif. ach fyth, a saith mil rhyfeddach, nid yn unig os cafodd rai i'w gredu, ond iddo dan leni caddugawl yr oesoedd, gael cynifer o fiiiynau ar filiynau i'w gyfaddef yn Iachawdwr, a chynifer o wyr medrus i gefnogi. addurno, a chadarnhau ei ffug-Gristionog- aeth a hyny i raddau trwy gamddeall, ond i raddau mwy, trwy bob twyll, dicbell, a thrais—ie, a bod y fath wastraff ar allu meddyliol, amser, a chyfoeth a'r fath weithio caled, y fath oddef, a'r fath ymladd, lladd a llosgi eu gilydd, wedi bod gan benboethiaid, i amcldiffyn a lledaenu, yn eu ffordd eu hunain, y fath ofergoeledd gwag, yn awr er'3 deunaw cant o flynyddcedd I" Mor bell ag y mae a fynwyf fi &'r pwnc, nid yw opiniynau Myfyr na Morien yn cael eu galw i gyfrif o gwbl. A ffeithiau yn unig y mae a fynwyf fi, ac nid ag opiniynau pobl. Meth- wyf weled, hefyd, fod un anhawsder i neb sydd yn daall y Gymraeg i ddeall y dyfyniad uchod o Myfyr." Nid deall ydyw y gamp, ond cysoni. A fydd i "Morien," fel y diacon caredig gynt, fod mor hynaws, a dangos, trwy gyfrwng y Tarian, y cyson- deb rhwng ei eiriau ef ag eiddo y profiwyd ?' ANGHYSONDEB Y GWRTHDDEGYMWYR. (Gwalia, Ebrill 9fed.) Nid ydym, er chwilio, wedi cael fod neb o gyfeill- ion William Thomas, cadeirydd y Cyngrair Gwrth- ddegymol yn sir Fflint, wedi d'od allan i geisio ei wyngalchu ar ol y sylwadau a wnaethom bythefnos yn ol i'r perwyl ei fod ef yn berchenog degymau yn mhlwyf Llangollen, ac wedi arfer gorfodi eu taliad llawn. Ond y mae genym air pellach am y brawd hwn i ddangos, er ei fod mor haelionus gyda'i dafod a'i gynghorion i'w gymydogion, ei fod yn bobpeth ond haelionus yn ei galon ac yn ei weithrediadau. Rhyw 250 mlynedd yn ol bu farw hen Eglwyswr duwiol o'r enw Edward George, yn Magillt, ger Tre- ffynon, gan adael ystad fechan o tua 15 erw a thydd- ynod yn waddol i dlodion Treffynon. Y mae copi o'r ewyllys ger ein bron, a gosodir pwys neillduol ar y frawddeg fod yr ardreth i gael ei ranu yn mysg hen dlodion Treffynon am byth." Yr ydym yn gwybod fod W. Thomas yn fasnachydd pwysig, yn ddyn o gyfoeth, ac yn flaenor gyda'r Han Gorph ond tybed fod hyny yn rhoddi hawl idde i gael ei ys- tyried fel y prif un o "dlodion Treffynon" fel y deillia naw ceiniog o bob swllt o'r hyn a adawyd yn elusen iddynt ? Y ffaith yw hyn y mae un o'r tyddynod a enwyd, lie o'r enw Pantysaeson, gyda thua pedair erw o dir,:yn cael ei ddal dan brydles gan y William Thomas hwn er's llawer o flynyddau, ac am yr hyn y mae yn talu i Ficer Treffynon, at ei ranu ymhlith y tlodion, £ 3 yn y flwyddyn. Yna y mae yn ail osod Pantysaeson am ardreth o zC12 yn y flwyddyn Felly fe wel y darllenydd, am bob M a dderbynia hen wragedd tlodion Treffynon, mae y Thomas yma yn elwa £ 9 iddo ei hun Yr un ydyw hwn ag sydd yn myned i hwyliau mawr ar y llwyfan. au ao yn tynghedu pobl i -1 gynhyrfu yn erbyn y tirfeddianwyr, yr Eglwys, y degwm, Ty yr Arglwyddi, yr hen Doriaid annuwiol yna," ac felly yn y blaen. Bydd yr uchod yn enllib ao yn anwiredd yn ol ath. rawiaeth y Faner a'r Celt, ac yn rhy isel i sylwi arno, ond nid yw yn enllib nac yn anwiredd i alw dynion parchus yn anghenfilod," a thir-feistri yn lladron ysbeilgar/ajchlerigwyr yn gnafiaid diegwyddor," a Mr Balfour yn "gigydd gwaedlyd," yn eu colofnau hwy.

IDEONTIAEIU LLIFON, MON,

[No title]

AT Y BEIRDD.'0'

Y FERCH WAMAL YN NHY DPU^'…

CYMANFAOEDD Y JAGO! Doe"

Y CYNHYRFWR RADIOALA f-