Hide Articles List

16 articles on this Page

LLANILLTYD, BRYCHEINIOG.

ESGOBAETH BRECHIN.

MARWOLAETH Y PARCH. T. REES,…

COLEG LLANYMDDYFRI.

CYNHADLEDD ESGOBAETHOL LLANELWY.

EGLWYS GYMREIG YN BIRKENHEAD.

FICERIAETH LLANSANTFFREAD.

GWAITH DUR PANTTEG.

CYFARFOD 0 LOWYR YN COED-DUON,…

0 YR ALCANWYR.

CYHUDDO CYMRO 0 LADRATA MEINI…

DARGANFYDDIAD AUR YN SIR DDIN-BYCH.

NODIADAU SENEDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU SENEDDOL. [GAN EIN GOHEBYDD ABBENIG.] Y GYLLIDEB. Fel y sylwyd yn y rhifyn diweddaf, cyflwynodd Mr. Goschen, Canghellydd y Trysorlys, ei Gyllideb i'r Senedd nos Fawrth cyn y diweddaf. Siaradodd y boneddwr gwir anrhyd. eddus am dair awr a deng munyd, a chafodd y gwrandawiad mwyaf astud a brwdfrydig, er ei fod yn aofio mewn moroedd o fiigyrau sychion. Rhoddwn gerbron y darllenydd grynodeb o weith. rediadau y flwyddyn gyllidol, yr hon oedd yn terfynu ddiwedd mis Mawrth. Y DERBYNIADAU. Disgwyliai Mr. Goschen y buasai y gweddill (surplus) ar ddiwedd y flwyddyn gyllidol yn £ 2,337,000. Yr oedd treulion y flwyddyn yn llai, o'u cydmaru â'1 ameangyfrifon, o X612,000, ac yr oedd y derbyniadau yn fwy na'r estimates o ;gl,472,000. Yr oedd y cyllid oddiwrth y dollfa yn zC30,000 yn fwy na'r amcangyfrif; yr oedd y derbyniadau oddiwrth yr excise yn dangos cyrydd o i'305,000; a stampiau, cynydd o zCI,182,000, yr hyn a briodolai Mr. Goschen i adfywiad mas- nachol diamheucl; ac yr oedd yn ddyledus i farwolaeth rhai miliwnariaid. Derbyniodd Canghellydd y Trysorlys C90,000 yr un oddiwrth ddwy ystad. Yr oedd y llythyrdy yn dangos cynydd o X50,000 ar yr amcangyfrif. Yr oedd gwasanaeth y pellebyr yn cyfateb yn union i'r amcangyfrif; tiroedd y Goron, X30,000 0 gynydd; llog ar echwyniadau a gweithfeydd lleol, cynydd o £ 2,000. Yr oedd y cynydd mewn te yn £ 103,000. Nid rhyw lawer o gynydd sydd yn cymeryd lie yn nghyllid te un amser. Yr oedd dilead y doll ar y myglys y flwyddyn ddiweddaf wedi achosi lleihad yn y derbyniadau oddiwrth y ddeilen beraroglus," am nad oedd yr adranau ag oedd yn gwahardd dyfrhau y tybaco wedi d'od i rym hyd y rhan olaf o'r flwyddyn. Mewn perthynas i winoedd a gwirodydd poethion, yr oedd ef (Mr. Goschen) yn cael fod cynydd mawr wedi cymeryd lie, Yr oedd y cyllid oddiwrth gwrw yn zCl22,000 yn fwy na'r amcangyfrif; ac, a chymeryd pob peth gyda'u gilydd, yr oedd y cynydd yn £ 300,000. Yr oedd Mr. Goschen yn priodoli hyn i'r arddangosiadau teyrhgarol a gymerasant le y flwdddyn ddiweddaf, (Chwerthin.) Ond barnai rhai fod rhywbeth a fynai tywydd poeth yr haf diweddaf a'r mater. Y mae hyn, pa fodd bynag, yn newydd annymunol i garwyr sobrwydd. Yr oedd y doll oddiwrth brofiad ewyllysiau yn C7,570,000, a threth olyniad (succession duty) yn £ 820,000. Nid oedd dim cynydd wedi cymeryd lie yn nghynyrch yr income tax. Yr oedd yr holl dderbyniadau am y flwydd- yn yn cyraedd y swm o X89,589, yr hyn a ddengys fod Canghellydd y Trysorlys wedi safio P,1,454,000, yr hyn o'i ychwanegu at yr arbediad yn amean- gyfrifon y treuliadau a rydd weddill (surplus) o J2,377,000, y surplus mwyaf er y flwyddyn 1873. Derbyniwyd y ffigyrau hyn yn nghanol arwyddion digamsyniol a gymeradwyaeth gan y ddwy ochr i'r Ty. Nid yn ami y clywyd y fath cheers calonog yn Nhy y Cyffredin. CYLLID A THREULIAU Y FLWYDDYN DDYFODOL. Yr amcan-gyfrif o'r treuliau am y flwyddyn ddyfodol ydoedd X86,910,000, neu X512,000 yn llai na'r flwyddyn oedd ar derfynu a'r derbyn- iadau X89,287,000, nau t302,000 yn llai na'r flwyddyn ddiweddaf. BETH A WNEIR A'R GWEDDILL. Yr oedd' Canghellydd y Trysorlys dan an- fantais neillduol eleni am fod Mesur Llywodr- aeth Leol yn Ilyncu i fyny ran fawr-y rhan fwyaf o lawer—o'r surplus. Ar ol yr etholiadau yn Ebrill, 1889, byddai i'r rhodd Seneddol o X2,600,000 at achosion Ileol gael ei symud o'r Budget, a threthi yn cynyrchu C3,800,000 yn cael eu trosglwyddo drosodd i'r awdurdodau lleol. Bydd hyn yn fantais anarferol i'r treth- dalwyr. Bydd y cynllun newydd hwn yn ysgafn- had o X2,900,000 ar y trethi Ileol, a phrofa yn fantais neillduol i'r amaethwyr yn eu sefyllfa wasgedig bresenol. Er gwaethaf yr hafog a'r difrod a wnaed ar y Gyllideb gan y County Government Bill, tynodd Mr. Goschen un geiniog ymaith yn nhreth yr incwm, diddymodd drwydded y crwydr-wcrthwyr (hawkers), a rhyddhaodd dirfeddianwyr ac amaethwyr rhag talu income tax ar dir lie byddai y gwrteithiad yn profl yn golledus. MOR-GAMLAS SUEZ. Un o'r rhanau mwyaf dyddorol ac effeithiol o araith Mr. Goschen oedd y cyfeiriad a wnaeth at ran-ddaliadau Cumlas Suez. Prynodd Arglwydd Beaconsfield y shares hyn am £ 4,000,000. Maent yd awr yn werth £ 10,500,000 Cofus gan rai o'n darllenwyr i Mr. Gladstone wneyd yr ym- osodiad mwyaf ffyrnig a beiddgar a chynhyrfus ar Mr. Disraeli (y pryd hwnw) am brynu y Suez Canal Shares heb yn wybod i'r Parliament. Bold stroke oedd hon o eiddo yr hen wlad. weinydd o fendigedig goffadwriaeth. Un o brif neillduolion Arglwydd Beaconsfield oedd far-, sightedness. Yr oedd yn canfod ymhell o'i flaen, ac yn medru deongli arwyddion yr amserau. Cynygia Mr, Goschen ffurfio cynllun drwy yr hwn y gobeithia y bydd yn alluog i gyfarfod y treuliau ynglyn a'n hamddiffynfeydd milwrol a'n glo orsafoedd a Hog y cyfran-ddaliadau. Ni fu erioed fwy o frwdfrydedd o fewn muriau St. Stephan na phan wnawd y datganiad pwysig hwn. Da iawn Y DDYLED WLADOL. Talodd Mr. Goschen ymaith y swm aruthrol o X8,000,000 o'r Ddyled Wladol yn ystod y flwyddyn, y swm mwyaf a dalwyd er's un mlynedd ar bymtheg. Mae Ilygad barcutaidd gan Mr. Goschen fel cyllidydd, ac fel prawf o hyn digon yw nodi y ffaith fod y boneddwr gwir an- rhydeddus wedi safio £ 15,000 drwy gadw Ilygad manwl ar gyfrifon y Bank of England. Ni chyf. lwynwyd Cyllideb mwy llafuriawr a ffafriol i'r trethd&lwyr erioed i sylw y Parliament Pryd- einig. TRETHI NEWYDDION. Wedi gwneyd y gostyngiad a grybwyllwyd yn nhreth yr incwm, a chyfnewidiadau eraill, yr oedd Mr. Goschen yn fyr i gyfarfod ei ofynion, fel yr oedd dan yr angenrheidrwydd o arosod trethi newyddion. Cynygiai roddi treth o XI ar bob pedrolfen fyddo yn pwyso uwchlaw 10 cant, gyda'r eithriad o bob cerbydau fyddo yn cael eu defnyddio i ddibenion amaethyddol. Trosglwyddir y dreth bresenol ar gerbydau i'r awdurdodau lleol. Cynygiai hefyd fod treth o 2s. 6c. yr olwyn yn cael ei gosod ar bob cerbydau uwchlaw dau gant. Felly byddai trol ddwy olwyn yn talu 5s., a throl pedair olwyn 10s. mewn ychwanegiad at y Yl a enwyd yn barod. Barnai Mr. Goschen y dylai y wageni trymion sydd yn gwneyd y fath hafoc o'r ffyrdd gael eu gwneyd i dalu tuag at eu hadgyw- eirio, a derbyniwyd y sylw gyda bloeddiadau o gymeradwyaeth. Cynygiai roddi treth hefyd o £1 ar geffylau fyddo yn cael eu defnyddio i ym- bleseru, £ 5 ar geffylau rhedeg (race horses), a composition duty o £ 15 ar fasnachwyr ceffylau (horse dealers). Rhoddid treth o 20s. ar bob X1000 o gyfalaf ar gwmniau cyhoeddus. Cynyg- iai hefyd osod treth o 5s. y dwsin ar winoedd a drosglwyddir mewn costreli o wledydd tramor, megis champagne a gwinoedd drudfawr^eraill, Y FEIRNIADAETH. Yr oedd bron pob siaradwr ar y ddwy ochr i'r Ty yn canmol y Gyllideb ar y cyfan, gyda'r eithr- iad o Mr. Chaplin. O'r braidd yr oedd ef yn credu y gwnai y dreth ar geffylau rhedeg ddwyn rhyw lawer i'w drysorfa. Pan daflai ei olwg ar hyd mainc y Trysorlys, nid oedd yn canfod un dyn yn eu plith oed&qn gwybod ewahaniaeth rhwng ceffyl a bawch. (Chwerthin). Nid oes un ddadl nad yw Mr. Chaplin wedi digio wrth y Llywodraeth am beidio cefnogi ei geffyl pren (hobby horse)—Masnach Deg. TOLL Y GWIN. Pasiwyd yn ddiymaros y penderfyniad yn awdurdodi 5s. y dwsin ar boteli gwin,—ac yn unfrydol. Pe gadewid hyn i adeg ddyfodol, prynai llawer o ddynion dranoeth ddigon o win am flwyddyn er gochelyd y doll. Y RHANAU ANMHOBLOGAIDD O'R GYLLIDEB. Teimlir gwrthwynebiad gan lawer i'r "wheel tax," a'r dreth ar "geffylau pleser;" ae nid oes un ddadl nad oes ystorm yn berweddu. Y rhai hyn yw y cynygion mwyaf anmhoblogaidd o'r Budget. Cawn weled. Nid yw cyllidydd mwyaf yr oes wedi yngan gair, ac nid yw ei osgordd. leuadau wedi rhoi dim goleuni ar y pwnc eto. GWYLIAU Y PASG. Gohiriodd y Ty ei weithrediadau nos Fawrth ar gynygiad Mr. W. H. Smith hyd y 4ydd o Ebrill, ac aeth y Gweinidogion i'r wlad with flying colours," medd un newyddiadur Llundein. ig. Dywedai y Times hefyd eu bod yn gwir deilyngu seibiant am ychydig ddyddiau. Ni fa y Llywodraeth Undebol erioed yn fwy poblogaidd. Dywedai Mr. John Bright, mewn llythyr at fon. eddwr yn yr IwerddonThe Government is doing well now, and it will strengthen their posi- tion in the constituencies," neu eiriau i'r un pwr- pas. Lies y wlad sydd ganddynt mewn golwg; ac addefai aelod adnabyddus o Lywodraeth ddi- weddar Mr. Gladstone eu bod yn ddiogel yn awr am bum' ralynedd," Hwr6

iHatxSma&ortiti.

Y GYMDEITHAS GENHADOL EGLWYSIG.

DEONIAETH WLADOL ARDUDWY.