Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

LLANDDEWI VELFREY.

GWRECSAM.

LLANLLECHID.

GELLI, LLANDEGAI.

ABERTEIFI.

News
Cite
Share

ABERTEIFI. MARWOLAETH A CHLADDEDXGAETH MRS. DAVIES, Y FICERDY.—Gyda galar dwys yr ydym yn cofnodi marwolaeth y foneddiges barchus a charuaidd uchod, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau, yr 22ain cynfi3ol. Dioddefodd gystudd maith a blin yn dawel ac amyneddgar, a bu farw yn dangnefeddus a'i henaid yn pwyso ax fynwes ei Gwaredwr. Nod- weddid ei bywyd gan natutioldeb swynol, yr hyn, ynghyd â,'i thymer addfwyn, garuaidd, a'i gwnelai yn wrthddrych sercb pawb a ddeuai i gyffyrddiad a hi. Taflodd ei marwolaeth gwmwl o dosturi dros yr holl dref, ac y mae oydymdeimlad a'i phriod galarus, yParch. W. Cynog Davies, B.D., yn ddwfn a chyffredinol. Dydd Mawrth, y 27ain cynfisol, ym- gynullodd tori fawr, yn cynrychioli pob plaid a chredo, i dalu y deyrnged olaf o barch i'w choffawd- wriaeth. Cynwysai yr orymdaith bruddaidd blant ysgolion Sul a dyddiol St. Mair, holl glerigwyr y cylchoedd, y galarwyr, a'r cyhoedd yn gyffredinol. Yn yr Eglwys, canodd y cor (yn eu gwenwisgoedd) y Salm apwyntiedeg, darllenodd y Parch. R. W. Owen, curad y plwyf, y llith. Ar derfyn y gwasan- aeth canwyd yr emyn adnabyddus, For ever with the Lord," gyda tbeimladau drylliog, Yna ffurfiwyd yn orymdaith, a chychwynwyd tua'r gladdfa newydd. Wedi cyraedd y fynwent, blaenorwyd yr orymdaith gan y cor, y rhai a ganasant yr emyn Gymreig, Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," o'r hwn yr oedd yr ymadawedig yn dra hoff. Darllenwyd y gwasanaeth wrth y bedd gan y Parch. T. Jones, B.A., rheithor Cilgeran, a. ohyn ymwahanu canwyd yr emyn Seisnig 1, Let saints on ea.rth in concert sing." Foreu Sul, pregethwyd yn Eglwys St. Mair gan y Parch. T. Jones, Cilgeran, yr hwn, mewn rnodd teimladwy a phwrpasol, a gyfeiriodd at y golled drom yr oedd Eglwys St. Mair, a'r plwyf yn gyffredinol, wedi gael yn marwolaeth Mrs, Davies. Nawdd y nef a fyddo dros ei phriod galluog a llafurus yn ei brofedigaeth chwerw.

MERTHYR TYDFIL.

ABERAFON.

--. HENDY GWYN AR DAF.

LLANDUDNO.

TRELETTERT.

CAERFYRDDIN.

.TALYBONT.

LLAWRYGLYN.

GELLY AUR.

LLANFWROG, RHUTHYN.

TAIBACH.

CWMAFON.

ABERERCH (PWLLHELI).I

EGLWYS NEWYDD.

MESUR AMLEGLWYSI (PLURALITIES…

DEONIAETH WLADOL ARDUDWY.