Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

LLANDDEWI VELFREY.

GWRECSAM.

LLANLLECHID.

News
Cite
Share

LLANLLECHID. CANTATA GYSEGREDIG.- Yn ystod misoedd y gauaf, bu eõr yr Eglwys, o dan arweiniad medrus Mr. Thomas Piarca (Coetmor) yn dysgu un o gan- tawdau cysegredig Mr. H. Davies, A.C., Pencerdd Maelor. Nos Wener, Mawrth 23ain, 1888, rhoddas- ant berfformiad rhagorol o honi yn Ysgoldy Genedl- aethol Rachub. Llywyddwyd ar yr achlysur gan yr Hybarch Arehddiacan Evans, yr hwn a roddodd yehydig o sylwadau eglurhaol cyn dechreu y per- fformiad. Hefyd traddododd y Parch. W. M. Jones, B.A., y curad, ychydig eiriau i'r un pwrpas. Testyn y gantawd dan sylw ydyw Dafydd." Cynwysa unawdau, cydganau, ac adroddiadau-yr holl eiriau wedi eu dethol o'r Ysgrythyr Lan. Deehreua. y gantawd gyda hanes Dafydd yn bugeilio defaid ei dad, ei ddewisiad o blith ei frodyr, a'i eneiniad yn frenin gan Samuel. g Hyder Dafydd yn Nuw, a'i ymdrechion llwyddianus yn erbyn y Philistiaid. Eiddigedd maleisus Saul, a chariad pur ac angerddol Jonathan tuag ato. Yna gorchfygiad Israel a chwymp Saul a'i feibion yn mynydd Gilboa, a galar- nad Dafydd am danynt. Ymgasgliad llwythau Israel yn Hebron cyfamod Dafydd â hwynt, a'i eneiniad gan yr holl henuriaid yn frenin ar Israel. Terfyna y gantawd gyda dau gydgan, Gwyn fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd," a Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu." Dadganwyd yr unawdau gan Mr. W. J. Williams, un o aelodau y cor, a'r hwn sydd yn meddianu llais tenor melodaidd. Y rhai a gymerasant ran yn yr adroddiadau oeddynt Miss Ellen J. Pierce, Miss Maggie Rowlands; Mri. T. Jones, W. M. Pierce, W. Ellis, R. R. Roberts, G. Jones, D. Llewellyn, D. Dauies, W. Roberts, W. R. Williams, ac 0. Owens. Yr oedd yn amlwg fod llawer o amser a llafur wedi eu treulio i berffeithio y perfformiad, canys ni ddigwyddodd yr un cam- gymeriad, na'r un o'r man "slips" hyny fydd yn anmham perfformiad o ddarnau fel hyn ambell waith, o'r dechreu i'r diwedd. Ar derfyn y cyfarfod, canodd y c6r yr Anthem Genedlaethol. Dadgan- wyd yr unawd gan Mrs. Jones, Britannia House. Gwnaeth Mr. H. G. Roberts, organydd yr Eglwys, ei waith ar yr achlysur yma, fel bob amser, gyda boddhad i'r holl gantorion. Yr oedd y gwrandawyr yn unfryd yn llongyfarch y c6r a'i arweinydd medrus Mr. Pierce am y gwaith rhagorol a wnaethant. Nos Sadwrn, y 24ain, perfformiwyd y Cantata yn Assem- bly Room Clwb Oeidwadol Bethesda. Llywydd oedd ,Mr. T. H. Owen, Brynllwyd.

GELLI, LLANDEGAI.

ABERTEIFI.

MERTHYR TYDFIL.

ABERAFON.

--. HENDY GWYN AR DAF.

LLANDUDNO.

TRELETTERT.

CAERFYRDDIN.

.TALYBONT.

LLAWRYGLYN.

GELLY AUR.

LLANFWROG, RHUTHYN.

TAIBACH.

CWMAFON.

ABERERCH (PWLLHELI).I

EGLWYS NEWYDD.

MESUR AMLEGLWYSI (PLURALITIES…

DEONIAETH WLADOL ARDUDWY.