Hide Articles List

5 articles on this Page

ETHOLIAD GOWER.

News
Cite
Share

ETHOLIAD GOWER. NID ydyw y blaid Gladstonaidd wedi derbyn ergyd mor niweidiol oddiar yr amser y dyg- odd Mr. GLADSTONE ei gynllun parthed i Ymreolaeth Wyddelig o flaen y cyhoedd, a'r ddyrnod a syrthiodd i'w rhan yn etholiad Gorllewinbarth Sir Forganwg yr wythnos ddiweddaf. Y mae y mwyafrif o 3457 wedi ei ddwyn i lawr i 606, a hyny yn ngwyneb y ffaith fod rhyw ddwsin o aelodau seneddol wedi cynorthwyo yr ymgeisydd Radicalaidd a'u presenoldeb a'u hyawdledd. Nis gellir gwrthddywedyd y ffigyrau uchod, a'r unig gasgliad a ellir ei wneyd ydyw fod miloedd o'r etholwyr wedi newid eu barn ynghylch Ymreolaeth. Gwneir ymgais gan y newydd- iaduron Radicalaidd i leihau y golled, ac i guddio'r gorchfygiad a ddioddetodd eu plaid, ond erys y flaith yr un. Ystyrid y Dywys- ogaeth fel meddiant neillduol y Gladston- iaid, a chredai llawer fod Cymru yn fwy ffyddlawn i Mr. GLADSTONE nac hyd yn nod yr Iwerddon. Yr ydym o wythnos i wyth- nos wedi sylwi ar y Wasg Radicalaidd yn ymffrostio yn hyn, ac yn sicrhau pawb mai byr ydyw y tymor dros ba un y pery yr un Ceidwadwr gynrychioli etholaeth Gymreig. Mor sicr o hyn ydoedd arweinwyr dirgelaidd y blaid, fel y cynlluniasant cyn fod yr anadl allan o gorff yr aelod blaenorol i roddi un o'r ¡ place-hunteTS hyny sydd yn barod o dan bob amgylehiad i ddilyn Mr. GLADSTONE yn y sedd oedd ar ddyfod yn wag. Aeth y bon- eddwr dan sylw, yr hwn ydoedd yn Erlyn- ydd Cyffredinol yn Ngweinyddiaeth Mr. GLADSTONE, i lawr i Abertawe yn union- gyrchol ar ol angladd Mr. YEO i gymeryd meddiant o'r sedd, ac arweiniwyd ef oddi- amgylch gan Ysgrifenydd y Gymdeithas Radicalaidd. Ymddangosai y swyddog hwn In ID yn falch o'r rhan a chwareuid ganddo yn yr helynt. Boreu dydd Sul, ar ol ei ddyfodiad i'r ardal, aeth Syr H. DAVEY i gapel yr Annibynwyr J n Walter's Road. Cynulleidfa o swells sydd yn mynychu y capel hwn; rhaid felly ydoedd dangos i'r rhai hyn nad Gwerinwr cyfangwbl ydoedd yr aelod new- ydd. Digwyddodd fod yn Sul Gymundeb ac er nad yw Syr HORACE yn Annibynwr, arosodd ar ol, a chymerodd ran yn yr addol- iad. Yn yr hwyr, yn rhwym wrth linyn ffedog ei arweinydd, aeth i gapel mawr Morriston, yr hwn a elwir gan rai wrth yr enw Welsh Cathedral." Yr oedd yn ben mis yma hefyd, a chan fod y boneddwr am ddangos ei fod yn hynod barod i gyf- addasu ei hun at bob gradd a chyfiwr yn ei etholaeth newydd, ymunodd yn yr addoliad, er fod y cwbl yn pael ei gario yn y blaen yn yr iaith Gymraeg. Ond ar ol rhyw ddiwrnod neu ddau, duodd y ffurfafen uwch- ben, ac aeth mor dywyll fel y bu yn angen- rheidiol i'r cyn-Erlynydd Cyffredinol gasglu ei dda ynghyd a dychwelyd ar un- waith i Lundain, Hoff-ddyn y PP-dicaliaid ydoedd un Mr. BUENIE, ond taflwyd ef naill ochr gan yr arweinwyr, am eu bod yn caru un a enwyd gan Mr. GLADSTONE yn fwy na boneddwr ydoedd yn gysylltiedig a masnach a gweithfeydd yr adran. Fel canlyniad, cododd y gweithwyr mewn gwrthryfel, a dygwyd gwrrrmaesfel ymgeisydd llafur." Yr oedd agwedd pethau yn ddifrifol erbyn hyn. Dychrynodd y Radicaliaid yn Llun- dain, a gyrwyd Syr EDWARD REED i daflu olew ar y dyfroedd. Nid ydoedd y dewisiad hwn yn un ffortunus. Clytiodd ryw fath o heddwch, ac ymffrostiodd ar ol hyny yn ei fedr a'i allu fel llysgenhadwr, ond profodd y canlyniadau mai gwneyd pethau yn llawer gwaeth a wnaeth. Tranoeth ym- ddangosodd perygl llawer mwy difrifol drwy i Mr. J. T. D. LLEWELYN, Penllergaer, gynyg ei hun fel ymgeisydd Ceidwadol. Y mae Squire Penllergaer," fel ei gelwir, yn bobl- ogaidd dros ben, ac y mae yn byw yn yr adran hon o sir Forganwg. Ni rhyfedd, ynte, i'r datganiad ei fod yn dyfod allan daro braw a syndod yn mynwesau y Radicaliaid. Nis anghofir byth yr olygfa y pryd hwn yn y gwersyll Radicalaidd. Er- fyniwyd ar Syr EDWARD REED aros, a dan- fonwyd cais i'r brifddinas yn taer ofyn am gynorthwy. Yr oedd MABON ac ELLIS wedi cyraedd maes y frwyd'r eisioes, oblegid yr oedd amcan arall ganddynt heblaw enill y sedd i Ymreolwr. Amcan sectyddol yd- oedd hwn, sef enill mawredd i Shon Gorph." Y mae y ddau foneddwr uchod yn perthyn i'r Corph," a pherthynai Mr. RANDELL, yr ymgeisydd llafur, hefyd i'r un enwad. Un o erthyglau y ffydd Galfinaidd ydyw hon: gosod Calfin ymhob swydd mor belled ag y gellir. Y mae gwanc Shon" am swydd yn adnabyddus bellach dros holl Gymru. Yn y Gogledd y mae pob bwrdd cyhoeddus braidd wedi ei oresgyn ganddo, ac y mae pump o'i ganlynwyr yn aelodau Seneddol. Gwnaeth Shon ei oreu glas i gael mwyafrif o'r etholedigion ar Gyngor Coleg Bangor, ond trechwyd ef am fod yr Eglwys yn rhy gryf. Ar ol dyfodiad "MABON" ac ELLIS i'r adran, daeth haid o aelodau Seneddol i lawr i gymeryd rhan yn yr ymgyrch. Ni chafodd Morganwg ei ffafrio erioed o'r blaen gan gynifer o aelodau Seneddol. Yr oedd yr aelod cylch-grwydrol dros yr adran ddeheuol o'r sir yno yn ail- adrodd ei brofiad. o'r I werddon-profiad a gasglwyd ganddo yn nghwmpeini Aaron Fawr" yn ystod ei arhosiad am bedwar diwrnod yn yr Ynys. Synasoni lawer gwaith fod ei gydymaith yn absenol, one sibrydir ei fod wedi teimlo i'r byw am fod ceugydau (cattouses) Merthyr a Gower wedi ei anghofio pan yn dewis olynwyr i Biri. JAMES a YEO. Neu, efallai, bod dwyn Methodist arall i ddadleu dros Mr. RANDELL yn debygol o agor llygaid y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Yr oedd yno wr o Wyddel yv arllwys ei hyawdledd i glustiau t/rigohott Gower—gwr tal, main-ond ni ddarfu iddo lwyddo i wneyd dim argraff ar feddyliau yr etholwyr, oherwydd nid oes ond ychydig å honynt o'r un rhywogaeth ag ef. Yr oedd y derbyniad a gafodd Mr. LLEWELYN BIO* frwdfrydig, ac yr oedd ei gynorthwywyr roor fywiog a gwresog, fel y danfonwyd gorch- ymyn caeth o'r pencadlys Radicalaidd fo" pob cynorthwy allesid ei gael i'w DDANFON ar frys i Gower. Yn yr ail dvvr a ddisgyn' odd ar yr adran, mewn ufudd dod i'r gorch- ymyn uchod, ydoedd Syr H. VIVIAN, 31r, OSBORNE MORGAN, Mr. CHAMPION, cynrycb' iolydd Socialistiaid Liundain, DirprwyWr Chwarelwyr Gogledd Cymru, a llawer eraill. Yr oedd y eynllun ar ba un yr ywo laddodd y boneddigion hyn y frwydr yn unol a'u hegwyddorion. Safai cynrycbio*' ydd Socialistiaeth i fyny yn lie y gweiniog Ymneillduol, a phregethai egwyddorOn Oommunistiaeth o'r pwlpud. Yr oedd ialtb Syr EDWARD REED am Mr. LLEWELYN 133or gywilyddus fel y bu raid iddo wneyd y)#" ddiheuriad cyhoeddus y diwrnod canlynol- Sathrodd goffadwriaeth fendigedig y diwedd' ar Mr. HOWEL GWYN dan draed, ond y&' adawodd a'r ardal yr un noswaith. Dywedlr fod ei ddiflania,d disymwth i'w gygylltU » bygythion gweithwyr y Dyffryn a Chastell- nedd i gymeryd-dïal personol am y sarhad arllwyswyd ar enw da eu cymydog a 1:1 cyfaill Mr GWYN. Gwnaeth Mr. OSBOR1411 MORGAN ei oreu i oganu yr Eglwys ar au yr hon y meithrinwyd ef, ac enllibod yn ddiarbed gymeriadau ei arweinwyr yn ieuanc. Yr ydym wedi synu lawer p*y pa fodd y gall dynion a alwant eu hunain yn foneddigion ddisgyn i ddyfnderoedd 111 or waradwyddus a'r pyllau i ba rai yr aeth Y arweinwyr Gladstonaidd yn Gower. DeS' grifiodd Mr. O. MORGAN, yr hwn sydd f Q.C., ac yn fab i offeiriad, anerchiad ^r'. LLEWELYN yn y goiriau detholedig a Yatll Namby-pamby, shible-shable, wis Y, washy." Ar yr un pryd. yr oedd ei arelúh- iau ef ei hun yn llawn o anmhuredd a chan" ddarluniadau. Y mae efe a Syr EDWARD YD edrych ymlaen at y diwrnod pryd yr s,p' wyntir hwy yn swyddogion o dan Mr. CLAI" STONE pan y bydd yn Brif Weinidog neSa.. Ofnwn, fodd bynag, fod y diwrnod hwf wedi ei osod allan o'u cyraedd, a bod sio1** edigaeth chwerw yn eu haros. Y mae arn0^ drueni dros Syr H. VIVIAN. Unwaith bu y uchel ei ddylanwad, ac yn- gyfaill i'x- EglvvYo' ond erbyn heddyw pleidia y gwleidyddwyt hyny sydd am rwygo y deyrnas yn ddwY' ac sydd hefyd yn barod i ladrata eiddo X Eglwys a'i arfer at ddibenion secularaidal Pa fodd y cwympodd y cedyrn A ydy yn disgwyl am bendefigaeth? Os ydY; siomiant sydd yn ei aros, oherwydd 13 gwelir Mr. GLADSTONE yn Brif Weinid°jj byth mwy. Y mae canlyniad etholi^j Gower, yn ei heffaith ar sefyllfa vyfleidyd^ Cymru, yn ardderchog, ac yn gaiondid m* j yn ngwyneb dadblygiadau yr amser ddyfod. Dylasai cyfeillion trefn a theyto, garweh fod yn effro ac yn barod gogyfe^ unrhyw ddigwyddiad. Yr hyn a wna0li pwyd yn Gower yn ngwyneb anghyfartal0<J mawr a ellir ei effsithio ymhob etholaeth 1 y Dywysogaeth ac y mae rheswm da & j gredu fod ein cydwladwyr yn dechreu mor ddiwerth a phwdr ydyw yr eilundd^ a osodwyd i fyny er mwyn iddynt ei Y, a'u bod hefyd yn benderfynol i ddyfod ddynion rhydd mewn ystyr wleidyddol11 waith yn rhagor.

Advertising

Family Notices

Advertising

CYHUDDIAU DIFIUFOL YN EHBYS…