Hide Articles List

12 articles on this Page

CYNHADLEDD FLYNYDDOL ESGOBAETH…

LOIIREDIAD " Y LLAN A'R DYWYSlIP…

- ' "Y LLAN."

YMNEILLDUAETH A'R EGLWYS.

News
Cite
Share

YMNEILLDUAETH A'R EGLWYS. At Olygydd y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Darllenais ysgrifau y pregethwr Ymneillduol gyda gradd helaeth o ddyddordeb; ac yr oedd eu darlleniad yn argraffu ar fy meddwl gymaint ydyw gwerth cynwysiad yr ysgrifau i Eglwyswyr yn gyff- o redinol fel mynegiad neu ddatganiad llafurfawr a chryno o deimladau y mwyafrif o Ymneillduwyr. A phaham y mae y datganiad hwn yn werthfawr i Eglwyswyr ? Y mae yn werthfawr am ei fod yn dangos teimladau ag y mae pob Eglwyswr yn tybied sydd yn anwahanedig gysylltiol ag Ymneillduaeth, ao hefyd deimladau na ddarfu i unrhyw wr lien neu leyg feddwl, ïa, hyd yn nod freuddwydio yn ei freu- ddwydion gwylltaf eu bod yn ffynu ymysg Ymneill- duwyr. Pe baem yn disgwyl am ddychweliad y defaid crwydredig i'r gorlan unedig, beth fydd yn fwy manteisiol i ni na gwybod y llwybrau dyryslyd ag y mae y defaid hyn wedi colli ynddynt ? Yr wyf yn credu yn bendifaddeu, Mr. 'Got., fod I- Pregethwr Ymneillduol "wedi dal, trwy ei ysgrifau, lusern losg- adwy a disgleiriol, i oleuo uwchben manau tywyll yn y llwybrau hyny ao yr ydwyf yn dymuno diolch iddo am hyn yn galonog. Nid wyf am wastrafiu eich gofod werthfawr gyda adolygiad ar yr ysgrifau yn eu cyfanrwydd ond fe fuaswn, gyda eich can- iatad, yn dymuno ateb ei gyhuddiadau. Pob clod iddo am allu dal ei ysgrifell mor dymherus, am fod hyny yn beth mor hynod eithriadol ymysg y frawd- oliaeth Ymneillduol 1 Ond y mae wedi gwneyd un neu ddau o gyhuddiadau lied ddifrifol yn erbyn y gweinidogion eglwysig. Dywed nad ydyw yr ofieir- iaid yn cymdeithasu a'r gweinidogion Ymneillduol, a'u bod (yr offeiriaid) yn edrych i lawr arnynt gyda dirmyg. Yr wyf yn credu y rhan gyntaf o'r frawddeg llawn oymaint a'r gwr parchedig ei, hun. Pe buasai hyn oherwydd gostyngeiddrwydd, buasai yn warth tragwyddol hyd yn nod i leygwyr cyffredin, heb son am rai wedi eu sancteiddio; ag arddodiad dwylaw olynwyr yr apostolion. Nis gall gweinidog yr Eglwys gymdeithasu a rhai sydd euog o gyflawni Sism, heb fod yn groes iddo ei hun. Os y cyfarfyddi a, lleidr ar y fiordd na chytuna ag ef, rhag dy fod yn gyffelyb iddo." Yn yr un ffordd, nis gall y gweinidog Eg- lwysig wiieuthur ei hun yn gyfrinachwr a'r gweini- dog Ymneillduol, heb fod trwy hyny yn cyfiawnhau Ymneillduaeth. Dyma y camgymeriad dybryd ag y mae Ymneillduwyr yn ei wneyd hyd yn nod pan yn edrych mewn gwedd gyfeillgar ar yr Eglwys, sef edrych arni fel cyfundeb tebyg i un o'u cyfandebau hwy eu hunain, ac fel y oyfryw yn unig felcyfartal i un o honynt. Mae yn wir fod y ffiloreg yna yn gymhwysiadol i bob enwad Ymneillduol, oblegid y maent oil yn sefyll ar yr un tir- Y mneillduaeth. Nid yw y Methodistiaid Calfinaidd a'r tri enwad arall ond ar yr un tir a'r Pabyddion a'r Undodiaid—Ymneilldu- aeth mev;-n parthyr-as A,r Egl-,Yys. yL', sicr na fuasai y Methodist yn caru cyfrinaciiu a'r Pab- yddion, ae eto fe wOl fai arnom ni am beidio cyf- rinachu ag ef, yr hyn sydd yn llawn mor anmhosibl i ni ar egwyddor ei wneyd, ag iddo yntau gyfeillachu a'r Pab. Mae yn rhaid fod yna rhyw un Eglwys yn iawn, ac nis gall ond un fod yn iawn. Megis ag y mae yna ond un Arglwydd, felly hefyd nid oes yna ond un Eglwys. Ac y mae hanesyddiaeth yn cad- arnhau mai ein Heglwys ni yw'r hon a hebryngwyd yn ei hurddau a'i hordeiniadau yn bur o oes i oes, trwy olyniaeth apostolaidd yn ddifwlch hyd yn awr. Hi yw'r Eglwys awdurdodedig; pob peth sydd o'r tuallan iddi Anffyddiaeth a Sism yw. Felly mae ein hegwyddorion anwylaf, y rhai na fydd i ni eu haberthu er cyfelllach neb, yn gwneuthur cyfrinach cydrhwng ofieiriad a gweinidog Ymneillduol, yn beih hollol anmhosibl. Os ydynt am gyfeillach yr ofieiriad, deuant drosodd i gymundeb yr Eglwys, a ohant ddwylaw croesawus a chalon gynes yr oil o'i "meib" i'w derbyn. Gyda golwg ar y rhan ddi- weddaf o'r cyhuddiad, nis gall fod yn wir, saf ed- rychant gyda dirmyg ar ein gweinidogion" am yr ofieiriaid yn gyfiredinol. Hwyrach fod yna ambell i offeiriad ffroenuchel a brwdfrydig yn gwneuthur hyny. Ond nid oes yr un ofieiriad pwyllog, o synwyr cyffredin ao o brofiad, a wna hyny. Na, maent yn ffieiddio ac yn cashau y meddylddrych ynfytaidd. Edrychant hwy gyda thosturi nid dirmyg arnynt. Yr ail gyhuddiad yw, fod yr offeiriaid yn galw eu gweinidogion yn Jackyddion." Yr wyf yn credu fod y fath ddysg goethedig ag y mae pob ofieiriad yn ei dderbyn, yn gwneuthur arferiad o'r fath iaith isel, gwrachaidd, a maswaidd ganddo yn beth an. mhosibl. Nid oes yr un ofieiriad yn euog o'u galw felly yn gyhoeddus, neu drwy'r wasg I Mae ef ei hun yn galw yr offeiriaid yn benwag a diras. Beth ydyw eu galw hwy yn Jackyddion o'i gymharu a galw yr offeiriaid yn benwag a diras ?" Ei ysgrifell ef ei hun a ysgrifenodd hynyna! Yr wyf yn sicr fod cymaint o ras yn nghalon yr offeiriaid, a mwy o wybodaeth yn eu pen, na'r gweinidogion Ymneilldu. ol fel cyfangorff Rhaid cael geneu gl&n i oganu." Sôn am ddifrïo gweinidogion Ymneillduol yn wir. Pwh! Gadewch i ni, 'machgen i, gael ffeithiau. Onid yw'r Ymnaillduwyr braidd yn ddieithriad yn galw yr offeiriad yn" Hen BerBon?" Ac onid ydynt yn llysenwi y curadiaid yn Gyw rhad," "Oywion rhad," a'r cyffelyb? Atebwch fy ngwestiynau yn gydwybodoll Onid ymddangosodd erthygl mewn cyfoesolyn, dan olygiaeth Dr. Ymneillduol, yn gwawdio y Drindod Sanctaidd, gan alw y landlord. iaid, y personiaid, a'r stiwardiaid yn Ddrindod fell. digedig-wedi gwneyd mwy o ddrygioni na Satan yn y byd ? Dyna i chwi beth yw difrio, dirmygu, di. lorni personiaid, os mynwch ohwi, syr. Atolwg, syr, pwy sydd yn euog o ddifrio ? Fe ymddangosodd yr hanesyn canlynol yn A hrysorfa y Plant er's tipyn yn ol, dan y penawd "Dyddanion Unwaith fe ddigwyddodd i offeiriad edrych am ei bregethau yn y fyfyrgell, ao am nas gallai eu canfod galwodd ar y gwas, gan ddywedyd, John, pa le mae fy mhregeth- au?' I Nis gwn, syr, os nad yw y llygod wedi eu bwyta.' 'Sut y darfu iddynt fyn'd felly, John?' gnis gwn, syr, heblaw eu bod wedi cael gwell bias arnynt na'r gynulleidfa yn yr Eglwys. Atolwg, pwy sydd yn difrio y personiaid ? Organ grefyddol, t Phariseaidd, rhagrithiol y Methodistiaid Galfinaidd. Nid y rhai a ragenwais yw'r unig enghreifitiau. Gallaswn lenwi holl golofnau'r LLAN a hwynt. Yr wyf yn apelio at y gwr parchedig am ei farn gyda golwg ar y owestiynau a nodais.—Ydwyf, yr eiddoch, &o., SEVERUS. Mawrth 16ag, 1888.

LLINELLAU

ENGLYNION

ETHOLIAD GOWER.

SffiYDDION NEWmTGOGfLEDD CYMRU.

AT Y BEIRDD.

Y CLAF 0 GARIAD.

MYNYDDAU COLORADO.

ARDALYDD HARTINGTON YN CARLISLE,