Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.L, PIGION O'E WASG GYAIREIG,

MANYLION DYDDOROL AM YR YSTORM…

News
Cite
Share

MANYLION DYDDOROL AM YR YSTORM FAWR YN YR AillERICA, Am y waith gyntaf yn y genhedlaeth bresenol, ymwelwyd ag arfordir yr lwnol Daleithiau gan gor- wynt ogle dd- orllewinol, yr hwn a barhaodd am dri diwrnod. Ddydd Gwener a'r Sadwrn yr oedd y wybren yn glir, a'r awyr yn beraroglaidd, a llawen- ychai pawb mewn gobaith fod y gauaf drosodd. Daeth dydd Sul gyda gwynt deheu-orilewinol, ac yna wlaw cynes, tra yr oedd y gwresfesurydd yn 60 gradd. Fel yr elai y Sul heibio yr oedd y gwlaw yn cynyddu, a thua machlud haul yr oedd yn dylifo yn genllif. Rhagfynegwyd y cyfodai gwynt deheu- ddwyreiniol gan ddwyn gydag ef wlaw, ond dim yn ychwaneg. Yn ystod nos Sul daeth oyfnewidiad oedd mor nodedig ag oedd o annisgwyliadwy. Yr wythnos ddiweddaf, cafwyd oerni mawr ac ystormydd o eira yn y Taleithiau Gogledd-orllewin. Cynyrchwyd y cyfnewidiad ddydd Sadwrn, gan ostyngiad hinfesur. ydd, yn ymestyn yn ddeheuol o Lake Michigan i Alabama, gan ymsymud yn raddol tua'r dwyrain. Nos Sadwrn, ymranodd y gostyngiad, gan ffurfio dau ganolfan i'r ystorm, un dros Lake Erie a'r llall dros Georgia. Symudodd y ga.nolfan ddeheuol yn gyflym i fyny yr arfordir, aeth y llall i lawr dyffryn St. Lawrence, gan groesi y Taleithiau canolog hyd i'r m6r, a diweddu mewn gwynt deheu-orllewinol, gyda gwlaw, ddydd Sul, yn cael ei ganlyn gan gyfnewid- iad sydyn yn y gwynt i'r gogledd-orllewin, a thymheredd ostyngol, ac yn olaf eirwlaw, cenllysg, ac eira. Yn Washington, daeth y cyfnewiad oddiamgylch am bump o'r gloch prydnawn ddydd Sul; yn Phila- delphia am un-ar-ddeg nos Sul; ac yn New York am bedwar o'r gloch foreu ddydd Llun. Rhyfedd oedd effeithiau y cyfnewidiad disymwth yn Phila- delphia. Ymhen deng munyd, trodd y gwlaw a ddylifai yn genllif am un-ar-ddeg o'r gloch yn eirwlaw, ac wedi hyny yn genllysg ac eira. Trodd y gwynt i'r gogledd-orllewin, a daeth ar ol haner nos yn gorwynt a'i ymdaith ar brydiau yn 60 milltir yr awr. Cafodd pob dinas gyffelyb brofiad, ond eu bod yn hwyrach, fel yr ymdeithiai yr ystorm tua'r gogledd-ddwy rain i fyny yr arfordir. Rhewai yr eira gwlyb a meddal ar y ddaear ac ar wifrau y pellebyr a'r pellseinydd (telephone). Ymsiglai y gwifrau trwmlwythog yn y gwynt, ac ymdorai y pyst a'u cynhalient. Cwympodd y gwynt, hefyd, filoedd o goed. Fel y cynyddai y gwynt, deuai yr oerni yn fwy angerddol. Yr oedd yr ardymeredd wedi gostwng 40 o raddau erbyn y boreu, ac nis gallai dim wneyd ei fiordd yn erbyn yr ystorm. Chwythid yr eira yn lluwchfeydd mawrion, y rhai a rewent mor galed fel yr ataliwyd pob trafnidiaeth bron yn gwbl. Yr oedd y difrodiadau yn yr holl ddinasoedd arforawl yn nodedig. Yr oedd holl wifrau y pellebyr a'r pellseinydd naill ai wedi eu tori i lawr neu eu gwneyd yn annefnyddiol, ac yn hollol ddigymundeb a'r byd. Yr oedd yn anmhosibl anfon neges neu bellabyr i un lie o New York, Philadelphia, Baltimore, a Washington. Nis gellid gweithio yr un o'r 300 gwifrau a gysylltient New York a Philadelphia. Yr oedd y naill a'r llall wedi eu hamddifadu mor lwyr o gymundeb a'r byd a phe y buasent yn nghanol y m6r. Yr oedd y lluwchfeydd wedi llenwi myned- feydd (cuttings) y rheilffyrdd, ac wedi rhewi yn galed, gan lwyr atal pob trafnidiaeth. Ac yn ychwanegu y rhwystrau yr oedd y miloedd pyst pellebyr oeddynt wedi eu chwythu i lawr gan y gwynt. O'r tua 800 cerbydresi a arferent redeg i fewn ac allan o Phila- delphia ao ar hyd ffyrdd haiarn Pennsylvania a Reading nid oedd yr un yn alluog i wasanaethu ar y dydd Llun angeuol hwnw. Yn New York, allan o gynifer a hyny o gerbydresi llwyddasant i gael un gerbydres o Boston i mewn i'r dref, a dim ond hono. Nis gallai y clud-fadau groesi yr afon, ac yr osdd pont Brooklyn wedi ei chau gan y buasai y gwynt yn chwythu pobpeth a nturiasai drosti! Cauwyd i fyny ugeiniau o gerbydresi, yn cynwys miloedd o deithwyr, mewn eira oedd mewn rhai manau yn 20 troedfedd o ddyfnder, ac nis gallai nerth cyfunol agerbeirianau eu symud. Yr oedd y gwynt yn chwythu yn rhy galed i'w symud a rhaw- iau. Yr oedd y dinystr cyffredinol yn atal i hysbys- rwydd ddyfod oddiwrth gerbydresi ac i orchymynion gael eu hanfon iddynt. Llenwid gorsafoedd y rheilffyrdd 4 phobl yn Hawn pryder. Gellir dychym- ygu yr effaifch gafodd yr ystorm ar drafnidiaeth. Ni cheid na phellebron na llythyr-gerbydau yr oedd y rheilffyrdd ddyrchafedig a'r tramffyrdd wedi eu hatal; nis gallai pobl fyned i lawr y dref na dvfod iddi o'r lleoedd cylchynol. Cyrhaeddodd yr v ystorm New York ddydd Llun. Yr oedd Broadway a Wall-street yn nghanol lluwchfeydd eira, a wnaent dramwyaeth braidd yn annichonadwy. Yr oedd lliaws o ariandai yn analluog i agor eu coffrau, am nas gallai y swydd- ogion gyraedd yno. Gan fod pob trafnidiaeth fas- nacEol yn annichonadwy, cauwyd y Stock Exchange yn gynar, a gohiriwyd cytundebau hyd y dydd dilynol. Nid ymddangosodd ond 39 yn unigo brokers, allan c'r 1,100 aelodau perthynol i'r gyf- newidfa arianol, Fel yr oedd dydd Llun yn myned heibio, yr oedd y tywydd yn lliniaru, ond gyda'r nos daeth cyf- newidiad arall. Dechreuodd rhan arall o'r ystorm ymgynddeiriogi, a chyfododd awel ogledd-orllewinol, finiog, gan rewi pob peth yn galed, ac yr oedd yr awyr yn drymaidd. Syrthiasai yr ardymerydd yn agos mor isel a zero. Yr oedd y rheilffyrdd o New York, Philadelphia, Baltimore, a Washington wedi rhoddi i fyny bob ymdrech i redeg cerbydresi. Cyn- yddai y gwynt trwy gydol y nos, gan dori i lawr ychwaneg o goed, gwifrau, a simddeuau. a gwasgar dinystr ac achosi difrod cyffredinol. Gwawriodd dydd Mawrth gyda phob tramwyaeth wedi ei barlysu yn waeth nag o'r blaen. Daeth y newyddiaduroQ boreuol allan yn y dinasoedd mawrion heb 0 unman eto prin yr oedd ganddynt ddigon o ofo<* i adrodd am y dinystr a wnaed-am gerbydreSI wedl dyfod i withdarawiad ac wedi eu malurio, aoj/ meirw a'r clwyfedigion, am longau wedi eu drylh0 ar hyd y glanau, yr afonydd, a'r crigylloedd, aD1 bobl wedi rhewi i farwolaetb, am adeiladau wedie^ chwythu i lawr a'u didoj, ac am ddamweiniau &i- ddiwedd. Yr oedd lliaws o lestri ar y Ian yn DelavVE610 River Bay, 23 yn Delaware Breakwater, gyde. 20 0 bersonau wedi boddi. Drylliwyd dau o fadau perth- ynol i New York, tra y cafodd y Great Brighton Hotel, a safai ar Coney Island, ei chwythu i lawr! a golchwyd ei hategion ymaith gan y tonau. DyW Mawrtb, cafwyd fod y pellseinyddion yn gweithio rhwng Philadelphia a New York, gan alluogi trWy' hyny i ymchwiliad gael ei wneyd am gerbydresi colledig, ac anfonwyd gwyr allan gydag ymborth r-f teithwyr newynog, a minteioedd, gyda rhawiau, l'f'{ rhyddhau o'r eira. Cafodd y stockbrokers hefy3 1 dull hwn hefyd yn gyfleus i gario eu masn&°J* ymlaen. Gan fod Stock Exchange New Y°r. mewn oyflwr cynddrwg ag erioed, cauwyd hi drachefn tua haner dydd, a gohiriwyd cytundebaU: Parodd yr atalfa gyflawn hon i fasnach a'r ariand661 ddarfod yn llwyr bron. Cadwyd y Philadelphia Stock Exchange yn agored trwy y dydd, ac yr oedd pobpeth yn codi, er y gallesid tybied, gyda'r filth barlysiad ar drafnidiaeth, y buasai gostyngiad at bobpeth. Ond deallwyd rhywfodd ddarfod i Lun" dain wneyd codiad ar y prisiau Americanaidd, fel Y symudodd y dylanwad hwn yn hcllol ddylanwad Y ystorm ar eiddo y rheilffyrdd.

DYRC-HAFIAD CYMRO YN YR AlPsT,

YSGOL RAMADEGOL DOLGELLAU'