Hide Articles List

4 articles on this Page

.L, PIGION O'E WASG GYAIREIG,

News
Cite
Share

.L PIGION O'E WASG GYAIREIG, [SMS VERITAS.] MESUR Y LLYWODRAETHIAD SIROL. (Y Gwyliedydd, Mawrth 28ain.) Wythnos i nos Lun diweddaf dygodd Mr. Ritchie, un o aelodau y Weinyddiaeth, gerbron y Senedd un o'r mesurau pwysicaf a mwyaf eang yn ei ddarpar- iadau a'i ddylanwad a gyflwynwyd i sylw'r Ty yn ystod yr haner canrif presenol. Yr ydym wedi ysgrifenu y frawddeg uchod yn bwyllog ac ystyriol, ac yr ydym yn dra sicr, wedi i'n darllenwyr sefyll uwchben gwahanol adranau y mesur, y byddant oil o'r un farn a ni. Dug y mesur hwn y fath gyfrif- oldeb ar y wlad fel y teimlwn fod ei ddeall yn glir a thrwyadl yn annhraethol bwysig. Yna ar ol ei ddeall, fe fydd gweithio allan ei adranau yn ffydd. Ion yn galw am ymddeffroad eyffredinol ymhlith pob dosbarth, ao am ymroddiad diball hefyd. Cyfeiriwn y sylwadau hyn yn arbenig at ein gwlad ni ein hunain. Goreu po gyntaf y gelwir cyfarfod- ydd ymhob cymydogaeth i egluro y mesur, ac i ddangos beth ydyw dyledswydd a chyfrifoldeb pob dosbarth yn ein gwlad yn ei wyneb; ac hefyd i wneyd y parotoadau angenrheidiol er ei weithio allan. Egyr y mesur hwn swyddogaethau fydd yn alluoedd o ddylanwad ar ein gwlad, rhydd ffurfiau newydd i gymeriad cymdeithasol ein gwlad mewn ami i ystyr, ac ymafla mewn materion fydd yn ym- yryd ar ein nodwedd foesol i raddau mawr. Ac y mae gofalu i law pwy y disgyna y fath allu a hwn, yn orchwyl ag sydd yn galw am i gymeriadau goreu y genedl i fod yn effro ac egniol am fisoedd lawer. Dyma fesur sydd yn creu cyfnod (era) newydd yn hanes Cymru a'r deyrnas, ac y mae'r modd yr ym- ddygir ato yn myned ymhell i brofi beth fydd cy- meriad y gallu raid fod yn un o'r prif factors i benderfynu dyfodol ein cenedl. Drwg genym ar ryw olwg y bydd y mesur yn rhwym o ddwyn allan yn Nghymru ddau allu i frwydr ffyrnicach nac erioed, sef Anghydffurfiaeth a. Chydff urflaeth. Bydd enill yr awdurdod uwchaf mewn rheoli Mesur y Llywodraeth Sirol yn fuddugoliaeth gwerth i Ym. neillduaeth ac Eglwysyddiaeth frwydro am dani. Enill yma fydd sicrhau cyfleustra i enill i mewn liaws o gyfeiriadau eraill pwysig. HAERLLUGRWYDD Y CYNGREIRWYR OYMREIG. (Gwalia, Mawrth 28ain.) Yr ydym wedi derbyn lliaws o lythyrau o wahanol fanau yn diolch i ni am y dadleniad a wnaed genym yn ddiweddar i ddangos pa fath ddynion ydyw y rhai hyny sydd yn argymell pobl i ymgyngreirio er ceisio ysgubo ymaith yr Eglwys a'r tirfeddianwyr. Dangosasom beth fyddai cyflwr yr amaethwyr Cymreig pe cawsai y Cyngrair Tirol ei ffordd i benodi tirfeistri o stamp Mr. Owen, Dorothea, a Mr. William Thomas, Plas Newydd. Y mae ugeiniau o engreifftiau cyffelyb i'w cael, felly y mae hyny o galondid i Mr. Owen wybod mai nid efe yw yr unig un sydd wedi mwy na dyblu rhent ei dir rhagor yr oedd cyn iddo ei berchenogi. Y mae genym ugeiniau o dystiolaethau pendant i ddangos fel y mae rhai o'r bobl haelfrydig, teulu Cymru Fydd, addolwyr Ad- fyfyr a Michael Davitt,, ao etholedigion y Faner, wedi dyblu, treblu, ac hyd yn nod dau.ddyblu rhenti ffermydd a ddaethant i'w meddiant yri gydmarol ddiweddar. Wrth gwrs.< y mae hyny yn oddefol a chyson ag egwyddorion duwiolfrydig y Faner, os gwneir hyny gan Fethodist! Mae genym brawf am un gweinidog YmneiUduol enwog a gafodd fferm yn anrheg, ac a aeth a dyblodd y rhent, nes ydoedd y tir yn bedair gwaith gymaint yr acer ag yr oedd tir cyffelyb am y gwryoh. Un arall-oefnogydd myn- wesol a brawd yn y ffydd i Mr. J. Bryn Roberts—a ddaeth yn berchen fferm o X18 yn y flwyddyn, ac a'i rhanodd yn bedair rhan, gan godi 918 am bob rhan o'r pedair, X72 am yr oil; un arall a gododd ardreth lie bach o £ 1110s. i £ 32; ac un arall, tenant ar ystad fawr, ac yn talu yn ol 15s. yr acer, yn prynu fferm iddo ei hun ond yn hytrach na myned i'w meddianu, y mae yn ei gosod i denant am 35s. yr acer, a'r tir yn llai ei werth na'r bwn y mae ef ei hun yn ei rentu am 15s. Gallem nodi ugeiniau o engreifftiau cyffelyb, ond nid ydym yn credu mewn gwneyd hyny yn ol dull Adfyfyr, drwy gelu yr enwau gan ddweyd "Ardal B "Plwyf LI- U Sgweier J- Yrydymamwneyd defnydd o'r ollmewnamser cyfaddas, gan roddi y benod a'r adnod ymhob amgylchiad. Ond digon, ar hyn o bryd, i ddangos i amaethwyr Cymru pa sut yr ym- darawent gyda landlords newydd spon yn ol egwydd- orion Cymru Fydd." MR. SPURGEON. (" Gohebydd Llundain y Celt, Mawrth 30ain.) Mae yr wythnos hon wedi bod yn wythnos fawr yn hanes y Cyngrair Efengylaidd (Evangelical Alliance). Pan ddaeth Mr. Spurgeon a'i gyhudd- iadau difrifol allan yn erbyn cyfeiliornwyr ei enwad ei hun, ac yn enwedig cyfeiliornwyr yr enwad An- nibynol, cyrhaeddodd yr ergyd adref gyda nerth mawr, ac y mae yn bar debyg fod oriau difrifol eto yn aros Undab y Bedyddwyr am y bleidlais a basiwyd ganddynt o gerydd ar y cawr o'r Metropoli- tafl Tabernacle. Wel, mewn ffordd o gydymdeimlad a daliadau Mr. Spurgeon, ac & Mr. Spurgeon ei hun fel person, penderfynwyd cynal o dan nawdd yr Alliance nifer o gyfarfodydd cyhoeddus i ail gy. Tioaddi vn ddifloesgni brif ertbyglau II y ffydd a. roddwyd unwaith i'r saint. Bu cyfarfodydd mawrion yn Exeter Hall a manau eraill, a thyrai y miloedd iddynt. Dydd Mercher, am dri, yr oedd Mr. Spurgeon wedi ei gyhoeddi i roddi special address yn Mildmay. Aethom yno chwarter i dri, ^an dybio na fuasai tyrfa hyd yn nod i wrando Spurgeon am dri o'r gloch y prydnawn ar dywydd garw, ond fel arall yn union yr oedd, y neuadd fawr yn llawn ar y pryd. Diau fod tair mil yno, a'r dyrfa yn llifo ar y pryd o bob cyfeiriad i chwyddo y cynulliad anferth. Maes o law cauwyd y drws, a dychwelodd canoedd i'w tad yn siomedig ar ol methu cael mynediad i mewn. Nid oes neb arall yn Llundain, os yn y byd, fedrai gael y fath gyn- uHiad i wrando address am dri o'r gloch y pryd- nawn, ac y mae yn well i'r Unieb wneyd heddwch a. Spurgeon, neu yn wir byddant yn sicr o gael eu mala rhwng meini y felin. Yr oedd pobl uniongred pob enwad yn cyduno yn y cyfarfodydd anferth hyn. Offeiriad efengvlaidd oedd yn digwydd cadeirio yn yr oedfa dydd Mercher. Rhoddwyd oroesaw cynes dros ben i arwr y cyfarfod" (chwedl ein gohebwyr Cymreig), a siaradodd am awr ar brif bynciau ein crefydd, gan apelio yn fwy at brofladau credinwyr na.g at ymresymiadau anghredinwyr. Llefarodd yn nerthol iawn, a phrofodd ei fod yn gymaint o feistr y gynulleidfa ag erioed. Tynodd lawer o gymariaethau a ffeithiau o'i brofiad personol ei hun, a gyrai wefr drwy y gynulleidfa pan y darluniai sut —pan oedd yr awr dywyllaf arno-yr oedd wedi "hongian ar fraich noeth Duw (hanging on the naked arm of God). Wyr Cymru-diolch i Dduw— fawr yn brofiadol am yr afiechyd athrawiaethol yma sydd wedi dringo i bwlpudau Lloegr. Er nad wyf yn credu yn holl gyhuddiadau Mr. Spurgeon, eto y mae yn dweyd wmbredd o wir ac yr wyf eto yn ail adrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen yn y colofnau hyn-fod ei safiad gwrol dros ffydd Iesu Grist yn sicr o wneyd llawer mwy o ddrwg nag o dda. Nid yw y Christian World yn credu hyny, ond y mae y C. W. mewn crefydd yr hynywy Western Mail mewn Politics-rhaid ei ddarllen, fel darllen breuddwydion, o chwith cyn cael o hyd i'r gwirionedd. SABBOTHAU BUGEILIAID. (" Gohebydd yn y Goleuad, Mawrth 29ain.) Y rheol gyffredin gyda'r Methodistiaid ydyw fod y bugail yn pregethu yn amlach yn ei gartref nag yn un lie arall, a da feallai fyddai fod ambell un yn pregethu yn amlach eto. Ond at, yr hyn ydym yn cyfeirio: pan y mae gweinidog yn dyfod i le newydd, yn enwedig os bydd yn dyfod o sir arall, nid yn unig, feallai na bydd ganddo yr un cyhoeddiad yn y sir, ond yr un cyhoeddiad rheolaidd chwaith yn ei gartref. Yn awr, sut y gwneir ? We), fel hyn y gwneir yn y dyddiau hyn ;-Y mae y gweinidog a'r swyddogion yn cytuno â'u gilydd i anfon at y pregethwr sydd i fod yn y daith, i ddweyd wrtho am beidio dyfod i'w gyhoeddiad, gan eu bod hwy yn ddiweddar wedi galw gweinidog i'w plith. Wrth gwrs, pe buasai y swyddogion yn anfon at y pregeth- wr i ofyn iddo a fuasai yn newid gyda eu bugail— pobpeth yn dda. Nid oes yr un pregethwr, gallaswn feddwl, na fuasai yn foddlawn i wneyd hyny ar un- waith; ac felly buasai pobpeth yn gwbl esmwyth o'r ddwy ochr. Yn awr, gofynwn a ydyw anfon at bregethwr iddweyd wrtho am beidio dyfod i'w gy- hoeddiad, a dim arall, o dan amgylchiad fel hwn, yn bath iawn, heb son am foesoldeb crefyddol ? Atebwn nag ydyw, ond ei fod yn hollol anghyfiawn, a llad- rad perffaith. Y bugail yn cymeryd mantais ar ei sefyllfa i lanw ei Sabbothau gweigion ei hun A Sabbothau pregethwr arall, yr hwn oedd wedi eu rhoddi yn rheolaidd er's blynyddoedd yn y daith, ac yn cael ei gydnabod am danynt, ao heb un iawn yn cael ei wneyd i'r brawd arall am danynt, ao yntau, druan, yn gorfod aros gartref heb un lie i fyned A hyn eto sydd yn ddifrifol iawn, fod yr un lleoedd yn anfon at yr un pregethwr ddwywaith a thair yn yr achos hwn. Mae genym post cards a llythyrau yn ein meddiant, ag y mae yn demtasiwn i mi y funyd yma i roddi eu cynwys gerbron dar- llenwyr y Goleuad. Son am roddi rhybudd pryd- lawn, nid yw haner blwyddyn na blwyddyn yn ddigon o rybudd oherwydd nid oes neb yn meddwl am ofyn icyhoeddiad yn awr i bregethwr sydd yn pregethu yn rheolaidd o fewn y terfynau hyn. Mon a Lleyn sydd wedi bod ddyfnaf yn y camwedd yma yn ddiweddar. Yn sicr y mae hyn yn ormod o an- nhrefn i'w oddef ddim yn hwy. Rhaid dwyn yr achos yma i'r Cyfarfodydd Misol, ac yn mhellach, os bydd raid. Ond gadawn ar hyn heddyw, a rhoddwn y manylion eto, os bydd angen. ETHOLIAD GOWER. (Y Tyst, Mawrth 30ain). Mae y frwydr yn y dosbarth hwn yn oael ei chario ymlaen gydag egni o bob ochr. Cynhelir cyfarfod- ydd brwdfrydig bob nos yn rgwahanol ranau y cylcb, ao y mae y t&n yn cerdded i bob cwr. Cyfanwyd y blaid ddeohreu ys wythnos, ac nid doethineb yw i neb fyned ar ol helynt flin a fygythiodd ranu y Rhyddfrydwyr, a rhoddi oyfle i Geidwadwr fyned a'r sedd oddiarnynt. Arferwyd doethineb canmoladwy gan y Gymdeithas Ryddfrydig, ao y mae yr holl blaid drwy y cylch yn awr a'u holl egni yn gweithio o blaid Mr. Randell. Da genym ddeall fod Syr Hussey Vivian, A.S., Mr. Osborne Morgan, A.S., Mr. T. E. Ellis, A.S., Mr. John G'Connor, A.S., Syr E. J. Reed, A.S., Mr. Arthur Williams, A.S., Mr. Broadhurst, A.S., Mr. Dillwyn, A.S., a Mabon, A.S., wedi ymdaflu i ganol y rhengoedd, ao yn gweithio o ddifrif. Dengys hyn eu bod yn ystyried pwysig- rwydd y frwydr hon ar y fath adeg, ac mai nid gwrthwynebydd cyffredin sydd ganddynt i ymwneyd ag ef. Er fod Mr. Llewelyn yn berthynas yn ol y cnawd i rai o honynt, ac yn gyfaill calon i eraill, eto y mae pob ystyriaeth yn myned o'r golwg ga.nddynt yn y frwydr hon. Os parha y brwdfrydedd i gyn- yddu ac ymledu hyd ddydd yr etholiad fel y mae wedi gwneyd yr ychydig ddyddiau diweddaf, nid oes amheuaeth na fydd gan Mr. Randell o leiaf ddwy fil o fwyafrif ar ddydd yr etholiad, er fod Mr. Llewelyn yn ymladd ar ei domen ei hun, a chanddo ddylaa- wad mawr yn y oylch. Byddai colli y sedd yn yr etholiad hwn yn warth i Anghydffurfiaeth a Rhydd- frydiaeth yn Ngorllewin Morganwg. Nis gallwn gredu y goddefa Rhyddfrydwyr Gower i'r fath anfri gael ei daflu arnynt, ac i'r fath sarhad gael ei daflu ar Mr. Gladstone, y gwr y trodd Deheudir Cymru allan fel un gwr i'w anrhydeddu ychydig fisoedd yn ol, trwy adael i Dori gipio y sedd i'w dwylaw, a gyru i'r Ty Cyffredin un a rydd ei bleidlais ar bwnc yr Iwerddon yn erbyn Mr. Gladstone. Mae cymeriad politicaidd y genedl Gymreig yn y glorian. MAER IAWN AM UNWAITH. (Y Drych, Mawrth 15fed.) Y mae yn arferiad yn ninas New York er's un mlynedd ar bymtheg ar hugain i'r maer sefyll mewn rhyw fan gydag urddasolion eraill, i edrych ar y Gwyddelod yn gorymdeithio ar ddydd Sant Patrick. Ond teimla Abram S. Hewitt, y maer presenol. fel peidio cydymffurfio a'r arferiad anmhriodol hwnw, canys ar y 6ed cyfisol, pan aeth pwyllgor ato i ofyn iddo wneyd ddydd Sadwrn nesaf yn ol arfer ei rag- flaenwyr, dywedodd wrthynt yn eglur nad oedd efe yn ystyried cydsyniad yn unol a'i ddyledswyddau. Felly bydd yn rhaid i Blant y Gors gerdded ar Broadway heb i'r maer fod yn edrych yn swyddogol arnynt. Haedda Mr. Hewitt glod am ei wroldeb yn y mater hwn. Diau y cosbir ef os byth y bydd eto yn ymgeisio am ryw swydd ond nid oes help am hyny. Fel Pabyddion y dathla y Gwyddelod ddydd eu sant cenedlaethol. Nid yw yn iawn iddynt fel crefyddwyr drawsfeddianu prif heolydd ein dinas- oedd mawrion ar yr 17eg o bob mis Mawrth. Ni chaniateid y fath ryddid i neb arall a'r Pabyddion Gwyddelig a fyddent y rhai blaenaf i'w anghymer- adwyo a'i atal. Y mae yn groes i egwyddorion y Weriniaeth i swyddogion gwladol roddi cydnabydd- iaeth ffurfiol i enwadau crefyddol. Yn breifat, fel y dathlodd y Cymry ddydd eu sant hwy, y gweddai i'r Gwyddelod ddathlu dydd eu sant hwytBau. Fel eymydog a chyfaill bydd i Mr. Hewitt fyned i swper felly nos Sadwrn nesaf. Ond gellir ofni na fydd i'w esiampl gael efelychiad dyladwy gan faerod trefi eraill. Pe y gofynasid i'r Arlywydd Cleveland ddyfod i New York i edrych ar y gosgorddlu Cork- onaidd ddiwedd yr wythnos hon, prin y oredwn y beiddiasai wrthod dyfod, gan mor wancus ydyw, ar hyn o bryd, am yr Irish vote.II Yr un clwyf sydd yn peri fod cynifer o rai eraill yn ein gwlad mor barod i ganiatau pob peth a ofynir gan y Gwyddelod. Dylai y Gwyddelod gael yr un chwareu teg a phobl eraill; ond ymollyngir gormod o'u blaenau pan yr a ein swyddogion gwlado), fel y cyfryw, i gydnabod eu crefydd wahaniaethol. Cadwer Sant Patrick oddiar ein heolydd, a chyfynger ef i'w eglwysdai a'i neuadd- au cyfrinachol ei hun. Dyna yw ystyr nacad can- moladwy y Maer Hewitt.

MANYLION DYDDOROL AM YR YSTORM…

DYRC-HAFIAD CYMRO YN YR AlPsT,

YSGOL RAMADEGOL DOLGELLAU'