Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

IECHYD YMERAWDWR GERMANI.

PWLL GLO AR DAN.

----ABYSSINIA AC ITALI.

BRADWRIAETH I LOFRUDDIO MR."…

----LLOFKUDBIAETH TYBIEDIG…

---...-------YR HELYNT YN…

------------SctogtiiJion Cjjffrefltnol.

News
Cite
Share

SctogtiiJion Cjjffrefltnol. HUNANLADDIAD MEWN CEEBYDRES.—Pan gyr- haeddodd y tren 1.25 p.m. yn Brighton ddydd Llun, cafwyd corff dyn wedi ymwisgo yn dda mewn cerbyd, gyda llawddryll ar yr eisteddle. Cafwyd allan tod y trancedig wedi saethu ei hun drwy'r genau. Ar ei bereon yr oedd llythyr wedi ei arwyddo S. Ewett," yn mynegu ei fod wedi rhugfwriadu hunanladdiad. LSPC DDA I OLCIIWRAIG.- Y mae dyn o'r enw Mavell ag oedd yn byw ger Castleblaney, ac sydd yn dyddynwr bychan yn dal dim ond chwe acer o dir, wedi dyfod i feddiant, gyda'i chwaer, yr hon sydd olchwraig, drwy farwolaeth brawd yn Awstralia, o eiddo gwerth ugain mil o bunau. Ymfudodd yr ymadawedig tua 35 mlynedd yn ol, ac nieclywyd am dano fwed'yn gan ei gyfeillion yn y wlad hon nes y derbyniwyd yr banes am ei farwolaeth. Y TYWYDD YN Y WERYDD.—Y mae yr agerlong- au sydd yn cyraedd yn ddyddiol yn Lerpwl, ar ol croesi y Werydd, yn hysbysu am dywydd caled iawn. Nid yn unig cafwyd gwyntoedd cryfion, ond tywydd oer anghyffredin. I longau yn rhwym i'r parthau dwyreiniol y bu y gwynt fwyaf gwrth. wynebus, am mai o'r cyfeiriad yna a'r gogledd y mae wedi bod yn ch'wythu y rhan fwyaf. Y mae taranau a mellt wedi bod yn gyftredin iawn. Y mae un agerlong oedd yn dyfod o Efrog New. ydd yu, hysbysu am amgylchiad pur anghyffredin. Yn ystod enyd o dawelwch, darfu i daran a mell- ten ymdori allan o'r wybren ac ymhen ychydig fynydau cenllysg, y rhai, heb yr ormodiaeth leiaf, y dywodir eu bod gymaint a chnau mawrion, a disgyn&sanj yn drymion ar fwrdd y Hong. Bu raid i'r dwylaw a'r teithwyr ddianc am gysgod, onide buasent wedi eu niweidio yn enbyd Ymhen ychydig amser yr oedd tunelli o genllysg ar fwidd yr agerlong. AUR FEYNIAU SIR FEIRIONYDD.—Y mae Mr. Morgan newydd ddychwelyd i Gaerludd o'i feus- ydd aur yn Sir Feirionydd, gan ddwyn gydag ef dros 400 o ounces o aur toddedig, gwerth tua 1400p., yr hyn y dywed sydd yn ganlyniad tua 250 o dunelli o fwn, wedi ei falurio yn ystod y pythefnoe ddiweddaf. Y mae 15 o beirianau at y gorchwyl ar waith yno ddydd a nos. Y mae y ffyrdd wedi eu gorphen, ac y mae peiriant y goleu- ni trydanol wedi cyraedd, a pha un y goleuir y mwnglawdd, &c. Y mae rhwng dwy fil a thair mil o dunelli yn aros i fyn'd drwy'r felin; ac y mae mwy o geryg yn cael eu codi nag y gall y peirianau presenol eu trin. Yr ydys felly yn bwriadu rhoi i fyny tua 40 o beirianau ychwaneg- ol yn ystod yr haf dyfodol. Y mae yno swm di- derfyn o fwn. Dywed Mr. Morgan y bydd i chwarter wns o aur ymhob tunell o geryg fod yn ddigon i dalu yr holl dreuliau ynglyn a. chloddio a malurio y cyfryw. Ystyrir y mwnglawdd hwn y cyfoethocaf ar wyneb yr boll ddaear, gan nad yw cyfartaledd y mwngloddiau ond yn cynyrchu haner owns o aur y dunell at eu gilydd, tra y gwelir fod mwnglawdd Gwynfynydd yn cynyrchu oddeutu wns a thri chwarter y dunell. CYFLAFAN OFNADWY YN SIR AMWYTHIG.—Nos Iau diweddaf, darfu i ddyn o'r enw Thomas Lawton, 30 oed, yr hwn a fuasai am beth amser fel trulliad yn ngwasanaeth Mr. Thomas Blair, Whalley Range, Manceinion, gyraedd cartref ei fam, yn Hilton, yn nghwmni dynes ieuanc o ym. ddangosiad hynod o barchus, yr bon a gyflwynodd i sylw ei fam fel cogyddes Mr. Blair. Dywedodd y ddynes ieuanc wrth fam Lawton fod ei mab yn eiddigeddus o was Ffrengig oedd mewn gwasan- aeth yn Whalley Range, ac fod y meddyg mewn canlyniad i ymddygiad dieithr o'i eiddo yn hyn, wedi cynghori iddo fyned adret. Dywedodd Lawton ei hun ei fod wedi gadael ei le yn unol &g awgrym y meddyg, mewn trefn i gymeryd gor- phwysdra. Boreu Gwener dychwelodd y ddynes ieiianc i Fanceinion, ac aeth Lawton i'w danfon i'r orsaf. Ar ol dychwelyd i dy ei tam, yr oedd fel yn diaddef oddiwrth gynhyrfiad meddyliol, ac aeth i fyny y grisiau. Darfu i'w fam, gan ofni wrth ei weled felly, fyned yn fuan ar rei ol i'w ystafell wely, ac er ei dychryn gwelodd ei gorff marw yn gorwedd mewn llyn owaed, gyda'i wddf wedi ei dori o glnst i glust. Yr oedd ellyn a chyllell boced wrth ei ochr, ac yn dangos yn eglur fod y naill a'r llall wedi eu defnyddio gan y.tranc- edig gyda'r fath greulonder, fel yr oedd ei ben bron wedi ei dori oddiwrth ei gorff. 14 o FILWYR WEDI EU LLADD.—Dydd Mawrth, digwyddodd damwain ar yr Elbe, mewn cysylltiad a'r llifogydd, pryd y Haddwyd 14 o filwyr wrth geisio symud darnau mawr o rew drwy ei chwythu & phylor. Y TERFYSGOEDD YN BUCHAREST.—Cafodd y ter. fysgoedd yn Bucharest eu parhau ddydd Mawrth, a phleidwyr yr ochr wrthwynebol yn cydym- gynull o gylch Tai y Senedd, gen ddefnyddio arfau tan. Galwyd y milwyr allan yn yr hwyr i glirio yr heolydd. CENHADWR WEDI BODDI.- Y mae yr agerlong Cephalonia o Boston, yn dwyn newyddion am foddiad y Parch Dr. Sheldon, yCenhadwr Indiaidd enwog, gyda Mrs. Cunningham a dau o Indiaid. Yr oeddynt ar daith i fyny yr afen Otikee, ar yr 20fed cyfisol, pryd y trodd y cwch, ac y boddasant i gyd. MARWOLAETH MR. BENJAMIN PIERCY, WRECSAM. -Dydd Sadwrn diweddaf, bu farw y gwr adna- byddus uchod. yn ei breswylfod yn Portman Square, Llundain. Yr oedd efyn Ynad Heddwch dros Sir Fflint, a chymerai ddyddordeb anarferol mewn anturiaethau masnachol yn Ngogledd Cymru, yn enwedig ynglyn a'r ffyrdd haiarn. CHWARELWYR LLYSFAEN A BEILIAID Y CWRT BACH.—Yn Llys Sirol Conwy, ddydd Iau, galwcdd y Barnwr Horatio Lloyd sylw at waith personau o ardal Llyafaenyn camdrin beiliaid y Ilys. Dy. wedodd i swyddofpon fyned i chwarel yno ef gwasanaethu gwysion ar bersonau, ond i'r chwarelwyr eu bygwth a lluchio ceryg atynt. Os cymerai hyn le eto byddai iddo ef (y Barnwr) weled fod y troseddwr yn cael eu cosbi byd eithaf y gyfraith. Byddai iddo ofalu ar fod swyddogion y llys yn cael eu hamddiffyn. GWRAIG YN HAWLIO BLWYDD-DAL FEL MILWR.— Achos sydd yn cyffroi wmbredd o siarad yn I Indiana ydyw Mrs. Hooker, o Elkart, yr hon sydd yn ceisio cael pensiwn am iddi fod yn rhyfel 1861-65. Honir iddi gael derbyniad i'r fyddin trwy i ddyn ieuanc tra thebyg iddi fyned tiwy yr archwiliad rhag-arweiniol. Wedi i hwnw gael ei dderbyn ymwisgodd hi yn ei ddillad a cbymerodd arni mai efe oedd hi. Llwyddodd ei thwyll, a bu ar faes y gwaed gyda ei phriod am dair blynedd. Os felly, dylid rhoddi pensiwn iddi ar bob cyfrif. GWNEYD BWGAN A'R CANLYNIADAU.—Yn ddiweddar, mewn parti yn nhy ffermwr cyfrifol o'r enw William Means, ger Hillsboro, 0., daeth rhyw lances i'r ystafell wedi ymwisgo yn fwgan- aidd mewn cynfasau a thoes-wynebau, gyda'r canlyniad o ddychrynu Dora Akins a Lizzie Channey mor ddrwg nes yr aethant yn or- phwyllog, ac ofnir nas gellir eu hadferu. Wrth chwareu castiau dylid gofalu am iddynt fod y fath rai ag fydd yn sicr o fod yn ddiniwed. Diau fod y ddwy eneth a chwareuasant y cast yn y parti hwnw yn teimlo yn ddrwg iawn erbyn byn, oherwydd yr hyn a wnaethant mor ddifeddwl. HUNANLADDIAD YN ABERAERON.—Dydd Sadwrn diweddaf, cyflawnodd y Parch. John Lloyd. Jones, M.A., hunanladdiad drwy gymeryd haner wns o strychnine mewn cwrw yn y Victoria Hotel. Bu fyw am tua deng munyd, ac ymddangosai mewn poenau dirfawr. Ei oedran ydoedd 54 mlwydd, ac am y saith mis diweddaf bu yn gwasanaethu fel curad yn Thorphamlet, ger Norwich. Nid oes gwybodaeth aier beth a'i harweiniodd i gyf- lawni y fath erchyllwaith. Cynhaliwyd trenghol- iad ar y corff ddydd Llun, pryd y dychwelwyd rheithfarn i'r perwyl iddo gyflawni hunanladdiad tra mewn eyflwr o wallgofrwydd. AUR SIR FEIRIONYDD.-Y mae Mr. Pritchard Morgan newydd fyned i Lundain o'i feusydd aur yn sir Feirionydd, gan gymeryd gydag ef 400 wns o aur toddedig, gwerth tua £ 1,400. yr hyn y dy- wed sydd yn ganlyniad tua 250 o dunellau o fwn, wedi ei falurio yn ystod y pythefnos diweddaf. Y mae 15 o beirianau at y gorchwyl ar waith yno nos a dydd, a bydd y goleuni trydanol yno yn fuan yn goleuo y mwnglawdd, &c. Mae rhwng dwy a thair mil o dunelli yn aros i fyned trwy'r felin, a chodir mwy o fwn nag a all y peirianau presenol ei drin. Mae yno swm diderfyn o'r bron o'r mwn aur, a bwriedir yn fuan osod i fyny 40 o beirianau ychwanegol. Dywed Mr. Morgan y bydd i chwarter wns o aur ymhjb tunell o geryg fod yn ddigon i dalu yr holl dreuliau ynglyn a chloddio a malurio y cyfryw. Ystyrir mwn- glawdd Gwynfynydd y eyfoethocaf ar wyneb yr holl ddaear. Nid yw Cyfartaledd mwngloddiau eraill yn cynyrehu haner wns o aur y dunell at eu gilydd, tra y mae y mwnglawdd a nodwyd yn cynyrchu oddeutu wns a tbri chwarter y dunell.

KWSLi A'FALMIEN.

Y PRENHINES VICTORIA YN FLORENCE.

GWR A GWRAIG OEDRANUS.

------DIGWYDDIAD POENUS YN…