Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
MYDDFAI.
MYDDFAI. Mae y capelwyr yma yn cymeryd dyddordeb rhyfedd- ol yn llwyddiant yr Eglwys yn y plwyf hwn. Mae amser ethol Churchwardens yn yr ymyl, ac mae y bobl ddnwiolfrydig ac anhunangeisiol hyn wedi bod yn ffustio en penau ynghyd er mwyn cael allan pwy ydyw y gwr sydd yn feddianol ar y cymhwysderau gofynol i gynrychioli y plwyfolion Y maent eisioes wedi cynal un cyfarfod gyda'r amcan o ddewis eu dyn. Syrthiodd y goelbren gapelyddol ar ben gwr ieuanc o gapelwr yn ngbymydogaeth y pentref. Yr ydym fel Eglwyswyr J yn teimlo yn hynod ddiolchgar iddynt am eu pryder yn ein cylch, ond dymnnwn yn ostyngedig eu hadgoffa o'r hen ddywediad, 41Meindied pob un ei fuanes ei hun."
MAESTEG.
MAESTEG. DAMWAIN ANGEUOD,—Dydd Sadwrn, tra yr oedd nifer o ddynion yn gweithio yn rnhwll y Coegnant, syrtbiodd swrn mawr o rwbel ar Phillip Morris, 24 mlwydd oed, gan ei ladd ef ynghyd a'i geffyl.
EWYLLYS Y DIWEDDAR MR. HOWEL…
EWYLLYS Y DIWEDDAR MR. HOWEL GWYN. Ychydig wythnosau yn ol cofnodasom farwolaeth a chladdedigaeth y boneddwr haelfrydig a duwiol nchod. Gwasanaethodd ei oes a'i genhedlaeth gyda ffyddlon- deb mawr rhoddodd yn hael tuag a.t bob achos da; gwnaeth ei oreu er lies ei wlad, ac yn ystod ei oes faith amlygodd ei fawr gariad tuag at yr Eglwys mewn aneirif. Profwyd ei ewyllys yn ddiweddar, ac hysDysir ei fod wedi gadael £ 200 i reithor a wardenia'd Castelb nedd i'w defnyddio er mwyn cyfranu bara a blancedi | dlodion y dref bob Nadolig. Rhoddodd zelOO i ysgol yr Alderman Davies yn yr un He, £ 100 i yagol Genedl- aethol Bryncoch, zeIOO i Glafdy Abertawe, £ 200 i r Llandaf Clergy Charity, a £ 200 i gronfa y Gymdeithas er Lledaenu yr Eglwys yn Esgobaeth Llandaf. El etifedd ydyw ei nai, Mr, Joseph E. Mooro, ac y mas ei diriogaethau yn swyddi Caerfyrddin, Brycheiniog, a Morganwg, i syrthio ar ol dydd Mr. Moore i'w ddisgyn- yddion ar y telerau eu bod i'w colli os yr ymadawailt a'r Eglwys drwy droi yn Babyddion neu yn YoineiUdi- wyr. ■; 0
URDDIADAU Y GARAWYS.
URDDIADAU Y GARAWYS. Urddwyd 133 o ddiaconiaid ac offeriaid yn Urdd- iadau y Garawye eleni. Or rhai hyn yr oedd 73 yn raddwyr o Rhydychain a Chaergrawnt. Nid ydyW nifer yr urddiedig mor isel nae ychwaith mor uchel y mae wedi bod yn ystyd y blynyddoedd diweddaf. Gadawodd y diweddar Ganon Martin, ficef Menheniot, ger Listeard, y swm oil,5()O yn ei ewylly0 i'w olynwyr fel ficeriaid y plwyf, i'w gosod allan at log er mwyn cyflogi nurse i ofalu am gleifion y plwyf. Yn esgobaeth Manc-iinion y llynedd, gweinydd- wyd conffirmasiwn mewn 77 o fanau canolog, a derby11' iodd 16,548 0 ymgeiswdr yr ordinhad. — Agorwyd Eglwys blwyfol Dewsbury, yn esgobaeth Caerefrog, y dydd o'r blaen. Y mae ei wedi costio £ 17,000, ac nid ydyw wedi eLgwblhau Y diweddar a'r enwog Mr. Street ydyw y cynUuni^1, — Y mae Mr. H. Wagner, ar draul yr hwn yr eiladwyd yr Eglwys, wedi addurno nenfwd S1- Martin's, Brighton, a phaentwaith ardderchog, .f11 dangos arfarwyddion (arms) holl eBgobaetbau cartrefo1 a thramor yr Eglwys, Dywedir fod yr effaith yn WJj; dda. Y mae yr adeilad yn enwog hefyd am ei fc)wlpfl" godidog, ei ffenestri lliwiedig hardd, a'i uwch-ddarlo11 mawreddog.
(O'r Drych.)
(O'r Drych.) Yobyaigamaer yn.c,! dinystriwyd cleg 0 Newton, Kansas, er coiled o 50,000 o ddoleri.. Yn ddiweddar ciaddwyd Garrett Roach, mab i'r di' weddar long-adeiladydd John Roach. C, Ychydig amser yn ol, yn Burlington, N.J., bu far^ yr Ysbrydegwr Jonathan M. Roberts, yn 67 ml wyd'1 oed. Bu yn byw yn Philadelphia a Brooklyn.: Cafodd Mrs. Lizzie Kuggel, Falmouth, Pa., reithfdro am 5,000 0 ddoleri yn erbyn gwijrotyn o'i' enw Jac°" Hanlen, am iddo ei hathrodi. Yn ddiweddar, pan aeth tad a mab i ayinad yr ei oddiar das wair yn ymyl en ty ger Poplar Grofe¡ Dakota, ymosodwyd arnynt gan 16 o fleidd'aid, y rba., a fwytasant y ddau ddyn yn ngolwg y tealu dyebryoo edig. Talodd yr Ysgrifenydd Bayard 2,000 0 ddoleri 0 ari^ y Llywodraeth i swyddogion am wylio Mr. JoseP Chamberlain tra yr oedd yn New York cyn iddo gycP' wyn adref yn ddiweddar. Ysgytiwyd Los Angeles, California, gan ddaerg^ ar y 7fed cyfisol. Siglia yr adeiladau a dychryuI<1u trigolion yn aruthr, ond ni wnaed niwed i ddim na Ni theimlwyd ysgydwad Smor gryf yno er's deunli mlynedd. Y dydd o'r blaen dechreuodd ystorm o eira yn NOW York ar Taleithau cymydogol, na bu e"L gnaet blynyddau. Parhaodd am dridiau, gan Iwyr rheilffordd y N. Y. C. and H. R a ffyrdd eraill> ysbaid, ac atal trafnidiaeth i raddau helaeth. Y pe" nesaf sydd oddiwrth orlifiadau i Ychydig amser yn or cafwyd hen wraig wsddw gar o'r enw Anna J. Marquis yn farw mewn £ unig yn New York. Er synd xl ca'wyd ei bod j cynilo 15,000 o ddoleri, y rhai sydd yn debyg o fyfl%i) drysorfa y ddinas, gan nas gellir cael gafael ac sydd yn perthyn iddi 1 Boreu ddydd LInn diweddaf bu farw MI*. J;ler1 Bergh, New York, yn 65 mlwydd oed. E e oad r r blaen yn y wlad hon gyda'r gwaith da o rwy, creolcnderau at anifeiliaid. Ar yr wythfed cyfisol trwyddedwyd James R. 0 x arxer y gyfraith yn Uchallys Ohio. DymuniV Iwyddiant i asgyn fel y gwnaeth ei dad, y di^9 Arlywydd Garfield. Hysbysir fod Mr. Daniel Dougherty, y i hyawdl o Philadelphia, wedi symud ei brif swyd'jo New York, He y mae eisoes wedi ymuno k chly01: ytf Ddemocrataidd Tammany Hall. Die hon y bu8,3 well i Daniel aros lie yr oedd. a fflor Olrheinir yr arferiad o sylwi ar y flwyddyn a soot- bell yn ol a'r flwyddyn 1288, pan basiodd Sene euog 0 land gyfraith i ddirwyo pob ayn 3engl a ge'd yn etggd$ wrthod cynygiad priodasol gan fereh. ''A;nse' enbyd oedd y rhai hyny.
Y LLOFBUDWAETH YN NCllkFig,…
Y LLOFBUDWAETH YN NCllkFig, DYDD. # 1 Ymddengys fod y ddynes Mary Ann ddedfrydwyd i gael ei dienyddio am l0^rUC^^0??,edi fel yi hysbyswyd yn ein rhifyn diwadi-1'11^ dedfrydu i benydwasanaeth am ei boas, a,"t j..t' 1). 1 ah .1 hysbyswyd hyny iddi dywedod(l" IO'la yo glwydd am hyny," yna penliniodd, a yfij cbwerw. Bodola toimlad cryf y^ dtif, a chydag anhawsder y oafwyd E"a! deiseb ar ei rhan.
TALSARNAU.
TALSARNAU. EGLWYS LLAXFIHANGEL.—Nos Fawrtb, y 13eg cyfisol, daeth cynulliad da i'r eglwys, ac ystyried gerwinder yr j hin. Darllenwyd y gwasanaeth gan ein hoffas reithor, y Parch. James Evans, a chafwyd pregeth dda ragorol gan y Parch. — lioberts, rheithor Liangower, Bala. Carem ei glywed eto yn pregethu. Ghwareuwydyn feistrolgar ar yr organ gan y lleygwr z slog, a'r gweiihiwr difefl, Mr. Jones-Morris' Ty Cerrig, warden y plwyf. EGLWYS CRIST.-Dydd Sal, y 18fed cyfisoi, aLl 3 30 yn y prydnawn, ymwelsom a'r Eglwi 8 fecban aloe uchod. Wedi myned i mewn canfyddasom fod yno taa 50 o wrandawyr. Aethom braidd i syndod wrth weled cynifer o Saeson mewn lie mor wledig. Pall ddaeth yr amser dechren gwnaeth y Parch. James Evans, rheithor, ei yrnddangosiad; darllenodd y gwasanaeth gyda chwaeth a phregethodd yn dda i'r gynulleidfa astud. Peth a dynodd ein sylw yn fawr oedd y canu da a melus yn yr Eglwys uchod. Mae hyn yn adlewyrchu clod mawr i Miss Holland Thomas, pa un sydd yn cyraeryd trafferth mawr gyda'r cor cana Saesneg. Y Sul uchod, ei chwaer, Miss Fanny Holland-Thomas oedd yn chwareu ar yr harmonium, a gwnaeth ei rhan yn rhagorol. Ar ol y bregeth canwyd lianea y Groes gan y gynulleidfa. y Parch. John fiagaes, B. A, curad, yn canu rhan 2 a 4. Gwnaeth y cor ei ran yn ganmol- adwy.—Ymwelwr.
DEFYNOG.
DEFYNOG. Ar y 24ain o Chwefror arolygwyd yagol waddoledig y lie nchod gan y Parch. C. H. Davies, arolygwr addysg grefyddoi yn Esgobaeth Ty Ddewi. Daeth yr adroddiad rhagorol a ganlyn i law oddiwrth yr aroly- gwr Y mae yr ysgol hon yn gyffredinol wedi j myned trwy arholiad ardderchog, ac y mae ssfyllfa yr ysgol o'r mwyaf boddhaol. Dymana yr aroiygwr awgrymu dysgu hymnau mwy syml i'r dosbarth isaf." Adlewyrcha yr adroddiad nchod ganmoliasth aohel ar Mr. Powell, yr ysgolfeistr, a'r teachers sydd dano. Enill- odd yr ysgol y flwyddyn ddiweddaf y s.1fie uchaf yn y doabarth blaenaf.
LLANELLTYD.
LLANELLTYD. Dydd Llun, Mawrth 19cg, bn farw Richard Roberts, clochydd, Llanelityd, wedi cyraedd yr oedran teg o 93 mlwydd. Bu yn gwasanaeshu y swydd o glochydd yn yr Eglwys nchod am flynyddoedd lawer, ac yr oedd yn un o'r clocbyddion mwyaf ffyddlon- a gofalus a fu yn gwasanaethn y swydd erioed. Bn fyw yn mhentref prydferth a hyfryd Llanelityd ar hyd ei oes, ao y mae wedi gadael Ilav, er o orwyrion ar ei ol. Yr oedd yn ad- nabyddua iawn, ac yn cael ei barchu yn fawr. Cymer- odd ei gynhebrwng le y dydd Ian canlynol. Heddwch i'w lwcb.-M. Lt.
.CORWEN.
CORWEN. BWRDD Y PKIF-FFYRDD.— Pryd ddydd Gwener diwedd- af ymgyfarfyddedd y Bwrdd uchod am yr ail waith. Cymerwyd y gadair gan yr Anrhyd. C. H. Wynn, y cadeirydd dewisedig. Mater pwysig y cyfarfodhwn ydoedd dewis ysgrifenydd a surveyor i'r Bwrdd. Yr oedd amryw geisiadau wedi eu hanfon i mewn am y naill swydd a'r llall, ond Mr. J. Lloyd John, cyfreith- iwr, Corwen, a ddewiswyd yn ysgrifenydd, a Mr. Edward Edwards, Glyndyfrdwy, yn surveyor. Y FFAIB.—Ffair pleser yn fwyaf neillduol yr ystyfir ,ff air mis Mawrth bob amser, ond y tro hwn daeth cryn nifer o wartheg ynghyd, a gwerthwyd cryn lawer o honynt am brieian. isel. Nifer bychan o geffylau a moch oedd yn bresenol. Nid oedd yn y ffair hon gy- nifer o bobl ag a welsom, ac ychydig o fasnach a wnaed /gan neb, ie, hyd yn nod yr hohbj-horses a'r shooting galleries, &c., i'r hyn a arferent wneyd. Dengys hyn brinder alian yn y wlad.
LLANLLAWDDOGr.
LLANLLAWDDOGr. Dydd Sal, y 18fed cyfisol, ta:lodd Ysgol Sul Llan" pnmsaint ymweliad a hen Eglwys y plwyf uchod. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Lloyd, ncer Llanpumsaint. Ar ol hyny aeth yr ysgol ymlaen y â'i gwaith, y pwnc oedd ganddynt oedd y 9fed benod o Matthew, a chanwyd amryw donan ac antheman. Yr oedd yr oil o'r gwaith yn dangoa llafur mawr ar ran athrawon yr ysgol, ac ar ran arweinydd y canu. Mae yn dda genyf weled fod Eglwys Llanpumsaint yn enill tir yn barhaus. Yr Arglwydd a fyddo yn llwydd iddi eto yn y dyfodol, mae tir eto i'w feddianu,-Pb J.
LLANGWNADLE.. ;
LLANGWNADLE.. Y g<vyn gyffredinol trwy yr boll blwyf ydyw fod y frech goch, neu yn hytrach y dwymyn frith, wedi tain ymweliad agos a phob tenla o hil blantyddol, fel y gorfuwyd can yr ysgol ddyddiol i fyny, ond hyfryd yw cael hysbysn fod pawb yn gweila yn rhpgorol.- Dydd Gwener, y 23ain, cynhaliwyd festri flynyddol i ddewis swyddogion. Etholwyd y rhai canlynol gyda'r un- frydedd mwyaf Gwaaeheidwad i weithredu droa y plwyf hwn a Bodferin, y Pa-ch. Tho iiaa Jones, B.A., ,> ficer; arolygwyr y tlodion, Mri. W. Jones, Gyfelan Fawi; John Jones, Maenhir; Robert linghns, Moei y Berth a H. Griffiths, Brynuceldref; a dewiswyd Mr. Evan Jones, Drebach, yn arolygwr cynorthwyol; ar- olygwr y ffordd fawr, Mr. R. Griffiths, Bryn; ac yn wardeniaid, Mri. Hugh Griffiths, Brynnceldref; a John Griffiths, Ty'nllan.-Anhawdd dyfalu beth yw yr esgus ellir ei roddi droa beidio argraffu testynau cystadleuol Undeb Llenyddol yr Eglwys yn y ddeoniaeth bellach. Os na argreffir hwynt yn fnan, yr ydym ni yma yn penderfynu ymhelaethu ac ymestyn llinynau ein cyJcnwyllenyddol Ileol, a rhoi y testynau yn agored i'r holl Eglwysi amgylchynol. Hyderwn, pa fodd bynag, weled yr nndeb yn gweithredu heb ychwaneg o oediad.—Oohebydd,
BARGOED, GELLIGAER.
BARGOED, GELLIGAER. Y GAEAWYS.—Y mae ein Rheithor yn gwnenthnr ei oreu i gael gan yr Eglwyswyr i roddi i'r tymorau Eg- Iwysig y eylw a fwriedid iddynt gael gan gynllynwyr doeth y Llyfr Gweddi Gyffredin. Er mwyn creu mwy o ddyddordeb ynddynt, y mae yn arferol o wnenthnr trofniadau trwy ba rai yr ydym yn cael y fraint o wrando ar amryw o'r offeiriaid cylchynol yn traddodi pregethau ar y pynciau a wasgir at ein hystyriaeth gan y gwahanol dymoran Pregethwyd eleni yn ystod y Garawys gan yr offeiriaid canlynol:—Parchn. E. Evans, B A, Deri; S. John, Bedwellty; H. Thomas, Ystrad Mynach; Ll. M. Williams, Cendl W. H. Kirkham, Coad-duon J. L. Meredith, M.A., Gelligaer; 1 a J. Lloyd Evans, ein carad. Cynhslir gwasanaeth bob nos yn ystod wythnos y Dioddefaint, ac yn vchvvarsegoi at hyn cynbelir gwacanaeth boreuol, a gsvueanaesh i'r plant am dri c'r gloch ar ddydd Gwener y Grogiith.
GWMAFON.
GWMAFON. Y GAEAWYS.—Nos Fercher cyn y diweddaf pregeth- wyd yn eglwys y phvyf yn Gymraeg gan y Par jh. Lewis Hughes, M.A., cwrad Rhymni, a phregethodd hefyd y nos Iati canlynol yn yr un eglwys yn Saesneg. Da genyf allu dweyd fod llawer wedi dyfod ynghyd i'r ddau wasanaeith er mwyn cael clywed Mr. Hughes yn pregethu, gan ei fod yn anwyl iawn ganddynt. Gened- igol o Gwrnafon yw Mr. Hughes, ac mae ganddo ddau frawd yn effeiriaid, sef y Parchn. William Hughes, Naiitymoei, a James Hughes, N arm and j, sir Amwthig. Nos Fercher diweddafpregethodd y Parch. Thomas Harris, B A., Aberafon, yn Gymraeg, yn eglwys y plwyf; a nos Iau pregethodd y Parch, Henry Morris, ficer Aberafon, yn Saesneg, yn yr un egINvys.-J. A. Davies.
PENTEE, YSTEADYFOD WGt.
PENTEE, YSTEADYFOD WGt. NOB Fawrth, yr SOf-ed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan Gymdeithas Ddadienol y lie uchod. Testyn y ddadl ydoedd "Dadgysylltu a dadwaddoli Eglwys Loegr yn Nghymrt." Oymerwyd y gadair gan Cayt. Tallis. Agorwyd y ddadl gan Mr. Lewis, Higher Grade School, ac amddiffynwyd gan Mr. Hosbon, ysgolfeistr y lie. Cymerodd dadl fywiog le yn ganlynol ar y pwnc, ymha un y cymerodd llawer o ddadleuwyr tra adnabyddus ran, ac yn eu plith y Parch. W. Lewis, ficer y plwyf. Yn y lie eyntaf diolchodd Mr. Lewis i'r gymdeithas am ddechreu y fath gwestiwn yn y plwyf. Haerai Mr. Lewis (Higher Grade) fod yr Eglwys yn Ngbymru yn afreolaidd, ac nad oedd yn cyfaddasu ei hun i augenrheidiau crefyddol y bobl, fod y degymau yn perthyn i'r Llywodraeth ac yn eiddo cenedlaethol. Dadleuai y ficer nad oedd y degwm erioed wedi bod yn nwylaw y genedl. Dangosodd fod meddianau yr Eglwys yn perthyn iddi cyn bod Senedd; nid y Senedd wnaeth yr Eglwys ond yr Eglwys wnaeth y Senedd, a dangosodd nad oedd yr Eglwys yn un estron- ol. Dywedodd yn mhellach, os ydyw, nad oedd dim genedigol yn Nghymru. Terfynwyd y cyfarfod trwy dalu diolchgarwch i'r cadeirydd.
HENDY GWYN AR DAF.
HENDY GWYN AR DAF. DYECHAFIAD EGLWYSIG-Da iawn oedd genym glywed fod y Parch. O. Thomas, curad Llanddewi Felfre, wedi ei dayrchafu i berigloriaeth Cyffig aMarcross. Hir oes i'r brawd hwn o'r Gogledd i weithio allan a gorphen yr hyn y bu y diweddar Barchedig J. Morgan, ficer, a'i guradiaid, y Parchn. J. Jones, J. E. Jones, — Beynon, a J. Evans, yn ddiwyd a llwyddianns wrtho o'i flaen. Hyderwn y oa y Parch. W. Harris, ficer parchus Llan. ddewi Felfre, olynydd teilwng iddo yn fuan. Y mae Mr. Harris wedi gorphen ei ddiwrnod gwaith gyda ffyddlondeb mawr, a chan nas gall wneuthur rhagor ei hun, y mae'n ofynol idd j gael curad gweithgar eto fel y ddau o'i flaen. BILL Y DEGWM.—Yr ydym yn teimlo'n wir ddiolchgar i Arglwydd Salisbury am y Bill eydd o flaen Ty'r Arglwyddi. Hyderwn y deuant i lawr yn brydion i Dy y Gyffredin fel y byddo siawns eu pasio eleni. Y .£Iae'n wir fod eto ambell i blwyf (fel hwn yr ydym yn byw ynddo) ag y maeyteimladau gorea'n ffynu rhwng y per. chenog a'r degwm-dalwr—v naill yn cydymdeimlo a'r llall i'r tipyn. Yr ydym yn caru heddweh a phawb. Peth hollol ddieithr i'n mynwes ein hun ydyw y teimlad gwrthwynebol i hyn. Er ein bod ar y telerau goreu a. phawb y sydd yn gwahaniaethu oddiwrthym yn eu hopiniynau crefyddol a gwleidyddol yn y plwyf, eto ein hamcan ydyw symbylu ein cyd-Eglwyawyr i ym- uno ac i ymdrechu llawer mwy o blaid ein hachos ein hunain. Dywedwn eto y dyiem efelychn zel ac ym- drech ein brodyr Ymneillduol. Y claerineb a'r esgeu- lustra ofnadwy ag y mae Eglwyswyr yn euog o honynt ydyw'r achos na byddai yr Eglwys yn twy blodeuog mewn llawer man; Yr ydym yn ysgrifenu o barthed i'r gymydogaeth oddiamgylch i'r Hendy Gwyn, ae nid mewn cyfekiad at ein plwyf ein hunain yn unig. r: Dywedodd yr Hybarch Archddiacon James yn ein cyfarfod y dydd o'r blaen, raai ein deoniaeth ni mewn rhan ydyw yr ysmotyn du yn yr esgobaeth, ac' yr ydoedd yn dweyd calon y gwir. Y mae genym barch mawr iddo am ei onestrwydd. Dylem fod yn wir ddiolchgar iddo am ei anerchiad penigamp, er ei fod yn condemnio Eglwyswyr segur. Yn awr, ynte, ty nghyd-Eglwyswyr hoff, gadewch i ni ddeffro o ddifrif. Peidiwn a bod yn blantos a digio oherwydd clywed y gwirionedd. "Na thored eu holeu penaf hwynt fy mhen I" Diolch yn fawr i chwi, Mr. Golygydd, am eich cyngor yn eich colofn eich hun yn Y LLAN diweddaf. Adwaenwn awdwr yr ohebiaeth yn dda, ac yr ydym yn barod i handlo'r hen ffyst, a myned rhwcg yr us a'r gwenith. Allan a'r awdwr o'i dwll cyn y tynwn ef gerfydd ei farf. Wrth ddiweddu dywedwn nad ydym ond dechreu eto, a chaiff y byd wybodyn fuan iawn fod llawer o waith heb ei wneyd, ac mai lleygwyr sydd ar ol yn fwyaf cyffredin. Y mae yr offeiriaid ar y maes ac yn ymdrechu'n wir glodwiw. Yn hytrach na thaflu ceryg o flaen eu holwynion, ym- egnied y lleygwyr eu cynorthwyo. Dylai'r offeiriaid fod yn deall eu dyledewyddau eu hunain yn weli na hwynthwy. Awn ymlaen law yn Haw gan gydymdrechu o blaid y gwirionedd.
---CERYGYDRUIDION A'R CYFFINIAU.
CERYGYDRUIDION A'R CYFFINIAU. Y mae y Mri. Peterson a Todd wedi dechreu atafaelu yn y eyffinitta hyn, sef Llangwm, a phan ddaeth y newydd i'r Ceryg, doniol o beth ydoedd gweled un o "ferthyron (V Llangwm" ac un o'r "Jackyddion Pregethwrol" yn rhedeg i hysbysu y "bobl fawr," bid siwr, oedd heb dalu eu degymau. Yr oeddym yn dychymygu gweled eu cynffonau yn dro ar eu cefnau. 'Does ryfedd fod pobl barchus yn methu gwrando ar y rhai hyn yn pregethu tangnefedd ar y Sul, ac at hyd yr wythnos yn hau hadau anghydfod ymhlith y plwyfolion aydd yn dymuno bvw yn dawel a hedd- ychlawn yn eu hymyl. Fe adywedodd y Barnwr Wills y gwir bob gair, mai dyma y giwaid ddylai fod o flaen yr awdurdodau, ac nid y bobl barchus y maent yn manteisio ai eu hanwybodaeth, i'w defnyddio yn dools ac yn ffyliaid iddjnt. Cofus gan ddarllenwyr Y LLAN glywed y Parch. Machreth Bees yn dweyd mewn cyfarfod gwrthddegymol yn Ty'nrhyd, Cerygydruidion, ei fod ef a'r cadeirydd (y Parch. Robert Richards) wedi bod yu Ili-fdiiio yn Llangwm er's tiypyn yn ol, a bod hwnw yn dwyn ffrwyth erbyn hyn, Daeth y gath o'r cwd" gan y gwr parchedig (?) hwn, yr hyn a gythrudd- odd ei frodyr Jackyddol yn fawr. Ond gan y gwinon y ceir y gwir, ac feliy y tro hwn. Ond y mae yn dda genyf ddweyd fod amaethwyr mwyaf cyfrifol a pharch- us yr ardal hon yn dechreu eu deall, ac yn talu eu deg- ymau yn ddistaw, er fod ymaddeunaw neu ugain wedi cymeryd eu hud-ddenu i ymrwymo i beidio talu heb bedwar swllt y bunt o ostyngiad. Y maent wedi derbyn cynygiad ein parchedig reitbor, aef deg y cant, ac wedi talu i gyd ond rbyw dri neu bedwar, a'r rhan fwyaf o honynt yn gofidio eu bed wedi. bod yn riools i'r m&n-bregethwyr sydd yn troi hyd yn nod eu pwl- puda,u yn hlatform policicaidd. Fe ddywedodd y Parch. Dr. Dickens Lewis yn Cerrig yma yr wythnos o'r blaen ei fod am fyned a llwyth llong o bregethwyr i'r America. Bendith ar ei ben, a phrysured yr amser iddo eu cymeryd hwy a cigfranod y wlad droa y mor, ac yna bydd tangnefedd yn teyrnasu,— America. Bendith ar ei ben, a phrysured yr amser iddo I eu cymeryd hwy a cigfranod y wlad dros y mor, ac yna. bydd tangnefedd yn teyrnasu.Glynn.
RI-IUTHYN.
RI-IUTHYN. CYFARFOD AMDDIFFYNOJJ YR EGLWYS.—Ar yr 20fed o'r mis hwn, cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig yn Nenadd y Dref, yr hon oedd yn orlawn o wrandawyr. Cym- eiwyd y gadair gan Mr. B. Cunliffe, yr hwn a wnaeth svlwadau pwrpasol ittwn. Wedi hyny galwyd ar Mr. Helm, yr hwn a driniodd ei bwnc yn feistrolgar am tua awr o amser, trwy brofi hynafiaeth yr Eglwys yn Nghymra, a chwalu chwedlau disail yr Ymneilldnwyr politicaidd mai Eglwys "estronol" yw. Yn olaf, galwyd ar Mr. Hughes, Llanddeinio'en, yr hwn a wnaeth sylwadan pert a miniog ar waith yr Ymneill- duwyr politicaidd yn. ceibio ysbeilio yr Eglwys o'i medd- ianau, tra y maent hwy eu hunain yn sychedfg iawn am ddegymau, fel y dyfynodd allan o'r Goleuad. Yr oedd yr offeiriaid a ganlyn yn bresenol :-Parchn. B. 0. Jones, Rhuthyn T. J. Hughes, Llanbed"; J F. Reeee, Llanfwrog; B. M. Joues, Llanfair D. C.; E. M. Griffiths, Clocaenog W. Jenkins, a H. Jones. Yr Vi yf yn sier mai dymnniad pawb yn bresenol oedd cael cyfarfod buan eto. Yn y cyfamser, dyledawydd Eg- lwyswyr ydyw gwasgaru miloedd o ddalenau y Gym- deithas Arcddiffynol, ynenwedig yn y plwyfi gwledig, lie y mae anwybodaeth dygn yngbylch yr Eglwys a'i meddiinau. Nid 08S cymydogaeth mwy Radicalaidd yn y byd na Dyffi-yn Clwyd, gan hyny, y mae yn ddyledswydd ar yr Eglwyswyr—yn offeiriaid a lleyg- wyr—pa rai Bydd wedi bod yn hepian yn rhy hir, ddeffroi ac aroddiffyn yr Eglwya a'i meddianau, gan adeilada ag un Haw, a dal arf yn y Haw arall." LLUN (EFFIGY) OFFEIEIAD A FFAIS RRUTHYN.-Dydd Iau diweddaf, penderfynodd religious mob y cymydog- aethau hyn ddyfod 8, llun person Llanfwrog i ffair Rhuthyn, a myned ag ef trwy y dref, er mwyn ei ddangos i'r bobl, a'i losgi wedi hyny. Dylaswn ddweyd mai blaenoriaid crefydd opdd, yn cymeryd y rhan mwyaf blaenllaw yn y symadiad hwn, a'r rheswm paham y gwnaethpwyd hyn ydoedd, i'w sarhau a'i ddirmygu ddigon, am na fyddai yn gostwng ei ddegwm, neu roddi yn ol fel yr oedd y ffermwyr yn gofyn; ond ni wnaeth y person roddi yr un geiniog yn ol iddyn*, am yr hyn y mae i'w ganmol yn fawr. "Pe byddai y ffermwyr yn ceisio copi o'r Tithe Commutation Act, deuent i weled yn uniongychol mai y tirfeddianwyr ddylai ostwng eu degwm, oblegid er pan basiwyd yr Act uchod, aeth tua dwy filiwn o ddegwm yr Eglwys i logellau y tirfeddianwyr, ac y maent yn cael yn bresenol tua miliwn a haner. Ond beth barodd i'r mobddyfod a'r llun i'r dref ar ddydd y ffair ? Y rheswn, yn ol fy meddwl i, oedd y cawsent yr holl wlad o'u tu, ac y gall- ent wneyd fel yr oeddynt yn dewis, a hyn cofiwch, yn enw crefydd. Ond siomedigaeth fawr a gawsant, Oblegid cyn gynted ag y daethant ag ef i mewn i Heol Mwrog, dyma un yn neidio i'r drol (cart) gyda'r diben o'i ddryllio; ar hyn y mae yn cael ei daro, a'r canlyniad fu i ysgarmes gymeryd He, ac i fyddin y religious mob ddychrynu gymaint fel ag iddynt fyned yn ol a'r llun cyn gynted ag y gallent. Dyma orchfygiad llwyr i'r mob, er fod rhyw bedwar neu bum' cant o honynt yn bresenol, a rhyw ugain o'r ochr arall. Dyma esiampl yn werth ei hefelychu gan Eglwyswyr Cymru, a phe ca'i hyn ei wneyd yn ami byddai ofn ar y giwed anonest yma i wneyd y fath gastiau yn ami. Well done, Llan- fwrog.
COLEG LLANYMDDYFRI.
COLEG LLANYMDDYFRI. LLWYDDIANT YN RHYDYCHAIN.—Yr wythnos o'r blaen cofnodasom am Iwyddiant un o fecbgyn yr ysgol hon i enill ysgoloriaeth agored mewn Mathematics yn Nghaergrawnt. Llwyddodd dau arall ymhen ychydig ddyddiau yn Rhydychain, sef Mr. D L. Prosser i enill ysgoloriaeth agored mewn Hanesyddiaeth Ddiweddar £ A0 y flwyddyn) yn Ngholeg Keble, Rhydychaiu a Mr, P. T. Lucas i enill y Beaufort Exhibition mewn Classics yn Ngholeg Oriel, Rhydychain. Euillwyd pump o ysgoloriaethau ac Exhibitions gan fechgyn Llanymddyfri yn Rhydychain a Cnaergrawnt y term presenol, Dengys Uwyddiant fel hyn fod genyrnysgol- ion yn Nghymra eill ddal eu tir mewn cystadieuaeth agored yn erbyn ysgolion Lloegr.
RHODD Y FEENHINES ANN.
RHODD Y FEENHINES ANN. Yn nghyfarfod blynyddol rheolwyr U/overnors) y gron- fa uchod dydd Mercher wythnoa i'r diweddaf, cyfran- wyd y swm o L20,600 toag at ychwanegu gwaddoliadau Eglwys-fuddion (benefices) tylawd yn Nghymru a Lloegr. Cynorthwywyd 83 o blwyfi, pa rai oeddynt wedi casglu t29,548 i gyfarfod rhoddion y rheolwyr, ac yr oeddynt yn berchen gwaddoliadau yn rhestru o X200 i lawr hyd at y swm distadi o £15 y flwyddyn. Yr oedd y rheolwyr canlynol yn bresenolDoc Bucking- ham, larll Powys, Esgobion Llundain, Llandaf, a Chaer, y Gwir Anrhyd. G. Cubitt, A.S., Syr J. R. Bailey, Bar., A.S., Syr J. P. Deane, F, Calvert, Ysw., a W. Forsyth, Ysw. Dengys gweithrediadan y rbeolwyr a'r ceiBiadau am gynorthwy a dderbynir ganddynt faint ydyw angen yr Eglwys am ragor o waddoHadau i ddwyn ei gwaith ymlaen. With yatyiied y rhai hyn y gwelir cynifer o'n Eglwys-fuddion sydd" wedi eu gwaddoli a gwaddol bychan ac hollol annigonol gogyfer & gofyniadau yr oes. Sonia y gymdeithas Seisnig sydd yn g-veithio mor galed er dadwaddoli ein Heglwys yn Nghymru lawer am y glwys-fuddion breision, ond byth nis elywir hwy yn yngan gair am y rhai tlawd. Y mae pob plwyf yn gyfoethog os y credwn ei hareithwyr. Nis gallodd unrhyw ddadwaddolwr erioed gysoni yr anghyfartaiedd aydd yn bodoli rhwng gwaddoliadau ein heglwysi pi wyfol a'r haeriad anwireddus a wneir ganddynt mor ami mai y Llywodraeth roddodd ei gwaddol i'r Eglwys. Pe bae y Llywodraeth wedi rhoddi ei heiddo iddo, ni fuasai yr anghyfartaiedd hwn yn bodoli. Ei phlant ei hun sydd wedi ei chyfoethogi, ac os y gwelwn blwyf yma neu acw yn dlawd tra y mae un arall yn gydmarol gyfoethog, y rheswm dros hyny ydyw fod y gw&ddolwyr yn fwy hael neu yn fwy gallu- og i gyfranu nag ydoedd noddwyr y plwyfi sydd heddyw yn feddianol ond ar waddol bychan. yn feddianol ond ar waddol bychan.
IY GYMDEITHAS ER LLEDAENIAD…
I Y GYMDEITHAS ER LLEDAENIAD YR EFENGYL. Dywenydd genym gofnodi cynydd sylweddol am y flwyddyn ddiweddaf yn nghronfa y gymdeithas uchod. Am 1887 cyfanswm y derbyniadau ydoeddX109,764, ond yn yr adroddiad diweddaf y mae y swm wedi cyraedd y ffigyrau X114,798, neu ychwanegiad o dros £5,000. Y mae hyn fel y dylai fod, ac yn brawf fod ein Heglwya yn fyw i bwysigrwydd y Genhadaeth Dramor.
— ,wl-.r;' Y CHURCH PASTORAL…
— ,wl-. r; Y CHURCH PASTORAL AID SOCIETY. Y mae y gymdeithas hon a aduabyddit yn y Gymraeg weithian o dan yr enw "Cymdeithas Bugeiliaeth yr Eglwys," yn disgwyl y bydd'coll (deficit) yn ei hadrodd- ia I Prianol eleni. 0 ganlyniad datgana'r pwyligor eu penderfyniad i adolygu yr holl grants mewn dull trWY- adl a gofalus cyn eu haddaw am flwyddyn ycdwanegol. Derbynir cynorthwy gan lawer plwyf Cymreig oddiwrth y gymdeithas, ond hyderwn na fydd angenrhaid i neb o'r rhai hyn ddioddef felcanlyniad i'r adolygiad bwr- iadedig.
CYNGHORFA ESGOBOL LAMBETH.
CYNGHORFA ESGOBOL LAMBETH. Y mae atnryw o'n besgobion o'r Trefedigaethau wedi cyraedd Lloegr gogyfer a'r Gynghorfa bwysg uchod, yr hon a gynhelir yn ystod yr hat dyfodol. Nis gallwn lai rag ysgrlfenu, wrth en gweled yn cyrchu i'r tin-fan o bedwar ban y byd, y Ilinellhono, "Un ydyw t Eglwys oil." Tybed a ydyw hyn yn rhag-nodi undeb gwell a helaethach yma ar y llawr pan y bydd y byd Cristionogol wedi darfod a. heresiau a rhwygiidia, SO wedi dyfod yn un, fel y mae Crist a'r Tad yn Un ?