Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y GOHEBYDD GWIBIAWL.

News
Cite
Share

Y GOHEBYDD GWIBIAWL. Y BRODYR JONES. PENOD IV. Y galwadau masnachol yma oeddynt y prif nodau yn mywyd fy nhad, canys ar yr achlysuron hyn byddai i Mr. Morris Llwyd, Mr. Jack, a Mr. Gill y tri trafaelwyr o Bryste, yn danfon nodyn at Gwilym Hwmffre, yr hwn oedd yn cadw yGwesty cyhoeddus o daM. yr enw y Pelican yn Llan- yfronfraith, eu bod yn bwriadu treulio nos Iau nesaf o dan ei warcheidwadaeth ef, ag iddo barotoi tri o welyau temprus, gwydd wedi ei rhostio, a leg o gig gweddar wedi ei berwi gyda'r oil o'r addurn- iadau i wneuthur swper danteitliiol, ac ar eu dyfodiad i'r pentref byddai y tri yn galw yn y siop ag yn ysgwyd dwylaw yn gabnog a fy mam, ag yn gofyn. Sut yr ydych chwi, Mrs. Jones fach, a sut mae Mr. Jones? ac wrth fy ngweled i wrth gefn fy mam dywedent, Ha, Jeph fy ngwas, yr ydych yn globyn mae yn tyfu bob siwrnau, Mrs. Jones, ac y mae yr un ffynyd a'i dad. Welsom ni y fath debygolrwydd rhwng tad a mab erioed, —Gwelwch Jeph," a thyna bob i swllt yn fy Haw, a fy mam yn wen o glust i glust. Oddiyno i'r efail, i ysgwyd llaw gonest fy nhad. Wel Jones, yr hen Gymro, gawn ni eich weled yn y Pelican am naw o'r gloch heno i gael tipyn o swper gyda ni. Cofiwch am naw i'r funyd." Yr oedd yn ddyddorus gweled yr hen gyfaill yn myned allan yn hoyw-yn ddyn ysbyngciol, wedi ei wisgo yn ei ddilad goreu, ar ol ymolchi ac eillio, ag yn edrych fel pin mewn papyr gwyn ac yr oedd yn adeiliadol clywed archiadau fy mam :—" 'Nawr, Jesse, gofalwch na fyddwch yn hwyr fel ag y buoch gyda Mr. Trig y tro o'r blaen 'nawr cofiwch beth wyf yn ddweyd Ond och! er yr boll rybuddion, yn hwyr y byddai fy nhad ar y fath nosweithiau. Oddeutu unarddeg danfonai fy mam fi i'r Pelican" i edrych helynt yr hen wr, a phan gyrhaeddwn ddrws yr ystafell clywswn Mr. Lloyd yn gor- chymyn ffioled adnewyddol o rum punch, a phan lenwid y gwydru, safai Mr. Jack, a gwaeddai Iechyd da i Mrs. Jones a'r oil o'r plant." Ebe Mr. Gill, Da iawn genyfgaely cyfle, Mr. Jones, i yfpd iechyd da i Mrs. Jones a'r plant. Y maent oil yn anrhydedd i chwi, Mr. Jones. Nid oes gwell menyw na Mrs. Jones yn y sir, ac yr wyf yn cael ar ddeall fod eich dau fab, Jerry a Jethro, yn dyfod ymlaen yn y byd ag am Miss Janet, gwyddom nad oes gwell merch na hi yn mblith gwyryfon Llanyironfraith, ae am Jephtha yr ydym gyda phob parch yn ei gydnabod fel bach- gen sydd yn fendith i chwi a Mrs. Jones. Hold on," atebai fy nhad, Yr wyf yn addef nad oes gwell gwraig na Jem yn yr holl fyd. Y mae Jerry. Jethro, a Janet, y pethau y dymunwn hwynt i fod. Ond am Jeph, och y fi, nis gall y crwt weithio hoel hyd y dydd hwn, ac ni ddaw byth i'r un daioni; foneddigion, y mae Jeph yn awr yn cyfodi tuag at ddyndod, ond ni fedr wneu- tbur hoel; beth a ddaw o hono nis gwn i," a byddai y dagrau yn treiglo dros ruddiau yr hen of eelfyddgar. Oddeutu haner nos cychwynai gar- tref. Yn ei ymddangosiad yr oedd wedi eyfne-;vid; yr oedd ei lais yn gryglyd, a'i lafar yn aneglur, a byddai yn palfalu yn hir cyn yr amlygwyd iddo pa le yr oedd agoriad y drws, ac yr oedd ei gwsg yn soniarus gan ehwyrniadau aruthrol, drwy oriau y tywyllwch. Y cynydd parhaus yn masnach y siop, drwy ychwanegiad at y grocery bob math o nwyddau at wneuthur dillad i wyr a gwragedd, bechgyn, a Ily merched, a'i gwnaeth yn anhebgorol angenrheidiol i'r manager feddu ryw wybodaeth ynghylch brethyn, a bombazine, mwslin, a gwlanen fraith, cadachau sidan symudliw, a rhib i wneuthur clos a soccassau, heb son am shawls o Paisley, ac am- wisgoedd o .dref Coventry. Penderfynwyd gan hyny i'm danfon i am fis o brawf i siop fawr Eleazer yn Nghraig yr Eryr, i ddysgu dirgeledig aethau incilion, bobbins, pinau bach, cadish, a ffustian, &c., &c. Ond cyn pen y mis deallais fod fy ngwaith yn gynwvsedig, y rhan fwyaf, yn Ily agoryd y siop yn y boreu, yn cau y siop yn yr hwyr, i ysgubo y siop yn y boreu, ganol dydd a phrydnawn. Y gwir yw i Eleazer fy ngwneuthur yn faich-ddygydd i lafurio, ac ymdrechu, er ei elw ei hun, heb y meddwl lleiaf am fy mantais inau. Felly yn mhen y mis dychwelais adref, ac ar fy nyfodiad i'r ty, y peth cyntaf a glywwn ydoedd llais fy nhad yn gwaeddi wrth fy mam-" Jem, dyma dy anwylyn wedi dychwelyd y mae yn debygol nad yw Eleazer, y siopwr, yn rhoddi y gwaith allan i'w gyflawni, a thrwy nad ydyw Jeph yn hofif o galedwaith, y mae wedi dyfod yn ei ol i wrandaw ar glees y siop a'r efail, neu efallai i weithio hoel! Yr wyf yn benderfynol na chyr- aedda y crwt ddim ond distryw." Taw â'th lol, Jesse. Y mae Jeph wedi dych- welyd ar fy archiad i. Pan oeddwn yn Nghraig y* Eryr ddydd. marehnad diweddaf, gwelwn y bachgen yn cael ei yru yma a thraw yn cludo parseli mawrion, ac yn dwyn beichiau trymion; a thrwy iddo gael ei ddanfon i siop Eliezar i ddysgu enwau, a bod yn hyddysg yn ngwerth y moddion y byddwn ni yn eu gwerthu yn y siop, bernais y medrai ddysgu llafur-waith yn y siop, a gwneu- thur byllt a hoelion i ti yn yr efail; a dywedais wrth Eleazer na chawsai Jeph aros gydag ef ar un telerau yn y byd. Dyna ti, Jesse, a bydd di yn dirion wrth y plentyn, neu-wel gai di wel'd." Wel, goddefais fy nhynged yn o lew glynais yn fwy cyfyng nag erioed wrth y siop, ac ym- ddiriedwyd fi yn awr ac eilwaith i gyfarfod a masnachwr o Manceinion i dalu iddo arian oedd ddyledus, ac i roddi archiadau am y nwyddau loedd eisiau yn y siop. Un bore ddydd Mawrth yn mis Ionawr, wele fi ar fy hynt tua Chraig yr Eryr, i gwrdd a. Mr. Thornthwayt, y trafaelwr o Fanchester. Yn mhen oddeutu dwy awr cwblheais fy ngwaith, a chydag haner coron newydd yn fy mhoced (rhodd Mr. Thornthwayt) cychwynais yn fyfyrgar yn ol tua Llanyfronfraid. Cyfarfum A dau ddyn yn gyru tarw ffyrnigaicid tuag at y cigydd.dy er gwneuthur cig eidion i breswylwyr Craig yr Eryr. Mewn ychydig amser cyfarfum & boneddiges ieuangc, unig ferch Squire y plwyf, Admiral Vaughan, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn y Llynges Frenhinol. Yr oedd yn marchogaeth ebol gwineu ysblenydd, ac yn ei reoli gyda y prydferthwch mwyaf trwyadl; y marchwas yn canlyn o fewn cyfwng parchus. Gyda pharch anrhydeddus, gwnes ymgrymiad drwy dynu fy nghap oddiar fy mhen, gan ddwys ystyried yn fy meddwl toreithiog, mor ddedwydd y gwr a fyddai yn meddianu yn y dyfodol y foneddiges mor llawn o hawddgarwch. Yn mlaen a fi, yn hapus ar hyd y ffordd, yn awr yn chwibianu Ap Shencyn, ac yn y man Codiad yr Ehedydd." Hwylio yn mlaen heibio gwaith glo y Graig, perchenogaeth yr Admiral, lie yr oedd amryw o weithwyr yn profi nerth a pherffeithrwydd peiriant newydd. Ffwrdd a mi hyd nes cyraedd Llyn yr Alarch, dwy filldir o Llanyfronfraith. Y mae y llyn yn llydan ac yn ddwfn, a llawer o bysgod da a ddarfu mi a fy mrodyr dynu allan o'i ddyfroedd grisial- aidd yn y gorphenol. Yn awr yr oedd awel ddwyreiniol, rhewllyd, oeraidd yn chwythu drosto botymais fy siaced yn fwy dwys-dyn dros fy mynwes, fel darpariad i gamu yn fwy prysur, pan y darfu i glecian camrau ar y ffordd haiarn- aidd fy mrawychu. Edrychais yn ol a chanfum farchwas Miss Vaughan ar gar lam ag yn arwain ebol ei feistres. Gofynais pape oedd wedi gadael y foneddiges; atebodd ei fod wedi ei gadael gyda'i modryb Rheinallt. yr hon oedd glaf yn ei gwely. Heibio i mi aeth y meirch ar eu carlam, a minau a frysiais mor fuan ag y medrwn. Ynmhenchwarter milldir cyfarfyddais fy nhad, yr hwn oedd yn myned i'r gwaith glo a gorchymynodd i mi ddychwelyd gydag ef i geisio rhyw offeryn ydoedd wedi ei adael yn ngwaith y Graig y dydd o'r blaen. Fel ag yr oeddym yn nesau at Lyn yr Alarch, gwelsom y foneddiges ieuangc yn rhedeg tuag atom, ac wrth ei sodlau y tarw a welais yn cael ei yru i'r dref, bu i fy nhad a minau floeddio nerth ein cegau, a rhedasom gyda chyflymdra at wrthddrych ein pryder, ond cyn y gallem ei chyraedd yr oedd yr anifail cynddeiriog wedi dyfod i fyny a hi ymostyngodd ei ben, daliodd hi a'i gyrn, a thaflodd hi yn mhell allan i'r llyn (I'w barhau.)

DALENAU Y GYMDEITHAS AM- -DDIFFYNOL.

RHYMNI.

Advertising