Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

PENYCAE, RHIWABON.

News
Cite
Share

PENYCAE, RHIWABON. TWYLLO.-Dydd Iau, Tachwedd 6, cafodd merch i John Williams, o'r ardal hon, ei thwyllo mewn modd tra hynod, gan ddynes ieuanc a gyfenwai ei hun yn Ada Wilson, yr hon a ddywedai ei bod yn dyfod o Lundain. Mae y ferch Mary Williams yn gwasanaethu fel morwyn yn Ysgol Grove Park, Gwrecsam; ac oddeutu unarddeg boreu dydd Iau talodd y ddynes ymweliad a'r lie, gan ofyn am un o'r enw Mary Williams. Wedi cael ei gweled cyfarch- odd hi yn y dull arferol, gan gyflwyno ei hun iddi fel ei chyfnither, ac fod yn dda ganddi ei gweled yn edrych mor dda, a'i bod heb ei gweled er pan oedd yn faban. Crybwyllodd hefyd am rai o berthynasau y ferch, fel ag i wneyd ei stori mor debyg i wir ag oedd modd dywedodd ei bod yn aros gyda rhai o honynt er pan y daeth i lawr o Lundain, ac hefyd ei bod yn aros gyda'i mham hi er's pythefnos. Ei bod wedi dyfod yno i'w hysbysu fod ei mham wedi cael tarawiad trwm, ac nad oedd gobaith iddi fyw, ac fod dymuniad am iddi ddyfod adref ar un- waith. Gofynodd y ferch am gael caniatad i fyned adref i weled ei mam, a chaniatawyd iddi. Wedi myned allan dywedodd y ddynes wrth y ferch fod yn ddrwg ganddi ei hysbysu fod ei mham wedi marw fod pawb gartref mewn dyryswch a thristwch. Dy- wedodd hefyd fod ei thaid wedi syrthio i lawr y y grisiau a thori ei goes, ac fod ei thad wedi dymuno arni i brynu ychydig bethau pwrpasol iddi ei hun a'i chwaer, ynghyd Ai thad a'i thaid. Y ferch, mewn gofid a thrallod mawr, a wnaeth fel y ceisiwyd ganddi. Wedi cael pob peth yn barod, awgrymodd y priodoldeb o gael ychydig flodau i'w dodi ar arch ei mham, a hi a adawodd y parseli yn ngofal y ddynes tra y byddai yn myned i'r siop ond wedi dyfod allan, yr oedd y ddynes wedi dianc ymaith gyda'r parseli. Cyny llwyddwyd i'w dwyn i'r ddalfa yr oedd wedi twyllo eraill yn y cyffelyb fodd.

TREFEGLWYS.

LLANELLL

[No title]

--LLYTHYR VAUGHAN Y GOP.

LLANRUG.

CYFARFOD LLENYDDOL A CHERDDOROL…

[No title]

------_--------DYLEDSWYDD…

[No title]