Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
Trwvddedwytl y Parch. David Owen i gurad- iaeth Llanddewi Ystradenni yn nghyda Llan- fihangel Rhydition, swydd Faesyfed. Y mae Deon Westminster wedi datgan ei fod yn foddlon i edrych am le priodol yn Monachdy Westminster i godi cof-golofn i'r diweddar Mr. Fawcett. Cafodd Ysgoldy newydd, perthynol i Eglwys Loegr, ei hagor yr wythnos ddiweddaf yxi Llan- gyfelach, gan Mr. J. T. D. Llewelyn. Y mae yr holl ddyled wedi ei dalu. GOLYGFA WARTHUS MEWN GWYLNOS.—Bu dynes o'r enw Clancy farw yn dra disymwth yn Water- ford yr wythnos cyn y diweddaf. Nos Wener ymgynullodd nifer o'r cymydogion i'w tay i gadw gwylnos iddi, ac yr oeddynt oil yn feddw cyn pen ychydig oriau. Cyfodosant y corph o'r arch, gan ei ddal i fyny ac ysgwyd y breichiau i geisio dyn- wared Punch and Judy," yna rhoddasanfc y corff yn ol yn yr arch gan ei gario a'i ysgwyd o amgylch yr ystafell nes y syrthiodd allan. Wedi hyny dechreuasant ddawnsio o amgylch yr ymad- Ily awedig tm yr oedd un o honynt yn chwareu ffidil. Yn ddilyuol daeth heddgeidwad i mewn, a gyrodd hwynt oil allan w heul.
■ LLANRWST.
■ LLANRWST. AIL-AGORIAD EGLWYS Y PLWYF.—Ar nos Fercher a dydd lau, y 19eg a'r 20fed cyfiscl, ail-agorwyd yr Eglwys henafol uchod, yr hon sydd newydd gael ei helaethu a'i hadferu. Cymerwyd rhan yn y gwasan- aethau gan Canon Hugh Jones, rheithor, Llanrwst J. Williams, curad, T. Williams, Llandrillo, Corwen; R. E. Jones, rheithor, Llangernyw, ac 0. Jones, rheithor, Pentrefoelas. Ar nos Farcher, fe bregeth- yr Hybarch. Archddiacon Smart yn Gymraeg. Boreu ddydd lau pregethodd Esgob Llanelwy yn Gymraeg. Yn y prydnawn, pregethodd y Parch. D. Howells, ficer, Gwrecsam, yn Saesneg ac yn yr hwyr, preg- ethodd Canon Griffiths, Machynlleth, yn Gymraeg. Yr oodd yr Eglwys yn orlawn ymhob un o'r gwasan- aethau, ac ar nos lau yr oedd yr ymgynulliad mor fawr fel yr oedd yn anmhosibl cael Ile, hyd yn nod i sefyll, er i Capel Gwydir, yr hwn sydd yn gysyllt- Ily iedig a'r Eglwys, a'r festri, gael eu defnyddio. Bu y cyfarfodydd yn llwyddiant perfiaith ymhob ystyr. Fe bregethodd yr Esgob, yr Archddiacon, Mr. Howells, a Canon Griffith yn rymus ac effeithiol; ac yr oedd y canu yn wir dda. Dadganwyd anthem ymhob un o'r cyfarfodydd. Canwyd Mor hawdd- gar yw dy Bebyll a Mawr yw'r lor," ddydd lau. Mae yr Eglwys hon wedi bod yn wrthddrych dyidor- deb i'r hynafiaethydd er's Ilawer o amser, ac yn awr y mae yn un o'r Eglwysydd harddaf yn yr Esgobaeth. Y mae y seddau a'r holl waith coed o'i mewn wedi eu gwneyd o dderw. Addurnir hi hefyd a dwy gysgodlen (screen) wedi eu cerfio yn gywrain. Fe gostiodd yr adgvweiriad ynghyd a phethau eraill cysvlltiedig a'r Eglwys uwchlaw ze2000, ac y mae yr holl swm wodi ei gael o fown ychydig. Diameu y saif y gwaith hardd a claostfawr hwn am ganrifoedd yn goffadwriaeth o lafur y Parchedig Canon Hugh Jones, y rheithor, ac o zel a haelioni trigolion yr ardal ac eraill. Teilynga y cor ganmoliaeth neill- duol am eu llafur yn parotoi ar gyfer yr amgylchiad. Gwnawd sylwadau gan y rheithor yn ei bregeth bore Sul ar hyn, a datganodd ei ddiolchgarwch i bawb oedd wedi dangos eu caredigrwydd trwy hyfforddi a chynorthwyo yn y cor.
[No title]
Penodwyd y Parch. Henry John Lerigo, curad Ystradmeurig, yn gurad Penmaen, sir Forganwg
LLYTHYR TOM PUDLSE.
LLYTHYR TOM PUDLSE. ARFERION CYMDEITHAS. Syr,—Os na ellir cael gan bob dyn i fod yn llwyrymwrthodwr, mae yn weddaidd ac yn llesol i bob dyn fod yn gymedrol ac yn sobr. Mae arferion cymdeithas ynglyn a'r diodydd meddwol yn rhwystr mawr ar y ffordd i sobri y byd. Mae dyn wedi myned i'r llyffetheiriau hyn yn methu yn lan a dyfod yn rhydd o honynt, ac mae arferion cymdeithas yn llygru y to sydd yn codi. Dywedir fod y deng mil uchaf yn tra rhagori yn hyn arnom ni y milynau isaf; nis gwn pa un a ydyw yn gywir neu beidio, ond nid oes amheuaeth nad oes genym le i ddiwygio a gweila. Pan ddaw dyti newydd i'r gwaith, rhaid i U) l dl fJatîng i gael gwirod pan ddaw Sa iwrn tai, uid oes mwyniant heb yfed i ormodedd. Pan dderbyn y bachgen ei dal cyntaf, nid yw yn ddyn heb wario rhan o hono ar gwrw. Pan mae dyn yn ymadael a'r gwaith, nid oes ffarwelio yn iawn, heb eistedd i lawr i gael gwydriad neu ddau gyda'u gilydd. Yn nhymor y gwyliau, nid oes llawenydd heb gydeistedd a chyfeddach. Os eir ar bleserdaith, ypeth cyntaf awneiryw troi y llygaid o gwmpas i weled a oes tafarn- dy yn y golwg, ac nid yw y pleser yn gyf- lawn os na ddeuir yn ol dan siglo. Wrth adeilada ty rhaid cael gwirod wrth osod y sylfaen, onite ni fydd dim llwyddiant ar y gwaith a gwirod wrth godi y cyfan, a tn gwirod ar ol ei orphen, ac wedi myned i mewn iddo, nid oes modd ei wresogi heb yfed gwirodydd poethion. Pan enir dyn i'r byd, gwelir costrel yn rhywle rhwng y gwragedd fo yn bresenol: rhaid i'r fydwraig gael llymaid bach yn bur. Pan yn myned i'r ystad briodasol rhaid cael costrelau lawer. Pan y cleddir ef, rhaid cael gwin a gwirod ar y bwrdd. 0 gostrelau y sugnir cysur, a thrwy yfed yr angliofir y galar a'r golled. Mae ilawer yn meddwi wrth gladdu y marw. Yn y ffair a'r farchnad, wrth brynu a gwerthu, nid oes dim hwyl arni. Mae olwynion inasnach yn debyg i olwynion cer- bydau Pharaoh, yn gyru yn drwm, os na wlychir hwynt a gwydriad ar ol gwydriad. Yn y ffair ocsiwri nid yw pethau yn cerdded yn dda cyn yr elo yr ysteu o gwmpas, ragor nag unwaith. Pan mae'r ymenydd yn tyneru, mae'r galon yn codi, a rhwymau y tafod yn datod, a llinynau y pyrsau yn myned yn rhydd. Mewn lletvgarwch, ni wyr y Cymro, na'r Sais,na'r G wyddel, na'r Ysgotyn,am un ffordd well i ddangos caredigrwydd a chroesaw, na gofyn i gyfaill, ar ei ddyfodiad i'r ty, "Beth a gymerwch i'w yfed ? rhaid i chwi gymeryd rhywbeth mae'r tywydd yn frwd heddyw mae hi yn oer iawn heddyw." Nid oes gwahaniaeth, mae pob tywydd yn ffafriol i'r yfed. Fe ddaw ciniaw, rhaid yfed ar giniaw. Fe ddaw te, ac erbyn clirio y llestri te, rhoddir y botel, a'r gwydrau, a'r dwfr poeth yn union ar y ford. Nid oes modd ymadael a myned i'r daith yn gysurus heb gael gwydriad yn ychwaneg. Mae yn syndod pa fodd mae pen dyn, a chylla dyn, yn medru dal y cwbl. Os bydd y cyfaill yn aros dros nos, ofer meddwi y gellir cysgu, heb gael cap nos cyn myned i'r gwely. Byddai yn gam da, yn yr iawn gyfeiriad, pe sefydlid rheol ymhob teulu, i beidio cynyg dim i'w yfed i gyfaill nac estron, ond ar bryd bwyd, a'r hyn sydd angenrheidiol gyda bwyd. Po fwyaf a yfo dyn, mwyaf i gyd fydd ei syched. Paham na all dyn fwynhau cwmniaeth ei gyfeillion heb y gwlybwr o'u blaen hyd gydol oriau nawn a nos. Arferiad arall yw llwnc-destynau, yf- eiriau, mewn gwleddoedd, y byddai yn fendith i gymdeithas pe cai ei lwyr ddileu. TOM PUDLER.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. "OWEN GLYNDWR."—Nos Wener cyn y diweddaf, yn y Public Rooms, caed perfformiad o'r gantata uchod gan yr Idris Choral Society. Cynrychiolid y gwahanol characters gan Misses Susannah Pierce a Madge Roberts, Mri. E. Williams (Llew Meirion), Evan James, Richard James, Robert Davies, a Lewis Lloyd. Genid cydganau gan y gymdeithas gorawl, dan arweiniad y medrus Mr. 0. O. Roberts, Ysgol y Bwrdd. Caed perfformiad pur dda, a theilwng yw nodi Llew Meirion, Evan James, a'r ddwy ferch, fel y rhai a dderbyniasant gymeradwyaeth y cyfarfod. Gwneid y rhan gyntaf o'r cyngherdd i fyny gyda darnau amrywiaethol gan Mri. Lewis Lloyd, Llwyn- gwril J. B. Jones, a J. J. Thomas, Talsarnau a, Misses Roberts a Price. Chwareuid ar yr ofIervnau gan Miss Blanche Smith, pupil yn ysgol Dr. Wil- liams, a Mri. W. F. Crossley, a M. W. Griffith, Cariwyd y trefniadau allan yn rhagorol gan yr ysgrifenydd, Llew Meirion.-Gohebydd.
DAFEN.
DAFEN. CYNGHERDD.—Cynhaliwyd cyngerdd blynyddol y plant yn Ysgoldy Genedlaethol y lie uchod, nos Fercher, y 19eg o'r mis hwn, pan yr oedd yr Ysgoldy eang yn orlawn o wrandawyr, a llawenydd genym ddweyd i'r cyngerdd droi allan yn berffaith lwydd- iant ymhob ystyr. Neillduwyd y rhan flaenaf o'r rhaglen i'r plant yn unig, sef canu hymnau cysegrodig allan o'r llyfr a elwir Emanuel, a darllen- wyd rhan o'r Gwirionedd rhwng pob emyn gan y Parch. A. Britten, Ficer y plwyf, a gallwn bender- fynu dweyd os ydyw pob offeiriad yn cymeryd cym- aint o ddyddordeb yn y to ieuangc sydd yn codi dan eu gofal i'r un graddau a Ficer parchus Dafen, ni fydd achos i ni ofni am ddyfodol yr Eglwys yn Nghymru. Cymerodd y boneddigion a'r boneddig- esau canlynol ran yn y gweithrediadau Misses Rebecca Morris, M. J. Randall, S. A. Randall, E. A. Lewis, Mri. Frank Howell, yr organydd, John Wil- liams, John Morris, Charles Randall, ynghyda chor yr Eglwys. Terfynwyd un o'r cyfarfodydd goreu a gafwyd yma erioed trwy dalu diolch i'n parchus Ficer am lywyddu, a dymuniad pawb oedd am gael clywed rhywbeth yn debyg yn fuan eto, yn enwedig y plant bach a'u lleisiau peraidd yn canu mor nefolaidd.-Dafei,b Fab.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. CYFARFOD CHWARTEROL ATHRAWON YR YSGOLION SUL EGLWYSIG.—Fel y crybwyllwyd yn ein rhifyn diweddaf, cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol Ysgolion Sul yr Eglwys perthynol i Merthyr, Dowlais, Penydarren, Cyfarthfa, Troedyrhiw, ac Ynysowen, yn yr Ysgoldy, nos Wener diweddaf, pryd y llywydd- wyd gan y Parch. J. Griffith, M.A., rheithor, ac yr oedd yn bresenol yr offeiriad canlynol :-Parcbn. G. Roberts, rheithor Dowlais; C. Griffith a D. L. Griffith, Merthyr R. M. Williams, Merthyr Vale D. Evans a R. Williams, Dowlais; W. James, Cyfarthfa H. Thomas, Penydarren, ynghyd a nifer o athrawesau ac athrawon. Wedi dechreu drwy ddarllen a gweddio, cafwyd anerchiad gan y cadeir- ydd, ac yna galwodd ar Mr. Joseph, Penydarren, i ddarllen papyr ar Pa fodd i sicrhau prydlondeb yn yr Ysgol Sul." Ymhlith pethau eraill, amlygodd Mr. Joseph mai un o'r moddion goreu tuag at gyraedd yr amcan ydoedd prydlondeb ar ran yr athrawon (cymeradwyaeth), bod yn dirion wrth y rhai dan ei ofal, a cheisio hyd y gallai feithrin teim- ladau cariadus rhwng ei ddisgyblion. Sicrhai hyn gydymdeim!ad y rhieni, gan nad oedd dim yn enill eu cydymdeimlad yn fwy na serch athraw at eu plant yn yr ysgol. Pa mabwysiedid trefn orfodol ni ddeuai y plant i'r ysgol, gan nas gellid cario allan gyfundrefn yr ysgolion dyddiol yn yr Ysgol Sul. Peth arall ddylid bod yn ofalus yn ei gylch ydoedd yr enwau ar y llyfrau, a rhoddi gwobrwyon i'r goreuon. Pe sefydlid llyfrgell ynglyn a phob Ysgol Sul, credai y deilliai daioni annrhaethol. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r papyr gan y rhaifoeddynt yn bresenol, a chafwyd sylwadau gwerthfawr yn mhellach arno gan y cadeirydd, y Parch. G. Roberts, Dowlais; Mr. Lintern, Dowlais; Mr. Rees, Cyfarthfa; Mr. Frost; Mr. Hugh Hughes (Glan bLenig) Mr. Jenkin Jones Mr. Lewis, Penydarren D. James, Swyddfa'r LLAN, &c. Yn nesaf cymerwyd i ystyriaeth y dymunoldebo gynal arholiad blynyddol ar athrawon y dosbarth a ddymunent ymgeisio, a phenodwyd dirprwyaeth i ymweled a dirprwyaeth yn cynrychioli Dosbarth Aberdar er mwyn sicrhau eu cydweithrediad. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Dowlais yn mis lonawr, pryd y blaenorir y cyfarfod gan wasanaeth byr yn yr Eg- lwys. Penodwyd Mr. J. S. Parry, is-olygydd y LLAN, i ddarllen papyr yno ar I Y moddion goreu tuag at sicrhau ymlyniad ieuenctyd wrth yr Eglwys ar ol cael eu conffiirmio." Yr oedd yn gyfarfod dymunol ymhob ystyr, a theilynga y Parch. C Griffith, M.A., glod uchel am ei ddeheurwydd fel ysgrifenydd y mudiad. Mae dyddordeb ychwanegol yn cael ei amlygu yn y gweithrediadau yn barhaus, a disgwylir y bydd i'r cyfarfodydd hyn wneyd llawer o les i'r ysgolion Sul.— Un oedd yno.
-- >' .BANGOR.
> BANGOR. Nos lau, yr 20fed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol a cherddorol perthynol i Ysgolion Sul Eglwysig y plwyf hwn. Dyma'r cyntaf, ond ni fwr- iedir iddo fod y diweddaf. Yr oedd yr holl destynau yn agored i holl ysgolion Sul y plwyf, ond y mae yn deilwng o sylw na wnaethpwyd yr ymdrech leiaf gan yr un o'r wyth ysgol oddigerth un, St. Mair, tuag at wneuthur y cyfarfod yn llwyddiant. Gyda'ch can- iatad, Mr. Gol., bydd genyf air gyda golwg ar hyn mewn rhifyn dyfodol. Sicrhawyd beirniaid rhagorol yn mhersonau y Parch. R. Roberts, Llanfachreth, ar y traethodau; Parch. R. A. Williams (Berw), Abergynolwyn, ar y farddoniaeth; Parch. David Jones, Newborough, ar y gerddoriaeth a'r Parchn. Canon Evans a Jno. Morgan, ar yr amrywiaethau. Yr arweinydd penodedig ydoedd Mr. T. Hudson Owen, Bethesda, ond o herwydd afiechyd nis gallai fod yn bresenol, eithr anfonodd rodd o £ 1 tuag at ddwyn treuliadau y cyfarfod ymlaen. Derbynied ein diolchgarwch gwresocaf am ei gynorthwy. Cy- Iraerwyd yr arweinyddiaeth gan y Parch. David Jones, Newborough, ond o herwydd amlder ei ddyledswyddau, anmhosibl iddo wneuthur cyfiawn- der at y swydd na thuag ato ei hunan pe buasai | ganddo lai o waith, gwnaethai arweinydd bywiog. | Llywyddwyd gan y Parch. J. Morgan, Ficer. Awd tr NY y rhaglen ganlynol:—Ton gan y c6r, "Fy ï ngwlad." Anerchiad gan y Llywydd-bu ddoeth, yn fyr a bywiog. Cystadleuaeth ar ganu unrhyw Alaw: tri yn ymgeisio goreu, Mr. G. Roberts, "North I Wales Chronicle office. Beirniadaeth ar y ll&w- ysgrif, goreu, Hilda Ann Dobbs. Cystadleuaeth ar ganu Deus Misereatur;" daeth dau barti ymlaen, y naill dan arweiniod Mr. G. Roberts, a'r Hall dan arweiniad Mr. Benjamin Jones, rhanwyd y wobr rhwng y ddau. Cystadleuaeth ar adrodd y Bwch a'r Llwynog dwy yn ymgeisio, goreu, Hilda Ann Dobbs. Beirniadaeth ar y traethawd, Hanes Naomi," goreu, Miss Jones, James Street. Cys- tadleuaeth ar ddarllen darn heb atalnodau, wyth yn ymgeisio, goreu, Miss Williams, Pont Penrhyn Lodge creodd y darn hwn o waith Mr. G. Roberts fywyd adnewyddol. Ton gan y cor, Swiftly o'er the mountains' brow." Beirniadaeth ar y cyfieith- iad: saith yn ymgeisio, rhanwyd y wobr rhwng Mri. W. Williams a G. Roberts. Cystadleuaeth i blant ar ganu yr alw Dedwyddwch," pump yn ymgeisio, goreu, Patrick Cooke. Beirniadaeth Berw ar y penillion i'r Ywen," goreu, Mr. G. Roberts. Can, 'Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd," gan Miss Roberts, yn swynol iawn. Beirniadaeth ar y traethodau ar Hanes Daniel," rhanwyd y wobr rhwng Mri. W. J. Williams, a T. Stanley. Cystadleuaeth ar areithio ar Amser," tri yn ymgeisio, goreu, Mr. Benjamin Jones. Cystadleuaeth ar y pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," dau barti yn ymgeisio, goreu, un dan arweiniad Mr. G. Roberts. Cystadleu- aeth ar ddarllen difyfyr, pump yn ymgeisio, goreu, Jno. Brown. Beirniadaeth ar y prif draethawd, Ffurf Weddi," pedwar yn ymgeisio, goreu, Mr. Benjamin Jones. Cystadleuaeth ar ganu y don, Vox Angelica," dau barti yn ymgeisio, goreu, un dan arweiniad Mr. Benjamin Jones. Ton gan y cor, Phylis." Ar ol talu y diolchiadau arferol, a chanu yr Anthem Genediaethol, ymwahanwyd. Chwareu- wyd ar y berdoneg yn ddeheuig gan Miss Annie Williams, Port Penrhyn Lodge, a Mr. H. G. Roberts, St. Paul's. Yr oedd gwasanaeth c6r St. Mair yn bur dderbyniol, ac mae'r arweinydd galluog (Mr. W. Williams) a'r cor yn teilyngu ein diolchgarwch gwresocaf. Hefyd, gwnaethpwyd rosettes hardd gan amryw foneddigesau, ac yn eu mysg gallwn enwi Miss Griffiths, National School; Miss Maronson Jones, a Miss Popes, &c. Deallwn i'r derbyniadau rhwng pob peth, gyraedd tua £ 5 ac mae y treul- iadau yn cyraedd tua'r un swm. Y trysorydd ydoedd Mr. G. Roberts, "North Wales Chronicle" office; a'r ysgrifenydd, Mr. Benjamin Jones, St. Paul's School. YSGOL DYDD SADWRN.—Mae'r ysgol hon a gy- chwynwyd gan y diweddar Ddeon Edwards wedi ail- ddechreu, a mynychir hi gan dros 200 o blant. Clywais yr anrhegir pob un o'r ysgoleigion a llyfr yn cynwys darlun a phregethau y diweddar Ddeon poblogaidd.
LLANSANTFFRAID G. D.
LLANSANTFFRAID G. D. Er pan fu farw y diweddar Barch. David Evans, y mae gwasanaeth yr Eglwys Sefydledig yn y lie uchod wedi bod yn cael ei ddwyn ymlaen gan y Parch. G. Jones, Briste. Dydd Sul diweddaf dech- reuodd y rheithor newydd, y Parch. Rees Jones, gynt curad Llangystenyn, ger Conwy, ar ei weinid- ogaeth yn y lie. Yn yr hwyr pregethodd y gwr parchedig ef bregeth gyntaf, oddiar loan i. 38, pregeth gwir dda. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, a'r gwrandawlad yn astud. Arweinid y canu yn feistrolgar gan Mr. Owen, Cottage, a chwareuid yr organ gan Miss Pugh, Ysgoldy. Eiddunwn i Mr. Jones llwyddiant a llawer o ddedwyddwch yn ei faes newydd, a gobeithiwn y bydd yn ogymaint ei barch gan ei blwyfolion ag ydoedd y diweddar Mr. Evans. --G.
--CYSEGRlAD rCANGELL EGLWYS…
CYSEGRlAD rCANGELL EGLWYS ST. DEWI, OGMORE VALE, PENYBONT. Y mae yr Eglwys uchod yn sefyll rhwng Nanty- moel a Thynewydd, yn y (lyff ryn poblogaidd. Fe cysegrwyd corph (nave) yr Eglwys yn Rhagfyr, 1879, a blwyddyn cyn hyny fe bregethwyd ynddi, trwy gael license, gan y diweddar Esgob Oilivant, a chyn hyn cynhaliwyd gwasanaeth yn Ysgoldy Craigrhiwglyn. Fe roddwyd y tir i adeiladu yr Eglwys gan larll Dunraven yn rhad ac am ddim, a'r adeilad a gyfodwyd bron i gyd gan Mrs. Blandy Jenkins, Llanharran. Yn ddiweddar fe chwanegwyd canghell at y nave gan Mrs. Blandy Jenkins, yr hon a roddodd y cwbl, yn costio tua 2800. Y swm a roddodd Mrs. Blandy Jenkins tuag at yr Eglwys i gyd ydyw 21600, a chyn adeiladu yr Eglwys fe adeil- ( adodd Mrs Blandy Jenkins ysgoldy yn Graigrhiwglyn 1.'1 4 at wasanaeth Eglwysig, ac yno y mae Ysgol Sul a a gwasanaeth Gymraeg yn cael eu cynal. Y mae y foneddiges hon yn dda i'r tlodion yma a Llan- harran. Y mae hi yn deilwng o efelychiad. Y mae y Parch. H. L. Davies, wedi bod yn ffyddlon a diwyd i gario allan planiau y fonoddiges, ac wedi ymadael cyn gorphen y gwaith i Eglwysfach, swydd Dinbych. ac y mae y gwaith yn cael ei gario yn mlaen gan y Parch. David Pugh, A.K.C., curate-in-chargr. Architect y gwaith da hwn ydyw Mr. J. Pritchard, Llandaf, a'r adeiladydd oedd Mr. William Howell, Nantvmoel. Y mae y ganghell a'r Eglwys yn adeilad plaen a hardd, oddimewn yn hardd ac yn drefnus. Cysegrwyd y ganghell dydd Mawrth, y 19a g cyfisol, gan Arglwydd Esgob Llandaf, hefyd fe awd trwy y gwasanaeth o conffirmio. Yn mlith y clerigwyr presenol yr ydoedd y Parchn C. R. Knight, R. D., Merthyr Mawr; F. W. Edmondes, M.A., Bridgend; W. Llewellyn, ficer Llangeinwr (yn yr hwn plwyf y mae Eglwys St. David's) David Pugh, curad; C. Ll. Llewellin, Coychurch; George Thomas, Newcastle; H. Morris, Toleston James Jones, caplan Asylum, ger Penybont; J. Phillips, B.A., curad St. David's T. Tissington, Gilfachgoch H. Morris, Ystrad; W. Jenkins, Coychurch; J. Harris, Bettws; W. Morgan, Ystrad; W. Hughes, Pontycymer. Darllenwyd brawddegau y cysegriad gan y Parch. C. R. Knight, R.D. Arwyddnodwyd cl gweithred y cysegriad gan yr Arglwydd Esgob, ac yna darllenwyd y gwasanaeth gan y Parchn. David Pugh, C. R. Knight, F. W. Edmondes, G. Thomas, W. Llewellyn, a J. Phillips. Chwareuwyd yr organ gan Mr. Spargo yn gelfyddydol iawn. Canodd y cor yn ardderchog. Cawsom anerchiad gan ein hanwyl Esgob. Dywedodd ei fod wedi dyfod yno y dydd hwnw gyda'r bwriad o gyflawni dau beth gwahanol ag oedd yn perthyn i'w swydd fel Esgob. Y cyntaf oedd gwahanu yr adeilad oddiwrth bob peth cyffredin a halogedig, a'i neilllduo i wasanaeth ac addoliad yr Hollalluog Dduw am byth. Yr oedd wedi deall fod y ty ardderchog hwn wedi ei adeiladu gan foneddiges, yr hon sydd wir Gristion, ac yn byw heb fod yn mhell iawn oddiwrthynt. Yr ydym yn darllen, meddai yr Esgob, yn y Beibl am Iuddewon yn myned at Grist ac yn gofyn iddo fendithio rhyw canwriad Rhufeinig, yr hwn, er ei fod yn perthyn i genedl arall, oedd garedig a haelionus, ac a roddodd iddynt Synagog. Yr oedd yn gobeithio y byddai esiampl yr Iuddewon yn cael ei ddyblu gan bobl y gymydogaeth, ac y byddent yn weddiau yn cofio am y foneddiges haelionus a'i theulu, yr hon a wnaeth gymaint yn y gymydogaeth o bryd i bryd. Yna aeth yr Esgob i grybwyll am adeilad Solomon a chwanegiad o leoedd addoliad o dan oruchwyliaeth yr Efengyl. Pe tae chwi yn edrych yn ol trwy hanesyddiaeth y byd, chwi a welech fod Eglwysi wedi eu hadeiladu trwy haelioni ein cyndeidiau ymhob plwyf bron, ac yr oeddynt yn ddigon ar y pryd i'r boblogaeth, ond y mae y cynydd mor fawr nes y mae y plwyfydd yn methu a chael digon o leoedd i addoli. Yn wir y mae yr Eglwys yn ymddibynu ar haelioni y lluaws i gael lie i addoli iddynt. Yna aeth yr Esgob ymlaen i anerch yr ym- geiswyr am confirmation, rhai o honynt o Ogmore Vale, Pontycymer, Llandyfodog a Llansantffraid. Adgofiodd iddynt am yr addewidion a addawyd gan eu tadau a'u mamau bedydd drostynt, eu bod hwy eu hunain yn myned yn gyfrifol am danynt, gwasgodd arnynt y pwysigrwydd o hunanymholiad a dyfodiad cyson at fwrdd yr Arglwydd. Ar archiad yr Esgob aeth y gynulleidfa ar eu gliniau i gyd, ac mewn gweddi ddistaw ar ran y rhai oedd ar gael eu conffirmio, yna conffirmiwyd 46. Ar ol hyn gwein- yddwyd yr ordinhad Fendigaid o Swper yr Arglwydd. Cafwyd luncheon yn Ogmore Valley Hotel, wedi ei barotoi gan Mr. Queenes, pan y mwynhaodd 66 o'r danteithion blasus ag oedd o'u blaen. Rhoddodd Mr. a Mrs. Queenes foddhad mawr i bawb yn y modd medrus yr oedd wedi trefnu y byrddau a digon o bob danteithion. Yma eto y mae haelioni y foneddiges yn dyfod i'r golwg, trwy dalu yr holl gostau mewn cysylltiad a'r luncheon a'r cysegriad. Wedi gorphen y luncheon, rhoddodd Mrs. Vaughan, yr Aber, testimonial hardd i'r diweddar gurad-watch a clock. Y mae bobl yr Ogmore i'w canmol yn fawr am ddangos y fath haelioni yn casglu 923, a'u rhoddi hwynt mewn ffurf o dysteb. Cododd y Parch. H. L. Davies i ddiolch, ond fe'i rhwystrwyd gan ei deimladau, Y Ficer (y Parch. W. Llewellyn), a gynygiodd iechyd da yr Esgob a'r offeiriaid. Fe gyfeiriodd at yr Esgob fel goleu llosgadwy ac yn disgleirio i bawb. (Canmoliaeth). Hefyd cyfeiriodd at yni yr Esgob a'i ymdrech parhaus yn cario allan ei swydd i'r fath|foddlonrwydds; yr oedd yn esiampl i'r Esgobion, ac hefyd i'r offeiriaid i ddilyn ei ôl.- Fe gododd yr Arglwydd Esgob i roddi arwydd o ddi- olchgarwch. Cyfeiriodd ei arglwyddiaeth at chwanegu yr Eglwys yn ei esgobaeth ef, ac yr oedd yn bleser o'r mwyaf iddo gysegru neu roddi trwydded i gynal gwasanaeth mewn unrhyw le. Yr oedd yn dymuno weithiau gael mwy nag un corph, fel y gallai fod yn bresenol mewn llawer o lefydd ar un- waith, fel y gallai fod yn eu plith yn fynychach. Yr oedd yn gweled yr angenrheidrwydd o fod yn amlach yn mhlith yr offeiriaid yn eu llafur, i gydymdeimlo a hwynt. (Cymeradwyaeth). Yr oedd.rhai Esgob- ion yn dueddol i aros yn eu llyfrgelloedd, ond yr oedd [ein Hesgob ni yn dweyd mai yn mhlith yr offeiriaid y dylent fod yjdyddiau hyn yr oedd yn dweyd, heb deimlo unrhyw hunan glod, ei fod yn gwybod gymaint am yr Esgobaeth yn awr a llawer o'r Esgobion eraill, ac yn teimlo yn llawen o fod yn eu plith. Yr oedd yn dda gan bawb weled ei Arglwyddiaeth yn edrych mor dda. Ein dymuniad ni ydyw am iddo gael oes hir, ac yn mlaen yr elo nes bydd yr Esgobaeth o benbwygilydd yn addurn ac yn esiampl i'r holl Esgobaethau. Y mae cydymdeimlad yr Esgob yn nerth i'r offeiriad sydd yn llafurio yn y cymoedd yma. Yn y prydnawn, am 2 o'r gloch, darllenwyd y Litani, a phregethwyd gan y Parch. F. W. Edmondes, M.A., Rector Coity, oddiar St. Matthew v. 14., Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio." Fe ddangosgodd yn eglur fod y Cristion i fod yn amlwg i bawb fel y mae dinas ar fryn. Rhoddodd gyngor rhagorol i'r bobl a gonffirmiwyd i fyw yn ol eu proffes, ac hefyd dangosodd i'r Eglwys fod dysgeidiaeth yr Eglwys yn erbyn dysgeidiaeth y Pabyddion. Yn yr hwyr, am 7-30, pregethodd y Parch. J. H. Protheroe, M.A., oddiar Philipiaid iii. 18. Nos Lun, fe bregethodd y Parch. L. Magor Rees, St. John's, Tondu, oddiar Nehemiah iv. 6. Hefyd cawsom bregeth yn Gymraeg gan y Parch. H. Lewis, Rector Llansantffraid, ar y geiriau, Ty gweddi y gelwir fy Nhy i." Yr oedd y cyfarfodydd yn orlawn, a'r casgliadau yn 916 16s. 9c.