Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
-----------YR HEDDWCH RHWNG…
YR HEDDWCH RHWNG Y DDWY BLAID. HYSBYSODD Mr. Gladstone yn Nhy y Cyff- redin nos Lun diweddaf, y gobeithiai efe allu dwyn Mesur y Seddau i mewn nos Lun nesaf, a chynyg ei ail ddarlleniad y nos Iau dilynol. Eglur yw oddiwrth hyn fod ar- y 0 weinwyr y ddwy blaid wedi cytuno o ber- thynas i Fesur y Seddau, a bod Ty yr Arglwyddi wedi cael eu boddloni yn nghynygiad y Llywodraeth, ac y bydd iddynt basio Mesur yr Etholfraint yn ddi- atreg. Gogoniant y cydwelediad rhwng y pleidiau yw fod y naill blaid a'r llall yn hawlio y fuddugoliaeth, ac yn datgan eu llawenydd mawr mewn canlyniad. Y mae hyn yn arwydd dda fod heddwch wedi ei wneyd ar seiliau boddhaol Gelynion Ty yr Arglwyddi yn unig sy'n siomedig. Mynodd Mr. Labouchere a Syr Wilfrid Lawson ddwyn eu cynygiad ymlaen nos Wener, yr hwn sy'n datgan fod mwyafrif Ceidwadwyr yn y Ty Uchaf yn ei gwneyd yn angen- rheidio'l effeithio rhyw gyfnewidiad yn^ y berthynas rhwng y ddau Dy. Ni phleid- leisiodd ond 71 dros y cynygiad, ac yr oedd y Llywodraeth yn ei erbyn. Ond y mae rhai pobl yn mynu byw ar aflonyddwch. Y mae cymdeithas a eilw eihun yn "Gyngrair y Bobl i Ddifodi Ty'r Arglwyddi yn cael ei chychwyn. Un o'i His-lywyddion yw Mr. Bradlaugh. Y mae'r elfen grefyddol yn mhersonau Esgobion yr Eglwys yn y Ty Uchaf yn annioddefol i Mr. Bradlaugh a'i gyfeillion, ac y mae'n eglur fod ofn dylanwad crefydd yn un o achosion dechreuad y Gyngrair.
[No title]
Y mae y Parch. John Jervis Beresford, B.A., St. Martin, Worcester, wedi ei drwyddedu i guradiaeth Llangathen, sir Gaerfyrddin.
OYNHADLEDD YR EGLWYS AMERICANAIDD.
OYNHADLEDD YR EGLWYS AMER- ICANAIDD. Yn y Congress Americanaidd cyffelybodd Deon Denver Esgob heb Eglwys Gadeiriol i lyngesydd neu lywydd heb ei long. Dywedodd fod y gyfundrefn gadeiriol yn darbod cyngor i'r Esgob; ac y byddai yr Eglwys Gadeiriol i'r gwyr lien fel clafdy i efrydwyr meddygol, ac y byddai yn ganolbwynt eu trefniadau cenhadol. Edrychai y Parch. J. H. Elliot ar hyn oil fel gwrthgiliad o'r ffordd a drefnodd Duw iddynt. Dywedodd fod Esgob Selwyn wedi mabwysiadu'r drefn Americanaidd, ac wedi rhoi esiampl yn Lich- field a ddilynid gan y rhan luosocaf o Esgobaethau Lloegr. Yn y drefn yma y mae lleygwyr yn cael eu lie. Tybiai na fyddai i leygwyr America byth roddi i fyny eu hawliau. Mae lie i feddwl fod llawer un yn y dyddiau a aeth heibio yn edrych ar ein Heg- lwysi Cadeiriol fel clafdai i w £ r llen, lie dodwyd y cloffion a'r mudion." Lie tawel, clyd, fyddai'r ddinas a phawb yn gorphwys. Y mae'r hen drefn yn diflanu. Y mae'r ddinas yn awr yn ceisio bod yn ffynonell bywyd yn ganolbwynt pob gwaith da. Nid yw ieuenctyd yn rhwystr i ddyn galluog gael lie mewn Eglwys Gadeiriol Pwnc arall dan sylw y Gymanfa oedd y Gyffes- gell. Dadleuai y Parch. J. H. Hopkins dros addysg penodol gan y rhai a wrandawent gyffesiadau. Amheuai y Parch. O. G. Curtis ddihalogrwydd cyf- rinach y gyffes heb offeiriaid anweddog. Dywedai E. W. Osborne fod nifer yr offeiriaid a dderbynient gyffesiadau yn cynyddu. Atebai y Parch. L. Parks, fod pob offeiriad yn derbyn cyffesiadau, ond nad oeddynt yn rhoddi gollyngdod, gwaith Duw ydoedd hyny. Tybiai y Parch. H. Carmichael fod yr arferiad o gyffesu yn codi oddiar awydd am gydymdeimlad Dywedai y Parch. D. W. Rhodes fod yn bosibl i rhyw ddaioni ddyfod o'r gyffesgell, ond nad oedd dim wedi d'od hyd yn hyn.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. GENEDIGAETHAU Chambers-Tach. 13, yn Nant Newydd, Llangefni, Mon, priod Mr. J. Chambers, ar fab. Edwards-Tach. 16, priod Mr. Thomas Edwards, Rhyd- wen, Dolgellau, ar fab. Grattou-Tach. 23, yn 93, Salisbury Road, Lerpwl, priod Mr. John Gratton, ar ferch. Hughes—Tach. 17, priod Mr. Samuel Hughes, Top Hill, Bagillt, ar fab. PRIODASAU. James-Jenkins-Tach. 25, yn Eglwys St. Tydfil, Merthyr Tydfil, gan y Parch. C. Griffith, M.A., Mr. W. James, Bailman, a. Miss Hannah Jenkins-y ddau o'r plwyf hwn. Jones—Foulkes—Tach. 20, yn Eglwys y plwyf, Llan- ddeiniolen, gan y Parch. W. Owen, curad, Mr. John Jones, Coch Hir, a. Miss Elizabeth Ann Foulkes, Glasgoed-y ddau o Landdeiniolen. Owen—Hughes—Tach. 18, yn Eglwys Llanaelhaiarn, gan y Parch. H. E. Williams, rheithor y plwyf, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Kinsey Daviea, Mr. W. Owen, Wern-oleu, Llandwrog, st Miss Apilona Hughes, Cwmgwara, Clynog Phillips-Lewis-Tach. 24, drwy drwydded, yn Eglwys St. Tydfil, Merthyr Tydfil, gan y Parch. C. Griffith, M.A., Mr. David Phillips, draper, High Street, a Mrs. Lewis, Union Strreet-y ddau o Merthyr Tydfil. Platt-Marshall-Tach. 18, yn Eglwys y plwyf, Hart- ford, gan y Parch. E. Eddowes, ficer, yn cael ei gynortkwyo gan y Parckn. K. M. Aynsley, Witton, a P. Constable ISllis, rkeitkor Llanfairfeckan, Mr. Sydney B. Piatt, Brynyneuadd, Bangor, a Miss Marshall, merch henaf Lieut. Col. Marshall. W MARWOLAETHAU. Lewis—Tack. 17, yn 60 mlwydd oed, yn Penbrynhir, Llanfihangel-y-Creuddyn Uchaf, Anne, priod Mr. David Lewis, amaethwr. Millward-Tach. 17, yn Gladstone Villas, Dinbych, yn 65 mlwydd oed, Elizabeth, priod Mr. Thomas Millward. Owen-Tachwedd 21, yn 25 mlwydd oed, Mary Eliza, merch ieuengaf Mr. Richard Owen, Tyddyn Mawr, Llanrug. Rees—Tach. 20, Mr. Edward Rees, saer maen, Abbey Square, Llangollen. Roberts-Tsch. 19, yn Spring Gardens, Caerfyrddin, yn 21 mlwydd oed, James, mab Mr. William Roberts, foreman yr agerbeirianau, yn Junction Caerfyrddin. Williams-Tach. 15, yn 51 mlwydd oed, Mr. Charles Williams, garddwr, Siloam Buildings, Abermaw.
COLEG DEWI SANT, LLANBEDR.
COLEG DEWI SANT, LLANBEDR. Y mae y mesurau a'r apwyntiadau canlynol wedi derbyn cydymffufiad yr Ymwelydd 1. Yn y dyfodol cynhelir dau arholiad am raddau-un, fel o'r blaen, yn Mehefin, a'r ail yn Rhagfyr. Bydd i'r arholiad diweddaf gymeryd lIe yr hen arholiad llenwol" a gynhelid yn mis Medi; a. bydd iddo hefyd gyfarfod a chyfleus- derau yr efrydwyr a ddymunant ymgysylltu a'r coleg. 2. Dileuir yr hen dystysgrifau tair,blwyddol gyda duwinyddiaeth. 3 Bydd gan efrydwyr dwy-flwyddol coleg Dewi Sant, y tfhai sydd wedi pasiofeu harholiadau, hawl i gael eu galw yn y dyfodol yn Dduwinyddion Trwyddedol," ac awdurdodir hwy i wisgo hood wahaniaethol. 4. Bydd i astudiaeth mewn cerddoriaeth gael ei galonogi trwy gyfandrefn reolaidd o addysg- iaeth ac arholiad. Cynhelir yr arholiad ar ddi- tymor y Grawys, a rhoddir tystyfgrifau i'r rhai a basiant yn llwyddianus. Y mae yr adran gerdd- orol hon yn curriculum y Coleg wedi derbyn cymeradwyaeth yr holl esgobion Cymreig. Telir sylw manwl i faterion ymarferol, megys ar- wain corau a chorau meibion. Gellir cael pob hysbysrwydd ychwanegol trwy ymofyn a'r Proffes- wr Culley. 5 Y mae Is gangli elly dd'Coleg Rhydychain wedi enwi Mr. Francis Charles Montague, M.A., Cvm- rawd o Goleg Oriel, Rhydychain, a Chymrawd o Goleg Uchraddol Llundain, a Mr. Charles Harding Firth, M.A., ysgolor yn Ngholeg Baliol, Rhydychain. a diweddar Broffeswr mewn Hanes- yddiaeth Seisnig yn Ngholeg Firth, Sheffield, i fod yn arholwyr yn Llanbedr, mewn pynciau hanes- yddol, clasurol, a Seisnig. 6. Bydd i adeiladau newyddion y Coleg wynebu ffrynt yr adeiladau presenol. Hefyd bydd yno ardd betryal rhwng yr adeiladau newyddion a'r hen rai, yr. hon a wneir ar ffurf yr ardd betryal ogleddol sydd yn Ngholeg Magdalen, Rhydychain. Bydd i'r adeiladau gynwys ystafelloedd lie y traddodir y darlithiau, a fferylldai, yn nghydag ystafelloedd i'r athrawon a'r efrydwyr, 7. Yn mhen ychydig amser, yehwanegir school- room fawr at adeiladau y Coleg, a lletydai helaeth at wasanaeth yr efrydwyr a fwriadant breswylio yn y Coleg. 8. Heblaw y tanysgrifiad o £500 a dderbyniwyd oddiwrth Mr. Crawshay Bailey, y mae tanys- grifiadau ychwanegol o tIOO yr un wedi eu derbyn oddiwrth yr Ymwelydd, Arglwydd Esgob Tyddewi, Arglwydd Esgob Llanelwy, ac oddi- wrth Mr. Hesketh, Castell Gwyrch, tuag at helaethu y coleg a'r ysgol. Gellir dweyd mai hwn ydyw yr achos addysgiadol mwyaf cymhelliadol a haeddianol yn Nghymru, a chreda bwrdd y coleg yn sicr y bydd iddynt gael eu cynorthwyo yn mhellach gan noddwyr hadlionus a rhyddfrydig.
SAETHU MEWN PYLLAU GLO.
SAETHU MEWN PYLLAU GLO. Dydd Mercher diweddaf bu Mr. Wales, arolyg- ydd mwnawl y Llywodraeth yn Neheudir Cymru, yn gwneyd arbrawfion mewn glofa yn Nyffryn Rhondda gyda gollwng ergydion allan yn y gwaith. Deallir y bydd iddo wneyd yn hysbys i'r Ysgrif- enydd Cartrefol ei farn ar y mater. Teimlir dyddordeb anghyffredin yn y pwnc yma, oblegid os y bydd i'r Ysgrifenydd Cartrefol lynu wrth ei benderfyniad cyntaf, gwaherddir gollwng ergyd- ion mewn glofeydd ond yn unig ar fynediad y dynion allan o'r gweithfeydd. Dadleuir y bydd i hyny leiliau y swm o lo a gyfodir, ac hefyd yr elw, oddeutu un rhan o dair. I Mae Cymdeithas y Meistri wedi hysbysu yr Ysgrifenydd Cartrefol ei bod yn hollol anmhosibl mabwysiadu ei gynllun yn Neheudir Cymru.
---_.__,"-------.------ ---LLYTHYR…
LLYTHYR JOHN JONES Y GLOWR. MR. GOL.Er pan mae fy hen gyfaill doniol Tom Pudler yn ysgrifenu i'r LLAN mae Dina ei wraig yn cael parch mawr yn y gymydogaeth ac mae hyn wedi cynhyrfu Mali fy ngwraig inau, fel nad oes dim hedd- wch i'w gael ganddi, na hwyr na bore, eisiau i mi dreio fy Haw i ysgrifenu llythyr i'r LLAN. Dywed fod genyf fel coliar, bob mantais i gael digon o destynau i ysgrifenu arnynt; trwy fod pob hen chwedl yn cael ei hadrodd o dan y ddaear, na feiddir eu dweyd ar y lan. Mae yn wir fod canoedd o hen chwedlau yn cael eu hadrodd o dan y ddaear, ag y byddai yn well eu claddu yno, na'u dwyn i oleu dydd, heb son am eu han- fon i'r LLAN. Mae Mali a finau yn Eglwys- wyr, gyda hyn o wahaniaeth, mae hi yn galw ei hun yn Uchel-Eglwysig, a finau yn galw fy hun yn Eglwyswr. Nid wyf fi mwy na Mali yn hoffi y gair isel, oblegid nid yw hwn ond gair arall am Ymneillduaeth yn yr Eglwys. Yr wyf yn ami iawn yn cyfarfod a rhai o dan y ddaear a adwaenwn i gynt fel Eglwyswyr zelog yn Sir Aberteifi, ond ar ol ymddiddan a hwy, yn cael ar ddeall eu bod flaenoriaid ac yn aelodau gyd a'r Hen Gorph; ac wedi gwneyd eu cartref yno meddant hwy. Ar ol myned tua thre', byddaf yn dweyd wrth Mali, fy mod wedi cwrdd a hen ffryndjjQjTregaron. A ddywed- asoch chwi wrtho am ddyfod i'r Eglwys ? fydd ei gofyniad bob amser, ond yr wyf y rhan fynychaf yn gorfod dweyd, mae ef wedi myned i'r ty cwrdd. Wedi hyny mae Mali yn codi ei llais ac yn gwaeddi, Dyna ffrwyth isel Eglwysyddiaeth. Yr wyf yn gwybod fod gan Mali bob parch i'r Hynafgwr o Tre- garon, ac y mae hi yn credu y byddai yn well ganddo ef farw yn ferthyr na gadael yr Eglwys ond er hyny, dywed, naw wfft i Eglwysyddiaeth Sir Aberteifi. Mae fy ngwraig yn fy ngorchfygu yn deg yn y fan hyn, oblegid y mae yn y gymydogaeth hon ugeiniau o Eglwyswyr Sir Aberteifi yn ael- odau yn y tai cyrddau. Mae yma un capel a mwy na haner yr aelodau wedi eu dwyn i fyny ar fronau yr Eglwys yn yr hen Sir anwyl. Yr wyf wedi gofyn i amryw o hon- ynt, paham y darfu iddynt adael yr Eglwys, a'u hatebiad bron i gyd ydoedd Waeth i ba le yr awn ni, ond i ni fyned i rhywle o addoliad." Ac felly wedi dyfod yma, maent yn barnu mai gwell iddynt fyned i'r un ty cwrdd a'r gaffer. Yr athrawiaeth fwyaf dinystriol i'r Eglwys ydyw yr athrawiaeth, ni waeth i ba le yr awn ni, ac ofnwyf fod hon, fel y dywed Mali, yn cael ei dysgu yn lied gyffredin yn Sir Aberteifi; oblegid y mae y rhai sydd yn dyfod oddiyno bron i gyd yn ei chredu, ac yn ymddwyn yn unol a hyny ar ol dyfod i'r gweithfeydd yma. Y gaffer ac nid y pregethwyr sydd yn llanw y tai cyrdd- au y ffordd hyn, a hwy sydd yn gosod y scriw arnom ni y coliars druain i dalu eu dyledion. Yr wyf yn cofio yn y gwaith hwn gaffer Seisnig, ac yr oedd yn bregethwr cynorthwyol, adeiladodd dy cwrdd, a llanw- odd ef o rai tebyg i Eglwyswyr Sir Aberteifi. Yr oedd un Morgan Jones yn gweithio yn y talcen agosaf i mi, yn dweyd wrthyf un diwrnod, pe buaswn i yn gallu gweddio yn Saesneg, fe aethwn inau i dy cwrdd Mr. W--m, ac yna fe gawswn well lie na hwn i enill arian. Erbyn hyn y mae y gaffer mawr wedi myned ymaith, a'r capel yn wag, a'r dynion wedi myned ar ol gaffer arall. Wrth ddiweddu y llythyr hwn, gallaf ddweyd, er nad wyf yn uchel Eglwyswr fel Mali yma, eto yr wyf yn ddigon o Eglwyswr i lynu wrth yr Hen Fam tra y byddaf byw, ac wrth weled ymddygiad isel Eglwyswyr sydd yn dyfod y ffordd hyn, byddaf weithiau bron a dweyd wrth Mali, Dy bobl di fydd fy mhobl inau." JOHN JON-ES.
--------_--------__-CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. FFAIR GYFLOGI.—Gynhaliwyd y fiair gyflogi flyn- yddol yma ddydd Gwener cyn y diweddaf, ond yr oedd yn amlwg fod yr arferiad o gyflogi gweision a morwynion yn y ffair yn prysur ddarfod. BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—Yn nghyfarfod di- weddaf y Bwrdd, galwodd Mr. Bircham, arolygwr y Llywodraeth, sylw at sefyllfa anfoddhaol y ty, a chynghorodd hwy i benodi pwyllgor i'w gymeryd dan ystyriaeth dioed. Hefyd dymunai arnynt leihau nifer y rhai a dderbynient gymorth allanol, gan eu bod yn gwario o P,20 i £ 30 mwy yn wythnosol nag Undeb arall heb fod ymhell. Nid oeddynt wedi llei- hau dim yn ystod y saith mlynedd diweddaf, a phan oedd ef yn bresenol nid oedd ond 6 o warcheidwaid yn ei wrando allan o 35. CAREDIGRWYDD AT ANIFEILIAID. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas hon yn Neuadd y Dref, ddydd Iau, dan lywyddiaeth Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Daeth cynulliad lluosog ynghyd, a chaf- wyd anerchiadau gan y llywydd ac amryw eraill.
[No title]
Y Parch. Edward Thomas Jones, ficer Llandudoch, sir Benfro, sydd wedi ei benodi i ficeriaeth yr Eglwyswen, gyda St. Elfis, swydd Benfro. Noddwyr, Deon a Glwysgor Eglwys I Gadeiriol Tyddewi.
HELYNTION Y SOUDAN.-SEFYLLFA…
Boreu dydd Iau. HELYNTION Y SOUDAN.-SEFYLLFA DRUENUS KHARTOUM. Cyrhaeddodd newyddion i Dongola ddydd Mawrth i'r perwyl fod yr ymborth yn Khartoum bron a darfod, a'r Cadfridog Gor- don mewn canlyniad wedi ei orfodi i anfon rhai hen bobl allan o'r lie. Hysbysir fod y Mahdi a'i ganlynwyr yn gwylio y ffyrdd i Khartoum, ac fod yn anmhosibl i allu bychan lwyddo i ddal cymundeb a Khar- toum yn bresenol. Mae y gwrthryfelwyr wedi ymdrechu amryw weithiau yn ddiwedd- ar i ddinystrio y gwarchglodiau yn Omdur- man, ond llwyddodd Gordon i'w hatal bob tro.
GWRTHRYFEL YN TWRCI.
GWRTHRYFEL YN TWRCI. Mae Llywodraeth Twrci wedi eu dych- rynu yn fawr gan agwedd fygythiol ymilwyr, y rhai a wrthodant gyflawni eu dyledswydd- au, gan nad ydynt yn cael eu talu yn rheol- aidd. Ymddengys fod yr awdurdodau yno wedi penderfynu talu yr oil sydd yn ddyled- us yn ddioed, heblaw addaw talu y cyflogau i'w milwyr yn rheolaidd yn y dyfodol.
TEULU ANFFODUS YN TREHERBERT.
TEULU ANFFODUS YN TRE- HERBERT. DIANGFA GYFYNG BONEDDIGES. Dydd Mawrth, brawychwyd trigolion Tre- herberbert, Dyffryn Rhondda, drwy ledaen- iad adroddiad i'r perwyl fod brawd a chwaer, a drigianent yn Church-street, mewn sefyllfa anghenus. Gan nad oedd yr un o'r ddau wedi eu gweled er's dyddiau, aeth y cymydogion yn anesmwyth, ac aeth yr Arolygwr Thomas i'r ty, lie y cafodd fod Mr. J. L. Hamlet yn dioddef oddiwrth ddiffyg angenrheidiau bywyd. Daeth Mr. Hamlet a'i chwaer i fyw i Treherbert rai blynyddoedd yn ol gyda'u brawd, Mr. S. W. Hamlet, yr hwn ydoedd yn cashier yn ngwaith glo y Rhondda-Merthyr. Mewn atebiad i ofyniadau gan Mr. Thomas, dywed- odd Mr. Hamlet nad oedd dim ymborth yn y ty, a'i fod heb weled ei chwaer, Miss Hamlet, 54 mlwydd oed, er's dyddiau, gan ei bod wedi cloi ei hun i fyny yn y llofft. Ofnai ei bod erbyn hyny wedi marw. Aeth Mr. Thomas gydag ef i fyny i'r llofft, a chan ei bod yn methu cael unrhyw atebiad torwyd y drws, ac yna gwelwyd Miss Hamlet yn gorwedd ar wely o garpiau. Gofynodd Mr. Thomas iddi a ydoedd yn wael, pryd yr atebodd nad oedd, ond anfonwyd am feddyg yn ddioed, yr hwn a ddatganodd y buasai wedi marw pe heb ei darganfod mewn pryd, Addefodd Mr. Hamlet yn awr nad oedd ganddynt arian nag ymborth, a chasglw>d swm da gan y cymydogion yn ddioed i gyf- lenwi eu hangenrheidiau. Wedi chwilio y ty cafwyd cheque am 9102, ynghyd a diogel- iadau eraill am tua zC500, y rhai na wnaeth- pwyd un ymdrech erioed i'w newid wedi marwolaeth Mr. W. S. Hamlet pedair blynedd yn ol. Bydd i'r awdurdodau ofalu am danynt yn awr.
-----CYDWELI.
CYDWELI. Nos Fercher, y 19eg o'r mis hwn, cynhaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch yn y lie uchod yn Neuadd y dref (Town Hall), gan fod yr Eglwys yn y lie yn cael ei hadgyweirio, ar ol iddi gael ei niweidio gan ystorm y flwyddyn ddiweddaf. Dar- llenwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. Jones, Rheithor Llangunllo, Aberteifi, a'r llithoedd gan y Parchn. S. Phillips, All SaintR, Llanelly, a T. Jones, Ficer Gartheli, Aberteifi, a phregethwyd gan y Parch. S. Phillips yn Saesneg, a chan y Parch. T. Jones yn Gymraeg. Yr oedd yr ystafell eang yn orlawn. Boed i'r pregethau, trwy fendith Duw, fod yn foddion i adeiladu yr Eglwys mewn modd ysbrydol, a sicrhau y bobl yn y ffydd a roddwyd unwaith i'r Saint. Tra fyddo yr Eglwys yn y He dan ddwylaw yr adeiladydd tymhorol, bydded i deulu Duw yma gael eu hadeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, lesu Grist ei hun yn ben congl-faen, a bydded i'r hyn a glyw- som i fod yn foddion i ddwyn llawer eto o'r newydd i ymofyn am le yn Nhy Dduw, a thrwy gyrnorth y nef iddynt fod yn feini bywiol yn yr adeilad nefol. Aeth y cor trwy y gwasanaeth yn ganmoladwy. Canasant yr anthem yn dda. Ac y mae clod yn ddyledus i'r boneddigesau am eu hymdrech yn addurno yr ystafell mor ddestlus. Bydded iddynt hwy a phawb a edrych ar yr addurniadau hyn, ymofyn am addurniadau cym- wys i'r breswylfod fry, sef hadau yr Ysbryd Glan. Yr hwn a addurnodd y nefoedd yn unig all addurno calonau plant dynion a goleuni ysbrydol, megys a thlysau o aur, ac a boglynau o arian, sef sancteiddrwydd yr Ysbryd, yr hwn sydd gymwys ac addas i Dy Dduw.—Cydwel.
[No title]
Mae heddgeidwaid Caergybi yn gwneyd ym- holiadau i weithred ysgeler a gyfiawnwyd y nos o'r blaen yn llythyrdy y lie hwnw. Canfyddwyd person yn diane oddiwrth y llythyrdy yn lied hwyr y nos, ac erbyn gwneyd ymchwiliad, cafwyd fod tan wedi cael ei daflu i mewn i'r bocs i fysg y llythyrau. Llosgwyd amryw lythyrau, ond yn ffodus llwyddwyd i ddiffodd y tan yn fuan.
MOUNTAIN ASH.
MOUNTAIN ASH. DAMWAIN DYCHRYNLLYD.-Nos Fawrth diweddaf, yn mhwll y George, Cwmpennar, perthonol i Syr George Elliot, A.S., digwyddodd damwain ddych- rynllyd i ddyn o'r enw William Williams, 40 mlwydd oed, drwy iddo syrthio i waelod y shafft. Yr oedd Mr. Alexander Jordan wedi ei weled ar ben y pwll tua naw o'r gloch y noson hono, ond ni welodd ef yn syrthio. Cafwyd ef yn y boreu yn ngwaelod y pwll wedi ei falurio mewn modd erchyll
[No title]
Niweidiwyd bachgenyn a weithiai beiriant un o'r ffwrneisiau yr Ynysfach, Merthyr, yn bur drwm yr wythnos ddiweddaf, trwy i'w draed fyned i'r olwynion cocos (cog wheels). Cyn y gellir ystyried fod Coleg Gogledd Cymru mewn cyflwr arianol diogel, rhaid i lawer eto o arian gael eu derbyn. Mae swm digonol i sicrhau 879p y flwyddyn eto yn eisiau. Mae trigolion Llandudno yn awyddus iawn i gael swyddfa llys y man-ddyledion yno, ac ym. ddengys eu bod ar fedr ymgynghori a'r Barnwr Horatio Llovd ar v pwnc. Dydd Mawrth, cyhuddwyd dynes o Fangor, o'r enw Jane Ellis, gerbron ynadon Llandudno o geisio llofruddio ei mab ei hun, bachgen saith mlwydd oed. Tystiodd un person iddo weled y garchares yn ceisio taflu y plentyn oddiar bont Conwy i'r afon islaw. GWAITH Y GWYNFYNYDD, GER DOLGELLAU.- Hyfrydwch genym gael ar ddeall fod nifer o fon- eddigion o Awstralia wedi cymeryd y gwaith rhagorol uchod i'w welthio. Y mae again o ddyn- ion wedi eu dwyn eisoes iddo, a gobaith am i nifer dda eraill gael gwaith parhaus. Wele wawr ar dori yn ffafr sir Feirionydd, ni a hyderwn. Mae rhaff wifrau wedi cael ei gwneyd yn ngweithfeydd Syr George Elliot, A.S., Caerdydd, i'r North British Railway, yr hon raff sydd yn ddwy filldir a 108 llath o hyd. Pwysa dros 21t tunell. Defnyddiwyd agos illOO,000 gwryd o wifr i'w gwneyd. Bwriedir defnyddio y rhaff anferth yma yn y twnel yn Glasgow er llusgo y cerbyd- resi rhwng gorsaf Queen-street a Cowlairs.