Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Iftybiiddioii CyoeààuØ. LLYFRAU NEWYDD, CYHOEDDEDIG GAN HUGHES & SON, WREXHAM Metcn luan hardd, crown 8vo., Fris 3s. 6e. GYFROL 0 BREGETHAU: Gan y Parch. J. JONES (Idrisyn), Awdwr y "Deonglydd Berniadol" (Hen Destament a'r Newydd), &e. PREGETHAU Edward Morgan, Dyffryn. Mewn dwy Gyfrot. Pris mewn llian cryf a hardd, 7s. 6c. yr un. PREGETHAU David Roberts, Wrexham (Caernarfon gynt). Dwy Gyfrol, mewn llian hardd, pris 8s. 6c. yr un. PREGETHAU J. Thomas, D.D., Liverpool. Mewn llian hardd, pris 3s. 6c. PREGETHAU Robert Jones, Llanllyfni. Mewn llian hardd, pris 3s. 6c. PREGETHAU D. Charles, Caer- fyrddin. Yr ail Qyfres. Mewn llian hardd, pris, Is. 6c. New and Revised Edition (folio, about 200 bound in Cfeft, with Sled Portrait, price 12». Gd.; or the lit, 2nd, 8ri and Uh Bene* eefaraUiy, price 2*. 6c. eaM. in gtcued cover. flTJuat issued-"The PEOPLE'S EDITION," neatly bound, price 7/6. GEMS OF WELSH MELODY: By JOHN OWEN (Owain Alaw); With Symphonies and Accompaniment* for Piano or Harp for One Hundred Pieeea. Geiiir cael y Cyhoeddiadau uchod gan Mri. FARRANT a FROST, Swyddfa'r LLAN. HYSBYSIADAU Y LLAN. Dylid en derbyn yn y swyddfa erbyn DYDD MKRCHEJR yn mhob wythnos. PRISIAU. 75 o eiriau (solid) neu un fodfedd i lawr y golofn (displayed):— (displayed):— Un wythnoa (tal yn mlaen llaw) '2s. Tair wythnos „ 5a. Bob tro ychwanegol (yr un) „ lB. 26 o wythnosau (yr un) „ 9c. 52 o wythnosau (yr un) „ 6c. Hysbysiadau Seneadol a Ehybuddion Cyfreithiol. 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y llinell. > J HYSBYSIADAU BLAEN-BALIADOL EHAD. Cyhoeddir hysbysiadau fel y canlyn, os TELIR YN MLAEN LLAW, yny Llan yn ol y raddfa ganlynol:— 20 o eiriau: nwaith, la.; tair gwaith, 2s. 6c.; chwech etto, 43. 6c. 30 o eiriau:—Unwaith, la. 6c.; tair gwaith, 4s.; chwech, etto, 6s. 6c. 40o eiriau:-Unwaith, 2a.; tair gwaith, 5a. 6c.; chwech, etto, 8a. 6c. ——— TELERAU GWERTHIANT Y LLAN. Anfona y Cyhoeddwyr un copi o'r LLAN yn ddidrau drwy y Llythyrdy i unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol fel y canlyn: Chwarter blwyddyn, Is. 8d.; haner, eto, 3s. 4d.; blwyddyn, 6s. 8d. Anfonir Y Llan i ddosbarthwyr ac eraill, wedi talu y oludiad, fel y canlyn:— I Gyda'r Post. Gyda'r Tren. Dwain 100. 90. Nifer mwy yn ol yr un raddfa. CYHOEDDWYR:—MRI. FARRANT A FROST, High-street, Merthyr-Tydfil. +- Yr unig Time Table Cyhoeddedig yn Nghymru sydd yn cynwys yr oll o'r BJieilffyrdd Cymreig. THE "CAMBRIAN DIARY AND TIME TABLE FOR WALES." CYHOEDDEDIG yn fisol. Pris Ceiniog. Anfoner archebion at FARRANT A FROST, Cyhoedd- wyr, Merthyr-Tydfil. Allan o'r Wasg, mewn Pamphled. ERTHYGLAU ARWEINIOL DIWEDDAR JLLf Y "LLAN," AR "'BANER AC AMSERAU CYMRU' A DADGYSYLLTIAD A DADWADDOLIAD YR EGLWYS." Pria 6c. I'w cael yn swyddfa y Guardian," Wrec- sam, a swyddfa y "Llan," Merthyr Tydfil. WATCHES & JEWELLERY DIRECT FROM THE WORKSHOP. STRONG STERLING SILVER ENG- LISH LEVER WATCHES, capped and Jewelled, from 38a.; Ladies' sond Gold Watch, in velvet and silk lined case, 30s.; Gentlemen's English hall marked Silver Centre Seconds Lever Chronograph, 55s.; Ladies' or Gentlemen's strong Silver Watches, from 15s.; a strong workman's Watch that will go, as low as 10s. All warranted from 1 to 5 years, according toyprice. Don't delay to send for my new list, and pur- clabe of no one until you see it, as being a bona fide j manufacturer, I can supply at less than half retail price. Everything sent on approval for three days, and money returned if not satisfactory. Every known variety kept in stock. Special and most advantageous terms to Watch Clubs.—Write at once for particulars to E. Mdzton, Lever Watch Factory, Hill Cross, Coventry. [63 f^ybtiddion (jyl{oeddii$. W ANTED a Master for a small National School. Stipend, f45 and Government Grant. Address, The RECTOR, Llwyngwril, Meirioneth. [126 XVANTED immediately, Provisionally- v Certificated Mistress for small mixed School. Salary. 45 and Apartments. Church, harmonium, Welsh.—Apply, The RECTOR, Trawsfynydd, North Wales. 127 WANTED, a Curate (Welsh), in the Parish of Llangelynin.—Apply to Rev. J. E. DAVIES, Llwyngwril, Merioneth. 128 ASSISTANT School Mistress wanted immediately for the Llandough Church of England Mixed School, for Knitting and Sewing es- pecially. Salary, £ 2 18s. 4d. per month, with a Bonus at the year's end in case of good results.—Apply to the RECTOR of Llandough, Near Cardiff. 130 WANTED immediately, Curate (or Locum Tenens) for Aberdovey. Good bi- linguist. Single man. Title might be given. Apply, with references, REV. E. T. Davies, Aberdovey. [132 'TN EISIEU, cyfeiriad presenol Mr. H. G. Lewis, gynt ysgolfeistr yn Ysgol y Bwrdcl, Cray, Aberlionddu.-Cyfeirier, M A., LLAN Office Merthyr Tydfil. YN EISIAU, Teuluyddes (Housekeeper) i gymeryd gofal ty a theulu cyfrifol. Rhaid iddi fod yn Gymraes drwyadl, o gymeriad difrycheulyd, ac heb fod dan 35 na thros 45 mlwydd oed.—Cyfeirier at LL," i ofal Ficer Gwreesam. [129 ST. ASAPH DIOCESAN CONFERENCE 1884. STATEMENT OF ACCOUNTS. Received. £ a. d. £ a. d. Balance in Bank from former Con- ference 19 9 9 Bank Interest. 0 11 1 20 0 10 Offertories at Mold Parish Church and at Nortbop Church, and Col- lections at Meetings, &c. 29 9 9 £ 49 10 7 Expended (from 1881 to 1884). Mr. F. E. Roe, Printing, &c. 14 12 5 Mr. J. Eamsden, ditto 0 18 3 Advertisements of Conference 6 10 4 Paid for Rooms at Committee Meetings 4 14 0 Postages 2 0 :> Bank Charges 0 3 7 Expenses of Conference Meetings paid by Local Committee 27 1 7 ;£56 4 1 Examined and found correct, Nov. 19th, 1884. H. P. FOULKES. 131 P. P. PENNANT. YN AWR YN BAROD, PRIS SWLLT, LLAWLYFR AT WASANAETH ATHRAWON YR YSGOL SUL, SEF GOFYNIADAU AR LYFRAU HANESYDDOL YR HEN DESTAMENT, GAN Y PARCH. EVAN JONES, B.D., Rheithor Trefdraeth, Penfro. I'w cael gan y Cyhoeddwyr, Mri. Farrant a Frost, Swyddfa 'r LLAN, 135, High-street, Merthyr-Tydfil, a chan brif Lyfrwerthwyr Cymru. Drwy y Post, Is. lie. SWYDDFA ARGRAFFU Y CAMBRIAN, MERTHYR-TYDFIL. "TV/TAE FARRANT A FROST (cyhoeddwyr y newyddiadur hwn), yn ymgymeryd a phob math o Argraffwaith, &o. Cerir allan bob archeb mewn byr amser am brisiau isel. Magazines Plwyfol yn cael eu lleoli, ac Argreffir Cylchlythyrau, Rhybuddion, Rheolau Cymdeithasau a Guilds, ar y rhybudd lleiaf. Cyhoeddwyr "Llusern y Llan," "Cambrian Diary and Time Table i Gymru," Llyfrwerthwyr, &c., Mer thyr-Tydfil. CANGEN-SWYDDFA, STAMP OFFICE, ABERDAR. AT EIN GOHEBWYR. CYFANSODDIADAU (wedi eu hysgrifenu ar un tu i'r ddalen) i fod mewn Haw cyn neu erbyn boreu Mawrth, cyfeiriedig— THE EDITOR, LLAN Office, ——— Merthyr Tydvil. Os teimla ein dosbarthwvr a'n derbynwyr unrhyw anhwylusdod yngl^n a chludiad y LLAN O Merthyr Tydfil, bydd yn daa genyrn pe yr hysbysent ni y ffordd oreu i'w hanron, fel ag lddynt eu cael yn brydlon. DALIER SYLW.—Nis gallwn ddychwelyd ysgrifau na wneir defnydd o honynt. BUASAI yn dda gan y Cyhoeddwr bennodi dosbarthwyr i werthu YLlan lie nad oes rhai eisoes. Am y telerau, anfoner i'r swyddfa. Cyfeirier cyfansoddiadau barddonol fel y canlyn:— Rev. Ll. M. Williams, The Vicarage, Ppntlottyn, Cardiff. CYMRO.—Drwg iawn genym glywed am, y dirywiad a ddisgrifiwcn. Ond a fyddai yri iawn ei adwyn o flaen y byd ar hyn o adeg. MEWN LLAW.—Tregaron, Aberhonddu, D.J.E., Ffagan, 1 Didymus, Ficer Llawr y BettwB, &c. '1' 'r- AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER- BYNWYR. Byddem yn ddiolchgar i'n Dosbarthwyr a'n Derbynwyr pe talent sylw mor fuan ag sydd bosibl i'r biliau am y LLAN, fel ag i'n galluogi i wastadhau y cyfrifon. Diolch i'r rhai sydd eisoes wedi gwneyd. Pan yn anfon arian, dylai pawb anfon eu biliau yr un adeg, er mwyn arbed trafferth afreidiol.
l. ---------------_---------------_----CYNWYSIAD.
CYNWYSIAD. 1. Hysbysiadau 2. Yr Wythnos a Gohebiaethau. 3. Gohebiaethau, Barddoniaeth, Newyddion American- aidd. 4. Hysbysiadau, At ein Gohebwyr, Erthyglau, &c. 5. Llythyr John Jones y Glowr, Cynhadledd yr Eglwys Americanaidd, Newyddion Diweddaraf, Genedig- aethau, Priodasau, &c. 6. Llythyr Tom Pudler, Newyddion Cymreig. 7. Newyddion Cymreig, Llythyr Vaughan y Gof, Cyf- arfod Llenyddol a Cherddorol Ysgoiion Sal Eg- lwysig Plwyf Bangor, Dyladswydd Pobl leuainc er ffnrfio Cymeriad da yn y Byd, 8. Y Gohebydd Gwibiawl. Dalenau y Cymdeithas Am- ddiffynol, Hysbysiadau.
DYDD GWENEE, TACHWEDD28, 1884.
DYDD GWENEE, TACHWEDD28, 1884. MASNACH. ARAF iawn ydyw masnach yn ein gwlad, ac yn wir ymhob rhan o'r byd, ac felly ychydig o alwad sydd am waith, a bychan yw'r cyflog. Ebai un ysgrifenydd, Masnach ydyw yr afon fawr sydd yn rhedeg ar dywod aur o fryniau llawnder i ddyffrynoedd angen." Y flwyddyn ddiweddaf, yn terfynu Ebrill, 1884, daeth gyda llifeiriant anferth yr afon hon nwyddau o werth 427 miliwn o bunau, ac aeth allan o honi nwyddau o werth 305 miliwn o bunau. Gwelir wrth y ffigyrau uchod fod y Deyrnas Gyfunol yn prynu mwy o nwyddau o werth 122 miliwn o bunau nac y mae yn werthu. Neu, mewn geiriau eraill, ei bod yn gwario mewn mas- nach bedair punt am bob tair y mae yn enill. Edrycha y rhan fwyaf o bobl feddyl- gar y deyrnas ar hyn fel peth i'w resynu, ac yn sicr yn y diwedd o arwain i dlodi; ac oni bai am y llogau arian a dderbynir i'r wlad hon o wledydd tramor gan y dosbarth arianog, ni buasai yn ddichonadwy i ni ddal ein tir am ddeng mlynedd yn nghyflwr presenol masnach. Daw eraill, a thynant y casgliad oddiwrth yr un ffigyrau ein bod ni yn gallu cadw a defnyddio yn ein gwlad werth cant a dwy filiwn ar hugain o nwyddau—moddion cynhaliaeth a chysuron bywyd-bob blwyddyn. Felly y mae yn ddadl, yn ymryson, ac yn ymladd, rhwng y rhai sydd yn cynyrchu a'r rhai sydd yn defnyddio. I ddwylaw y cynyrchwyr y llifa yr aur, ac i ddiwallu angen, ac ych- wanegu cysuron a mwynhad y prynwyr yr el y cynyrch. Ymdrecha pob gwlad gadw agoriadau masnach yn eu llaw eu hunain ac ychwanegu eu cynyrchion ac felly eu cyfoeth. Mewn byr eiriau ymdrechant werthu mwy nag a brynant. Mynant am- ddiffyn yr hyn a alwant eu buddianau eu hunain a gwanhau buddianau pawb o'u cylch. Gan hyny gal want am ddiffyn dollau ar bob eiddo a ddaw i mewn i'w gwlad, ond llawer o honynt bounty am y nwyddau a anfonir allan. Y mae drysau masnach Prydain yn agored i dderbyn nwyddau yr holl fyd heb un doll yn bresenol. Felly saif yn nghy- meriad ystorfa anferth i ddadlwytho a llwytho eiddo haner byd. Y mae nid yn unig yn brif-fasnachdy yr holl fyd, ond y mae hefyd gyd a'i llynges fasnachol o werth dau can' '"miliwn o bunau yn cario nwyddau mwy nac haner byd. Yn y dull yma y mae yn ganolbwynt masnach daear. Ymdrecha holl deyrnasoedd Ewrop a Gweriniaethau America adfeddianu y masnachu, y cario, a'r cynyrchu, o'i Haw. Amgylchir ein Hymerod- raeth gan fur o ddiffyn dollau yn Ewrop, Asia, ac America. Trethir ein nwyddau, a threthir ein masnach ymhob porthladd estronol. Gwneir hyn ar yr egwyddor o amddiffyn cynyrch cartrefol, a dwyn traul y Llywodraeth. Masnach Rydd ydyw arwydd- air Lloegr er's chwarter canrif. Masnach Amddiffynedig ydyw arwydd-air America, Ewrop oil, ac Asia. Trethwch yr eiddo gartref a'r cynyrch gartref, meddai Lloegr; trethwch nwyddau yr estron, cynyrch yr estron, a masnach yr estron, meddai pob gwlad ldramor. Trethwch y tir-moddion 5 cynyrch y cig, yr ymenyn, a'r llaeth, a haner y gwenith, heblaw yr oil o'r llysiau—meddai Lloegr, ond prynwch y cig, yr ymenyn, yr yd, a'r caws, a'r gwer, a phob nwydd tramor, yn ddi-doll. Ofnwn fod Masnach Rydd, a Masnach Ddiffynedig yn y deyrnas hon wedi dyfod yn fympwyon plaid, yn lie ymchwiliad gweidyddiaeth ddiragfarn. Nid yw ei chyflwr yr hyn a ddylai fod. Y mae augen ymchwiliad, ac ymchwiliad manwl. Y mae bendithion Masnach Rydd yn eglur, ond dylid ei chael yn rhydd o'r ddeutu, gartref ac oddicartref.
------------"".----- -------------,Y…
Y FLWYDDYN EGLWYSIG. (I.) ADVENT. Ni ddechreua yr Eglwys ei blwyddyn, a chylch blwyddyn ei Gwasanaeth Dwyfol gyda'r tlwyddyn wladol ar y laf o Ionawr, ond ar y Sul Cyntaf yn Adfent. Nid yw hi yn cyfrif ei dyddiau nac yn mesur ei thym- orau wrth yr haul naturiol, ond amdroi y mae o amgylch Haul Cyfiawnder, yr hwn yw ei goleuni a'i gogoniant. Rhenir y flwyddyn Eglwysig i ddwy ran fawr, y laf, o'r Adfent i Sul y Drindod, a'r 2il, o Sul y Drindod i'r Adfent. Yn y naill ran dysgir Gwirioneddau Sylfaenol y Gref- ydd Gristionogol yn y llall yr ymarferiad o honynt mewn buchedd, Rhaid dodi i lawr sylfaen cyn dechreu adeiladu. Dyma yw trefn natur hefyd. Yn y rhan flaenaf o'r flwyddyn heuir a phlenir, ac yn y rhan olaf ymddengys y ffrwyth. Naturiol yw fod cyfatebiaeth rhwng trefn Natur a threfn yr Eglwys, oherwydd creadigaethau yr Un Awdwr ydynt, a gweithredant o dan reol- aeth yr un Pen, ac y mae eu gwaith yn gyffelyb. Gwaith natur yw amlygu cariad Duw i'r meddwl a phorthi'r corph gwaith yr Eglwys, egluro Ei gariad i'r meddwl a phorthi'r enaid. Fel athrawon ffyddlon o dan yr un dysgawdwr eglurant a chyd- dystiolaethant i'r un gwirioneddau. Cawn ymhelaethu ar y gyffelybiaeth mewn ysgrif- au dyfodol. Yn yr haner cyntaf o'r flwyddyn Eglwys- ig, saif y Prif Wyliau, sef, y Nadolig, y Pasg, a'r Sulgwyn. Ac er mwyn nodi eu pwysigrwydd, eu cadw yn fwy teilwng, parotoi ein meddyliau i dderbyn y gwirion- eddau dwyfol a ddysgant, a'u haigraphu yn fwy dwfn yn ein calonau, penodir dyddiau a thymorau neillduol o flaen ac ar ol y Dydd Gwyl. Y tymor o flaen y Nadolig yw'r Adfent, gair yn tarddu o'r Lladin, ac yn arwydd- ocau Dyfodiad. Gelwir y tymor felly am mai ei ddiben yw parotoi dynion i goffhau, mor bell ag y gall dynion pechadurus, ddyfodiad lesu Grist yn y cnawd, a'u dwyn i ymbarotoi erbyn ei ail ddyfodiad i farnu byw a meirw. Priodola hen draddoddiad sefydliad yr Adfent i Sant Pedr yr Apostol. Ond ni cheir tystiolaeth hanesyddol am y tymor cyn amser Jerome, tua O.C. 410, yn ysgrif- au yr hwn y gwelir Colectau, Epistolau, ac Efengylau am bum' Sul cyn y Nadolig, ac hefyd am y Mercherau a'r Gweneran yn yr wythnosau, y rhai a gadwyd yn y Llyfr Gweddi i lawr hyd y Diwygiad.. Y mae Homiliau neu bregethau ar gael gan Maximus, Esgob Turin, O.C. 450; ac hefyd gan Caesarius, Esgob Aries, O.C. 501-542, yn rhoddi hanes cyflawn am y tymor. Penderfyn-yd gan Gyngor Cyntaf Macon, O.C. 581, fod i Ffraingc oil ei gadw o ddydd Sant Martin (Tach. lleg), hyd y Nadolig, a gelwid ef am hyny yn Quadra- gesima Sancti Martini. Dechreua Eglwys Groeg yr Adfent yn awr ar ddydd Sant I? Martin. Ond nid oes sicrwydd diamheuol pa oes y sefydlwyd y Tymor, ond mae yn eglur ei fod er yn foreu, mor foreu ond odid a sefydliad Gwyl y Nadolig, a'i fod wedi am- rywio o ran hyd o ddwy wythnos i dair a phump a chwech. Cynhwysa'r Tymor yn bresenol bedwar Sul, trefniad a briodolir i Gregori Fawr, O.C. 590. Y rheol i gael allan pa bryd y mae'r Adfent yn dechreu yw ei fod y Sul nesaf, o flaen neu ar ol, at Ddydd Sant Andreas, sef Tachwedd 30ain. Eleni mae Dydd Sant Andreas ar ddydd Sul, ac felly y mae y Sul Cyntaf yn Adfent, yn unol a'r rheol uchod, yr un dydd. Pwy wasanaeth a arferir y Sul nesaf, y gwasanaeth am Ddydd Sant Andreas, ynte am y Sul'? Beth ddywed yr Awdurdod ? Os bydd i unrhyw Ddydd Gwyl yr ap- pwyntiwyd iddo Lithoedd yn y Daflen, ddigwydd syrthio ar Sul ag a fydd yn Sul Cyntaf yn Adfent, Dydd Pasg, Dydd y Sulgwyn, neu Sul y Drindod, darllenir y Llithoedd apioyntiedig '1": cyfryw Sul ond os syrth efe ar ryw Sul arall, gellir darllen y Llithoedd naill ai am y Dydd Sul neu am y Dydd Gwyl, yn ol doethineb y Gwein- idog." O.C. 1549,|y cyfansoddwyd y Colect am y Sul nesaf yn yr hwn a ddywedir beunydd gyda'r Colectau eraill yn Adfent, hyd Nos Nadolig," Ar y Tymor hwn y darllenir y Prophwyd Esay. Tarewir cyw- eirnod y Sul cyntaf yn y Flwyddyn Eglwys- ig gan yr Epistol :—" Y nos a gerddodd yn mhell, a'r dydd a nesaodd am hyny bwriwn oddiwrthym weithredoedd y tywyll- wch, a gwisgwn- arfau y goleuni."