Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

THE ENGLISHMAN'S BRIEF, &c."

News
Cite
Share

THE ENGLISHMAN'S BRIEF, &c." At Olygydd Y Llan." Syr,-Diaamheu fod lluaws o ddarllenwyr y LLAN yn gyfarwydd ag enw y Uyfryn bychan a elwir The Englishman's Brief on behalf of his National Church." Teimlwn yn ddiolcbgar gael ar ddeall beth ydyw barn eich darllenwyr ynghylch cael cyfieithiad Cymraeg o hono. Nid wyf wedi clywed ei fod wedi ei gyfieithu hyd yn hyn, na chwaith fod neb yn bwriadu gwneuthur hyny. Credaf ei bod yn ddyledswydd arnom, fel Eglwys- wyr, wneyd pobpeth yn ein gallu er goleuo ac hyrwyddo ein cyd-genedl ynghylch gwir sefyllfa ac iawnderau hen Eglwys ein tadau. A phe ym- gymerai rhywun a'r gwaith o gyfieithu y llyfryn bychan, ond cynwysfawr, hwn, i'r Gymraeg mewn iaith ystwyth, credaf y byddai yn hynod fendithiol rhoddi copi o hono yn uwylaw pob un o'n cyd. genedl. Gobeithiaf weled yn fuan beth ydyw barn rhai o brif ddarllenwyr y LLAN ynghylch y mater. -Yr eiddoch yn gywir, CURAD.

TYMHORAU Y FLWYDDYN.

NEWYDDION AMERICANAIDD.

---CYMDEITHAS BHYDDHAD CREFYDD.—…

RHYL.

ENGLYN

[No title]

YR EGLWYS A'R COLEGAU NEWYDD.