Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

----_._-----'---_. DYLEDSWVDD…

News
Cite
Share

DYLEDSWVDD POBL IEUAINC ER FFURFIO CYMERIAD DA YN Y BYD. Oany Parch. J. Jones, curad, Pentrebach, Merthyr Tydfil. Cymeriad da yw un o'r trysorau mwyaf gwerth- fawr a all dyn ei feddianu. Dywed Solomon Fod enw da yn well nag enaint gwerthfawr." Ond pa mor werthfawr bynag y dichon iddo fod nis gellir dyfod yn feddianol arno ar unwaith. Nid un weith- red sydd yn dadblygu cymeriad dyn yn y byd nac un fiwyddyn neu ddwy o'i fywyd chwaith, ac os edrychir arno yn yr ystyr helaethaf gofynir yr holl oes cyn y gellir dywedyd yn gwbl fod dyn wedi dadblygu ei gymeriad. Eto bernir cymeriadau dynion yn gyffredin yn ol y dull a'r modd y byddant wedi ym- ddwyn yn ngwyneb y manteision a'r gwahanol am- gylchiadau a ddaethant i'w cyfarfod. Ac fe ddichon nad oes un adeg mor bwysig yn mywyd dyn er ffurfio oymeriad da a thymor ieuenctyd. Yn yr adeg yma y mae yr ewyllys yn ystwyth, y gydwybod yn dyner, a'r deall yn fywiog, ac y mae esiamplau o bob math o'i flaen ac yntau heb benderfynu pa rai i'w hefelychu na pha gyfeiriad a gymer er ymlwybro trwy y byd, a'r cyferiad y rhoddir y cam oyntaf sydd yn bwysig neillduol, canys os rhoddir y cam oyntaf mewn cyfeiriad anmhriodol bydd hyny yn ar- wain yn naturiol i roddi yr ail yn yr un modd. Dy- wedodd Solomon, y doethaf o ddynion, Hyffordda blentyc yn mhen ei ffordd, a phan heneiddia nid ymedy & hi." Ymdrechwn ninau osod ger eich bron rai hyfforddiadau a ddichon iod yn fuddiol er ffurfio oymeriad da yn y byd. Yr hyfforddiad neu y ddyledswydd gyntaf a nodwn yw, Bod yn eirwir bob amser.—Oherwydd y mae y celwyddog yn gas gan Dduw ac yn ddirmygedig gan ddynion, ac y mae y rhan amlaf pan yn dywedyd celwydd ag un o ddau amcan mewn golwg, naill ai niweidio arall neu esgusodi eu hunan, ac y mae yr hwn a niweidia arall yn yr ystyr yma yn wir arwydd o ddyhirin gwael maleisus a chenfigenllyd, ond os esgusodi ei hun fydd ganddo mewn golwg, arwydda lwfrdra ac euogrwydd, ac y mae y naill ffordd a'r llall yn ddarluniad o ddyn yn gwneyd twyll gyda bwriad i'r twyll hwnw fod yn fantais iddo ef. Yn awr pa mor gelfyddydgar bynag y dichon dyn fod i gario y fath arferiad waradwyddus ymlaen am dymor, bydd y twyll yn sicr o ddod i'r amlwg yn y diwedd, ac nid hawdd y gellir darlunio y dirmyg a'r gwawd a geir mewn canlyniad. O'r funyd hono allan collir pob parch ac ymddiried gan bersonau a chymdeithas, canys y mae pob dyn yn casau y cel- wyddog fel y gelyn gwaethaf; y gwirionedd ei hun yn ei enau a gyll ei urddas, canys bydd bob amser yn cael ei ddrwgdybio ac yn ami iawn ei anghredu. Os digwydd gan hyny i ti, ddyn ieuanc, syrthio yn an- ochelgar i ryw sarhad, na chwenych un amser ei guddio a chelwydd, canys wrth hyny bydd y drwg yn myned yn waeth a'r naill ddrwg yn gwneyd y llall yn fwy anesgusodol, pan y derbyniet faddeuant yn rhwydd am y sarhad hwnw ar y cyntaf trwy gyfadd- efiad gwylaidd a gostyngedig o hono, canys bydd cyfaddefiad o'th eiddo am droseddau bychain yn creu y farn am danat dy fod yn ddieuog o rai fyddo mwy. O'r ochr arall wrth fod yn ofalus i ddweyd y gwir bob amser enillir parch 800 anrhydedd gan bawb o'th gydnabod, ac ymddiried yn yr hyn a ddywedir genyt ar unryw amgylchiad. Gonestrwydd.- Yn gydfynedol & gwirionedd yn yr ymadrodd dylai gonestrwydd fod yn ein holl ym- driniaeth, gan ei fod mor anmhosibl i ddyn anonest fod yn berchen cymeriad da ag yw i ddyn gwallgof neu idiot lywodraethu ei hun a deddfau synwyr cyffredin, gan hyny na oddef i'r chwenychiad lleiaf am feddianu eiddo rhai eraill aros yn dy feddwl am foment. Ac os ymddiriedir eiddo eraill dan dy ofal, edrych dithau ar y cyfryw megis pla rhag cyffwrdd & hwynt i'w defnyddio fel aiddo i ti dy hun gan pa mor fychan a diwerth y dichon iddynt fod yn dy olwg, na chwenych hwynt. Neu os deohreuir yn y gwrthwyneb fe ddichon mai ar y pren dioddef y terfynir, canys wrth gyflawni troseddau bychain, buan y deuir i gyflawni rhai mwy o'r un natur. Neu pe digwyddai i ti fod mor ffodus a diano heb dy gosbi, na'th dwyll na'th hoced dd'od i'r amlwg; er hyny sefait yn hunan-gondemniol wedi'r cwbl, byddai arnat gywilydd ymddiried i ti dy hun euogrwydd cydwybod a fyddai yn ganfyddadwy yn dy edrychiad, a braw rhag i neb Jdwyn i'r goleu dy ddrygioni, lie gall y diniwed a'r gonest edryeh i fyny bob amser, pan gyferfydd a'r mwyaf ymofyngar a drWgdybus ei lygaid, a saif yn ddiofn ac yn ddifraw yn ngwydd Duw a dynion. Dewisiad Cyfeilllo;L.-Megys ac y mae dyn yn greadur cymdeithasgpr, felly y mae rhyw rai yn d'od yn fwy neillduol na'u gilydd i fod yn gyfeillion iddo, ac y mae y fath ddylanwad gan y naill berson ar y llall fel ag y mae o'r pwys mwyaf i bob dyn ieu- anc i edrych yn fanwl pa fath yw cymeriadau ei gyfeillion er iddo ef ffurfio cymeriad da yn y byd, a'i gadw hefyd rhagllaw, canys bydd tueddiadau a chymeriad pob dyn yn sicr o dderbyn argraphiadau yn ei ddewisiad ef o'i gyfeillion fel ag y mae y dwfr wrth redeg dros wahanol feteloedd yn cyfranogi o'u harchwaeth a'u heff eithiolrwycld,lfellyly bydd dyn yn sicr o ddyrchafu neu ddarostwng ei hun i'r un sefyllfa a'r rhai fydd efe yn cyfeillachu a. hwynt a'r hen ddiareb hono yn cael ei gwirio, Pob dyn a adnabyddir wrth ei gyfeillion." Y mae amryw gymeriadau yn mhlith yr ieuenctyd, pa rai y dylid ymgadw oddiwrthynt rhag i'w cyfeillach fod yn fagl i'n dal, a'u harferion fod yn foddion i'n harwain oddiar lwybr rhinwedd a dyrchafiad, ac i'n anghym- wyso ar gyfer unrhyw alwedigaeth fuddiol, ac yn y diwedd cael ein gwrthod gan bob cymdeithas barchus a shyfrifol yn y byd. Gwylia rhag gwneuthur ofer- wyr a meddwon yn gyfeillion i ti, canys nid oes ond tlodi, a dinystr, a gwarth yn sier o gyfarfod y eyfryw yn y pen draw. Nid yw yn ddigonol i ni ymgadw oddiwrth y gwahanol arferiadau drwg a phechadurus ein hunain, ond y mae'n rhaid i ni ymwrthod yn hollol rhag cyfeillachu yn ormodol a'r rhai hyny sydd a'u tueddiadau at y cyfryw arferion oblegid 44 Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da." Ni ddylai bwystfilod yr anialwch fod yn fwy arswydus yn ngolwg y sobr na'r dynion hyny a wnant fwyst- filod o honynt eu hunain trwy ddylanwad y diodydd meddwol. Y mae perygl bob amser yn eu cyfeillach. Ni fydd y rhesymau cryfaf yn ddigonol lawer pryd i ddofi eu cynddaredd a'u gwallgofrwydd pan y bydd eu holl synwyrau wedi eu dyrysu trwy effaith y ddiod gadarn. Dywedir wrthym am wrthwynebu y diafol a bydd iddo ffoi oddiwrthym, ond fe ddichon yn y peth yma fod yn hawddach i ni ffoi oddiwrtho ef na pheri iddo ef ffoi oddiwrthym ni. Nid ydym yn gblygu wrth yr hyn a. ddywedwyd genym na ddylai dynion ieuadnc focf yn rhai cyfeillgar, oblegid y [ cyfeillgarwch yn rhinweddol ymhob dyn ond ym- drechu, hyd eithaf ein gallu, gyfeillachu a'r dynion goreu, ein huwchradd (fel y dywedir), dynion o foesau, dynion o ddysg a'u talentau yn ymddisgleirio, dynion a'u cymeriadau yn meddwl y werin. Wrth gyfeillachu a'r cyfryw ac ymddiddan a hwy ar wahanol adegau, derbyniwn les i ni ein hunain ac adeiladaeth i'n meddyliau. Dywedir mai y ffordd fwyaf naturiol a rhwydd er cyraedd gwybodaeth yw trwy ymddiddan. Bydded gan hyny i ni ddefnyddio ein horiau hamddenol i gyfeillachu ac ymddiddan a'r cyfryw ddynion er diwyllio ein meddyliau, eangu ein gwybodaeth, goleuo ein deall, a dyrchafu ein cymeriad yn y byd canys bydd yn gymaint o bleser ac hyfrydwch ganddynt hwy ein dysgu a'n cyfar- wyddo ag a fydd genym ninau i wrando a derbyn, pryd y derbynir yn ddidrafferth ac yn rhwydd genym yr hyn a gostiodd iddynt hwy drafferth, amser a myfyrdod. A'r wybodaeth a gyrhaeddir yn y dull hwn sydd yn cael ei amgyffred genym oreu, yn well ac yn fwy fel yr eiddom ein hunain, na'r hyn a ddysgir genym mewn ffordd mwy myfyriol. Wrth ymddiddan ac ymresymu y nithir pob athrawiaeth, barn, a dadl oddiwrth us a phob rhyw sothach, ac ni fydd dim yn aros ar ol ond y gronynau euraidd eu hunain. (I'w barhau.)

DALENAU Y GYMDEITHAS AM-DDIFFYNOL.

CBICCIETH.

Advertising