Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
ABERSYCHAN.
ABERSYCHAN. EGLWYS ST. THOMAS.—Ar ddyddiau Sul a Llun, Hydref 26ain a'r 27ain, cynhaliwyd cyfarfodydd di- olchgarwch am y cynhauaf. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn hynod o ddestlus ga,n fonedd- igesau y plwyf. Ar y Sul llatarganwyd y gwasan- aetb gan y ficer, y Parch. W. R. Thomas, M.A., a chafwyd dwy bregeth gan y Parch. J. Stephen Davys, B.A., ficer St. loan, Abertawe. Yn y boreu talodd y Volunteers ymweliad a'r Eglwys a chawsant eu boddloni dros ben gan y bregeth oddiar Exodus xv. 14. Yn yr hwyr dywedir fod tua dau gant o bobl tuallan i'r Eglwys yn methu cael mynedfa i mewn, pan y cawsom ein breintio a, phregeth oddiar St. Matthew vi. 26. Dyma'r waith gyntaf i Mr. Davys ymweled a'r plwyf hwn, a bydd yn dda gan bawb ei glywed yn fuan eto. Nos Lun gwnaeth y Ficer eto lafarganu y gwasanaeth, a chawsom bregeth gany Parch. M. Price Williams, M.A., Prif- athraw Ysgol Ramadegol Pontfaen, a mab y di- weddar fardd, sef y clodwiw Nicander, oddiar 2 Brenhinoedd, iv. 26. Cyfeiriodd yn feistrolgar at waith Ysgol Sul flodeuog y Ile, tuag at ba un y cyf- lwynir yr oil o'r casgliadau pa rai a gyrhaeddasant dros £ 8, ynghyd a C;3 ychwanegol a gyfrenir yn flyn- yddol gan gyfaill i'r Ysgol. Bob Nadolig anrhegir deiliaid teilwng yr Ysgol Sul a llyfrau, yn ol y casgl- iadau a ddarperir, felly eleni ceir gwerth dros ell, yr hyn sydd gysur nid bychan i'r Ficer a'r holl Eg- lwys.—Mab Ieuangaf Tom Pudler.
:..:.==--====-:=-..:::=::::.::.:-=--_.::-===.=::=....-=---=:-.:.:::=::----=::===-.:.=:::=…
:==--====-:=-=:=-- _===.=::=.=-=:=:=::===-=:= MALLWYD. CYFARFOD DIOLCHGARWCH.— Pentref bychan gwledig yn y rhan Oglod lol o Ddyffryn prydferth y Dyfi yw Mallwyd. Mae y lie yn adnabyddus i fwy- afrif darllen wyr y LLAN mi goeliaf, trwy ei gysylltiad a'r anfarwol Dr. John Da,vies, un o gyfieithwyr y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Mae'r hen Ddocfcor dysgedig wedi marvv er's tua dau cant a haner o flynyddau, ond y mae ei anw yn perarogli yn anwyl hyd heddyw. Mae'r Eglwys yn flodeuog iawn yma, ac wedi bod yn llewyrohus am flynydd- oedd, oddiar amser y Parch. Eben. Edwards gynt, ewythr y diweddar Ddeon Bangor. Mae ysbryd Eglwysig cryf ac iachus yn y lie, ac ysgol Sul luosog a blodeuog. Yr oedd y cyfarfod diolchgarwoh diwedd- ar yn arddangoseg o nerth yr Eglwys. Cynhaliwyd hwn nos Fawrth a dydd Mercher, y 4ydd a'r 5ed cyfisol. Er fod y tywydd yn bur anffafriol, cafwyd cynulleidfaoedd lluosog iawn. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch. E. T. Davies, ficer Aberdyfi. Boreu dydd Mercher, am 10.30, y pregethwr oedd y Parch. J. Griffith, periglor Llanymawddwy. Am 2.30, pregethwyd gan y Parch. W. Richards, rheithor Cemmaes, ac am 6.30, gan Ficer Aberdyfi. Digon yw dweyd am y pregethau eu bod yn dda ac yn darawiadol. Yr oedd y canu dan arweiniad Mr. W. Evans, yn ardderchog. Chwareuwyd ar yr organ yn dra meistrolaidd gan Miss Davies, Gwernhefin. Canwyd lluaws o anthemau, ac yn eu plith Gweddi Habaccuc," (ac yr oedd yr awdwr yn bresenol), Mawl a'th erys di yn Sion." Yr oedd y canu drwyddo yn nerthol a chynulleidfaol, ac yr oedd yr atebion (responses) yn Hawn a chyffredinol. Dar- llenwyd y gwasanaethau gan Rheithor Parchus, Mr. Thomas, yr hwn sydd weithiwr cyson, ac yn cael ei fawr hoffi yn yr ardal. Mae'r Eglwys hon yn llewyrchus iawn, ac y mae gwaith da yn cael ei wneyd yma. Tystiai pawb na welwyd yma luosoc- ach cynulleidfaoedd erioed erioed nag eleni. Gwnaed casgliad ar ol y gwasanaethau tuag at y Genhadaeth Gartrefol, a Chymdeithas Ddirwestol Eglwys Loegr yn Esgobaeth Bangor. Llwyddiant i'r hen Eglwys yw clymuniad-Uib o'r Cymunwyr.
PENTYRCH.
PENTYRCH. PRIODAS A BEDYDD.Dydd Llun, y 12fed cyfisol, priodwyd (trwy drwydded) yn Eglwys y plwyf, gan y Parch. Wm. Christopher (brawd y priodasfab), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Theophilus Rees, rheithor Pentyrch Mr. David Christopher, Saer Maen, a blaenor gyda'r Annibynwyr, a Miss Eleanor Symonds, aelod parchus gyda'r Bedyddwyr. Wedi gorphen y seremoni sanctaidd, aethom oil tua Chastell y Mynach, lie yr oedd boreufwyd blasus wedi ei barotoi ar ein cyfer, drwy haelioni Mr. a Mrs. Evan John, y rhai sydd hefyd yn aelodau o'r eglwys, a'r priodfab. Wedi gwneyd cyfiawnder a'r danteithion, ac yfed iechyd da y plr ieuanc, a syllu ar ryfeddodau ystafelloedd a muriau henafol y Castell, hysbyswyd ni fod dau o blant teulu parchus y Castellj i'w bedyddio yn ol trefn fendigedig hen Eglwys eu tadau. Gweinyddwyd y Sacrament yn ngwydd y cwmni priodasol, gan y Parch Theophilus Bees. O'r anwyl," meddai rhywun, sut y bydd hi ar y blaenor hwn, druan, da chwi, na chyhoedd- weh hyn yn Gath;" ond credwn, gyfeillion, y gorchfyga y Dafydd hwn Saul a Goliath ei wersyll heb eu lladd. Hir oes a phob llwyddiant i'r par ieuanc, ac i deulu caredig y Castell yw dymuniad oalon-Gilaswg.
,',PORTHMADOG.
PORTHMADOG. FICER NEWYDD YNYSCYNHAIARN.—YN ol yr hen drefn, yr oedd bywoliaeth Criccieth yn cynwys capelaeth Ynyscynhaiarn a Threflys ond ar farw- olaeth y rectoadiweddaf (y Parch. C. Parry), gwel- odd yr esgob yn dda wneyd plwyf Ynyscynhaiarn yn fywoliaeth ar ei phen ei hun, yr hwn blwyf sydd bellach yn cynwys dros 4000 o drigolion, ac ynddo bedwar o leoedd addoliad Eglwysig. Eglwys St. Cynhaiarn, yn Ynys Eifionydd, ger Pentrefelin.yw Eglwys y Plwyf. Hefyd, y mae chapel of ease yn Tremadog wedi ei fwriadu at wasanaeth y dref, a school chapel yn Pentrefelin; ac at hyn y mae Eg- lwys helaeth St. John's, Porthmadog, yr hon sydd yn dra blodeuog. Ei churad presenol er's tua dwy flynedd ydoedd y Parch. David Ll. Jones, yr hwn a apwyntiwyd yn awr gan yr Esgob yn ficer y plwyf. Nos Wener, y 14eg o'r mis hwn, cynhaliwyd gwas- anaeth corawl yn yr Eglwys hono mewn cysylltiad A'i sefydliad yn y fywoliaeth. Darllenwyd y gwas- anaeth yn Gymraeg a Saesneg gan y Parch. Mr. Richards, curad, Caernarfon; y llithoedd gan y Parch. 0. Jones, Llanfair, a'r Parch. D. Morgan, Penrhyn. Yn y dechreu, canwyd y processional hymn, a'r esgob, y deon, ac wyth o glerigwyr yn gor- ymdeithio o'r festri ar hyd yr aisle i'r gangell. Can- wyd emyn yn Gymraeg; yna anerchodd y Tra Pharchedig Ddeon Bangor y gynulleidfa yn Gym- raeg ar Natur Eglwys, awdurdod ei gweinidogion, eu hurddiad a'u hapwyntiad i'w swyddi ac i'w Ileoedd llafur," gan ddangos anysgrythyroldeb urdd- iadau lleygol drwy etholiad cynulleidfa, y rhai nad oedd ganddynt y gallu na'r awdurdod i hyny; ac ar ol canu emyn, anerchodd yr Arglwydd Esgob hwynt yn Saesneg yn ddifrifol a phwysig er dangos cym- hwysder, swydd a llafur gweinidog, a'i gysylltiad a phobl ei ofal, &c. Yna canwyd y recessional hymn, a'r clerigwyr oil yn eu gwisgoedd, yn cael eu blaenori gan yr esgob a'r deon, yn gorymdeithio yn ol i'r festri. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn, y canu yn rhagorol, a'r chantio yn fywiog a sociarus dan lyw- yddiaeth Mr. Piercy Thomas, i'r hwn y mae llawer o glod yn ddyledus. Cyflwynwyd deiseb i'r esgob wedi ei harwyddo gan agos i gant o drigolion Tre- madog, yn erfyn am gael gwasanaeth Cymraeg ar y Sfaliau yn y lie. Dranoeth, aeth y ficer newydd ac yohydig o'i gyfeillion i Eglwys y Plwyf i gymeryd meddiant o'i swyddogaeth.—Oohebydd.
ABERAFON.
ABERAFON. DYRCHAFIAD EGLWYSIG.-Dywedir fod y Parch. Daniel Lewis, ficer Aberafon, wedi cael cynyg ar ficeriaeth Nantyglo, sir Fynwy, gan Arglwydd Esgob Llandaf. Gwerth y fywioliaeth ydyw £300 a ty hardd.
DOLBENMAEN.
DOLBENMAEN. Cynhaliwyd Cyfarfod Deoniaethol yn ddiweddar yn Mheriglordy Dolbenmaen. Daeth nifer luosog o offeiriaid Eifionydd ynghyd, a chafwyd cyfarfod gwresog a dyddorol. Gosodwyd amryw gylch- lythyrau o fiaen y cyfarfod, yn dwyn eysylltiad a, phynciau Eglwysig. Bu gwahanol faterion dan sylw, ao yn mhlith pethau eraill darllenwyd papyr defn- yddiol iawn gan y Parch. R. Williams, Beddgelert, as Genadaethau." Agorwyd a therfynwyd y cyfarfod mewn dull rheolaidd gan y Deon Gwladol.
I ST. MICHAEL, TONGWYNLAIS.I
ST. MICHAEL, TONGWYNLAIS. DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.—Nos F archer, y 12fed cyfisol, cawsom y fraint o glywed y Parch. J. II. Protheroe, M.A., Pontfaen, yn yr Eglwys uchod. Pregethodd oddiar y geiriau, "Coroni yr ydwyt y flwyddyn a'th ddaioni." Yr oedd y meddylddrychau yn swynol iawn, a'r cymwysiadau yn darawiadol dros ben, a siaradai wrth ei gynulleidfa gyda difrifoldeb gwirioneddol. Yr oedd yr adeilad pryd- ferth yn orlawn o wrandawyr astud, ac awgrymai yr addurniad rhagorol oedd arno fod gardd flodau Hervey yn rhywle yn ardal y Ton. Yr oedd y canu yn wir deilwng o'i arweinydd medrus, Mr. Gwilym Morgan, R.A.M. Yr anthem oedd, "0 Lord, how manifold are Thy works (J. Bamby). Chwareuwyd yr offeryn gan Mr. E. J. Evans. Casglwyd £3 tuag at gronfa'r Eglwys. Yr oedd pobl Tongwynlais yn erfyn ac yn gobeithio cael dau gyfarfod eleni yn lie un, ond siomwyd hwynt yn ddirfawr yn eu disgwyl- iadau pan glywsant fod un yn well ar eu lies, ac mai un oedd i fod. Gwawried y boreu pan y byddo i'w Arglwyddiaeth o Landaf ddyfod yn ei awdurdod daublyg a symud y rhwystrau bychain hyn. Cyn terfynu dylasem hysbysu darllenwyr hawddgar a llawen y LLAN fod yr Eglwys hon ar wahan oddi- wrth Eglwys y plwyf; o ganlyniad, nid oes gan gurad parohus a diwyd y lie ddim hawl hyd yn nod ar ddefaid ty ei hun, ond gorphwysa yr awenau yn hollol yn nwylaw offeiriad y plwyf.—Gilaswg.
PONTARDAWE.
PONTARDAWE. Cynhaliwyd cyfarfod mewn rhan yn gystadleuol a chyngherddol yn Ysgoldy y lie uchod nos Iau, y 13eg cyfisol, gan ao er budd Ysgol Sul Eglwys St. Pedr, o dan reolaeth a nawddogaeth y Parch. D. Jones, B.D., ficer; Parch. T. E. Davies, B.A., curad; Dr. G. Griffith; a Mrs. Kirkhouse, Collegiate School. Llanwyd y gadair gan y Ficer parchus yn deilwng o ganmoliaeth uchel y gwyddfodolion. Clorianwyd yr adroddiadau, &c., gan y Doctor i'r blewyn. Mae y Doctor nid yn unig yn wr o glod yn ei alwedigaech, eithr yn hynod enwog fel arweinydd eisteddfodau, cyngherddau, a darlithiau, &c. Mae yn gerddor a Chymro da, ac fel ffraethebydd nid oes llawer o'i well. Clorianwyd y canu gan Mr. W. Williams, nid yn unig er boddlonrwydd y gwrandawyr. eithr er boddlonrwydd hyd yn nod y canwyr eu hunain. Gwnaeth y Mri. B. Davies, R. H. Williams, a G. Evans, dipyn o'u hoi ar y gwobrau, ond Mr. T. Jenkins, Tailor a Draper, aeth a, hi gyda'r canu cyngherddol, a hyny o ddigon. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Miss Evans, Gravel Bank, a Mr. W. Lewis, yr organydd. Hefyd chwareuwyd ar y ber- doneg gan Misses Kirkhouse, Biss, Evans, Morris, Chapman, a Smith, yr oil yn ddysgyblionMrs. Kirk- house. Y mae Mrs. Kirkhouse yn hynod enwog fel athrawes y boneddigesau. Y mae. clod nid bychan yn ddyledus i'r Parch. T. "fit Davies, y curad, am ei ofal o'r Ysgol Sul, ac yn neillduol am drefnu a llywodr- eethu y cyfarfod dan sylw mor ganmoladwy. Yr ydym, am i ni fethu cael y cyfleusdra nos y cyfarfod, yn dymuno talu diolohgarwch uchel iddo drwy gyf- rwng y LLAN A'R DYWYSOG AETH am ei lafur, ae i'n parchus Ficer, a'r Dr. Griffith, a Mr. Williams, am eu llafur a'u gwasanaeth mawr hwythau i'r cyfar- fod.-J.E.
VERWIG.
VERWIG. Cynhaliwyd gwyl o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn yr Eglwys uchod. Saif y lie hwn oddeutu tair milldir o Aberteifi. Pregethodd y Parch. Alban Alban, Bridell. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. M. Williams, Aberteifi. Yr oedd y lie yn orlawn o bobl. Ailfedyddwyr yw y mwyafrif yn y plwyf hwn. Da oedd genym weled rhai wedi dyfod yn deuluoedd cyfain, gan gloi y drws ar eu hoi gar- tref, i dalu teyrnged o ddiolchgarwch i Dduw. Er mai lie anghysbell yw y Ferwig, mae ync rai pobl oleuedig yn mhlith yr Ailfedyddwyr, wedi gweled digon o'r byd, a dyrchafu i'r fath raddau uwchlaw cibddallrwydd sectyddol fel ag i weled yn llawer pellach na'u brodyr enwadol. Pan dynwyd deiseb yn erbyn y Dadgysylltiad cymerodd dau fiaenor o'r capel yn y lie y gwaith o gasglu enwau drosto. Paham, ebe rhywun? Am eu bod yn g.veled y byddai yn golled arianol i'r plwyf, ac am eu bod yn ddigon annibynol mewn safon bydol i ymddwyn yn gydwybodol a'u barn. "Pa brawf," ebe un o'r plwyf hwn, wrth Liberationist, ydych yn roddi y cawn ni yn ol hyd yn nod y dreth sydd yn deilliaw oddiwrth y degwm trwy y dadwaddoliad ? Y mae t240 o ddegwm ar y Verwig. Telir oddeutu £ 60 o dreth arno. Ceisir bwrw y £ 240 i bwrs y Llywodraeth. Bydd y gost i'w gosod yn y pwrs yn fawr-tair rhan o bedair, ebe Gladstone, felly ni bydd ond L260 yn ngweddill. Pa. brawf y ca y Verwig YY,60 yn ol 1" Ni chafwyd atebiad i'r gofyniad. Yn ol pob tebyg- olrwydd ca y ffermwr dalu y dreth sydd ar y degwm ynghyd a'r degwm, os cymer y Dadgysylltiad le. Nid yw effaith y Commutation Act, a'r Board School wedi gwella'r fargen, a llawer o gyfnewidiadau eraill rhy faith i'w henwi. Gobeithio na bydd i'r un offeiriad esgeuluso goleuo ei hun a'i blwyfolion ar bwno y degwm. Mae goleuni yh y plwyf uchod wedi difiodd tin angerddol.
__--------------____-__-__----------_____n____------------CAERNARFON.
_n_ CAERNARFON. Y ("YNGOR TREFOL.—Nos Fawrth, o dan lyw- yddiaeth yr Henadur Lewis, y i-uaer.-Wrth ystyried y cyfrifon oedd i'w talu, gohiriwyd t'alu tail' gini am ysgrifenu cofeb i'r S svyddfa Addysg yn ffafr Caernarfon fel lie i sefydlu Coleg Gogledd Cymru ynddo.—Hysbyswyd fod un o'r gaso- meters yn y gwaith nwy mewn cyflwr anfoddhaol, ond ei fod yn cael ei adgyweirio.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Jackson, clerc ymddiriedol- wyr y porthladd, yn galw sylw y Cyngor at y swm o fudreddi a ymgasglai i'r doc newydd, o bibellau y carthffosydd, ac hefyd o afon Cadnant. Dy- wedodd arolygydd budreddi iddo ef a Dr. Rees wneyd ymchwiliad yn y lie amryw weithiau, ac nas gallent hwy ganfod fod budreddi yn myned i'r doc felly. Awgrymodd Mr. Rees ar fod i'r arol- ygydd gyfarfod Mr. Jackson yn y lie a gwneyd archwiliad arall. Credai Mr. J. R. Pritchard y dylai y cyngor alw sylw yr ymddiredolwyr at gyflwr tra anfoddhaol a budr y doc. Yr oedd yn nuisance perffaith ar hyn o bryd. Gorchymyn- wyd mabwysiadu awgrymiad Mr. Rees.—Credai y pwyllgor a benodwyd i ystyried y mater na ddylid ar un cyfrif fyned i'r gost o gael Act Seneddol er gosod pibellau y gwaith dwfr yn uwch i fyny'r afon, ond y dylid dyfod i gytundeb, trwy ganolwr profiadol, a pherchenogion eiddo gyda glanau yr afon o barth i'r swm a hawlid ganddynt am ganiatau i'r cyngor roddi y pibellau yn uwch i fyny.—Cynygiwyd ar fod i berson cymwys a galluog i ffurfio barn ar y mater gael ei benodi i barotoi adroddiad ar y dull goreu i wella y drwg hwn. Cydsyniwyd a hyn.—Penderfynwyd gwneyd treth o 113. 2c. y bunt, yr hyn a fydd yn ddigon am saith mis.—Cydsyniwyd a chais cwmni y rheilffordd gul ar fod iddynt geisio hawl gan y Senedd i'r cyngor trefol eu cynorthwyo hwy i adeiladu pont ar draws yr harbwr.—Dywedodd y maer i ddirprwyaeth ymweled a'r Henadur W. Watkin Roberts i ofyn iddo gydsynio i dynu yn 01 ei ymddiswyddiad, ac i'r boneddwr hwnw gyd- synio, ond ar yr amod eu bod i benodi person cymwys fel arolygydd budreddi, yr hwn a roddai ei holl amser i'r dyledswyddau hyny. Efe ydoedd cadeirydd y pwyllgor iechydol, a theimlai nad oedd pethau yn cael eu cario yn mlaen fel y credai ef y dylent. Dymunai yn fawr i swyddog iechydol arbenig gael ei benodi i edrych ar ol y dref, oherwydd bod gan yr arolygydd presenol, yr hwn sydd hefyd yn surveyor, ormod o waith i'w
,wneyd.--DINBYCH.
wneyd. DINBYCH. Yn yr heddlys sirol ddydd Mercher diweddaf, cy- huddwyd Thomas Williams, heddgeidwad, Llan- dyrnog, o ladrata moron (carrots) o gae perthynol i Mr. Thomas Williams, Ty'n y caeau, ger y pentref hwnw. Dros yr erlyniad ymddangosai Mr. William Davies, cyfreithiwr, Treffynon; a Mr. Louis, Rhuthyn, dros y diffynydd. Nos Sadwrn, Hydref 4ydd, rhwng deg ac un ar ddeg o'r gloch, yr honid fod y lladrad wedi ei gyflawni. Tystiai yr achwyn- ydd fod y diffynydd wedi dyfod ato y prydnawn Sul calynol, gan ddywedyd iddo fod yn y cae, a chymeryd chwech o foron o hono, ac mai Mrs. Williams (gwraig yr erlynydd), a roddasai ganiatad iddo, yr hyn a wadai hi mewn modd pendant. Tystiocld dau gariad iddynt hwythau ei weled yn y cae; a dau ddyn eu bod hwy wedi ei weled a'r moron ganddo. John Barnard, ceidwad helwriaeth, ar y llaw arall,- a ddywedodd ei fod ef gyda'r swyddog, ac iddo fyned i'r cae, a methu cael rhai, ac mai myned am ei fod wedi cael caniatad a wnaeth- ai. Taflwyd y oyhuddiad allan fel un heb oi brofi.
ABERTEIFI.
ABERTEIFI. Etholwyd R. D. Jenkins, Ysw., yn Faer am y flwyddyn ddyfodol. Mae ef yn Geidwadwr ac yn Eglwyswr, ac wedi llanw y swydd bwysig hon amrwy weithiau o'r blaen. LLYTHYRAU CANMOHAETH. Anfonasom am y trysor gwerthfawr hwn mor gynted ag y gwelsom gyhoeddiad o hono yn y LLAN trwy sylwadau Canon Williams. Gosodwyd ef mewn frame brydferth yn mhorth yr Eglwys, ac y mae yn ateb ei ddiben i'r dim. Un o brif fanteision yr Eglwys ar yr enwadau yw ei bod ymhob cymydogaeth trwy Gymru a Lloegr, a miloedd o fanau eraill. Ac un gwarth neillduol yn gorphwys wrth ei drws yn ei hesgeulusdra yn peidio gwerthfawrogi y fraint hon, trwy ofalu rhoddi llythyr oanmoliaeth i bersonau yn symud o un gymydogaeth i'r llall, neu o wlad i dref. Ein cred yw fod gormodjo duedd i gychwyn pethau hewydd, a thrwy hyny wrth gadw swn er mwyn enw, ddych- rynu'r praidd rhag d'od i'r gorlan. Er engraifft, mae lie i ofni y dychryna swn y morthwylion yn ceisio adeiladu hostels wrth golegau y Llywodraeth lawer un, ac y dihuna bob Ymneillduwr i waith cyfielyb i'r Samariaid gynt yn rhwystro adeiladwyr y deml.
PENTIR, BANGOR.
PENTIR, BANGOR. HANES Y CnIRY.-Nos Sadwrn diweddaf, yn Ysgoldy y Bwrdd, traddodwyd darlith alluog ar y testyn uchod gan y curad llafurus, y Parch. W. Owen. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn o bobl, a Mr. Owen yn ei hwyliau goreu. Yn wir yr oeddym wedi ein synu yn ddirfawr gan faint ei ddawn a'i fedrus- rwydd yn ymdrin a'r pwnc. Cynorthwywyd ef yn gerddorol gan gwmni o Eglwys St. Ann's, sef Miss Roberts, Hirdir; Miss Roberts, Craiglwyd; Miss Davies, Bryneglwys, a'r Mri. D. Jones, D. Thomas, R. Griffith (Eos Elidir), a John Griffith (Tenorydd Eryri). Llywyddwyd gan y Dr. Hughes, Bethesda. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo yr Eglwys- wr ffyddlon Mr. Richard Jones, y Mynydd, yn ei gystudd blin a maith. Caed elw pur dda.— Gohebydd.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. CYFLWYNIAD TYSTBB.—Dydd Mawrth diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod yn Neuadd y Sir i'r diben o gyflwyno tysteb o £ 70 i'r Tra Pharchedig Ddeon Lewis, M.A., yr hwn fu yn beriglor y plwyf hwn am 18 mlynedd. Llywyddid gan y Parch. W. Williams, B.A., y periglor presenol. Gresyn na fuasai y cylch yn eangach, fel ag i roddi mantais i rai o ewyllyswyr da y Deon mewn lleoedd eraill gael cyfranu ati. Haedda y Deon dysteb deilwng, gan ei fod wedi bod yn hynod ffyddlon tra y bu yn ein plith, ac yr oedd ei lafur ynglf n a gwinllan ei Arglwydd yn ddiarhebcl. —Emwnt. V
-------__------------_-----CORWEN.
CORWEN. Y mae genym yr wythnos hon y gorchwyl gofidua o hysbysu marwolaeth y Parch. J. Morris Jones, B.A., curad Corwen, yr hyn a gymerodd lie yn lied ddisymwth ac annisgwyliadwy prydnawn ddydd Mawrth cyn y diweddaf, pan nad oedd ond 37 mlwydd oed. Diangenrhaid yw dweyd fod galar a thristweh wedi ymdaenu drwy'r dref a'r amgyloh- oedd. Mab ydoedd i Mr. Lewis Jones, Mynachdy'r Graig, Llanfaran, sir Aberteifi. Aeth trwy gwrs o efrydiaeth yn Ngholeg St. David's, Llanbedr. Yr oedd yn Bates' Prizeman, Hebrew and Welsh Scholar, ac yn Senior Scholar. Y mae hyn ar un- waith yn dangos fod yr ymadawedig yn ddyn o allu- oedd uwchlaw y cyffredin. Cafodd ei ordeinio gan Esgob Llanelwy, yn y flwyddyn 1874, a'r un flwyddyn apwyntiwyd ef yn gurad Llanfwrog, ger Rhuthyn, lie y bu yn gweinidogaethu am oddeutu pedair blynedd. Daeth i Gorwen yn 1878, lie y bu yn ffyddlon i'w alwedigaeth, ac yr enillodd iddo ei hun nifer lluosog o edmygwyr, nid yn unig yn mhlith aelodau yr Eglwys Sefydledig, ond hefyd yn mhlith holl Ymneillduwyr y dref. Yr oedd yn barod wastad i wneyd yr hyn a allgi-ac nid ychydig oedd hyny- mewn cysylltiad ag unrhyw symudiad daionus. Mentrwn ddweyd nad oedd yr un o weinidogion ereill y dref, wedi enill mwy, os cymaint, o serch y bobl ieuanc ag efe. Fe deimla dyeithnaid, efallai, ein bod yn myned yn rhy bell drwy ddweyd hyn, ond yr ydym yn sicr y tystia pob gwr ieuanc yn y dref ag oedd wedi cael cyfleusdra i ddyfod i unrhyw gyff- yrddiad a, Mr. Jones, nad ydym wedi dweyd gormod, le yn wir, ddigon. Yr oedd yn ddirwestwr selog, yn gerddor galluog, ac yn oymeryd dyddordeb anarferol yn y Cor Undebol pan yn ymbarotoi gogyfer a'r gwahanol gystadleuaethau. Hyd yn hyn nid ydym ond wedi prin crybwyll y rhan fyddai yn ei gymeryd mewn cysylltiad a, phethau y dref yn gyffredinol. Diffyg lie a'n lluddias ni i ddweyd haner yr hyn fuasem yn ei ddymuno. Mewn cysylltiad mwy uniongyrchol a'r Eglwys Sefydledig, daeth ei allu- oedd fel cerddor i ymarferiad. Yr oedd nid yn unig yn rhoddi pob cefnogaeth trwy ei bresenoldbb ymhob cyfarfod canu, ond hefyd yn cynorthwyo ar- weinydd y gan gyda zel ac ymdrech dirfawr. Wrth fyned heibio y mae arnom chwant i ofyn, nid yn unig i holl weinidogion y dref, ond hefyd i bobl gyfrifol ein cynulleidfaoedd ddilyn ei esiampl yn y cyfeiriad hwn. Y mae yn anhebgorol angenrheidiol er llwydd- iant caniadaeth y cysegr ar fod iddynt roddi eu presenoldeb hyd y bydd yn bosibl ymhob cyfarfod canu; ie, hyd y nod pe byddent yn amddifad o'r ddawn gerddorol. Tystiolaeth gyffredinol ei wran- dawyr yw, ei fod yn bregethwr rhagorol iawn,—yn onwedig yn Gymraeg,—ac y bydd ganddynt golled fawr ar ei ol. Yr oedd yn wr o gorffolaeth gyflawn, —yn gryf a heinyf,—ac anhawdd yw sylweddoli ei fod "wedi myned i ffordd yr holl ddaear." "Y cadarn a syrthiodd, mae bwlch yn y mur." Dydd Iau hebryngwyd ei weddillion gan luaws mawr o'i gyfeilltion tua'r orsaf, i'w gludo gyda'r tren i Aber- ystwyth. Cyn cychwyn oddiwrth y ty aeth y Parch. Canon Richardson i weddi, yna canwyd y penill,— Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," ar y don Diniweidrwydd." Yr oedd yr arch wedi ei gorchuddio a blodau wedi eu gwneyd yn xoreaths. Nid ydym yn meddwl i ni erioed weled y fath ddwys- der teimlad, a hyny mor gyffredinol, ag oedd yn cael ei arddangos ar y ffordd o'r ty i'r orsaf. Aeth Mr. J. Davies, National School; W. Jones, chemist; W. Humphreys, Queen's, a Pattinson (Church Warden), The Cottage, gyda'r tren i Aberystwyth, ac oddiyno i Llanddeinioljlle y rhoed gweddillion ein hanwyl gyfaill yn mhriddellau'r dyffryn, i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwnaed cyfeiriadau at ei far- wolaeth ar hyd y Sul diweddaf o pwlpud yr Eglwys. Yn y boreu pregethodd y Parch Mr. Brown, Bodfari, oddiar Psalm xc. 6. Yn y prydnawn pregethodd y Parch Stanhope Penny oddiar Psalm xxiii. 4., ac yn yr hwyr gan y Parch Mr. Brown oddiar Zech. xi. 2., a gallwn dystiolaethu na welid yr un Sul a chymaint o ddwysder teimlad yn perthyn iddo ers blynyddoodd lawer yn Nghorwen. Nawdd Duw fyddo dros ei berthynasau, a bydded iddo Ef eu nerthu dan y brofedigaath sydd wedi eu goddiweddyd. Galarwr.
ABERDAR.
ABERDAR. DAMWAIN ANC-Euoi,Borou dydd Sadwrn di- weddaf, am haner awr wedi naw o'r gloch, cymerodd damwain ofidus iawn le yn nglofa Ysguborwen, pryd y cyfarfyddodd dyn o'r enw Cornelius Cronin, oddeutu 78 mlwydd oed, ac yn byw yn Phillip-street, Robertstown, a'i ddiwedd trwy i nifer o trams gwag ei daro ar ei ben.—E. W.
PERIGLORIAETH ABERTAWE.
PERIGLORIAETH ABERTAWE. Hysbysir bod noddwyr Eglwys y plwyf, Abertawe, yr hon sydd yn wag drwy ddyrchafiad Dr. Morgan i Leamington, wedi penodi Canon Smith, yn olynydd iddo. Gan mai Sais yw Canon Smith y mae Esgob Ty Ddewi yn petruso gyda golwg ar ei benodiad; ac y mae wedi penderfynu na dderbynia efe Canon Smith oni bydd iddo addaw adeiladu dwy Eglwys i'r Cymry yn mhen uchaf y plwyf.
PEN-Y-CAE, CWMTAWE.
PEN-Y-CAE, CWMTAWE. Erbyn hyn mae report yr arholiad a gynhaliwyd yn yr ysgol uchod wedi dyfod i law. Nid yw y newydd mor ddymunol ac y dymunwn iddo fod. Cwynir nad ydyw y plant wedi mynychu yr ysgol yn ddigon cyson yn ystod y flwyddyn. Dim rhyfedd gan hyny mai £ 22 a gafwyd o grant. Cynghoraf rieni y plant i ddiwygio, a gwneuthur mwy o ym- drech i anfon eu plant i'r ysol.-Beta.
CWMAFON.
CWMAFON. Dydd Sul, Tachwedd 16eg, bu y Parch. J. Bowen, M.A., T.C.D., curad St. Margaret, Blackwool, sir Fynwy, yn pregethu yn y boreu a'r hwyr yn Eglwys yr Holl Saint. Dydd Sul diweddaf bu y Parch. John Griffiths yn pregethu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
EISTEDDFOD GERDDOROL ABERTAWE.
EISTEDDFOD GERDDOROL ABERTAWE. Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Abertawe yr wythnos diweddaf, dyfarnodd Dr. Parry a Mr. Evans, Aberdar, mai y cor buddugol ar ddad- ganu Worthy is the Lamb" a'r "Amen Chorus" ydoedd un o Gastellnedd. Pan wnaed y dyfarniad yn hysbys, cythruddwyd y gwrandawyr yn ddirfawr, gan mai y farn cyffredinol oedd mai cor Dowlais ddylasai gael y wobr. Er mwyn rhoddi terfyn ar yr ymgecraeth rhwng y gwahanol gorau, ymae pwyllgor yr Eistedd- fod wedi cynyg jo50 eto am ddadganu yr un darnau ag o'r blaen, gan y corau fu yn cystadlu yr v/ythnoa ddiweddaf.