Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
PRIFYSGOL CAERDYDD A DYLEDSWYDD…
(Niil ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) PRIFYSGOL CAERDYDD A DYLEDSWYDD YR EGLWYS SEFYDLEDIG. At Olygydd Y Llan." Syr,-Nid wyf yn rhyfeddu at eiddigedd y Proffeswr Owen dros ei goleg, neu os myn, dros ei Goleg Prifysgolaidd." Ar yr un pryd rhaid addef fod y fath frawddeg a'r un a ganlyn yn peri syndodnidbyehan: Nis gellid dyfeisio," medd efe, dim mwy tebyg i barhau a chryfhau ein hymraniadau crefyddol annedwydd na chynllun trwy ba un y gwahenir yn gyhoeddus efrydwyr eoleg yn ol eu barn grefyddol ac y sicrheir iddynt hyd yn nod fwyta ao yfed yn ol eu credo." Wele dir ei ymresymiadau yn erbyn aefydlu Hostel Bglwysig ynglyn a Phrifysgol Caerdydd Pan fo gwr Eglwyeig yn gwrthwynebu symudiad mor glodwiw ar dir mor annheilwmg, rhaid fod ei achos yn dra gwan. Ymddengys, yn ol y frawddeg a ddifynwyd, fod y Proffeswr o'r farn mae y ffordd oreu i wella ymraniadau crefyddol yw i Eglwys- wyr wneyd ymdrech i ddifodi crefydd. Gyda golwg ar yr achwyniad y byddai Hostels yn gwahanu yn gyhoeddus efrydwyr coleg yn ol eu barn grefyddol," mae hyn yn hanfodol tra bo ffydd Crist yn llewyrch—" llewyrched eich goleuni ger- bron dynion "—" nid yw neb, wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lie dirgel na than lestr, eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni." Diben Hostel Eglwysig yw gosod goleu yr Eglwys ar ganhwyllbren yn lie bod goleuni ffydd yn guddiedig dan lestr y drefn ddi- grefydd. Mae yr achwyniad, yn mhellach, yn profi anghysondeb dirfawr. Onid yw Llanbedr yn addef, hyd yn nod yn ymffrostgar, y fraint a geir yno gan ddigred a chredadyn trwy "adran cydwybod?" Gwyr pawb fod yr adran hono yn gwahanu'n gyhoeddus efrydwyr y coleg yn ol eu barn gref- yddol." Oes yna eiddigedd, o ganlyniad, yn Llanbedr rhwng efrydwyr a'u gilydd ? Oa nad oes, paham yr enyn Hostel" eiddigedd enwadol yn Nghaerdydd ? Os yw Ymneillduwr yn Llan- bedr yn rhydd i ddiogelu ei gydwybod rhag pob dylanwad Eglwysig,—os yw yr Undodwr a'r diffydd yn rhydd yn Llanbedr i ddiogelu ei hunan rhag pob dylanwad crefyddol,—onid eyfiawn a theg yw i blant Eglwyswyr a phob un arall a fyno gael eyfle yn Nghaerdydd i fwynhau breintiau erefyddol Hostel ? Os amgen, mwy yw rhyddid y diffydd yn Llanbedr nac eiddo'r Eglwyswr yn Nghaerdydd. Tra yn gwrthwynebu Hostels crefyddol, barn y Proffeswr yw y buasai Hostels anenwadol sefydledig gan Gynghor y Coleg" yn bethau dymunol. Nid digon, mae'n debyg, cael addysg di-grefydd yn y Lecture-rooms; mynwch yn mhellach gartref a chymdeithas ddigrefydd yn yr Hostels. Byddai Hostel anenwadol" yn gartref di-weddi, di-Feibl, di-gred, a di foes, Try pob ffag-ymresymiad, a lunir yn erbyn Hostel Eg- lwysig, ar gamsyniad ynghylch dyledswydd yr Eglwys Sefydledig. Nid fel sect fechan, yn orlawn o zel plaid a hawliau sectol, y dylai yr Eglwys ym- egnio. Os myn Eglwyswyr mai sect yw hi, nid yw ei chyfrifoldeb yn cyrhaedd yn mhellach na therfynau sect. Un yw hi ymhlith rhif o fin en- wadau; nid gwiw iddi ymffrostio mwy yn yr enwau aruchel "Eglwys Gatholig" a setydliad eenhedlaethol." Ymddengys gwaith crefyddol Cymru i'r Proffeswr yn fath o frwydr enwadol. Dylid aberthu pob rhwymau cyfrifoldeb, hyd yn nod er gwaethaf orefydd a moes, er mwyn sect. Os un o'r mgn enwadau yw'r Eglwys, mae ei gweinidogion yn pechu yn erbyn deddf undeb pan adeiledir Eglwys mewn man sydd eisoes yn llawn capeli Ymneillduol. Mae egwyddor y Proffeswr, mewn perthynas i eiddigedd enwadol," yn eg. wyddor beryglus. Os nad oes galwad ar yr Eglwys Wladol i wneyd ymdrech i lenwi'r gwagle cref- yddol yn Nghaerdydd, nid oes galwad arni i wneyd ymdrech ar gyfer y miloedd sydd heb freintiau crefyddol o un math mewn ardaloedd poblog. Gadewch iddynt gydfyw a chymdeith- asau yn hollol ddigrefydd. Trwy hyny derfydd am eiddigedd enwadol." Dyma effaith a chanlyn. iadau yr egwyddor a fabwysiadwyd gan y Proffeswr. Pendraw ei wrthwynebiad i'r Hostel grefyddol yw 08 mynwch ddifodi eiddigedd en- wadol, difodwch grefydd a chred." Yr wyf yn gynu at y Proffeswr yn cymeryd bwyta ao yfed yn ol eu credo" yn nod gwatwareg. Pe buasai Secularist penrhydd yn gwneyd hyny ni fuasai'r peth yn achosi syndod. Ond mae'n rhyfedd genyf fod gwr Eglwysig wedi gollwng yn anghof yr hen air Pa un bynag ai bwyta ai yfed, ai beth bynag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.Yr eiddoch yn gywir, AWDWR nt ERTHYGL. O.Y.—Oni wnelai un o Ganoniaid Eglwys Gadeiriol Llandaf lywydd rhagorol ar yr Hostel f
DIOLCHGARWCH CYFFREDINOL.
DIOLCHGARWCH CYFFREDINOL. At Lleygwr. Syr,—Yr wyf yn cymeradwyo yn fawr ym- ddygiad "Lleygwr" am galw am eglurhad o wahanol ddulliau ar gario allan wasanaeth ar- dderchog yr Eglwys, a hyderaf y bydd iddo gael ei foddhau, neu o leiaf gael rhyw gymaint o eglur- had ar yr hyn yr ymofyna am dano yn un o'ch rhifynau diweddaf. Bydd ymdrafod o'r fath yn llawer mwy buddiol ac adeiliadol i Eglwyswyr sonest na'r peth wmbreth o'r seboni a'r ffol m fynycb ar dudalenati papyrati aawyaaioo. Ond fydd i ni yn bresenol ond prin grybwyll y pwnc, ac ymhelaethwn mewn rhifyn dyfodol. Mae'n ymddangos fod Lleygwr," nid yn unig yn gofyp am eglurhad, ond hefyd yn rhoddi ei farn ef ei hun i mewn. A phaham," meddai, y naill heb y llall." Wel, rhydd i bawb ei farn, a phob barn ei llafar." Ymddengys i mi nad oes dim mwy o berthynaa rhwng y gair "Gyffredin" o flaen y Gyffes, a'r gair Cyffredin" o flaen y Diolchgar- wch Cyffredinol, nac y sydd rhwng yr un gair, neu deitl, o flaen y Llyfr Gweddi Cyffredin, yr hwn sydd yn cynwys deunaw, neu ugain o wahan- ol lyfrau. Neu, os myner, dim mwy o awdurdod Eglwysig tros adrodd y Diolchgarwch Cyffredinol A Uaia uchel ar ol yr offeiriad nag oedd gan Esgop Cymreig iyn y Gogledd yma y dydd o'r blaen i droi ei wyneb yn syth at y gynulleidfa tra yn gweddio y Weddi, Tros holl ystad Eglwys Cript sy'n milwrio yma ar y ddaear." Diau y ceir rhagor yr wythnos nesaf. P.S. At Olygydd Y Llan." Syr,—Mewn atebiad i ofyniad Leygwr yn y LLAN am Hydref 24ain, caniatewcli i mi ddweyd fod yr Amen ar ddiwedd y Diolch Cyffred- inol" mewn llythyrenan Italaidd, ac y mae hyn, medd yr Esgob Mant, ar y Llyfr Gweddi Gyff. redin, yn dangos nad yw y gynulleidfa i uno yn y I Diolch Cyffredinol" sydd o'i flaen & llais son- iarus, tra ar ddiwedd y "Gyffes Gyffredin mae yr Amen" mewn llythyrenau Rhufeinig i ddangos fod y gynulleidfa i uno a llais uchel yn yr hyn sydd yn ei rhagflaenu. Pa bryd bynag y mae yr "Amen" yn y Foreol neu y Brydnhawnol Weddi mewn llythrenau Rhufeinig, megis ar ol y GyffeB Gyffredin," Gweddi'r Arglwydd," y Credo," ac yn y blaen, mae yr hyn sydd yn ei rhagflaenu yn cael ei ddweyd gan y gweinidog a'r bobl, ac y mae yr Amen i gael ei ddywedyd ganddynt. Pan fyddo'r Amen mewn llythyr- enau Italaidd mae yr hyn sydd yn rhagflaenu i'w ddywedyd gan y gweinidog yn unig, a'r bobl yn unig i ddywedyd yr Amen ar y diwedd. Os yw y easgliad yma'n iawn nid yw y gyuulleidfa i ddweyd y Diolch Cyffredinol A llais soniarus. Yn Eglwys St. loan, Caerdydd, yn ystod y Gyn- hadledd yr wythnos o'r blaen, pan oedd yr Esgob yn dywedyd Gweddi'r Arglwydd o flaen y Cymun, nid oedd neb braidd o'r lliaws offeiriaid oedd yn bresenol yn uno a llais uchel yn y Weddi na'r Amen." Yr wyf yn meddwl y dylai pawb wneuthur hyny os yw y RhuddeIl ganlynol yn y Foreol Weddi i fod o lddefnydd:- I Atebed y bobl yma, ac ar ddiwedd pob un o'r Gweddiau eraill.—Amen. Yna y gostwng y gweinidog ar ei liniau sa a ddywed Weddi'r Arglwydd a lief uchel, a'r bobl hefyd ar eu gliniau yn ei ddywedyd gyd ag ef yn y fan yma, ac yn mha le bynag arall yr arferirihi yn Ngwasanaeth Duw."—Yr eiddoch yn gywir, CYKWYL.
YR ESGOB MORGAN.
YR ESGOB MORGAN. At Olygydd Y Llan." SYR,—Mewn canlyniad i Bylw a wnaeth Esgob Bangor am yr Esgob Morgan, wrth osod conglfaen Eglwys newydd Dolwyddelen yr wythnos ddi- weddaf, a chan gofio hefyd yr ysgrif yn yr un perthynas gan un o'ch gohebwyr ychydig yn ol, cymerwch hyn o hanes. Ychydig wythnosau yn ol yr oeddwn yn y Penrhyn Building Yard, a chanfyddais gareg o lechfaen mewn fIrâm drwch- us o galchfaen Penmon (Angleaey marble), ac ar y garreg argraph yn y modd canlynol" Ty Mawr, Gwibernant. In this house was born William Morgan, D.D., Bishop of St. Asaph, who first translated the entire Bible into Welsh. Born Died Sept. 10, 1604." Dichon fod y gareg erbyn hyn yn ei lie o fewn y ty, yr hwn a adgyweiriwyd yn ddiweddar. I Mr. Goronwy Roberts, architect i Arglwydd Penrhyn, mae'r genedl yn ddyledus am hyn o arwydd er parchus gof am un o enwogion Cymru. Arnaf fi mae'r bai, fe allai, am adael bwlch heb ei lenwi yn yr argraff, sef dydd ei enedigaeth. E. Tach. 3, 1884.
YR EGLWYS. !
YR EGLWYS. At Olygydd Y Llan." SYR,—Dymunaf ddweyd gair wrth Offeiriaid ac Eglwyswyr oil. Mae pethau yn ymddangos i mi yn rhyfedd wrth daflu golwg ar ein Heglwysydd y dyddiau presenol. Mae rhai offeiriaid yn cynal gwasanaeth yn eu Heglwysydd dair gwaith yn yr wythnos, sef cyfarfod canu, gwasanaeth a phreg. eth, a chyfarfod cymunwyr. Rhai eraill ddim ond y Sul yn unig. Pa un o'r ddau gynllun yw y goreu ? Y blaenaf yn ddiameu. Yn yr Eglwysydd lie mae gwasanaethau yn cael eu cario ymlaen fel hyn mae yr Eglwys yn llawer mwy llewyrohus. Gan hyny fe ddylai yr oil o'r Eglwysydd synied yr un peth. Mae yr amser yn rhy derfysglyd i filwyr Iesu blethu dwylaw i gysgu tra mae y gelynion ar y maes. Darllenodd yr Archddiacon Smart, ya y Wyddgrug, bapyr rhagorol ar niweid- iau y diodydd meddwol. Fe ddylai pob Eglwys ffurfio cymdeithas er atal y llifeiriant hwn. Tra bydd y gelyn hwn yn cael He yn ein Heglwysydd nid oes obaith am fywyd yn y weinidogaeth.-Yr eiddoch, EGLWYSWR.
EISTEDDFOD NEFYN.
EISTEDDFOD NEFYN. At Olygydd Y Llano" Syr,-Mae eisteddfodau a chyfarfbdydd cystad- leuol mor ami ar hyd y wlad nes y mae pwyllgorau yn methu cael testynau heb osod yr un rhai drosodd a throsodd drachefn. Rhoddir gwobr gan bwyllgor eisteddfod Nefyn am bryddest ar loan yn Ynys Patmos," yr hwn oedd yn deatyn pryddest yn Eisteddfod Llangefni, Sulgwyn, 1883. Efallai fod un o'r beirdd aflwyddianus yn Llan- gefni, neu yr un llwyddianus 0 ran hyny, am gael un oynyg yn ychwanegol ar y testyn. Gresyn na bjao ychydig gwell trefn a chwareu teg yn perthyn j y dvddiau hyn.r-Yr .eid^oh, JOE Skitb.
SANCTA CLARA.
SANCTA CLARA. At Olygydd "Y Llan." Syr,—Yn yr hen lyfr a elwir Hanes y Byd a'r Amseroedd," gan S. Thomas (ail argraffiad), tud. 199, darllenir fel hyn Y Sanctes Clara peu Sanct Cler Y Cymry hefyd a'i galwent Clarawen, a'r gwyryfon a ddilynent ei disgyblaeth Cleirw, a Chlarach." A oes rhywun o ddarllen- yddion y LLAN erioed wedi eyfarfod a'r fath enwau a'r Lleianod Sant Claer ? Onid enwau afonydd yw y tair ? Y gyntaf yw Glaerwen, yn mharthau mynyddig Ceredigion, rhwng Ystrad Meurig a'r Rhaiadr, yr hon, wedi ymuno a'r Claerddu, a red i'r Gwy; yr ail yw Cleirw neu Cleirwy, yn Maesyfed a'r drydedd yw Clarach, yn Ngheredigion, yr hon a abera yn y mor ryw dair milldir i'r gogledd o Aberystwyth. A wypo yn amgenach am y Lleianod neu yr afonydd hyn, traethed ei len.—Yr eiddoch. &c., DYFNIG.
GAIR I BWYLLGORAU CYMDEITHASAUÃ…
GAIR I BWYLLGORAU CYMDEITHASAUÃ CHYFARFODYDD LLENYDDOL. At Olygydd Y Llan." Syr,—Dymunaf ar i'r ychydig linellau hyn gael ymddangos yn eich papyr clodwiw, nid o genfigen na diystyrwch o neb, ond er ceisio cael sylw llenorion a phwyllgorau ein hardaloedd at yr hyn sydd genyf dan sylw. Wrth edrych dros restr testynau Cymdeithas Lenyddol Llifon, yn un o'r rhifynau diweddaf o'r LLAN, y testyn cyntaf ydyw traethawd ar "Gerddoriaeth y Cysegr," testyn ardderchog. a gwobr sylweddol; Ar y cyntaf yr oeddwn yn cael fy symbylu i ysgrifenu ychydig arno. Ond, Ow canfyddais mai yr un hen egwyddor sydd yn rhedeg drwy gyfansoddiad y Pwyllgor hwn eto ag oedd yn meddianu pob pwyllgor a fu o'i flaen yn y lie yma, a dyma ydyw, y cyfansoddiadau i fod yn eiddo y pwyll- gor." Yr wyf yn methu adeall pa beth a feddylia y pwyllgorau hyn wrth roddi i lawr yr amodau yma. I mi maent yn yrnddangos yn anheg i'r eithaf. Caniateir fod wyth neu ddeg o gyfansodd- iadau yn cael eu hysgrifenu ar y testyn a gry- bwyllais, a dim ond un (wrth gwrs) yn cael y wobr, yna bydd yr holl gyfansoddiadau yn dyfod yn feddiant i'r pwyllgor. Pa reswm ydyw fod mwy nac un o honynt yn myned yn feddiant iddynt gan nad ydynt yn talu ond yn unig am un ? Onid ydyw y siomedigaeth o golli yn ddigon o faich i'r gweddill fo wedi cynyg, heb son fod eu llafur yn cael ei gadw nas gwelant ef byth mwy ? Yr atebiad a geir gan y cyfryw bwyllgorau ydyw, dyna yr amodau, a rhaid sefyll atynt. Ie, dyna'r amodau, ond pa un a'i teg a'i anheg ? Pa un ai llwyddiant ai aflwyddiant i'r rhai fo yn cynyg, a'r eyfarfodydd llenyddol, ydyw amodau o'r fath ? Traethed rhywun arall ei len ar egwyddor yr amodau hyn.—Yr eiddoch, LLENOR O'R GRAIG.
DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.
DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF. At Olygydd Y Llan." Syr,—Yn y LLAN am Hydref Slain ymddan- gosodd erthygl alluog, doeth, ac amserol ar y pwnc Cyfarfod Diolchgarwch am y Cynhauaf." Y mae yr ysgrifenydd dan sylw yn dweyd fod y dyJd hwn wedi dyfod yn hynod boblogaidd, ac felly y mae oblegid y mae pawb a all yn dyfod o bob cwr o'r plwyf ar y diwrnod hwn i'r Eglwys, i dalu diolchgarwch i Dduw am ffrwythau'r ddaoar. Wedi hyn dywed, "Mewn amryw Eglwysydd lie y cedwid yr wyl eleni yr oedd yn ofidus genym weled ffurf weddiau priod a phriodol hyn yn cael eu hesgeuluso, yr hyn yn ddiameu oedd yn feius iawn." A rhagddo, gan ddywedyd dau un am. gylchiad na wyddai yr offeiriaid am danynt yn Gymraeg. Mewn man arall gofynid i offeiriad oedd yn bresenol Gyfieithu y copi Seisnig oedd yn yr Eglwys i'w ddefnyddio yn Gymraeg," A'r frawddeg olaf y mae a fynom, & pha un nis gallwn gydweled, am y rheswm mai cyfieithiad o'r copi Saesneg yw'r un Cymraeg; ac os nad ywr offeiriaid yn dewis gwneyd defnydd o'r cyfieithad presenol, y mae ganddynt berffaith ryddid i'w gyfieithu fel y maent yn gweled yn dda. Diolch yn fawr am eich sylwadau doeth a phwrpasol ar y dydd pwysig hwn. Llwyddiant i'r LLAN.- Ydwyf, TEGWCH.
PURDEB.
PURDEB. At Olygydd Y Llan." SYR,—Bu Purdeb neu Ddiweirdeb dan sylw yn y Gynhadledd Eglwysig yn Carlisle. Ymdriniwyd a'r un pwnc yn Nghynhadledd Esgobaeth Tyddewi, yn Nghaerfyrddin. Mae'r pechod o anghymedrol- deb a meddwdod wedi bod gerbron y cyhoedd mewn modd arbenig am flynyddau lawer. Mae amrywiol gymdeithasau wedi cael eu sefydlu er gwrthweithio y pechod hwn, ac er mwyn gwaredu y genedl o'i grafangau. Teimlir ei fod yn achosi tlodi a thrueni anrbaethol yn ein gwlad, ac yn arwain miloedd i ddinystr a cholledigaetth. Teimlir yn bresenol, gan lawer o ddynion da yn yr Eglwys, fod pechod arall yn frigog yn ein teyrnas, pechod sydd yn peri gofid, pechod sydd yn dwyn gwarth, pechod sydd yn damnio, pechod sydd yn rhwygo teuluoedd, pechod sydd yn difetha nerth y genedl, pechod sydd yn gwanhau yr Eglwysi. Ac er hyny, yn bechod na ddywedir fawr yn ei erbyn yn y wasg, ar y llwyfan, nac yn y pwlpud. Y pechod yw anniweirdeb, anllad- rwydd, godineb. Un pechod, gwahanol raddau. Pechod a gondemnir yn.bendant yn Ngair Duw. Pechod ag sydd yn rhy gyffredin yn ein gwlad, ac yn waeddfawr ac yn ffiaidd tu hwnt i ddirnadaeth a desgrifiad yn ein dinasoedd mawrion. Nid oes neb a fedr gyfrif pa nifer o ieuenctyd yr oes sydd yn disgyn i'r bedd yn anamserol, o dan effeith- iau anadl gwenwynig y pechod hwn. Mae cymdeithas wedi ei ffurfio yn yr Eglwys gyda'r diben o alw sylw at y pechod hwn, dangos ei ddrwg effeithiau, a diogelu yr oes sydd yn codi rhag cellwair ag ef. Amcan y gymdeithas hefyd yw ^eithirinjpurdob mewn Koeddwl, gair a Ynibgewif thagcoleddu meddyliaa halogeoigt a bydd hyny yn gymorth i ochelyd gweithredoedd halogedig. Dymunaf ofyn dau gwestiwn i chwi, Mr. Gol- ygydd, a thrwoch chwi i ohebwyr galluog a darllenwyr lliosog y LLAN Yn gyntaf,—A ydyw y pechod 0 anniweirdeb yn fwy, neu yn llai cyffredin yn Nghymru yn awr, nag ydoedd gan mlynedd yn ol ? Nid ydym, was yn wir, yn cofio dim am ein cenedl mor bell yn ol a 1800, ond yr ydym yn cofio yr hyn a glywsom ni gan ein tadau, a pha beth oedd eu barn gyftredin hwy. Yn ail,—Pa un ai y pechod 0 anghymedroldeb neu y pechod o anniweirdeb sydd yn ^chpsi Vr^nifer fwyaf o gymunwyr yr Eglwysi a'r capeli golli eu lie. Gwyddom fod Uawer yn syrthio trwy y ddau bechod. Llefarir llawr yn |y pulpud yn erbyn y naill, ond ychydig iyn erbyn y llall. Yr Wyf yn hollol ymwybodol fod doethineb a thynerwch yn ofynol i ysgrifenu ar y testyn hn onide mae perygl gwneuthur mwy o ddrwg nag o ddaiom. FFAPfTT.
LLITH HYNAFGWB.
LLITH HYNAFGWB. Yr wyf yn cael llawer o hyfrydwch wrth ddar- lien eich newyddiadur clodwiw wythnoe ar ol wythnos. CefaiB fy moddhau yn anghyffredin pan welais adroddiad am y Gynhadledd E'sgob- aethol a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nghaer- dydd, ac yn enwedig wrth ddeall fod yr Esgob wedi gwella mor dda fel ag i fod yn alluog i lyw- yddu. Da oedd genyf weled y lleygwyr yn cael y fath sylw yno; yr wyf o'r farn eu bod hwy wedi cael rhy fach o hyny y blynyddoedd sydd wedi myned heibio. Eisiau ychwaneg o gydweithred- iad sydd yn ein plith y dyddiau hyn, pan y mae cymaint o ymosodiadau yn cael eu gwneyd ar yr Eglwys a'i hoffeiriaid. Dylai lleygwyr teilwng gael eu cydnabod pan yn ymdrechu yn egniol o blaid lledaeniad yr Eglwys, ond nid wyf fi yn ffafriol iddyntJgael esgyn i bwlpudau yr Eglwys, fel y myn rhai. Mae digon 0 waith araill ag y gall lleygwr ei gario allan yn effeithiol, yr hyn fyddai yn gynorfchwy gwerthfawr i offeiriad y plwyf. Newyddhyfryd i mi ydoedd y orybwillia- am lwyddiant anarferol cronfa gynorthwyol Esgob Llandaf tuag at adeiladu Eglwysi. Aed ymlaen eto yn y dyfodol, a Duw Itfendithio yripPtu y Cynhadleddau Esgobaethol fel ag i fod yn Ildsol i'w Eglwys yn gyffredinol. Er fod yr Eglwys yn hynod lewyrchus yn y rhan fwyaf o blwyfi Es- gobaeth Llandaf, eto drwg genyf weled fod yr achos mewn rhai yn llwydaidd a dilewyrch iawn. Pwy sydd i'w feio 0 herwydd hyn nid wyf yn gwybod, ond ni hysbysaf pa faint ydoedd mewn un Eglwys ar y Sul cyntaf o'r mis hwn yr oedd pedwar yn ychwaneg y Sul canlynol. Gwyn fyd na wneid ymchwiliad i'r achos o hyn, gan fod yr Eglwys grybwylledig, rai blynyddoedd yn ol yn Uawn o rai yn uno yn galonog yn ei gwasanaeth ardderchog. Felly y mae y rhan fwyaf 0 Eglwysi ein gwlad yn awr, a chyd ag ychydig ymdrech, zel, a chariad, gellid ail enyn y wreichionen nefol mewn eglwysi sydd yn amddifad o hyny yn bresenol. Rhaid yw i ni ymdrechu yn egniol y dyddiau hyn pan y mae cymaint o annuwioldeb o'n deutu. Duw o'i ras a fendithio ei Eglwy. yma ar y ddaear er ei ogoniant. Cofion caredig atoch tua Merthyr, a hyderaf fod eich newydd- iadur clodwiw yn derbyn y gefnogaeth a haedda gan bob Eglwyswyr, gan y dylem oR fel un gwr gefnogi yr unig newyddiadur sydd genym at was- anaeth yr Eglwys.—Yr eiddoch, GLAXBRENIGK
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA.
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA. Parheir i gario yn mlaen y rhyfel uchod, ond hyd yn hyn nid yw y Ffrancod wedi enill ond ychydig o fantais ac ychydig iawn o ogoniant milwrol, er eu bod, wrth gwrs, yn fuddugol ymhob ymgyrch. Dydd Sadwrn, derbyniwyd pellebyr yn Paris o Shanghai yn hysbysu fod brysneges wedi ei hanfon yno o Amoy, i'r perwyl fod Tamsai wedi cwympo i dddwylaw y Ffrancod. Hysbysir mewn newyddiadurnon Ffrengig fod y LlyngeBydd Courbet wedi penderfynu peidio cyfhwni yr un ymosodiad ar y gelyn eto hyd nee nes y derbynia adgyfnerthion o Ffrainc. Pellebyr o Shanghai, dyddiedig Tachwedd 15ed. a ddywed fod yr Annamiad wedi tori penau pupa' cant o garcharorion Chineaidd yn Kep.
[No title]
Mae Mr. John Bright wedi ysgrifenu Hytljyr nerthol o blaid cludiad llythyrau drwy'r Llythyrdy ar y Sul. Yn Eglwys blwyfol Abertawe, ddydd Sul, yi. wythnos ddiweddaf, traddododd y Parch Dr. Morgan ei bregeth ymadawol. Credir mai y Canon Smith fydd ei olvnydd. Ail-agorwyd Eglwys blwyfol Estyn, ychydig filldir- oedd o Gwrecsam, ddydd Mawrth diweddaf, wedi bod o dan gyfres o adgyweiriadau. Y costau yr aethpwyd iddynt i'w hadgyweirio ydoedd 1,550p, o'r hwn awm y mae addewidion am 900p. Traddodwyd y bregeth gan Esgob Llanolwy. Y dyn cyfoethocaf yn y byd, meddir, ydyw y bancwr Chineaidd Hau-Qua o Canton. Telir trethi ganddo ar feddianau gwerth 450,000,000 o ddoleri, a chyfrifir ei fod yn werth billiwn o taels, cyfartal i tua 1,400,000,000 o ddoleri! Bellach, gellir ystyried New Guinea, neu Papua, yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, canys cyhoedd- wyd oddiar fwrdd llong rhyfel yn Man Orangerie, y byddai y glanaji De-ddwyreiniol dan reolaeth Lloegr. Mater o amser yn unig yw i'r holl ynys ddyfod yn ddarostyngedig i Lywodraeth Prydain, sef tiriogaeth gymaint a Texas-yn cynwya 275,000 o filldiroedd ysgwar. Yn nhy rhieni y briodasferch wedi i'r briodas fyned trosodd, dodwyd yr holl roddion priodasol ar y bwrdd mawr yn y parlwr. Pan yr oedd dau foneddwr yn edryoh drostynt, dywedoddd un wrth y llall, a hyny yn dra sydyn, Yr ydyoh yn dweyd mai y brioda*- feroh bia y rhai hyn i gyd, ond beth bia y priodfab ? '| "Ot mu A yn oael y fenyw," ebe'r llall. Ax dyna 1 gyd- dzu&n 0 hbno! ebe y boh&ddwr cyntaf.