Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
[No title]
DEUIR yn fynych o hyd i brawfion mewn manau tra annisgwyliadwy nad yw y gweith- wyr yn ffafriol i Ddadgysylltiad yr Eglwys. Mewn plwyf heb fod gan'milldir o Ferthyr Tydfil sefydlwyd clwb gweithwyr fisoedd yn ol, i fod yn lie i'r aelodau gyd-gyfarfod ynddo yn yr hwyr ac ar brydnawn Sul. Tybiodd cadeirydd y clwb mai derbyniol a daionus fuasai cyfres o bapyrau ar bynciau cym- deithasol a gwleidyddol i'w darilen o flaen yr aelodau o bryd i bryd. Pender- fynodd ef ei hun ddarllen y papyr cyntaf. Dewisodd Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru fel ei destyn, a rhoddwyd ar ddeall fod y papyr i fod yn ffafriol i'r symudiad. Gosodwyd hysbyslen i fyny ar filr ystafell y clwb yn mynegu y bwriadai y cadeirydd ddarllen ei bapyr y prydnawn Sul dilynol. Pan y deallwyd pa fodd y safai pethau cyfododd drycin fawr yn mhlith YJ. aelodau. Dangoswyd y gwrthwynebiad mwyaf pendant i ddarlleniad y papyr, a gwrthodwyd ar un cyfrif roddi caniatad i hyny gymeryd lie, ac yr ydym yn deall nad ymddistawodd y drycin hyd nes y symudwyd y cadeirydd o'i gadair swyddogol. Dengys gwelltyn pa fodd y chwyth y gwnyt. Rhodder chwareu teg i'r dosparth gweithiol a dangos- ant eu bod yn ffafr chwareu teg a chyfiawn- der, Yr oedd Archesgob Caergaint yn ei le pan y dywedodd, Ymddiriedwch y bobl: ymddiriedwch y bobl."
[No title]
» YMDDENGYS fod symudiad ar droed i gyfodi cofgolofn i William Williams, Pant-y-celyn, yn ffurf Capel Methodistaidd Seisnig yn Llanymddyfri. Dull campus i gael capel Methodistaidd i'r lie, os na fydd y cyhoedd yn ddigon craff i weled beth sydd wrth wreiddyn y peth. Deuddeng mlynedd yn 01 ymdrechwyd casglu arian i adeiladu capel "Seisnig yn Llanymddyfri; ond methwyd a llwyddo y pryd hwnw. Os nad ydym yn camgymeryd bydd y cyhoedd yn debyg o ofyn, Pa gysondeb sydd mewn cyfodi capel Saesneg yn goffadwriaeth i'r prif ganiedydd Cymreig ? Pa reswm disgwyl i gapel Methodistaidd gael ei ystyried yn goffadwr- iaeth genedlaethol ? A pha hawl sydd gan y Methodistiaid i hawlio iddynt eu hunain goffadwriaeth un a berthynai i blaid o weini- dogion yr Eglwys a broffesent ymlyniad wrth yr Eglwys hyd ddiwedd eu hoes. Os byth yr adeiledir y capel dylai geiriau olaf Daniel Rowlands, Llangeitho, wrth ei fab Nathan- iel, gael eu gosod mewn llythyrenau breision ar lech faen ar ei dalcen goreu: Saf wrth yr Eglwys er pobpeth."
[No title]
OND gan nad pa beth a ddaw o'r symudiad hwn, anhawdd peidio edmygu doethineb p tD bydbl ei gychwynwyr. Y mae'r Ymneill- oy duwyr, rhaid addef, wedi dysgu yn dda pa fodd i gael dwfr i'w melin eu hunain. Nid oes ond ychydig fisoedd er pan agorwyd cof- golofn y diweddar John Griffith (y Goheb- ydd). Galwyd y gofgolofn hono yn genedlaethol." Ond pa ffurf a gymerodd? Capel Annibynol yn Llundain. Y mae'n wir yn llawn bryd i Eglwyswyr ddysgu gwers gan Ymneillduwyr mewn materion o'r fath yma.
[No title]
YSGRIFENA Mr. Brinley Richards i'r newydd- iaduron i hysbysu fod Cymro ieuanc o'r enw Mr. Griffiths i gael ei anfon allan i gwblhau ei addysg yn iaith a henafiaethau yr Aipht. Y mae Mr. Griffiths yn myned allan mewn cysylltiad a'r Gymdeithas er Chwilio i Henafiaethau Aiphtaidd. Cynwysa gwlad yr Aipht, yn ddiau, lawer o hen drysorau eto heb eu canfod a daflent lawer iawn o oleuni ar hanesyddiaeth ysgrythorol. Llawenydd genym ddeall fod un o feibion Cymru wedi cael ei ddewis i ymgymeryd a'r gwaith pwysig hwn.
[No title]
FEL y mae yn hysbys i'r cyhoedd yn Aber- dar y mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru i gael ei chynal y flwyddyn nesaf, Prif at. yniad yr eisteddfod y blynyddau diweddaf a fu cystadleuaeth y corau. Y mae hyn o'r braidd yn dyfod yn fwy poblogaidd na chadeiriad y bardd. Y mae Dr. Rogers a'i gor enwog wedi enill dair blynedd agos if i'w gilydd. Y mae hwn yn'gor ag y gall Gogledd Cymru fod yn falch o hono. Ac y mae y Gogledd yn falch o hono. Arferai y Deheudir hefyd feddu cor ardderchog flyn- yddau yn ol o dan arweiniad Caradog. Yr ydym yn deall fod y cor arweinydd dihafal hwn yn awr wedi ymsefydln yn Nghaer- dydd, ac yr ydym yn gweled oddiwrth lythyr yn un o'n cyfoesolion fod awydd yn bodoli i wneyd ymdrech i geisio gan Caradog i ffurfio cor unwaith eto. Awgrym campus. Rhoddai hyn fywyd newydd yn myd cerddorol y Deheudir, a sicrhai lwydd- iant yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1885.
[No title]
TRWY weithgarwch a llafur y Parch, C. J. Thompson, St. loan, Caerdydd, helaethwyd Ysgoldy Genedlaethol Tredegarville, yn y plwyf uchod, yn ddiweddar. Dydd Gwener agorwyd y rhan newydd, ac yn ei anerchlad I ar yr achlysur, dangosodd y boneddwr parchedig pa fodd yr oedd wedi llwyddo, nid yn unig i glirio dyled oedd yn ymylu ar £ 700, ond hefyd igasglu £450 yn rhagor tuag at helaethiad yr adeilad, mewn llai na naw mlynedd o amser. Ffydd ddiysgog, meddai Mr. Thompson, yn mywydoldeb yr egwydd- or wirfoddol yn unig a'i cadwodd rhag eu trosglwyddo i'r Bwrdd Ysgol yn y dref. Yn north y ffydd hon llwyddodd i roddi ei ysgolion yn y fath sefyllfa fel nad ofes heddyw unrhyw ofn iddynt droi yn fethiant oherwydd bod yn rhaid iddynt gystadlu ag ysgolion eraill sydd yn pwyso ar y dreth. Trueni nas gallesid ysgrifenu yr un hanes am ddegau o Ysgolion Cenedlaethol ein gwlad yn ystod yr un tymor. Buasai ag- wedd hollol wahanol ar lawer o blwyfi Cymru heddyw, pe bae ysgolion dyddiol yr Eglwys ynddynt, fel yn mhlwyf St. loan, wedi cael eu cadw rhag syrthio i grafangau Byrddau ag sydd yn ami o gymeriad gwrth- Feiblaidd a di-Dduw. .+-
-._-------------___--__ Y…
Y GOHEBYDD GWIBIAWL. Y BHODYR JONES. PENOD III. Yr oedd fy nhad yn gelfyddwr diwyd, yn of gweitbgar, yn mhentref cauedig Llanyfronfraith, yn nyffryn ffrwythlawn Cwm-y-dryw, oddeutu pum' milldir o dref fawreddog Craig yr Eryr—pa dref sydd borthladd cyfleus yn swydd Gaerfyrddin. Ei enw oedd Jesse, Enw fy mam ydoedd Jemima. Yr oedd fy nhad yn hoff iawn o'r egwyddorau J.J., canys bu pob un o'i wyth plentyn yn llawenhau yn y prif lythyrenau yma, a hwy a enwyd yn neilldnol Jeremiah, Jonah, Jethro, Jonathan, Jeroboam a Jephtha. Fy chwiorydd a enwyd Judith a Janet—ag fel y dywedai fy nhad, gallem nodi ein henwau a'r un llythyrenau, a byddai y rhes o'r J.J's yn fath o fyddin bwysigyn y pentref ryw ddiwrnod. Myfi ydoedd y "cyw melyn olaf "-yr ieuangaf o'r holl deulu-ac anwylyn fy mam dyner. Cyn i mi gyraedd fy wyth mlwydd oed, bu angau yn arfer ei bladur yn y teulu, a dygwyd ymaith dri o'm brodyr, ac un chwaer--fel ar ddechreu fy hanes gwirioneddol, yr oeddym yn bedwar o blant, moriachus a chryfion, a ddymunai rhieni hoffus i edrych arnynt—sef Jerry, Jethro, Janet a mi. Nid oedd fy nhad yn ddyn dysgedig, o'r braidd y gallai ysgrifenu ei enw ei hun. 0 ganlyniad yr oedd cadwraeth cyfrifon yr efail yn pwyso ar ysgwyddau fy mam, yr hon oedd y fenyw hynotaf yn y cylchoedd. Ei dydd- lyfr a'i gorsaf-Iyfi: oeddynt gynwysedig o amryw estyll pinwydd, ar ba rai y gosodai mewn arwydd- luniau sialc (pa arwyddluniau oeddynt greadig. aethau ei ymenydd ei hun) y gwahanol symiau oeddynt ddyledus oddiwrth y gwahanol gwsmer- iaid. Yr oedd fy mam ar yr un pryd yn benaeth ar siop fechan yn mha le y byddai yn gwerthu siwgr, blawd, haidd, te, a chwyr gwenyn, hoelion clocs, triagl, sebon a phils Morrison. Byddai y siop yn adnabyddus drwy y gymydogaeth fel siop Jesse "—tra yr oedd yr efail o dan raglaw- iaeth fy nhad yn adnabyddus dan yr enw Efail Jesse." Yr wyf yn cofio o'r goreu uwchben drws y siop ryw sign anferth, y llawr wedi ei baentio yn ddu, ac ar y llawr hwnw lythyrenau melynion mawr- ion, a fyddent yn tynu sylw pawb a aethent heibio. Yr oedd y darlleniad yn Saesneg rywbeth fel y canlyn :—JESSE JONES, lisenced deeler in tee flower and tybacco, redymendasies, train oil, gimlets, and testaments, coffee, and all other sorts of carpenter's and shoemaker's tools, and other implements of usbandry. N.B.—Horses' shoes and carridges and carts repaired as good as new. Farriery and the strangles cured." Ein siop ni a'r efail oeddynt ganolbwynt cleceion a chlebren yr holl ardal, a byddai fy mam drwy arfer diwydrwydd a chynildeb, yn alluog i roddi swm o arian o'r neilldu yn flynydd. ol. Ei phrif ofal oedd ei dymuniad i roddi i ni ysgolheigiaeth fel ag y byddem yn alluog i gym- eryd em lleoedd fel aelodau cyfaddas mewn cymdeithas, ac yn abl i lywyddu y fasnach a'r efail pan y byddai hi a'r hen wr yn rhy egwan i edrych yn fanwl ar ol elw y ddau sefydliad. Yr oedd fy mrawd henaf, Jerry, wedi bod am rai blynydclau o dan ofal y Parch. Morris Reea, yn Ysgol Gadeiriol Pompren-y-gog, ac am ei ddysg byddai fy mam yn talu dwy geiniog bob wythnos, a byddai Jerry yn awr ac yn yman yn cludo i'r meistr haner chwarter o dybacco coch Franklyn & Co. Pan ddarfu fy mrawd Jethro a minau gael ein henwau wedi eu cofirestru ar y llyfr, yr oedd Jerry yn mhell bell yn mlaen yn egwyddorau elfenol ffynon glodfawr gwybodaethau prif ysgol Pompren-y-gog. Bu i fy mrawd a mi wneuthur cynydd gweledig, a chyn y, buora lfwyddyn o dan addysg y Proffeswr Rees, yr oeddem yn medru darllen yn lied lew, ac yn alluog i ysgrifenu llaw fras. Erbyn hyn yr oedd Jerry wedi cwblhau ei addysgiaeth, ac yr ydoedd y Proffeswr wedi parablu fod Jerry yn un o ryfeddodau y brifysgol, yn alluog i wneuthur ei ffordd yn y byd. Yr oedd y ffaith yn cael ei dal i fyny fel esiampl i fechgyn a merched y plwyf. Yr oedd yr ysgol, cofier, yn athrofa gymysgedig, yn cynwys meibion a merched. Yn awr cymerodd le graddeg mawr- eddog Jerry yn y byd; sef galwedigaeth. Yr oedd fy nhad yn gadarn yn ei anogaeth o'r sledge a'r eignion, tra y byddai fy mam yn daer yn ei hanogaeth o'r siop, yr hon oedd wedi helaechu ei therfynau i dipyn o galico, a chanfas, a rhib, ao felly yn y blaen, ag i ba sefyllfa yr oedd J errylynar. benig mewn addasrwydd, canys bu ar enyd wedi cael ei surffedi trwy orlenwi ei enau & melusion. Yr oedd yn awr yn brawf yn erbyn temtasiynau dichellgar siwgr,currants, a thriagl. Ond ni fynai Jerry naill a'r counter neu'r eignion. Yr oedd ef wedi bod yn darllen hanesion morawl Paul Jones a Columbus, ac ni wnaethai dim y tro iddo ond canlyn yn eu llwybrau hwy; ac ni fyddai un cymhelliad yn alluog i'w ddwyn i fabwysiadu un galwad aralll; i'r mor, ac i'r mor yn unig y mynai hwylio ei gamrau. Ac felly, un boreu cymerodd fy nhad ef i Graig-yr-Eryr, a phrentisiodd ef i Cadben Harris, ar fwrdd y brig Y Golomen Wen," a ffwrdd a Jerry. Darfu i Jethro a minau fyned yn mlaen yn lied gysurus nes i mi gyraedd fy neuddeng mlwydd oed, pan y darfu perthynas i fy mam dalu ym- weliad a phentref ei enedigaeth. Yr oedd fy ewythr yn wr bonheddig cyflawn, gwerth ei fil- oedd. Edrychai yr holl ardal i fyny ato, a thalent gymaint parch iddo ag a wnaethent i'r Squire ac Offeiriad y plwyf. Yr ydoedd yn feddianydd ar rodfa laeth (Milk Walk) eang yn y brifddinas, a thrwy osod ychydig ddwfr i wneuthur y ilaeth yn flasus, darfu iddo grynhoi cronfa anferth o aur ag arian. Ar ei ddychweliad i Llundain cymerodd Jethro gyd ag ef i wneyd ei ffortiwn. Yr oedd fy mrawd y pryd hyn yn ysgrifenydd da a buan, ag fel rhifyddwr yr oedd wedi meistro ei Rule of Three, Practice, a Vulgar Fractions, ag mewn agweddau eraill yr oedd yn lied ddestlus. a'i ddaeareg wedi rhoddi iddo y wybodaeth fod llefydd yn y byd ynmhellach na Llundain. Yr oedd yn ramadegwr da, ag yr ydoedd wedi gweled Esgob byw, ac wedi bod yn siarad ag Archddiacon. Wedi bod yn y brif-ddinas am fyr amser cafwyd sefyllfa iddo yn un o'r siopau mawrion: ag felly yr oedd ar frig y don i fawredd. Yr oeddwn i o hyd gartref: yn awr yn y siop yn gwrandaw ar holl gleciau ag enllibau y gymydog- aeth, ag yn y man yn eu hail-adrodd wrth y oryts oeddynt yn arfer ymgynull yn yr efail. Yr oedd fy nhad bob amser yn fy nghyhoeddi i yn hurtyn pendew, canys yn fy-myw nis gallwn wneuthur hoel; er fy mod wedi bod yn ymgeisio ae wedi onill droion mewn ymgystadleuaethau yn yr Eisteddfodau lleol, byddai fy nhad bob amser yn rhagfynegu y buaawn yn troi allan yn benbwl. Dyna," meddai, dyna Jerry pan yn ddeg oed gallai wneuthur hoelion a'u morthwylio, llafnau ag oil, sawdl a blaen, ar wadnau par o esgidiau. Pan yn ddeuddeg oed gallai Jethro droi set o bedolau ceffyl gystal ag y gallwn i fy hun. Ond am Jephtha nis daw i'r un daioni, yr wyf yn sicr o hyny. Beth, yn awr yn bedair-ar-ddeg ac yn methu gwneuthur hoel; bah yr wyf yn sicr na ddaw byth iunddaioni." Yr oedd masnach fy mam wedi cynyddu i raddau helaeth erbyn hyn; cafodd iy siop ei mwyhau a'i phrydferthu, ag' yr oedd holl o wragedd a merched y ffermwyr amgylchynol yn uchel yn eu canmoliaeth o siop newydd Jesse," ag i wneuthur y sefydliad yn fyw cymeradwy byddai dau neu dri o'r commercial travellers yn ".gwneuthur galwadau chwartorol. (I'w barhau.)
[No title]
DA genym allu hyspysu bod newydd da wedi cyrhaedd y wlad hon o Khartoum. Yr oedd y Cadfridog Gordon yn fyw ac yn iach yno ar y pedwerydd dydd o'r mis hwn ac yr oedd y dref hyd y dydd hwnw yn sefyll ei thir yn erbyn y Mahdi ac heb fod mewn perygl mawr o syrthio yn fuan. Cyrhaedd- odd y llythyr yn cynwys y newydd o Khar- toum i Dongola mewn deng niwrnod; ac felly y mae genym yr hyfrydwch o feddwl ein bod o'r diwedd mewn cyrhaedd siaiad a'r Cadfridog. Y mae'r holl ddarogan a fu am fisoedd fod Khartoum wedi cwympo, gan hyny, yn troi allan yn hollol ddisail. Ond ynglyn a hyn daw y newydd trist bod yr hyn a dywedid am lofruddiaeth Colonel Stewart yn rhy wir. Yn y llytbyr dan sylw dywed y Cadfridog y gwyr ef i Colonel Stewart a Mr. Power, a'r Consul Ffrengig gael eu Iladd.
[No title]
— DECHREUA y Dadgysylltwyr eu hymgyrch yn erbyn yr Eglwys yn Nghymru unwaith etodrwy gynal eyfarfod inawr yn Nghaerdydd yr wythnos hon. Os. bydd i'w hymgyrch eleni droi allan mor fendithiol i'r Eglwys ac y trodd eu dyfodiad i'n plith y llynedd, ni bydd gan Eglwyswyr le i rwgnach llawer. 0 t3 Y mae'n eglur nad ydynt hwy eu hunain yn cael eu boddloni yn fawr yn y dull y dygir pethau ymlaen ganddynt. Y mae William Tell yn y Genedl Gymreig yn gwaeddi yn uchel, mewn llythyren fras, bod Dadgysylltwyr Cymru yn ormod o dan reol- aeth Dadgysylltwyr Lloegr. Eglur oddi- wrth don y llythyr, bod William Tell yn un o gyfrin-gynghor y Gymdeithas Ddadgys- ylltiol. Cyfeiria at weithrediadau cyfrinachol y gwahanol bwyllgorau, ac y mae'n hyddysg yn nirgelion y frawdoliaeth. Sieryd hefyd yn ol pob ymddangosiad yn enw y blaid Gymreig, yr hon sy'n meddu ei chwynion. Dyma fel y mae'n arfer bod. Nid yw y cwmm yn llwyddo. Rhaid beio rhywun, a dechreua y cyd-berchenogion ruthro i yddfau eu gilydd. Gall nad yw cyfeillgarwch Herod a Philat wedi'r cwbl ddim i barhau yn hir.
[No title]
Y MAE cryn deimlad yn bodoli yn Neheudir Cymru yn erbyn Deddf Cau Tafarnau ar y Sul. Prydnawn Sul diweddaf cynhaliwyd cyfarfod yn yr awyr agored yn Nghaerdydd i brotestio yn erbyn y ddeddf ac i alw am ei dilead. Yr oedd tua 6000 o bobl yn bresenol; ond o'r nifer hwn yr oedd llawer yn aelodau o Fyddin y Ruban Glas, y rhai a ddaethant yno i amddiffyn y ddeddf. Rhaid ystyried yr ymdrech i ddileu y ddeddf fel peth hollol ofer. Ar yr un pryd rhaid addef nad yw y ddeddf ddaionus hon wedi bod mor llwydd- ianus yn Nghymru ag y carasem. Mewn rhai manau y mae yn ddiddadl wedi gwneu- thur lies dirfawr. Mewn manau eraill y mae wedi achosi cryn lawer o deimlad drwg a thrwy hyny wedi arwain i gryn lawer o yfed yn ormodol, a hyny mewn manau anghyfreithlon. Ac y mae y methiant rhanol hwn i'w briodoli ond odid i ddeddf- wriaeth ranol. Y mae hen yfwyr yn ei theimlo yn annheg fod un ddeddf i Gymru ac un arall i Loegr. Pan y cauir y tafarnau ar y Sul drwy y deyrnas i gyd, diau y bydd llwyddiant y ddeddf yn llawer mwy bodd- haol. Y mae aflwyddiant rhanol y mesur hwn yn dangos mai nid doeth deddfwriaethu i Gymru ar wahan i Loegr. Gadawer i'r naill a'r Hall sefyll ar yr un tir yn ngwyneb gweithrediadau y Senedd ymerodrol. — —
[No title]
Y MAE y terfysg fu yn Aston, drwy yr hwn y rhwystrwyd i Syr Stafford Northcote ac Arglwydd Randolph Churchill draddodi anerchiadau yn Birmingham, yn parhau i roddi gwaith i'r YnaJon Heddwch, a theb- ygol yw y ceir clywed llawer am dano eto yn y llysoedd gwladol. Haerai y Ceidwad- wyr ddarfod i'r Rhyddfrydwyr arfer tocynau ffugiol, ac mae drwy hyny y rhwystrwyd y cyfarfod. Ddydd Sadwrn gwysiwyd boneddwr ieuangc o flaen y llys ar y cy- huddiad o ofyn i argraphydd barotoi nifer o docynau ffugiol tebyg i'r rhai a ddefnyddid gan y Ceidwadwyr. Gan na wedid y cyhuddiad, traddodwyd y boneddwr ieuanc i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf.
[No title]
Y MAE Ysgolion Cenedlaethol y deyrnas hefyd, fel y sylwodd Arglwydd Esgob Llan- daf, yn yr un lie ar yr un diwrnod, wedi gwneyd llawer iawn o les mewn modd an- uniongyrchol oddiar pan y sylfaenwyd y dull secularaidd o gyfranu addysg. Mae y wlad wedi gweled mor ragorol a bendithlawn ydyw addysg grefyddol hyd yn nod ar hyd yr wythnos, ac y mae gorfodaeth wedi cael ei osod ar lawer Bwrdd drwy hyn i fabwys- iadu darlleniad o'r Ysgrythyrau Sanctaidd yn eu hvsgolion. Yn ddiau nid peth bychan ydyw hyn yna, a gobeithio fod y dydd ar dori pan y gwelir y Beibl, o'r hyn leiaf, yn llaw pob plentyn ymhob ysgol yn Nghymru a Lloegr.
[No title]
— DADLENWYD bron-ddelw o'r diweddar Arch- esgob Tait yn Mynachlog Westminster, ychydig ddiwrnodau yn ol. Mr. Armistead ydyw y cerfiwr, a dywedir fod y fron-ddelw yn ddarlun hynod o gywir o'r ymadawedig. Y mae y digwyddiad yma yn dwyn i'n cof, mewn modd nerthol, y gymunrodd'' a adawodd yr Archesgob ar ei ol i'r Eglwys. Yr oedd yr hyn a wnaeth pan ar ei wely angau yn fwy gorchestol na'i holl fywyd yn flaenorol i hyny. Yr oedd rhodd yr Arch- esgob o'r un natur a'r arwyddair a roddwyd yn ddiweddar i'r Eglwys gan un o'i meibion galluocaf, sef y Prif Weinidog, ac y mae yn bur debyg y bydd i gyngor Dr. Tait a Mr. Gladstone bara yn hir fel yr egwyddor fawr ar ba un yr adeiladir gwaith yr Eglwys yn y dyfodol.-liz omnibus caritas.
[No title]
Y MAE cenhadaeth wyth niwrnod yn awr yn yn myned ymlaen yn Llundain. Cynhelir gwasanaethau arbenig mewn tua 150 0 blwyfydd y brif ddinas. Dygir y cwbl ymlaen o dan gyfarwyddyd Esgob Llundain a'r Esgob Walsham How. Dechreuwyd y gweithrediadau prydnawn Sadwrn, pryd yr anerchwyd y cenhadwyr gan yr Esgob Walsham How yn Eglwys Gadeiriol St. Paul. Yn mhlith pethau eraill dywedodd yr Esgob wrth y cenhadwyr ei bod yr dyled- swydd arnynt dalu sylw neillduol i'r achos dirwestol yn unol ag egwyddorion Cym- deithas Ddirwestol Eglwys Loegr, a gobeithiai hefyd y gwneid ymdrech i gyr- haedd y benywod syrthiedig ac i hyrwyddo purdeb buchedd. Y mae y lleygwyr yn rhoddi cynorthwy gwerthfawr yn y gwaith daionus hwn. Y mae tua mil o leygwyr yn gweithio yn egniol mewn ffordd o ddwyn pobl o dan ddylanwad y genhadaeth pum' cant o aelodau Cymdeithas Leygol yr Es- gobaeth, a phum' cant o aelodau Cymdeithas Gweithwyr Eglwys Loegr. Rhoddodd yr olaf gynorthwy nodedig ddydd Sul drwy orymdeithio drwy'r heolydd, ac ymweled o dy i dy er gwahodd eu cyd-weithwyr i fyned gyda hwynt i wasana,ethau y genhadaeth. tin o arwyddion goreu y dydd, ac un o obeithion disgleiraf yr Eglwys, yw bod lle- ygwyr duwiol yn gosod eu hysgwyddau dan yr arch gyda'r fath yni a bywyd.
[No title]
Cynhelir gwasanaethau cenhadol mewn 110 o eglwysi yn Llundain yr wythnoa hon.