Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
----------- -----------------_---_----._---Y…
Y MAES CENHADOL. ,¡It, YNYSOEDD FIJI. Gorwedd yr ynysoedd hyn yn y Mor Tawel, o fewn i'r trofanau (tropics) o du'r dehau i linell y cyhydedd (Equator), ac o ba rai y mae oddeutu clau cant mewn nifer, ond dim ychwaneg na deg a thriugain yn cael eu preswylio. Byddai yn ormod gorchest o fewn terfynau y papyr yma i mi ddesgrifio harddwch a ffrwythlondeb yr ynysoedd hyn. Digon dywedyd eu bod mewn lluaws o ystyriaethau-o herwydd achos- ion naturiol-gyd a'u glanau cwrel, eu llwyni palm- wydd, lagoons, rhaiadrau yn rhuthro i lawr dros giogwyni serth, a mynyddau uchel, gorchuddiedig hyd eu crib & ffrwythydd rhagorol, yn ffurfio un o'r paradwysau mwyaf swynol ar y ddaear. Ychydig flynyddau yn ol edrychid ar yr ynysoedd hyn--gan forwyr llongddrylliedig, beth bynag-fel yn ddychryn i'r Tawelfor. Yr oedd paganiaeth, gyd a'i holl ffieidd-dra cysylltiol, rhyfel parhaus rhwng y llwyth- au, tywalltiad gwaed, a chanibaliaeth yn ei weddnod hacraf, yn ffynu yno heb na llestr na rheolaeth. Ond bydd yn dda genych glywed fod hyn oil wedi ei gyfnewid. Ryw haner can' mlynedd yn ol aeth cenhadau allan i'r ynysoedd hyn, ac yn nghanol y peryglon a'r digalondid mwyaf gwnaethant eu goreu i ddwyn yr anwariaid creulawn dan ddylanwad yr Efengyl. Yr oedd yr hyn y gorfu i'r cenhadon hyn ei ddioddef yn fwy nag a allaf fi ei osod allan. Nid oeddynt yn perthyn i'n corlan ni, eto gellir dywedyd er eu clod eu bod yn wyr a crsodasant eu bywydau mewn enbydrwydd er mwyn Crist a'i efengyl. Trwy eu llafur hwy ac achosion eraill, mae canibaliaeth a phaganiaeth wedi diflanu, y bobl, mewn enw o leiaf, yn Gristionogion, a bendithion gwareiddiad yn ym- daenu dros yr ynysoedd. Rhaid i mi bellach ddywedyd ychydig wrthych ynghylch gwaith yr Eglwys yno. Mae lluaws mawr o'n cydwladwyr a'n cyd-Eglwyswyr ar wasgar drwy'r ynysoedd. Gallwch yn hawdd ddimad y dylanwad mawr, naill ai er da neu er drwg, a fedd y dyn gwyn ymhob man ar y cenhedloedd duon. Nid yw Fiji yn un eithriad yn hyn o beth. Gan hyny teimla yr Eglwys mai ei dyledswydd, yn y lie cyntaf, er mwyn ei phlant ei hunan, ac yn yr ail le, er mwyn y brodorion truain ar ba rai y mae gan eu hesiampl y fath ddylanwad, ydyw dilyn ar ol ei haelodau a'i gweinyddiadau a'i hordinhadau, fel o dipyn i beth y bo'r canlyniadau yn fendith fawr i'r oil. Yn hyn o beth, fel mewn pethau eraill, mae'r Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl yn ymddangos fel pe'n dilyn yn llythyrenol esiampl ein Harglwydd, yn ceisio yn gyntaf ddefaid cyfrgolledig Ty Israel (ysbrydol), o herwydd y byddant, gwedi unwaith y dygir hwy yn ol, yn fendith i eraill. Rhydd y gymdeithas gynorthwy mawr i'r Eglwys gyflawni ei gwaith yn Fiji. Ond mae gan yr Eglwys ychwaneg na hyn i geisio ei gyflawni yn Fiji; mae hi i fyned yn uniongyrchol. at y pagan- iaid. Cludir nifer mawr o'r brodorion o ynysoedd pellenig, a lluaws o honynt o Esgobaeth Genhadol Melanesia, i weithio yn y planhigfeydd yn yr ynys- oedd hyn, ac fel gwasanaethyddion yn nheuluoedd ein cydwladwyr yn y trefydd. Tra y parhao hyn, dyledswydd amlwg yr Eglwys ydyw gwneuthur a all ar eu rhan. A chyn bo hir gellir disgwyl i nifer mawr o Coolies o'r India gyraedd y Drefedigaeth. Rhydd hyn gyfleusdra rhagorol i'r Eglwys gyflawni —hwyrach yn fwy effeithiol nag mewn gwledydd eraill—gwaith ag a fydd ond odid cyn pen hir yn fendith i'r India, oblegid nis gall fod yn Fiji yr un graddau o ragfarn a dylanwad caste ag sydd yn ein cyfarfod yn India. Ond er mwyn hyn oil rhaid i ni gael y moddion-ychwaneg o glerigwyr, adeiladau Eglwysig, arian, a llyfrau at yr addoliad cyhoedd. Mae ein Heglwys, yr hon a blanwyd yn Fiji dair blynedd ar ddeg yn ol, bellach wedi ymwreiddio yn ddwfn yno. Ond tuag at iddi gynyddu fwy-fwy, a chyflawni ei holl waith yn effeithiol, a llafurio er clod i Dduw ac ymledaeniad teyrnas Crist, ac ar fod i Fiji yn ysbrydol, fel ag y mae yn naturiol, fod yn "Arddyr Arglwydd,"yrydym yn ddifrifol apelio atoch chwi a ddarllenwch y papyr hwn am eich gweddiau, eich cydymdeimlad, a'ch cydweithrediad calonog.— William Lloyd, Capelivr yn Fiji, yn mhapyr chwar- terol yr S.P.G.
-----'_----_-RHIDYLL EINION.
RHIDYLL EINION. Goddefer i Einion ychydig eiriau o ragymadrodd wrth gyflwyno ei ridyll am y waith gyntaf i sylw caredig darllenwyr y LLAN. Teimla Einion fawr zel dros y LLAN. Creda fod dyfodol yr Eglwys yn rhanau unieithog Cymru, calon gynes y genedl, yn dibynu i raddau helaeth ar lwyddiant y Wasg Eg- lwysig Gymreig. Hydera fod dyfodol disglaer o flaen y LLAN, y Gyfaill, a'r Haul pan ddaw allan o'r newydd ddechreu y flwyddyn. Bydd yn warth oesol i Eglwyswyr Cymreig os na chefnogant, un ac oil, hyd eithaf eu gallu yr ymdrechioif a wneir i wella ac eangu dylanwad cylchgronau Cymreig yr Eglwys. Hyn yna am broifad Einion. Gair neu ddau eto am amcan a chynllun ei ridyll. Bwriedir bwrw i'r rhidyll o dro i dro bigion o'r Wasg Gymreig a Seisnig a fernir o ddyddordeb i ddarllenwyr y LLAN, ynghyd ag awgrymiadau a, thuedd ynddynt i gadarnhau a diwygio trefniadau yr Eglwys. Ni fwriedir chwil- iota am feiau ond barnu yn deg a diragfarn hyd y gellir, a dal y rhidyll yn wastad, a rhidyllio yn ddiofn sfdidderbynwyneb. Ni ymosodir ar bersonau nac enwadau, ond hyd y byddo egwyddor yntalw, a phan y byddo angen ymosod, gwneir ymclrch i beidio tori deddf cariad-perffaith gyfraith rhyddid. Gwell gan Einion ganmawl na chondemnio, a chroesawa y da o ba gyfeiriad bynag y delo. Ni ddygir gwleid- yddiaeth i'r rhidyll ond yn gynil. Ceir deall rhyw dro eto syniadau gwleidyddol Einion. Ar hyn o bryd nid yw am amlygu mwy na'i fod yn wladgarwr gwresog ac yn Eglwyswr penderfynol, ac y dymunai fod yn ddiragfarn. Dyna, hwyrach, ddigon neu ormod am brofiad a chyffes ffydd Einion. Bellach, eilia Einion o'r neilldu, a daw y rhagenw angen- rheidiol ond anhylaw y "fi" fawr, fel y mae gwaetha'r modd, i'r golwg. COFFADWRIAETH WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN. Llawenycha pob Cymro fod cynygiad ar droed er anrhydeddu enw per ganiedydd Cymru, yr Emynydd melus o Bantycelyn. Y mae trysorau lawer ar gael yn ein llenyddiaeth Gymreig, ond yn fy marn i, nid oes genym ddim mwy swynol na'r hen Fabinogion mewn rhyddiaeth a gweithiau William Williams mewn barddoniaeth. Os prif ragoriaeth celfyddyd lenyddol yw naturioldeb claw y rhai hyn yn bur agos at berffeithrwydd, a daliant eu :cydmaru a. cheinion llenyddiaeth unrhyw genedl. Deuwn allan fel gwladgarwyr i anrhydeddu gwr yr erys ei enw byth yn glod i'n gwlad. Deuwn allan fel Eglwyswyr, canys yr oedd y bardd o Bantycelyn, fel y tadau Methodistaidd eraill, yn Eglwyswr fiyddlawn. Perthyn yr anrhydedd o. gychwyn y symudiad er parchu ei gofiadwriaeth i ddau Fethoiist. Na eiddigedder am hyny, ond gofaler i'r symudiad fod yn genedlaethol, ac nid yn Fethodistaidd. Gwelais yn y Faner lythyr yn cynyg cael Capel Methodist- aidd Saesneg fel cofgolofn iddo. Nis gallwn gredu yrenilla cynygiad morfanaddas ffafr. Chwithig o beth fyddai anrhydeddu enw un o'n prif lenorion Cymreig yn Saesneg. Nid teg ychwaith fyddai codi capel coffadwriaethol. Nid Methodist fel Methodistiaid yr oes hon oedd Williams, Pantycelyn, ond Eglwyswr a elwid yn Fethodistaidd. Tybiaf mai y goffadwr- iaeth oreu fyddai cael cofgolofn deilwng ar ei fedd, ac argraffiad rhad o'i Emynau a'i Farwnadau, er eu dwyn o fewn cyraedd pob darllenydd. Beth ddywed ein darllenwyr ? Y GENINEN. Y mae y Geninen yn tyfu yn iach a gwerdd. Llawen genyf ei gweled yn parhau yn wir genedl- aethol, Gwelais yn y Western Mail fod Lladmerydd yn y Tyst a'r Dycld, yn beio ar ei golygydd galluog a gweithgar, Eifionydd, am agor ei thudalenau i ys- grifau ar neillduolion y gwahanol enwadau, o herwydd eu bod yn magu teimla dau drwg. Nis gallaf gydsynio a Lladmerydd. Os oes cecru yn codi, nid ar y Geninen y mae y bai, ond ar y cecrwyr, Darllenais yr ysgrifau, ac er eu bod yn amrywio llawer mewn gallu, gwn mai dymuniad penodol y golygydd oedd iddynt oil fod yn foneddigaidd. Beirn- iadwyd llawer arnynt yn y newyddiaduron. Cafodd y Parch. W. Nicholson gryn gerydd yn y Genedl, er engraifft, gan y Parch. J. Evans (Eglwysbach), ac ymddengys oddiwrth y Cenad Hecld, na chymerodd y cerydd yn garedig. Ond ofer beio y Geninen am hyn. Rhaid i Mr. Nicholson, fel pawb eraill, oddef ei feirniadu. Y mae angen mawr ar hyn o bryd goleuo y wlad am egwyddorion y gwahanol enwadau. Dywedodd y Parch. T. C. Edwards, Aberystwyth. o gadair Cymdeithasfa y Methodistiaid yn Aberayron, mai ei reswm ef dros lynu wrth ei enwad, oedd iddo gael ei fagu ynddo. Os dyna reswm gwr o'i allu a'i ddysg ef, amlwg, fel y dywed y Goleuad yr wythnos hon, fod gwaedoliaeth ac arfer yn penderfynu dal- iadiu crefyddol rhan fawr o Ymneillduwyr Cymru heddyw. Gwyntyllier egwyddorion yr enwadau, a chredaf y gwel amryw nad oes sail gadarn i barhad enwadol yr un o'r enwadau, ac mai yr unig adeilad a ddeil brawf a chwyldroad meddyliol sydd wrth y drws yn Nghymru trwy dclyfodiad prysur llenydd- iaeth Seisnig i'n plith, ydyw hen Eglwys Gatholig y tadau. Y mae ysbryd yr oes yn anadlu anadl ymhob cyfarfod. Ni cheir undeb ond ar sylfaen eang hanesiol yr olyniaeth apostolaidd. Yr ydym yn falch fod cymaint o ddarllen ar erthyglau y Geninen ar yr Eglwys a'r enwadau. Gresyn genym gofio na cheir air eto ynddi gan y Decn Edwards, erthygl yr hwn ynddi ar Paham yr wyf yn Eglwyswr ?" oedd un o'r erthyglau goreu a welais erioed yn Gymraeg. Ymddengys y flwyddyn nesaf erthyglau ar Ffurf- lywodraeth yr Eglwys a'r amrywiol snwadau." Yr ysgrifenwyr fyddant y Parchn. Glanmor dros yr Eglwys; D. Edwards, Casnewydd, dros y Methodist- iaid, Charles Davies, Lerpwl, dros y Bedyddwyr, J. Hughes (Glanystwyth), dros y Wesleyaid; ac L. Probert, Porthmadog, dros yr Annibynwy.r Ym- ddengys hefyd adolygiadau ar yr ysgrifau a ym- ddangosasant eleni ar neillduolion yr Eglwys a'r enwadau. Ysgrifenir yr adolygiadau gan Eglwyswr a gweinidogion Ymneillduol. Ceir enwau yr adol- ygwyr eto. Y GENEDL GYMREIG A'R EGLWYS. Dymunaf cyn cadw fy rhidyll yr wythnos hon gyfeirio at y pwnc hwn. Ceryddwyd yn llym yn y LLAN yr wythnos o'r blaen a chynt at don erthygl a llythyr a gyhoeddwyd yn y Genedl ychydig yn ol. Ymddangosodd hefyd lythyr yn ngholofnau y Genedl i'r un perwyl. Da genyf weled yn adolygiad y Genedl ar Seren Gomer yr wythnos o'r blaen fod y golygydd yn awyddus am gadw ei cholofnau o hyn allan yn lAn oddiwrth bob chwerwder ac anfoneddig- eiddrwydd, ac yn dysgu eraill felly. Nis gallaf gytuno a'i golygydd, y Parch. A. J. Parry, mewn llawer o bynciau hanfodol, ond er hyny y mae genyf barch calon iddo am yr amlygiad cyhoeddus hwn o'i awydd i draethu ei farn a dadleu ei ochr mewn dull teg. Arwydd gobeithiol arall, a ddylid ei nodi, o ddymuniad golygydd y Genedl i beidio dolurio Eg- lwyswyr rhagllaw yw yr erthygl ffafriol ar y di- weddar Barch. E. 0. Hughes, M.A., Periglor Llanddeiniolen. Nid gwaith hawdd yw golygu newyddiadur, a chredaf mai amryfusedd, y mae yn wir ddrwg gan y golygydd o'i herwydd, fu yr hyn yr achwynid arno. Tebyg fod llawer o ddadleu brwd o'n blaen yn Nghymru ar Ddadgysylltiad ac amryw bethau eraill. Yr wyf yn barod i ddadleu dros egwyddor, ac nid gwerth dadleu yn gynil megis ymladd mewn menyg, ond dylai pob ochr wneyd eu goreu i dynu ymaith golyn dadleuon, sef ysbryd chwerw, cas, anghrefyddol, rhag i'n gwlad, rhwng ein dwylaw, ddiflasu ar gecraeth crefyddwyr, a rhuthro i anffyddiaeth. Aeth y rhidyll yn lied lawn y tro hwn. Ceir rhidylliad byrach y tro nesaf. EINTON.
-----_--_----__---_ DREFACH,LLANGELER.
DREFACH,LLANGELER. Er's amser yn ol torodd strike allan yn y lie hwn gan y gwehyddion er llwyr atal menywod i weithio yn y Factories gwlanen, a llwyddasant i atal nifer fawr o honynt, ond er hyny y mae drwgdeimlad yn bodoli rhyngddynt a'u gilydd. Nos Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan yr undeb yn y Long Room, Red Lion. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Richard Jones, Panteg. Pasiwyd y rheolau canlynol:—1, Nad oes yr un o'r undeb i weithio gyda menyw. 2, Nad oes yr un apprentice i gael dysgu ond yn ol cyfartaledd o un am bob tri gweithiwr. 3, Nad oes yr un o honynt i fyned i weithio i'r Black Shop. 4, Fod pob un allan o'r undeb i dalu 10s. o ddirwy os bydd wedi bod yn gweithio mewn black shop, a pbob un o fewn pum milltir i dalu i21 5s. 0 entrance fee i'r gymdeithas. Gobeithio y gwelir heddwch yn y lie hwn yn fuan.-Bargoe(lian.
[No title]
Yn mrawdlys Manceinion, ddydd Mawrtli, pasiwyd dedfryd marwolaeth ar ddyn ieuanc, 25 oed, o'r enw Kay Kayworth, am lofruddio un Richard Dngdall. yn Bolton, ar y 3ydd cynfisol. Parhaodd y prawf am ddeng awr. Ycbydig ddyddiau yn ol penderynodc1 Cyngor Prif-ysgoi Deheudir Cymru ychwanegu nifer a gwerth yr ysgoliaethau, ac felly yn y dyfodol bydd i £1,320 gael ou rhoddi ymaith yn y dull hwn ynglyn a'r coleg. Nid yw y swm uchod yn cyn. wyay 76 o lenfuddiauau 0 MO y flwyddyn.
Advertising
CHARLES' ELECTRIC CORN & WART CURE. A New and Painless Cure for ootti-8 find Warts it con- tains no mineral acida, caustic, or anything injurious; it has the advantage over similar preparations in being quite painless. Success is certain. Beware of Imita- tions. Prepared only by R. E. CHARLES, Chemist, BRECON. In Bottles, H,d. and 13d. each. Please read Testimonials Brecon, March 15, 1884. Sir,—Your preparation for corns has completely re- moved two corns which troubled me for 20 years. I can confidently recommend it.-lours, &c., JOSEPH JOSEPH. Sent by Post for lid or 15d in stamps. 4H, Reporton road, Walham Green, London, Feb. 8th, 1884. Sir,—Will you kindly send me a Is ld bottle of your Corn Eradicator per return, for which I enclose postal order and stamps. I had some given roe by a friend some time ago, and I find it invaluable. Can you also le me know where I can procure it in London :1 have tried several places, but without success.—1 am, Sir, your obedient servant, JAS. ELLIOTT. Mr. Charles, Chemist, High St., Brecon. Sent by Post for lid or 15d in stamps. Workhouse, Brecon, March 22. Sir,—I have much pleasure in conveying to you my testimony of the high value of your Corn Solvent, which I have every reason to believe possesses qualities and advantages far superior to other preparations now so largely in use- It is cheap, simple, and easy of application.—Yours truly, H. N- KETTLE, Master. Sent by Post for lid or 15d in stamps, Sent by Post for lid or 15d in stamps, 19, Clifton Crescent, Birkenhead, 11th March, 1882. Dear sir,-I have great pleasure in testifying to the good qualities contained in your world-renowned Electric Corn and Wart Cure. I can hardly express to you my feeling of relief after having applied this wonderful invention to my corn a few times: in fact, it w c is beyond description. Before purchasing a bottle I used to pick my way carefully, avoiding all stones, &c., but now I am not afraid of tramping over the roughest macadamized road in the district. I shall recommend it to all my friends.—I remain, dear sir, yours faith: fully, B. EVANS. Sent by Post for lid or 15d in stamps. Crickhowell, March 29, 1882. Dear sir,-Please send to-morrow one dozen Corn Cure. I hear very flattering accounts of its efficacy.- Yours truly, J. J. EDWAIIDS, chemist- Sent by Post for lid or 15d in stamps. Cwmclyn, Libanus, ger Aberhonddu. Anwyl syr,—Dymunaf eich hysbysu fy mod wedi rhoddi prawf o'ch darpariaeth, a chael ynddo waredig- aeth gyflawn oddiwrth gyrn.—Yr eiddoch yn gywir, PRICE JONES- Sent by Post for lid or 15d in stamps. Mr Davies, Chemist, Swansea, writes to say, your Corn Cure gives general satisfaction." 11, Great Oxford Street, Mount Pleasant, Liverpool, April 19, 1884. Mr. R. E. Charles,—Dear Sh, 1 have much pleasure in testifying to the efficacy of your COHN CUIlE. Upon the first application its effect was almost magical, and one bottle entirely cured my corns, after I had tried other preparations without success. Several friends for whom I have procured bottles of your preparation have assured me of the very great and lasting benefit they have derived from its use. I believe it to be the very Ic best cure for corns of any now before the public, and am confident that its invaluable qualities will ensure it a large and increasing sale.—Yours faithfully, ALFD. H. HANSON STILES. Sent by Post for lid or 15d in stamps. 28, Watton, Brecon, May 12, 1882. Dear Sir,—With deep gratitude and unspeakable confidence I can testify to the healing qualities of your COHN CURE, one bottle of which sufficed to relieve me of years of perpetual pain from Jour bad eorns.Yours truly, W. M. Sent by Post J or lid or 15d in stamps. 48, High Street, Brecon, May 16, 1882. Dear Sir,—Having for mar,,7 years suffered from corns, I was induced to try your ELECTRIC CORN CURE. After a few applications it removed my corns without the slightest pain.—Yours, REES JONES. Wellington Place, Brecon, July 5th, 1883. Mr. Charles,—Dear Sir,—It is my pleasing duty to inform you that your valuable Corn Preparation suc- ceeded in removing my never-to-be-forgotten corn, after all other known remedies had been tried in vain. Such a remedy as yours ought to be made widely known, as sufferers from coins can be counted by tens of thous- ands. You may make what use you like of this, as I am very grateful that your remedy relieved me of such fearful agony.—Believe me, sir, to remain yours sin- cerely, RICHARD G. FRYER. Semi by Post for lid or 15d in stamps. The Grove, Bishop Auckland, Near Durham, Aug- 3, 1883, Dear Sir,—After having tried many so-called cures, I obtained, through a friend, a bottle of your Corn Cure, and after the first dressing gave me such relief as to be able to walk with ease and comfort as I had not done before for years.—P.S. You may make use of this slight recognition as you think fit.—Yours very truly, CHARLES HORTON. Mr. R. E. Charles. Sent by Post for lid or 15d in stamps. Hay, November 19, 1883. Please to tend me as soon as possible 3 doz. Corn and Wart Cure.—T. STOKOE, Chemist. Please send 2 doz. Corn Cure (small size), per Parcels' Post.—GWILYM E VANS, Chemist, Llanelly. London Agents; Barclay, 95, Farringdon Street. LLYSIAU YDYNT Y MEDDYGINIAETHAU NATURIOL GOREU TUAG AT WELLA POB MATH 0 AFIECHYD YMHLITH YR HIL DDYNOL. DIODYDD LLYSIEUOL ANFEDDWOL TRIMNELL, r-* t ADDAS I HAF A GAUAF., OANMOLIR y dioclydd hyn yn fawr gaD swyddogion Cymdeithasau y Temlwyr Da a Byddin y Ruban Glas, ar gyfrif eu rhinwedd uwchlaw pob diod arall tuag at buro a chryfhau y cyfansoddiad a ddygwyd erioed gerbron y cyhoedd. Trwy ei ddefn- yddio, mae miloedd wedi eu gwaredu oddiwrth feddw- dod. •• • 6c. y Sypyn; drioy y post, 8c. Cymeradwya ei hun. GWNA TIC ERADICATOR TRIMNELL, Wella mewn moment Ddanodd, Tic-Doloreux, Neural- gia, neu unrhyw boen arall yn y pen a'r gwyneb, drwy ei ddodi ar y rhanau poenus. Mae yn rhagorach nag eraill, am y gellir ei ddefnyddio yn allanol, tra y mae lliaws o'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn dufewnol yn cynwys sylweddau gwenwynig cryfion. D.S.—Ni wna nnrhyw niwed i'r croen, na gadael marc ar ei ol. Is. lie. y hotel. Y feddyginiaeth oreu tuag at wella anwyd yw COLD OR SWEATING POWDER TRIMNELL, Yr hwn a symuda bob arwyddion o'r cyfansoddiad. Ni ddylai neb fod hebddo, gan mal dyma y ddarpariaeth oreu a ddygwyd erioed o flaen y cyhoedd. Mae y cymysgedd hwn yn anmhrisiadwy ar ym-, ddangosiad cyntaf Anwyd, Enyniad, Poenau yn yr Ystumog, Rhyddni y Coluddion, Crydeymalau, Cymal- wst, Poenau yn yr Aelodau, ymosodiadau Parlysol, Spasms a Cramp, ynghyd a, symnd unrhyw afiechyd yn tarddu o anwyd. Mae hefyd yn rhagorol fel amddi- ffynydd i bersonau pan yn myned allan i dywydd llaith, tarth, rhew, neu eira. Hefyd tuag at buro y gwaed oddiwrth bob anmhuredd, megis Coesau Drwg, Plor- ynau, Cryndod, &c., nis gellir rhagori arni. Is. 1 a 2s. 9c. y sypyn drioy *>j Llythyrdy. COUGH BALSAM TRIMNELL. Nid oes dim wedi ei ddarnganfod a ddeil i'w gymharu a'r Balsam hwn. Mae ei weithrediad mor syml fel y gellir ei roddi gyda pherffaith ddiogelwch i'r plant leuangaf, eto mae yn ddigon cryf i atal ymlediad yr achosion gwaethaf o anwyd, pa un bynag ai peswch croup, pas, pneumonia, pleurisy, asthma, bronchitis anhawsder i anadlu, neu yr afiechyd ofnadwy hwnw, y darfodigaeth, yrt hwn sydd yn achoai marwolaeth cy- nifer o filoedd yn flynyddol. Is. lie. a 2s. 6c. y sypyn drioy y Llythyr dy. EMBROCATION BYDENWOG TRIMNELL Tuag at wella cryd-cymalau, rheumatic gout, lumbago, poen yn yr aelodau, anyswythder yn yr aelodau a'r gwar, llosg eira, ymosodiadau parlysol, sigiadau, toriad- au, spasms, cramp, quinsey, a dolur gwddf. Sicrheir mai dyma y moddion goreu i wella yr anhwylderau uchod ar ddyn neu anifail. Is. lic. a 2s. 9e. NERVINE TONIC TRIMNELL, Wedi ei gyfaddasu i'r ddau ryw. Gwellha bob math o anhwylder gieuol o unrhyw natur. A ganlyn ydynt ychydig o arwyddion yr anhwylder hwn :-Iselder ysbryd, diffyg awydd i ymegnio, anaddasder i efrydu, casineb i gymdeithasu, a gwneyd unrhyw waith, gwrido anwirfoddol, y golygon yn gymylog, gwreichion o flaen y llygaid, byddardod a swn yn y clustiau, teimlad o dyndra neu fygiad. hunan amheuaeth parhaus, poenau yn y Iwynau a theimlad o flinder, enyniad yr afu a'r ys- wigen, cryniad y galon, cryndod sydyn, yswildod eithafol, hoff o unigrwydd, diofal am fywyd, ei lawen- ydd, ei bleserau, a'i ddyledswyddau, anghysondeb y coluddion, teimlad o annheilyngdod, diffyg cof, an- mhariad galluoedd meddyliol, aflonyddweh eithafol, gwyntogiad a diffyg treuliad, cur yn y pen, digalondid dirgel yn codi oddiar wendid corphorol, ofni gwallgof- r rwydd, rhagolygon presenol brwnt, dim gobaith am y dyfodol, dychrynu wrth gysgu, edrych a theimlo yn glafychus heb unrhyw achos am hyny. Gwna un neu ddau o sypynau o'r NERYINE TONIC wella achosion ysgafn o'r anhwylder uchod. Lie y mae y dioddefydd wedi ei esgeuluso, neu heb ei drin yn briodol gan y meddyg, cymer ychwaneg amser. Is. lc. a[2s. 9c. y sypyn. •Wf"] PELENAU LLYSIEUOL TRIMNELL. IFAYMA feddyginiaeth rhagorol at wella pob math o anhwylderau yn y coluddion a'r afu, ymosodiadau clefydon, influenza, diffyg archwaeth, diffyg treuliad, golygon gwan, poen ac ysgafnder yn y pen, a phob math o afiechy(I cysylltiedig a'r ystumog a'r coluddion. Mae rhif 1 a 2 yn addas i'r ddau ryw. Is. 1 c. a 2s. 9c. y blychaid. Gellir cael Antibilious Pills ynghyd a rhai llysieuol a rhyddhaol am geiniog y blychaid. Dymunn. W. TRIMNELL ddwyn i sylw y cyhoedd yn gyffredinol y ffaith fod ganddo yr ystoc helaothaf o Lysiau Seisnig a Thramor, Gwreiddiau, Rhisgl, Blodau, Hadau, Dail, &c., yn Neheudir Cymru. Mae un prawf yn ddigon i brofi effeithiolrwydd y meddyginiaethau uchod, y rhai ellir gael gan Fferyllwyr a Gwerthwyr Meddyginiaethau drwy y byd. Os teimlir unrhyw anhawsder i'w cael, anfonir hwy ar dderbyniad Post Office Order neu stamps gan y Perchenog. An- fonir gwerth 2s. 9c. yn rhydd i unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol. Ceir cyfarwyddiadau llawn gyda phob sypyn. D.S.—Gofaler am fod enw y perchenog ar Stamp y Llywodraeth.-W. TRIMNELT,. Gwneuthurwr a Pherchenog, W. TRIMNELL, MEDICAL BOTANIST, MOIRA TERRACE, CARDIFF. 58 "1'it:t'8't'1'1'C'ft..H'l{->:tIft,r: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan FAusAMT-a FROST yn eu gwyddfa Argraffu, 135, High-street, Merthyr- 1, Tydfil, Tachwedd 14, 1884