Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

----------- -----------------_---_----._---Y…

News
Cite
Share

Y MAES CENHADOL. ,¡It, YNYSOEDD FIJI. Gorwedd yr ynysoedd hyn yn y Mor Tawel, o fewn i'r trofanau (tropics) o du'r dehau i linell y cyhydedd (Equator), ac o ba rai y mae oddeutu clau cant mewn nifer, ond dim ychwaneg na deg a thriugain yn cael eu preswylio. Byddai yn ormod gorchest o fewn terfynau y papyr yma i mi ddesgrifio harddwch a ffrwythlondeb yr ynysoedd hyn. Digon dywedyd eu bod mewn lluaws o ystyriaethau-o herwydd achos- ion naturiol-gyd a'u glanau cwrel, eu llwyni palm- wydd, lagoons, rhaiadrau yn rhuthro i lawr dros giogwyni serth, a mynyddau uchel, gorchuddiedig hyd eu crib & ffrwythydd rhagorol, yn ffurfio un o'r paradwysau mwyaf swynol ar y ddaear. Ychydig flynyddau yn ol edrychid ar yr ynysoedd hyn--gan forwyr llongddrylliedig, beth bynag-fel yn ddychryn i'r Tawelfor. Yr oedd paganiaeth, gyd a'i holl ffieidd-dra cysylltiol, rhyfel parhaus rhwng y llwyth- au, tywalltiad gwaed, a chanibaliaeth yn ei weddnod hacraf, yn ffynu yno heb na llestr na rheolaeth. Ond bydd yn dda genych glywed fod hyn oil wedi ei gyfnewid. Ryw haner can' mlynedd yn ol aeth cenhadau allan i'r ynysoedd hyn, ac yn nghanol y peryglon a'r digalondid mwyaf gwnaethant eu goreu i ddwyn yr anwariaid creulawn dan ddylanwad yr Efengyl. Yr oedd yr hyn y gorfu i'r cenhadon hyn ei ddioddef yn fwy nag a allaf fi ei osod allan. Nid oeddynt yn perthyn i'n corlan ni, eto gellir dywedyd er eu clod eu bod yn wyr a crsodasant eu bywydau mewn enbydrwydd er mwyn Crist a'i efengyl. Trwy eu llafur hwy ac achosion eraill, mae canibaliaeth a phaganiaeth wedi diflanu, y bobl, mewn enw o leiaf, yn Gristionogion, a bendithion gwareiddiad yn ym- daenu dros yr ynysoedd. Rhaid i mi bellach ddywedyd ychydig wrthych ynghylch gwaith yr Eglwys yno. Mae lluaws mawr o'n cydwladwyr a'n cyd-Eglwyswyr ar wasgar drwy'r ynysoedd. Gallwch yn hawdd ddimad y dylanwad mawr, naill ai er da neu er drwg, a fedd y dyn gwyn ymhob man ar y cenhedloedd duon. Nid yw Fiji yn un eithriad yn hyn o beth. Gan hyny teimla yr Eglwys mai ei dyledswydd, yn y lie cyntaf, er mwyn ei phlant ei hunan, ac yn yr ail le, er mwyn y brodorion truain ar ba rai y mae gan eu hesiampl y fath ddylanwad, ydyw dilyn ar ol ei haelodau a'i gweinyddiadau a'i hordinhadau, fel o dipyn i beth y bo'r canlyniadau yn fendith fawr i'r oil. Yn hyn o beth, fel mewn pethau eraill, mae'r Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl yn ymddangos fel pe'n dilyn yn llythyrenol esiampl ein Harglwydd, yn ceisio yn gyntaf ddefaid cyfrgolledig Ty Israel (ysbrydol), o herwydd y byddant, gwedi unwaith y dygir hwy yn ol, yn fendith i eraill. Rhydd y gymdeithas gynorthwy mawr i'r Eglwys gyflawni ei gwaith yn Fiji. Ond mae gan yr Eglwys ychwaneg na hyn i geisio ei gyflawni yn Fiji; mae hi i fyned yn uniongyrchol. at y pagan- iaid. Cludir nifer mawr o'r brodorion o ynysoedd pellenig, a lluaws o honynt o Esgobaeth Genhadol Melanesia, i weithio yn y planhigfeydd yn yr ynys- oedd hyn, ac fel gwasanaethyddion yn nheuluoedd ein cydwladwyr yn y trefydd. Tra y parhao hyn, dyledswydd amlwg yr Eglwys ydyw gwneuthur a all ar eu rhan. A chyn bo hir gellir disgwyl i nifer mawr o Coolies o'r India gyraedd y Drefedigaeth. Rhydd hyn gyfleusdra rhagorol i'r Eglwys gyflawni —hwyrach yn fwy effeithiol nag mewn gwledydd eraill—gwaith ag a fydd ond odid cyn pen hir yn fendith i'r India, oblegid nis gall fod yn Fiji yr un graddau o ragfarn a dylanwad caste ag sydd yn ein cyfarfod yn India. Ond er mwyn hyn oil rhaid i ni gael y moddion-ychwaneg o glerigwyr, adeiladau Eglwysig, arian, a llyfrau at yr addoliad cyhoedd. Mae ein Heglwys, yr hon a blanwyd yn Fiji dair blynedd ar ddeg yn ol, bellach wedi ymwreiddio yn ddwfn yno. Ond tuag at iddi gynyddu fwy-fwy, a chyflawni ei holl waith yn effeithiol, a llafurio er clod i Dduw ac ymledaeniad teyrnas Crist, ac ar fod i Fiji yn ysbrydol, fel ag y mae yn naturiol, fod yn "Arddyr Arglwydd,"yrydym yn ddifrifol apelio atoch chwi a ddarllenwch y papyr hwn am eich gweddiau, eich cydymdeimlad, a'ch cydweithrediad calonog.— William Lloyd, Capelivr yn Fiji, yn mhapyr chwar- terol yr S.P.G.

-----'_----_-RHIDYLL EINION.

-----_--_----__---_ DREFACH,LLANGELER.

[No title]

Advertising