Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

[No title]

PREGETHAU IDRISYN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

PREGETHAU IDRISYN. 1. Oddiwrth yr Hybarch Archddiacon North, M.A. F 'y anwyl gyfaill Idrisyn,—Yr wyf yn dra dyledus i chwi am eich cyfrol gyntaf o'ch Pregethau. Yr wyf yn eu gwerthfawrogi fel arwydd o'm parch i un ag y gallaf ddywedyd yn wirioneddol fy mod yn ei werthfawrogi ar gyfrif ei uchel gymerind a'i allu meddyliol. Darllenir y Pregethau genyf gyda dyddordeb a budd. Gallaf ddywedyd yn ddiwyll nad effeithiwyd arnaf yn gymaint gan unrhyw bregethau o'r eiddoch cliwi pan yn eu gwrandaw, o herwydd eu nerth a'u meddylgarwch. Bu'm yn meddwl yn ddiweddar i ysgrifenu atoch i geisio genych gyhoeddi rhai o'ch cronfa iawr o Bregethau; ac yr wyf yn ddiolch- gar am eich bod wedi rhagflaenu fy awgrymiad. Yr wyf yn gobeithio y bydd i ychwaneg o gyfrolati ei dilyn." 2. Oddiwrth y Parch. Roger Williams, B.D, Llanedi. Anwyl Mr. Jones,-Darlienais eich gyfrol gyntaf o Bregethau Cymreig gyda phleser mawr. Yr wyf yn sicr ein bod mewn dyled o ddiolchgarwch i chwi am eich llafur yn y cyfeiriad hwn. Y mae yr holl Bregethau yn dda, ymar- ferol, ac awgrymiadol; a gelllir eu defnyddio gan y rhai ag y mae eu hamser yn fyr o barotoi y nifer angenrheidiol. Fel y dywedwch yn eich Rhagymadrodd, y maent yn fyr ond y maent yn Ily ddigon hir i'r dyddiau presenol, ac yn dra aw- grymiadol." 3. Oddiwrth y Parch. Robert Thomas, di- weddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanover, a ysgrifenwyd ganddo ychydig ddyddiau cyn iddo farw.—" Darllenais Bregethau Mr. Jones gyda gofal a manylwch. Gallaf ddywedyd fy mod yn eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Y maent yn hufen yr Efengyl. Y mae trefn Iachawdwriaeth yn cael ei gosod allan ynddynt mewn ffurf eglur ac ymarferol; ac os bydd i'r darllenydd ei darllen yn ysbryd yr awdwr, nis gallant lai na phrofi o fendith fawr i'r cyhoedd."

TREFDRAETH.'

Y DADGYSYLLTIAD YN NGHYMRU.

[No title]

LLANGORWEN, GER ABERYSTWYTH.

PENRITH.

Y GOHEBYDD GWIBIAWL.