Hide Articles List

9 articles on this Page

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) COLEG CAERDYDD A'R EGLWYS. At Olygydd Y Llan." Syr,—Caniatewch i mi ateb, can gynted ag y gallaf, ethygl arweiniol a ymddangosodd yn y LLAN yr wythnos o'r blaen ar y testyn uchod. Maddeued ysgrifenydd yr ethygr i mi am ddechreu trwy gywiro un amryfusedd y llithrodd iddo ynghylch enw Coleg Caerdydd. Geilw ef yn Brifysgol." Nid ydyw yn Brifysgol, end Coleg Prifysgolaidd. Sylwaf fod awdwr yr erthygl yn eon am Brifysgol Caerdydd a Choleg Llanbedr. Rhy ddrwg o lawer mewn erthygl arweiniol yn y LLAN. Os rhaid galw un o'r Colegau yn Brifysgol, gan Llanbedr y mae hawl i'r teitl, canys y mae genym raddan. Y mae graddau yn hanfodol i Brifysgol. Yr !ydym yn dal fod Llanbedr yn Goleg llawn mor Brifysgolaidd a Chaerdydd, oherwydd cyfrenir yma, gallaf ddweyd yn ddi- ymfirost, addysg lawn mor eang ag a wneir yno, neu yn un o'r Colegau eraill. Fe gofir y ddadl a gymerodd le ddechreu'r haf pan gorddodd rhag- farn enwadol gyntaf yn erbyn Llanbedr ymuno A chynhadledd Mr. Rathbone. Yr ydym yn hawlio y teitl o Goleg Prifysgolaidd Canolog Cymru, er i'r Prifathraw Edwards, o Aberystwyth, yn Nghroesoswallt, weled yn dda ein galw yn ddi- gywilydd o eofntam,fynulein hawliau. Gan nad oedd ysgrifenydd yr erthygl yn bwriadu ein di- raddio, felly gellir gadael y teitlau gyda hyna o eglurhad. Yn awr, ynghylch ei ddadl o blaid cael hostel Eglwysig yn Nghaerdydd, tybiaf ei fod wedi cymysgu dau beth y byddai yn well eu cadw ar wahan, sef llety i efrydwyr a hyfforddiant crefydd- ol iddynt. Diffyg pwysig ynglyn & Choleg Caer- dydd yw nad oes gan y Coleg gynllun i letya yr efrydwyr gyda'u gilydd. Nid allaf weled fod gal wad ar yr Eglwys i gyflenwi y diffyg hwn. Dyledswydd Cyngor y Coleg yw darparu lletyai. Ni raid cael hostel er mwyn darparu addysg grefyddol ar gyfer yr ychydig efrydwyr Eglwysig a ddichon fod yn y Coleg a'u cartrefi allan o Gaerdydd. Ceir gwasanaeth dyddiol mewn mwy nag un o Eglwysi Caerdydd. Hawdd iawn fyddai i un o is-ganoniaid Llandaf neu offeiriaid Caer. dydd, yn ychwanegol at y gwasanaeth dyddiol drefnu i edrych ar ol arweiniad cretyddol efrydwyr Eglwysig. Nid yw yn debyg y bydd eu nifer yn fawr oddigerth rhai y byddo eu cartrefi yn Nghaerdydd a'r gymydogaeth. Y mae Llanbedr yn lie rhatach i fyw, a diau y bydd yn well gan bron bawb o Eglwyswyr Cymru anfon eu meibion i Goleg sydd yn Goleg yr Eglwys nag i Goleg y Llywodraeth, hyd yn nod pe ceid ynglyn ag ef yr atodiad anhylaw o hostel Eglwysig. Heblaw fod hostels Eglwysig yn Mangor a Chaerdydd yn ddi- anghenraid, y mae y cynllun, yn ol fy marn i, gyda phob dyledusjbarch i'r cyfeisteddfod dylan- wadol a ymgyfarfu yn Mhalas Bangor, yn myned i ddwy wrthddadl bwysig. Fe enyn eiddigedd enwadol, ac fe duedda i wanhau Llanbedr, tra, fel y ceiaiaia ddangos, na wnel les yn y byd i'r Eg- lwys. Y mae yn rhy fuan eto i anghofio y wers a ddysgwyd i ni gan y cythrwfl ynglyn & chynygiad Mr. Rathbone. Bydd yr Eglwys, trwy agor hostels o flaen yr Ymneillduwyr, yn chwareu i ddwylaw pleidwyr Aberystwyth. Y cri cryfaf o blaid Aberystwyth yn y Faner, a newyddiaduron Ymneillduol eraill, oedd fod yr Eglwys yn debyg o feddu gormod o ddylanwad yn Mangor a Chaerdydd. Gwyr pawb mor ddisail oedd y cri, ond byddai rhyw fath o sail iddo pe dangosai yr Eglwys or-awydd i arwain setydliad yr hostels. Gwell o lawer fuasai o leiaf aros nes deall barn y cyhoedd ar y pwnc. Ni synem ddim pe byddai y farn gyhoeddus yn anffafriol. Os felly, prif effaith hostel Bangor fyddai gwanychu Colog Bangor ar draul cadarnhau Aberystwyth. Y mae llwyddiant hostel Eglwysig Bangor yn dibynu ar i hostels Ymneilldyiol gael' eu sefydlu yno hefyd. A llwyddiant pur gloff ar y goreu fydd cyfundrefn o hostels enwadol. Nis gellid dyfeisio dim mwy tebyg i barhau a chryfhau ein hymraniadau crefyddol annedwydd na chynllun trwy ba un y gwahenir yn gyhoeddus efrydwyr Coleg yn 01 eu barn grefyddol, ac y sicrheir iddynt hyd yn nod fwyta ac yfed yn|olfeu'credo. Buasai hostels an- enwadol sefydledig gan Gyngor pob Coleg yn agosau pawb at eu gilydd, yn toddi enwadaeth mewn un bywyd colegawl cyffredin. Yn lie bod y Colegau yn enwadol gwneii hwynt drwy hostels yn amlenwadol yn yr ystyr waethaf, ac ofnaf yn fuan max dechreuad ymladdau yw hyn oil. Gan fod Esgobion y Gogledd yn ffafr hostel yn Mangor, nid gweddus i mi, efallai, ymhelaethu yn eu herbyn, ond hyderaf na ddilynir yr esiampl yn Nghaerdydd nes gweled beth ddaw o un Bangor. Heblaw fod hostels yn ddiangenrhaid, ac yn eynwya egwyddor groes i egwyddor hanfodol colegau y Llywodraeth, y mae gan yr Eglwys waith nes ati i'w wneyd. Dywedaf gyda gofid, ond dywedaf yn ddiofn a difloesgni, na wnaeth dwy Egobaeth y Gogledd hyd yma ddim yn debyg i'w dyledswydd o blaid Llanbedr. Tra yr oedd yr Ymneillduwyr ymhob cyfarfod yn celnogi ac yn clodfori Aberystwyth, ni ynganodd Cynadleddau yr Eglwys yn y Gogledd, na chyfarfod un ddeon. iaeth, hyd y elywais, haner sill o du Llanbedr, a'r eyfle cyntaf gatwyd, heb air o gefn- ogaeth i Llanbedr, na chydymgynghor- iad, tarawyd ati i sefydlu hostel yn Mangor, cyn ei heisiau, a dweyd y lleiaf. 0 herwydd cynydd nifer^ein hefrydwyr rbaid i ni helaethu y coleg a'r ysgol newydd. Cyst hyn o leiaf JE5000. Cyn casglu .£500 yn y flwyddyn at hostel Bangor, dylesid yn gyntaf sicrhau y J65000 yna i Lanbedr. Byddai yn ddymunol hefyd ychwanegu ein hysgoloriaethau. Tra na chawn ddimai o'r Llywodraeth o herwydd ein oysylltiad A'r Eglwys, y mae yn gywilydd i Eglwyswyr, tra yr ydym mewn angen, luchio eu harian ynglyn ftg anturiaeth anamserol a ddichon yn hawdd wjjeyd mwy o ddrwg i'r Eglwys nag o les, trwy beri i'r wlad feddwl fod yr Eglwys mewn brys i enill ftir ar yr Ymneillduwyr yn Ngholegau y Llywodraetb. Gan fy mod mewn cysylltiad a Llanbedr, hwyrach y bernir gan rai fy mod yn ysgrifenu oddiar ofn llwfr ac an- nheilwng," ys dywedai awdwr yr erthygl. Gall coleg gyda 140 o ddynion a 60 o fechgyn fforddio gwenu yn wyneb y cyhuddiad o ofn. Er maint yr ystwr a wneir ynghylch hostels, gwyddom yn dda, beth bynag am arweinwyr yr Eglwys yn y Gogledd, fod calon yr Eglwyswyr yn y Gogledd wrth ein cefn. Nid wyf yn cyhuddo awdwr yr erthygl o oerfelgarwch at Llanbedr, ond yn tybied fod ei gynllun yn annoeth. Ni flinaf eich darllenwyr ar hyn o bryd a llawer mwy o feithder. Yr wyf yn barod i ateb unrhyw resymau dros yr hostels a ddichon awdwr yr erthygl neu rywun arall eu dwyn ymlaen o dan ei enw. Goddefwch i mi ychwanegu fod yn ddrwg genyf ddeall yn eich colofnau fod un o Ganoniaid yr Eglwys yn debyg o gael ei dynu o blwyf pwysig lie mae yn gwneyd gwaith ardderchog at orchwyl mor fvchan ag sydd i'w gael yn hostel Bangor. Un gair o eglurhad wrth derfynu. Ni fynwn er dim oeri mymryn ar gefnogaeth Eglwys- wyr i'r colegau newydd, na'u hanog i sefyll o'r naill du yn nghanol brwdfrydedd y genedl o blaid addysg. Y cyfan wyf yn ddadleu yw am i Eg- lwyswyr gefnogi y colegau newydd fel gwladgar- wyr agored heb lusgo Eglwysyddiaeth i mewn i'r mater ar draul tramgwyddo Ymneillduwyr a rhoddi cefnogaeth ddiafael a chlaiar, a dim ond ambell air o ganmoliaeth i'w coleg eu hunain yn Llanbedr.—Yr eiddoch, JOHN OWEN. O.S.—Na feddylied neb fy mod yn cwyno yn erbyn y LLAN ynglyn a Llanbedr. Yr ydym dan wir rwymau iddo am gefnogaeth gyson. Dymunaf hefyd gydnabod yn ddiolehgar rodd haelionus Arglwydd Esgob Llanelwy o £ 100 at adeiladau newydd y coleg.—J.O.

[No title]

PREGETHAU IDRISYN.

TREFDRAETH.'

Y DADGYSYLLTIAD YN NGHYMRU.

[No title]

LLANGORWEN, GER ABERYSTWYTH.

PENRITH.

Y GOHEBYDD GWIBIAWL.