Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
LLANRUG.
LLANRUG. Nos Fawrth diweddaf rhoddodd Mr. Wm. Dew. Y.H., Castell Brynbras, y wledd arferol ar ddydd pen ei flwydd. Yr oedd aelodau y Vaynol Royal Brass Band yno, yn rhifo 26, ynghyd a. gweithwyr y palas. Chwareuwyd amryw ddamau gan y seindorf, yn cynwys y darn cystadleuol yn Lerpwl, pan y cawsant yr ail wobr. Ar ol gwleddu ar y danteithion breision talodd Mr. Tidswe!l, y bandmaster, ddiolchgarwch i Mr. Dew am ei garedigrwydd tuag atynt, a'r parch y mae yn roddi iddynt bob amser, yn enwedig ar y dydd yma. Cafwyd canmoliaeth uchel iddynt gan Mr. Dew, ac i'r cantorion lleisiol yr un fath. Cafwyd unawdau a deuawd ynghyd a chan o glod i Mr. Dew, yr hon a gyfansoddwyd erbyn yr jachlysur. Yr oedd amryw o foneddigesau a boneddigion yno, y rhai a foddlonwyd yn fawr gan y ohwarauwyr a'r cantorion,
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.—Nos Iau di- weddaf, cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch yn Eg- lwys y plwyf. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parchn. D. L. Griffith, a H. Thomas, B.A. (Oxon), Penydarren, a darllenodd y diweddaf y llithoedd. Pregethwyd gan y Parch. T. P. Lewis, B.A., Troedyrhiw, ac y mae y cyfaill Ieuan Ferddig wedi cyfansoddi yr englynion a ganlyn i'r boneddwr parchedig Araeth gamp, mawr yw'th gwmpas,-dy enaid A daniodd ein dinas, Wefreiddiol fyfyr addas, Hwyliog rym efengyl gras. Hoff wesyn, paid gorphwyso,-tyr'd ar hynt 0 Troed y rhiw eto, Dawn ethol wedi nithio, Gwyl aur dreat yw'th gael ar dro. Arwisgwyd y cysegr henafol gan liaws o aelodau yr Eglwys, y rhai a deilyngant ddiolchgarwch di. ffuam am eu llafur. Dywedir na welwyd erioed yr eglwys hon wedi ei gwisgo mor wych yn wir, anmhosibl fuasai gwneyd hyny yn well nag ar yr achlysur presenol. Gwan ydyw yr achos yn y He fel y mae yn ofidus dweyd, a dylid gwneyd ym- drech i lanw y lie fel yn y dyddiau gynt. Daeth cynulleidfa weddol dda ynghyd, ond ar achlysur o'r fath disgwyliem weled yr eglwys yn orlawn o rai yn awyddus i brofi eu bod yn gwerthfawrogi y cynhauaf toreithiog a gafwyd. Y rhai canlynol fiiont yn arwisgo yr Eglwys :—Mrs. Thomas, Mrs. Davies, Mrs. Dowse, Mrs. Park, Mrs. Lewis, Mrs. Nicholas, Miss Hole, Miss Price, Miss Rees, Miss M. Park, Miss C. Park, a Miss Mansell. Canwyd yr anthem, Mor hawddgar yw dy bebyll'' gan y cor dan arweiniad Mr. Bowen, yr hwn hefyd a chwareuodd yr "Hallelujah Chorus tra yr oeddid yn casglu. Buaswn yn hoffi sylwi ar un peth neillduol fu yno, ond ymataliaf, oher- wydd diffyg gofod. Heblawy clerigwyr a nodwyd, yr oedd y rhai canlynol hefyd yn bresenol :— Parchn. C. Griffith, M.A., Merthyr R. M. Wil- liams, Merthyr Vale; W. Jones, B.A., Tydfil's Well; a W. James, Cyfarthfa:—Ymwelydd. CYMRO LLWYDDIANUS--Dyddiau Llun a Mawrth ymwelwyd a'r dref gan Mr. E. C. Pugh, yr hwn a fynegai y gallai ddarganfod pin wedi ei chuddio o fewn milldir oddiwrth y Castle Hotel, a llwydd- odd i wneyd hyny y ddau ddiwrnod, er boddhad y miloedd oeddynt wedi ymgasglu i'r heolydd. Y ddwy noswaith hefyd cynhaliodd gyfarfodydd yu y Drill Hall, pryd y rhoddodd brofion ychwanegol o'i allu rhyfeddol.
FFRWYDRAD OFNADWY MEWN GWAITH…
FFRWYDRAD OFNADWY MEWN GWAITH GLO. 15 0 BERSONAU A 43 0 GEFFYLAU WEDI EU LLADD. Tua naw o'r gloch nos Sadwrn, dychrynwyd pawb yn nghymydogaethau Bedwellty, a Dyffryn Sirhowy, gan swn ffrwydrad, ac erbyn gwneyd ymchwiliad cafwyd mai yn mhwll glo Pochin, perthynol i Gwmni Haiarn a Glo Tredegar, yr oedd yr anffawd wedi digwydd. Ymhen ychydig funydau yr oedd canoedd o bersonau wedi ymgynull i'r fan, a chan y gwyddid fod 15 o ddynion yn gweithio yn y pwll cyn y ddamwain yr oedd y teimladau yn angerddol. Heblaw hyn yr oedd un dyn yn gofalu am y peiriant tua haner y ffordd i lawr y pwll, a chlywid ef gan y rhai o amgylch y lie yn gwaeddi am gynorthwy. Mor fuan ag y deallwyd am y ddamwain, rhoddodd swyddogion cwmni y Lon- don and North Western beiriant a cherbyd at was- anaeth swyddogion y lofa, yn yr hwn gerbyd yr aeth Mr. Colquhown, arolygydd cyffredinol; Mr. Stratton, arolygydd y mwngloddiau; Mr. W. Hamilton, peirianydd ac eraill, i'r lie. Wedi cryn ymdrech llwyddwyd i achub bywyd y peir- ianydd. Yr oedd nerth y danchwa yn gymaint fel y chwythwyd i lawr yn deilchion beiriandy y wyntyll wrth enau y pwll, a chafwyd amryw ddarnau trymion o goed wedi eu chwythu dros gan' llath o bellder. Catodd y cawell ei guro yn erbyn genau y pwll a'i ddryllio. Aeth nifer o ymchwilwyr i lawr y pwll, ond gan fod awyriad y lie yn ddrwg, nis gallent fyned yn mhell, ond aethant yn ddigon pell i ganfod pedwar o gyrff. Adnabyddwyd tri o honynt fel cyrff Gwilym Owen, Evan Griffiths a John Daniels, ond yr oedd y pedwerydd wedi ei ddryllio a'i anafu yn ormod i neb allu ei adnabod. Nid oedd amheu- aeth o'r dechreu parthed tynged yr unarddeg eraill, gan nad oedd bosibl iddynt fyw ar ol y danchwa. Yr oedd rhaffau wedi eu gosod o am- gylch genau y pwll er cadw yn ol y tyrfaoedd o gyfeillion a pherthynasau y glowyr anffodus, a chynygiodd un dyn, o'r enw Pugh, yr hwn fe haerid oedd o dan effeithiau diodydd meddwol, roddi cynorthwy i'r rhai a ymbarotoent i fyned i lawr i'r pwll. Cafodd ei rwystro gan y swyddog- ion rhag d'od at enau y pwll, ond yn sydyn, Uwyddodd i'w hosgoi, a chan ruthro ymlaen aeth yn rhy agos at y pwll, a syrthiodd i lawr i waelod isaf y pwll, lie y cafwyd ei gorff wedi hyny, wedi ei ddryllio yn erchyll. Rhoddid ymddiriedaeth fawr yn niogelwch y lofa yma, gan y credid bob amser ei fod yn un o'r glofeydd a awyrid oreu yn Neheudir Cymru a sir Fynwy. Oddeutu haner dydd ddydd Sul, llwyddwyd i ail-gychwyn y wyntyll wrth enau y pwll, ac aeth yr ymchwilwyr i lawr drachefn, pryd y cafwyd pedwar o gyrff eraill yn y pwll, yr oil wedi eu niweidio a'u llosgi yn enbyd. Ni dderbyniodd y lofa ei hun lawer o niwed, a bernir y gellir dechreu gweithio yno ymhen ychydig ddyddiau. Aeth oddeutu 30 o ddynion i lawr i'r pwll boreu ddydd Llun i wneyd y lie yn barod i ddechreu gweithio eto. Hefyd, aeth Mr. Donald Bain, arolygydd cynorthwyol mwngloddiau, a Mr. Col- quhoan, y goruchwyliwr, i lawr yr un diwrnod. Credir y bydd y golled yn ddwy neu dair mil o bunau. Pe buasai y ffrwydrad wedi digwydd ar unrhyw noswaith arall o'r wythnos, tebygol y buasai oddeutu dau neu dri chant o bersonau yn cael eu lladd. Mae dau gorff heb eu cael eto, ac ofnir na cheir hwy am rai dyddiau, os o gwbl. Yr oedd 43 o geffylau yn y pwll ar y pryd, cyrff y rhai a gafwyd oil i fyny, a chladdwyd hwy mewn maes gerllaw. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu- oedd sydd wedi eu hamddifadu drwy y ddamwain ac y mae pob peth yn cael ei wneyd er darparu ar gyfer eu cynhaliaeth yn y dyfodol. Cynhaliwyd trengholiad ar rai o'r cyrff ddydd Mawrth, yr hwn a ohiriwyd am wythnos, gan nas gellir yn bresenol gael gwybodaeth beth ydoedd yr achos o'r ddamwain, nac ymha ran o'r gwaith y digwyddodd.
LLANDDOGET.
LLANDDOGET. MARWOLAETH DDISYMWTH.-Nos Sadwrn, Tach- wedd laf, taflwyd ein harddal dawel i fraw gan y newydd fod y brawd ieuanc Richard Jones, mab Mr. a Mrs. Jones, Ty'nllan, wedi huno yn yr angau yn dra dirybudd. Ymddengys ei fod mewn maes cyf- agos i'r llan gada'i dad a'i nai bychan, pan yn ddi- symwth gwelai ei dad ef yn syrthio, rhedodd ato, ac anfonodd y bachgen i ymofyn cymorth; daeth am- ryw i'r fan, ond bu farw'r gwr ieuanc heb yngan gair nac arddangos un arwydd o ymdrech na phoen mewn ychydig fynudau. Buasai ein cyfaill yn 23 mlwydd oed pe cawsai fyw hyd heddyw (Tach. lOfed). Yr oedd yn gymunwr rheolaidd yn Eglwys St. Doged, ac yn aelod o'r c6r a'r Ysgol Sabbothol. Gellir dweyd am dano fod ei fuchedd ddi-dramgwydd a'i rodiad gweddus wedi enill" iddo air da gan bawb. Yr oedd yn ddyn ieuanc hoffus gan bawb; ni welwyd gwg ar ei enai; chlywyd erioed air isel, na llw, na rheg yn dyfod dros ei wefusau, a chasai bob math o dwyll ac anwiredd. Claddwydd ef ddydd Mercher, a dydd Sul pregethodd y Parch E. J. Edwards, B.A., bregeth angladdol iddo. Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau." Dyma'r bachgen cryfaf, ac i bob ymddangosiad, iachaf, yn ein plwyf wedi ei eymud heb foment o rybudd, ac er ein bod yn gallu credu am ein brawd fod "marw yn elw iddo," nid oes wybod pwy fydd y nesaf. Am hyny byddwn ninau barod, canys yn yr awr ni thybiom y daw Mab y Dyn." Er mor ddirybudd oedd y aaeth, Fe wyddai Richard am y Gwr Fa'n plymio dyfnder eitha'r dwr, A throsodd fry heb boen yr aeth. Anwylaf fam pa'tn wyli mwy ?— Mae Richard fry heb fraw na phoen, Mae'nt hyfryd fry yn moli'r Oen, Mewn gwlad uwchlaw pob loes a chlwy. Hir gofio wnawn ei wyneb lion, Ei galon hynaws a di-frad, A'i fywyd pur a'i eiriau mad. Un na chaed twyll o fewd ei fron. Llattdd ogct NB. R. H. Robert*
LLYTHYR TOM PUDLER.
LLYTHYR TOM PUDLER. Y FASNACH. Syr,—Na ryfeddwch fy mod i yn siarad o hyd o hyd am y fasnach, am y gwaith, am yr enill. Mae'r teithiwr yn gwingo pan fo'r esgid yn gwasgu, mae'r gweithiwr yn cwyno pan fo'r Haw yn dolurio, mae'r penteulu yn teimlo pan fo yn methu cael y ddau ben ynghyd. Mae'r fasnach fel ffordd hir heb un tro ynddi. Yn lie gwella, y mae hi yn myned yn waeth. Dyma hi, colli dau ddiwrnod yr wythnos hyn eto Yr wyf yn cofio fel pe bai ddoe, y modd y dywedent, ond i ni gael William Gladstone yn gaffer mawr, a John Bright a Chamberlain yn gafferiaid bach odditano, ni a gaem fasnach fyw, digon o waith, a digon o gyflogau, ac oriau byr i weithio. Mae'r oriau wedi dyfod yn ddigon byr,fel y mae pob dyn yn gwybod, ond mae'r enill wedi myned yn rhy gwtta i gael bwyd, a dillad, a than, a rhent, gwnaed dyn ei oreu glas. Mae ei ben ef o hyd dan y dwfr, ac y mae cysurwyr Job yn darogan fod argoel tywyll, ac amser du iawn o'n blaen, yn nhymor y gauaf, gwaeth na'r gauaf llynedd. Beth mae'r gaffer mawr a'r gafferiaid bach yn ei feddwl ? Maent yn siarad llawer am roi fotiau i ni, ond hawyr anwyl beth a wnawn ni a fotiau os na chawn ni fwyd ? Maent yn dechreu y pen chwith. Mae'r gwyr tan y ddaear yn dechreu achwyn ei bod hi yn stop trucks arnynt hwythau wythnos ar ol wythnos. Ychydig a deimlent drosom ni y gwyr tan, trwy y flwyddyn, chwarddent am ein penau, ond yn ddigon natur dda, gan ddweyd ein bod yn cael ein cefnau yn uniawn, ac amser i fyned i blesera lie y mynem. Maent hwythau yn cael eu cefnau yn uniawn, ac yn dyfod i gydym- deimlo a ni, a gweled mai peth tlawd yw cefn uniawn a chylla gwag. Ond gwaethaf i gyd yw hi, ein bod ar y llawr gyd a'n gilydd. Gwell bod bob yn ail, a'r naill gael helpu y llall. Mae'r ffermwyr yn dechreu grwgnach; er eu bod wedi cael haf da, ac ydlanau llawnion, hwy a ddywedant nad yw'r gwenith, a'r haidd, a'r ceirch, yn talu am eu codi. Mae colled ymhob mesur o wenith, fel y dywed y meistriaid dur eu bod yn colli arian ymhob tunell o rails a droir allan o'r gwaith. Mae gwyr y llongau, y masnachwyr, a'r seiri, yn achwyn fod y fasnach wedi myned yn farwaidd. Nid oes digon o lwytho, na dim galwad am longau newyddion. Maent hwy o'n blaen ni, ac yn daerach na ni. Maent hwy wedi myned a'u hachos o flaen y Senedd, ac yn dechreu curo wrth byrth Sant Stephan. Mawr dda iddynt! Beth mae'r Gaffer Mawr yn ei wneyd ? Mae ef wedi hala Gordon tua Khartoum, ac yn awr mae ef yn danfon ugain mil o filwyr i ddyfod ag ef oddiyno, yn fyw neu yn farw. Fe gyst hyny, meddant hwy, o ddeg i ddeuddeng miliwn o bunau. TOM PUDLER.
MARWOLAETH Y POST-FEISTR CYFFREDINOL.
MARWOLAETH Y POST- FEISTR CYFFREDINOL. Dydd Iau cyn y diweddaf, derbyniwyd y newydd galarus gan y wlad am farwolaeth y Gwir Anrhyd. Henry Fawcett, A.S., y Post-Feistr Cyff- redinol, yn Caergrawnt. Yr achos o'i farwolaeth ydoedd pleurisy ac inflammation, ond ni fu yn glaf yn hir iawn, er iddo rai misoedd yn 01, ddioddef llawer oddiwrth afiechyd. Er yr ad- roddid ei fod yn well y noson flaenorol, gwaeth- ygodd yn fawr boreu ddydd Iau, ac er gwaethaf holl ymdrechion y meddygon, bu farw prydnawn y diwrnod hwnw. Teimlir colled fawr ar ei ol gan bob plaid, gan ei fod wedi dwyn ymlaen amryw welliantau pwysig ynglyn a'r Llythyrdy, a buasai yn ddiau wedi perffeithio llawer ar y gyfundrefn pe cawsai fyw yn hwy. Claddwyd ef ddydd Llun yn Nghaergrawnt, pryd y daeth tua 15,000 o bersonau ynghyd i dalu eu parch i'w goffadwriaeth, ac yr oedd yr orymdaith yn filldir o hyd. Cynwysai yr orymdaith luaws o ddir- prwyaethau, aelodau seneddol,&c., y rhai a dystient pa mor ddwfn ydoedd eu parch i'r ymadawedig.
BANGOR.
BANGOR. Dyddiau Llun a Mawrth, y 27ain a'r 28ain cyn- fisol, ydoedd y dyddiau apwyntiedig gan Eglwyswyr St. Mair i gynal eu gwyl o ddiolchgarwch am drugareddau'r maes. iNos Lun intoniwyd y gwasan- aeth gan y Parch J. Morgan, ficer, a thraddodwyd y pregeth gan y Parch R. Roborts, Llanfachreth. Boreu Mawrth gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd am 8 o'r gloch. Am 10, traddodwyd pregeth gan y Parch D. T. Ffrancon Davies, Pwllheli. Yn yr hwyr intoniwyd y gwasanaeth yn rhagorol gan y Parch Ffrancon Davies, a thraddodwyd pregeth gan y Parch E. Thomas, Skewen. Gwnaed casgliadau tuag at y Gymdeithas Genhadol. Canodd y cor yr anthemau Cydgenwch i'r Arglwydd" (Owain Alaw), a "Molwch yr Arglwydd" (John Thomas), yu ardderchog, yn enwedig yr olaf. Yr oedd y canu drwyddo yn adlewyrchu clod nid bychan ar Mr. William Williams, Port Penrhyn Lodge, yr ar- weinydd, ynghyd a'r cor. Nos Fercher yr oedd y gwasanaeth drwyddo draw yn nefolaidd. Chwareu- wyd yr organ yn ddeheuig gan Miss Annie Williams, Port Penrhyn Lodge, geneth ieuanc, yn ol pob ar- wydd, sydd a dyfodol disglaer o'i blaen.
TYDDYN GWYN, FFESTINIOG.
TYDDYN GWYN, FFESTINIOG. Bydd yn llawen gan ddarllenwyr y LLAN, y rhai sydd cydnabyddus a'r lie, glywed fod, trwy ymdrech- ion y Parch R. Killin, D.G., y Church Extension Society wedi cyfranu y swm hardd o e40 yr wyth- nos diweddaf tuag at gario allan yr ychwanegiadau a fwriedir wneuthur ar yr Eglwys hon tua dechreu y gwanwyn nesaf. Dymunaf longyfarch y Parch Canon Williams, Llanidloes, ar y cyflwr boddhaol y mae y gymdeithas ynddi o dan ei arolygiad ef, ac y mae yn sicr genyf y bydd i glerigwyr yr Esgobaeth roddi pob cynorthwy iddo er cael y gymdeithas i sefyllfa fwy llwyddianus eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr i'r pwyllgor am eu caredigrwydd tuag atom. Bwriedir ail-gychwyn Cymdeithas Gwyr Ieuainc mewn cysylltiad a'r Eglwys hon yr wythnos bresenol, o dan llywyddiaeth Mr. R. W. Rowlands. Pob mewn cysylltiad a'r Eglwys hon yr wythnos bresenol, o dan llywyddiaeth Mr. R. W. Rowlands. Pob llwyddiant iddynt medd- Aclod.
PENTYRCH.
PENTYRCH. DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.—Cynhaliwyd cyfarfodydd. diolchgarwch yn Eglwys y lie uchod ddyddiau Mawrth a Mercher, y 4ydd a'r 5ed cyfisol. Yr oedd yr adeilad cysegredig wedi ei addurno yn y modd mwyaf prydferth a destlus, ac heb fawr o swn y morthwyl rwy'n coelio, a bu y cyfeillion enwadol yn garedig iawn eleni tuag at yr Hen Fam trwy roddi cyflawnder o'u blodau i addurno ei muriau sanctaidd. Teimlwn yn ddiolchgar iawn iddynt am eu teimlad rhyddfrydig a hael, a thaer obeithiwn y bydd i wyr y set fawr fod yn dyner wrthynt, ac y bydd heddwch yn Seion iddynt ar ol hyn. Y pregethwyr oeddynt y Parchn A. T. Hughes, Llancarvan; W. R. Thomas, M.A., Abersychan; W. Christopher, Demarara; J. Williams, Llangeler, a E. Bevan, Llanover. Cafwyd, cyfarfodydd lluosog, er fod yr hin dipyn yn anffafriol; pregethu blasus a grymus, a chanu rhagorol. Addefai Mr. Williams, Llangeler, fod y canu wedi gwneyd lies i'w enaid, ac yn wir, credwn mai enaid iawn sydd ganddo hefyd. Gobeith- iwp y cyfeiria yr Arglwydd ei gamrau tuajPhentyrch eto. Gwnaethpwyd casgliad ymhob cyfarfod tuag at gronfa yr Eglwys, a cheisiodd rhywun efelychu'r weddw hono trwy fwrw dwy ffyrling i'r drysorfa, un nos Fawrth a'r llall boreu dydd Mercher. Trueni na fuasai ei Mawrhydi Victoria yn bathu hatling er mwyn i'r brawd neu'r chwaer, pwy bynag oedd, gael cario y wers allan yn llythyrenol. Ond gyda'r ddwy ffyrling cafwyd casgliadau da a theilwng o'r lie.— Gilaswg.
PENMACHNO.
PENMACHNO. Yn ddiweddar daeth adroddiad Arolygwr Ysgolion ei Mawrhydi, sef T. M. Owen, Ysw., i law, ac fe wel y darllenwyr fod yr ysgol mewn sefyllfa hynod addawol yn bresenol o dan arolygiaeth yr athraw llafurus, Mr. Edwards. Fel hyn y dywed: Mixed School-Singing, registration, tone, and order were good. The grammar of the second standard very good. The poetry of the first standard was pretty good; of the second standard, very good, and good in intelligence; of the third standard, pretty good in repetition and good in rest; of the fourth and fifth standard, good in repitition and pretty good otherwise. The geography of the first and third standard was pretty good of the second standard, very fair; of the fourth, fifth, and sixth standard, very good, with many thoughtful and intelligent answers. The standard work was good. Infants- The first class were excellent in tables; very good in arithmetic viva voce; good in form and colour; pretty rgood in larithmetic on slates, and reading. Second class were good in tables and alphabet, and good in form and colour. The third class were good in tables, form, and colour. As a section they were good in recitation, and pretty good in excercises and counting. They were clean, well-toned, and disciplined." Hefyd pasiodd tri o'r is-athrawon eu haroliadau yn llwyddianus, ac y mae y grant a enill- wyd lyn cyrhaedd y swm o £ 140 11s. 6c. Deallwn fod yr ysgol hon wedi pasio arholiad rhagorol mewn gwybodaeth ysgrythyrol eleni, ac fel hyn y dywed yr arholwr, sef y Parch P. Jones, ficer Dolwyddelen:— The hopes which I entertained last year have been fully realized. Mr. Edwards and his teachers have worked up all the classes well. A most creditable examination was passed. Only one subject was omitted, and I hope this will be taken up next year. Singing and discipline excellent."
CWMAFON.
CWMAFON. CYNGERDD.-Nos Iau diweddaf cynhaliwyd cyng- herdd yn y Boys' Schoolroom, gan y Church of England Band of Hope. Gweinyddwyd y canu gan Mr. W. Richards. Chwareuwyd ar yr organ gan Miss Mary Rees, ag arlyr harmonium gan Miss Gwen Richards. Llanwyd y gadair gan y Parch. John Griffiths, Deon Gwladol, ficer Cwmavon. MABWOLAETH.—Drwg genym gofnodi marwolaeth Mr. H. A. Jones, cynorthwywr Dr. John Rees James. Yr oedd Mr. Jones wedi bod yn byw yn y lie hwn am ddeng mlynedd, ac ar ol byr gystudd bu farw yn ei breswylfod, Michaelstone Terrace, dydd Mawrth, y 4ydd o'r mis hwn. Perchid ef yn fawr yn y gymydogaeth hon. Genedigol ydoedd o Ferthyr Tydfil, ac y mae ei dad, Dr. Jones, yn byw yn No. 1, Union-street, Thomas Town, Merthyr. Gadawodd ar ei ol weddw ieuanc, ynghyd a llawer iawn o ber- thynasau i alaru. Claddwyd ef ddydd Llun yn nghladdfa y plwyf hwn. Bellach, heddweh i'w lwch hyd y boreu y caiff eto godi ar ddelw ei Waredwr.— John Davies, Cwmafon.
ABERARAFON.
ABERARAFON. CONFFIBMASIWN.—Dydd Iau, y 30ain o'r mis di- weddaf, conffirmiwyd 61 o bobl ieuanc yn Eglwys Sant Mair, gan Esgob Llandaff, perthynol i blwyfydd Aberavon, Cwmavon, Margam, a Baglan. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn ar yr achlysur, a'r hin yn "ddymunol. Yr oedd yr offeiriaid canlynol yn bresenol:—Parchn. John Griffiths, D.G., ficer Cwm- afon Daniel Lewis, Aberavon; Z. Paynter Williamson, Margam; R. Meredith Jenkins, Tai- bach; Thomas Jenkins, Cwmafon F. C. Williams, Aberafon. Traddododd yr Esgob anerchiad difrifol i'r ymgeiswyr, gan eu hanog i bresenoli eu hunain mor fynych ag y gallent mewn cyfarfodydd crefyddol, ac hefyd i ddyfod yn aelodau o gangenau y Chureh of England Temperance Society a'r Young Men and Women's Christian Associations, ac argraffodd arnynt oil yr angenrheidrwydd o ddyfod yn weithwyr addas- pob un o honynt a'i waith dewisol ei hun. Cafodd wrandawiad ragorol gan y gynulleidfa fawr.John Davies, Cwmafon.
fCAERFYRDDIN.
f CAERFYRDDIN. Dydd Sul diweddaf traddodwyd pregethau ar ran y Gymdeithas er Taenu yr Efengyl (S.P.G.), yn Eg- lwys Sant Pedr, ac Eglwys Crist, yn y dref hon. Pregethodd y Parch T. Lloyd Williams, cynrychiol- ydd y Gymdeithas yn Nghymru, yn Eglwys Crist y y boreu, ac yn Eglwys Sant Pedr yn yr hwyr. Cafn wyd casgliadau da. Cymerir dyddordeb mawr yn y gwaith cenhadol yn y dref hon. Pan oedd Mrs. Gething, Llether-Llestry, Llan. ddarog, yn cael ei gyru gyda'i bachgen bychan mewn cerbyd agored dydd Sadwrn i'r dref, darfu i'r ceffylau redeg ymaith tra yn myned i lawr i riw hir, a rhedasant am filldir a haner. I eangu y perygl torodd y pawl i ba un yr oedd y ceffylau wedi eu sicrhau. Niweidiwyd y ceffylau, ond yn rhyfedd ni chafodd y rhai oedd yn y cerbyd ddim niwed. CYNGOR TREFOL.—Cynhaliwyd cyfarfod llawn o'r cyngor trefol ddydd Llun, i ethol Maer yn lie Mr. J. J. Jones. Etholwyd Mr. John Lewis, Commerce House, yn unfrydol. Dewiswyd Mr. David Williams, Heol Dwr Fach, yn sirydd. Ail-etholwyd Henaduriaid Norton, a C. W. Jones, i lwyddu yn etholiadau yr Eastern a'r Western Wards, ac hefyd yr holl bwyllgorau ond pwyllgor y Farchnad, pa un a unwyd a phwyllgor y Gweithiau.
LLANELLI.
LLANELLI. Cynhaliwyd y gylchwyl cysegriad (Dedication Festival) yn Eglwys yr Holl Saint, o Tachwedd laf hyd y 7fed. Bu gwasanaethau bob dydd, ac ar ddydd Gwyl yrholl Saint, amryw wasanaethau. Y pregethwyr oeddynt, y Parchn. J. Gauntlett; Proffeswr Davey, Llanbedr E.Lloyd, Newbridge; S. W. Jenkins, Oxwich a'r Prif Athraw Jayne, Llanbedr. Ar ddydd Sadwrn, Tach. laf, rhodd- wyd te parti yn yr Ysgoldy Genedlaethol i'r cynorthwywyr Eglwysig (church-helpers), sef wardeniaid y ddwy Eglwys, ynghyd a'r sidesmen, y district visitors, athrawon y pedair Ysgol Sul yn y plwyf, aelodau mewn maintioli o'r ddau gor, swyddogion y gymdeithas ddirwestol, ac eraill, yn cynwys oddeutu dau cant. Wedi te, llefarwyd ychydig eiriau gan y Ficer, Canon Williams, ac yna galwodd ar y Parch. Daniel Lewis, Aberavon, i anerch y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn dra buddiol ac ymarferol. Dywedodd, yn mhlith pethau eraill, y dylai athrawon yr Ysgolion Sul gael tair R yn argraphedig ar eu meddyliau, sef, Reverence, Regularity, Reality. Yna cafwyd dwy neu dair o ganeuon gan Miss R. Morgan (piano), Mr. R. Whills, a Miss Annie James. A chyda hyn terfynwyd cyfarfod pur foddhaol a hyfryd, yr hyn a dybid ei fod yn foddion i ddwyn pawb sydd yn gweithio dros Dduw yn y plwyf yn agosach i'w gilydd, ac enyn cariad yn y naill at y llall. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog trwy wythnos yr wyl, ac ar y noswaith olaf, pryd y cynorthwywyd y cor gan seindorf o ddeuddeg, aelodau y Llanelly Instrumental Union, ac eraill, ac y pregethwyd gan Mr. Jayne, yr oedd yr Eglwys yn orlawn. Canwyd yr anthem, Agnus Dei (Mozart), yn ardderchog, a chanodd Miss Annie James y solo yn gampus dros ben. Cyfan- swm y casgliadau yn ystod yr wyl ydoedd X74, yr hyn a roddwyd tuag at ddileu y ddyled ar yr Eglwys. Gwneir casgliad i'r diben hwn bob chwarter, a dywedid fod y ddyled wedi lleihau trwy y casgl- iadau chwarterol mewn deng mlynedd o £ 3000 i £450. Teimlai pawb fod gwasanaethau yr wyl yn arogli o'r nef, ac mai da oedd iddynt fod yn Nhy yr Arglwydd.