Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

CYNWYBA y Bed Dragon am y mis presenol fraslun o fywyd a chymeriad y diweddar Ddeon Edwards, o waith John Jones, Observatory Cottage." Y mae John Jones yn un o ysgrifenwyr mwyaf galluog Cymru, a gresyn na cheid mwy o gynyrchion addfed ei ysgrifell rymus. Yn y braslun hwn yr ydym yn cael golwg eglur a bywiol ar y di- weddar Ddeon, y cyfryw nas gallasai neb ei roddi ond un a feddai lygad craff i weled a chalon eang i ddeall rhagoriaethan y gwrth- ddrych. Disgrifir y diweddar Ddeon fel Uchel Eglwyswr diysgog ac eto yn eilun yr Anghydffurfwyr. Enillodd galon y genedl. Nid oedd ynddo dwyll: yr oedd mor syml a phlentyn. Yr oedd yn gymeriad pryd- ferth a gloyw. Ymddigrifai mewn gallu deallol, yr hwn a ddatguddid yn ei ymddi- ddanion yn gystal ac yn ei areithiau cy- hoeddus. Yr oedd yn nodedig o haelfrydig a lletygar, rheolaidd yn ei arferion, a dir- westol wrth y bwrdd; ni yfai unrhyw ddiodydd meddwol, bywiai yn benaf ar bysgod a cocoa. Cryfder ei nerth oedd adnabyddiaeth ddofn o'r ysgrythyrau a'i ar- ferion gweddigar yn ei efrydiaeth. Yr oedd yn un mawr mewn gweddi. Yr oedd ffurf ei gorph yn wrol, a'i ymddangosiad yn darawiadol, yn dalach na'r cyffredin. Meddai aeliau praff a thalcen uchel, llygad na oddefai nacad, a gwatwariaeth dra- gywyddol yn crynu ar ei wefusau Uchelgais neu gariad at y rhagorol oedd allwedd ei holl gymeriad, heb yr ymgais leiaf i'w guddio. Yr oedd ynddo uchelgais i wneyd daioni; uchelgais i fyned i faes llafur lie y gallai wneyd mwy o ddaioni, ac uwchlaw pob dim i wneyd daioni i'w gyd- wladwyr. Yr oedd yn wladweinydd ac yn ddyngarwr. Ond yn y weinidogaeth yr oedd ei galon. Yr Eglwys Gadeiriol oedd ei gartref, a'r pulpud ei orsedd Yr oedd ei lais yn afrywiog ac angherddorol, ond o dan reolaeth gyflawn. Gwneid iddo gytuno a'r dyn ac a'r pwnc. Lliw ei feddyl- iau, a'i ddull o drin ei bwnc; ei ddull, ei edrychiad, ei lais, ergydiad ei law pan y meiddiai cydyn o wallt ddisgyn ar yr ael, y chwareu a'r llygad-wydr, trefniad clir y pwnc, tyfiant a phrydferthwch yr ymres- ymiad, y cymhwysiad effeithiol-yr oeddynt oil yn un, mewn perffaith gyd-gordiad."

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU GWYBODAETH…

LLANBERIS.