Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

>LLITH 0 GOPA MYNYTHO.

News
Cite
Share

> LLITH 0 GOPA MYNYTHO. Mr. Gol,—Efallai fod llawer yn meddwl nad ydym ni ar ben yr hen fynydd llwyd Mynytho ddim yn gwylied symudiadau byd nac Eglwys, ond bydded hysbys i'r cyfryw ein bod a'n llygaid yn agored, a natur wedi ein gosod mewn sefyllfa hynod o hapus, fel i'n galluogi i gyfeirio ein golwg i un o'r pedwar pegwn, pa un bynag fyddyn gofyn am ein sylw. Pan yn gafael yn ein pin-ysgrifenu heddyw, ar ol rhyw bedair ar hugain o flyn- yddau o absenoldeb o'r hen ardal, yn yr hon y treuliasom ddifyr oriau boreu oes, mae hen ad- gofion mebyd megys am y cyntaf yn cynyg eu hunain i'n sylw. Ar y gwastadedd oddi tanom saif hen balasdy henafol Nanhoron, hen enw ag y mae rhyw agosrwydd cyssegredig rhyngddo a chalon y Cymro. Cofus genym glywed yr hen bobl yn yr ardal yn son am Colonel Edwards, taid y Mr. Edwards; presenol, a dychymygwn weled o'n blaen megys, yr hen wron Edwards, neu Yswain mawr Nanhoron, fel ei gelwid, yr hwn oedd yn ddychryn i Radicaliaeth Lleyn, coffa da am dano.. Ychydig iawn ydyw nifer yr hen gym- eriadau tebyg iddo ef, cyfaill neillduol i'r tlawd, gwr ig y buasai yr holl wlad yn dymuno iddo fel hwnw gynt, Obydd fyw byth 0 Dywysog Cymreig. Yn agos i'r fan hon y saif yr hen Ysgol Ramadeg- ol enwog Botwnog, pa un a widdolwyd gan yr Esgob Rowlands, yn ei blwyfgenedigol, er cyfranu addysg i blant y wlad, P, hyny cyhyd ag y rhedo dwfr. Gresyn fod rhyw ddyhirod yn ceisio ei thrawsfeddianu oddiar fechgyn ei ardal, a'i symud i le mwy manteisiol, meddent hwy. 0 na ddysgai'r dosbarth hwnyDeg Gorchymyn a'ucofio hefyd. Bu yr ysgol hon yn foddion i ddwyn allan dalentau disglaer, a hyny i bob cylch mewn cym- deithas. Mae yr Eglwys wedi cael ei rhan yn helaeth. Bu Mr. Jenkin, M.A., yn hynod lwydd- ianus, fel erbyn heddyw mae ffrwyth ei lafur yn ganfyddadwy i bedwar ban y byd mae bechgyn Lleyn yn enwog, Wrth holi am fy nghyfoedion, pa ie mae hwn a'r Hall, dyma fi yn cael un yn Ficer Bangor, un arall yn Rector Dowlais, un arall yn Rector Dolgellau, ac un arall yn Rector Gaerwen, ac yr wyf yn deall fod amryw eraill ar ol y rhai hyn wedi codi oddi yma. Pe baem eto yn troi i'r fyddin cawn un enwog o'r ysgol hon, Colonel Jones, a- sydd wedi enwogi cymaint arno ei hun, a'r wlad a'i magodd. Ond rhag bod yn rhy faith gadawn ar hyn y tro yma. Dyddorol dros ben oedd genyf gael y LLAN i'm llaw yma ar ben y mynydd anghysbell hwn. Derbynied D.O.D. fy niolchgarwch diffuant am ei lythyr pen- igamp mewn atebiad i Gwyliwr o Fangor, ar Weinidogaeth yr Eglwys." Mae yn resyn na fuasai awdurdodau gorucbel ein Heglwys wedi cymeryd hyn mewn Haw er's talmjbellach. Nid yn sicr ar ol cymeryd cyfrifoldeb curadiaeth mae dechreu dysgu eu gwaith. Mae mor anmhriodol ag a fyddai i ddyn ddysgu nofio pan wedi myned yn llongddrylliad arno ni welodd neb gadben yn cael llong dan ei lywodraeth cyn dysgu deall morwriaeth, ond am ein dynion ieuaingc ni rhoddir iddynt awdurdod cyn gwybod 'dim am eu gallu i'w gyflawni. Gobeithio na rydd D.O.D. a Gwyliwr ddim o'r neilldu i dreio symbylu y sawl ag y perthyn iddynt symud yn y cyfeiriad hwn. Ar ol clywed y siarad da a fu yn y Gynhadledd Awst yn Bangor ar wahanol bethau, gellid meddwl fod yr offeiriaid yn awyddus am i ni y lleygwyr yma ddod i deimlo ein dyledswyddau. Cyn y ceir hyny mae ganddynt hwythau eu rhan i roddi cychwyn arnom. Nid yw y dull ag y mae y rhan fwyaf o honynt yn dewis Wardeniaid ddim yn un math o anogaeth i ni wneyd, pan maent hwy yn dewie y cwbl eu hunain, heb adael i'r cyrnunwyr ddewis eu rhan, pa un sydd ganddynt berffaith hawl i hyny. Mewn llawer ardal dewisir dynion heb fod yn rhy ofalus iawn o'u buchedd dduwjol, yr hyn beth svdd yn drais ar deimladau cyrnunwyr teilwng i edrych ar flaenoriaid yn y gangell ar ryw wasanaeth ar foreu dydd Sul, a'r oil o gyfarfodydd yr wythnos yn cael dim o'u presenoldeb. Pwy ddylai fod ar y blaen gyda'r Ysgol Sul, cyfarfod cyrnunwyr, ac yn wir yr oil o'r cyfarfodydd ag sydd yn dwyn cysylltin.d a,'u Heglwys. Ddeil rhyw ddull o lenwi swyddau pwysig fel hyn heb ystyried y gwir gymhwysder ddim goleu dydd sydd yn dod. Gobeithiwn y cawn ddiwygiad. Nid oeddwn wedi bwriadu i'm llith fymed mor faith. Oddi ar gopa Garnfadryn y tro nesaf os gallwn ddringo i fyny. YESTYN.

TALYBONT, ABERYSTWYTH.

LLYTHYR DEINIOL WYN.

[No title]

Advertising