Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TREGARON.

News
Cite
Share

TREGARON. Rhoddodd Henafgwr fra,slun o'i hanes, ynghyd it hanes ysgolion dyddiol y lie ucliod am yr haner canrif diweddaf. Ganiatewch i mi ddweyd gair yn mhellach ar y mater. Nid wyf yn cofio John James nac ychwaith Richard Hughes, er yr adwaenwn yr olaf yn dda. Tua 25 o flynyddoedd yn ol yr oedd yn cadw ysgol yn Tremain, rhwng Blaenporth a Blaen- anerch. Hen lane tra pharchus. Gelwid ef wrth yr enw Dick Steel gan y bobl. Adwaenwn Mr. Dalen, bum gydag ef yn yr ysgol. Daeth o Oilcwm i Dregaron. Ysgolhaig rhagorol. Un o'r Ynys Werdd oedd ef. Yr wyf yn credu mai doethach o lawer fuasai i Ebenezer Hughes aros wrth ei greft (sef llifiwr), nac ymgymeryd a chadw ysgol. Yr oedd ei wraig, merch yr ysgolfeistr enwog, John Evans, o Aberystwyth, yn amgenach ysgolheiges nag ef o'r haner. Bu Samuel Thomas, o Blaencaron yn cadw ysgol yn y lie hwn, a'r Hen Batriarch o Tymawr, John Rowlands (Land surveyor rhagorol). Mae yn byw yn bresenol yn Penuwch, yn cadw ysgol yn y gauaf ac yn bugeilio'r fuwch yn yr haf. Mae golwg hynod arno a hen sach ar ei war. Bu David Roderick, o Danyrallt, yn cadw ysgol yma hefyd am lawer o flynyddoedd. Dyn da iawn. Symudodd i Llanspyddid, gerllaw Aberhonddu, ac oddi yno i Pencae, Ystradgynlais, lie y bu farw, ynghyd a'i wraig ac Evan ei fab. Claddwyd hwy yn Eglwys Callwen (Capel Anwes), rhan o blwyf Defynock. Morgan Morgan, alias Morgan Pengraig, fu yma hwyaf o lawer. Efe oedd tad y doniol John Morgan (Myfenydd), o Goleg St. Bees yn bresenol. Ysgolfeistr rhagorol am ddysgu darllen, ysgrifenu, gramadeg, a rhifyddiaeth. Mae braidd yn anghred- adwy nad oedd yn alluog i siarad Saesneg a'r Inspector ddaeth i lawr o Lundain i edrych ansawdd addysg, &c., yn Nhregaron a'r cylchoedd yn adeg y Llyfrau Gleision. Gorfu Mr. John Lewis (yr anwyl loan Mynyw) siarad rhyngddynt. Mae amryw o ysgolheigion Morgan yn llenwi swyddi pwysig yn Merthyr, Lerpwl, Llundain, ac America, sef Mr. D. Phillips, draper, Merthyr; Mri. William a Joseph Rees, New Docks, Lerpwl Mr. Morgan Edwards, ar y Cyfandir Mri. John a Daniel Rowlands, Tea Merchants, a'u brawd Mr. David Rowlands, chemist, &c., Tregaron a Llangeitho (gynt o Ystrad Caron), ynghyd a lliaws nas gallaf eu henwi ar hyn o bryd. Mae llawer wedi huno yn yr angau. Bu yma un Thomas Thomas, genedigol o Cenarth, yn cadw ysgol rad Madam Bevan am dair blynedd. Coffheir yn barchus am ei enw hyd y dydd hwn. Efe oedd y goreu o ddigon o ysgolfeistriaid Madam Bevan. Mae ef yn derbyn blwydd dal. Priododd a Mary Davies, o Dregaron, cantores ae Eglwyswraig enwog. Mae iddynt feibion a merched parchus. Mae Mr. a Mrs. Thomas yn byw yn gysurus dros ben yn Kidwelly. Dymunaf eu llwyddiant yn fawr. Drwg iawn genyf fod yr offeiriad cariadus o Llansantffraid, Glyn- dyfyrdwy, wedi myned odiwrth ei waith at ei wobr. Yr wyf yn cofio am dano yn byw yn Piccadilly, ger- llaw Ponteinion, Tregaron, ei enw oedd David Evans. Priododd ferch Ystumcolwyn, Meifod. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a fyddo dyner o'r teulu galarus. Os yw'r gweision yn cael eu symud mae'r Meistr mawr yn aros. Cyfaill mynwes- 01 i mi yw Henafgwr. Braint yw ei gael i wylnos a chyfarfod gweddi. Mae ef yn ddarllenwr Cymraeg rhagorol. A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, ynghyfraith Duw; gan osod allan y synwyr, fel y deallent wrth ddarllen."—Llew Caron. TYSTEB GIRALDUS.—Yn ol fy addewid, yr wyf yn cyflwyno, drwy gyfrwng y LLAN, yr ychydig arian a gesglais tuag at dysteb fy hoffus gyfaill Giraldus. Cyfranwyd hwy fel y canlyn :—Parch. O. Davids, ficer, Vl Is.; Mr. J. Dewi Williams, 59.; Dr. Lloyd, 2s. 6c.; Mr. T. Jones, Llythyrdy, 2s. 6c.; Mr. D. Evans, Medical Hall, Is. Mr. T. Hughes, Ptince Albert House, 4s: 6b.; cyfanswm £1 13s. Pan wel- ais hysbysiad y dydd o'r blaen yn y LLAN y cyhoedd- id enwau y dosbarthwyr, ofnais y byddai y nifer a ddosberthid gan bob un yn cael ei nodi, ond da oedd genyf na wnaed hyny, gan fod cywilydd wyneb i nt yn Tregaron am y nifer sydd yn dyfod yma. Dy- munaf lwyddiant y LLAN yn fawr, a da genyf oich hysbysu ei bod, fel y dywedodd Henafgwr am yr Eglwys, wrth fodd ein calon. Cofion atoch oil yn Merthyr, ynghyd a'r holl oliebwyr.—Cymro.

TRAWSFYNYDD.

BODORGAN, MON.

LLANLLYFNI.

LLANDEBIE.

PENTREFELIN, PORTHMADOG.

AMLWCH A'R AMGYLCHOEDD.

MOELFRE, MON.