Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.

News
Cite
Share

DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF. CAPEL BANGOR. Ar y 24ain cynhaliwyd gwasanaethau diolchgar- wch amy cynhauaf yn y plwyf hwn. Am 10.30, dar- llenwyd y foreol weddi gan y Parch. W. Evans, Penrhyncoch, a phregethodd y Parch. J. Pugh, Llanbadarnfawr. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y ficer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Pugh. Am 3 y prydnawn darllenwyd y Litani gan y Parch. E. Evans, Llangorwen, a phregethwyd yn Saesonaeg tan y Parch. A. Williams, Elerch. Am 6 yn yr hwyr, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. B. Edwards, Llanfihangel-y-Creuddyn, a phregeth- odd y Parch. E. Evans, Llangorwen. Gwisgwyd y cyaegr yn ddestlus iawn gan Mrs. Rees, y ficerdy, yn cael ei chynorthwy gan rai o ieuenctyd y gynulleidfa. Cafwyd cynulliadau da, yn enwedig yr hwyr.. Gwnaed casgliad tuag at A.C.S. ar ol pob gwasan- aeth. Dywedir fod y gwasanaethau eleni yn rhag- ori ar y rhai y blynyddau a aeth heibio. Yn wir yr oedd tan Cymreig wedi ei enyn yn yr hwyr i raddau mawr.-Bangorian. CLYNNOG FAWR YN AEFON. Cynhaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch i Dad y trugareddau am y cynauaf yn yr Eglwys henafol uchod, ar nos Wener, y 26ain cynfisol, pryd y preg- ethodd y Parch. R. Williams, ficer, Beddgelert. Yr oedd yr atebion yn wresog a'r canu yn hwyliog. Chwareuwyd ar yr harmonium yn feistrolgar gan Miss Pryse, Vicarage. GOGINAN. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch yn y lie hwn dydd Mawrth diweddaf, Medi 30. Am 2.30, darllen- wyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Rees, ficer, dar- llenwyd y llithiau a phregethwyd gan y Parch. G. Roderick. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn o ddynion -yr oil o dan hin ffafriol a dymunol. LLANFAIRYNEUBWLL, MON. Dydd Iau, yr 2il o'r mis hwn, cynhaliwyd oyfar- fodydd yn Eglwys y plwyf uchod. Am ddau o'r gloch yn y prydnawn darllenwyd y Litani a phreg- ethwyd gan y Parch. Robert Jones, curad, Valley ac ar ol y bregeth gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd gan y Parch. J. Hopkins, rheithor y plwyf. Yn yr hwyr am 6.30, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. R. Jones, a phregethodd y Parch. J. Hopkins. Chwareuwyd yr harmonium gan Miss Lloyd, Ty'n- llan. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog, gwasanaethau gwresog, a chanu da. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn brydferth i'r achlysur a blodeu, rhedyn, yd, ac felly ymlaen, gan Misses Lloyd, Ty'nllan, pa rai sydd yn teilyngu clod am eu llafur diflino gyd a'r canu, yr Ysgol Sul, &c., yn Eglwys Llanfair; llwyddiant ddilyno eu hymdrechiadau. LLANALLGO A LLANEUGRAD. Cynhaliwyd yr wyl gynauaf yma ar ddydd Mercher, Hydref laf. Y boreu am 10.30 o'r gloch, caed gwas- anaeth Saesneg yn Llaneugrad. Darllenwyd y rhan gyntaf gan y Parch. J. Williams (Glanmor), y ficer, y Litani gan y Parch H. Harris Davies, Ph.D., periglor Llangoed, yr hwn a bregethodd. Yna gweinyddwyd y Cymun Sanctaidd, a gwnaed casgliad i glafdy (Infirmary) Mon ac Arfon. Am 3 o'r gloch yn y prydnawn darllenwyd y Litani, yn Gymraeg, gan y Parch. J. Williams (Glanmor), a phregethwyd gan y Dr. Davies. Am 7 o'r gloch yn yr hwyr, dar- llenwyd gosper gan y periglor, a thraddodwyd pregeth gan y Parch J. Hopkins, periglor Rhoscolyn. Yr oedd yr Eglwys wedi ei gwisgo yn brydferth gan foneddigesau'r persondy a pherthynasau oLlundain. CWM RHONDDA. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys Dewi Sant, Ton, Ystradyfodwg, dydd Iau, Hydref 2fed. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parchn. Henry Morgan, B.A., curad, Treorci; a J. H. Williams, Cenhadwr Cartrefol, Heolfach; a'r llithiau gan y Parchn. Thomas Enoch, B.A., curad, Tylorstown; a Daniel Felix, curad, Treherbert. Caf- wyd dwy anthem ragorol gan y cor, a phregethwyd gan y Parch. M. P. Williams, prif-athraw Ysgol Ramadegol Pontfaen. Yr oedd yr Eglwys fawr yn orlawn o wrandawyr astud a defosiynol. Yr oedd yr offeiriaid canlynol yn bresenol y Parchn. Thomas Tissington, Gilfachgoch; a Henry Morris, ourad, Eglwys y plwyf. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn gywrain a destlus gan y boneddigesau canlynol: Mrs. gLewis, a Miss Evans, y Ficerdy Mrs. Hosbons, a'r Misses Stevens, Taliss, a Treharne. Cafwyd casgliad rhogorol dda tuag at y Gymdeithas er ychwanegu nifer y Curadiaid. PENRHOSLLUGWY. Talwyd diolchgarwch am y cynhauaf yn yr Eg- lwys hon ar y 30ain o'r mis diweddaf, pryd y dar- llenwyd y' gwasanaeth gan y periglor, a phregethodd y Parch. Mr. Griffith, curad, Amlwch. Cafwyd cyn- ulliad ardderchog, gwrandawiad astud, a gobeithio y daw cynhauaf toreithiog o'r had da a hauwyd, EGLWYSWNW. Cynhaliwyd eyfarfodydd yn eglwys y plwyf nchod dydd Mercher, y laf o Hydref. Dechreuwyd y boreu aifi 10 o'r gloch, pryd y darllenwyd y gwasanaeth gan y Parth. T. M. Jones, periglor, a phregethodd y Parchn. ID. H. Davies, Mount, a D. Parry, Tref- draeth. Dechreuwyd y eyfarfod hwyrol am 6.30. Darllenwyd y gwasauaeth gan y Parch. O. Jones Thomas, curad, Nevern, a phregethodd y Parch. T. Jones, Cilgerran, D. Parry. Caed cynulleidfaoedd da, yn enwedig yu yr hwyr, pryd yr oedd yr eglwys yn orlawn. Yr oedd y pregethau yn rymus, a'r gwasanaethau yn wresog. Yr oedd y canu yn dda, a chwareuwyd ar yr harmonium gan Mrs. Jones, Ficerdy. Yr oedd yr offeiriad canlynol yn bresenol heblaw y rhai a enwyd:—Parchn. W. Williams, Eglwyswen, a J. H. Jones, Nevern. Gwnaed casgl- iadau yn y boreu a'r hwyr tuag at ddileu y ddyled sydd ar yr eglwys.—Meredith. GWYDDELWERN. Ddydd Mercher, y laf cyfisol, cynhaliwyd gwas- anaeth yn eglwys y plwyf, am 6.30 yr hwyr. Pre- gethwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. F. Reece, rheithor Llanfwrog. Yr oedd yr adeilad yn orlawn o addolwyr astud. Addurnwyd yr eglwys yn destlus ac ardderchog gan foneddigesau y gymydogaeth, ymhlith pa rai oedd Mrs. Jenkins Miss Jones, Glan- wern; Miss Jones, Nant; Misses Jones, Foel; Mrs. Williams, Ficerdy. ) GELLIGAER. Cefais y fraint o fod yn bresenol yn eglwys blwyfol Gelligaer ddydd Gwener diweddaf, ar yr achlysur o gynhaliad cyfarfodydd diolchgarwch. Am wyth yn y boreu gweinyddwyd y Cymun bendigaid gan y Parch. J. L. Meredith, M.A., rheithor, a'r Parch. T. Edwards, Bedwas. Am 10.30, cafwyd gwasanaeth Seisnig. Darllenwyd y gweddiau gan y rheithor a'r Parch. J. B. Jones, Bargoed; y llithoedd gan y Parchn. T. Edwards, iBedwas, a J. Davies, Pont- lottyn, a phregethwyd gan y Parch. G. Roberts, Dowlais. Am ddau, gwasanaeth Cymraeg; darllen- wyd y Litani gan y Parch. D. J. Evans, Gelligaer, a phregethodd y Parch. Ll. M. Williams, Pontlottyn. Cafwyd gwasanaeth Cymraeg eto am haner awr wedi chwech; darllenwyd y gweddiau gan yjParchn. J. L. Meredith, a E. Evans, Deri; y llithoedd gan y Parchn. Ll. M. Williams, Pontlottyn, a T. Edwards, a phregethodd y tParch. S. R. Jones, Glyntaff. Yr oedd yr eglwys yn llawn y boreu a'r prydnawn, a lliawsj mawr yn gorfod sefyll y nos. Edmygid yn fawr y c6r am eu ddull yn cario ymlaen y gwasan- aeth, ac yn neillduol eu dadganiad o'r anthem, I'r Arglwydd cenwchlafarglod," yn Saesneg ynnghyfar- fod y boreu. Genethod ieuanc iawn sydd yn canu y treble, ac yr oedd eu dull sicr a deheuig yn cymeryd i fyny y gwahanol points yn adlewyrchu clod arnynt hwy a'r arwoinydd. Yn ystod y dydd gwahoddodd y rheithor yr holl offeiriaid ynghyd a nifer o foneddig- esau a boneddigion i'r I rheithordy, lie yr oedd helaethrwydd o danteithion wedi eu parotoi, am yr hyn y teimlid yn hynod ddiolchger i'r boneddwr caredig. Gwelsom yr offeiriad canlynol yn bresenol yn ychwanegol at y rhai a nodwyd uchod :-Parchn. J. Johns, Bedwellty; Williams, curad, Pontlottyn; G. B. Jones, Mountain Ash J. Morgan, Cwmfelin ;— Price, New Tredegar; W. Williams, Llanfabon. Dylwn ychwanegu fod yr eglwys wedi ei harwisgo yn brydferth a blodau, ýd, &c.—Ymwelydd. LLANDEBIE. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn Eglwys y plwyf, nos Fawrth a dydd Mercher, ac yn y Brynmawr Mission Room, Cross Inn, prydnawn a nos Iau. Yr oedd y ddau adeilad wedi eu haddurno a ffrwythau, blodau, &c., yn ddestlus iawn gyferbyn a'r amgylchiad, ac yr oedd y dyddordeb a gymerir yma yn y cyfarfodydd hyn yn llawn cymaint ag erioed. Yr oedd yr adeil- adau trwy y cyfarfodydd oil, gan mwyaf, yn orlawn, ac yn enwedig felly yn ystod y rhai hwyrol. Yn Eglwys y plwyf nos Fawrth, am 6.30, darllenodd y Parch. W. Jones, ficer Llannon, y gwasanaeth, a'r Parch. R. Roberts, curad y plwyf, y llithiau, a phregethodd y Parchn. T. Williams, Abertawe, a W. R. Thomas, Abersychan. Boreu dydd Mercher, am 10.30, darllenodd y Parch. D. Davies, ficer y plwyf, y gwasanaeth (y rhan gyntaf yn Saesneg a'r rhan olaf yn Gymraeg), a'r Parch. E. Lloyd, ficer y Bettws, y llithiau (un yn Gymraeg a'r llall yn Saes- neg), a phregethodd y Parch. W. R. Thomas, yn Saesneg, a'r Parch. T. Thomas, Llanfairarybryn, yn Gymraeg. Am 2.30, gweinyddwyd gan y Parch. E. A. Davies, Llangenech, a phregethodd y Parch. D. Pugh, Llangeinor, a'r Parch. J. Stephen Davys, Abertawe. Am 6.30, darllenodd y Parch. R. Roberts y gwasanaeth, a'r Parch. J. W. Jones, Llandilo, Talybont, y llithiau, a phregethodd y Parch. J. W. Roberts, Felinfoel, a'r Parch. W. R. Thomas, Aber- sychan. Yn y Brynmawr Mission Room, brydnawn dydd Iau, am 2.30, darllenodd curad y plwyf y gwasanaeth, a phregethodd y Parch. D. Pugh, curad Llangeinor. Yn yr hwyr, am 6.30, darllenodd ficer y plwyf y gwasanaeth yn Saesneg, a'r Parch. E. A. Davies, Llangenech, y llithiau (un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg), a phregethodd curad Llangeinor yn Saesneg, a ficer Llangenech yn Gymraeg.—X. Y. Z. TRAWSFYNYDD. Nos Fawrth a dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, cynhaliwyd cyfarfodydd yn y lie uchod. Pregethwyd gan y Parchn. R. Killin, Deon Gwladol, Maentwrog; D. Jones, Llanfair J. W. Roberts, Tanygrisiau a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. Evans, Tyddyn Gwyn; a W. S. Williams, rheithor y plwyf. Cawsom dywydd ffafriol dros ben, gwasan- aethau corawl bywiog, cynulleidfaoedd lluosog o wrandawyr astud, a chanu da. Gwnaethpwyd casgliad ar ddiwedd pob gwasanaeth er budd y Gym- deithas Genhadol Eglwysig. MARGAM. Bwriedir cynal cyfarfodydd diolchgarwch yn yr Abbey Church fel y canlyn: Nos Fercher, Hydref 15fed, gwasanaeth Cymraeg, pryd y pregethir gan offeiriad dieithr. Boreu dydd Iau, am 8 o'r gloch, gweinyddir y Cymun Sanctaidd, am 11 o'r gloch ail weinyddir y Cymun, pryd y disgwylir y Tra Pharchedig Ddeon Bangor i bregethu am 7 o'r gloch, disgwylir y Parch. Daniel Evans, B.A., Rector Llanmaes, i bregethu. CWMAFON. Cynhaliwyd cyfarfod nos Iau, yr 2fed cyfisol, yn Eglwys Saesneg All Saints. Intonwyd y gweddiau gan y Parch. Henry Harris, B.A., curad, Oakwood, darllenwyd y llithoedd gan y Parchn. John Griffiths, D.G., ficer Cwmafon, a Daniel Lewis, ficer Aberafon. Yr anthem ydoectd Salm xxiv. 1. Y pregethwr ydoedd y Parch. William Hughes Sinnett, M.A., ficer Kidwelly. Chwareuwyd yr organ gan Miss Rees. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn brydferth erbyn yr achlysur gan Mrs. Sinnett, merch ein ficer, Miss Keys, Miss Morris, &c. Gwnaethpwyd casgliad ar ddiwedd y gwasanaeth tuag at y Llandaff Church Extension Society, ar gais y Gwir Barchedig Arglwydd Esgob Llandaf. Yr oedd y Parchn. Thomas Jenkins, curad, Cwmafon, ac R. M. Jenkins, curad, Taibach, yn bresenol yn y gwasanaeth. MERTHYB TYDFIL. Dydd Sul diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod yn Eg- lwys St. David. Cafwyd gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid yn y boreu, gwasanaeth cerddorol gan y plant am dri yn y prydnawn, a phregeth gan y Parch. J. Griffith, M.A., rheithor, yn yr hwyr. Dar- llenwyd y gweddiau yn ystod y dydd gan y Parch. C. Griffith, M.A. Cafwyd datganiad ardderchog o'r o anthem, 0 give thanks," y boreu a'r hwyr dan ar- weiniad Mr. Lawrance. Yn y gwasanaeth hwyrol methai ugeiniau a chael lie. Arwisgwyd yr Eglwys yn ardderchog gan liaws o foneddigesau yr Eglwys, yn cael eu cynorthwyo gan ychydig o foneddigion. Dywedir na welwyd yr Eglwys hon wedi ei gwisgo mor hardd er's llawer iawn o flynyddau. Casglwyd yn ystod y dydd tuag at Gymdeithas Cynorthwyo Curadiaid, a chafwyd £14. PANT, DOWLAIS. Nos Lun, dydd GwylSt. Michael a'r holl Angylion. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn o wrandawyr astud. Llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch R. Williams, offeiriad yr Eglwys, darllenwyd y llith gyntaf gan Rector Dowlais, a'r ail gan y Parch. D. Lewis, Brynmawr, yr hwn hefyd a bregethodd ar wasan- aeth yr Angylion Sanctaidd yn llywodraeth y Bod mawr." Y parch a ddylem ni fel Cymry dalu i'r dydd, gan nad oes wlad dan haul lie y mae cynifer o Eglwysi wedi eu cyflwyno i nodded St. Michael, fel y gwelir oddiwrth liosowgrwydd lleoedd a elwir yn Llanfihangel. Dylem weddio llawer ar i'n Tad nefol anfon Ei angylion sanctaidd i'n cadw a'n diogelu, a chofio bob amser eu bod hwy yn edrych arnom. Cafwyd gwasanaeth rhagorol. Yr oedd y cysegr wedi ei addumo yn ddestlus gan y Misses Jenkins. Uchel ddyrchafai y cor ddiwydrwydd a medrusrwydd Miss Jenkins fel arweinyddes. PENRHYN COCH. Dydd Iau, Medi 25ain, oedd y dydd a neillduwyd gan Eglwyswyr y lie uchod i ddiolch am y cynhauaf. Gwasanaethwyd yn y drefn ganlynol:—Darllenwyd y gwasanaeth am 11 y boreu yn Saesneg gan y Parch. T. Jones, Gartheli, y llithoedd gan Mr. G. Owen, Coleg St. Aidan's, a phregethodd y Parch. W. Davies, B.A.. ficer Llanfihangel-geneu'r-glyn, yn Saesneg. Am 2.30, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. A. Williams, ficer Elerch, a phregethodd y Parch. G. Roderick, B.A., Borth. Am 6 yn yr hwyr, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. G. Roderick, y llithoedd gan Mri. M. Richards, B.A., Coleg Dewi Sant, a G. Owen, a phregethodd y Parchn. Jen- kins, Llanychaiarn, a T. Jones, Gartheli, tra yr oedd yr eglwys yn llawn o wrandawyr yn gwir werthfawrogi yr hyn a leferid wrthynt. Chwareuwyd ar yr har- monium yn ystod y dydd gan Mr. C. J. Ivory, yr ysgolfeistr. LLANYMAWDDWY. Cynhaliwyd gwyl diolchgarwch yma ar y laf a'r 2fed cyfisol. Addurnwyd yr Eglwys yn nod- edig o hardd gan Mrs. Griffith, Rectory; Miss Roberts, Aberystwyth; a Miss Davies, Cilwern. Y pregethwyr eleni oeddynt y Parchn. J. P. Mor- gan, M.A., Dolfor; R. A. Williams (Berw), Abergynolwyn; a R. J. Davies, Gaerwen. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid boreu dydd Iau i nifer luosog. Cafwyd gwasanaeth y Litani ar gan. Canwyd yr anthemau I ti Arglwydd," Molwch yr Arglwydd," Iddo Ef," a Cenwch i'r Arglwydd gan newydd." Yr oedd y canu yn rhagorol dan arweiniad ein parchus Reithor. Casglwyd yn ystod yr wyl at y Genhadaetli Gar- trefol a Thramor, ac at Gymdeithas y Llytrau. Cafwyd cynulliadau lluosog, a gwasanaethau cynes. Bendithied Duw lafur ei ffyddlon weision.-Obadiah. BWLCHGWYN. Yn yr Eglwys yn y lie uchod, nos Wener, y cyfisol, cafwyd gwasanaeth Cymraeg, pryd y 3ydd pregethodd y Parch. J. Davies, Ficer Dewi Sant, Lerpwl; ac yn Saesneg ar y nos Lun canlynol, pryd y pregethwyd gan y Parch. J. P. Lewis, curad, Gwrecsam. Addurnwyd yr Eglwys yn hynod ddestlus erbyn yr achlysur. Gwnaed casgliad ar ol y gwasanaeth Cymraeg tuag at y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol; ac ar ol y gwasanaeth Saesneg tuag at gael gwell peiriant i gynesu'r Eglwys. Cafwyd cynulleidfa- oedd, canu, pregethau, a chasgliadau da. Gobeithio y bydd yr effaith anweledig mor foddhaol a'r ym. ddangosiad allanol. HENLLAN, GER DINBYCH. Cynhaliwyd cyfarfodydd yn Eglwys y plwyf dydd Gwener, Hydref 3, yn Saesneg yn y pryd- nawn am 3.30, ac yn yr hwyr am 7. Pregethodd y Parch. W. Glanff-rwd Thomas, Llanelwy,yn y ddau wasanaeth. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. H. Humphreys. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, yn enwedig yn yr hwyr. Y gwran- dawiad yn astud a'r gwasanaethau yn wresog. Canwyd yr anthem Mor hawddgar yw Dy bebyll gan y c6r, yn gampus, o dan arweiniad medrus Mr. Lewis, yr organydd. Yr oedd yr Eglwys wedi ei gwisgo yn ddestlus gan Mrs. Griffith a Miss Cutting, Garn, a Mr. J. Story, garddwr, Llysmeirchion. Yr oedd te wedi ei ddarparu i'r c6r rhwng y ddau wasanaeth yn yr ysgoldy, o dan arolygiad Mrs. Lewis a Miss Griffiths. Rhoddwyd y casgliadau, £ 4 Os. 3c., i'r Infirmary iDinbych. LLANERFYL. Cynhaliwyd cyfarfod yn Eglwys St. Erfyl ddydd Mawrth cyn y diweddaf. Yr oedd yr hen eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus erbyn yr amgylchiad. Y mae y parch .-mwyaf yn ddyledus i Mr. a Mrs. Reed, Ficerdy Mrs. Instone, Llyssnu Miss Bonrne, Ysgoldy; Miss Lewis, Tymhor, a Mr. Williams, Bryntanad, am y llafur caled a gymerasant i addurno TJ Dduw. Am 8 o'r gloch yn y boreu gweinyddwyd y Cymun Bendigaid i nifer o gymun- wyr. Am 3 yn y prydnhawn, cynhaliwyd gwasan- aeth Seisnig, a phregethwyd gan y Parch. T. Ll. Williams, Wrecsam. Cafwyd canu da ar yr emynau canlynol allan o'r Ancient and Modern, 381,382,283, a 365. Yr oedd y gwasanaeth hwyrol yn Gymraeg, a dechreuwyd am 7. Ymhell cyn yr amser i ddechreu yr oedd yr hen adeilad ardderchog yn orlawn. Dar- llenodd y Parch. S. Reed, rheithor y plwyf, y rhan gyntaf o'r gwasanaeth, a'r Parch. Jenkin Jones, curad Llanfair, y rhan olaf. Darllenwyd y llith cyntaf gan y Parch. G. Edwards, Llangadfan, a pregethwyd gan y Parch T. L. Williams, Gwrecsam. Yr oedd nifer da o aelodau y cor yn bresenol. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr Roberts, National School. Intonwyd y responses, a chanwyd yr oil o'r Salmau. Canwyd yr anthem Mawr a'th erys Di," a'r emynau canlynol o lyfr Dr. Evans, 448, 571, a 447. Yr oedd y canu yn dda ragorol, yn neillduol felly yr anthem. Yr oedd yr holl o'r gynulleidfa yn ymuno yn galonog yn y canu. Yn wir yr oedd yr ysbryd i ganu mawl i Dduw am ei drugareddau hael wedi treiddio trwy yr oil gynulleidfa. Yr oedd y rhan fwyaf o'r casgliadau yn myned tuag at y Gymdeithas er Lledaenu yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor, a'r gweddill tuag at y Gymdeithas er Amddiffyn yr Eglwye. LLANGATTWG, CASTELLNEDD. Nos Fercher a nos Iau cyn y diweddaf, cyn- haliwyd gwasanaethau diolchgarwch yma. Rhodd- wyd digonedd o ffrwythau a blodau tuag at arwisgo yr Eglwys gan Mrs. Palmer, Rheola; yr Anrhydeddus H. C. Bruce, Ynysygwern; Parch. Walter Griffiths, Dylas Fach; Mrs. Aylwin, Dylais House; Mrs. Davies, Oaewern; Misses Sims, Ynysllynlladd; Mrs. Bevan, Cadoxton Place; a Mrs. Thomas, Vale of Neath. Gwisg- wyd yr Eglwys yn hardd gan y rhai canlynol Miss Bevan a Miss Annie Bevan; Misses Roberts, Westfield; Mrs. Jones a Miss Piggott, Ficerdy; Miss Jessie Rees, a Miss Wonnie Thomas. Pregethwyd yn y gwasanaeth Cymraeg nos Fercher gan y Parch. Canon Evans, Rhymni; a dadganwyd yr anthem Molwch yr Arglwydd (J. Thomas, Llanwrtyd). Cafwyd gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am wyth foreu dydd Iau, a phregethodd y Parch. D. Evans, Llanmaes, yn y gwasanaeth Seisnig y nos. Undonwyd y gwas- anaethau gan y Parch. Lewis Jones, ficer, ac yr oedd emynau pwrpasol yn cael eu canu gyda hwyl. Cynorthwyid yn y gwasanaethau gan y Parchn. W. Edwards, Crynant M. J. Marsden, curad, a F. C. Williams, curad Aberafon. Chwar- euwyd ar yr organ gyda'i medrusrwydd arferol gan jfMiss Bevan. Yr anthem Seisnig ydoedd Sing praises to God (Wareing). Rhanwyd y casgliadau rhwng cymdeithasau yr S.P.G. a'r S.P.C,K. Testyn Canon Evans ydoedd Marc iv. 28 (rhan olaf o'r adnod)—" Yna yr yd llawn yn y dywysen." Wedi gwneyd ychydig sylwadau ar gynyrch toreithiog y cynhauaf diweddar, aeth ymlaen i sylwi fod dynion yn cymeryd dyddordeb mawr yn ngweithredoedd natur fel ag y dangosid hwy yn ffurfiad y mynyddoedd a rhyfeddodau y gyfundrefn wybrenog, er mwyn profi bodolaeth yr Anfeidrol, ond yn ol ei farn ef yr oedd y dywysen yd a ddaliai yn ei law yn brawf digonol o ofal a rhagluniaeth Duw. Er mor lleied ydoedd, yr oedd tuhwnt i allu dyn greu gronyn o yd. Cyfrifid gweithredoedd mawrion dynion gyda pheirian- waith ac adeiladu yn hrawfion o gywreinrwydd a gwybodaeth, ond yr oedd wedi clywed am oriawr gyflawn o faintioli botwm bychan, yr hyn oedd yn rhyfeddod fwy. Yna aeth ymlaen i dynu amryw wersi oddiwrth yr yd yn tyfu a phan wedi aedd- fedi. Dylai, meddai, fod cydweithrediad rhwng dyn a Duw mewn gweithio allan iachawdwriaeih dyn fel yn nghyflenwad y dywysen; fel yr oedd y grawn ar ol tyfu yn cael ei neillduo er budd eraill, felly y dylai bywyd dyn gael ei dreulio i wasan- aethu eraill. Cyrhaeddai y dywysen aeddfed- rwydd ar ol dioddef gwres, oerni, a gwlybaniaeth, felly dylai ffydd a gobaith y Cristion ei gario drwy holl helbulon a threialon ei fywyd. Dar- luniodd hyn drwy gyfeirio at deithiwr Affrican. aidd, yr hwn oedd 8r fedr rhoddi i fyny mewn an. obaith yn yr anialwch, ond a ymwrolodd pan welodd flodeuyn bychan yn tyfu gerllaw. Gellid medi yr yd aeddfedj unrhyw amser, felly dylai y Cristion fod yn barod bob amser at alwad ei Feistr.-C. ABERDYFl. Yn Eglwys St. Pedr, Aberdyfi, nos Fawrth, y 30ain cynfisol, a dydd Mercher, y laf o'r mis presenol, cynhaliwyd eyfarfodydd. Nos Fawrth, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Herbert, curad Towyn, a phregethodd y Parch. D. Jones, ficer Llanbedr Pont Stephan. Am wyth boreu dydd Mercher, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y Parch. E. T. Davies, ficer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. D. Herbert, Towyn. Am 11 o'r gloch, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. Edwards (Twm Gwynedd), a'r llithoedd gan y Parch. J. R. Edwards, ficer Corris, a phregethodd y Parch. D. Jones, Llanbedr Pont Stephan. Am 3.30, darllenodd y Parch. C. Pryce, ficer Pennal, y Litani, a phregethodd y Parch. D. Morgan, ficer Penrhyndeudraeth. Yn yr hwyr am 7, darllenodd y Parch. T. Edwards, Abergyn- olwyn y rhan gyntaf o'r gwasanaeth, a'r ficer y llithoedd a'r rhan olaf o hono, a phregethodd y Parch. J. Williams, Llangeler. Yr oedd y cynull. eidtaoedd y ddwy noson yn fawr iawn. Gwasan- aethau bywiog a gwresog-pawb yn uno i ganu mawl o ddiolchgarwch am y cynhauaf. Yr oedd yr Eglwys wedi ei hardd-wisgo yn rhagorol gan y boneddigesau canlynol:—Miss Howell a Miss Minnie Howell, Craig-y-don; Miss Emily Steward Tanyfoel; Miss Griffith, Braich-y-celyn, Aberdyfi, a Miss Lewis, Deanery, Bangor Miss Edwards, Bryndyfi, a Miss Porter, St. John's Vicarage, Birmingham. Yr oedd pedwar-ar-ddeg o offeir. iaid yn bresenol. ABERYSKIR. Yn Eglwys St. Mair, Aberyskir, ddydd Mawrth, y 30ain cynfisol, darllenwyd y gweddiau yn y bore gan y Parch. H. Hughes, B.A., Rhydybryn, a phreg- ethodd y Parch. William Williams, R.D., Llandi. faelog. Am 2.30, pregethodd y Parch. Mr. Hughes, Aberhonddu, ac am 6 pregethodd y Parch. T. Jones, Llywel, yn Gymraeg. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus dros ben erbyn yr achlysur gan Mrs. Powell, a Miss Price, Lloyger; a Miss Thomas, Pont-ar-yskir. Gwnaed casgliad ar ol pob gwasanaeth tuag at gael harmonmm newydd at was- anaeth yr Eglwys. PENYGARNDU, DOWLAIS. Nos Wener, cynhaliwyd gwasanaeth o ddiolch- garwch am y cynhauaf yn y lie uchod. Llafargan- wyd y gwasanaeth gan y Parch. G. Roberts, rector, darllenwyd y llithiau y Parch. R. Williams, Pant, a phregethwyd gan y Parch. E. Thomas, Rhymni, oddlar y geiriau hyny, Y mae efe yn gofalu am danoch chwi." Eglurwyd i ni sut y mae Duw yn gafalu am danom gorph ac enaid. Arddangosai y c6r ieuanc 61 paratoad, a gallem feddwl nad oedd neb o honynt wedi gwrando llawer ar;gynghorion 0--1 y canu yn ddiweddar. Ieuengctyd hoff dy- wedwch wrtho bob amser, dos yn fy ol i Satan." Harddwyd ac addurnwyd pabell y cyfarfod gan Mrs. David Price, Miss Maggie Morgan (Mold), yn caeleu cynorthwyo gan Mrs. Stephen Jones.