Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
Y DIWEDDAR ESGOB BETHELL A'R…
Y DIWEDDAR ESGOB BETHELL A'R WASG GYMREIG. Y mae ysgrifenydd yr erthygl arweiniol ar Gyn- hadledd Esgobaeth Bangor yn dra diolchgar i'r Parch. D. Sylvan Evans am yr hysbysrwydd mai nid yr Esgob Bethell a warafunodd iddo olygu un o gyfnodolion goreu Cymru amser maith yn ol. Golygydd y cyfnodolyn hwnw a hysbysai yr hanes i'r ysgrifenydd flynyddau yn ol, ac y mae yn eglur iddo yntau ei gam ddeall neu gam gofio y ffaith. Siarad yr oeddid am y ffolineb o esgeuluso y wasg Gymreig; ffolineb ag sydd wedi niweidio gwlad ac Eglwys, ac y mae yn rhaid i Eglwyswyr Llengarol yr oes hon wneyd aberth mawr i'w gywiro. Gan mai amcan uchaf newyddiadur a ddylai fod gwasanaethu gwirionedd, yr ydys gydâ'r hyfrydwch mwyaf yn cywiro y camgymeriad.
OPINION OF MR. THOMAS HAILING,…
OPINION OF MR. THOMAS HAILING, THE ACKNOWLEDGED "KING" OF ENGLISH PRINTERS. THE CARDIFF PRINTING AND STATIONERY COMPANY, LIMITED, CAPITAL £ 50,000.—This new venture has all the elements of a grand success. Its business manager is a gentleman of wide experience, practical ability, and rare business habits; and the list of Directors embraces the most eminent gentlemen in Cardiff. The works will be fitted with the electric light; the machinery em- braces the very latest and first makes obtainable; and the Type from the best founders of the world, including a wise selection of American Type—Mailing's Circular, Autumn, 1884. There are for disposal about 250 Shares. —See Advt. in Llan and Dywysogaeth. — ADVT. 113
PENMYNYDD, MON.
PENMYNYDD, MON. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys y plwyf uchod ddydd Mawrth, y 30ain o Fedi. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid gan y Ficer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. H. Williams, periglor Llansadwrn. Pregethodd y Parch. E. Evans, Pentraeth, 2.30, a'r Parch David Jones, periglor Newborough yn yr hwyr. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parch Jesse Jones, Beaumaris E. Jenkins, Glanogwen, a Herbert Jones, Llanfair P.G. Gwnaethpwyd casgliadau tuag at y Gym- deithas er Lledaenu yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor.
[No title]
Onid yw eich gwr chwi ychydig yn foel ? gofynai un foneddiges i'r llali y dydd o'r blaen. Nac ydyw, oblegid nid oes yna ddim cymaint ag un blewyn moel ar ei ben," oedd yr ateb brys- leisiol. Cafodd trosedd ofnqdwy ei gyflawni yn Strat- ford, trwy ba un y llofruddiwyd dynes ieuanc 20 oed, gan ei chariad, a cheisiodd y llofrudd gyf- lawni hunan-laddiad. Mae lie i ofni fod trosedd au fel hyn ar gynydd y dyddiau presnol.
--YR HELYNTION AIPHTAIDD.
YR HELYNTION AIPHTAIDD. LLOFRUDDIAETH Y MILWRIAD STEWART. ARABIAID BRADWRUS. Derbyniwyd newyddion o Cairo ddydd Llun, i'r perwyl fod y Cadfridog Stewart, yr hwn oedd gyda'r Cadfridog Gordon yn Khartoum, ynghyd a nifer o'i ddilynwyr wedi eu llofruddio gan Arabiaid. Dywedir fod pob lie i ofni fod yr adroddiadau hyn yn gywir er nad ydynt wedi eu cadarnhau yn swyddogol. Wedi i'r Cadfridog Gordon adael Berber am Khartoum aeth y Milwriad Stewart mewn agerlong i lawr y Nile, a chyd ag ef ddeugain o ddynion. Bwriadai geisio agor y ffordd yn glir hyd derfynau Dongola. Ar y daith i lawr yr afon taraw- odd yr agerlong ar graig, ac er pob ymdrech ni Iwyddwyd i'w chael yn rhydd. Pender- fynodd Stewart ymdrechu gwneyd cytundeb a'r brodorion, ac addawodd penaeth Arab- aidd ddyfod â chamelod at ei wasanaeth ef a'i ganlynwyr, a'u cynorthwyo i groesi yr anialwch i Meraux, ychydig filldiroedd yn uwch nag Ambukol. Tra yn ymbarotoi i lanio o'r agerlong, ymosodwyd ar y parti gan yr Arabiaid bradwrus a llofruddiog, a lladdwyd y rhai oeddynt eisoes ar y lan, ac yna rhuthrodd yr Arabiaid ar fwrdd yr ager- long, gan ladd pawb yno ag eithrio pedwar. Mae y digwyddiad hwn wedi creu teimladau gofidus ymhob cylch yn y deyrnas, gan y teimlir yn fawr o herwydd fod y Cadfridog Gordon a'r trancedig wedi eu gadael mor ddiamddiffyn gan y Llywodraeth yn Khar- toum, ar ol cael eu hanfon yno yn swyddog- ol. Gallai y Cadfridog Gordon gael ei lof- ruddio fel hyn oni bai am yr agerlongau sydd ganddo at ei wasanaeth. Amcan Stewart yn myned ar ei daith ydoedd cymell Arglwydd Wolseley a'i filwyr i brysuro ymlaen pan y cyfarfyddodd a'i ddiwedd truenus. YR YMOSODIAD AR BERBER. Mewn perthynas i ymosodiad y Cadfridog Gordon ar Berber, dywed gohebydd o Don- gola fod dyn o'r enw Hamma Oudl newydd gyrhaedd Ambukol o Berber, ar ol taith o bum' diwrnod. Gwelodd ef y Cadfridog Gordon gyd ag agerlongau a badau, yn gosod i fyny rybudd o heddwch. Aeth y Cad- fridog Gordon i Berber, gan gyrhaedd yno yn yr hwyr, ac angori yno ar ganol yr afon, Bu yn tanbelenu y dref drwy'r dydd canlyn- ol, gan ddechreu yn y boreu, ac yna aeth i El-Jasalain, a thanbelenodd hono drachefn. Cludwyd ymaith o Berber arian a thrysorau gan y gwrthryfelwyr i Borti. Dywed y Major Kitchener i'r Cadfridog Gordon dan- belenu Berber, ond na ddarfu iddo fyned i mewn i'r dref. Adroddir fod Mahmond Khair wedi ei ladd pan gymerywd Berber gan Gordon.
TRYOHINEB ARSWYDUS GERLLAW…
TRYOHINEB ARSWYDUS GERLLAW MERTHYR TYDFIL. Boreu dydd Iau cyn y diweddaf, cyflawnwyd gweithred erchyll yn Penydarren, rhwng Merthyr a Dowlais, sef dynes o'r enw Jones yn ceisio lladd plentyn ei mherch, ac yna ceisio cyflawni -yrun peth iddi ei hun. Y mae yn ymddangos fod mam y plentyn a drywanwyd yn byw gyda'i mham a'i thad. Boreu y diwrnod a nodwyd, aeth y ferch allan i faes cyfagos i odro y gwartheg, gan adael ei mham a'i phlentyn ei hun yn eu gwelyau. Yn ei habsenoldeb, cododd y nain o'i gwely, aeth i lawr y grisiau i chwilio am ellyn, a suddodd hi yn ymysgaroedd y bychan, gan achosi niweidiau dychrynllyd. Wedi hyny, defnyddiodd yr erfyn at ei gwddf ei hun, gan feddwl cyflawni hunan- laddiad, ond ni lwyddodd yn ei hymgais, er ei bod mewn cyflwr difrifol. Pan ddaeth mam y plentyn druan i'r ty, dychrynwyd hi wrth ei weled wedi ei osod i orwedd ar draws dwy gadair, ac yn orchuddedig a gwaed, ac yn ei ymyl, gorweddai ei mham fel pe wedi marw. Anfonwyd hysbys- rwydd am y peth i'r heddgeidwad Stanfield a'r Dr. Jones. Daeth y ddau hyny i'r lie, ac aeth y meddyg at y plentyn yn uniongyrchol, yr hwn, er ei fod wedi ei gigyddio mor ofnadwy, oedd eto yn fyw. Prysurwyd i wnio i fyny ei archollion yn ofalus, a'r un modd hefyd y ddynes. Dywedai y meddyg nad oedd ganddo ond gobaith gwan iawn am adferiady plentyn, ond cawsom ein hysbysu fod y bychan anwyl yn gwella yn raddol, ac fod gobaith yn awr y bydd iddo fyw. Nid yw archoll- ion y ddynes mor drymion ag y tybid ar y dechreu, er na ddisgwylir y bydd fyw yn hir gan ei bod yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth. Dywedir fod y nain mewn cyflwr o iselder meddwl er's oddeutu blwyddyn, a byddai raid iddi fyned i'w gwely yn ami oherwydd ei chyflwr gwael a gwanllyd.
[No title]
ADDYSG.-Y mae yn dda genym gofnodi llwydd- iant Mr. William Arthur Jones, Llanon, yn yr arholiad ar yr 2il cyfisol, yn Ngholeg DewiSant. Bu Mr. Jones yn parotoi yn Ysgol Ran-iadefyol Aberdyfi. Dydd Mawrth, a'r tri diwrnod dilynol, cynhal- iwyd cynhadledd Eglwysig luosog yn Carlisle. Llywyddid yn y gwahanol gyfarfodydd gan Esgob Carlisle, a chafodd yr holl weithrediadau eu nod- weddu gyda chynulleidfaoedd lluosog, ac yr oedd y papyrau a ddarllenwyd, a'r siarad a fu ar wa- hanol bynciau yn addysgiadol iawn ac i'r pwrpas.
-----_._--- ---LL YTHYR TOM…
LL YTHYR TOM PUDLER. Y LLAN. Syr,—Yr wyfwedi bod yn siarad droion a'r cyf- eillion Eglwysig yn y lie hwn ynghylch y LLAN, ac yn gofyn iddynt paham nad ydynt yn ei dder- byn ? Mae rhai o honynt heb wybod am dano, a rhai eraill heb ei weled. Yr wyf yn penderfynu y cant wybod am dano bob un, fel na bo hyny yn esgus ganddynt, ac yr wyf yn .symbylu tipyn ar y dosbarthwr yn y lie, iddo i'w wneyd ef yn fwy adnabyddus i'r cyfeillion Eglwysig. Fy marn i yw y dylai pob Eglwyswr ag sydd yn derbyn papyr newydd dderbyn y LLAN. Mae amryw o'r cyfeillion yma yn derbyn papyr bob wythnos, ac yn ei ddarllen yn dra manwl a llwyr, ond rhyw bapyr sectol y maent yn dderbyn. Mor bell ag yr wyf fi yn cael golwg ar y papyrau sectol, mae pob un o honynt yn elyn calon i'r Eglwys. Dywedant bob drwg am dani, a llysenwant hi yn bob enw, a difriant hi, a phardduant hi. Hi yw drwg y drygau, a mam holl ddrygau yr oes. Llefarant yn fwy cliwerw yn erbyn yr Eglwysnag y gwnant yn erbyn meddwdod, ac anonestrwydd a thwyll, a chelwydd, ac anlladrwydd a godineb yr oes. Tynant eu llaw yn ysgafn dros bob pechod gwar- adwyddus, ond pan ddeuant at yr Eglwys, dyrnant hi a'u dyrnau, ac a'u holl nerth. Galwant hi ar bob enw, yr hen fam, yr hen domen, yr hen butain, merch yr hen butain o Rufain. Dylent gofio, os merch y butain o Rufain yw hi, eu bod hwythau yn wyrion i'r butain o Rufain, oblegid o'r Eglwys y daethant hwy allan y naill ar ol y llall. Os yr hen fam yw hi, maent hwythau yn blant iddi, ond plant anufudd iawn, a phlant an- foesgar iawn ydynt yn poeri yn wyneb eu mam. Ond dyma chwaeth y papyrau sectol, dyma'r iaith a hoffant. Rhaid addef eu bod yn feistriaid ar eiriau bryntaf yr hen Gymraeg, geiriau cryfaf yr hen grach feirdd pan wedi cwympo allan a'u gilydd. Dyma'r iaith a ddarllenir gan yr Eglwyswyr hyny a dderbyniant y papyrau sectol. Yr wyf yn rhyfeddu weithiau pa fodd y deuant i'r Eglwys o gwbl wrth ddarllen sothach o'r fath mae eu meddyliau yn cael eu suro ac yn cael eu gwen- wyno. Gan na welant y LLAN i weled beth yw yr Eglwys, y da sydd yn yr Eglwys, a'r holl dda a wneir gan yr Eglwys, maent hwy yn dyfod, o dipyn i beth, i gredu yr holl ddrwg a ddywed y papyrau sectol am yr Eglwys mae gwirionedd ydyw. Nid wyf yn beio ar neb am ddarllen y ddwy ochr i'r ddalen. Yr wyfyn gwneuthur hyny fy hun, ac yr wyf yn cario y LLAN bob wythnos i'r gwaith, ac yn peri i'r cyfeillion yn y gwaith i wrando ar yr ochr arall i'r ddadl. Mae rhai yn gwingo, ond ar y cyfan y maent yn ddigon teg i wrando. Am yr Eglwyswr sydd yn darllen papyr sectol yn unig, un eiddil a gwan ydyw. Ni fedr ddal pen rheswm a neb, mae ar asgwrn ei gefn bob ergyd, mae ef fel dyn cwyr, gellir ei dynu ymhob ffurf. Dyn heb fywyd ydyw. Yr wyf yn dal y dylai pob Eglwyswr sydd yn dar- llen papyrau, ddarllen papyr Eglwysig. Ni wn i fawr am bolitics, dim ond politics y bara a chaws, a pliolitics y fasnach haiarn a'r fasnach ddur. Ni a wyddom, er ein cost, fod hono yn ddigon marwaidd. Dyna i gyd a wn i am Gladstone, y gaffer mawr, nid yw ef wedi gwella dim ar y fasnach. Ac am yr Eglwyswr sydd yn cerdded law yn llaw, a throed yn nhroed, a chario yr un faner, a gwaeddi yr un floedd, a'r cynhyrfwyr sydd a'u holl fryd ar dynu yr Eglwys yn garn ar draws ei ben, nid wyf yn ei ddeall. Gofyn cael rhywun hwy ei ben na myfi i ddirnad i ba rywogaeth o greaduriaid y mae yn perthyn. Mae hen ddywediad gan y Saeson, "mai brwnt yw'r aderyn sydd yn gwneuthur baw yn ei nyth ei hun." Ffol hefyd yw'r aderyn sydd yn sarnu ei nyth ei hun. TOM PUDLER.
LLANERFYL.
LLANERFYL. YR YSGOL SUL ACHOR EGLWYS ST. ERFYL.— D dd Sadwrn diweddaf cafodd aelodau yr Ysgol Sal a chor Eglwys St. Erfyl eu gwledd flynyddol o de, cig, a bara brith, yn y Rectory Grounds. Yr oedd y tywydd yn hynod ffafriol, ac ymgyn- ullodd llawer ynghyd, a chafodd bawb ei foddloni yn y danteithion a ddarparwyd ar eu cyfer. Ar ol darfod wrth y byrddau aethpwyd i gae cyfagos, perthynol i'n parchus rheithor, lie bu yr oil yn ymbleseru mewn chwareuon difyrus hyd yr hwyr. Gwasanaethwyd ar y cae gan Brass Band Llan- erfyl. Cyn ymwahanu rhoddodd ein parchus rheitlior ddigonedd o fruits i'r plant. Cynygiodd Mr. Williams, Bryntanad, ac eiliodd Mr. Roberts, National School, fod teyrngod o barch i gael ei dalu i Mr. a Mrs. Reed am eu caredigrwydd, a dangosodd yr oil o'r aelodau eu bod yn cyduno yn hyn. Gwnaeth ein parchus rheithor amryw o sylwadau p wrpas si ar yr amgylchiad i'r holl aelodau, a gobeithio y gwnant ddefnydd o'r hyn a glywsant. Dylasem ddweyd fod Iarll Powis wedi tanysgrifio tuag at y wledd, a thrwy gynygiad y Parch. S. Reed, talwyd teyrnged o barch hefyd i'w arglwyddiaeth am ei haelioni.-Aelod.
ABERAYRON.
ABERAYRON. GWYL GORAWL EGLWYSIG.—Cynhaliwyd gwyl gorawl Eglwysig flynyddol dosbarth Aberayron yn Eglwys y Drindod, ar y 3ydd cyfisol. Cymerwyd rhan gan gorau eglwysi Aberaeron, Ceinewydd, Llanrhystyd, Cileman, Llanbadarn, Llanarth, Llan- dysiliogooo, Llansantfraid, Trefilan, a Ciliau Aeron, y rhai a arweinid gan Mr. John Jones, Aberaeron, ac y mae ei enw ef yn ddigon o sierwydd am ansawdd y canu. Undonwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. Walters, M.A., Caerfyrddin, a chwareuwyd a,r yr harmonium gan Miss Bowen, Trefilan. Yr oedd yr eglwys yn orlawn, ac aeth pobpeth ymlaen yn llwy- ddianus ymhob ystyr. Pregethwyd gan y Parch. D. Jones, Llanbedr, ac yr oedd yr offeiriaid canlynol yn bresenol:—Parchn. J. Jones (Idrisyn), H. Morgan, Llan, Aberaeron; W. O. Edwards, B.A., Aberaeron. D. Griffith, B.A., Ceinewydd I). Griffiths, Trefilan;' J. Jones, Oilcennin; J. H. Da vies, Ciliau Aeron; D. Lewis, Llandysilio, a J. Jones, Ceinewydd.
---OYNHADLEDD ESGOBAETHOL…
OYNHADLEDD ESGOBAETHOL TY DDEWI. Dechreuwyd ar weithrediadau pedwaredd gyn- hadladd Esgobaethol Ty Ddewi, foreu ddydd Mercher, yn yr Assembly Rooms, Caerfyrddin. Cyn dechreu ar waith y cyfarfod, gweinyddwyd y Cymun Bendigaid yn Eglwys St. Pedr. Llywydd- wyd yn y Gynhadledd gan yr Arglwydd Esgob, ac ymhlith y rhai oeddynt yn bresenol gwelsom Tra Pharchedig Ddeon Ty Ddewi, y pedwar Arch- ddiacon, y Canghellydd Phillips, Canon Williams, Canon Bevan, Arglwydd Dynevor, Mr. C. E. G. Phillips (Picton Castle), Milwriad Lambton, Mr. Gwynnet Tyler, Mr. J. T. D. Llewelyn, &c. Rhifai aelodau a chynrychiolwyr y gynhadledd oeddynt yn bresenol tua 100. Yn ei anerchiad agoriadol, dywedai yr Esgob ei fod yn hwyrfrydig ar y ddechreu i roddi ei ganiatad i sefydliad y gynhadledd, ond yr oedd yn dda iawn ganddo erbyn hyn, gan fod y canlyn- iadau yn hynod foddhaol. Yr oedd y Gynhadledd eisoes wedi bod yn foddion i gario ymlaen waith da yn yr Esgobaeth, ac enwodd amryw bethau ag yr oedd y Gynhadledd wedi bod yn foddion i roddi cychwyniad iddynt, ac yn enwedig Trysorfa yr Esgobaeth, at yr hon y credai ei Arglwyddiaeth y ceid t- 1,000 mewn tanysgrifiadau bob blwyddyn. Wrth derfynu cyfeiriodd ei Arglwyddiaeth at y y pynciau a ddygid ymlaen, ar y rhai yr hyderai y ceid ymdriniaethau pwyllog. CYNORTHWY LLEYGOL. Darllenodd y Parch. Dr. Walters, Llansamlet, bapyr galluog ar y pwnc hwn, a chynygiodd fod cymdeithas i gael ei ffurfio yn yr esgobaeth ynglyn a phenodi lleygwyr i gynorthwyo clerigwyr eu plwyfydd pan fyddo angen. Eiliwyd y cynygiad gan y Milwriad Evans, Highmead, a phasiwyd ef yn unfrydol. PWYLLGOR SENEDDOL. Ar gynygiad Mr. Gwynnet Tyler, ac eiliad yr Archddiacon James, etholwyd y rhai canlynol yn bwyllgor seneddol :-Yr Esgob, y Deon, Arch- ddiacon de Winton, Canon Williams, Principal Jayne, Arglwydd Emlyn, Mr. J. T. D. Llewelyn, Mr. C. E. G. Phillips, a Mr. G. Tyler. AMDDIFFYNIAD YR EGLWYS. Penderfynwyd ffurfio pwyllgor Amddiffyniad yr Eglwys, yr hwn fydd ynglyn a' r jjGymdeithas Ganolog yn Llundain. Cafwyd anerchiadau ar y pwysigrwydd o ffurflo y fath bwyllgor gan Mr. Llewelyn, Mr. Glascydine, Mr. Phillips, y Prin- cipal Jayne, Parch. Dr. Walters, Arglwydd Dynevor, a'r llywydd. ELUSENAU ESGOBAETHOL. Ar gynygiad yr Archddiacon de Winton, ac eiliad y Deoa Allen, penderfynwyd fod pwyllgor i gael ei benodi i otalu am elusenau clerigol yr es- gobaeth. Y CONFOCASIWN A LLEYGWSR. Cyflwynodd yr Esgob i sylw y cyfarfod y pen- derfyniadau y daethpwyd iddynt yn y ddau Dy o Gonfocasiwn gyda golwg ar hyn, a chredai nad oedd yr adeg ymhell pan y caniateid i leygwyr gynorthwyo y clerigwyr mewn adeiladau cysegr- edig, ond tybia y byddai yn angenrheidiol i'r Senedd basio Mesur cyn y byddai hyny yn gyf- reithlon. Y DIRPRWYWYR EGLWYSIG. Cafwyd ymdriniaeth faith ar adroddiad y Dir- prwywyr Eglwysig, a darllenwyd papyrau ar y pwnc gan Canon Bevan a Mr. Glascodinei Pasiwyd penderfyniadau ffafriol i adroddiad y Dirprwywyr. Yna gofftiwyd y cyfarfod hyd dranoetb. [Drwg genym na chaniata gofod i ni gyhoeddi adroddiad cyflawn yr wythnos hon.—GOL.]
MARWOLAETH MRS. SMITH, TREGARON.
MARWOLAETH MRS. SMITH, TREGARON. Gofidus genym grybwyll am farwolaeth bonedd- iges hynod barchus yn Nhregaron, sef Mrs. Smith, yr hon fu yn aelod ffyddlon o'n Heglwys am yn agos i ddeugain mlynedd. Gallwn ddweyd am dani ei bod yn gyson iawn mewn moddion gras, a bu yn athrawes ddefnyddiol yn yr Ysgol Sul am flynyddau. Coleddai pawb barch mawr iddi, a'r gwirionedd ei hun. Bydd yn chwith genym weled ei lie yn wag, a theimlir colled fawr ar ei hoi gan bob dosbarth yma, yn enwedig yn yr Eglwys a'r Ysgol Sul. Yr ydoedd yn gyfnither i'r Parchn. J. Davies, St. Dewi, Ffestiniog Mr. Davies, curad, Llanbedrog a W. Rees, Penderyn, Aberdar, ac yn fodryb i'r Parch. W. H. Thomas, ficer Abersychan. Dioddefodd Mrs. Smith ei chystudd yn dawel, a bu farw fel un yn gweled 3T Anweledig, ac y mae genym obaith cryf ei bod yn awr yn nghwmni yr hwn a wasanaethodd mor ffyddlon a diysgog. Bydded i'r Arglwydd ein gwneyd ninau oil yn barod i gyfarfod yr un am- gylchiad. Dyna yw dymuniad diffua,nt-Glaii- brenig.
PENMACHNO.
PENMACHNO. Cynhaliwyd gwyl o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys y plwyf hwn ar ddydd Mercher ac Iau, y 24ain a'r 25ain cynfisol, fel y canlyn :-Nos Fctcher, yn Eglwys y Cwm, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. Jenkyns, rheithor, a phregethwyd gan y Parch. W. S. Williams, rheithor Transfynydd. Am ddeg, boreu ddydd Iau, yn Eglwys y plwyf, dar- llonwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. S. Williams, a phregethwyd gan y Pare.h. D. Morgans, Capel Garmon. Am ddau, gweddiwyd y Litanijgan y Parch. 0. Jones, Pentrefoelas, a phre- gethwyd gan y Parch. P. Jones, ficer Dolwyddelen. Yn yr hwyr darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. M. Edwards, Ysbytty, a phregethwyd gan y Parch. W. S. Wiliiams. Daeth tyrfaoedd lluosog ynghyd i'r wyl eleni, a chafwyd gi-vèosanaethau a phregothau rhagorol iawn. Yr oedd yr eglwys wedi ei haddvurno a. yd a blodau, &C, erbyn yr achysur ga,ny rhai canlynol :-Mrs. Jenkyns, Rectory; Miss L. J. Jones, pupil teacher Mrs. Edwards, Ysgoldy R. S. Roberts, a J. Hughes. Gwnaed casgliadau yn y boreu [a'r jhwyr tuag at y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, ac hefyd trwy haelioni arferol ein rheithior darparwyd lluniaeth gogyfer a'r dieithriaid yn yr ysgoldy. Y
AWGRYMIADAU MR. LEWIS MORRIS.
debyg o fod felly i raddau helaeth yn y dyfodol, a buasai cynorthwy gwragedd o ddysg a phrofiad yn llywodraethiad y Coleg- au yn ddiau yn gaffaeliad gwerthfawr. Y mae'r ffaith bod un o gymeriad a safle Mr. Lewis Morris yn ei theimlo yn angen- rheidiol gofyn na bo gyfreithlon mwyach ddewis un Gweinidog yr Efengyl yn Ben- aeth un o'r Colegau yn esboniad trist ar y mawr ddrwg sydd wedi dyfod i Gymru lonydd o'n hymraniadau annedwydd. Gall- esid meddwl mai Gweinidogion yr Efengyl o ddysg a dylanwad fuasai y dynion cym- hwysaf i'w gosod wrth lyw y sefydliadau sydd i ddysgu y genedl sy'n codi pa fodd i gerdded. Ond na, meddai Mr. Lewis Morris. Y mae perygl i'r i'r colegau fyned yn llonddrylliad ar greigiau cenfigen enwadol! I ba le y mae Cymru grefyddol yn gyru ei cherbyd? Nid diogel yn awr ethol gweinidog o un enwad rhag cynhyrfu cenfigen enwadau eraill. Ond beth am fod yn aelod gyd ag un enwad ? A genfigena yr Annibynwyr os bydd y penaeth yn aelod gyd a'r Methodistiaid ? Ac a deimla y Wesleyaid yn anesmwyth os bydd y penaeth yn aelod gyd a'r Bedyddwyr ? Ai tybed y bydd aelodaeth yn ddigon i gau dynion allan o ran yn nghyfraniad addysg uwchraddol yn Nghymru yn y dyfodol ? Cyhyd ag y megir y genfigen enwadol ac y molir ymraniadau fel rhinwedd ac iachawd- wriaeth Cymru, rhaid disgwyl na bydd neb yn benaeth cymeradwy ar ein colegau ond y dyn nad a i un man ar y Sul, ac na phroffesa un ffurf o grefydd o gwbl. Nid ydym wrth ddweyd hyn yn taflu unrhyw amheuaeth o berthynas i ddoethineb aw- grymiad Mr. Lewis Morris dan yr amgylch- iadau. Ond y mae'r ffaith fod amgylchiadau crefyddol ein gwlad yn gyfryw ag i wneyd y fath awgrymiad yn fuddiol yn ddiau yn ddigon i beri i bob gwir Gristion fawr ofid calon. 0 berthynas i'r trydydd awgrymired- presenoldeb un o gynghor Aberystwyth yn nghyngor Caerdydd a Bangor-nid oes genym ond gwrando beth a fydd gan yr enwadau i'w ddweyd am dano. Pe cynyg- asid i aelod o "gynghor Coleg Llanbedr, yr hwn sydd lawer uwch ei safle nag Aberys- twyth, gael lie yn nghynghorau y ddau goleg, aethai yn ystorm ar unwaith. Buasai colegau bychain Pontypool, Trefecca, Aber- honddu, a'r Bala, yn union yn croch-waeddi am eu "hawliau." Gan fod penaeth Aber- ystwyth yn weinidog gyd a'r Methodistiaid byddant hwy a Mr. Gee ond odid yn ddis- taw.