Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Hysbysrwydd a dderbyniwyd o Cairo a ddywed fod amryw garcharorion wedi dianc yno, ac wedi ymosod ar geidwad y,eareliar. Cafodd 17 o hon- ynt eu dal, ond y mae 13 eto ar ffo. Dywedir mai diddymiad y gosp o fflangellu carcharorion a fu yr achos o'r cythrwfl.
CERDDORIAETH EGLWYSIG, &c.
CERDDORIAETH EGLWYSIG, &c. At Olygydd Y Llan." Syr,-Rhoddai bleser nid bychan i mi weled eich hysbysiad ynghylch yr Hyfforddwr ar y G&n Eglwysig," gan Ddeon Bangor, y Parch. G. Arthur Jones, a'r Parch. J. W. Doran. Mae bellach ddeng mlynedd ar hugain er pan ddygwyd yr hen Psallwyr allan gan y Parchn. G. A. Jones, Evan Lewis, a Lewis Gilbertson, a dyna yr ym- gais cyntaf i adferu arferiad y tonau Gregoraidd, neu y t6nau cyntefig," yn yr Eglwys Gymraeg. Llwyddiant mawr i'r argraphiad diwygiedig, ac i garedigion hen Eglwys y Cymry a aethant i'r mawr draul o'i ddwyn allan I Yr ydym hefyd, fel Eglwyswyr Cymreig, dan rwymau i Mr. Arthur Jones am ei wobr tu ag at gyfieithu hymnau Lladin i'r Gymraeg, yr hon a enillwyd gan ein cyfaill Penfro, golygydd hynaws barddoniaeth yr hen Dywysogaeth. A gaf fi, trwy eich cyfrwng ofyn i roddwr y wobr pa gynllun sydd ganddo tuag at roi yr emynau hyn at wasan- aeth y cyhoedd ? Gobeithio na adewir iddynt, fel cynyrchion Eisteddfodol yn gyffredinol, lwydo mewn M.S.S. Er yn pres ivylio ynghanol miloedd Saeson a thramoriaid Caerdydd, mae'n ymddangos fod calon y Parch. G. A. Jones yn dal yn Gymroaidd o hyd. A fyddai yn ormod peth i ni ymholi ag ef a oes rhyw ddarpariaeth yn Nglaaerdydd gogyfer a'r Cymry ? Yn y Gogledd, welwch chwi, yr wyf fi yn cyfaneddu, ac heb fod yn rhwydd hyddysg yn helyntion y De. Hefyd a yw'r Esgob Cymraeg wedi dwyn iaith ei fam yn ol i'w Eglwys Gadeiriol yn Llandaf ? Rai blynyddau yn ol bum i ar ym- weliad a hi, ac yn parlio peth a hen Gymraes oedd yno yn ei glanhau. Dywedai hi nad oedd gair o Gymraeg byth i'w glywed o fewn magwyr- ydd yr Eglwys, ond y gallai hi addoli yn iaith y galon yn y capel Wesleyaidd gerllaw. Ai felly y pery hi yno ? Os nad yw'r gwr parchedig yn rhy helbulus gyda materion pwysicach (ac ofnaf ei fod), byddai gair oddiwrtho ar y pyngciau ucliod yn bleser efallai i rywun heblaw Ap DINMAEL.
BWRDD ADDYSG BANGOR.
BWRDD ADDYSG BANGOR. At Olygydd Y Llan." Syr,—Gyda'ch caniatad dymuna.f ymofyn Ag ysgrifenydd y Gymdeithas uchod a ydynt hwy wedi nodi ar bump o athrawon yr ysgolion elfenol i gynrycliioli y broffeswriaetli ar y Bwrdd, yn ol penderfynia.d y Gynadledd ddiweddaf ? Gair o eglurhad ar wedd a dull yr etlioliad a'n boddlona hefyd. Tybiem nas gallasai result yr etlioliad fod allan yn awr, gan nad oes ond amser byr iawn wedi ei ganiatau i gaitvasio yr athrawon, ond yn gymaint a bod nodiad wedi ymddangos yn y newyddiaduron i'r perwyl fod Mr. Morris, Ysgol Genedlaethol, Llandudno, wedi ei ethol, credwn mai doeth fyddai rhoddi cyhoeddusrwydd i enwau yr etholedigion eraili, modd y gallom wybod pwy yw ein cynrychiolwyr.—Yr eiddoch, TRWYDDEDIG.
-----ABBRBANC.
ABBRBANC. CYFAKFOD YBGOLION.— Mae'n wybyddus i ddar- llenwyr y LLAN fod cyfarfod blynyddol ysgolion Sul amryw o'r plwyfydd cymydogaethol yn cael ei gynal ysgoldy Aberbanc. Ond y flwyddyn hon penderfyn- wyd mewn ychwanegiad i gynal cyfarfod i'r plant, a ddydd Mawrth, y 30ain o Medi, daeth tua 200 o blant ynghyd o saith plwyf. Yr oedd plant Castell- newydd wedi bwriadu bod yn bresenol, ond oblegid rhyw reswm sydd yn anadnabyddus ni wnaethant eu hymddangosiad. Holwyd ysgolion Henllan, Llan- dyfriog, a Llangynllo yn fedrus iawn gan y Parch. J. H. Williams, curad Penboyr, yn yr Ail Gatecism. Mae'n ddrwg genym ein bod ar golli y dyn ieuangc gobeithiol hwn o'r ardal. Mae'n myned i Aber- honddu. Rhodded yr Arglwydd iechyd a hir oes iddo i fod yn ddefnyddiol iawn yn yr eglwys yw ein gweddi. Holwyd ysgolion Penboyr, St. Barnabas, Llanfair-orllwyn, a Llangeler, yn yr un llyfr, gan y Parch. J. D. Jones, Llandyfriog. Yr oedd yratebion yn rhagorol, y canu a'r gwasanaeth yn wresog ac yn ddefosiynol, o dan arweiniad Mr D Peters. Undonwyd y gwasanaeth gftn y Parch. W. Rees, Llangynllo. Yr oedd y gwyddfodolion yn cyduno fod y cyfarfod yn llwyddiant peifiaith, a theimlad pawb oedd fod yn rhaid i gyfarfod y plant hefyd fod yn flynyddol, fel cyfarfod y rhai mewn oed. Gawsom anerchiad ar y diwedd gan y Parch. J. D. Jones, a dywedai gan mai efe oedd wedi bod y blaenaf i gynyg sefydlu'r cyfar- fod fod ei lawenydd yn fawr wrth weled y fath dorf o blan t yr eglwys mor gadarn ac egwyddorol yn eg- wyddorion eu Mham, yr Eglwys. Yr oedd y Parohn. W. Powell, D. Jenkins, Llanfair-orllwyn, ac offeiriaid eraill yn bresenol.
-"'-"""'-""--!COLEG DEWI SANT,…
COLEG DEWI SANT, LLANBEDR. Ar ail-agoriad y Coleg dydd Iau, yr 2fed cyfisal, derbyniwyd i mewn 45 o efrydwyr newydd. Gwna hyn nifer efrydwyr y Coleg yn 130, heblaw 60 o fechgyn yn ysgol y Coleg, yr hon, fel y cofir, a agor- .Y wyd gyntaf fis Ionawr diweddaf. Cynrychiola hon bob sir ac ysgol yn y Gogledd a'r Deheudir yn mysg yr efrydwyr newydd. Derbyniwyd pedwar o Goleg Aberystwyth a dau o Goleg Oaerdydd. Oherwydd cynydd y Goleg a'r Ysgol y mae angen mwy o arian er gwneyd darpariaeth addas ar eu cyfer. Penodwyd eisoes ddau athraw ychwanegol yn yr ysgol, sef Mr. H. O. Ridges, B.A., o Goleg y Drindod, Caergrawnt; a'r Parch. John Williams, o Goleg Dewi Sant. Bwriedir penodi yn ddioed ddarlithydd o'r newydd yn y Coleg i gymeryd yr iaith Saesneg a'r Llenydd- iaeth. Bwriedir hefyd, mor fuan ag y gellir, benodi darlithydd mewn Biology, gan fod y gangen hon o wyddoniaeth yn hynod ddefnyddiol i rai yn meddwl myned yn feddygon. Y mae eisoes amryw o gyf- leusderau yma i'r dosbarth hwn, ac argoelion fod llawer am eu defnyddio. Credwn y daw Eglwyswyr Cymru allan i gynorthwyo y Coleg i gyfarfod yr anghenion newydd a godant o'r cynydd anarferol sydd yn cymeryd lie yn nifer yr efrydwyr. Agorwyd ar ddechreu y tymor presenol Gymnasium a Fives Court newydd, a sicrhawyd gwasanaeth Sergeant Major Dallison, R.A., Aberystwyth, i roddi addysg mewn ymarferiadau corfforol, megys drill a gym- nastics i fechgyn yr Ysgol ac i efrydwyr y Coleg. Agorwyd hefyd boarding house newydd a thrydedd hostel i fechgyn, ac ardrethwyd amryw dai yn y dref yn hostels i efrydwyr. Pan nad ydyw y Coleg, oherwydd ei gysylltiad a'r Eglwys, yn derbyn dimai gan y Llywodraeth, credwn na oddef Eglwyswyr Cymru iddo fod yn ol o arian. Os gwna Eglwyswyr y Gogledd yn gystal a'r Deheudir eu dyledswydd tuag at y Coleg ni raid i Lanbedr ofni canlyniadau cystadleuaeth a'r tri choleg arall. A ganlyn yw enwau yr ymgeiswyr llwyddianus yn yr arholiadau a gymerasant le yn ddiweddar yn y Coleg a'r Ysgol am ysgoloriaethau a llenfuddianau. YSGOLORIAETHAU I YMGEISWYR EISOES YNY OOLEG. — £ 40 T. M. Evans (hanesyddiaeth ddiweddar); £32 J. Parry (classics) £ 31 T. Harries (classics); £ 30 J. Evans (duwinyddiaeth) R30 0. M. Jenkins (mathe- matics) £25 J. Y. Evans a M. Powell, cydradd (y Gymraeg); C24 A. Field (mathematics); £ 24 E. M. Rowland (hanesyddiaeth ddiweddar); £24 J. F. Rees (classics) C20 J. Jenkins (duwinyddiaeth). Llenfuddianau i ymgeiswyr eisoes yn y Goleg.— £ 15 T. L. Harries Jenkyn a J. Y. Evans, cydradd (Groeg y Testament Newydd); £ 10 John Harries (Hebraeg); P,10 E. Wolfe (duwinyddiaeth); £ 8 6s. 8c., B. S. Lloyd (chemistry a mathematics). Ysgoloriaethau a Llenfuddianau i ymgeiswyr allan o'r Coleg.— £ 30 C. M. Smith, Ysgol Ramadcgol Caer- fyrddin (mathematics); P,20 E. M. Jones, Coleg Lerpwl (chemistry a mathematics) £10 John Lloyd, Coleg Llanymddyfri (classics). Dyfarnwyd llenfuddianau ar ddyfodiad i mewn i'r coleg i Stephen Evans, Ysgol Ystradmeurig R. H. Williams, Ysgol Ty Ddewi; E. Jones, Ysgol y Coleg; a llenfuddianau eilraddol i J. P. Davies, Ysgol Ty Ddewi; J. M. Morris, Ysgol Leatherhead; W. Jones, Ysgol Ystradmeurig; H. W. Jones, Ysgol Ty Ddewi; Elias Owen, Ysgol Rhuthyn, a P. R. Phillips, Coleg Aberystwyth. Yn Ysgol y Coleg dyfarnwyd llenfuddianau i W. Lewis, Pencarreg (mathematics); J. Jones, Ddeu- nant, Pencarreg (mathematics); J. R. Davies, Ysgol y Coleg; James Jones, Ysgol Tyssul, Llandyssul; D. G. Jones, Ysgol y Bwrdd, Llanarth (cyfyngedig i ysgolion elfenol). Enillwyd llenfuddianau cyfyngedig i dref Llan- bedr gan J. Davies a T. Lyons, Ysgol y Bwrdd, Llanbedr.
LLITH O'R BWTHYN GWLEDIG.
LLITH O'R BWTHYN GWLEDIG. Anaml iawn y caniata amgylchiadau a "grasy byd hwn i Hen Domos, dir help, i gael myn'd yn mhell iawn o olwg simdde ei fwthyn bach yny wlad. Ond yr wythnos ddiweddaf, torais dros ben pob rhwystr, a ffwrdd a mi tua'r Gogledd. Wedi cyr- haedd Amwythig, ar ol taith bell, meddyliais am hir ympryd St. Paul, o herwydd yr oedd y diges- tive organ yn chwareu ton erfyniadol iawn. Aethum i fewn i westy yno, a dechreuais holi yn Saesonaeg am rywbeth ar lun ymborth, ac er fy mawr lawenydd y" oedd yno ddigon i'w gael, a digon dros ben, a rhyngoch chwi a minau yn ddistaw, yr oedd yn ddigon drud hefyd. Tref brydferth iawn yw Amwythig, ac y mae yn enwog am yr hen ysgol ramadegol glodfawr sydd yno. Ffwrdd a mi gyd a'r tren nesaf tua Chroesoswallt, ac os oedd yr iaith fain yn yr Amwythig bron dotio Hen Domos, druan, aeth yn hurt glan wrth wrando ar Gymraeg y brodor- ion yn yr ardal hon. Nid oes cymaint o arwyddion "byddaynhelaethwych beunydd" ar y bobl ag sydd ar drigolion tref Amwythig. Ond beth bynag am hyny, y mae yn lie rhyfeddol am gaws ac ymenyn, a barnu wrth y farchnad y tro hwn. Clyw- ais lawer am gaws Caerphili, ond nis gwn beth yw bias y cyfryw. Ymddangosai caws Croesoswallt yn hyfryd iawn. Yr oedd yn ddiamheu yn fwy tyner na'r Caws Gardi sydd yn herio cylla Hen Domos ar droion. Wel, ar ol gadael Croesoswallt, aethum i ffwrdd tua chyfeiriad Llangedwyn Hall, palas Syr W. W. Wynn, yr hwn sydd yn lie henafol a phryd- ferth iawn. Dangosai y bryniau oddiamgylch fed rhialtwch wedi bod yno ar ddydd priodas merch y barwnig. Ychydig filldiroedd yn nes ymlaen tua'r bryniau, ar wastadedd prydferth, y mae Llanyblod- well, lie y gweinidogaetha y Parch T. Tudno Jones, y cadeirfardd enwog. Man swynol iawn i fardd fyw yw hwn. Wedi hir deithio ar hyd y ffordd fawr, fawlyd, front, aflan, a llawn llaca, gan regu yr aw- durdodau yn y corph am beidio cadw y ffordd yn well, gwelais ddyn yn siglo corlac yn 01 as ymlaen fan draw, gan wneyd ei oreu. i lanhau tipyn arni. Meddyliais ar unwaith ei fod yn debyg i ddyn yn bwyta pwdin a, mynawyd Pa le mae Highway Board y rhan hwn o'r byd ? Wedi myn'd am eu holidays, feddyliwn. Ar,ol pasio y gwr a'r corlac, a chadw fy ngolwg ar y bryniau, gwelwn Llanrhaiadr- yn-Mochnant yn gorwedd mewn pant swynol gerllaw. Yma y mae y Parch D. Jones yn cael digon o fwyd, ae yn llanw ei le yn gampus fel ficer y plwyf. Cefais y fraint hefyd o ysgwyd pawen a -Dr Williams a'i wraig serchog, y rhai sydd yn darllen y LLAN yn gyson, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynddi. Y mae Mr Williams yn feddyg medrus iawn, ac yn M.D., ond hob fwy o falchdcr na phe buasai yn common surgeon. A gwell uu,'r cwbl, nid oes arno gywilydd o'r hen Gymraeg. Rhaid gadael Llan- rhaiadr, a myn'd ymlaen i Penybontfawr, lie y mae y cadeirfardd Penfro yn preswylio. Adwaenwn ef yn dda pan yr oedd yn hogyn mawr yn y Coleg gynt, ond nid oedd ganddo wraig a theulu y pryd liwnw. Bachgen campus oedd ef y pryd hwnw, ac addawol iawn fel gweinidog, ac yr oedd yn dda gan galon Hen Domos glywed ei fod yn great gitit yn y North, a'i fod yn barchus gan bawb. Yr oedd yn rhaid i ni droi i mewn i'r ficerdy, o herwydd an- hawdd oedd meddwl pasio heibio i Penfro. Wedi myn'd i mewn, a chael croesaw mawr gan yr angyles sydd yn wraig iddo-gwraig yn ateb y des- grifiad o ymgeledd gymhwys "-boneddiges deilwng yn mhob ystyr—cefais y fraint o ysgwyd pawen Pen- fro, a phan fy ngwelodd, bu bron neidio o'i groen gan lawenydd, a gwaeddodd allan,— Ai dyma yr Hen Domos ?" A ydych yn meddwl y cawsai eich gohebydd oedran- us ymadael oddiyno y noson hono ? Na, dim o'r fath beth. Penfro a Mrs Penfro ymhob o fraich i mi, ac yn fy nghario i'r gadair oreu yn y tJ, Bendith ar eu penau. Dyma barch i hen boor fellow. Pa bregethwr Ymneillduol a wnai gymaint a hyn i aelod tlawd ? Ac nid hyn yn unig, ond yr oedd yn rhaid i mi aros i'r cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf dranoeth yr oedd dau offeiriaid o'r Deheudir yn pregethu-dau hen gyfail calon i Penfro. Cafwyd cynulliadau lluosog bedair gwaith, a'r lie yn orlawn y noson olaf. Yr oedd y casgliadau yn ystod y dydd tuag at y S.P.G., a threuliau yr Eglwys yn y lie. Gwelodd Hen Domos, dir help, trwy ei yspectol, ddau ddernyn^aur ar y ddisgl wrth ei bod yn pasio, a llawer haner coron a sylltau, heblaw ceiniogau y gweddwon. Da iawn, amaethwyr Penybont. Dyna gydnabod yn briodol ddaioni Duw yn ei ragluniaeth. Y mae genyf un gair bach eto i'w ddywedyd yn nghlust y gynulleidfa. Myned pob un Lyfr Gweddi a Llyfr Hymnau, a defnyddied hwynt. Yr oedd y c6r yn canu ac yn ateb yn dda, ond yr oedd y gynull- eidfa yn rhy ddistaw. Yr oedd yr Amen yn cael cam am nad oedd rhyw lawer yn ei harddel. Y mae deisyfiadau y gweddiau mor dda fel nad oes eisiau ofni dywedyd Amen o eigion calon ar ei diwedd. Y mae yr Eglwys yn gref o ran nifer yn Penybont, a gyd a'r fath ddyn da a Penfro ymhob ystyr, peth rhyfedd iawn fod un Ymneillduwr yn y plwyf. Llwyddiant i'r Hen Fam, a phawb perthynol iddi yn y He. Dylai yr Esgob osod Penfro mewn rhyw blwyf mwy pwysig, canys y mae ei alluoedd yn ei wneyd yn un cymwys i'r fath le. Ond mynych iawn y rhoddir gan Esgobion round man mewn square hole, ac y maent yn hir iawn cyn agor eu llygaid i wel'd eu camsyniadau. Bum yn ysgwyd llaw a'r Parch J. L. Davies, Rheithor Llangynog, ac yr oedd yntau yn foneddwr serchog a pharchus iawn ei ymddangosiad. Y mae yn llafurus iawn yn ei blwyf, ac iddo air da gan bawb, a chan y gwir- ionedd ei hun Wel, yr oedd yn rhaid ffarwelio a dyffryn Pennant, er fod y cwmni yn dda." "Horne, home, sweet home," oedd hi yn awr. Ar y ffordd adref, yr oedd Llanfyllin yn cynyg ei hun i'm sylw. Deallais mai Cymry yw y rhan fwyaf o drigolion y lie hwn, ond y mae y rhan fwyaf o wasanaeth yr Eglwys yn Saesneg I Ni ddylai rhywbeth felly fod. Nid oedd amser genyf i holi i mewn i'r rheswm am y fath ymddygiad, ond teg i'r Hen Fam gael chwareu teg i fyw yn Gymraes yn Llanllyfni, onite ? Er cymaint a ddywedir am bleidgarwch yr Esgob Hughes i'r hen Gymraeg, y mae gormod o Saesneg yn yr Esgobaeth eto lawer iawn. Pa hyd y cawn ni y Cymry ein cadw i fyw wrth draed y Saeson, ac i fod yn ail-beth iddynt ? Y mae yn afresymol disgwyl i ni fod yn foddlon ar bethau fel y maent Y mae braidd ein holl gyfarfodydd Eglwysig yn cael eu cario ymlaen yn yr iaith Saesneg. Edrychwch ar ymweliad blyn- yddol yr Archddiacon. Pwy erioed glywodd son am un o'r urddasolion hyn yn traddodi ei siars yn Gym- raeg ? Carwn i gael gwybod paham y traddodir hi yn wastad yn Saesneg pan fyddo y mwyafrif yn Gymry ? Ai nid llawn mor briodol yw pregethu yn Saesneg i 'gynulleidfa o Gymry ? Os na fydd yr Arohddiacon yn daall Cymraeg ni ddylai ddal y swydd, gan ei fod yn analluog i'w chyflawni. HEN DOMOS.
CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. Y mae Mr C. M. Smith, o'r clref hon, wecli Ilwyddo i enill scholarship o e30 (mathematics and organ combined) ar ei fynediad i mewn i Goleg Dewi Sant, Llanbedr, diwedd y mis diweddaf. Derbyniodd ei addysg yn y Grammar School, Caerfyrddin. Ad- lewyrcha ei lwyddiant ar brif athraw yr ysgol, Mr Holme, yr hwn sydd yn wastad yn ddiwyd gyda'i ysgolheigion. Darfu iddo gael ei addysgu ar yr organ gan yr enwog Mr Harding o'r dref hon. Mab ydyw Mr Smith i'r diweddar Mr Charles Smith, 57, Heol y Brenin, ac y mae yn nai i'r Parch B. Lloyd, ficer Mountain Ash. Pob llwyddiant iddo yn y dyfodol. BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—Yn nghyfarfod y Bwrdd dydd Sadwrn diweddaf darllenwyd llythyr oddiwrth y Bwrdd yn Llundain yn ymfoddloni i benodiad Mr Browne fel ysgrifenydd yr Undeb wedi darostwng ei dal i 985 yn flynyddol. Tebygol na fydd i gadeirydd sefydlog gael ei benodi yn bresenol. Y mae Mr Thomas, cofrestrydd marwolaethau a genedigaethau dros St. Clears, wedi gadael y lie, ac yn bresenol y mae Mr Davies, ei ddeputy, yn gwneyd y gwaith nes i olynydd gael ei benodi. Yn Llys yr Ynadon Sirol, dydd Sadwrn diweddaf, cyhuddwyd John Thomas, crydd, Brechfa, o ddwyn 2s 6c yn y Black Ox, Abergwili, dydd y ffair, Hydref 2il. Pan yr oedd y defarn yn llawn iawn, galwodd ffermwr am chwart o ddiod, a rhoddodd haner sofren i'r forwyn, a thra yr aeth hithau i gael newid, darfu iddo fyned allan, a phan ddaeth y forwyn yn ol &'r newid methodd weled y dyn, a hi a waeddodd fod ganddi y newid. Ar hyn daeth y carcharor ymlaen gan ddywedyd mai ei eiddo ef oedd. Yn fuan canfu y forwyn ei chamgymeriad, oblegid daeth yr iawn ddyn ymlaen. Aeth y carcharor i dafarn arall yn y pentref, yn mha le y cymerwyd ef i fyny gan yr heddgeidwad Clarke. Anfonwyd ef i'r carchar am fis. Yr un diwrnod dirwywyd John a William Owens i J65 yr un a'r costau, a John Lewis i £ 5 yn cynwys y costau, yn byw yn Danybank, Caerfyrddin, am bysgota gleisiaid gyda chorwy a rhwyd, yn afon Tywi, Medi 24, a'r tymor wedi terfynu. =:J-
CYMDEITHAS RHYDDHAD CREFYDD.…
am flwyddyn neu ddwy, nes iddynt gyfodi addol- dy, a chael rhyw druan mwy asynaidd na chyff- redin, neu ryw Ismael mwy llawgam, na'u gilydd yn weinidog iddynt, ac yna eu derbyn yn ol fel brodyr, a diolch i Dduw am lwyddo yr achos, ac estyn cortynau ei breswylfeydd, ond cellwair a'r j Goruchaf. Ffieidd-dra anghyfaneddol ydyw derbyn swp o ddynion diarddeledig oddiwrth enwad arall am anfoesoldeb, neu derfysg, a dy- wedyd fod Duw yn llwyddo yr achos. Annuwiol- deb ag y dylid ei hwtio a'i felldigo gan bob Cristion ydyw rhedeg i gynorthwyo sypyn o greaduriaid disynwyr, direolaeth, a diras, y rhai a droant eu cefnau i ffurfio achos newydd ar y tramgwydd lleiaf. Yn awr, nid yw ond ofer celu, y mae yr holl ddrygau hyn yn ein mysg ni [yr Annibynwyr], ac os oes rhyw un a'n amheua,1 darllener y rhestr ganlynol:— 1, Eglwys: Dynion diarddeledig am gyfodi terfysg pan oedd y gweinidog oddicartref. 2, Eglwys: Personau wedi eu diarddel gan y Trefnyddion Calfinaidd o herwydd terfysg am weinyddiad disgyblaeth ar ryw hen flaenor. 3, Eglwys: Sylfaenedig gan hen foneddwr a ddiarddelasid o eglwys arall am feddwi a hela. 4, Eglwys: Dynion wedi gadael eglwys arall mewn tramgwydd o herwydd dewisiad gweinidog. 5, Eglwys Eglwys wedi ei ffurfio ar ol ym- ryson, terfysg, ac ymladd hyd at waed yn newis- iad gweinidog. 6, Eglwys: Yr oedd gweinidog yr eglwys hon yn arfer meddwi nes y byddai yn gorwedd yn y cwterydd. Gadawodd nifer o'r bobl, ac aethant i addoli i ystafell; trowyd ef allan gan yr eglwys yn fuan: ymadawodd ychydig bersonau gyd ag ef a dychwelodd y cyfeillion a'i gadawodd o herwydd ei feddwdod yn ol ato. 7, Eglwys: Wedi ei ffurfio o herwydd methu llwyddo i droi y gweinidog ymaith. 8, Eglwys: Dynion wedi eu diarddel am gy- huddo y gweinidog ar gam o feddwdod. 9, Eglwys Wedi ei ffurfio mewn canlyniad i ymraniad o achos anonestrwydd un o'r diacon- iaid. 10, Eglwys: Wedi ei ffurfio er ymlynu wrth weinidog n, gyhuddid o odineb. 11, Eglwys Wedi ei ffurfio mewn terfysg. 12, Eglwys Eto o fewn milldir iddi. 13, Eglwys Eto o fewn milldir i'r ddiweddaf. 14, Eglwys Wedi ei diarddel am derfysg yn erbyn y ddisgyblaetli, o fewn tair milldir i'r ddi- weddaf. 15, Eglwys Wedi ei ffurfio mewn terfysg o barth i symudiad gwefusau gweinidog. 16, Eglwys Wedi ei ffurfio o herwydd ym- lyniad ychydig aelodau wrth ddyn meddw ac anfoesol-ei gwrthod mewn un cyfundeb, a'i der- byn mewn un arall. 17, Eglwys Wedi ei ffurfio mewn rhwygiad, ac ar ol hyny yn wetldillion rhwygiad arall. Nid wyf os na orfodir fi i hyny, yn dewis dis- grifio yr egwyddor (Annibynol) uchod yn fanylach. Yr wyf wedi darlunio y rhan fwyaf yn ddigon eglur i'w cymydogion eu badnabod; fel os cy- huddir fi o dynu eu hanes o'm hymenydd, yn lie o ffeithiau, y bydd rhywun ymhob cymydogaeth y cyfeirir ati yn dywedyd,—y mae wedi dweyd y gwir am yr eglwys a'r eglwys. Gallwn nodi eg- lwysi sydd yn byw mewn gelyniaeth barhaus a'u gilydd-yn derbyn aelodau diarddeledig o'r naill i'r llall-ac eglwysi (Annibynol) sydd a'u gweini- dogion yn meddwi yn fynych, ac eto heb eu han- fon ymaith ond byddai hyn yn orchwyl mor bersonol, fel na hoffwn ei wneuthur, os na bydd raid. A yw pethau yn eu lie pan y mae rhwygiadau mor ami, ymrysonau mor fynych, eglwysi yn suddo dan ychydig ddyled, a gweinidogion llawer o'u heglwysi bron yn barod i newid eu preswyl- feyddi unwaith bob blwyddyn, ar bytliefnos o rybudd ? A oes rhyw Gristion a feiddia am- ddiffyn eglwysi y rhai a gadwant ddynion yn eu pwlpudau, ag y mae eu bucheddau yn warth parhaus ar efengyl Crist ? A oes rhyw reswm mewn gwaith eglwys yn rhoddi galwad i ddyn o bellder gwlad, heb ei glywed erioed ond unwaith ? Ai priodol fod eglwysi yn derbyn gweinidog ar gymeradwyaeth gweinidog neu ddau, y rhai a ysgrifenasant lythyrau i'w ganmol ar ei gais per- eonol ei hunan ? Onid oes yn ein mysg eglwysi y derbyn yn ol bregethwyr a gweinidogion euog o odineb ac anniweirdeb cyn pen ychydig wyth- nosau ar ol y cyflawniad, neu o leiaf yr amlygiac1 cyhoeddus o'u trosedd ? Bu'm mewn cyfarfod lie yr oedd tri o weinidogion a fuasent yn euog o'r drwg hwn Ai gweddus i eglwysi fygwth diarddel eu gweinidog os na ymedy, ac addaw llythyr can- moliaeth iddo os symuda i le arall ? Ffaith anwadadwy ydyw fod hir gwyno wedi bod yn y wlad o herwydd yr ormes ddiaconaidd. Ymddengys fod amryw ddiaconiaid yn teimlo hyny, a diddadl genyf mai hawdd fydd gan eg- lwysi y gweithfeydd gydnabod ei chywirdeb. Yr z,Y wyf yn gwybod am eglwysi lie mae diaconiaid wedi eu rhwygo, wedi ymlid gweinidogion ymaith, wedi dihoeni eraill i angau, wedi peri i ddynion goreu yr oes wylo dagrau chwerwon, ac wedi cadw llawer llys ar ddillad y gweinidog a'i wraig, ar ei drefniadau teuluaidd, a'i weinidogaeth gyhoeddus. Ciliodd llawer brawd defnyddiol oddiwrth bobl ei ofal mewn dagrau o herwydd fod y gwyr hyn, meibion Tervia, yn rhy galed iddo. Gwelais fwy n a, un gwraig gweinidog mewn dagrau o herwydd y ddisgyblaeth ddiaconaidd. Gwn am fwy na dwsin o frodyr defnyddiol yn methu cymeryd rhan yn symudiadau yr oes, o herwydd yr iau haiarn- aidd y maent odditani. Gwn am eglwysi ag y mae eu gormes ddiaconaidd yn ddiareb gan' mill- dir o ffordd oddiwrthynt. Byddai cyhoeddi tystiolaethau dienwau am gymeriad diaconiaid yn afresymol, ac nid hawdd cael tystiolaethau teg ac enwau wrthynt. Hoffwn wybod pa weinidog (Annibynol) a anturia ddweyd, y mae genyf 11 ddiaconiaid gormesol, trahaus, ac anffyddlawn? Buan yr helid ei einioes fel hela petris ar y myri- yddoedd. (Eto) ffaith ydyw fod llawer o'u gweinidogion (Annibynol) yn ddibuofiad. Dech- reuasant bregethu yn ieuanc, aethant i ryw ysgol am flwyddyn neu ddwy, a dyna hwy yn weinidog- ion a ffaith yw o ganlyniad eu bod yn ddiddysg. Troant, llawer o honynt, allan yn deithwyr, a chymerant eu hurddo mewn lleoedd na bydd un gobaith y gallant gadw corph ae enaid wrth eu gilydd, o Lerwydd fod yn haws i weinidog gaol lie. Os gellir dangos nad oes eglwysi (Annibynol) afreolaidd gwneler hyny os gellir dangos nad oes gormes ddiaconaidd, gwneler hyny ac os gellir profi fod ein holl weinidogion yn ddysgedig, moesgar, a phrofiadol, gwneler hyny gyd a phob brys a grymusder galluadwy.—Dysgedydd, Mawrth, 1849. Yr hyn a ddywedir am yr Annibynwyr yn y llythyr ucbod sydd wirionedd am y rhan fwyaf o lawer o'r gwahanol enwadau Ymneillduol yn Nghymru heddyw. Dyma y gwyr rhyfygus sydd wedi cymeryi eglwys Dduw yn y glorian Ymneill- duol gyd a'r amcan hyd ag y mae yn eu gallu i'w thynu hi i lawr os medrant i'r un sefyllfa a'r capel annhrefnus a therfysglyd-nid rhyfedd i'r bardd eu galw yn Anesmwyth dylwyth du, Cristioniaid yn croesdynu." Gyfeillion anesmwyth, diwygiwch eich hunain yn gyntaf cyn son am ddiwygio yr Eglwys, canys y mae mwy o angen diwygiad yn eich plith chwi na neb ar wyneb daear. Llundain. IOAN GLANLERI.