Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YSTRYW I DWYLLO MEISTR TIR.

News
Cite
Share

YSTRYW I DWYLLO MEISTR TIR. Rhai blynyddau yn ol, aeth un John Lewis i bentref neillduol, lle yr oedd siop fechan ar osod. Yr oedd amryw fasnachwyr wedi bod yn cario ymlaen fasnach ynddi, ond gellir deall mai nid llawer o alw oedd am eu nwyddau pan ddywedir fod chwecli o honynt wedi methu cyfarfod eu gofynion yn ystocl pedair blynedd. Pa fodd bynag, er gwaethaf cynghorion ei gyfeillion, pen- derfynodd John Lewis ei chymeryd. Cyn pen haner blwyddyn gwelodd yn eglur ei fod yn ei golled, ond methai benderfynu pa fodd i roddi y fasnach i fyny, gan ei fod wedi cymeryd prydles ar y siop am bum' mlynedd, a gwrthodai ei feistr tir ei ryddhau o'i gyfrifoldeb. Rywfodd neu gilydd, yr oedd y meistr tir wedi clywed fod John ] Lewis yn meddu cyfoeth, ac felly tybiai y byddai j yn alluog i dalu yr ardreth am yr amser penod- edig pe heb werthu ceiniogwerth. Ni wnaeth un- rhyw ymholiad i wirionedd hyn, ond penderfyn- odd anfon Richard Jones, un o'i lafurwyr, i'r masnachdy, a gorchymynodd iddo yn gaeth fod ar ei wyliadwriaeth i beidio hysbysu pwy ydoedd na beth ydoedd yn ei gylch, ond i ymddangos yn hurtyn, a cheisio yr holl wybodaeth a allai allan o John Lewis. Un noswaith aeth Richard Jones i'r masnachdy, ac wedi pwrcasu ychydig bethau dywedodd wrth John Lewis: Mae yn debyg nad yw eich masiaach yn talu, a'ch bod mewn canlyniad yn eich colled ?" Ydwyf, yn golledwr mawr." Debygaf na chymer eich meistr calon-galed y siop oddiar eich llaw ?" Na wnaiff, ond nid wyf yn gofalu dim am hyny. Yr wyf am wneyd fy hun yn feth-dalwr rai o'r dyddiau nesaf, ac felly bydd yn edifar gan- ddo na chymerasai hi oddiar fy llaw." 0, felly. Onid oes genych ddigon o arian i'w chario ymlaen am flwyddyn ?" I I Wel, oes yn wir. Mae genyf ddigon i'w chario ymlaen am ddeng mlynedd o leiaf, ond nid wyf yn foddlawn i golli fy arian fel hyn ychwaith." Ond," ebai Richard Jones, os oes genych arian yn y banc, bydd eich gofynwyr yn sicr o fynu eu cael os cyhoeddwch eich hun yn feth-dal- wr." Ai ni fedrech nodi ihyw gynllun beth fyddai oreu i mi wneyd a'r arian ?" gofynai Lewis. Gadewch wel'd. Pa faint yw yr oil sydd genych ?" Mae genyf bum' cant o bunau, beth bynag am chwaneg." Tybiaf y gallaf eich eyfarwyddo, ond rhaid i chwi fod yn hynod ofalus pa fodd y gweithredwch. Codwch yr arian o'r ariandy, a rhoddwch hwy yn un o'r cistiau te sydd yr ochr draw acw. Pan ddaw dydd yr arwerthiant ymdrechwch gael gan gyfaill i chwi i gynyg am y gist hono." Rhoddwch eich llaw i mi gyfaill," meddai Lewis yr wyf yn hynod ddiolchgar i chwi, gan na fuaswn byth yn meddwl am y cynllun yna. Rhoddaf yr arian yn y gist felen acw. Cynwysa ugain pwys o de, a gofynaf i William Williams, yr hwn sydd yn byw y drws nesaf, i'w phrynu yn ol i mi, a gallwch benderfynu yr anrhegaf chwi a rhywbeth gwerthfawr am eich cyngor da. Cymer yr arwerthiant le ymhen tuag wythnos." Ar y dealltwriaeth yma, ymadawodd y ddau Alu gilydd. Parotodd John Lewis at yr arwerthiant, a phry- surodd Richard Jones at ei feistr i hysbysu am yr hyn a gymerodd le, gan fynegu gyda balchder am y X500 yn y gist de felen. Addawodd ei feistr hefyd anrheg hardd iddo am ei waith, a dymun- odd arno yn bendant fod yn bresenol yn yr ar- werthiant, a chynyg am y gist. Gwyddai na fyddai i William Williams gynyg mwy na gwerth 20 pwys o de, ac felly gallai ei orthrechu. O'r diwedd daeth diwrnod yr arwerthiant, ac yn mysg y rhai a ymgynullasant yr oedd y meistr tir a Richard Jones, y ddau yn gwenu yn ddichell- gat ar eu gilydd, gan addaw iddynt eu hunain gynhauaf toreithiog o'r gist de. Yr ochr arall safai John Lewis a William Williams, y ddau yn edrych yn hynod ddifrifol. Aeth yr arwerthiant ymlaen fel rhyw arwerth- iant gyffredin arall hyd nes y daethpwyd at y gist de felen. Pan gynygiwyd hono ar werth, cynyg- iodd William Williams ddwy bunt, a chynygiodd Richard Jones bum' swllt ychwaneg. Cynygiodd y ddau yn erbyn eu gilydd hyd nes y cyrhaeddodd ugain punt. Wrth ganfod hyn, gofynodd yr arwerthwr a ydoedd yn hysbys iddynt mai ugain pwys o de yn unig oedd yn y gist. Atebodd Richard Jones, Yr ydym yn eithaf hysbys o'i chynwysiad. Ewch ymlaen." Aed ymlaen i gynyg drachefn, a cliyrhaeddodd y swm a gynygid i haner cant o bunau, pan ofyn- odd yr arwerthwr a oeddynt yn dyrysu. Na ofalwch am hyny," meddai Richard Jones, os cewch chwi yr arian." Parhaodd y ddau i gynyg yn erbyn eu gilydd drachefn, a chyrhaeddodd y swm cynygedig dri chant o bunau. Pallodd yr arwerthwr fyned ymlaen, a gofynodd a gynwysai y gist rhyw drysor cuddiedig, gan grybwyll y buasai yn ei hagor. Cymerwch ofal ar eich danedd rhag gwneyd hyny," meddai Richard Jones ni ddarfu i chwi agor y lleill, ac ni chewch agor hon." Wel, y mae yn rhaid i mi gael sicrwydd am yr arian cyn myned yn mhellach," meddai yr ar- werthwr. Byddaf fi yn gyfrifol am yr arian dros Richard Jones," ydoedd atebiad uniongyrchol Mr. Jenkins, y meistr tir. ".Pobpeth yn iawn," ebai yr arwerthwr, "ewch ymlaen i gynyg," yr hyn a wnaed nes cyraedd pedwar cant o bunau gan Richard Jones. Peidiwch cynyg ychwaneg, William Wil- liams," sisialai John Lewis wrth ei gymydog. Bydd y swm a gynygiwyd yn ddigon i dalu fy holl ddyledion ddeg gwaith trosodd. Gadewch iddynt hwy gael y gist, er mwyn i ni weled beth a ddywedant am y fargen." Ai dyma y cynyg olaf, foneddigion ?" gofynai yr arwerthwr. "Cynygiwch ymlaen. Yn myn'd, yn myn'd. Dim cynygiad uwch ? Wedi myn'd Beth yw yr enw os gwelwch yn dda ? 0, rhowch fy enw i," meddai Mr. Jenkins, gan wenu. Sylwodd yr arwerthwr y dylai fod yn de da am y pris. Aeth Mr. Jenkins, yn ddilynol at yr arwerthwr, arwyddodd cheque am £ 400, a chludwyd y gist i'r palas, gan dybied ei fod wedi cael bargen dda. Ymgasglodd tyrfa o amgylch John Lewis a William Williams ar ol ymadawiad Mr. Jenkins, gan holi yn ddyfal beth ydoedd cynwysiad y gist, gan ei bod wedi ei gwerthu am bris mor uchel. Nid oedd dim ynddi ond te—ugain pwys o de haner coron, gallaf sicrhau i chwi," ydoedd ateb- iad Lewis. Beth barodd i Richard Jones gynyg y fath grogbris am dani?" Wel," atebai John Lewis, yr oeddwn mewn anhawsder arianol, ac anfonodd Mr. Jenkins ei was ataf i geisio genyf dwyllo fy ngofynwyr a'i wneyd ef yn iawn, drwy osod £ 500 mewn cist de. Pan agorir y gist, caiff weled ei fod wedi tori ei wddf ei hun, ac wedi fy nghynysgaeddu i a modd- ion i dalu yr oil i fy ngofynwyr." Gan fod John Lewis yn ffafr-ddyn yn y lie, mawr ydoedd llawenydd y trigolion o herwydd y weithred. Pan agorodd Mr. Jenkins y gist, a gweled ei fod wedi ei werthu," cynddeiriogodd gymaint ag unrhyw wallgofddyn a welwyd erioed, a phrysur- odd at gyfreithiwr i gwyno ac i ofyn ei farn. Dangosodd hwnw, pa fodd bynag, mai efe ei hun oedd i'w feio, ac nas gallai gael yr arian yn ol. Nid oedd gan John Lewis 500 o ffyrlingod yn y byd yn flaenorol, ond drwy weithrediad y meistr tir gosodwyd ef mewn setyllfa gymharol gysurus.

CYFARFOD TRWYDDEDOL MERTHYR…

[No title]

Advertising