Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
CORWEN.
CORWEN. ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL EDEYBNION.—Cyn- haliwyd yr Arddangosfa uchod yn Nghorwen, ddydd Iau, Medi 23ain. Y mae y gymdeithas hon wedi ei huno ag eiddo Llangollen, a dyma yr arddangosfa gyntaf er pan ieuwyd hwy ynghyd. Yr oedd yr ar- ddangosfa hon i gael ei chynal y llynedd yn Llan- gollen, ond ataliwyd hi o herwydd fod clwyf y traed a'r genau ar y gwartheg, &c., yn sir Ddinbyeh. Bu hyn yn gryn golled i'r gymdeithas, ond da genym hysbysu fod y golled hon wedi ei gwneyd i fyny yn llawn, a mwy, ni gredwn, drwy yr arddangosfa ar- dderchog a gynhaliwyd yn Nghorwen. Ni byddem yn myned dros y terfynau wrth ddweyd fod yr ar- ddangosfa ddiweddaf yr oreu a gynhaliwyd yn sir Feirionydd. Mae pwyllgor y gymdeithas yn haeddu clod am eu gweithgarwch, yn enwedig y llywydd, Cadben Best, Yivod, a'r ysgrifenydd, Mr. John Jones, Trade Hall, Corwen.
RHYL. !
RHYL. DEFODAETH CAPELAIDD.-Mae rhai pobl yn galw yr addurno a fydd ar eglwysydd ar ddyddiau o ddiolchgarwch yn Babyddiaeth, ond, fodd bynag, mae'r arferiad yn ymledaenu ymhlith Ymneillduwyr, yn ogystal ag Eglwyswyr. Y Sul o'r blaen yr oedd capel y Wesleyaid Saosnig yn Rhyl wedi ei addurno fel hyn. Yr oedd yno flodau, ffrwythydd, cnydau y maes, bara, arwyddnodau, megis "I.H.S. &e. Yr un modd yr oedd hi hefyd yn nghapel yr un cyfundeb yn Colwyn Bay, fel y dengys y darn canlynol allan o adroddiad mewn papur lieol:—"Kind hearts and willing hands had been busily engaged in the arrangements, which were very effective. Amongst the flowers we noticed prominently and appropriately placed the sun flower. There were some splendid specimens of potatoes, vegetable marrows, apples, English and foreign grapes,, evidently the best pro- ductions of the various donors, which is undoubtedly being given to God, as it should be. That portion of the chapel which corresponds to the east-end of a church received special attention, an important feature being four elegant and prettily decorated baskets of fruit. We also noticed four fine (not large) loaves of bread, not made of this season's wheat, we presume." PABYDDIAETH ETO !—Dydd Llun, yr oedd gan gor undebol cynulleidfaoedd Seisnig yr Annibynwyr yn Sir Fflint, festival yn Rhyl; a beth debygech chwi oedd y dernyn cyntaf ar y program ? Dim amgen na'r" Ti Dduw a folwn," a hwnw wedi ei nodi i'w ganu ar dair o donau Gregoraidd. Yr ydys yn cofio prm nad oedd chantio yn ddim amgen na Phabydcl- iaeth, a'r tonan Gregoraidd yn rhywbeth gwaeth, os oedd modd. Ond bellach dyna hwynt i'w cael yn y lie blaenaf yn nghapelydd yr Ymneillduwyr. Yn yr wyl, ar ol y Te Deum, cenid Salmau, a'r Gogoniant i'r Tad ar ol pob un o honynt. Rhaid i Eglwys- wyr edrych ati, neu fe aiff yr Ymneillduwyr ar y blaen i ni gyda harddu y cyssegr a chyda rhagorach canu a chorganu.
AMLWCH A'R AMGYLCHOEDD.
AMLWCH A'R AMGYLCHOEDD. LLANEILIAN.—Givyl Be.—Dydd Gwener diwedd- af, y 26ain cyfisol, oedd ddydd ag yr edrychid ymlaen ato gyda dyddordeb mawr gan aelodau Ysgol Sul yr eglwys yn y lie hwn, diwrnod ag oedd wedi ei benodi i gynal eu gwyl flynyddol, ac fe drodd allan yn hynod o ffafriol i hyny. Am 3 o'r gloch ymgyfarfyddodd aelodau yr ysgol wrth y Persondy, ac yno fe'u trefnwyd wrth y byrddau, pa rai oedd yn llawn a de o bara brith, a chigau, &c. Ar ol gwneyd cyfiawnder wrth y, byrddau, aed i gae cyfagos, yn mha le yr aethpwyd drwy lawer math o chwareuon diniwed i ddifyru y plant ac eraill, hyd nes yr oedd y dydd yn hwyrhau- haul natur ar fachludo, a'r bin yn dechreu oeri. Yna, wedi talu teyrnged o barch i'r rheithor, sefy Parch. Hugh Thomas, M.A., am ei garedigrwydd a'i haelioni arferol, ymwahanodd pawb i'w gwahanol gartrefleoedd, wedi eu boddhau yn dir- fawr. Haedda y Parch. H. Evans, y curad, a Miss Cooke y fdiolchgarwcla gwresocaf am eu gweith- garwch dihafal yr hyrwyddiad llwyddiant yr wyl. Cyn ymadael a'r pwnc yma, sef yr Ysgol Sul," dywedaf air o symbyliad y mae cymeriad yr Ysgol Sul erbyn y dyddiau presenol y fath fel y mae yn mynu clod, parch, a phresenoldeb y doeth fel yr annoeth, yr uchel fel yr isel. Mae yn gor- chymynu sylw yr aelod mwyaf distadl fel y gweinidog mwyaf disglaer a choeth ei syniadau, ac yn haeddu yr anogaeth wresocaf a'r ymroddiad llwyraf o'i phla,id gan bob gredadyn. Mae y plant a ddygodd i fyny, y gweinidogion a feithrinodd a'r eneidiau a drowyd ac a gadwyd trwy ei hofferynoliaeth, ynghyd a'r dylanwad moesol sydd ganddi lieddyw ar Gymru benbaladr yn rhoddi iddi y fath awdurdod fel na feiddia unrhyw greadur rhesymol a synwyrol-yr hwn a hona ei hun yn Gristion-esgeuluso ei chymelliadau taerion, EGLWYS LLANBADEIG.—Cymerodd un o'r digwydd- iadau mwyaf pwysig le ddydd Mawrth diweddaf mewn cysylltiad ag Eglwysyddiaeth yn y plwyf hwn, sef ail-agoriad hen Eglwys Llanbadrig. Mae'r Eglwys hon yn enwog mewn hanes—dywedir ei bod wedi ei hadeiladu ar y cyntaf yn y bedwaredd ganrif. Mae yn un o'r Eglwysydd hynaf yn y Dywysogaeth. Saif, fel ei chwaor Eglwys Eilian, ar fin y mor. Cyflawn- wyd y gwasanaethau fel y canlyn:—Am 7 o'r gloch nos Lun yn Eglwys Cemaes, darllenwyd y wasan- aeth gan y ficer, a phregethodd y Parch. Mr. Hopkins, Rhoscolyn yn rhagorol. Y dydd canlynol am 10, yn Eglwys Patric, pregethodd yr Arglwydd Esgob. Am 2, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. Mr. Edwards, a phregethodd y Parch. Mr. Hopkins. Am 6 yn yr hwyr, oblegid anhwyldeb corphorol y Parch. H. Grey Edwards, Llanfachreth, i fod yn bresenol, pregethodd y Parch. Mr. Lloyd, Amlwch. Gan fo.d yr hin mor fiafriol cafwyd cynulleidfaoedd hynod o dda. Dylai y Cemasiaid fod yn dra diolch- gar i'r Arglwydd Stanley am ei haelfrydedd mewn perthynas a'r Eglwys hon, canys trwy ei 'off erynol- iaeth ef yn unig ei hadgyweiriwyd. Gwelwyd yn mhlith yr offeiriaid oeddynt yn bresenol y rhai ca,nlynol: Mr. Price, R.D., Talybolion, Llanfairynghornwy Mr. Williams Mr. Thomas, R. D. Twrcelyn, Llaneilian; Mr. Smith, ficer, Rhos- ybol; Mr. Morgan, Bodewryd Mr. Williams, curad, Llantrisant; Mr. Evans, curad, Llaneilian; Mr. Sinnet Jones, curad, Llatigwyllog; Mr. Edwards Mr. Willliams, Llanfaethlu; Mr. Hughes, Llan- ddeusant. RHOSYBOL—Trwy drugaredd wele ni unwaith yn rhagor wedi mwynhau y fraint anrhaethol o gael cadw yr wyl flynyddol o ddiolchgarwch am y cynauaf. In Cynhaliwyd cyfarfodydd yn yr Eglwys hon ar y 30ain cynfisol, pryd y cafwyd gwasanaethau rhagorol, a hyderir y dygayr had da a. hauwyd ffrwyth ar ei gan- fed. Er mor luosog y byddai y cyfarfodydd hyn yn arfer bod, tystir na welwyd erioed gymaint o wran- dawyr ag oedd wedi ymgynull ynghyd y tro hwn. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn bresenol:—y Parchn. Mr. Smith, ficer, Rhosybol; Mr. Hopkins, Rhoscolyn; Mr. Lloyd, curad, Amlwch, a Mr. Evans, curad, Llaneilian.—Wmffra.
MAENTWROG.
MAENTWROG. Yr oedd dydd Mawrth, Medi 23ain, yn ddiwrnod pwysig yn y lie uchod, yn gymaint ag mai dyna y dydd y cynhaliwyd yr Arddangosfa Arddwrol Flynyddol, yr hwn sefydliad sydd yn cael ei noddi gan yr An- rhydeddus Mrs. Oakeley, ac yn cael ei gynal trwy garedigrwydd haelionus Mr. Oakeley, boneddwr ag sydd yn cymeryd dyddordeb neillduol yn nghysur a llwyddiant ei deiliaid ar yr etifeddiaeth, a'r trigolion yn gyffredinol; ie, boneddwr yw nas gall yr un ardal o fewn y Dywysogaeth ymSrostio yn ei well a'i ragorach, cymerer ef yn yr ystyr a fyner. Arbeda ei haelioni dyngarol dreth lethol y Bwrdd Ysgol i'r plwyfolion, a ehefnoga efe addysg nid ar flaen tafod," ond yn weithredol trwy adeiladu a chynal ysgolion ar ei draul bersonol ei hun. Nid rhyfedd gan hyny yr edrychir i fyny at deulu urddasol Plas Tanybwlch gyda'r fath barch didwyll gan y trigolion. Er ei bod wedi myned yn mhell ar y flwyddyn caf- wyd arddangosiad pur dda o flodau, ffrwythydd, a gwreiddiau ond diau y buasai yn llawer gwell pe cymerasai le er's tua mis yn ol. Yr oedd y Felin Lifio, lie cynaliad yr arddangosiad, wedi ei haddurno yn chwaethus a gwahanol flodau o ardd y Plas gan Mr. Roberts, y prif arddwr, a dygid y gweithrediadau ymlaen o dan arolygiaeth medrus Mr. Vaughan, goruchwyliwr lleol yr etifeddiaeth. Anfonodd Miss Rae, Tanybwlch Hotel, teulu Glanwilliam trwy Mr. Evan Jones, y prif arddwr, a theulu Brynmawr, am- ryw ffrwythau a blodau i'r arddangosfa, pa rai a gaent sylw dyladwy yr ymwelwyr. Beirniadwyd gan brif arddwr Castell Deudraeth, a rhanwyd y gwobr- wyon, yr oil yn arian newydd, gan Mr. Oakeley, a'i rodd ef ydoedd yr oil o'r gwobrwyon hefyd. Drwg genym na chaniata gofod i ni gyhoeddi rhestr yr enillwyr. Am dri yn y prydnawn, cafodd plant ys- golion cenedlaethol y plwyf, yn rhifo tua 200, eu gwledd hwythau o de a bara brith, yn ysgoldy helaeth y pentref. Eisteddodd c6r yr eglwys a'r Oakeley Brass Band ar yr un adeg i gydgyfranogi o meatItea ardderchog, yr hwn fwrdd a wylid yn ben- odol gan Mrs. Oakeley a Miss Oakelcy. Yn bresenol ac iyn cynorthwyo wrth y byrddau gwelsom, Mrs. Killin, Rectory, Parchn. R. Killin, D.G., a Llewelyn Hughes, B.A., ^curad Ffestiniog, athrawon ys- golion Ty'nant ar pentref, a gweiayddwyr y Plas. Ar ol i'r bwyta a'r yfed fyned drosodd, aed a'r plant allan i'r playground, lie y rhanwyd trwyddedau i'r rhai hyny a aethant drwy arhovliad diweddar y Lly- wodraeth yn ysgolion Ty'nant a'r pentref, gan yr Anrhydeddus Mrs. Oakeley. Hefyd rhanwyd 26 o medals i'r rhai oeddynt wedi presenoli eu hunain 400 o weithiau yn ystod y flwyddyn yn ysgol y pentref. Er y carasem roddi enwau y medalists hyn, ni oddef hamdden na gofod. Y gwobrwyon drosodd, aed yu un orymdaith hardd o dan arolygiaeth yr athrawon a'r is-athrawon i'r arddangosfa. yn cael eu blaenori gan y seindorf. Y ma eta rhan wyd gwo brwyon i enethod ysgolion Ty'nant a Maentwrog, am ragoriaeth mewn gwniadwaith a gweu. Rhoddwyd gwobrwyon hefyd i'r plant hyny a gadwasant eu hysgol yn fwyaf cyson am y chwe' mis d!wedda,f. Rhanwyd y rhai hyneto gan Mrs. Oakeloy a Miss Oakeley. Yr oruchwyl- iaeth hyn drosodd, neullduwyd i gae cyfagos, lie y gwobrwywyd y plant am ragori mewn gwahanol gam- pau diniwed. Tra yr elai gweithrediadau hyn ymlaen chwareuai y seindorf, ac ymddifyrai amryw eu hunain mewn dawnsio, &c, Dylasem nodi i Mr. Oakeley anerch plant yr ysgolion, ar y pwysigrwydd o fynychu yr ysgol yn gyson, a rhoddodd fawr bwysigrwydd ar brydlondeb yn ogystal a dyfalbarhad gyda'r gwersi. Gweithrediadau y dydd drosodd, cyd-gyfranogodd y seindorf o swper danteithiol yn y Grapes Hotel, ar draul arwyr urddasol y dydd. Mawr ganmolir darpariaethau Mr. a Mrs. Jones. Dygodd hyn weithrediadau y dydd i derfyniad hapus a boddhaol. Yr oedd Iluaws mawr o ddieithriaid yn bresenol. Nos Wener wythnos i'r diweddaf bu Dirprwywyr y Beibl Gymdeithas yn areithio ar ei rhan yn yr Ysgol- dy Genedlaethol. Llywyddid y gweithrediadau gan y Parch. Richard Killin, D.G. Y mae y gwr parch- edig yn hen law yn y gwaith o lywyddu. Yr oedd yno cynulliad gweddol da, a chaed cyfarfod da, meddir. Dylaswn nodi i'r Parchn. Wm. Williams (A.), Wm. Roberts (W.), a Ceiriog Roberts, (M.C.), gymeryd rhan yn y cyfarfodydd. Pwy gysondeb sydd mewn dadleu dros anfon Beiblau i'r paganiaid tra y gwrthodir dysgeidiaeth y Beibl yn ysgolion dyddiol ein gwlad ein hunain. Po, Ie mae'r cyson- deb ? -L tygadog.
CERRIG-Y-DRUIDION.
CERRIG-Y-DRUIDION. DAU GYNGHERDD MAWREDDOG.—Prydnawn a nos Fercher diweddaf anrhegwyd trigolion y lie uchod a'r amgylchoedd a dau gyngherdd o'r fath fwyaf aruchel. Er mai amser byr iawn gafodd y pwyllgor i hysbysu y cyngherddau hyn, eto daliodd y trigolion ar y cyfleusdra, a rhoddasant eu presenoldeb yn- ddynt yn lluoedd. Yr oedd y babell eang yn orlawn. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan Madame Edith Wynne, Miss Maggie Williams, Mr. Lucas Williams, Eos Meirion, Mr. S. Alyn Jones,'Mr. Isaac Jones, Mr. Wood, y telynwr, ac eraill. Yr oedd yn un o'r cyngherddau goreu a gafwyd erioed yn yr ardaloedd hyn,—pawb a phobpeth yn eu hwyliau goreu.
CAERDYDD.
CAERDYDD. AGERLONGAU Y MEX. THOMAS, RADCLIFFE A'U CYF. -C,yrl-iaeddodd yr agerlong newydd Bala," per- thynol i ffirm y Mri. Thomas, Radcliffe, a'u Cyf. i Penarth Dock, dydd Mercher, Medi 17eg, wedi gwneyd y fordaith o Hartlepool i Gaerdydd mewn 65 o oriau. Gadawodd Penarth am Portsaid ar yr 23ain o Fedi. Y mae yn un o'r agerlongau goreu perthynol i borthladd Caerdydd, ac yn engraipht ar- dderchog o long-adeiladaeth, ac yn adlewyrchu an- yhydedd ar yr adeiladwyr enwog y Mri. William Gray & Co., West Hartlepool. Hon yw y seithfed agerlong perthynol i'r Mri. Evan Thomas, Radcliffe, & Co., y rhai a feddant y llongau mwyaf ac ardder- chogaf i borthladd Caerdydd.—O'r South Wales Daily News.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. Drwy ryw amryfusedd, oyhoeddwyd yn yr holl bapyrau mai Mr. M. H. Roberts, cabinet maker, Berwyn st., Llangollen, ydoedd gwneuthurwr Cadair Dderw y bardd buddugol yn Eisteddfod Lerpwl, ond y mae genym i hysbysu mai Mr. Morris Henry I Roberts, cabinet maker, Osborne House, Llangollen, yw y gwneuthurwr llano ieuanc 19 oed.
PENBOYR. I
PENBOYR. I Rhyfetld sut gatnsyniad wnaeth Roger y mrawd ynghylch yr hen ddywediad, Y mae dy haner di yn Mhenboyr." Yn wir y mae arnaf bron ormoa o gywilydd i'w arddel, ond yr oedd yn dda iawn gan fy nghalon i weled Oliver yn ei roddi a,r y ffordd iawn mewn modd mor dyner. Ond gwnaeth ynte un cam- syniad bychan. Yn Sir Fon ac nid yn agos i Aber- ystwyth yr oedd Morfydd, cariad Dafydd ab Gwilym, yn byw. Ac wedi dechreu siarad am Dafydd ab Gwilym a'i gariadon, ni allaf yn fy myw beidio adrodd stori fach glywais i yr hen Sion Boyr y'nhad yn ddywedyd neithiwr am yr hen farad enwog. Fe allai y bydd o ryw ddefnydd i rai o'r canoedd genethod sydd yn preswylio yn bresenol yn Penboyr. Yr oedd Dafydd, fel y dywedodd yr hen wr, yn wr ieuanc prydferth iawn, ac yr oedd ganddo bodair ar hugain o gariadon ar unwaith. Yr oedd ef o duedd lied chwareus, a gwnaeth amod a'r genethod i gyfarfod ag ef rhyw ddiwrnod, ar yr un pryd, o dan goeden ben- odol, a'r naill o honynt heb wybod dim am y llall. Ymguddiodd ef rhwng y cangau i gael gweled beth fuasai diwedd ei joke. A thyna lie yr oedd efe yn gwasgu ei ochrau ac ymron burstio gan chwerthin, ac yn wir pe taswn inau yn ei le, buasai yn well genyf fi fod yn rhyw le arall. Daeth y feinwen gyntaf at y goeden yn eithaf hyderus, wedi trwsio ei gwallt a golchi ei gwyneb nes yr oedd yn disgleirio, er mwyn, os byddai bosibl, enill serch Dafydd yn lan. Ond tra yr oedd fan hyny yn pinkio ei hunan daeth un arall yno. A dyna lIe yr oedd un yn methu'n deg la deall beth oedd neges y llall. Wft na fuaset yn myned yn awr," meddyliai un, a'r llall ar yr un pryd fyn meddwl yr un peth. Ond ni fu un yn hir yn disgwyl y llall i fyned, cyn i'r llall, ac i'r llall, ac i'r pedair ar hugain ddyfod. A dyna lie yr oedd un yn llygadrythu ar y llall, a phob un yn edrych am suraf. O'r diwedd torodd yr un ryddaf ei meddwl i draethu ei neges. Daethum yma i gyfarfod a Dafydd ab Gwilym," meddai. "Ha" ebai y llall, dyna yw fy neges inau." Ac erbyn hyn yr oeddynt bob un yn llefaru yr un peth ar yr un pryd fel haid o wyddau. Ond o'r diwedd pen- derfynodd y gynadledd fenywaidd yna i sefyll ar eu Women's rights," ac ymddial ryw fodd neu gilydd ar y twyllwr, gan ei ladd cyn gynted ag y deuai, A dyna hwy yn dechreu ameu purdeb y naill y llall, a chyn pen ychydig o fynudau 'doedd dim ond bonnets, chignons, a bustles (os oedd y fath bethau i gael yr amser hyny), a gwallt, a pheth gwaed yn gorchuddio y lie. Ni fu erioed, cynt D3. chwedyn, y fath ddinystr ar benwisgoedd a chochlau. Ynmhoeth- der y frwydr diangodd y bardd yn ddiogel. Ac nid oes amser na gofod i ddweyd rhagor am",dano yn bresenol. Cafwyd cyfarfod gogoneddus yn Eglwys St. Barnabas nos Sul diweddaf. Talodd- plant Ysgol Sul Llangeler, Henllan, a Phenboyr, ymweliad a ni. Aethant drwy y pwnc a'r hymnau maent wedi barotoi erbyn eu festival yn Aberbank. mewn modd meistrolgar. Holwyd hwynt gan y Parch. W. Powell, Rheithor Bangor ar Teifi, a chwareuwyd yr harmonium gan Miss Evans, Pentre. Dyna'r ffordd i wneyd plant yn dduwiol a gwybodus. Yr oedd yn bleser eu clywed yn ateb cwestynau ynghylch Sacramentau yr Eglwys, na fedrai 'rwyn sior, un o bob deg o'r rhai hyny sy'n proffesu eu bod yn deall yewbl, eu hateb. Rhwydd hynt i'r plant. Gwnewch chwi rieni eich goreu i gynorthwyo athrawon diwyd yr ysgol Sul, fel y byddoch gyda'ch gilydd yn gallu ateb yn hyf yn nydd mawr y cyfrif, Wele fi a'r holl blant a rodd- aist i mi." Ymlaen ymhlant i, a deliwch ati nes y gwawrio'r Hapus Awr," fel y oanasoch nos Sul. Dyna yw dymuniad-Gruffydd Boyr. Nid oes gwell gwaith gan rai dynion yr ardal hon dy yddiau rhai'n, na diraddio cymeriad eich new- dydiadur clodwiw yn herwydd yr ohebiaeth hono o eiddo Roger Boyr," a ymddangosodd ynddo yn ddiweddar. Ond ai nid harddach fyddai iddynt edrych yn nes adref. Y maent hwy eu hunain yn euog o dori yr undeb, heb yr hwn y mae yn an- mhosibl cyrhaeddyd y n6d, na chael buddugoliaeth ar y gelynion ysbrydol. Nid wyf fi yn disgwyl cael undeb hollol mewn barn ar fan bethau, oblegid peth anmhosibl ydyw hyny, am y rheswm fod cynifer o feddyliau ag sydd o bersonau." Y mae yn angen- rheidiol i bob dyn er iachawdwriaeth ei enaid, i goleddu syniadau cywir am athrawiaethau hanfodol crefydd, ond dylai yr egwyddor fawr o undeb cref- yddol beri i bob dyn anghofio ei wahaniaeth mewn barn o berthynas i bethau by chain crefydd, ac ym- ostwng i awdurdod uwch a mwy dylanwadol nag ef ei hunan. Fe ddylai Cristionogion adael i ffrydiau bychain sydd yn gwahaniaethu o berthynas i allan- olion crefydd, i gael eu llyncu i fyny yn mor mawr cariad ag undeb ei-efydclol. A pha le bynag y byddo cariad y mae yn sicr o beri i ddynion anghofio eu gwahaniaethau bychain, ac i uno a, baner goch Calfaria, ynghyd a. gwasanaeth y cysegr, fel yr un gosgordd. Y mae undeb yr egwyddor yn gan- fyddadwy trwy'r holl fyd materawl, ïo, hyd yn nod ymbob rhan o'r greadigaeth. Pa le bynag yr ed- rychwn ar i fyny i'r ffurfafen disglaer yna--nenfwd y ddaear (yr hon sydd mor brydferth fel y mae holl ddarlunwyr y byd yn methu tynu darluniad cywir o honi); neu i'r ddaear troedfainc yr Hollalluog; yr ydym yn canfod yr egwyddor hon, set undeb. Yn ganlynol gwelir yr egwyddor Ddwyfol, a gwelodd Duw ei bod yn angenrheidiol er dwyn ei lywodraeth ar y byd ymlaen. Dyma un o'r pethau hyny am ba rai y dywedodd y Creawdwr "wele da iawn oedd." Beth, yw'r m6r mawr a llydan ? Man ronynau mewn undeb â'u gilydd. Beth yw'r goleuni naturiol sydd mor hanfodol i'n bodolaeth, ac mor angenrhoidiol i'n cysur ond pelydrau disglaer mewn undeb a'u gilydd. Beth yw'r ddaear yma, ar ba un yr ydym yn byw, symud, ac yn bod, yr hon sydd fel y dywed Bardd Cwsg, yn rhyw grochan yn ymgrogi wrth ben llyn brwmstanaidd ufiern," yn y gwagle annherfynol yna ? M&n ronynau mewn undeb a'u gilydd. Beth tybed sydd yn cadw y mor trochionog yn ei wely dyfrllyd, ac yn ei rwystro rhag gorlifo ein tir ? Mil- iynau dirifedi o dywod man mewn undeb a'u gilydd. Ni safai un tywodyn am eiliad o'i flaen ond y mae miloedd o honynt mewn undeb a'u gilydd, yn gallu herio ei donau cynddeiriog,-tf, Bees, Velindre.
BANGOR.
BANGOR. Em MORWYK.—Nos Fercher, y 241:1,in cynfisol, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Queen's Head Cafe, gyda'r amcan o wrandaw Miss Weston yn des- grifio ei gwaith hi ac eraill yn mysg ein morwyr. Agorwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch. J. Morgan. Y cadeirydd ydoedd yr Arglwydd Esgob, ac ar ol canu emyn briodol i'r achlysur cafwyd anerchiad teimladwy ganddo. Yna gaiwodd ar Miss Weston. Hawdd ydoedd canfod ei bod yn arferol tig anerch cynulliadau cyhoeddus, a siaradodd am awr gyda melusder anarferol, gan gildw y gynulleidfa luosog ynghyd hyd y diwedcl-gwaith anhawdd iawn i'w gyflawni yn Mangor. Yn mysg pethau eraill, dywedodd ei bod wedi dechreu y gwaith tua deunaw mlvnedd yn ol. Yn ystod y flwyddyn gyntaf anfon- odd allan tua 200 o lytkyrau Gristionogol ac anog- aethol. Y flwyddyn ddiweddaf (1883) anfonwyd allan chwarter miliwn o'r cyfryw lythyrau. Anfonir hefyd 90,000 à rifynau o'r Brigade Neios yn flynyddol. Llwyddasant hefyd i sefydlu cymdeithasau Dir- westol ymhob Hong perthynol i'r Nmvy. Allan o'r 60,000 a berthyn i'r Navy, mae 12,000 o honynt yn ddirwcstwyr. Dywedodd hefyd fod un o swyddogion y Llynges oedd yn yr Aipht yn ddiweddar, yr hwn, er nad ei hunan yn ddirwestwr, a roddodd dystiol- aeth uchel i'r dirwestwyr dan ei ofal am y gwaith a gyflawnid ganddynt. Allan o'r saith gant oedd gan- ddo ef dan ei ofal, yr oedd cant yn ddirwcstwyr, a dywedodd y buasai yn well ganddo ef fyned allan a'r cant hwnw na chyda y chwe' chant eraill ynghyd. Sefydlir ganddynt Gartrefleoedd (Homes) mewn gwahanol borthladdoedd trwy'r deyrnas, y rhai a adnabyddir yn gyffredin wrth y llys-enw The Three C's," coffee, company, comfort. Casglwyd yn y diwedd tuag at eangu un o'r Homes a chredwn i swm anrhydeddus gael ei gyfranu. Ar ol i'r Arch- ddiacon Wynne Jones dalu diolch ac i'r Esgob ddat- gan y fendith ymwahanwyd. YSGOLION SUL.—Yr oedd dydd Iau, y 25ain cyn- fisol, yn ddiwrnod mawr a hir-ddisgwyliedig gan ysgolheigion Sabbothol Eglwysig plwyf Bangor. Dyma y diwrnod a benodwyd i orymdeithio trwy'r dref ac i fwynhau tea party gyd â'u gilydd. Ymun- odd saith o ysgolion yn yr orymdaith; sef St. Mair, St. James, Glanadda, Hirael, Penrhos, Glasinfryn, a Phentir. Yr oedd y nifer ddaeth ynghyd yn rhifo dros 700. Gychwynwyd oddiwrth yr Ysgol Genedlaethol am ddau o'r gloch, a gorymdeithiwyd dan ganu "Ffyddlon filwyr Iesu trwy High Street, a thrwy James Street, ac i Eglwys St. Mair, lie y canwyd amryw emynau neillduol a barotowyd gogyfer a'r achlysur, ac y cafwyd anerchiad priodol gan y Parch. J. Morgan. Yna ail-ymffurfiwyd yn orymdaith i'r Skating Rink, lie y cafwyd te a bara brith. Ar ol gwneuthur cyfiawnder a'r danteithion, aethpwyd i gae cyfagos, perthynol i Mr. Morgan, lie y difyrodd pawb eu hunain trwy wahanol chwareuon diniwed hyd nes i'r tywyllwch wahanu pawb i'w cartrefleoedd ar ol treulio diwrnod cysurus a phleserus. Yr oadd y tywydd yn hynod ffafriol. Teilynga y boneddigesau a'r boneddigion a gymerasant gymaint trafferth er gwneuthur y parotoadau angenrheidiol, ddiolchgar- wch cyfiredmol. CYFARFOD CYSTADLEUOL.—Mae diwrnod cynhaliad y cyfarfod uchod yn neshau ac yn awr gan fod y cyfarfod ysgolion wedi myned heibio, a gaf fi erfyn ar bawb wneuthur ei oreu tuag at sicrhau llwydd- iant ein cyfarfod cyntaf ? Erfyniwn hefyd ar arol- ygwyr y gwahanol ysgolion gymell yr aelodau yn gyhoeddus, o herwydd credaf fod ysbryd cystadleuol y dref yn cael ei godi i fyny i Bethesda yn gyfan- gwbl. Deallwn fod un neu ddau o bartion wedi eu ffurfio eisoes. Coisied pawb wneuthur ychydig, yna bydd i'r ychydig fyned yn llawer ar yr 20fed o Dachwedd nesaf.—Gwyliwr.
.OAKWOOD, GER CWMAFON.
OAKWOOD, GER CWMAFON. GWIBDAITH COB, EGLWYS ST. IOAN.—Dydd Llun, Medi yr 22ain, mwynhaodd cor yr eglwys hon bleser- daith i porthcawl. Ymgyfarfyddodd y cor wrth yr Eglwys am 9 o'r gloch, ac aethant i lawr i orsaf ort Talbot, yn cael eu blaenori gan yr Oakioood Fife and Drum Band, dan arweiniad Mr. David Davies. Gychwynwyd o Port Talbot am haner awr wodi deg i Porthcawl, lIe y treuliwyd diwrnod hapus ar lan y mor. Am 7 o'r gloch cvchwynasant yn ol o Porthcawl, a da genyf ddweyd i bawb gyrhaedd gartref yn ddiogel, gan deimlo eu bod wedi treulio diwrnod wrth fodd eu calon.—John Davies, Gwm- avon.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. CYFAHFOD PBEGETIIU.—Cynhaliwyd cyfarfod pre- gethu y lie uchod ar ddyddiau Mercher a Iau, y 2'lain a'r 25ain cynfisol. Nos Fercher, am 7 o'r gloch, llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Ffran- con Davies, curad Pwllheli, darllenwyd y llith gyn- taf gan y Parch. J. Williams (Glanmor), Llanallgo, ail gan yr Hybarch. Archddiacon Evans, periglor y plwyf, a phregethwyd gan y Parch. J. Williams (Glanmor). Am ddeg o'r gloch boreu ddydd Iau, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Richards, curad y lie, llithiau a. gwasanaeth y Cymun gan yr Hybarch. Archddiacon Evans, a phregethwyd gan y Parch. T. L. Jones, St. Iago, Bangor." Am ddau o'r gloch darllenwyd y Litani gan yr Hybarch. Archddiacon Evans,, a phreg- ethwyd gan y Parch. J. Jenkins, Capel Curig. Am chwech o'r gloch yn yr hwyr llafarganwyd y gwasan- aeth gan y Parch. D. Ffrancon Davies, darllenwyd y llith cyntaf gan y Parch. J. F. Rees, Llanfwrog, ail lith gan yr Hybarch. Archddiacon Evans, a phregethwyd gan y Parch. J. F. Rees. Yr oedd presenoldeb Dwyfol yn amlwg ymhlith pobl Dduw yn y cyfarfod o'r dechreuji'r diwedd. Yr oedd y cynull- eidfaoedd yn lluosog iawn. Corganwyd y caniadau, ac yr oedd yno llawer o'r bobl yn ymuno yn y gwas- anaeth. Mae eisieu gweled hyn ar gynydd ymhob Eglwys. Nid oes dim yn fwy marwaidd na chynull- eidfa fud yn y gweddiau. Yr oedd y canu yn gynulleidfaol, bywiol, a gwrosog. Gwnaed casgliad a'r ddiwedd pob gwasanaeth tuag at Cymdeithas er Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor.— Llechydfab.
[No title]
Yn Amlwch y mae'r llefydd i ymdrochi wedi eu cwblliau, a dywedir eu bod y rhai goreu yr ochr yma i'r byd, a bod dieithriaid yn gwneyd defnydd helaeth ohonyutbob dydd. Yn Four Crosses, sir Drefaldwyn, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus gan amaethwyr cvmydog- aethau Llanfair-caereinion, nos Wener diweddaf, i brotestio yn erbyn gwaith rhyw bersonau anfad yn taenn gwenwyn hyd y meusydd i ladd cwn. Dywedid fod o leiaf 27 o gwn wedi eu gwenwyno yn y cylch hwn yn ystod y pedair blynedd di- weddaf.