Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF.

News
Cite
Share

DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAUAF. DOWLAIS. Nos Fawrth cyn y diweddaf, am 7.30, cynhaliwyd gwasanaeth ;cyntaf yr wyl yn yr Eglwys Gymraeg, pryd y llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. G. Roberts, rheithor, a phregethwyd gan y Parch. John Williams, Llangeler, oddiar S. loan, xiv. 26. Bore Mercher, am 8, gwasanaeth y Cymun Bendigaid, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Richard Jones. Am 10.30, Boreol Weddi, pryd y llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Evans; darllenwyd y llith gyntaf gan y Parch. J. Morgan, Cwmfelin, yr ail gan y Parch. R. Jones, a phregethwyd gan y Parch. Jabez Edmund Jenkins, rheithor Vaynor, oddiar Preg. xi. 1. Am 2.30, llafarganwyd gwasan- aeth byr gan y rheithor; darllenwyd y llith gan y Parch. J. E. Jenkins, a phregethwyd gan y Parch. William Rhydderch, Hirwain, oddiar Salm lxxxiv. 6 a 7. Am 7.30, Prydnawnol Weddi, pryd y llafar- ganwyd y gwasanaeth gan y Parch. R. Jones, a phregethwyd gan y Parch. Thomas Walters, D.D., Llansamlet, oddiar Lefiticus xxvi. 3-7. Derbyn- iwyd offrymau diolch ar ol pob gwasanaeth, "a chyf- lwynwyd hwynt at wasanaeth y Genadaeth Dramor. Gwnaeth y cor ei waith yn lied dda dan ei arweinydd profiadol Mr. Morgan Lewis, a chwareuai Mrs. Richard Jones ar yr harmonium. Addurnwyd yr Eg- lwys yn ddestlus a chwaethus iawn gan y boneddig- esau Mrs. Richard Jones, Mrs. J. R. Jones, a Miss Everett. Yn ychwanegol at yr uchod gwelsom yr offeiriaid canlynol yn bresenolParchn. Walter Rees, Penderyn Thomas Charles Richards, B.A., Gefncoedcymer; Henry John Williams. St. Fagan's, Aberdar; Llewellyn Morgan Williams, Pontlottyn; Robert Williams, B.A., Pant. Yroedd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn Pengarnddu nos Wener, a phregethwyd gan y Parch. E. Thomas, Rhymni. VALLEY, MON. Cynhaliwyd diolchgarwch am y cynhauaf yn ys- tafell genhadol y lie uchod, nos Lun, yr 22ain cyn- fisol. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. E. Jones, Caergybi, a'r Parch. R. Jones, curad y plwyf, pryd y pregethwyd gan y Parch. E. T. Davies, B.A., Aberdyfi. Chwareuwyd yr harmonium gan Miss Lloyd, Ty'nllan, a Mr. Vine. Cawsom wasan- aeth bywiog a gwresog. Gwnaethpwyd casgliad tuag at y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol. RHYMNI. Dydd Mercher a dydd Iau, 24 a'r 25, cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch yma. Yr oedd yr Eglwys wedi ei gwisgo yn hardd ac yn ddestlus. Dechreu- odd y gwasanaeth yn yr Eglwys nos Fercher am 7, yr hwn a ddarllenwyd gan y Parch. Ll. M. Williams, Pontlottyn. Yr anthem ydoedd Wele mor dda- ionus. Pregethodd y Parch. G. B. Jones, Mountain Ash, a'r Parch. J. Williams, Llangeler. Yn y School Church, darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. Thomas, curad, a phregethodd y Parch. J. Morgan, Nantyglo.—Dydd Iau, am 9.30, darllen- wyd y Litani gan y Parch. J. Williams, Llangeler, a phregethodd y Parch. H. Jones, Manordeifi. Am 11, llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch. T. Rees, Pen- tyrch. Yr anthem oedd, 11 Cenwch i'r Arglwydd." Pregethodd Canon Gauntlett. Dechreuodd y cwrdd tri fel arfer, yn y School Church, yn Gymraeg a Saesneg. Ar ol i'r ficer wneyd ychydig sylwadau ymarferol ar y testyn, Ysgol yr aelwyd ac ysgol yr Eglwys," galwodd ar y boneddigion canlynol: -Mr. Bevan, Llanelen Mr. Hughes, Llancarfan; Mr. John Powell; Mr. Jones, Taff-fechan; Mr. Jones, Mountain Ash; Mr. Roberts, Dowlais; Mr. Wil- liams, Llangeler; Mr. Morgan, Nantyglo, a Mr. Williams, Pontlottyn. Dechreuodd y gwasanaeth hwyrol am 7, llafarganwyd y gwasanaeth yn yr Eg- lwys gan y Parch. T. Rees. Anthem, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel,"aphregethodd y Parch. J. Williams, Llangeler, a'r Parch. H. Jones, Manor- deifi.Yn y School Church, llafarganwyd y gwasan- aeth gan y Parch. W. Jones, curad, a darllenwyd y llithiau gan A. "Matthews, Ysw., St. David's College. Anthem, 0 godiad haul hyd ei fachludiad;" a phregethodd y Parch. D. Howell, Abergavenny. Cafwyd cynulleidfaoedd mawrion, pregethau da, a gwasanaethau gwresog. Gwell canu eleni nag arfer. Yr oedd yr offeiriaid canlynol yn bresenol heblaw y rhai a enwyd-y Parchn. A. Hughes, Llan- carfan T. Theophilus, Tredegar D. Lewis, Beau- fort; L. Price, New Tredegar J. Williams, Fochriw; R. Jones, Dowlais; A. Richards, Tredegar; T. L. Davies, Tredegar L. Hughes, J. Griffiths, Nant- yglo; D. Richards, Ebbw Vale; D. Alban, E. Evans, Deri, &c. TREORCI. Cynhaliwyd y cyfarfodydd diolchgarwch am y cynauaf yn Eglwys Treorci, nos Fercher a nos Iau, y 24ain a'r 25ain cynfisol, pryd y pregethwyd gan y Parchn. W. R. Green, ficer Troedyrhiw, a J. R. Buckley, ficer Llandaf, y blaenaf yn Gymraeg, a'r olaf yn Saesneg. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol, cynulleidfaoedd cryfion, gwasanaethau calonog, canu ardderchog, a phregethau effeithiol. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus dros ben, a dyddordeb mawr yn cael ei gymeryd gan y rhai oedd a'r llaw flaenaf wrth y gwaith, yn mhlith pa rai y gellir enwi Mrs. Hughes a Miss Thomas, Dumfries Street Mrs. Jones, Clark Street, a Miss M. A. Powell, Cemetery House. Chwareuwyd ar yr harmonucm yn gelfyddydgar, fel arferol, gan Miss Edwards. Gwnaed casgliad ar ddiwedd y gwasan- aethau tuag at yr Additional Curates Society, a chafwyd casgliadau rhagorol. LLANGADWALADR, MON. Cynhaliwyd cyfarfodydd gwyl y cynhauaf yn Eg- lwys y plwyf uchod, nos Lun a dydd Mawrth, yr 22ain a'r 23ain cynfisol. Yr oedd corau Aberffiaw, Trcfdraeth, a Llangadwaladr, yn cael eu harwain gan y Parch. John Owen, curad, Llangristiolns, yn canu yn ardderchog. Yr anthem oedd Molwch yr Arglwydd," Dr. Parry. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion T. E. Jones, Llanberis; Henry Parry, Llanfair-is-gaer a James Davies, St. Dewi, Lerpwl. Yr oedd yr Eglwys wedi ei gwisgo yn ddestlus ag M a blodau gan Mrs. Thomas, Rectory yn cael ei chynorthwyo gan Misses Muir, Dickens, Richards, a Leech, &c. Cafwyd cynull- eidfaoedd lluosog a phregethau grymus. Yr oedd te, &c., wedi ei arlwyo yn yr ysgoldy i'r cantorion. j LLANWRIN. Cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eglwys y plwyf hwn ar ddydd Iau, y 25ain o Fedi. Darllenwyd y gwasanaeth boreuol gan y Parch. Thomas Walters, rheithor Maencloch- og, Sir Benfro, a phregethwyd gan y Parch. Herbert W. Davies, perigior New Moat, Penfro. Am haner awr wedi dau, dywedwyd y Litani gan y Parch. H. W. Davies, a thraddodwyd y bregeth gan y Parch. T. Walters. Yn yr hwyr darllenodd y Parch. D. Silvan Evans, periglor y plwyf, y gwasan- aeth, a phregethodd y Parch Canon Griffiths, Machynlleth. Yr oedd yr offeiriaid canlynol hefyd yn bresenol y Parchn. William J. Edwards, Lan- dow; Richard Jones, Darowen ac R. J. Edwards, Corris. Addurnwyd yr Eglwys yn ddestlus gan Mrs. Silvan Evans, Miss Davies, Cilwern; a'r Misses Thomas, Cilgwyn. LLANUWCHLLYN. Yr oedd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cyn- hauaf yn yr Eglwys hon ddydd Iau diweddaf, a'r hwyr blaenorol, nos Fercher. Pregethodd y Parch. W. Roberts, periglor Llangower. Boreu dydd Iau pregethodd y Parch. R. Jones, Rheithor Bala, yn y prydnawn pregethodd y Parch. R. Owen, Llanfor, ac yn yr hwyr pregethodd y Parch. D. Howell, Ficer Wrexham. Heblaw y gweinidogion a enwyd, cymerwyd rhan yn y gwasanaethau gan y Parchn. R. Roberts, i Llanfaohreth; Ph. Owen, Frongoch a Hughes, perigior y plwyf. Yr oedd cynulleidfa- oedd lluosog iawn wedi dyfod ynghyd, a phawb wedi cael eu boddhau. LLANGOWER. Cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn yr Eglwys hon ddydd Gwener, y 26ain o'r mis hwn. Yr oedd yma ddau wasanaeth, y cyntaf am 3, a'r llall am 6.30. Yn y prydnawn pregethodd y Parch. J. Davies, B.A., periglor Eg- lwys Gymraeg Llynlleifiad, mewn rhan yn Saesneg, ac mewn rhan yn Gymraeg. Pregethodd Mr. Davies hefyd yn Gymraeg yn yr hwyr. Yr oedd y pregethau yn dda ac yn effeithiol iawn, a'r cynull- eidfaoedd yn lluosog, yn neillduol yn yr hwyr, pan oedd yr Eglwys yn orlawn. Yr oedd y canu yn wresog o dan lywodraeth Mrs. Roberts, y Rectory. Cymerodd yr offeiriaid canlynol ran yn y gwasan- aethau :—y Parchn. Rector y plwyf; R. Owen, Llanfor; D. Davies, curad, Bala; W. Hughes, Llanuwchllyn. Yr oedd y Parch. J. Williams, Rhosygwalia. hefyd yn bresenol. LLANFAELOG, MON. Yr wythnos ddiweddaf cynhaliwyd cyfres o was- anaethau diolchgarwch am y cynauaf yn Eglwys Llanbeulan, Llanfaelog a Bryngwran, (Llechylched) y rhai oeddynt yn hynod lewyrchus o ran eu cynull- iadau a'u trefniadau trwyddynt. Ar ddydd Mawrth y 23ain, yr oedd gwasanaeth boreuol gyda'r Cymun Bendigaid yn Eglwys Llanfaelog, pan y gweinyddid gan y Parch. Canon Williams, y rheithor, a phreg- ethwyd gan y Parch. R. Jones, Llanynghendl. Am 6.30, darllenwyd y wasanaeth brydnawnol gan y Parch. R. Evans, Llangwyfan, a llithiau priodol gan y Parch. E. T. Dawes, ficer Aberdyfi, gan yr hwn hefyd y pregethwyd. Ar ddydd Iau, y 25ain, cyn- haliwyd y wasanaeth foreol, gyd a gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid yn Eglwys Bryngwran, ynghyd a'r Litani am 2.30, a'r wasanaeth brydnawnol am 6.30, a thraddodwyd pregethau gan y Parchedigion R. Jones, E. B. Thomas, Bodedern, ac E. T. Davies. Ar ddydd Gwener, y 26ain, caed gwasanaeth y Litani am 2.30, yn Eglwys Llanbeulan, a phregeth- wyd gan y Parch. E. B. Thomas, Bodedern, ac am 6.30, cyflawnwyd y gwasanaeth prydnawnol gan y Parch. R. Evans, Llangwyfan, gyda darlleniad o lithoedd priodol gan y Parch. E. T. Davies, gan yr hwn hefyd y pregethwyd. Caed cynulleidfaoedd da drwyddynt, yn enwedig yn yr hwyr, pan yr oedd yr Eglwysydd yn orlawn. Yr oedd y gwasanaethau yn wresog. Y gerddoriaeth yn gynwysedig o emynau priodol, chants ac anthemau, yn fedrus a hwyliog. Miss T. E. Williams o'r Persondy, a Mr. Williams, Treban, yn cyfeilio yn ddeheuig ar yr harmonium, ac yr oedd y pregethau yn hynod gymwys ac effeithiol. Yr oedd y tair Eglwys wedi eu haddurno yn ddestlus a chwaethus, a rhanwyd Offrwm diolchgarwch Gwyl y Cynull cydrhwng Infirmary Mon ac Arfon, yn Mangor, a'r Gymdeithas er Adetladu ac Adgyweirio Eglwysi yn yr Esgobaeth. o PORTHMADOG. Cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn eglwys St. loan, Porthmadog, nos Fawrth, boreu a nos Fercher, y 23ain a'r 24ain cynfisol. Dechreuwyd y cyfarfod nos Fawrth am 7 o'r fgloch, pryd y darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. E. Edwardes, curad, y llith gyntaf gan y Parch. D. Lloyd Jones, rheithor, a'r ail lith gan y Parch. J. Lloyd Jones, Criccieth, yr hwn hefyd a bregethodd i gynulleidfa luosog. Am 8 o'r gloch boreu dydd Mercher, gweinyddwyd y Cymun Ben- digaid yn Gymraeg a Saesneg. Am 11, dechreuwyd y gwasanaeth Saesneg, pan ddarllenodd y Parch. D. Lloyd Jones y gwasanaeth, y Parch. E. Edwardes y llith gyntaf, a'r Parch. J. Lloyd Jones yr ail lith. Pregethodd yr olaf -hefyd i gynulleidfa lied lluosog ag ystyried fod y tywydd mor anffafriol (yn y boreu yr oedd yn wlyb ac ystormus iawn). Dechreuwyd y cyfarfod yn yr hwyr am 7 o'r gloch, pryd y darllen- odd y Parch. D. Lloyd Jones y gwasanaeth. y Parch. J. Lewis, Llanystumdwy, y llith gyntaf, a'r Parch. E. Davies, Llanllyfni, yr ail lith. Pregethodd Mr. Davies hefyd i gynulleidfa ragorol o luosog. Cafwyd canu gwir dda yn y tri gwasanaeth. Trwy ymdrech mawr a diflino Mr. Percey Thomas, yr organydd, yn flaenorol i'r cyfarfodydd yma, gwnaeth y cor eu rhan yn rhagorol. Dylem nodi hefyd fod dwy foneddiges ieuanc, sef Miss Homfrey, Brecon-placc, a Miss May, Morfa Lodge, wedi addurno yr allor a'r fedydd- fan yn hynod o ddestlus. Wrth edrych ar y cyfar- fodydd o'r dechreu i'r diwedd y mae yn amlwg fod yma lawer o fywyd ac egni mewn cysylltiad a'r Eg- lwys yn y lie. Yr oedd y gwrandawyr yn lluosog; y canu yn gryf a bywiog; y pregethu yn felus a phwr- pasol, ac wrth gydmaru yr olwg ami yn awr a'r hyn welwyd arni fiynyddoedd yn ol, yr ydym yn gweled, nid yn unig fod Paul wedi planu, ac Apolos wedi, ac yn dyfrhau, ond fod Duw hefyd wedi rhoddi llawer iawn o gynydd. A'n gobaith yw, ar ol cael y fath lewyrch ar ein cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf, nad ydym yn tadogi gormod o'r llewyrch a'r llwyddiant i ryw berson neu bersonau neillduol, ond y rhoddwn y gogoniant i Dduw—Arglwydd y cynhauaf.-E.G.E. LLANGWNWR. Dydd Iau, y 25ain o'r mis diweddaf, cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Eg- lwys y plwyf uchod. Bu tri gwasanaeth yn ystod y y diwrnod, y boreu am 10.30, prydnawn an 2.30, a'r hwyr am 6. Trodd y dydd allan yn hynod o ffafriol. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lluosog iarwn, y gwasanaethau yn felus, y canu yn dda, yn enwedig yr anthem, a llawer o glod sydd yn ddyled- us i arweinydd y cor am ei ymdrech a'i ffyddlondeb gyda'r canu bob amser, a hyny yn ngwyneb llawer o glaerineb rhai o'r cantorion; y pregethau oeddynt darawiadol ac effeithiol. Y pregethwyr oeddynt, yn Saesneg, y Parchn. Canon Edwards, Caerlleon-ar- Usk, a D. Jones, Pontardawe yn Gymraeg, Parchn E. Thomas, Llanegwad J. Rees, curad Ystrady- fodwg a J. Davies, Clydach. Oasglwyd ar ol pob gwasanaeth at y clafdy yn Nghaerfyrddin a'r Ysgol Genedlaethol yn y plwyf. Dangoswyd gan breswyl- wyr agos y Llan bob llettygarwclx a charedigrwydd i'r dieithriaid a'r plwyfolion pell o'r lie, drwy gyflenwi at eu hanghenion, a thrwy hyny roddi cyf- leusdra iddynt i fynychu yr Eglwys i bob gwasan- aeth. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus erbyn yr achlysur a, chynyrch y ddaear, sef ffrwythau a blodau, Bendith y nefoedd ar y cyfan er lies trigolion y plwyf ac eraill yw fy nhaer weddi.-G, MAENTWROG. Oynhaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch am y cyn- hauaf yn Eglwys y plwyf uchod nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Pregethwyd nos Sadwrn gan y Parch. W. S. Williams, periglor Trawsfynydd. Boreu Sul, am 10, gan y Parch. R. Killin, am 11, yn Saesneg, gan y Parch. Septimus Haunzard, periglor Bethnal Green, Llundain, ac am ddau a chwech gan y Parch Gower, periglor Trefriw, Cafwyd cyfarfodydd da a gwasanaethau bywiog. Yr anthem ydoedd, Yr Arglwydd yw fy mugail (Dr. Parry). Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ysblenydd gan yr An- rhydeddus Mrs. Oakeley a Miss Oakeley, o'r Plas, Tanybwlch. Y mae y teulu urddasol hwn yn cym- eryd dyddordeb mawr yn yr Eglwys a'i llwyddiant. Prawf o hyn yw iddynt roddi allor a darllenfa newydd ynyr Eglwys yn flaenorol i'r cyfarfod. Gan y bydd eich gofod yn brin ni ymhelaethwn, er y carasem roddi adroddiad llawnach o'r gweithred- iadau. TREFEGLWYS. Dydd Mercher a dydd Iau diweddaf, y 24ain a'r 25ain cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn eglwys y plwyf uchod. Nos Fercher, yn Eglwys Crist, Llawr-y-glyn, darllen- wyd y gwasanaeth gan y Parch. M. Wheldon Jones, ficer, a peregethwyd gan y Parch. Dr. James, Pont Robert. Yr oedd yr eglwys yn orlawn Q wrandawyr astud. Chwareuwyd ar yr har- moniwm gan Mr. Griffith Thomas, P.T. Yn eg- lwys y plwyf, ddydd lau, am 11 yny boreu, dar- llenwyd y gwasanaeth gan Dr. James, a chafwyd pregeth gan y Parch. J. S. Bowen, curad Caersws. Am dri o'r gloch prydnawn ,cor-ganw37d y Litani gan y Parch. J. S. Bowen, a chafwyd pregeth gan y Parch. Evan Jones, Llangurig. Am saith yn yr hwyr cor-ganwyd y gwasanaeth gan y ficer, a chafwyd pregeth gan Dr. James. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Miss Tudor, Ficerdy. Caf- wyd cynulliadau da, yn enwedig yn yr hwyr; ni welwyd erioed gymaint wedi d'od ynghyd i'r eg- lwys ar amgylchiad o'r fath. Yr oedd yr holl wasanaethau yn llawn corawl, canwyd anthemau priodol i'r amgylchiad. Cafodd yr eglwys ei harwisgo eleni yn brydferth iawn gan y rhai canlynol: Mr. a Mrs. Chambers, Board School; Mrs. Smith, Mrs. Daniel Smith, Miss Tudor, Ficerdy. Y mae ein diolchgarwch yn ddy- ledus i'r boneddigesau a ganiyn am wenith, haidd, a chyrch, er arwisgo yr eglwys:—Mrs. Davies, Church Farm; Mrs. Davies, Bodaioch; Mrs. Savage, Pwllglas; Mrs. Evans, Ffumant; Mrs. Francis, Birchen House; a Mrs. John Evans, Clap.—D.S. t- LLANSTEPHAN. Ar y 25ain cynfisol, cynhaliwyd gwyl diolch- garwch am y cynhauaf yn yr eglwys uchod. Am 11 darlleuwyd y gwasanaeth gan y Parch. W. R. Lloyd, ac am 3 gan y Parch. D. S. Davies, Llan- ybri, a phregethwyd gan y Parch. Tudor Thomas, Llanwrtyd. Yn yr hwyr yr oedd y gwasanaeth a'r pregethau yn Gymraeg i gyd, pryd y darllen- p r c, I wyd y gwasanaeth gan y Parch. David Evans, Llangain, a phregethwyd gan y Parch. D. H. Hughes, Gorslas, a'r Parch. T. Thomas. Cafwyd cynulleidfaoedd lluosog drwy y dydd, ac yn yr hwyr yr oedd yr eglwys yn orlawn. Rhoddwyd y casgliadau yn ystod y dydd at Glafdy Caerfyrddin. pa rai a gyrhaeddent tua £7. Da gan ein calon ydoedd gweled cymaint o arwyddion bywyd ac adfywiad ymhob rhan o'r gwasanaethau yn "Llanstephan yn ystod y fiwyddyn ddiweddaf. Amlwg yw fod yr eglwys hon yn myned ar gynydd mewn nifer a grasusau. Cyflawnodd y cor ei ran yn effeithiol a medrus. Yr oedd o dan anfantais fawr o'r blaen pan yn wasgaredig ar hyd y gynull- eidfa. Mae y cyfnewidiadau a wnaethpwyd yn nhrefniad yr eisteddleoedd yn y ganghell yn welliant dirfawr. ST. ELIZABETH, GLASYNFRYN, BANGOR. Dydd Mercher, y 24ain cynfisol, y cynhaliwyd cyfarfod o ddiolchgarwch am y cynhauaf yma. Am ddau o'r gloch, darllenwyd y Litani gan y Parch. W. Owen, Pentir, a phrogethodd y Parch. J. Jones, Llandinorwig. Am haner awr wedi chwech yn yr hwyr yr oedd yr eglwys wedi ei gorlenwi, a llawer yn gorfod troi yn ol i'w cartrefi o ddiffyg 11<3.. Darllen- wyd y gwasanaeth gan y Parch. R. Jones, Penisa'r- wain, Llanddeiniolen, a darllenwyd yllithoedd gan y Parch. S, Jones, St. Ann's, ger Bethesda. Yna pre- gethodd y Parch. T. Lloyd, Dinbych. Yr oedd y ey- farfod eleni o'i ddechreu i'w ddiwedd yn rymus ac effeithiol iawn. Yr Emynau a'r Tonau yn ddethol- edig ac i bwrpas, a gobeithiwn y parha ei ddylanwad yn hir. Gwasanaethwyd ar yr offeryn ar hyd y cy- farfod gan ,Mr. J. Williams, ysgolfeistr y lie, yn ganmoladwy dros ben. Ond cyn terfynu hyn o ysgrif nis gallwn deimlo ein bod wedi gwneyd ein dyleclswydd heb ddweyd gair nou ddau mewn per- thynas i'n parchus curad. Y mae Mr. Hughes er pan y daeth i'n plith, wedi, ac yn bod yn un o'r rhai mwyaf ymdrechgar a dibartiol a welsom. erioed gyda phob achos teilwng fydd yn yr ardal, ac hefyd yn weithgar iawn gyda'r Ysgol Sul, yn gymaint felly hyd nes y mae yr achos dan ei ofal, ac ystyried maint a phoblogaeth y lie, yn un o'r rhai mwyaf addawol yn sir Gaernarfon. FERNDALE. Nos Fawrth a nos Fercher, Medi 23ain a'r 24ain, cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn Gymraeg a Saesneg yn Eglwys St. Paul, yn y lie uchod, pryd y pregethwyd gan y Parch. W. R. Thomas, ficer, Abersychan. Arweiniwyd y canu gan Mr. J. Morris, a chwareuwyd ar yr har- monium gan Mr. T. Edwards. Yr oedd yr eglwys yn orlawn, ac wedi cael ei haddurno yn hardd gan y Misses Thomas, Blaenllechau Mrs. Lewis, Police Station Mrs. Rees, Green Hill; a Mrs. Woolcott. BANGOR TEIFI. Cynhaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch yn y plwyf hwn a phlwyf Henllan yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y gwasanaethau yn fywiog a gwresog. Yr oedd agwedd y cynulleidfaoedd yn awgrymu fod yno dyrfa yn cadw gwyl. Boddhaol iawn yw gweled Ymneill- duwyr y gymydogaeth ar yr wyl hon yn cyfeirio eu camrau tua Sion, fel y gwnai yr Iuddewon gynt ar gwyliau,—gadael eu synagogau a myned i fyny i'r deml. Cymerwyd rhan yn y gwasanaethau gan y Parchedigion W. Rees, ficer Llangadog; J. H. Williams, Penboyr a D. H. Jones, Capel Cynon. Traddodwyd pregethau yn y ddwy eglwys gan y Parchn. E. Thomas, Llanegwad, a D. Jones, Llan- bedr, ac yr ydwyf yn gobeithio y cawn eu clywed yma eto. Yr oedd eglwys brydferth Henllan wedi ei haddurno yn dlws iawn trwy ymdrechion Miss Jones, Penbont, yr hon sydd yn teilyngu gair o glod am ei ffyddlondeb a'i gweithgarwch bob amser. Cawsom ein boddloni yn fawr yn y cwbl oil. Yr oedd y canu yn wresog drwy J do i gyd. Canodd cor Bangor ddwy anthem yn bur dda. Cyflwynir y rhoddion diolch- garwch i'r Church Pastoral Aid Society. Bendithied Duw y cwbl. RAGLAN. Eglwys St. Catherine.—Cynhaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch am yjcynhauaf yn yr eglwys uchod nos Fawrth, Medi 23ain, pan y daeth cynulleidfaoedd lluosog ynghyd. Gwasanaeth Cymraeg oedd hwn. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. Daniel Lewis, ficer Aberavon a Raglan, y llith cyntaf gan y Parch. R. Meredith Jenkins, curad Taibach, yr ail lith gan y Parch. James Thomas, curad Briton Ferry, a phre- gethwyd gan y Parch. Peter Williams, B.A., curad Castellnedd. Yr oedd y Parch. E. Thomas Sciwen, i fod i bregethu end methodd a chyflawni ei addewid. Yn yr un eglwys, nos Fercher canlynol, cafwyd gwasanaeth Seisnig; pregethwyd gan y Parch. B. Lloyd, ficer Mountain Ash.—John Davies, Cwmavon. ABERAVON. Nos Iau, yn Eglwys St. Mary, cynhaliwyd cy- farfod. Darllenwyd y gweddiau gan y Parch. D. Lewis, ficer Aberavon, a'r Parch. J. C. Thomas, M.A., ficer Duffryn; y llith cyntaf gan y Parch. B. Lloyd, ficer Mountain Ash, a'r ail gan y Parch. John Griffiths, D.G., ficer Cwmavon. Pregethwyd gan ficer Mountain Ash. Yr oedd yr eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus erbyn yr achlysur gan amryw o aelodau yr eglwys.—John Davies, Cwmavon. LLANDDERFEL. Cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch am y cynhauaf yn eglwys y plwyf, ddydd Iau, y 25ain o Fedi. Yr oedd y gwasanaeth foreuol, 11.30, yn Saesneg. Darllenwyd y gweddiau gan y rheithor, y Parch. W. Morgan, a'r llithoedd gan y Parch. T. Williams, ficer Llandrillo, ac yn absenoldeb y pre- gethwr disgwyliedig, y Parch. D. Howell, Gwrecsam, yr hwn oedd wedi addaw anerch y gynulleidfa, tra- ddodwyd pregeth gan y Parch. T. Williams, Llan- drillo. Yn yr hwyr, am 6.30 gwasanaeth a phregeth yn Gymraeg. Darllenwyd y gweddiau gan y rheithor, y llithoedd gan ficer Llandilo, a chafwyd pregeth gan y Parch. D. Jones, rheithor Llanrhaiadr-yn-Moch- nant. Yr oedd yr hin yn ffafriol, y cynulleidfaoedd trwy'r dydd yn hynod o dda, y canu yn fywiog ac addoliadol, a phawb yn gwrando yn astud, fel y gweddai i bobl wrando cenadwri oddiwrth Dad y trugareddau. Chwareuwyd yr organ yn y wasanaeth Saesneg gan Mrs. Morgan, Rheithordy, ac yn y Gymraeg gan Mr. R. Roberts, post-feistr. Addurnwyd yr eglwys yn brydferth i'r achlysur a blodau, rhedyn, ac folly ymlaen, gan foneddigesau y Pale, ac y mae diolchiadau pawb yn ddyledus iddynt am eu cared- igrwydd.

Y GYMDEITHAS ER LLEDAENU GWYBODAETH…

[No title]