Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
ARDALYDD SALISBURY YN SCOTLAND.
ARDALYDD SALISBURY YN SCOT- LAND. Rhoddwyd derbyniad tywysogaidd i Ar- dalydd Salisbury yn Glasgow ddoe, pryd y cyflwynwyd 50 o anerchiadau llongyfarch- iadol iddo oddiwrth gynifer a hyny o gym- deithasau Ceidwadol yn Ysgoland.
Y CHOLERA.
Y CHOLERA. Digwyddodd 52 o achosion newydd o'r Cholera yn Genoa ddoe, ynghyd a 30 wedi marw. Adroddwyd am 128 o achosion newyddion yn Naples er ddydd Mawrth, ynghyd a 40 o farwolaethau.
[No title]
Dywed Mr. Charles Edwards, fiermwr, Holt, ei fod wedi amaethu mushrooms mewn cae naw acer, ac iddo wneuthur 40p. o'r cae hwnw y tymor presenol. Dyma awgrym i ffermwyr eraill. Er fod cwyn cyffredinol yn yr America oher- wydd y tywydd poeth ar ddiwedd Awst a dechreu Medi, eto y mae y ffermwyr yn ddiolchgar am y cnwd corn goreu a welwyd erioed. Yn ol y newyddion diweddaf o Awstralia, y mae cyni mawr yn cael ei deimlo gan yr amaethwyr a'r porthianwyr yn nhrefedigaethau Queensland a Deheudir Cymru Newydd oherwydd diffyg gwlaw. Yr hir sychder presenol a bar fod y rhagolygon yn bruddaidd i'r eithaf. Gerbron ynadon Caerdydd, dydd Gwener diweddaf, cyhuddwyd Elizabeth Barron, dynes briod, o gadw t drwg yn y dref hono. Cafwyd hi yn euog, a dirwywyd hi i £100 a'r costau, neu chwe' mis o gar- chariad. Talwyd yr arian gan ei thad.—Am gyffelyb drosedd anfonwyd Margaret Chandler, gwraig ieuainc, i'r carchar am dri mis gydallafur ealed. Cymerodd digwyddiad erchyll le yn Wimbledon, ddydd Sadwrn, mewn cysylltiad a'r cynhwrf politic- aidd sydd wedi ei gychwyn gan Mr. Gladstone. Tra yr oedd Mr. Thurland Holland, cadeirydd un o'r cymdeithasau Rhyddfrydol lleol, ar fedr cymeryd ei le az y blaen mewn gorymdaith boliticaidd, syrthiodd i lawr yn sydyn, a bu farw. Mae pendefiges o Paris yn gweiniyn un o ysbytdai colera Marseilles. Dywedir ei bod yn ddynes gyfoeth- og, landeg ac ieuanc, yn gwisgo mewn gwisgoedd calico, ac wedi gwneyd daioni mawr. Mae yn cyf- lawni adduned a wnaeth yn ddiweddar pan oedd un o'i phlent yn glaf. Y mae meddyg yn Ffrainc yn honi ei fod wedi darganfod ffordd sicr i wella y diptheria trwy losgi turpentine a tar &'u gilydd yn ystafell y claf, a pheri iddo anadlu y mwg, yr hyn a effeithia yn union- gyrcyol ar y fflem yn y gwddf. Ar ol gwneyd hyn, dylid golchi genau y claf & chymysgiad o ddwfr calch a thar. Teimla amaethwyr Peterton, Kas., a'r amgylch- oedd yn galonog eleni wrth weled eu meusydd wedi eu llenwi & chynyrchion toreithiog at gyil- haliaeth dyn ac anifail. Mae cnydau da yma o bobpeth oddigerth peaches, am fod y diweddar rew yn y gwanwyn wedi eu difetha. Dichon fod rhai parthau o'r Dalaeth wedi cael gormod o wlaw.
YR HELYNTION AIPHTAIDD.
Boreu dydd Iau. YR HELYNTION AIPHTAIDD. Cyrhaeddodd Arglwydd Wolseley a'i swyddogion i Assouan heddyw, ond ni fuont yno yn hir, gan fyned ymlaen tua Wady Haifa. Mae iechyd y milwyr Prydeinig yn dda, ac y maent yn prysur ymdeithio yn mlaen.
CYTHRWFL YN CAIRO.
CYTHRWFL YN CAIRO. Digwyddodd cythrwfl arswydus yn ngharchar Cairo ddoe, drwy i amryw o'r carcharorion ymosod ar y swyddogion. Llwyddodd 30 o garcharorion i ddianc, ond daliwyd 17 o honynt ymhen ychydig oriau, a disgwylir y delir y gweddil yn fuan.
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA.,
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA. Y LLYNGESYDD COURBETT. Adroddid yn Ffrainc neithiwr fod y Llyngesydd Courbett wedi gwneyd ymosod- iad ar Keelung. Disgwylid i fynegiad swyddogol gael ei gyhoeddi heddyw.
-Y DYNLADDIAD YN PORTH.
Y DYNLADDIAD YN PORTH. Yn Ilys ynadon Pontypridd ddoe gollyng- wyd John Morgan ac Edwin Watkins, y rhai a gyhuddir o achosi marwolaeth Wil- liam Jenkins, Dinas, allan dan feichiafon hyd y frawdlys.
YMDDISWYDDIAD Y GWEINIDOG…
YMDDISWYDDIAD Y GWEINIDOG MASNACHOL YN FFRAINC. Mae sicrwydd erbynhyn fod M. Herrison, Gweinidog Masnach yn Ffrainc, wedi ym- wedi ymddirwyddo. Dywedir gan rai mai ei ddiswyddo gafodd M. Herrison.
ATHRODI AELOD SENEDDOL.
ATHRODI AELOD SENEDDOL. Yn Ilys ynadon Manchester, ddydd Mer- cher, caniatawyd gwys i Mr. Agnew, A.S., yn erbyn Mr. E. Brooke, Pabo Hall, Con- wy, yr hwn meddid oedd wedi athrodi Mr. Agnew drwy ysgrifenu llythyr i'r perwyl ei fod wedi prysuro marwolaeth un Mr. Men- dell drwy gymeryd meddiant o'r holl ddod- refn oddigerthy gwely y gorweddai arno. Mae yr helynt wedi creu cyffro ymhlith cyfeillion y ddau foneddwr.
CYNHADLEDD ESGOBAETHOL .LLANDAF,…
CYNHADLEDD ESGOBAETHOL LLANDAF, 1884. Cynhelir cynhadledd o glerigwyr a lleygwyr yr esgobaeth yn Neuadd y Dref, Caerdydd, ddyddiau Mercher a Iau, Hydref 22ain a 23ain. Dechreuir y gweithrediadau ddydd Mercher drwy weinydd- iad o'r Cymun Bendigaid yn Eglwys St. loan y Bedyddiwr, am ddeg o'r gloch boreu ddydd Mercher. Am 11, ymgyferfydd aelodau y gyn- hadledd yn yr Assembly Room, Neuadd y Dref, ac agorir y cyfarfod drwy weddi, yn cael ei ddilyn kg anerchiad gan yr Esgob. Y pwnc yr ymdrinir ag ef y boreu fydd Cyfansoddiad y Gynhadledd." Wedi ciniaw, ymgyfarfyddir am ddau, a chymerir dan ystyriaeth y pynciau canlynol: Adroddiad y Dirprwywir ar y llysoedd Eglwysig," ac Helaeth- iad yr Eglwys." Dydd Iau, Hydref 23ain, pynciau y boreu am ddeg fyddant, Cynorthwy lleygol yn ngwaith yr EgIWYS;" a Nawddogaeth Eglwysig." Ar ol ciniaw, cymerir dan ystyriaeth Addysg Grefydd- ol," a'r Confocasiwn." Cymer penodiad y gwahanol bwyllgorau le am bedwar o'r gloch y prydnawn. Mae pob rhagolwg y ceir cynhodledd lwyddianus, yn gymaint a bod parotoadau helaeth yn coel eu gwneyd ar ei chyfer.
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. CAN SIMEON: Hen Anthem Gymreig, yr Awdwr yn anhysbys, wedi ei threfnu a'i chynghaneddi gan T. C. Davies, Llanymawddwy. Diameu fod ein darllenwyr yn gyfarwydd a eiriau yr anthem hon fel ag ei gelwir yn y Llyfr Gweddi sef y Nunc Dimittis. Anaml iawn y cenir hwym yn y dull o anthem, ond nid yw hyny yn gwneyd dim gwahaniaeth. Dyma an. them deilwng o'r geiriau. Mae yr awdwr, er yn anhysbys, wedi llwyddo i ddangos allan y geiriau yn eu hystyr priodol Cyfansoddiad tlws dros ben. Nid yw yn rhy anhawdd hyd yn nod i'n corau gwledig Eglwysig, a bydd yn ddigon o dal iddynt ar ol ei dysgu. Dymunwn bob llwyddiant i'r trenfydd. Pris yr anthem ydyw tair ceiniog, ac i'w chael gan T. C. Davies, Llanymawddwy.
LLANDUDNO.
LLANDUDNO. YR YSGOLION CENEDLAETHOL.—Dydd Sadwrn, y 27ain cynfisol, derbyniodd un o athrawon cynorth- wyol yr ysgolion hyn, Mr. Arthur Jones, Belle Vue Villa, oddiwrth Arglwydd Esgob Bangor, yr ail wobr am wybodaeth ysgrythyrol, sef Esboniad yr Esgob How ar y Testament Newydd. Yr un adeg cyflwyn- wyd gwobr i'r prif athraw, Mr. J, Morris, dan addysg yr hwn y bu Mr. Jones yn astudio. Gwobr Mr. Morris ydoedd Esboniad y diweddar Ddeon Bangor ar Efengyl St. Matthew. Derbyniodd Mr. Arthur Jones yr un dydd mathematical instruments o'r Science and Art Department, South Kensington, ynghyd a. thystysgrif am ragoroldeb mewn geometry. Da genyf hysbysu yn mhellach fod Mr. Morris yn un o'r pum' athraw a etholwyd i gynrychioli athrawon ysgolion ar Fwrdd Addysg yr Esgobaeth.
TOWYN, MEIRIONYDD.
TOWYN, MEIRIONYDD. Cynhaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch i'r Hollalluog Dduw am y cynhauaf toreithiog ydym newydd gasglu yn eglwysi St. Cadvan a St. Matthew. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lliosog, yr hyn a ddengys fod yr Hen Fam yn enill tir yn y plwyf hwn trwy weithgarwch y Parch. T. Lewis, B.D. Yr offeiriaid a gymerasant ran oeddynt y Parchn. Davies, Llwyngwril; Edwards, Llanfi- hangel-y-creuddyn, a Canon Griffiths, Machyn- lleth. Yr uchod ddylasem ddweyd a bregethasant, ereill a ddarllenasant y gwasanaeth neu a gymer- asant ran oeddynt y Parchn. Lewis, ficer; Herbert, curad; Hughes, Llanegryn; a Williams (Berw), Abergynolwyn. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol.
TREDEGAR.
TREDEGAR. MARWOLAETH.—Y mae genyf y gorchwyl gofidus a thorcalonus yr wytlmos hon o gyfnodi am far- wolaeth Miss Elizabeth Howells, yr hon a fu farw nos Fawrth, Medi 23ain, yn 19 mlwydd oed, wedi bod yn dioddef oddiwrth y darfodedigaeth am y flwyddyn ddiweddaf. Chwaer ydoedd i Mr. John Howells, King's Head Inn, Tredegar, yr hwn a berchid yn fawr gan bawb drwy y gymydogaeth. Un hoff ac anwyl iawn ydoedd;Elizabeth yr oedd pawb yn ei charu ac yn ei hedmygu yn fawr, fel y gellir dweyd Bu farw un anwyl." Dydd Llun diweddaf, ymgasglodd torf fawr o bobl barchus ynghyd i hebrwng ei gweddillion marwol i dy ei hir chartref, sef mynwent y Graig, Rhymni. Nodded yr Arglwydd fyddo ar ei holl perthynasau yw dymuniad lliaws heblaw yr ysgrifenydd. GWLEDD GERDDOROL.-Nos Lun diweddaf cyn- haliwyd social tea yn y Coffee Tavern, mewn cys- ylltiad a. chor undebol Tredegar. Daeth lluaws ynghyd i gyfranogi o hono, a chafodd yr oil o honynt eu llwyr foddloni. Wedi hyny, cynhaliwyd cyfarfod dyddorol o dan lywyddiaeth Mr. John Thomas (Ap Noah). Canwyd amryw o ddarnau swynol iawn gan Mr. B. Griffiths (Llew Degar) Mr. William Conner Miss Rachel. James (Llinos Degar); Mr. D. Turner Mr. W. Powell (Ap Llewelyn); Mr. D. (Dewi Degar); Mr. J. Abrams (Llew Tydfil); a chaf- wyd anerchiad rhagorol gan Mr. Henry Bevan (Cerdd-fardd), yr hwn a areithiodd ar Undeb." Cynghorai y cantorion i fod mewn undeb a'u gilydd bob amser, a dygwyd amryw o engreifftiau am gan- lyniadau llwyddianus i wahanol bethau drwy fod mewn undeb a'u gilydd bob amser. Cynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd parchus am lywyddu mor rhagorol yn ystod y eyf arfod-yna ymadawodd pawb gan ddymuno am gael cyfarfod cyffelyb yn fuan eto. -Gohebydd.
[No title]
Y mae Mr. W. T. Parker, Y.H., Trallwm, wedi cyflwyno i Goleg Bangor ddarlun hardd o Iarll Powis, llywydd cyntaf y coleg. Y mae Mr. Fawcett, A.S., Post Feistr Cyffred- inol, yn aros y dyddiau hyn gyda Mr. Henry Robertson, A.S., yn Pale, ger Corwen. Dywedir fod Eisteddfod Gadeiriol Bethesda, yr hon a gyhoddwyd gyda'r fath rwysg a sain udgyrn ychydig fisoedd yn ol, wedi erthylu.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. MEWN LLAW.—J.S.R. TYMHORAU Y FLWYDDYN. YR HYDREF. Un llwythog yw'r Hydref felllong o wlad bell, Wrth swn ei ddynesiad a newyn i'w gell; Addfedrwydd wna'r meusydd yn wynion eu gwedd, Fel henaint pan sanga ar geulan y bedd. Medelwyr a welir yn arfog yn awr, Yn cychwyn i'w gorchwyl ar wysiad y wawt; Ardderchog yw golwg y meusydd bryd hyn, Tra'r haul yn goreuro gwynebpryd y llyn. Y llwyni cyfoethog dan bwysau mor fawr, Sy'n plygu yn isel a blin tua'r llawr Ydlanau yn fuan a lenwir ag yd, Ac angau a gilia dros geulan y byd Gwywedig a gwael ydyw blodau yr ardd, Eu tegwch a giliodd-er unwaith mor hardd Hoff adar yr haf sy'n ehedeg yn mhell, Mae teithwyr yn chwilio am wledydd sydd well. Conwil. ELFETIAN.
MYFYRDOD RHWNG DYN AG EF EI…
MYFYRDOD RHWNG DYN AG EF EI HUN CYN DYDD YN EI WELY, (Gan Ieuan Brydydd Hir, yn 1767.) Mewn hen ysgrif cafwyd yr emyn awenyddol a melys hyn o waith yr hen offeiriad a'r bardd, Pryd- ydd Hir, pa un a gynygir i'ch gwasanaeth, rhag iEi ddifancoll. Tremadog. ALLTUD EIFION. Os wyt ti ddyn o Eglwys Duw, Fy enaid clyw a gwrando, Ar glych y Nef i'th alw'n awr, Gwasanaeth mawr sydd yno. 0 rhed a brysia, gwel drwy ffydd, Yr holl lu ufudd nefol; Yn bwrw eu coronau i lawr, I'r Brenin mawr Tragwyddol. Mil, mil o filoedd ger ei fron, Mewn gynau gwynion canaid A pheraidd lais yn moli'r Ion, Y telynorion euraidd. Angylion, Arch-angylion, Saint, Oruchel fraint ryfeddol Yn cydfolianu'r Dnwdod glan, Ar gywir gan ragorol. Am brynedigaeth dynol ryw, A'i ethol i'w oleuni; 01 cydfolianed nef a llawr, Bob dydd, bob awr, heb dewi. Am ofal Duw dros bawb o'r byd, A'u dwyn i iechydwriaeth Cydseinio wna holl luoedd Ne', Molianwn ninau ar unwaith. 0 brysia, brysia yno'n awr, A phlyg yn awr dy galon A chyd seinia gyda'r nef, At Grist a'th lef yn gyson. Fy enaid mawl di Dduw yn awr, Ei luoedd mawr a'i molant; I'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan, Tragwyddol gan gogoniant. Y PARCH. E. EVANS, (Ieuan Brydydd hir) a'i cant, 1767.
[No title]
CAN'MLWYDDIAD DR. JOHNSON .-Cyhhaliwyd cyfarfodydd ynglyn & chan'mlwyddiad Dr. John- son, yn Lichfield ddydd Mercher.
PROCTORIAETH WAG ESGOBAETH…
PROCTORIAETH WAG ESGOBAETH TY DDEWI. Drwy farwolaeth y Parch. J. Sinnett, Penboyr, mae yn angenrheidiol ethol clerigwr arall yn proctor yn y Confocasiwn dros yr Esgobaeth. Wedi i'r Esgob dderbyn rhybuddion swyddogol o Lundain, penododd ar fod i enwau y rhai a gyn- ygid gael eu hanfon i mewn erbyn ddydd Gwener diweddaf. Derbyniwyd lliaws o bapyrau o wa- hanol ranau o'r Esgobaeth, ond yr unig enw a gynygid yn yr oil ydoedd y Parch. Dr. Walters, Llansamlet. Cymer yr etholiad le ddydd Gwener, Hydref 10, yn Nghaerfyrddin, a chan nad oes, fel y dywedwyd, neb arall wedi ei gynyg, etholir Dr. Walters yn ddiwrthwynebiad.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. DIOLCHGARWCII AM Y CYNHAUAF.— Cynhelir gwas- anaethau diolchgarwch am y cynauaf yn Eglwys St. David ddydd Sul nesaf, pryd y pregethir gan y Parch. J. Griffith, rheithor. Mae parotoadau helaeth yn cael eu gwneyd gan yr organydd, Mr. Lawranc ea'r c6r ar gyfer yr achlysur. Bydd gwas- anaeth, yn yr Eglwys Gymraeg ymhen tua mis. CYMDEITHAS GRISTIONOGOL GWYR IEUAINC—Dydd Iau, cynhaliodd aelodau y gymdeithas hwn eu cy- farfod blynyddol yn Neuadd Abermorlas. Yn y prydnawn cynhaliwyd cwrdd te, pryd y daetc nifer fawr o'r aelodau ynghyd, y rhai a fwynhasant eu hunain yn fawr. Yr oedd nifer o wrthddrychau ysblenydd yn cael eu harddangos, eiddo rhai o'r aeladau. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr, o dan lywyddiaeth y Parch. C. Griffith, M.A., pryd y cafwyd anerchiadau, caneuon, adroddiadau, &c. Mae y gymdeithas yn oynyddu yn barhaus, a'r pwyllgor yn gwneyd pobpeth er cysur yr aelodau. CYFLWYNIAD TYSTFB.-Nos Lun cyflwynwyd tysteb i Miss Cugny, ar ei hymadawiad o'r dref, ar ol treulio 15 mlynedd yma. Gwnaeth bob peth i hyrwyddo pob achos da, yn enwedig ynglyn a'r Eglwys, ac nid oedd ei chyfeillion yn foddlawn iddi ymadael heb gyflwyno iddi rhyw arwydd bychan o'u parch tuag ati. Yn ganlynol casglwyd tanys- grifiadau, a nos Lun diweddaf cynhaliwyd cyfarfod yn yr Ysgoldy Genedlaethol dan lywyddiaeth y Parch. C. Griffith, M.A., curad, i gyflwyno y dysteb, sef pwrs yn cynwys £ 30. Cafwyd anerchiadau galluog gany cadeirydd, a Mr. D.E vans, auctioneer; a galwyd ar Mrs. Davies, Bryntirion, i gyflwyno y dysteb. Talwyd diolchgarwch i'r holl gyfeillion gan Miss Cugny dan deimladau dwys. Gwnaed y pwrs hardd gan Miss Howfield, High Street, ac yr oedd album destlus, yn cynwys enwau y tanysgrifiwyr wedi ei wneuthur gan Mr. B. R. S. Frost, cyhoeddwr y LLAN, boneddwr sydd yn cymeryd dyddordeb anghyffredin ymhob mudiad Eglwysig. Llwyddiant a ddilyno Miss Cugny yn ei chartref newydd. A ganlyn ydoedd yr anerchiad yn yr album, yr hwn a ddarllenwyd gan y cadeirydd" Dear Miss Cugny, We, the undersigned, your fellow-workers in the Sunday School, associates, friends, and former pupils, are unwilling that you should go out of our midst without allowing us to testify, however un- worthily, to the deep and lasting esteem in which we hold the work you have done, the widespread in- fluence which you have exercised, and the sterling character of your life and intercourse during a residence of 15 years in this town. We believe that your efforts will live, and bear fruit, long after you have withdrawn from the scene of them, and we hope that you may be spared to continue, under changed conditions, the labours of love which you have been so long privileged to enjoy. We beg your accept- ance of the accompanying purse of £ 30.
ABERDYFI.
ABERDYFI. Nos Fawrth, yr 22ain cynfisol, cynaliwyd vestry meeting yn y dref uchod i ystyried y priodoldeb o apelio at yr Yagrifenydd Cartrefol er cael awdur- dod i ffurfio Bwrdd Claddu. Yn absenoldeb y ficer llywyddwyd gan y Parch. J. Griffith, rheithor Merthyr Tydfil. Yr oedd nifer lied dda o'r treth- dalwyr yn bresenol. Cryn anghydwelediad a fodolau yn eu plith am mai ecclesiastical parish ydyw.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasaua, Marwolaetliau. GENEDIGAETHAU Matthews-Medi 23, yn Highgate, Gwrecsam, priod Mr John Matthews, ar ferch. Owens-Medi 23, priod Mr Thomas Henry Owens, 6, Lower Llaidwen-terrace, Llanberis, ar ferch. Roberts-Medi 26, priod Mr. E. Roberts, Engine Driver, Corwen, ar ferch. Thomas-Medi 25, priod Mr. D. Thomas, Brynhyfryd, Corwen, ar ferch. Williams-Medi 14, priod Mr. Rees Williams, Brook Street, Corwen, ar ferch. Williams-Medi 22, priod Mr G. Williams, goruch- wyliwr N. & S. Wales Bank, Llangollen, ar ferch. PRIODASAU. Owens-Pritchard-Medi 24, yn Eglwys St. Mair, Bootle, Lerpwl, gan y Parch. W. E Neep, curad, Mr David Owens, & Mary Pritchard-y ddau o Bootle, Lerpwl. Seymour-Swire-Medi 18, yn Eglwys y plwyf, Pem- brey, gan y Parch H. Evans, yn cael ei gynorth- wyo gan y Parch S. Davies, Mr Robert S. Seymour, New Lodge Brick Works, a, Miriam, trydedd ferch Mr. J. Swire, Rock House, Pembrey. MARWOLAETHAU. Davies-Medi 19, yn 11 mis oed, Myfanwy Davies, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Davies, High Street, Port- madoc, gynt o Gorwen. Lloyd—Medi23, Johnny, mab¡Mr W. Lloyd, asiedydd, High Street, Tremadoc. Morgans-Medi 22, yn 8, Charlotte Street, Llanboris, yn fis oed, Gladis, plentyn Mr Morgan. Parry-Medi 22, Miss Mary Parry, merch hynaf Mr John Wm. Parry, Brynteg, Llanberis, yn 21 mlwydd oed. Roberts-Medi 23, yn 230, Westminster-road, Lerpwl, yn 17 mlwydd oed, William Best Roberts, trydydd fab y diweddar Mr William Best Roberts. Rowlands-Medi 27, yn 34 mlwydd oed, Mr Hugh Rowlands, William Street, Caernarfon. 0 Williams—Medi 21, yn 55 mlwydd oed, Elizabeth, priod Mr. John Williams, saer maen, 7, Ricomond Terrace, Caerfyrddin.
TREHERBERT.
TREHERBERT. Y DDWY EFENGYLEs.-Bydd darllenwyr y LLAN yn synu ac yn rhyfeddu i glywed fod un o'r ddwy efengyles wedi priodi dydd Iau diweddaf, yn Eben- ezer, Tynewydd, Treherbert. Mae llawer iawn o son a siaràd wedi bod am danynt ar hyd alled y wlad o Gaerdydd i Caergybi; ac yn wir, mae rhyw allu anarferol ganddynt i dynu cynulleidfaoedd ar eu hoi ac i ddylanwadu arnynt ar ol dyfod ynghyd. Mae rhai yn credu fod rhyw electricity yn y rhyw fenyw- aidd i dynu cynulleidfaoedd, a chyfaddefaf fod ych- ydig wirionedd yn y ffaith yna. Yr ydym yn clywed am ferched eraill yn pregethu heblaw Miss Davies a Miss Phillips o Treherbert. Ond nid oes ganddynt yr un dylanwad a hwy, ac nid ydynt ychwaith yn gadael yr un effaith ar y cynulleidfaoedd. Felly fydda i yn meddwl fod rhyw rinweddau da yn sicr o fod yn perthyn i'r ddwy ferch hyn, ac mai nid feminine electricity fel y myn rhai ddweyd oedd yn creu yr holl gynwrf. Er dydd Iau, Medi 25ain, mae Miss Phillips yn wraig i un o'r enw Mr. Lloyd; clerc ydyw yn un o'r colliery offices yn Ferndale. Yr oedd Miss Phillips heb son am ei gallu pregethwrol, yn ferch o gymeriad disglaer a dianaf, ac yn anrhydedd i'r gymydogaeth lle'i magwyd. Yr oedd Mynyddog yn dweyd am ryw ferch ieuanc rywbeth tebyg i hyn:— I saw a fine young lady parading in the fair, Her dressing with perfection of cleanliness and care, But on the following morning I gave the lass a call To see her house and kitchen, it was not nice at all. Ac yn wir, mae llawer o wirionedd yn yr hyn a ddy- wedodd; mae llawer o ferched ydyddiau presenol yn ladies ar yr heol ac yn y flair, ond beth am eu lliw a'u llun yn y gegin gartref. Gwarchod ni, gofalwch am danoch eich hunain, fechgyn. 'Dyw Mari ni ddim yn ddrwg iawn pe byddai yn golchi ei hwyneb yn y boreu, a chloncian llai a Mrs. Jones drws nesaf yn y prydnawn. Y peth oeddwn am ddweyd oedd hyn, mai nid un o'r cymeriadau hyn oedd Miss Phillips, Blaenrhondda; na, nid yn unig yr oedd yn lady oddicartref ond yr oedd yn lady gartref hefyd. Un diwrnod galwais i'w gweled, ac er i mi ei dal, fel y byddant yn dweyd yn sir Aber- teifi, yn nghanol ei gwaith, yr oedd yn ddarlun o'r hyn a ddylai merch a gwraig fod. Fy nymuniad yw iddi fod yn gysur a hyfrydwch i'w gwr ac yn fendith i'r ardal lie y byddant yn byw. Llawer o ym- ddadleu sydd wedi bod mewn perthynas i ryddid merched a gwragedd i siarad yn gyhoeddus nid ydwyf yn alluog i benderfynu y cwestiwn mewn perthynas i ferched, ond cyn belled ag yr ydwyf yn deall, nid yw yn ysgrythyrol na gweddaidd i wragedd i siarad yn gyhoeddus. Dysged gwraig, meddai St. Paul, mewn distawrwyddd gyda phob gostyngeidd- rwydd, ac nid ydyw yn cenhadu i wraig athraw- iaethu ac mewn man arall mae yn ewyllysio i wraig warchod y ty. Felly yr ydym yn deall mai dyledswydd gwraig yw gofalu am ei thy gartref. Os felly, cymered y pregethwyr hyny ag oeddynt mewn perygl o golli eu cyhoeddiadau trwy ddylanwad Miss Phillips gysur; mae hi heddyw yn treulio ei honey- moon, a phan y gwnaiff ddychwelyd mae yn lied debyg o wneyd yn ol cyngor yr Apostol.-Un o'r ardal.