Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
At gael Eglwys newydd yn Nghriccieth, y mae 1,500p. wedi eu casglu. Yn Newburgh, New York, y mae gan ddyn 200 o wahanol afalau wedi eu himpio wrth un goeden. Dirwywyd bachgen o'r enw Bray, yn byw yn Ossett, i lOp a'r costau am gymysgu dwfr a llefritli, a'i werthu. Talwyd yr arian gan feistr y bachgen. Tra yn aros mewn gwesty yn Glasgow darfu i Germaniad o'r enw Bartholomew Kellner, saethu ei hun yn fwriadol, a bu farw yn yr ysbyty mewn canlyniad. Dydd Gwener diweddaf dinystriwyd tua 35 tunell o eirin yn Birmingham oherwydd eu bod yn anghymwys i'w bwyta. Yr oeddynt yn werth rhwng 400p. a 500p. Dywed y Lieutenant Greely,yr hwn sydd newydd ddychwelyd o'i ymgyrch anffortunus i'r pegwn gogloddol, fodyn agos i'r pegwn dir glas ffrwyth- lawn, cant a haner o filldiroedd o hyd. Aiff eiddo y diweddar Arglwydd Petre(200,000p.) i'r offeiriad Pabyddol, Arglwydd Petre, y mab hynaf, a defnyddir yr arian i ledaenu egwyddorion Pabyddiaeth. Dathlwyd sefydliad Gweriniaeth Ffrainc y flwyddyn hon a llai o r tvysgnag arferol. Diau fod hyn yn arddangos fod newydd-deb Gweriniaeth yn gwisgo ymaith yn mhlith y Ffrancod, fel pob newydd-deb arall. Ar ol myned allan o dloty Lerpwl darfu i ddynes o'r enw Norrington, gymeryd ei baban a'i roddi ar domen yn Birkenhead, lie y bu farw. Mae'r ddynes yn awr mewn dalfa ar y cyhuddiad o laddiad gwirfoddol. PENODIADAU EGLWYSIG.—Mae plwyfolion Llan- gynllo, ger Llandyssil, wedi ethol y Parch. E. Jones, M.A., diweddar o Llangatwg, Sir Frych- einiog, i fywoliaeth y lie hwnw. Gwerth y fyw- oliaeth yw T220p y flwyddyn, ynghyd a. thy. Dydd Gwener, y 12fed cyfisol, cynhaliwyd ar- ddangosfa amaethyddol Meirion yn Harlech o dan amgylchiadau ffafriol iawn. Cafwyd hin dda a hafaidd, yr hyn yn ddiau a fa yn foddion i atdynu Iluoedd o ymwelwyr o'r siroedd cyfa.gos. Yr oedd y maes yn llawn o ymwelwyr o bob gradd o gym- deithas. Mae Cymdeithas Amaethyddol Meir- ionydd wedi ei sefydlu bellach er's 17 mlynedd. Rheol dda, ac un y gellid ei mabwysiadu gan gymdeithasau eraill gyda mantais, ydyw yr un sydd yn rhanu y gwobrwyon yn y ddau ddosbarth. Ymgystadleua y tirfeddianwyr a'r cyfoethogion yn y naill, a'r amaethwyr yn y llall. Trwy hyn y mae y g\vyn rms gall yr amaethwyr gystadlu a'r cyfoethogion yn cael ei osgoi. Nodweddid yr ar- ddangosfa hon gan y cydgasgliad rhagorol oedd yno o anifeiliaid Cymreig. Yr oedd yno arddang- osiad da o geffylau a defaid hefyd.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. MEWN LLAW.-Y Croeshoefiad Eryr Ffraw; Llwydfor.
LLANOFER.
LLANOFER. Ton Hen wlad fy nhadau," Llanofer! Llanofer wyt uchel dy fri, Hardd gwch ein, Gwenynen "—paradwys wyt ti, O'th amgylch mae blodau amryliw a heirdd A swynant ofyddion a beirdd. Clod, clod, bythol bydd dy glod; Gwenynen Gwent" a gaiff fawrhad, Tra Cymro, a Chymru yn wlad. Dedwyddwch a llwyddiant cynyddol fo rhan Ein hanwyl "Wenynen j" tra dyffryn a ban, Tra'r Wysg yn risialaidd yn treiglo i'r mor Boed coffa am hon gan bob cor. Clod, Clod, &c. Angbofied pob Cymro cerdd dafod a thant, Na threigled y dyfroedd yn afon na nant, A chuddier a. mantell fflamfydoedd y nen, Os anghof aiff enw ein Gwen." Clod, clod, &c. Heolfach. T. H. WILLIAMS.
HEDDWCH CYMMYDOGAWL.
HEDDWCH CYMMYDOGAWL. Beth yw Heddwch Cymmydogawl?" Terfyn malais, Hid a brad,— Calon brawd at frawd yn wresog,— Ffyniant cariad trwy'r holl wlad: Rhwymyn euraidd cariad ydyw, Hoff dawelwch dan bob broii,- r, Perl dysgleiriaf pob cym'dogaeth Welir ar y ddaear hon. Beth yw "Heddwch Cymmydogawl?"— Gem yng nghoron pob rhyw le,— Tarfiad ymaith dwyll a rhagrith,— Hardd gyflawniad deddfau'r ne',— Cadwen aur yn rhwymo mynwes Pob cymmydog at y Ilall,- Twymlif tpimlad trwy'r gym'dogaeth Gwir frawdgarwch heb un gwall. Beth yw "Heddwch Cymmydogawl?"— Ffrwyn ar holl dafodau'r fro,— Undeb perffaith a chydgordiad,— Gormes hell a thrais dan glo,— Cydymdeimlad a hawddgarwch,— Siriol wenau ar bob gwedd,- Tangiief yn ei gwisg arianaf,- Dyma yw Cym'dogawl Hedd." Beth yw Heddwch Cymmydogawl ?"- Pawb yn un a neb yn groes,— Difrod enllib a chenfigen,- Cymmeriadau pawb heb loes. Heddwch taena'th fantell drosom, 1YIyn deyrnasu ym mhob gwlad, Amddiffyna hawliau'th goron, Nes ein dwyn i dref ein Tad. Heolfach. T. H. WILLIAMS.
ENGLYNION
ENGLYNION Ar Lleied itjir clyn a'i- goreu iddo gredu." [BUDDUGOL]. Andwyol a hudol adyn—yw'r dyn, Na \Î'yr dasg, na therfyn Ei fywyd ef ;—wedi hyn Llai yw honiad y llinyn. Gall fod myfyr-gell o fawl-i roesaw Gwyr iesin ysbrydawl; Nawdd eres hedd urdda'r sawl Weinyddodd yn rhinweddawl. Os amheu wneir ymresymiad—y Beibl, Heb un gwell esboniad Go ffol yw'r fath gaffaeliad, Curo ei hun heb sicrhad. Os nad oes cysoniad hawl—i'n deffro O'r dyffryn daearawl, Na hedyn byw eneidiawl, Byddem mwy heb haeddu mawl. Ond beth os braw ar bawb bydd-i edrych Ar odreu mawr Dofydd, Yn rhifo ffrwyth ein crefydd, Pa fron ddeil dymp y farn ddydd! Gan na wyddom ddeddf gweinyddiad-un drem Tu draw i'n gweleiad; Y goreu y w o gariad, Byw i hawl myg y Beibl mâd. j Wrth synied ffrwyth oes enwog-gwrol yw Asgre Ian ddieuog; lach yw'r lies pe na cheir ll6g, Ni achwyna'r perchenog. Onid doethach iawn deithio—a'n bryd ar Lwybrau Duw i'w foddio; Da, ddyg lwys a dedwydd glo, I greadur iawn gredo. Merthyr. JOHN GARNON.
[No title]
Dirwywyd Syr Richard Mansell, Barwnig, yn Maidenhead, yr wythnos ddiweddaf, i lip. a'r costau, am beidio cano goleu ar ei bleser-long. Cafodd dau o heddgeidwaid Lerpwl eu troi o'u swydd yr wythnos ddiweddaf am ddyfod a cham- gyhuddiad o feddwdod yn erbyn dyn a dynes o'r dref hono. HUNANLADDIAD PENDERFYNOL.—Darfu i Mr. Basley, marsiandwr o Lundain, yr hwn oedd ar ymweliad a Ilfracombe, gyflawni hunan-laddiad dcjydd Gwener, ckwy saethu ei hun tra mewn cwch ar y mor. AREITHIWR NEWYDD AR DDIRWEST.-Adroddir fod Undeb Dirwestol Kent yn gwneyd trefniadau gyda'r Hawlydd Tichborne, ar ei ryddhad o'r car- char, i deithio oddiamgylch i ddarlithio o blaid OY IINv?ryn-iwrthodiad, gan atelu ei sylwadau a'i hanes ei hunan yn ystod ei garchariad maith. Syrtliiodd gweithiwr o'r enw William Roberts, mewn cariad ag un Miss Jenny Tracy, merch amaethwr yn Oxford, N.Y., ac am na phriodai hi ef, saethodd hi drwy ei phen. Cymerwyd Roberts i'r carchar; ac yr oedd y bobl yn gwaeddi yn uchel am ei lynchio. Y mae y Swyddfa Rhyfel wedi penderfynu anfon 3000 o filwyr yn ychwanegol at y byddinoedd sydd yn yr Aipht cisoes. Cludir yr adgyfnerthion hyn gan dair o agerlongau ysplenydd, y rhai sydd newydd gael eu breintebu i'r pwrpas hwnw gan y Llywodr- aeth, a byddant yn gymwys i gario 10,000 o dunelli. Bwriada Syr Stafford Northcote ymweled a Llynlleifiad ar y 15fed o Hydref, sef y diwrnod blaenorol i'r arddangosiad mawr a fwriada y Ceidwadwyr wneuthur yno o blaid ymddygiad Ty yr Arglwyddi, ac yn erbyn y Weinyddiaeth gyda golwg ar Fesur Helaethiad yr Etholfraint, &e.
--------LLITH O'R BWTHYN GWLEDIG.
LLITH O'R BWTHYN GWLEDIG. A wyddoch chwi ba le y bu Hen Domos, dir help, yr wythnos ddiweddaf ? Na wyddwch, mi wn, oherwydd pwy sydd yn gwneyd sylw o ddyn fyddo yn trafaelu yn ei glos Wel, bum yn Nghaerfyrddin yn gwrando ar yr etholedigion yn llefaru yn nghylch y drysorfa sydd yn awr yn cael ei chasglu yn esgob- aeth Tyddewi tuag at fywiolaethau tlodion. Y mae yr amcan yn un teilwng dros ben. Bwriedir casglu digon i wneyd gwaddoliad pob plwyf lie byddo offeiriad trigianol yn ddim llai na £ 200 y flwyddyn. Y mae gwir angen am hyn, canys nid oes dim fel tlodi i dori calon dyn. Gwyr Hen Domos am dano trwy brofiad, ac y mae yn gallu cydymdeimlo ag offeiriad tlawd. Ymgysurwch chwi, barchedigion anwyl. Y mae gobaith am dal yn adgyfodiad y .y cyfiawn os na chewch chwi ddim o drysorfa yr esgobaeth cyn hyny. Rhyw starvation alloivance y mae llawer o honoch wedi ei gael hyd yn hyn, ond peidiwch gwangaloni yn eich hen ddyddiau, oblegid fel y dywedodd yr hen bregethwr hwnw gynt, y mae ceiliogod y mil blynyddoedd yn dechreu canu." Yr hyn fydd yn ddinystr i lwyddiant y gwaith da a ddechreuwyd fydd, os dim, y round about way tuag at ddrws y drysorfa. Os y gwneir rhyw gant neu fil o reolau a thelerau, ac os yr ystyrir y rhai hyny yn fwy pwysig na'r deg gorchymyn, fel y gwneir gan frodyr y Bounty Board a'r Commissioners, dyna y gwaith da i gyd yn ofer. Nid yr un yw amgylch- iadau pob plwyf, ac o ganlyniad y mae yn annheg gosod yr un rheolau i bawb. Dyma y felldith sydd yngiyn a'r Commissioners a'r Quean Anne's Bounty. Dylem ni gael y rheolau a'r telerau cyn dechreu casglu ac yr wyf fi yn cydfyn'd a, syniad Mr. Tre- gonning mai yn llaw y lleygwyr yn benaf y dylai y gorchwyl o ddosparthu yr arian fod. Da genyf wel'd fod yr Esgob yn blaenori y lluaws gyda £ 500 fel rhodd, a 22100 y flwyddyn ar ol hyny. Rhydd Lady Hamilton £ 100, Mr. R. Goring Thomas £ 50 yn flynyddol, Canon Williams £ 50, a £ 10 yn flvnyddol, Mr. D. Evans, Clynderwen, £100, a £ 10 yn flynyddol, &c., &c. Yr Esgob, fel y gwelir, yw y rhoddwr goreu, a dylai llawer boneddwr arall roddi cymaint ag ef. Ond y mae rhai cybyddion rhonc-yn graig o aur—yn yr esgobaeth na welir cilhenwau ar un- rhyw list byth: ac y mae gwir angen i'r Esgob a'r Archddiaconiaid siarad i gciriau plaen wrth y rhai hyn. Y mae rhwd yr aur, allwn i feddwl, ar eu heneidiau, ac y maent mewn cyflwr truenus iawn. Os na wrandawant ar Moses a'r prophwydi" rhyngddynt hwy a'u tynged. Y mae Hen Domos, dir help, yn foddlon rhoddi ei hatling ac yn dymuno yn dda i'r symudiad o'i galon, ond nid yw heb ei ofnau a'i amheuon. Arwydd wael oedd fod y siaradwyr i gyd yn Nghaerfyrddin o'r dosbarth etholedig. Nid gwiw ceisio celu y ffaith fod offeiriaid yr esgobaeth hon yn ymranu i ddau ddosbarth. Gwelir hyn ymhob etholiad a phob cyfarfod. Annoethineb mawr oedd cau un dosbarth (a'r un mwyaf eang ei ddylanwad hefyd) allan o blith y siaradwyr wrth gychwyn. Y mae y drysorfa hon yn perthyn i'r holl esgobaeth, ond os y deallir ei bod i fyned i ddwylaw rhyw ych- ydig, bydd ei thynged wedi ei setlo. Nid yw Hen Domos yn caru un dosbarth yn fwy na'r Hall, ond y mae am wel'd undeb a chwareu teg yn bodoli, er mwyn llwyddiant yr achos mewn llaw. Cewch chwi air eto ar y pwric hwn heb fod yn hir. Wel, dyma hi wedi myn'd. Ychydig amser yn ol yr oedd Tom Pudler yn diolch i Gladstone am dywydd teg. Beth sydd ar;y bachgen ? Gwared fi Beth ddaw o'r byd yma! Tom bach, anwyl! HEN DOMOS.
Advertising
CHARLES' ELECTRIC CORN & WART CURE. CORN & WART CURE., A New and Painless Cure for Oornts aud Warts it con- tains no mineral acids, caustic, or anything injurious; | it has the advantage over similar preparations in being j quite painless. Success is certain. Beware of Imita- I tions. Prepared only by I R, E. CHARLES, Chemist, BRECON. In Bottles, 9d, and 13 Jd. each. Please read Testimonials Brecon, March 15, 1884. Sir,—Your preparation for corns has completely re- moved two'corns which troubled me for 20 years. I can confidently recommend it.—Yours, &c., JOSEPH JOSEPH. Sent by Post, foi- lid or 1.5d in stamps. 49, Reporton road, Walham Green, London, Feb. 8th, 1884. Sir,—Will you kindly send me a Is ld bottle of your Corn Eradicator per return, for which I enclose postal order and stamps. I had some given me by a friend some time ago, and I find it invaluable. Can you also le me know where I can procure it in London; 1 have tried several places, but without success.—1 am, Sir, your obedient servant, JAS. ELLIOTT. Mr. Charles, Chemist, High St., Brecon. Sent by Post for lid or 15d in stamps. Workhouse, Brecon, March 22.. Sir,—I have much pleasure in conveying to you my testimony of the high value of your Corn Solvent, which I have every reason to believe possesses qualities and advantages far superior to other preparations now so largely in use. It is cheap, simple, and easy of application.—Yours truly, H. N. KETTLE, Master. Sent by Post for lid or 15d in stamps, 19, Clifton Crescent, Birkenhead, 11th March, 1882. Dear sir,—I have great pleasure in testifying to the good qualities contained in your world-renowned Electric Corn and Wart Cure. I can hardly express to you my feeling of relief after having applied this wonderful invention to my corn a few times: in fact, it is beyond description. Before purchasing a bottle I used to pick my way carefully, avoiding all stones, &c., but now I am not afraid of tramping over the roughest macadamized road in the district. I shall recommend it to all my friends.—I remain, dear sir, yours faith- fully, B. EVANS. Sent by Postfo)- lid or 15d in stamps. Crickhowell, March 29, 1882. Dear fiir,-Please send to-morrow one dozen Corn Cure. I hear very flattering accounts of its efficacy.- Yours truly, J. J. EDWARDS, chemist- Sent by Post for lid or 15d in stamps. Cwmclyn, Libanus, ger Aberhonddu. Anwyl syr,—Dymunaf eich hysbysu fy mod wedi rhoddi prawf o'ch darpariaeth, a chael ynddo waredig- aeth gyflawn oddiwrth gyrn.—Yr eiddoch yn gywir, PRIcn JONES- Sent by Post for lid or 15d in stamps. Mr es, Chemist, Swanat>a, writes to say, your Corn Cure gives general satisfaction." 11, Great Oxford Street, Mount Pleasant, Liverpool, April 19, 1884. Mr. R. E. Charles,—Dear SÚ, I have much pleasure in testifying to the efficacy of your CORN CUllE. Upon the first application its effect was almost magical, and one bottle entirely cured my corns, after I had tried other preparations without succoss. Several friends for whom I have procured bottles of your preparation have assured me of the very great xnd lasting benefit they have derived from its use. I bolieve it to be the very best cure for corns of any now before the public, and am confident that its invaluable qualities v; ill ensure it a large and increasing sale.—Yours faithfully, ALHI. H. HANSON STILES. Sent by Post for lid or 15cl in stamlis. 28, Watton, Brecon, May 12, 1882. Dear Sir,—With deep gratis ade and unspeakable confidence I can testify to the healing qualities of your COHN CUEE, one bottle of which sufficed to relieve me of years of perpetual pain from lourbac1 corns.—Yours truly, W. M. BHIEN. Sent by Post jor lid or 15(1 in stamps- 48, High Street, May 16, 1882. Dear Sir,—Having for many years suffered from corns, I was induced to try your ELECTIUC COltN CURE. After a few applications it removed my corns without the slightest pain.—Yours, REES JONES. Wellington Place, Brecon, July 5th, 1883. Mr. Charles,—Dear Sir,—It ia my pleasing duty to inform you that your valuable Corn Preparation suc- ceeded in removing my never-to-be-forgotten corn, after all other known remedies had boen tried in vain. Such a remedy as yours ought to be made widely known, as sufferers from coins can be counted by tens of thous- ands. You may make what use you like of this, as I am very grateful that your remedy relieved me of such fearful agony—Believe me, sir, to remain yours sin- cerely, RICHARD G. FKYER. Sent by Post for lld or 15d in stamps- The Grove, Bishop Auckland, Near Durham, Aug. 3, 1883, Dear Sir,—After having tried many so-called cures, I obtained, through a friend, a bottle of your Corn Cure, and after the first dressing gave me such relief as to be able to walk with ease and comfort as I had not done before for years.—P.S. You may make use of this slight recognition as you think fit.-Yours very truly, CHARLES HOKTON. Mr. R. E. Charles, Sent by Post for lId or 15d in stamps. Hay, November 19, 1883. Please to send me as soon as possible 3 doz. Corn and Wart Cure.—T. STOKOE, Chemist. Please send 2 doz. Corn Cure (small size), per Parcels' Post. -GWILYM EVANS, Chemist, Llarielly. London Agents: Barclay, 95, Eamngdon Street. [67 LLYSIAU YDYNT Y MEDDYGINIAETHAU NATURIOL GOREU TUAG AT WELLA POB MATH 0 AFIECHYD Y MHLITH YR HIL DDYNOL. DIODYDD LLYSIEUOL ANFEDDWOL TRIMNELL, ADDAS I HAF A GAUAF. CANMOLIR y diodydd hyn yn fawr gaD swyddogion Cymdeithasau y Temlwyr Da a Byddin y Ruban Glas, ar gyfrif eu rhinwedd uwchlaw pob diod arall tuag at buro a chryfhau y cyfansoddiad a ddygwyd erioed gerbron y cyhoedd. Trwy ei ddefn- yddio, mae miloedd wedi eu gwaredu oddiwrth feddw- dod. 6c. y Sypyn; drwy y post, 8c. Cymeradwya ei hun. GWNA TIC ERADICATOR TRIMNELL, Welia mewn moment Ddanodd, Tic-Doloreux, Neural- gia, neu unrhyw boen arall yn y pen a'r gwyneb, drwy ei ddodi ar y rhanau poenus. Mae yn rhagorach nag eraill, am y gellir ei ddefnyddio yn allanol, tra y mae lliaws o'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn dufewnol yn cynwys sylweddau gwenwynig cryfion. D.S.—Ni wna unrhyw niwed i'r croen, na gadael marc ar ei ol. Is. lic. y botel. Y feddyginiaoth oreu tuag at wella anwyd yw COLD OR SWEATING POWDER TEIMNELL, Yr hwn a symuda bob arwyddion o'r cyfansoddiad. Ni ddylai neb fod hebddo, gan mai dyma y ddarpariaeth oreu a ddygwyd erioed o llaen y cyhoedd. Mae y cymysgedd hwn yn anmhrisiadwy ar ym- ddangosiad cyntaf Anwyd, Enyniad, Poenau yn yr Ystumog, Rhyddni y Coluddion, Crydcymalau, Cymal- wst, Poenau yn yr Aelodau, ymosodiadau Parlysol, Spasms a Cramp, ynghyd a. symnd unrhyw afiechyd yn tarddu o anwyd. Mae hefyd yn rhagorol fel amddi- ffynydd i bersonau pan yn myned allan i dywydd llaith, tarth, rhew, neu eira. Hefyd tuag at buro y gwaed oddiwrth bob anmhuredd, megis Coesau Drwg, Plor- ynau, Cryndod, &c., nis gellir rhagori arni. Is. le. a 2s. 9c. y sypyn drwy y Llythyrdy. COUGH BALSAM TRIMNELL. Nid oes dim wedi ei ddarnganfod a ddeil i'w gymharu a'r Balsam hwn. Mae ei weithrediad mor syrnl fel y gellir ei roddi gyda pherffaith ddiogelwch i'r plant ieuangaf, eto mae yn ddigon cryf i atal ymlediad yr achosion gwaethaf o anwyd, pa un bynag ai pesweh croup, pas, pneumonia, pleurisy, asthma, bronchitis anhawsder i anadlu, neu yr afiechyd ofnadwy hwnw, y darfodigaeth, yr £ hwn sydd yn achosi marwolaeth cy- nifer o filoedd yn flynyddol. Is. lie. a.2s. 6c. y sypyn dnoy y Llythyrdy. EMBROCATION BYDENWOG TRIMNELL Tuag at wella cryd-cymalau, rheumatic gout, lumbago, poen yn yr aelodau, anyswythder yn yr aelodau a'r gwar, llosg eira, ymosodiadau parlysol, sigiadau, toriad- au, spasms, cramp, quinsey, a dolur gwddf. Sicrheir mai dyma y moddion goreu i wella yr anhwylderau uchod ar ddyn neu anifail. Is. ljc. a 2s. 9c. NERVINE TONIC TRIMNELL, Wedi ei gyfaddasu i'r ddau ryw. Gwellha bob math o anhwylder gieuol o unrhyw natur. A ganlyn ydynt ychydig o arwyddion yr anhwylder hwn ;-Isclder ysbryd, diffyg awydd i ymegnio, anaddasder i efrydu, casineb i gymdeithasu, a gwneyd unrhyw waith, gwrido anwirfoddol, y golygon yn gymylog, gwreichion o fiaen y llygaid, byddardod a swn yn y clustiau, teimlad o dyndra neu fygiad. hunan amheuaeth parhaus, poenau yn y lwynau a theimlad o flinder, enyniad yr afu a'r ys- wigen, cryniad y galon, cryndod sydyn, yswilaod eithafol, hoff o unigrwydd, diofal am fywyd, ei lawen- ydd, ei bleserau, a'i ddyledswyddau, anghysondeb y coluddion, teimlad o annheiiyngdod, diffyg cof, an- mhariad galluoedd meddyliol, aliony del well eithafol, gvvyntogiad a diffyg treuiiad, cur yn y pen, digalondid dirgel yn codi oddiar weiiclid corphorol, ofni gwallgof- rwydd, rhagolygon presenol brwnt, dim gobaith am y dyfodol, dychrynu wrth gysgu, edrych a theimlo yn glafychus heb unrhyw achos am hyny. Gwna un neu ddau o sypynau o'r NERVINE TONIC wella achosion ysgafn o'r anhwylder uchod. Lie y mae y dioddefydd wedi ei esgeuluso, neu heb ei drin yn briodol gan y meddyg, cymer ychwaneg o amser. Is. lie. a,,2s. 9c. y sypyn. PELENAU LLYSIEUOL TRIMNELL.. D YMA feddyginiaeth rhagorol at wella. pob math o anhwylderau yn y coluddion a'r afu,. ymosodiadau clefydon, influenza, diffyg archwaeth, diffyg treuliad, golygon gwan, poen ac ysgafnder yn y pen, a phob math o afiechyd cysylltiedig a'r ystumog. a'r coluddion. Mae rhif 1 a 2 yn addas i'r ddau ryw. Is. lie. a 2s. 9c. y bly eh aid. Gellir cael Antibilious Pills ynghyd a. rhai llysieuol a rhyddhaol am geiniog y blychaid. Dymuna W. TUIMNELL ddwyn i sylw y cyhoedd y m gyffrediiiol y ffaith fod ganddo yr ystoc helaethaf o Lysiau Seisnig a Thramor, Gwreiddiau, Rhisgl, Blodau Hadau, Dail, &c., yn Neheudir Cymru. Mae un prawf yn ddigon i brofi effeithiolrwydd y meddyginiaethau uchod, y rhai ellir gael gan Fferyllwyr a Gwerthwyr Meddyginiaethau drwy y byd. Os teimlir unrhyw anhawsder i'w cael, anfonir hwy ar dderbyniad, Post Office Order neu stamps gan y Perchenog. An. fonir gwerth 2s. 9c. yn rhydd i unrhyw ran o'r Deyrnae, Gyfunol. Ceir cyfarwyddiadau Hawn gyda phob sypyn. D.S.-Gofaler am fod enw y perchenog ar Stamp y Llywodraeth.—W. TRIMNELL. G wneuthurwr a Pherchenog, W. TRIMNELL, MEDICAL BOTANIST, MOIRA TERRACE, CARDIFF. 58 Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan FAREANT a FROST yn eu SA-y ddfa ArgrafEa, 135 High-street, Merthyr- Tydfil, Medi 26, 1884