Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
TAN DINYSTRIOL YN SYRIA.
Boreu dydd I ait. TAN DINYSTRIOL YN SYRIA. Torodd tan allan yn Zeitom, Syria, ddoe, drwy yr hwn y dinystriwyd y bazaar, a 400 o dai.
DAM WAIN ANGEUOL I AELOD SENEDDOL-
DAM WAIN ANGEUOL I AELOD SENEDDOL- Tra yn hela ddoe, syrthiodd yr Anrhyd- eddus Gilbert Leigh, A.S., dros ddibyn serth yn Wyoming, a lladdwyd ef yn y fan. ZD
COLLEDION MAWRION YN BUENOS…
COLLEDION MAWRION YN BUENOS AYRES. Gwnaed dinystr ofnadwy yn Boca, Buenos Ayres, ddoe gan lif-ddyfroedd, gan i ugeiniau o lestri gael eu suddo. Nid yw y manylion wedi cyraedd, ond mae lie i ofni fod y colledion yn arswydus.
[No title]
Y CHOLERA YN NAPLES. Rhifai y marwolaethau yn Naples ddoe drwy y cholera 126.
Y FRENHINES A'R CADFRIDOG…
Y FRENHINES A'R CADFRIDOG BAKER. Mae ei Mawrhydi y Frenhines wedi am- lygu na bydd iddi gydsynio a chais y deiseb- wyr gyda golwg ar y Cadfridog Baker.
Y DIWEDDAR CANON POWELL JONES,…
Y DIWEDDAR CANON POWELL JONES, LLANTRISANT. Cynhaliwyd cyfarfod yn y neuadd drefol, Llantrisant, ddoe, i ystyried pa ffurf a rodd- id ar y gofadail i'r diweddar Canon Powell Jones. Y penderfyniad y daethpwyd iddo ydoedd adgyweirio clochdy yr Eglwys, a dymunwyd ar i'r ysgrifenyddion gasglu tan- ysgrifiadau tuag at yr amcan hwnw.
BYWOLIAETH PENBOYR.
BYWOLIAETH PENBOYR. Yr ydym yn deall fod y Parch. D. W. Thomas, ar daer erfyniad llawer o'i gyfeill- ion wedi penderfynu peidio ymadaef o St. Ann's am Penboyr, a dangoswyd llawenydd mawr gan ei blwyfolion o herwydd hyny, gan ei fod yn hynod gymeradwy yn eu plith, ac yn blaenori ymhob gweithred dda.
LLANLLWCH-HAIARN.
LLANLLWCH-HAIARN. Mae Esgob Llanelwy wedi penodi y Parch. R. E. Jones, M.A., cumd Gresford, ger Gwrecsam, i fyw- oliaeth bwysig Llanllwch-haiarn, ger y Drefnewydd. Mae Mr. Jones wedi bod yn hynod lwyddianus fol curad yn Pontblyddyn, Llanrhaiadr a Gresford, a gall ei blwyfolion newydd deimlo yn sicr eu bod yn cael periglor gwir deilwng. Gallaf ddweyd oddiar wybodaeth bersonol am dano yn Gresford ei fod wedi ilanw ei swydd gyd ag anrhydedd, ac ar ei ysgwyddau ef, bron yn holiol, y gorphwysai y dyledswyddau yn ystod blynyddau diweddaf y diweddar Archddiacon Wickham. Llwyddiant iddo yn oi le newydd.— Bhosddu.
PENTREFOELAS.
PENTREFOELAS. GWLEDP r'R YSGOLION SUL A DYDDJOU—Dydd Gwener, y 12fed cyfisol, trwy haelioni y Milwriad Wynne-Finch, anrhegwyd deiliaid yr ysgolion uchod a the a bara brith yn yr ysgoldy. Yr oedd y lie wedi ei addurno yn brydferth erbyn yr achlysur gan y Misses Jones, a Miss Dodd, Bronoglwys. Cyn eistedd wrth y byrddau, fiurfiwyd y gorymdaith drwy y pentref, yn cael eu blaenori gangor yr eglwys. Ar ol te, aethpwyd a'r plant i gae cyfagos lie y mwyn- hasant eu hunain mown gwahanol chwareuou. Yn yr hwyr, am 7 o'r gloch, cynhaliwyd cyngherdd yn yr ysgoldy, o dan arwoiniad y Parch. O. Jones, ficer. Cymerwyd rhan ynddo gan y Misses Jones, Bron- eglwys, cor yr Eglwys, ac eraill. Yr oedd y cynulliad o yn dra lluosog, a phawb i'w gweled yn cael eu llwyr foddloni ar y wledcl gerddorol. Cyn terfynu, talwyd diolchgarwch i'r Milwriad Wynne-Finch, Mr. R. Roberts, ac hefyd i'r boneddigesau am weini mor llawen ac ewyllysgar i'r plant yn ystod y dydd. Terfynwyd trwy ganu Duw gadwo'r Frenhines."
COFADAIL Y DIWEDDAR MR. DANIEL…
COFADAIL Y DIWEDDAR MR. DANIEL THOMAS. Mae Arglwydd Aberdar wedi datgan ei barodrwydd i ddadorchuddio y gofgolofn a gyfodwyd er cof am y diweddar Mr. Daniel Thomas, Dinas, yr hwn a ddangosodd y fath ddewrder ynglyn a gorlifiad gwaith Ty Newydd, &c., ar yr 2il o'r mis nesaf, yn nghladdfa Lledr Du, ger Dinas.
PERTHYNASAU LLOEGR A FFRAINC.
PERTHYNASAU LLOEGR A FFRAINC. Dywed ysgrifenydd un un o'r newyddiad- uron Ffrengigei fod mewn sefyllfa ihysbysu nad yw y teimladau rhwng Lloegr a Ffrainc yn gyfeillgar iawn, ac y gall ymrafael ddig- wydd rhyngddynt yn fuan, yr hyn a ar- weiniai i ryfel. Pa sail sydd ganddo ni ddywedir, ond hyderwn nad yw yr haeriad yn wirionedd.
METHDALIAD COLLEDFAWR YN NEW…
METHDALIAD COLLEDFAWR YN NEW YORK. Hysbysir am fethdaliad Mr. Thomas Fawcett, perchenog un o ariandai New York, a dywedir fod y swm y mae yn gyf- rifol am dano yn filiwn o ddoleri.
COSB DROM AM GYNGWYSTLO.
COSB DROM AM GYNGWYSTLO. Yn Ilys ynadon Sheffield ddoe dedfrydwyd Thomas Atherton, masnachwr, i dalu dirwy o P,20 ynghyd a'r costau am oddef i rai gyngwystlo yn ei fasnachdy.
YMLADDFA RHWNG RWSIAID A GERMANIAID.
YMLADDFA RHWNG RWSIAID A GERMANIAID. Digwyddodd ymrafael rhwng nifer o Rwsiaid a Germaniaid yn Rownoie, Saratow, ddoe, yr hyn a derfjnodd yn marwolaeth 11 o bersonau, heblaw 30 o glwyfedigion.
GWAREDU Y CADFRIDOG GORDON.
GWAREDU Y CADFRIDOG GORDON. Ymadawodd nifer fawr o filwyr Prydeinig o Portsmouth ddoe i fyned i'r Aipht. Mae y cyfanswm yn cyrhaedd tu phymtheg mil yn awr.
[No title]
Cyhoeddwyd yn Belgium yr haf hwn fod ar- chwiliadau Mr. Stanley yn Affrica wedi talu ffrwd o oleuni ar nifer poblogaeth y cyfandir tywyll hwnw a phrofir fod yno lawer mwy o bobl nag a dybid ychydig flynyddau yn ol; ond y mae yn anmhosibi cael allan y gwir nifer dan yr amgylch- iadau presenol, a'r un modd y gellid dweyd am wledydd tywyll eraill ar y belen ddaearol
------""" SYR STAFFORD NORTHCOTE…
SYR STAFFORD NORTHCOTE A'R ETHOLFRAINT. Mewn cyfarfod a oynhaliwyd yn Edinburgh nos Fercher, gwnaeth Syr Stafford N orthcote rai sylwadau ar Helaethiad yr Etholfraint, a dywed- odd ei fod ef yn credu fod mwy o siarad oier wedi bod arno na'r un pwiic arall. Ychydig amser yn ol, yr oedd wedi gweled adroddiad o araith a dra- ddodwyd yn Nghymru gan aelod anrliydeddus o Dy'r Cyffredin, yr hwn a ystyrir fel un o'r dynion mwyaf cymedrol ar yr ochr Ryddfrydig o'r Ty, sef Syr Hussey Vivian, ddarfod iddo ddweyd bod Mesur yr Etholfraint yn un ag y dylid gofyn a oedd cliwech a deugain o arglwyddi yn myned i reoli 35,000,000 o bobl (cliivei-tliiri). Wei, gan nad oedd ef(y siaradwr)yn un o'r arglwyddi a nodwyd, yr oedd yn perthyn i'r bobl, er ei fod ar yr am- gylchiad hwnw yn ymuno ychydig a'r arglwyddi. Nis gallai ef wybod beth yr oedd Syr Hussey Vivian wedi bod yn feddwl: ond fodd bynag, ni chyfarfyddai ef a'r fath syniadau ond yn anaml iawn. Dywedai fod y mesur dan sylw o bwys cenedlaethol. Yr oedd y ddwy-ochr yn gwahan- iaethu ar y pwnc, mae'n wir, ond yr oedd ef yn barod i ganiatau fod gan eu gwrthwynebwyr gystal hawl a hwythau i'w syniadau. Cwynai ef nad oedd yr oclir wrthwynebol yn cadw at y cwestiwn pa un a ddylai y ddau fesur fyned gyda'u gilydd a'i peidio ond dywedantnad ydym ni yn onest—irfai nid ein hamcan ydyw dyfod a phethau at eu gilydd, a pbasio y ddau fesur gyda'u gilydd—eithr gwneyd cais i ddinystrio Mesur yr Etholfraint yn gyfangwbl. Yr oedd pawb yn gwybod y dylai ad-drefniad yr eisteddle- oedd un ai bod yn gysylltiedig a chyfnewidiad yr etholfraint neu yn ganlyniad diatreg iddo. Gwelai fod hyd yn nod Mr. Gladstone ac Arglwydd Hart- ington eu hunain wedi addef na buasai helaethiad yr etholfraint yn deg nac yn foddhaus heb iddo gael ei ddilyn gan ad-drefniad yr eisteddleoedd. Paham, gan hyny, na ddeuant hwy a'r ddau fesur gyda'u gilydd ? Un rheswm sydd ganddynt dros hyny ydyw nad oedd amser i ymwneyd a'r ddau gyda'u gilydd-(" Oh ")-oherwydd, meddent hwy, nad oes yr un engraipht ar gael o fesur di- wygiadol cyflawn wedi ei basio mewn un tymor, ac y buasai yn profi yn rhwystr i lwyddiant un mesur; pe yr ymgymerid ag un arall ar yr un pryd. Dyna un o atebion y Llywodraeth a'u cefnogwyr, a dywedai ef mai ateb pur ddrwg ydoedd mewn perthynas i'r dyfodol (clywch). Pe buasent wedi dyfod i lawr i'r Senedd, a dweyd eu bod am neillduo eu holl amser at y mesurau hyn, buasent wedi eu pasio y tymor diweddaf, trwy adael pobpeth arall o'r neilldu.
COLEG GOGLEDD CYMRU.
COLEG GOGLEDD CYMRU. Aganlyn ydyw canlyniad yr arholiadau am ysgoloriaethau yn y Coleg uchod, y rhai a gyn- haliwyd yr wythnos cyn y diweddaf:- Dosbarth laf. Ysgoloriaeth o q50 yn flynydd- ol. Enillwyd tair allan o chwech, 1, Silas Morris (22 oed), coleg Pontypwl; 2, Edward Edwards (19), coleg y Methodistiaid Calfinaidd, Bala 3, D. C. Sydney Davies (21), coleg Aberystwyth. Dosbarth 2il Ysgoloriaethau o £ 30. Enillwyd saith allan o wyth, 1, John Thomas (26), coleg Pontypwl; 2, John Owen Jones (26), coleg y MethodistiaidjCalfinaidd, Bala; 3, Ellen Pierce(17), ysgol Eirianfa, Upper Bangor 4, Francis Paul Dodd (18), ysgol Tower Hall, Llangollen; 5, Stanley Wood (17), ysgol Lindon Grove, Alderley Edge, sir Gaer; 6, Maurice LI. Owen (16), ysgol Alun, Wyddgrug 7, J. R. Roberts (15), ysgol Ramadegol Rhiwabon. Dosbarth 3ydd Gwobrwyon o £ 10. Enillwyd tair ar hugain allan 0 clair ar ddeg ar liucain, 1, Ada Barber (15), Halifax High School; 2, John Davies (16) ysgol Ramadegol Llanrwst; 3, Louie Davies (18), coleg Aberystwyth 4, W. J. Davies (22), coleg Hyfforddiadol Caerfyrddin 5, Hugh Ellis (26), coleg y Bala; 6, Evan Evans (18), hunan efrydydd; 7, George Griffiths (18), ysgol y Friars, Bangor; 8, Helene Gschwind (33), hunan efrydydd; 9, Henry Morris (28), coleg PontypAil; 10, H. A. C. Heliyer (16), ysgol Ramadegol Llan- rwst; 11, W. H. Jenkins [(20), jcoleg ICaerdydd 12, R. O. Johns (19), coleg Pontypwl; 13, J. Owen Jones (24), hunan efrydydd; 14, Owen Jones (20), ysgol y Bwrdd, Glanypwll 15, Thomas Lewis (15), ysgol Alun, Wyddgrug 16, Isaac E. Owens (19), coleg Aberystwyth 17, T. S. Roberts (16), ysgol Ramadegol Llanrwst; 18, R. T. Rob- inson (16), ysgol Ramadegol Llanelwy; 19, Anna M. Rowlands, ysgol Dr. Williams, Dolgellau 20, J. C. Thomas (29), coleg Presbyteraidd Caer- fyrddin 21, R. E. Williams (22), coleg y Bedydd- wyr, Llangollen 22, Robert Williams (30), coleg y Bala; 23, T. Williams (22) coleg Caerdydd. Dengys yr enwau fel ag y maent wedi eu cyfleu yn nosbarthiadau 1 a 2, safie yr ymgeiswyr budd- ugolj am yr ysgoloriaethau. Cyfleir yr enwau yn nosbarth 3 yn ol y wyddor. Mae yr iysgolor a'r gwobrwyedigion hyn wedi eu hysbysu na all neb gael derbyniad i'r coleg fyddo islaw 16eg oed, sef J. R. Roberts, ysgolor; Ada Barber, Thomas Lewis, a T. S. Roberts, gwobrwyedigion. Mae yr ysgoloriaethau a'r gwobrwyon i barhau am dair blynedd, ond y mae eu parhad am yr ail a'r drydedd flwyddyn yn amodol ar fod y dalwyr yn cadw safle foddhaol yn arholiadau'r coleg.
CEMMAES.
CEMMAES. Dydd Iau, Hydref laf, yw y dydd penodedig i ni i gynal ein cyfarfod blynyddol o ddiolchgarwch am y cynhauaf. Agorir y cyfarfod y noson flaenorol, pryd y pregethir gan y Parchedig T. Lloyd Williams, organising secretary of the S. P. G. for Wales, o Wreesam. Dranoeth pregethir eto gan Mr. Wil- liams, a'r Parch. Evan Davies, Llanllyfni. Y mae parotoad mawr wedi ei wneycl i'r achlysur, ac yr ydym yn gobeithio y cawn gyfarfod llwyddianus fel arferol. Dymunem hysbysu y cenir yr anthem "Cenweh i'r Arglwydd gan newydd" gan Eos Llechyd a'r Te Deum ar ol y gwasanaeth hwyr- ol.
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA.
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA. Dywed gohebydd y Times, o Foochow, fod proclamasiwn wedi ei osod i fyny, yn cynyg 30,000 taels am lestr Ffrengig wedi ei dryllio, 5000 am ben y llywydd Ffrengig, a 200 am ben swyddog cyffredin. Dywedir fod hyn wedi ei arwyddo gan bedwar o swyddogion uchaf y dalaeth. Y mae y Llysgenhadwr Prydeinig, yr hwn na thybiai fod y rhagocheliadau yn angenrheidiol yn Foochow, wedi gweled < yn 5 angenrheidiol erbyn hyn i gyhoeddi cylchlythyr yn rhybuddio Prydeinwyr a thramoriaid yn gyffredinol i beidio myned yn agos at y ddinas, gan fod y bobl yn dangos y llidiog- rwydd mwyaf tuag at dramorwyr. Gellir disgwyl newyddion cyffrous mae yn ofnus ymhen ychydig ddyddiau.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. GENEDIGAETHAU Bank—Medi 20, yn Bangor-street, Porthdinorwic, priod Mr. John Bank, oriadurwr, &c., ar ferch. Davies—Medi 16, priod yr Heddgeidwad David Davies, Paris-terrace, Llanon, ar fab. Evans-Medi 22. priod Mr. Thomas Evans, 5, Bodley- street, Walton-lane, Lerpwl. Jones—Medi 11, priod Mr. William Jones, morwr, 9, Chapel-street, Caerfyrddin, ar fab. Owens—Medi 21, priod Mr. Richard D. Owens, Rhos- lan, Lanrug, ger Caernarfon, ar fab. Thomas-Medi 12, priod Mr. Hopkin Thomas, traf- aeliwr, Greenfields, Llanelli, ar ferch. PRIODASAU. Griffiths—Williams—Medi 20fed, yn Eglwys Trefiys, gan y Parch. J. Lloyd Jones, M.A., Mr. John Jones, Bron-y-foel, a. Miss Ellen Griffith, wyres Mr. O. Williams, Porthyr-hir-faen, Trefiys. Jones—Smith—Medi 16, yn yr Eglwys blwyfol, Lacharn, gan y Parch. J. N. Harrison, ficer, Mr. V L. W. Jones, M.R.C.S., L.S.A., St. Clears, a. Frances Emily Maynard (Milly), merch yr Uchgadben S. Lionel Smith, Milton Bank, Lacharn. Lewis-Thorman-Medi 16, yn Eglwys Llanbeblig, gan y Parch. D. J. Lewis, B.A., Mr. Eichard T. Lewis, Lerpwl, a Maggie, merch ieuengaf Mr. W. Thorman, ironmonger, Caernarfon. Owen—Jenkins—Medi 20, yn Eglwys y plwyf, Lanfair- isgaer, gan y Parch. J. Salt, curad, Parch. Robert Owen, B.A., Machynlleth, a. Miss Jenkins, merch Mr. Jenkins, Talbontdrain, Machynlleth. Williams—Ensell—Medi 16, yn Eglwys y plwyf, Aston, Birmingham, Mr. David Jones Williams, mab ieuengaf Mn. David Williams, U.H., Aberystwith, ag Annie Jane, merch ieuengaf Mr. George Ensell, Birmingham. MARWOLAETHAU. Hunter-Medi 13, Mair, anwyl briod Mr. John Hunter, Merthyr, yn 60 mlwydd oed. Jones—Medi 18, yn 75 mlwydd oed, Mr. Griffith Jones, Tanyfynwent, Llan, Llanllechid. Morris-Medi 8fed, Mr. John Morris (Brodor), Rhiw- bryfdir, Blaenau Ffestiniog, yn 68 mlwydd oed. Roberts-Medi 16, Mr. Griffith Roberts, Ty'nyweir- glodd, Penygroes. Rees—Medi 16, yn ei breswylfod, Cambrian-place, Caerfyrddin, Mr. Rees Rees, yn 65 mlwydd oed. Rogers-Medi, 12, yn Quay-street, Caerfyrddin, Elizabeth, priod Mr. John Rogers, yn 43 mlwydd oed. Thomas-Medi 16, yn 3 mlwydd oed, William, ail fab Mr. Robert Thomas, Tyddyn Berth, Llanddeiniolen Williams—Medi 16, yn Bootle, Lerpwl, yn 72 mlwydd oed, Mr. Thomas Williams, gynto 26 a 28, Brunswick- place, Kirkdale, Lerpwl, Williams-Medi 19, Mr. Thomas Williams, Congylwal, Blaenau Ffestiniog, yn 59 mlwydd oed.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Bydd Miss Edwards, merch C. Edwards, Ysw., Dolserau, yn priodi yma ar y 7fed o'r mis nesaf, ar yr hwn achlysur yr anrhegir plant yr ysgolion a the, &c. Bwriedir cael llawer o rialtwch ynglyn a'r digwyddiad hapus.
[No title]
Amlyga newyddiaduron Rwsia gryn foddhad oherwydd penodiad Arglwydd Dufferin yn Raglaw India. Mae yr Henadur W. T. Parker, Trallwm, wedi anrhogu Coleg Gogledd Cymru a. darlun cywir o larll Powys. Deallwn y bydd i'r Monwyson ddathlu priodas Mr. Meyrick, etifedd ystad Bodorgan, Mon, mewn modd teilwng er y 3ydd o'r mis nesaf. Ymddengys nad ydyw y Llyngesydd Oourbet oto wedi ail-ddechreu ar ei waith o ddinystrio porthladdoedi Cliineaidd. Ofna niweidio bywyd- au ac eiddo cenedloedd anmhleidiol. Y mae yn cymeryd llawer o raweidiau o bridd i gladdu y gwirionedd. Agorir Coleg Gogledd Cymru yn Mangor, dydd Sadwrn, Hydref 18fed. Aethpwyd ag 21 o wahangleifion Chineaidd o San Francisco i China yn ddiweddar. Dywed daearegwyr y dihysbyddir holl wytliien- au glo y byd mewn 10,875 o flynyddau. Dywed grwgnachwr fod yna un peth y gellir dod o hyd iddo bob amser, hyny yw, bai. Y mae dyn heb ddim synwyr cyffredin o dan ei gwcwll, yn cydio mewn peth ag y teimlai angel yn swil i ymaflyd ynddo. Y mae sercliowgrwydd yn gwneycl y meddwlyn glirach, yn rhoi ton i'r meddwl, ac yn chwanegu gras a phrydferthwch i'r gwynebpryd. Dywedodd pregethwr lied farwaidd wrth nifer o fechgyn oedd ar yr oriel, am beidio cadw y fath stwr i fyny yno, rhag ofn iddynt ddeffroi eu rhieni oedd ar y llawr. Mae yr achlysur a wna ddyn o ambell un yn gwneyd ffwl o un arall. Y rheswm o hyny ydyw, fod un yn barod i gyfarfod yr achlysur, a'r Hall yn. meddwl ei fod pan nad ydyw. ORDEINIAD GAN ESGOB LLANDAF.—Bwriada Arglwydd Esgob Llandaf gynal gwasanaeth or- deiniol yn Eglwys St. Woolos, Casnewydd, ar yr 21ain o Ragfyr nesaf. Mae deddf yn Sweden i gosbi unrhyw ddyn a feddwa dair gwaith a fforffediad o'i addasrwydd i bleidleisio a llanw unrhyw swydd wladol, ac nis gall neb faddeu iddo ond y goron. Argraphwyd ar hysbysleni arwerthwr o'r Ynys Werdd y geiriau canlynol Bydd pob peth a werthir yn myned i'r un a gynygio fwyaf, oddi- eithr y digwydd i ryw foneddwr gynyg mwy." OLYNYDD ARGLWYDD DUFFERIN.—Olynir Ar- glwydd Dufferin fel llysgenhadwr Prydeinig yn Nghaercystenyn gan Syr Edward Thornton, St. Petersburg, lie yr hwn a lenwir gan Syr Robert Monier. Mae hawl gan bob Mahomedan i bedair o wragedd, a dim ychwaneg. Y Sultan yw yr unig un nad yw yn cael ei gaethiwo gan y rheol hon. Bob blwyddyn ar ben ei flwydd, anrhegir ef a gwraig newydd. Y mae eich llaw-ysgrifen yn wael iawn," ebai boneddwr wrth swyddog cyhoeddus. "Ydyw y mae hi," oedd yr atebiad, ond onid ydych yn gweled pe yr ysgrifenwn yn well, buasai y bobl ZD yn cael allan fy mod i yn sillebwr dychrynllyd o wael." Dydd Gwener diweddaf,! yn Lasham, gerllaw Altona, Hants, oymerodd||dyn o'r enw Ledger ddrachtiad o wlybwr allan o botel y tybiai efe a gynwysai wisci, ond cynwys gwirioneddol yr hon ydoedd carbolic acid. Wrth gwrs, bu farw y truan mewn moment. Dddy Sadwrn diweddaf, yn Llundain, cafwyd un o'r enw Thomas Orrock yn euog o lofruddio yr hedd- geidwacl Cole, yn Dalston, Rhagfyr 1882. Yr oedd y swyddog yn ymdrechu cymeryd y llofrudd i'r ddalfa, tra y ceisiai yr olaf dori i mewn i gapel Methodistaidd. Ccllfarnwyd y carcharor. Boreu Mawrth cyn y diweddaf, priododd Syr Wm. Grenville Williams, Barwnig, Bodelwyddan, sir Fflint, gyda. Miss Hurt Stiwell, merch Mr. Willough- by Hurt Stiwell, Ferry Hall, sir Amwythig, yn ngnapel St. Sior, Hanover-square, Llundain. Dath- 0 lwyd yr amgylchiad hapus gan drigolion Llanelwy, Rhuddlan, a'r cylchoedd. Dysgwch eich galwedigaeth yn drwyadl. Mynwch fod yn drefnus ymhob peth a wnewch ac yr ar- gymerwch ag ef. Peidiwch derbyn gormod o gyng- horion, ond ymddibynwch arnoch eich hunain yn hytrach. Peidiwch byth a methu cadw eich ym- rwymiadau. Byddwch yn garedig mewn meddwl a gweithred-cynorthwywch eraill ar lwybr draenog bywyd. Na wnewch frys i ddyfod yn gyfoethog cofiwch fod enillion bychain gwastad yn rhoi tawel- wch meddwl. Nac esgeuluswch wneyd yr liyn a ellwch, na ohiriwch hyd yfory yr hyn ellir wneyd heddyw, a pheidiwch byth a beichio eraill a'ch hachwyniadau. COLEG ABERYSTWYTH.—Mewn cyfarfod o bwyll- gor y coleguchod, a gynhaliwyd ddydd Gwener, o dan lywyddiaeth Arglwydd Aberdar, penodwyd Mr. D. E. Jones yn ddarlithydd mewn athron- iaeth naturiol, a Mr. J. W. Marshall, B.A., Coleg Balliol, Rhydychain, mewn llenyddiaeth glasurol. Derbyniodd Mr. Jones, diweddar efrynydd yn y coleg, dystysgrifau rhagorol gan Syr Henry Roscoe, Proffeswr Balfour Stewart, Mr. Rudler, a'r Proffeswr Care. Derbyniodd Mr. Marshall dystysgrifau o'r dosbarth uchaf gan y Proffeswyr Jowett, Ramsay, Jebb, ac eraill. SYMUDIADAU LLONGAU MRI. EVAN THOMAS, RAD- CLIFFE A'I GWMNI, CAERDYDD. Gwenllian Thomas," wedi cyraedd Tarragona o Gaerdydd, Medi 13. Iolo Morganwg," wedi cyraedd Vourla o Ancona, Medi 11. Anne Thomas," wedi myned heibio Gibraltar am Amsterdam, Medi 12. Kate Thomas," wedi gadael Caerdydd am Port Said, Medi 9. "Wynnstay," wedi gadael Llun- dain am Casnewydd, Medi 19. Walter Thomas," yn dadlwytho ei llwyth o Azoff yn Antwerp. "Bala," wedi cyraedd Caerdydd, Medi 17, o Hartlepool, ar ol mordaith gyfiym o bum' awr a tliriugain. SAETHU HEDDGEIDWAID.—Yn Llundain ddydd Mawrth diweddaf, cyhuddwyd James Wright, 38, a AVilliam Wheatley, 25, o saethu at yr Hedd- geidwad Chamberlain, yn Islington, yn mis Mehefin, ac at yr Heddgeidwaid Garner a Snell, yn Hoxton, yn mis Gorphenaf, gyda'r bwriad o'u llofruddio. Cyhuddid Wright hefyd o ladrata, a Wheatley o dderbyn eiddo lladratedig. Dygwyd y ddau i fyny mewn amryw lysoedd yn flaenorol, ond cafodd yr achos ei ohirio hyd y tro hwn. Dywedai y ddau nad oeddynt yn euog o'r cylradd- Z, iad cyntaf, ond cyfaddefent yr ail gyhuddiad, sef y lladrad. Mewn atebiad i'r faine, dywedodd Wright mai mewn hunan-amddiflymad y bu iddo I ynl,,tdy saethu yr heddgeidwaid, ac y gallasai saethu llawer iawn ychwaneg o honynt pe buasai ei law- ddryll heb dori. Gwadai Wheatley iddo ddefn- yddio un math o drais ac ysgelerder.—Cafwyd y ddau yn euog, a dedfrydwyd Wright i benyd-was- anaeth am ei oes a Wheatley i ugain mlynedd o benyd-wasanaeth.