Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD.

_----__----------------YR…

ANHAWSDERAU RHYDDID CREFYDDOL.

News
Cite
Share

ANHAWSDERAU RHYDDID CREFYDDOL. SIAKEDIR llawer iawn o ffolineb ynghylch rhyddid crefyddola chydraddoldeb crefyddol. Crochlefir yn uchel yn erbyn pob peth a ystyrir yn drosedd o'r naill a'r llall, a cheisir ein perswadio mae'r peth hawsaf yn y byd yw cael rhyddid a chydraddoldeb perffaith mewn materion crefyddol. Ond yn awr ac yn y man cyfyd anhawsderau, ac agorir llawer llygad i weled nad oedd y darlun tlws a baentiwyd mor ami wedi'r cwbl ond breuddwyd gwag. Dyma fel yr ymddengys i ni, sydd yn myned ymlaen yn awr yn Switzerland. Y mae rhandir Canton yn y wlad hono wedi anfon gorchymyn allan i wahardd i Fyddin yr Iachawdwriaeth gynal eu cyfar- fodydd a'u gorymdeithiau o fewn ei therfyn- au. Rhoddir dau reswm am y gwaharddiad hwn. Un yw nad yw'r heddgeidwaid yn alluog i amddiffyn y Fyddin rhag ymosod- iadau y lliaws, ac nas gellir galw allan y milwyr i orchwyl o'r fath. Yr ail ail reswm yw fod Credo Byddin yr Iachawdwriaeth yn groes i'r hyn a ystyrir gan y bobl yn grefydd." Gwerinlywodraethwyr eithafol yw trigolion Switzerland. Barn y werin yw rheol pob ymddygiad swyddogol. Un ran bwysig o'r Cyfansoddiad yw bod rhyddid i addoli i bawb yn ei drefn ei hun i'w ganiatau drwy y rhandir. Pan y dodwyd y rhan hon i mewn yn y weithred gyfansoddiadol ed- rychai yn ogoneddus, a phrydferth; ac yn ddiau gogoneddus a phrydferth yw rhyddid bob amser, ond ei gadw o fewn terfynau priodol. Heblaw hyny gan fod yr adran i gael ei gosod yn nghadwraeth gwerin-lyw- odraeth i'w chario allan, heb nac ymerawd- wr, na brenhin, na Thy yr Arglwyddi, na Phab, nac Esgob i ymyryd, ni freuddwyd- iwyd y deuai byth unrhyw anhawsder i roddi yr adran mewn gweithrediad. Ond ar ddyfodiad Byddin yr Iachawdwriaeth i'w plith cynhyrfwyd teimladau drwg pobl Berne tuag atynt. Teimlwyd awydd cryf i ymosod ar y Fyddin pa bryd bynag y cyn- halient eu gwasanaeth crefyddol. Ar un- waith troir cefnogwyr rhyddid crefyddol yn erlidwyr, ac y mae yr edrychwyr yn methu a pheidio cydmaru eu hymddygiad i eiddo y Pab o Rufain, yr hwn a geisia wahardd i unrhyw wasanaeth crefyddol ni byddo Babyddol gael ei gynal o fewn muriau y ddinas dragywyddol Nid ydym ni yn myned i gydymdeimlo a Byddin yr Iachawdwriaeth o dan yr erledigaeth hon, nac i golli dagrau dros y cam a dderbyniant. Yr ydym wedi datgan ein barn am y sect newydd drystfawr hon fwy nag unwaith yn y colofnau hyn. Ac nid oes genym air i dynu yn ol. Yr oil a ddymunwn ei wneyd yw tynu sylw at y driniacth a dderbyniant yn awr yn Switzerland fel yn taflu goleuni pruddaidd ar y rhyddid a'r cydraddoldeb crefyddol perffaith ag y gwaeddir am dano gan rai breuddwydwyr. Cofus genym unwaith fyned i dy cyfaill lie yr oedd cerflun pren o arth yn eistedd ar gareg y simdde. Yn ei llaw daliai yr arth faner a'r gair "Rhyddid mewn llythyrenau breision wediei ysgrifenu arno. Gofynasom iddo beth a olygai wrth y fath gerflun. -1 0, ebe yntau, "dyna Gymdeithas Rhyddhad Crefydd. Rhyddid arth yw eu rhyddid hwy rhyddid iddynt hwy wneyd fel y mynont, a dim rhyddid i neb arall." Y mae'r hyn a gymerodd le yn awr yn Switzerland yn gadarnhad nodedig o sylw y cyfaill.

[No title]

NEWYDDION ODDIWRTH Y CADFRIDOG…

BUDDUGOLIAETH Y CADFRIDOG…

RHIWABON.

[No title]

AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER,BYNWYR.

DYFFRYN NANTLLE.

¡MAESTEG,