Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

CYNWYSIAD.

_----__----------------YR…

News
Cite
Share

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. GELLIR dweyd am yr Eisteddfod Genedl- aethol a gynhaliwyd eleni yn Llynlleifiad ei bod yn llwyddiant ymhob ystyr gan belled ag y mae a wnelo a'rcyhoedd. Ei nodwedd mwyaf amlwg er's llawer blwyddyn yw fel moddion adloniant cenedlaethol a chym- deithasiad difyrus ac adeiladol. Cyferfydd lien a lleyg, bonedd a gwreng, plant cerdd ac awen, meibion athrylith a hyawdledd, i gydymbleseru ac edmygu y naill y Hall, ac i fan chwedleua, yn y babell gyhoeddus. Ym- wasgarant i ail ymgynghori yn fan gwmnion i gyfeillachu yn nes mewn cyfarfodydd llai yn yr hwyr, neu yn y cyngherddau. Y mae yma elfen uchel o fwynhad, a chyfleusderau helaeth i eangu cylch cydnabyddiaeth a chyfeillgarwch a'r oil o duedd i ychwanegu diddanwch a dyrchafu. Y mae yn wir y cymer gwehilion pob rhan o gymdeithas gyfleusdra o'r Eisteddfod i gyfeillach ddi- 0 raddiol, ond ceir yr adar hyn yn canlyn cyn- ulliad pobloedd ymhob man ac ar bob achlysur. Fel moddion mwynhad ac ad- loniant bu Eisteddfod Llynlleifiad yn llwyddiant eyflawn. Gwelid arwyddion o fwynhad ar bob gwynebpryd. Ruban Glas yr Eisteddfod hyd eto ydyw yr hen gadair urddasol. Dangosai cynulliad gorlifol dydd Iau fod dyddordeb y genedl yn ymgrynhoi o amgylch yr hen ddefod o gadeirio; ac yr ydym yn llongyfarch y Deheudir, a'r Parch. Evan Rees (Dyfed), yn bersonol, ar ddygiad y gadair genedlaethol i'r rhan hon o'r Dywysogaeth. Yma (yn Merthyr Tydfil) yr enillwyd y gadair olaf o'r blaen, a bardd cadeiriol Llynlleifiad oedd y buddugol y pryd hwnw. Nid wrth eu gorganmol y mae ein hawduron ieuaingc i esgyn i uwchafiaeth barhaus, ond y mae y bardd-bregethwr Dyfed" yn ddigon o feddyliwr i ddeall nad ydyw enill cadair yn ddim mwy nac enill clod, ac enill mantais safle i ddyfod i olwg y byd. Y mae yn wr llednais wrth natur, yn fonedd o foes ac awen, yn sychedu am ddysg, ac iddo i fesur mawr nerth athrylith Eben Fardd a thyner- weh Islwyn. Yr ydym yn dymuno ei longyf- arch yn ylmodd gwresocaf ar ei lwyddiant, ac yn neillduol yn dwyn,iy llawrwyf heibio Pwll Gwepre, cartref Dafydd ab Edmwnt, a chym- oedd Eryri, cyfaneddle y beirdd, i Dyfed a Morganwg. Ond os cafodd y Deheudir ruban glas y gadair, aeth Eryri ag anrhydedd gogyfuwch corddoriaeth leisiol neu gorawl. Enillodd cor Bethesda, dan arweifiiad y Dr. Rogers, y llawrwyf am y drydedd waith ol- ynol, yn Mhowys, Deheubarth, a Llyn- lleifiad; Y mae yn amlwg ddigon fod cer- ddoriaeth yn prysur enill dydd yn y Gogledd. Y mae llwyddiant corau Bethesda a Dyffryn Clwyd, yn gystal a'r Arfoniaid," yn eglur brofi hyn. Saif Eisteddfod Llynlleifiad yn uchel yn ei llwyddianl cerddorot, ac y mae yn sicr o effeithio yn ddaionus er anrhydedd y genedl, a rhoddi ysbardiniad adnewyddiad i'r ymdrechion cerddorol yn mhob rhan o'r Dy wysogaeth. Elfenau pob llwyddiant yw ymarferiad parhaus o dan arweiniad blaen- onaid a chyfarwyddwyr diwylliedig. Nid oes braidd gwmwd nac Eglwys heb gerddor diwylliedig o fewn eu cyrhaedd, ac yn ddigon parod i addysgu yn rhad. Mae yn dda genym weled fod y Cymro- dorion yn dechreu ymgymeryd a rhan ym- arferol o waith yr Eisteddfod. Gallant fawr eangu ei dyddordeb a'i defnyddioldeb. Yr oedd yr ymdrafodaeth ar ■" berthynas rhwng Cymru a Lloegr" yn Llynlleifiad yn ainserol a da. Y mae yn hen bryd i'r Cymry ymddiosg o'u rhagfarn lleoltuag at y Saeson, ac yn fwy na llawn bryd i'r Saeson ddyfod i adnabod Cymru fel y mae, a rhoddi heibio eu syniadau culion, a llawer o'u hymddygiad sarhaus tuag at y genedl. Y mae ysgolheigion y ddwy genedl yn un, a goreu po gyntaf i'rlliaws ddilyn eu hesiampl hwy. Rhaid ni oedi ein sylwadau ar waith y Cymrodorion yn eu perthynas ag addysg elfenol hyd yr wythnos nesaf, gan fod y symudiad o gryn bwys ymarferol. Y fiwyddyn nesaf arncenir cynal yr Eisteddfod yn Aberdar. Y mae gwaith a chyfrifoldeb y pwyllgorau lleol yn fawr ryfeddol, a dis- gwyliwn y cefnogir hwy gan yr holl ardal boblog gylchynol. Mewn oes lie y dygir allan gymaint o elfenau yn ysgaru rhwng plaid a phlaid, a dosbarth a dosbarth, y mae o fawr bwys fod cyfarfodydd o duedd i gyfanu cymdeithas a chreu cyfeillgarwch a theimlad da, yn cael pob cefnogaeth. Y mae yr hen Eisteddfod Genedlaethol gwedi cadw ei safle fel canolbwynt undeb cym- deithasol a chenedlaethol er's llawer oes, a llawer canrif hefyd, a hir y parhao i wasanaethu yr un amcaniondaionus achlod- fawr.

ANHAWSDERAU RHYDDID CREFYDDOL.

[No title]

NEWYDDION ODDIWRTH Y CADFRIDOG…

BUDDUGOLIAETH Y CADFRIDOG…

RHIWABON.

[No title]

AT EIN DOSBARTHWYR A'N DER,BYNWYR.

DYFFRYN NANTLLE.

¡MAESTEG,