Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr.) GWEINIDOGAETH YR EGLWYS YN NGHYMRU. At Olygydd Y Llan." SYR,-Mewn atebiad i lythyr Gwyliwr yn eich rhifyn diweddaf, trwy eich hynawsedd, dy- munaf draethu fy lien ar y pwnc tra phwysig uchod. Ofer ydyw gwadu, a phlentynaidd ydyw celu y ffaith fod yr Eglwys wedl colli ymlyniad a serch cyfangorph mawr ein cenedl. Mae'r rhwyg mor drwyadl a chyflawn, a'r hyn a ddigwyddodd yn Israel yn nyddiau Rehoboam—ac yn debyg o esgor ar ganlyniadau mor alaetlius a'r sism erchyll hwnw oni chyfanir ef mewn pryd. Beth ddarfu nychu yr Eglwys yn Nghymru oddieithr diffyg gallu, zel a duwioldeb yn y weinidogaeth ? Gweini- dogaeth lesg, oer, ddienaid, fydol, annuwiol, rhyw 11 1-1 ganrif yn ol, yr oedd y Cymry ar wasgar fel y 1:1 maent heddyw. Gweinidogaeth rymus, effeithiol yn meddu ar dafodau gwahanedig megis o dan— yn meddu ar allu i lefaru yn hyf a nerthol am ddirgeledigaethau Duw-hon yn unig all gyfanu Cymru ymranedig-a phery i'r gogoniant oedd ar ymadael ddychwelyd atom drachefn. Rhaid cyfaddef nad yw gweinidogaeth yr Eglwys yn Nghymru yn dod i fyny a'r safon oruchel lion. Fe ddywed ein gwrthwynebwyr nad oes gan yr Eglwys Gymraeg gymaint ac un pregethwr gwir fawr. Nid yw yr haeriad yn hollol gywir, ond mae yn nes i'r gwirionedd nac y dymunem o lawer. Gallem ninau haeru a plirofi fod y pwlpud Ymneillduol yn myned yn llai, llai disglaer, ond ein pwnc pwysig ni yw hyn—Pa fodd i sicrhau gweinidog- aeth yn Hen Eglwys ein gwlad all ac a wna ddychwel calon Cymru ati drachefn ? Lie mae'r diffyg? Yn y system. Mae "Gwyliwr" o Fangor, pwy bynag yw, yn llygad ei le. Nid ar beiriant mawr yr Eglwys mae'r bai-ond yn y peirianwyr mae'r diffyg. Mae'r drwg yn cychwyn ar yr aelwyd. Mae yno fachgenyn gwridgoch, pert—canwyll llygad ei fam-mae am ddwyn John bach yn berson-fe dyn bortread beunyddiol iddo o'r ysgol ramadegol, y coleg a'r brif athrofa- y wenwisg, y persondy, a'r living, ond ychydig, ysywaetli, o son am ei roddi i'r Arglwydd fel Samuel-ychydig o weddio am i'r bachgenyn hwn fod yn wir broffwyd i'r Goruchaf i droi calonau y tadau at y plant a'r plant at y tadau—a'i waith mawr fel cenad dros Grist i ddychwelyd pechad- uriaid ato. Mae'r drwg i'w ganfod yn ein cynull- eidfaoedd—mewn mwy na'r haner o eglwysi Cymru nid oes y ddarpariaeth leiaf gogyfer a meithrin talent a dawn ymadroddi ein dynion ieuainc. Nid oes na cliyfarfod cymunwyr na dosbarthiadau Beiblaidd, na moddion eraill o un- rhyw natur i hogi arfau ein milwyr, ie, mewn canoedd o gynulleidfaoedd. Mae'r Eglwys yn Ily tynu ei supply i'r weinidogaeth o blwyfi marw fel hyn, a pha syndod os dynion meirwon a anfonir allan o'r cyfryw blwyfi difywyd. Mae'r drwg hwn yn dringo i'n colegau a'n prif atlirofeydd— nid oes yno ond y nesaf peth i ddim o gyfleusder- au i ddynion ieuainc ymarfer siarad yn gyhoedd- us. Ceir Debating Societies mewn rhai o honvnt, ond prin iawn ydynt. Mae ysgolion a Mission Booms mewn pentrefi o amgylch y dref lie saif y coleg—ond anfynych iawn y clywir son am efrydwyr yn cael eu danfon allan i weinyddu mewn pethau ysbrydol. Rwy'n cofio yn dda i mi dynu gwg penaeth coleg am son am fyned i ysgol- dy ychydig o filldiroedd allan o'r dref i gynal gwasanaeth. Yr oedd yr offeiriad wedi ei daro yn wael—anfonwyd am gymorth genyf fel efrydwr. Cyfeiriais y genad at benaeth yr athrofa. Daeth ataf yn llicliog, a gofynodd, Os ydych yn cyfrif eich hun yn addas i ddarllen gwasanaeth yr Eg- lwys a phregethu cyn cael eich urddo—i ba ddiben y daethoch yma ac i ba dcliben yr ewch o dan ddwylaw yr Esgob ?" Bu bron iawn i mi gyfar- fod a thynged Howell Harries am i mi feiddio son am ddarllen rhan o'r gwasanaeth a phregethu mewn ysgoldy gwledig an-Ilyse-redig I Mae llawer blwyddyn faith er hyny, a phethau wedi newid er gwell—ond mae angen am ddim llai na cliwyldroad trwyadl yn ein peirianwaith colegawl ynglyn a'r weinidogaeth. Mewn plwyfi lie rhoddir pob cyfleusdra cyfreithlon i ddynion ieuainc arfer eu galluoedd ymadroddol ceir anhawsder mawr i argyhoeddi ymofynwyr am urddau o'r pwysig- rwydd o ddysgu llefaru yn y cyhoedd cyn myned i'r weinidogaeth. Dyma'r ateb a glywsom lawer gwaith—" O ni fydd gal wad am ddim o'r fath yn I yn y coleg nac o flaen yr Esgob, cawn arfer hyny yn eiiii curadiaeth gyntat" a druan o honynt, fe ddaw yr adeg iddynt arfer,' agwyddom am lawer un sydd yn arfer' hyd heddyw er poen a nych- dod ei ddyrnaid gwrandawyr. Mae yn dysgu bob amser, ac heb un amser ddod i gyrhaedd medrus- rwydd gyda'i waith. Clod fyth i enw Deon Edwards, beth bynag ddywedwn am dano-fe gychwynodd ddiwygiad mawr yn y path hyn yn Nghaernarfon a Bangor-tnvy osod i lawr y ddeddf fod yn rhaid i bob ymgeisydd am urddau sanctaidd draddodi pregeth fer yn Gymraeg ar un- rhyw destyn a roddidary pryd. Adwaenaf amryw* o offeiriaid ieuainc yn yr Esgobaeth hon sydd a'u clod yn yr Eglwysi fel pregethwyr melus, anwyl, a da, na fuasent yr hyn ydynt heb ddeddf ddi- wyro y Deon Edwards. Bydded i'w olynwyr yn Mangor a'n holl urddasolion Eglwysig wneuthur yr un modd, a rhagori arno os gallant model eich ufuddaf was, D. O. D. Llandinorwig, Medi, 1884. O. Y.- "vVrth ysgrifenu ni fynwn osod fy hun yn farnwr ar fy mrodyr, canys nid wyf ond eiddil a gwan yn eu mysg, eto buaswn yn eiddilach oddi- eithr i mi yn fy ieuenctyd fod wedi dysgu ym- adroddi wrth draed dynion fel yr Esgob Hughes a'r Parch. P. C. Ellis-dynion llawn o zel dduwio] dros yr Eglwys, bob un o'i stand point ei hunan. -D. 0. D.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LERPWL.

Y CYMRY YN NHREFYDD MAWRION.…

[No title]