Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Dydd Iau cyn y diweddaf, bu Mr. Gladstone a chwmni lluosog yn esgyn mynydd uchel yn Ys- gotland, yr hwn sydd oddeutu mil o droedfeddi yn uwch na'r Wyddfa. Er yr holl lafur dywedir nad arddangosodd yr henafgwr urddasol unrhyw ar- wyddion o flinder. Dydd Sadwrn drachefn, dringodd lawer ar lechweddau y mynyddoedd, a dywedir y teimla ei nerth wedi adnewyddu cryn lawer er's pan y mae yn aros yn y parth hwnw o Ysgotland. Nos Sadwrn, rhoddodd Arglwydd Fife ddawnsfa wrth oleu fflamdyrcli. Yr oedd Mr. a Mrs. Gladstone yn bresenol bron yr holl amser, ac arddangosai y Prif Weinidog gryn ddyddordeb yn nawnsfeydd yr U cheldirwyr. Dydd Llun, gadawodd am Haddo House, pres- wylfod Arglwydd ac Arglwyddes Aberdeen, lie yr arosodd hyd ddydd Mercher, ac yn ystod yr amser yna ymwelodd A Chastell Brechin, preswylfod Ar- glwydd ac Arglwyddes Dalhousie. Mae ystadegwyr gwahanol wledydd yn cyhoeddi yn flynyddol yr amcangyfrif cywiraf a allant gael am wir nifer yr hil ddynol ar y ddaear ac er mor ddyrys ydyw y pwnc, nid ydyw yr ystadegwyr yn gwahaniaethu cymaint ag ellid yn naturiol ddis- gwyl. Mae yn anhawdd cael cyfrif perffaith gywir o nifer. pobl gwlad wareiddiedig; ac mewn trefn i sicrhau hyny mor agos i berffeithrwydd ag y mae yn ddichonadwy, gorchymynodd Llywodraeth Lloegr fod y cyfrifiad i gael ei wneyd ar yr un oriau drwy y deyrnas ymhob man. Dyna y ffordd debycaf i sicrhau cywirdeb, o herwydd fod cynifer o bobl yn teithio, ac yn symud o'r naill fan i'r llall ar y rheilffyrdd, ac mewn agerlongau, &c. Profir drwy wahanol gyfrifiadau fod nifer pobl gwledydcl gwareiddiedig yn ddealladwy i raddau o gywirdeb y blynyddoedd hyn. Bodola lawer o ansicrwydd am nifer trigolion China, er fod aw- durdodau yr ymerodraeth yn gosod y nifer o 400,000,000 i 500,000,000 yn yr holl Idiriogaethau dan awdurdod yr ymerodraeth ond y mae aw- durdodau eu crefydd, sef Buddhnsttiaeth, yn rhoddi nifer y boblogaeth yn 371,000,000 ac y mae fystadegwyr Ffrainc, ar ol deng mlynedd o archwiliad i'r pwnc, yn credu nad ydyw y rhifnod uchod yn mhell o fod yn gywir.

GOHEBIAETHAU.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LERPWL.

Y CYMRY YN NHREFYDD MAWRION.…

[No title]